Ryan Bancroft yn arwain Brahms, Mozart & Schumann

Nos Wener 12 Tachwedd 2021, 7.30m

Johannes Brahms
Agorawd Drasig, Op. 81  (13’) 

Wolfgang Amadeus Mozart
Concerto Piano Rhif 21 yn C fwyaf, K467  (26’)

EGWYL: 20 munud

Robert Schumann
Symffoni Rhif 3 yn E feddalnod fwyaf, Op. 97, ‘Rhenish’  (32’) 


Jonathan Biss piano
Nicola Heywood Thomas cyflwynydd

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ryan Bancroft arweinydd

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol yn ‘Radio 3 in Concert’. Bydd ar gael i’w ffrydio neu ei lawrlwytho am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chymysgiadau cerddoriaeth. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.

Rhaglen heno

Croeso cynnes iawn i’r cyngerdd heno, yr ail yma yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, lle mae’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Dechreuwn mewn cywair dramatig iawn, gydag Agorawd Drasig Brahms, gwaith sy’n angerddol o ffyrnig o’r cychwyn cyntaf – disgrifiad addas un ysgrifennwr o’r ddau gord cryf sy’n agor y darn oedd ‘morthwyliadau tynged’.

I dawelu’r dyfroedd cawn Goncerto rhif 21 i’r Piano gan Mozart, darn sy’n gallu bod yn chwareus ei natur yn y symudiadau allanol, o boptu i symudiad araf o harddwch hudolus. Ein hunawdydd heno yw’r pianydd disglair o America, Jonathan Biss.

Ysgrifennwyd Trydydd Symffoni Schumann ar wib aruthrol mewn cwta dau fis yn 1850. Roedd y cyfansoddwr, nid y creadur mwyaf gwastad ei dymer ar y gorau, wedi bod yn dioddef iselder ar ôl symudiad annoeth i Düsseldorf, ond codwyd ei ysbryd yn sylweddol gan ymweliad â Cologne ac mae’r symffoni’n dwyn ysbrydoliaeth uniongyrchol o’r pethau a welodd ac a glywodd yno.  

Diolch am ymuno â ni.

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Johannes Brahms (1833–97)

Agorawd Drasig, Op. 81 (1880) 

Mae ystyr y gair ‘trasig’ wedi newid yn y 140 mlynedd ers i Brahms ysgrifennu ei Agorawd Drasig. Heddiw, gellid disgrifio unrhyw ddigwyddiad trist mawr fel un ‘drasig’, ond yn oes Brahms roedd yn tueddu i gyfleu drama glasurol ddifrifol: drama â’i harwr yn ŵr bonheddig ond amherffaith, ac yn gaeth i’w dynged. Drama emosiynol bwerus, oedd ar yr un pryd yn ddyrchafol ac urddasol ac yn dilyn rheolau ffurfiol sefydledig. Efallai fod gan Brahms galon fawr, ond ni fyddai’n arfer ei gwisgo ar ei lawes – neu o leiaf nid mewn gweithiau cyhoeddus mawr fel hwn. Mae’r Agorawd Drasig yn dywyll, yn rymus, weithiau’n ingol, ond – yn wahanol iawn i Gustav Mahler – dydych chi byth yn teimlo mai ef ei hun o reidrwydd yw arwr trasig dychmygol Brahms.

Mae’r agorawd yn dechrau gyda dau gord uchel llym, ‘morthwyliadau tynged’ yn ôl un sylwedydd. O hynny ymlaen gellir mwynhau’r gerddoriaeth fel darlun symffonig rhesymegol ond angerddol o’r ‘dynged’ honno ar waith. Ceir gwrthgyferbyniadau: rhannau gweledigaethol prudd, ail thema gysurlon gynnes dan arweiniad y feiolinau ac, yng nghalon yr agorawd, math o ymdeithgan ddrychiolaethol araf, yn llawn cysgodion dwfn a gwyll annaearol. Ond mae’r naws cychwynnol o ymdrech drasig yn dychwelyd o hyd, gan adeiladu o’r diwedd at ddiweddglo penderfynol empathig yn y cywair lleiaf. Efallai na wyddwn pwy yw arwr trasig Brahms, ond gallwn yn sicr ddyfalu sut y daw ei hanes i ben.

Rhagor o wybodaeth
Leipzig Gewandhausorchester/ Riccardo Chailly (Decca 4787471)
Master Musicians: Brahms Malcolm MacDonald (OUP)

Wolfgang Amadeus Mozart (1756–91)

Concerto Piano Rhif 21 yn C fwyaf, K467 (1785) 

1 Allegro maestoso (cadenza: Jonathan Biss)
2 Andante 
3 Allegro vivace assai (cadenza: Dinu Lipatti)

Jonathan Biss piano

Ym mis Rhagfyr 1782, dair blynedd cyn iddo gyfansoddi’r concerto hwn, anfonodd Mozart lythyr dadlennol at ei dad. Gan gyfeirio at set o dri choncerto piano (K413–15) yr oedd yn gweithio arnynt ar y pryd, ysgrifennodd: ‘Mae’r concertos hyn yn llwybr canol teg rhwng rhy anodd a rhy hawdd – maen nhw’n wych – yn felys i’r glust – yn naturiol heb fod yn wag; mae ‘na ddarnau yma ac acw na all ond gael eu gwerthfawrogi’n llawn gan arbenigwyr – ond eto bydd y gwrandawyr cyffredin yn cael boddhad oddi wrthynt hefyd, er heb wybod sut.’ Erbyn ysgrifennu’r 21ain Concerto Piano roedd arddull Mozart wedi dod yn fwy soffistigedig fyth, ond wnaeth o byth golli’r gallu hwnnw i ysgrifennu cerddoriaeth yn y fath ffordd fel y gall unrhyw un synhwyro’i chyfrinachau, hyd yn oed os na allan nhw eu hegluro yn nhermau’r gwerslyfrau cerddorol. 

Un o lu sgiliau technegol arbennig Mozart – un sy’n siŵr o fod wrth fodd yr ‘arbenigwyr’ – yw ei allu i ddatblygu (addurno, chwalu ac ail-lunio) ei brif themâu; ond mae’n cymryd gofal mawr i sicrhau eu bod wedi’u plannu’n ddiogel yn ein meddyliau cyn iddo adael ei unawdydd yn rhydd arnynt. (Ym mherfformiadau cyntaf y concertos hyn, Mozart ei hun fuasai’r unawdydd hwnnw.) Cyn i’r pianydd ddod i mewn am y tro cyntaf, mae darn cerddorfaol hir lle cyflwynir y syniadau blaenllaw yn syml ac yn eglur. Cyflwynir y pwysicaf o’r syniadau hyn, a glywir yn dawel ar y llinynnau ar y dechrau, sawl gwaith mewn ffurf agos i’r gwreiddiol cyn i Mozart fynd ati i weithio arno go iawn.

Y symudiad cyntaf yw’r hiraf. Fe’i dilynir gan symudiad araf hardd, hyfryd o delynegol, a’r llinynnau wedi’u mud-dawelu drwy gydol y symudiad. Gallwch adael i hyfrydwch arnofiol alaw agoriadol y feiolinau eich cario yn eich blaen, neu gallwch chwarae’r arbenigwr a chyfrif pob curiad gyda’r gerddoriaeth, a sylwi bod cymalau’r thema hon yn drawiadol o afreolaidd, sy’n ychwanegu at ei heffaith dwysbigol, herciog. Ond yn y pen draw, efallai mai gwell yw ildio i lif synhwyrus y gerddoriaeth a chymryd unrhyw ‘glyfrwch’ yn ganiataol. Rhialtwch pur yw’r diweddglo, yn dwyn i gof yr opera gomig wych Priodas Figaro, y dechreuodd Mozart ei chyfansoddi yr un flwyddyn. O ran ysbryd comedi mewn cerddoriaeth, doedd neb yn gwybod sut i drin y cynhwysion yn well na’r Masterchef Mozart.

Rhagor o wybodaeth
Jonathan Biss; Cerddorfa Siambr Orpheus (Warner Classics 2172702)
Master Musicians: Mozart Julian Rushton (OUP)


EGWYL: 20 munud

Robert Schumann (1810–56)

Symffoni Rhif 3 yn E feddalnod fwyaf, Op. 97, ‘Rhenish’ (1850) 

1 Lebhaft [Bywiog]
2 Scherzo: Sehr mässig [Cymedrol iawn]
3 Nicht schnell [Ddim yn gyflym]
4 Feierlich [Dwys, seremonïol]
5 Lebhaft

Ym mis Mawrth 1850 cynigiwyd swydd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth i Robert Schumann yn ninas Düsseldorf, ar Afon Rhein. Ar y dechrau roedd yn bryderus: roedd ganddo amheuon (digon teg, fel y digwyddodd pethau) am ei alluoedd fel arweinydd, a hefyd am ansawdd cerddorfa’r ddinas. Ond gallai hwyliau Schumann bendilio’n sydyn: ar ymweliad â Cologne, ychydig i fyny’r afon o Düsseldorf, yn ddiweddarach y mis hwnnw, aeth ei ddychymyg yn drên. Cafodd ei gyffroi gan y gadeirlan gothig odidog, a gwnaeth bwynt o ddychwelyd i wylio’r orymdaith fawreddog i gadeirio Archesgob newydd y ddinas. 

Byddai’r hyn a welodd, a glywodd ac a brofodd yn nhiroedd y Rhein yn ddylanwad mawr ar naws a lliwiau Trydydd Symffoni Schumann, a ysgrifennodd yn yr un flwyddyn mewn llai na dau fis. Mae’r teitl ‘Rhenish’ hefyd yn arwydd o’i gydymdeimlad cenedlaetholgar cynyddol – fel y mae ei ddefnydd o farciau tempo Almaeneg yn hytrach na’r Eidaleg traddodiadol. I bobloedd yr Almaen, roedd Afon Rhein wedi bod yn symbol cenedlaethol grymus erioed, rhywbeth a ddeallodd Wagner yn dda iawn pan wnaeth hi’n guddfan y trysor elfennol yn ei opera Das Rheingold. Ond rhaid cofio nad oedd ‘Yr Almaen’ yn bodoli, fel gwlad, yn oes Schumann: yn hytrach ceid ffederasiwn rhyfedd o ddugaethau, tywysogaethau a dinas-wladwriaethau Almaeneg eu hiaith. Breuddwyd gwrach oedd y syniad o un genedl Almaenaidd o hyd, ymhell i ffwrdd o’r arwyddocâd sinistr y byddai’n ei fagu yn yr 20fed ganrif.

Pum symudiad sydd i’r symffoni – nifer anghonfensiynol – ac mae ei thema agoriadol ogoneddus, ymchwyddol heb os yn adlewyrchiad o’r afon fawr ei hun: mae ambell ennyd dawelach, ond mae’r egni ysgubol yn parhau hyd y diwedd. 

Disgrifir y Scherzo sy’n dilyn yn aml fel Ländler – cefnder gwledig y walts drefol soffistigedig – ac yn wir, mae ansawdd gwerinol Almaenaidd hwyliog i’r brif thema. (Mae’r curiad-i-lawr cryf yn awgrymu y gallai fod yn gân rwyfo.) 

Ar ôl hyn daw intermezzo ysgafn, gyda mwy o ddelweddau dyfrol cain: mae llif y llinynnau is yn yr ail thema a’r ffigurau bas rhedeg tua’r diwedd yn awgrymu islifau dwfn, anweledig. 

Wedyn, newidia’r cywair i’r lleddf dwys ar gyfer y pedwerydd symudiad wrth i Schumann gofnodi ei argraffiadau o’r seremoni a welodd yn Eglwys Gadeiriol Cologne. Daw’r tri thrombôn i mewn am y tro cyntaf yn ddwys ogoneddus, gan ddynwared gwrthbwyntiau canu corawl tywyll yr eglwys. 

Daw’r symudiad terfynol yn fyw yn hollol ddirybudd. Mae’r effaith fel camu allan o led-dywyllwch cadeirlan enfawr, sy’n llawn atgofion du am ddioddefaint a marwoldeb, i heulwen lachar tref farchnad fyrlymus yn y Rheindir. Ond yn y diwedd, cerrynt grymus yr afon fawr ei hun sy’n ein cario ni drwodd i’r terfyn.

Nodiadau rhaglen © Stephen Johnson
Mae Stephen Johnson yn awdur llyfrau ar Bruckner, Wagner, Mahler a Shostakovich, ac mae’n cyfrannu’n rheolaidd i ‘BBC Music Magazine’. Am 14 mlynedd bu’n gyflwynydd ‘Discovering Music’ BBC Radio 3. Mae bellach yn gweithio fel awdur llawrydd ac fel cyfansoddwr.

Rhagor o wybodaeth
Dresden Staatskapelle/ Christian Thielemann (Sony Classical 19075943412)
The Cambridge Companion to Schumann gol. Beate Perrey(CUP)

Bywgraffiadau

Ryan Bancroft arweinydd

Lun: Benjamin Ealovega

Lun: Benjamin Ealovega

Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018 pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ym Medi 2019, cyhoeddwyd ei fod wedi ei benodi’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Dechreuodd y rôl hon yn nhymor 2020-21. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf â’r gwaith gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yr Artist Cyswllt o’r tymor hwn ymlaen.

Mae wedi perfformio gyda cherddorfeydd rhyngwladol blaenllaw, gan gynnwys yr Atlanta, y BBC, Cincinnati, Dinas Birmingham, Opera Cenedlaethol Denmarc, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol RAI, Radio Sweden a Cherddorfa Symffoni Toronto, Cerddorfeydd Ffilharmonig Rotterdam a Cherddorfa Opera Genedlaethol Norwy. Mae ei berfformiadau yn y dyfodol yn cynnwys cyngherddau gyda cherddorfeydd Symffoni Baltimore, Gothenburg a Gwlad yr Iâ.

Mae’n frwd dros gerddoriaeth fodern ac mae wedi perfformio gydag Ensemble Nieuw Amsterdam, cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur Incises yn Los Angeles, perfformio gwaith gan Sofia Gubaidulina, Cage, Tenney ac Anne LeBaron ac mae wedi gweithio’n agos gyda byrfyfyrwyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden. Y tymor hwn, bydd yn ymddangos am y tro cyntaf gydag Ensemble Intercontemporain.

Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd


Jonathan Biss piano

Lun: Benjamin Ealovega

Lun: Benjamin Ealovega

Mae Jonathan Biss yn un o’r pianyddion y mae mwyaf o alw am ei wasanaeth yn y byd. Mae’n perfformio’n rheolaidd gyda cherddorfeydd mawr ac mewn neuaddau cyngerdd a gwyliau blaenllaw ledled y byd. Mae’n enwog hefyd fel athro, awdur a meddyliwr cerddorol.

Ymhlith ei brosiectau mawr mae ymchwiliad i arddull hwyr ystod amrywiol o gyfansoddwyr; prosiect perfformio a recordio holl sonatas piano Beethoven, a ddechreuwyd yn 2011 ac a gwblhawyd mewn pryd ar gyfer y pen-blwydd 250 y llynedd; a Beethoven/5, sef comisiynu concertos piano newydd gan Timo Andres, Sally Beamish, Salvatore Sciarrino, Caroline Shaw a Brett Dean i fynd ochr yn ochr â rhai Beethoven. Y tymor hwn mae’n cyflwyno perfformiad Prydeinig cyntaf concerto Brett Dean gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC o dan Sakari Oramo. 

Ymhlith uchafbwyntiau eraill y tymor hwn mae cyngherddau gyda Cherddorfa Siambr Ostrobothnian, Cerddorfa Symffoni Radio Sweden a Cherddorfa Philharmonig Dresden; Schumann gyda Mark Padmore yng Nghanolfan Barbican; cerddoriaeth siambr yng Ngŵyl kamara.hu yn Hwngari; a thaith pedwarawd piano gyda Liza Ferschtman, Malin Broman ac Antoine Lederlin.

Ef oedd yr Americanwr cyntaf i gael ei benodi’n Artist Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3 ac roedd yn un o dderbynwyr cyntaf Gwobr Ymddiriedolaeth Borletti–Buitoni yn 2003; arweiniodd hyn at berthynas hir gyda Mitsuko Uchida, y mae bellach yn Gyd-Gyfarwyddwr Artistig Marlboro Music gydag ef

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae’r gerddorfa yn llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes.

Mae’r gerddorfa’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales. 

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Yn ystod y cyfyngiadau symud diweddar, mae BBC NOW wedi parhau i recordio a ffilmio y tu ôl i ddrysau caeedig yn Neuadd Hoddinott y BBC ac mae wedi cynhyrchu fideos, traciau sain a chyngherddau digidol wythnosol sydd wedi cael eu gweld gan 14 miliwn o bobl ar draws y byd, gan gynnwys fideo hynod boblogaidd o drac sain Doctor Who! Mae’r cynlluniau ar gyfer y gerddorfa’n cynnwys cyngherddau a digwyddiadau sy’n cael eu ffrydio’n fyw, teithiau i wahanol gymunedau ledled Cymru a chynlluniau addysg a datblygu cymunedol i gynnwys pawb yn y gwaith o greu cerddoriaeth. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidil Cyntaf
Lesley Hatfield Blaenwr
Nick Whiting + **Blaenwr Cyswllt
Martin Gwilym-Jones †
Gwenllian Haf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Robert Bird
Kerry Gordon-Smith
Emilie Godden
Anna Cleworth

Ail Ffidil
Anna Smith *
Jane Sinclair #
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Sellena Leony

Fiola
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Ania Leadbeater
James Drummond

Soddgrwth
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Jessica Feaver **
Sandy Bartai
Alistair Howes
Rachel Ford

Bas Dwbl
David Stark *
Ben Burnley
Christopher Wescott
Claire Whitson

Ffliwt
Matthew Featherstone *
John Hall

Piccolo
Lindsey Ellis †

Obo
Suzie Thorn ‡
Penny Smith

Clarinét
Michael Whight ‡
Lenny Sayers + **

Basŵn
Simon Estell ‡
David Buckland

Corn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
William Haskins
John Davy

Utgorn
Philippe Schartz *
Gwyn Owen

Trombôn
Donal Bannister *
Jake Durham

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden † **

Timpani
Steve Barnard *


* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr
Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-rediadau Kevin Myers
Gweinyddwr y Gerddorfa Rhonwen Jones **
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorth-wyydd Darlledu Emily Preston **
Pennaeth Marchnata a Chynulleid-faoedd Sassy Hicks
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +, Caroline Richards **
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey
Rheolwr y Corws a Chydlynydd Allgymorth Osian Rowlands **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications