Cyngerdd Agoriadol y Tymor gyda Ryan Bancroft

Nos Iau, 30 Medi 2021, 7.30pm

Gavin Higgins
Rough Voices  12’ 

Ludwig van Beethoven
Concerto Rhif 4 i’r Piano  34’

INTERVAL: 20 minutes

Jean Sibelius
Symffoni Rhif 2  43’


Eric Lu piano
Nicola Heywood Thomas cyflwynydd

BBC National Orchestra of Wales
Ryan Bancroft arweinydd

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu ar ‘Radio 3 in Concert’ ar 5 Hydref. Mae modd ei ffrydio neu ei lawrlwytho drwy BBC Sounds am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu. Mae BBC Sounds hefyd yn cynnwys podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth i chi. Ewch i bbc.co.uk/now i gael mwy o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.

Rhaglen heno

Croeso cynnes i’r cyngerdd heno, y cyntaf o’n tymor newydd, lle bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ymuno â’i Phrif Arweinydd newydd am y tro cyntaf yma yn Neuadd Dewi Sant
yng Nghaerdydd.

Mae rhaglen anturus nodweddiadol ar gael, sy’n dechrau gyda darn diweddar Gavin Higgins, sef Rough Voices. Cafodd ei gomisiynu ar gyfer Proms y llynedd ac mae’n ymateb dramatig a ffyrnig weithiau i bandemig Covid, sydd wedi’i ysbrydoli gan y bardd Tony Walsh.

Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn meithrin cerddorion arbennig o’r genhedlaeth iau, ac mae’r BBC wedi gwneud hynny ers amser drwy ei gynllun Artistiaid Cenhedlaeth Newydd. Heno, mae Eric Lu, sef y pianydd o America sydd eisoes yn enw adnabyddus er ei fod dal yn ei ugeiniau cynnar, yn perfformio concerto mwyaf hyfryd Beethoven, y Bedwaredd Symffoni. 

Rydyn ni’n cloi gydag Ail Symffoni Sibelius, gwaith sy’n cyfuno cynhesrwydd yr Eidal, lle dechreuodd weithio arni, gyda hyder sy’n dangos y cyfansoddwr a oedd yn barod i dynnu’r genre allan o’r cyfnod Rhamantaidd ac i’r 20fed ganrif.  

Diolch yn fawr am ymuno â ni.

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Gavin Higgins (ganed 1983)

Rough Voices (2020) 

Roedd Rough Voices yn gomisiwn ar gyfer Proms y BBC yn 2020, lle cafodd ei berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (ond yn Neuadd Hoddinott yn hytrach nag yn Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain, oherwydd y pandemig). Fel yr holl gyfansoddwyr a ysgrifennodd darnau newydd ar gyfer tymor y Proms, gofynnwyd i mi ymateb i bandemig Covid-19.

Meddyliais yn hir ac yn ddyfal am effaith yr argyfwng ac roeddwn yn dychwelyd bob amser at y ffaith ei fod wedi cael effaith anghymesur ar bobl mewn tlodi – sydd hefyd yn wir am faterion fel iechyd meddwl, unigrwydd, addysg, tai a diswyddo. Roedd
hyn yn fy ngwneud i’n flin.

Tra oeddwn i’n cyfansoddi’r darn, dois ar draws y gerdd ‘Tough’ gan Tony Walsh (ganwyd yn 1965 a chaiff ei adnabod fel Longfella) – sef cadfloedd i’r dosbarth gweithiol – ac roedd ei eiriau’n ategu’r gerddoriaeth roeddwn i’n ei chyfansoddi:

They don’t like it when we make it despite all their ifs and cuts
They don’t like it when we take it as our right to shake things up
They don’t like it when rough voices start demanding better choices
But it’s tough, we’ve had enough and we are coming

Gan fy mod i’n dod o gefndir dosbarth gweithiol fy hun, rydw i’n gwybod sut gall cerddoriaeth newid bywyd rhywun. Rydw i hefyd yn gwybod, wrth i ni ddod allan o’r pandemig, y bydd mynd i’r afael â chwestiynau am amrywiaeth a dosbarth ym myd cerddoriaeth glasurol yn mynd yn fwy anodd byth. Rhaid i ni barhau i gefnogi a hybu talent dosbarth gweithiol neu fe wnawn ni golli cenhedlaeth o gerddorion gwych yn ddiangen. Felly, galwad i un o’r isddosbarthiadau yw Rough Voices.

Mae’r darn yn dechrau gyda bloedd – o ddicter a rhwystredigaeth – sy’n torri ar draws corâl parhaus a chynhwynol sy’n cael ei chwarae ar y llinynnau. Mae’r torri ar draws yn troi’n orymdaith daer a di-baid sy’n gyrru ymlaen yn ddi-ildio.

Mae’r ‘floedd’ yn dychwelyd ar ddiwedd y gwaith, mewn tôn o ddicter cyfiawn y tro hwn, cyn i’r corâl ailymddangos wedi newid rhywfaint ac yn adleisio curiad rhythmig sy’n flaenllaw drwy lawer o’r darn.

Nodyn i’r rhaglen © Gavin Higgins

Ludwig van Beethoven (1770–1827)

Concerto Rhif 4 i’r Piano yn G fwyaf, Op. 58(1805–6)

1 Allegro moderato 
2 Andante con moto – 
3 Rondo: Vivace

Eric Lu piano

Am gyfnod, roedd y concerto i’r piano yn gyfrwng delfrydol i Beethoven fynegi ei farn am y byd egalitaraidd. Fel cyfansoddwr, gwthiodd y genre i ddimensiynau estynedig
ei weledigaeth greadigol hollgynhwysol. Gwelodd arwyddocâd cymdeithasegol newydd wrth osod un offeryn yn erbyn ensemble cerddorfaol mawr – gan gyflwyno
ei hun fel yr unigolyn (yr unawdydd) a allai ysbrydoli a dylanwadu ar y dorf (y gerddorfa). 

Erbyn iddo ysgrifennu ei Bedwaerydd Concerto i’r Piano yn 1805–6, roedd ei glyw
yn dirywio’n barhaol. Roedd y cyfansoddwr
yn ddigon doeth i ragweld ei anallu i chwarae concerti gyda cherddorfeydd yn gyhoeddus, a’r Bedwaredd Symffoni oedd yr olaf iddo ddychmygu ei hun ar stôl y piano wrth ysgrifennu. Dyna lle’r oedd yn eistedd ar gyfer y perfformiad cyntaf o’r darn mewn cyngerdd epig ar 22 Rhagfyr 1808 yn y Theater an der Wien yn Fienna. 

Os ydym yn edrych ar y concerto hwn fel datganiad olaf Beethoven fel cyfansoddwr-pianydd sy’n perfformio, yna mae’n cynnig darlun trawiadol o’i feddwl ar y pryd. Nid oedd ef (nac unrhyw un arall, am y mater hwnnw) erioed wedi cyfuno’r unawdydd a’r gerddorfa gyda’r naws a gafwyd yma. Mae hyn yn cael ei wneud heb greu gorffwyll gwrthdrawiadol. Yn hytrach, mae’n cyflwyno’r unawdydd fel yr un sy’n dod â llonyddwch a thawelwch i fyd o gynnwrf sylfaenol. Nid yw’r gwaith hwn yn cael ei drysori am ei arwriaeth na’i chwyldro, ond am gydbwysedd a natur ddynol ei syniadau cerddorol. 

Byddai symudiad agoriadol tawel y concerto ar y piano yn unig wedi bod yn feiddgarwch cwbl newydd i gynulleidfaoedd cyfoes. Mae’r cordiau cychwynnol hynny ar y piano’n cael eu dilyn gan ymateb pianissimo gan y gerddorfa mewn allwedd cwbl ddigyswllt. Mae’n ymddangos bod yr agoriad hwn sy’n teimlo’n fyrfyfyr ei natur – a’r defnydd o allweddi a fyddai wedi peri dryswch isymwybodol i gynulleidfaoedd y cyfnod – yn rhoi swyn dros y gwaith cyfan. 

Mae’r syniad o wrthgyferbyniad yn gwreiddio ymhellach yng nghanol y concerto Andante con moto. Mae’r symudiad hwn wedi’i gysylltu â chwedl Orpheus ers tro. Wrth i’r cymeriad hwnnw geisio defnyddio ei delyn fach i ddofi’r bwystfilod gwyllt, mae piano Beethoven yn ymateb i ystumiau cryg y llinynnau unsain gydag alawon dyhuddol siapus (ac sydd bellach wedi’u harmoneiddio) ei hun. Mae’r symudiad yn un broses barhaus o drawsnewid lle mae’r unawdydd yn ennill dylanwad dros y gerddorfa yn raddol. 

Yn y diweddglo, mae Beethoven yn cyflwyno’r trwmpedi a’r timpani wrth i’r concerto daflu ei hun i mewn i allwedd ddigyswllt arall. Mae gan y symudiad hwn balet o hwyliau cymharol fewnblyg sy’n newid yn gyson. Ond rydym yn cyrraedd trobwynt ar y ‘tril trebl’ enfawr, ac ar ôl hynny, mae’r gerddoriaeth yn hyrddio at y diweddglo – sy’n gwrthgyferbynu’n llwyr â’r tawelwch blaenorol. 

Nodyn i’r rhaglen © Andrew Mellor
Mae Andrew Mellor yn newyddiadurwr ac yn feirniad yn Copenhagen, lle mae’n ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd ei lyfr ‘The Northern Silence – Journeys in Nordic Music and Culture’ yn cael ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf (Yale UP).


EGWYL: 20 munud

Jean Sibelius (1865–1957)

Symffoni Rhif 2 yn D fwyaf, Op. 43 (1901–2, rev. 1903)

1 Allegretto
2 Tempo andante, ma rubato
3 Vivacissimo – Lento e soave – 
4 Finale: Allegro moderato 

Pan oedd pethau’n ddrwg i Sibelius yn y Ffindir, byddai’r cyfansoddwr yn aml yn teithio i’r Eidal – gyda’i deulu neu hebddynt. Yn 1901, gyda’i deulu y tro hwn, llwyddodd Sibelius i ddianc rhag gaeaf y Ffindir yn Rapallo, sef tref fach ar arfordir y gorllewin, heb fod yn bell o Genoa. 

Roedd Sibelius wedi benthyg ystafell wedi’i hamgylchynu gan ‘goed magnolia, cypreswydd, gwinwydd, palmwydd ac amrywiaeth eang o flodau’. Yn y lleoliad hwn ym Môr y Canoldir, cafodd ei atgoffa o chwedl Don Juan, a dechreuodd ysgrifennu cerdd symffonig am y merchetwr chwedlonol.  

Er gwaethaf ei amgylchedd hyfryd, roedd Sibelius mewn argyfwng. Roedd ei ferch, Ruth, yn gwella ar ôl salwch peryglus ac roedd taith y Ffindir tuag at ryddid wedi dioddef ergyd arall. Roedd y Rwsiaid wedi dechrau’r broses o ymgorffori byddin y Ffindir yn eu byddin eu hunain, gan niweidio ymreolaeth y Ffindir. 

Yn ôl adref ym mis Mai 1901, aeth Sibelius yn ôl i weithio ar y darn yr oedd wedi’i ddechrau yng nghanol blodau Rapallo – sydd bellach yn symffoni heb naratif, ond sy’n cael ei chwarae yn allwedd D fwyaf. 

Erbyn y gwanwyn canlynol, roedd y symffoni wedi’i gorffen. Perfformiodd Sibelius bedwar perfformiad o’r gwaith yn Helsinki, gan berfformio am y tro cyntaf ar 8 Mawrth. Daeth ei gydweithiwr Robert Kajaneus i’r casgliad bod y gwaith yn gerdd i genedlaetholdeb y Ffindir – emyn cyffrous i ategu’r rhaglen eang o ymwrthedd goddefol. Ond yn ôl Sibelius, roedd casgliad Kajaneus yn anghywir. Mae nodiadau’r cyfansoddwr yn datgelu mwy o frwydrau personol. Cafodd ail thema’r ail symudiad ei hysbrydoli gan adferiad Ruth. Roedd thema mwy galarnadus a thawel y symudiad olaf er cof am Elli Järnefelt, sef chwaer yng nghyfraith Sibelius a oedd wedi cyflawni hunanladdiad yn ddiweddar. 

Mewn termau mwy haniaethol, mae’r
darn yn cyfuno technegau a oedd yn prysur ddod yn fwy amlwg yn arddull Sibelius: ei ddefnydd o batrymau cordeddog a haenog yn y llinynnau, ei hoffter o alawon grisiog a chydlyniaeth gyffredinol ei themâu, sy’n ymwneud yn naturiol â’i gilydd fel pe baent yn isafonydd yr un afon. Rydym yn clywed hynny yn y symudiad agoriadol, sy’n cael ei reoli’n llwyr gan y tri thraw cyfagos a glywir ar y dechrau. 

Clywir gweddillion prosiect Don Juan yng nghanol gwrthdaro’r ail symudiad. Mae Sibelius yn mynd i’r afael â thema a alwodd yn ‘marwolaeth’ (a glywir am y tro cyntaf ar faswnau sy’n chwarae wythawd ar wahân) yn erbyn un a alwodd yn ‘Cristws’ (thema Ruth, sy’n codi o linynnau pigog). 

Mae’r trydydd symudiad yn ddawns stormus sy’n gweithio ei ffordd yn ôl i’r tri nodyn cyfagos a agorodd y darn.

O’r fan hon, mae’r symffoni’n llithro i’w symudiad olaf gydag alaw arwrol mewn harmonïau gofalus i ddechrau ac yna mewn harmonïau gwych a buddugoliaethus. Mae’r alaw, sy’n dechrau unwaith eto o’r tri nodyn cyfagos, yn goleuo cysgodion tywyll thema Elli Járnefelt i awgrymu bod bywyd newydd yn blodeuo.  

Nodyn i’r rhaglen © Andrew Mellor

Biographies

Ryan Bancroft arweinydd

llun: Benjamin Ealovega

llun: Benjamin Ealovega

Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018 pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ym Medi 2019, cyhoeddwyd ei fod wedi ei benodi’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Dechreuodd y rôl hon yn nhymor 2020-21. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf â’r gwaith gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yr Artist Cyswllt o’r tymor hwn ymlaen.

Mae wedi perfformio gyda cherddorfeydd rhyngwladol blaenllaw, gan gynnwys yr Atlanta, y BBC, Cincinnati, Dinas Birmingham, Opera Cenedlaethol Denmarc, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol RAI, Radio Sweden a Cherddorfa Symffoni Toronto, Cerddorfeydd Ffilharmonig Rotterdam a Cherddorfa Opera Genedlaethol Norwy. Mae ei berfformiadau yn y dyfodol yn cynnwys cyngherddau gyda cherddorfeydd Symffoni Baltimore, Gothenburg a Gwlad yr Iâ.

Mae’n frwd dros gerddoriaeth fodern ac mae wedi perfformio gydag Ensemble Nieuw Amsterdam, cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur Incises yn Los Angeles, perfformio gwaith gan Sofia Gubaidulina, Cage, Tenney ac Anne LeBaron ac mae wedi gweithio’n agos gyda byrfyfyrwyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden. Y tymor hwn, bydd yn ymddangos am y tro cyntaf gydag Ensemble Intercontemporain.

Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd.


Eric Lu piano

llun: Benjamin Ealovega

llun: Benjamin Ealovega

Enillodd Eric Lu y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Piano Ryngwladol Leeds yn 2018. Ymddangosodd am y tro cyntaf yng nghyfres Proms y BBC yr haf canlynol ac ar hyn o bryd mae’n aelod o gynllun Artistiaid Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3 ac mae ganddo gontract recordio unigryw. 

Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau gyda cherddorfeydd Ffilharmonig Oslo a St Petersburg, cerddorfeydd symffoni Barcelona, y BBC a Radio’r Ffindir a Tapiola Sinfonietta, yn ogystal â datganiadau yn Neuadd Wigmore, Leipzig Gewandhaus a Cologne Philharmonie. .

Yn ystod y ddau dymor diwethaf, mae wedi perfformio gyda cherddorfeydd Symffoni Detroit a Seattle, cerddorfa ffilharmonig y BBC, cerddorfeydd ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a Stockholm, y Hallé, Cerddorfa Siambr Sweden ac Orchestre National de Lille Mae wedi gweithio gydag arweinwyr fel Mirga Graáinytá-Tyla, Vasily Petrenko, Edward Gardner, Sir Mark Elder, Tomáš Hanus, Alexander Bloch, Thomas Dausgaard, Martin Fröst a Long Yu.

Cafodd ei albwm unigol diweddaraf, sef Chopin a Schumann, ei ryddhau gyda chanmoliaeth arbennig y llynedd.  

Ganwyd ym Massachusetts yn 1997 a daeth yn amlwg yn rhyngwladol am y tro cyntaf fel enillydd gwobr yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Chopin yn 2015 yn 17 oed. Graddiodd yn Sefydliad Cerddoriaeth Curtis, lle bu’n astudio gyda Robert McDonald a Jonathan Biss. Mae hefyd yn ddisgybl i Dang Thai Son. 

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae’r gerddorfa yn llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes.

Mae’r gerddorfa’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales. 

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Yn ystod y cyfyngiadau symud diweddar, mae BBC NOW wedi parhau i recordio a ffilmio y tu ôl i ddrysau caeedig yn Neuadd Hoddinott y BBC ac mae wedi cynhyrchu fideos, traciau sain a chyngherddau digidol wythnosol sydd wedi cael eu gweld gan 14 miliwn o bobl ar draws y byd, gan gynnwys fideo hynod boblogaidd o drac sain Doctor Who! Mae’r cynlluniau ar gyfer y gerddorfa’n cynnwys cyngherddau a digwyddiadau sy’n cael eu ffrydio’n fyw, teithiau i wahanol gymunedau ledled Cymru a chynlluniau addysg a datblygu cymunedol i gynnwys pawb yn y gwaith o greu cerddoriaeth. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidil Cyntaf
Lesley HatfieldBlaenwr
Nick Whiting Blaenwr Cyswllt  
Martin Gwilym-Jones †
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Emilie Godden
Kerry Gordon-Smith
Carmel Barber
Robert Bird
Anna Cleworth

Ail Ffidil
Anna Smith *
Jane Sinclair #
Sheila Smith
Sellena Leony
Katherine Miller
Beverley Wescott
Vickie Ringguth
Michael Topping
Barbara Zdziarska

Fiola
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Laura Sinnerton
Catherine Palmer
James Drummond
Robert Gibbons

Soddgrwth
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford

Bas Dwbl
David Stark *
Ben Burnley
Christopher Wescott
Richard Gibbons

Ffliwt
Matthew Featherstone *
John Halll

Obo

Steve Hudson *

Obo/Cor anglais

Sarah-Jayne Porsmoguer †

Clarinét
Nick Carpenter

Clarinet/Bass Clarinet
Lenny Sayers †

Basŵn
Jarosław Augustyniak *

Basŵn/Isfasŵn
David Buckland †

Corn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
William Haskins
John Davy

Utgorn
Philippe Schartz *
Corey Morris
Andy Everton †

Trombôn
Donal Bannister*
Simon Wills

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden †

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro
Mark Walker

y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †

Piano
Catherine Roe Williams


* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram

Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications