

Rhapsodïau Rhamantaidd
Nos Iau 7/11/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Felix Mendelssohn
Concerto i’r Ffidil yn E leiaf 26’
EGWYL: 20 munud
Anton Bruckner
Symffoni Rhif 4 ‘Rhamantaidd’70’
Jaime Martínarweinydd
Ellinor D’Melon ffidil
Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3, i’w ddarlledu yn y dyfodol ar Classical Live a bydd ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Llun: Kirsten McTernan
Llun: Kirsten McTernan
Croeso i’r cyngerdd heno, lle bydd ein Prif Arweinydd Gwadd, Jaime Martín, yn cyfarwyddo dau gampwaith gwahanol iawn o’r cyfnod Rhamantaidd.
Mae Concerto Mendelssohn i’r Ffidil yn E leiaf yn ddarn sy’n datblygu mewn modd mor ddiymdrech, mae’n hawdd anghofio bod y cyfansoddwr wedi bod yn llafurio drosto am chwe blynedd, ac yntau’n ymwybodol ei fod eisiau creu rhywbeth arloesol o ran ei strwythur cerddorol, ond eto eisiau dal yr harddwch pur a geir yng ngweithiau Mozart. Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Ellinor D’Melon, seren newydd ddisglair ym myd y ffidil, i berfformio’r darn hwn heno.
Roedd Bruckner – cyfansoddwr yr ydym yn dathlu dau gan mlynedd ers ei enedigaeth eleni – hefyd yn ymwybodol ei fod eisiau creu rhywbeth newydd yn y symffoni sy’n dwyn y teitl ‘Rhamantaidd’. Efallai fod y teitl hwn wedi cael ei roi i’r gwaith am ei fod yn ddarn mor ddarluniadol – o alwadau agoriadol y corn, sy’n ein tynnu i mewn i’r olygfa yn y coetir, i ymdeithgan angladdol y symudiad araf. Mae’n symffoni sy’n datblygu ar raddfa sy’n nodweddiadol o Bruckner, gyda’r eiliadau olaf yn rhoi ymdeimlad o orfoledd, sydd hyd yn oed yn fwy pwerus ar ôl gweithio’n galed i gyrraedd y fan hon.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Felix Mendelssohn(1809–47)
Concerto i’r Ffidil yn E leiaf, Op. 64 (1838–44)

1 Allegro molto appassionato –
2 Andante –
3 Allegretto non troppo – Allegro molto vivace
Ellinor D’Melonffidil
Roedd Mendelssohn yn un o’r plant talentog mwyaf rhyfeddol mewn hanes. Gwnaeth ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf ar y piano pan oedd yn naw oed. Erbyn iddo gyrraedd ei arddegau cynnar, roedd eisoes wedi cyfansoddi dwsin o symffonïau llinynnol i’w perfformio yng nghylch cyngherddau preifat Berlin. Yn 1822, pan oedd yn 13 oed, fe gyfansoddodd ei Goncerto cyntaf i’r Ffidil yn D leiaf, a’i gyflwyno i’w athro ffidil a’i gyfaill oes, Eduard Rietz. Nid yw’n glir pryd na ble y cafodd y gwaith ei berfformio am y tro cyntaf, fodd bynnag, oherwydd fe anghofiwyd y llawysgrif ar ôl marwolaeth Mendelssohn ac ni chafodd ei gweld eto nes i Yehudi Menuhin ddod ar ei thraws yn 1951. Hyd yn oed nawr, anaml y bydd y concerto cynnar hwn yn cael sylw ar y llwyfan cyngherddau – ail goncerto Mendelssohn i’r ffidil, a gyfansoddwyd tua 20 mlynedd yn ddiweddarach, sy’n cael yr holl glod.
Byddai’n cymryd tua chwe blynedd i Mendelssohn fireinio a pherffeithio ei Goncerto i’r Ffidil yn E leiaf, a gafodd ei gyhoeddi a’i berfformio am y tro cyntaf yn 1844. I lawer o wrandawyr, dyma ‘unig’ goncerto Mendelssohn i’r ffidil, gan fod ei enwogrwydd a’i boblogrwydd wedi rhagori ar y Concerto yn D leiaf i’r fath raddau. Ond er bod y Concerto yn E leiaf yn amlwg yn waith gan gyfansoddwr llawer mwy aeddfed, sy’n gwyro oddi wrth fodelau Clasurol traddodiadol mewn sawl maes, mae’n syndod cymaint y mae’n dwyn ysbrydoliaeth gan ei ragflaenydd – yn enwedig o ran ei naws Fozartaidd gain a gosgeiddig.
Mae’r ffaith ei bod wedi cymryd cymaint o amser i Mendelssohn gwblhau’r concerto yn rhannol o ganlyniad i’w benderfyniad i gyflwyno nifer o arloesiadau blaengar o ran ffurf. Yr hyn a oedd yn fwyaf arwyddocaol am sut cefnodd y cyfansoddwr ar fodelau blaenorol yn ei Goncerto yn E leiaf, oedd ei fod wedi cysylltu’r tri symudiad mewn un gwaith parhaus. Roedd hyn yn rhyddhau dyluniad tri symudiad caeth y concerto, a byddai’r nodwedd hon yn cael ei dynwared gan lawer o’i olynwyr yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. Er nad oedd penderfyniad Mendelssohn i ysgrifennu ei gadenza ei hun ar gyfer y symudiad cyntaf yn rhywbeth cwbl newydd, daeth yn arfer llawer mwy cyffredin yn y blynyddoedd dilynol. Yn ogystal â hynny, byddai ei benderfyniad anarferol i osod y cadenza cyn yr ailddangosiad yn cael ei gopïo gan bobl fel Sibelius a Tchaikovsky yn eu concerti eu hunain i’r ffidil. Ond efallai mai datblygiad arloesol mwyaf Mendelssohn oedd troi’r rhagarweiniad ar ei ben, fel mai’r unawdydd – yn hytrach na’r gerddorfa – sy’n cyflwyno’r thema agoriadol. Byddai’r newid strwythurol hwn yn braenaru’r tir ar gyfer cyfnod newydd o Ramantiaeth, lle dechreuodd yr artistiaid ganolbwyntio ar fynegi eu hunain, a lle daeth y concerto ei hun yn gyfrwng newydd disglair i arddangos hynny.
Nodyn y rhaglen © Jo Kirkbride
EGWYL: 20 munud
Anton Bruckner(1824–96)
Symffoni Rhif 4 yn E feddalnod fwyaf, ‘Rhamantaidd’(1874–6, diw. 1878/80)

1 Bewegt, nicht zu schnell [Bywiog, heb fod yn rhy gyflym]
2 Andante, quasi Allegretto
3 Scherzo: Bewegt [Bywiog] – Trio: Nicht zu schnell. Keinesfalls schleppend [Ddim yn rhy gyflym. Ond ddim yn llusgo] – Scherzo
4 Finale: Bewegt, doch nicht zu schnell [Bywiog, ond heb fod yn rhy gyflym]
Bruckner sydd biau’r teitl yn sicr, felly ym mha ffordd mae ei Bedwaredd Symffoni yn ‘Rhamantaidd’? Mae ei symffonïau i gyd yn gynnyrch y cyfnod Rhamantaidd, ni waeth pa mor ddyledus ydyn nhw i wrthbwynt Palestrina a Bach, neu i bensaernïaeth yr eglwysi cadeiriol ysblennydd a fu’n noddfa ac yn weithle i Bruckner (a oedd yn organydd gwych a Phabydd selog). Ond i lawer, mae gan y Bedwaredd Symffoni bŵer arbennig i ysgogi teimladau neu ddarluniau yn y meddwl, yn enwedig y mathau sy’n gysylltiedig â chelf a llenyddiaeth Ramantaidd Almaenaidd (neu Awstriaidd-Almaenaidd).
Mae’r agoriad – corn unawdol yn seinio’n dawel drwy’r tremolando tawel disglair ar y llinynnau – yn amlwg yn gerddoriaeth sy’n cyfleu coetir eang, sy’n dwyn i gof glasur cenedlaethol Weber, Der Freischütz, neu adran o’r enw ‘Murmuron y Goedwig’ o Siegfried gan Wagner. Yr hyn mae’r agoriad hwn yn ei ddatgelu hefyd yw hyder newydd Bruckner fel symffonydd. O thema gychwynnol y corn, drwy’r crescendo hir sy’n dilyn, i ddyfodiad yr ail brif thema, fortissimo, ar offerynnau pres trwm, mae’r gerddoriaeth yn llifo yn ei blaen fel afon fawr. Mae thema’r corn yn dychwelyd ddwywaith yn ei ffurf wreiddiol: tua dwy ran o dair o’r ffordd drwy’r darn, wedi’i haddurno’n deimladwy gan y ffliwt; ac ar ddiwedd y symudiad, lle mae’n rhoi gwefr wrth iddi seinio’n groch ar y cyrn.
Mae symudiadau araf Bruckner yn tueddu i fod yn fyfyrdodau dwys a phersain, ond mae’r un yma’n debycach i ymdeithgan angladdol neu orymdaith nosol. Roedd y cyfansoddwr o Loegr, Hugh Wood (1932–2021) wedi ei gymharu’n drawiadol ag un o goedwigoedd mawr Canol Ewrop, lle gellir gweld pellteroedd sylweddol rhwng boncyffion y coed sy’n ymestyn i fyny fry, a chael yr argraff eich bod yn aros yn eich unfan, dim ots pa mor gyflym rydych chi’n symud. Ceir eiliadau o lonyddwch hudolus, lle mae’r chwythbrennau a’r cyrn fel adar yn galw ar ei gilydd o bell. Yn y pen draw, mae’r symudiad hwn yn adeiladu at uchafbwynt godidog yn arddull Wagner, ond mae’r ysblander yn pylu’n fuan, gan adael dim ond y rhythm gorymdeithiol moel ar y timpani gyda brawddegau galarnadus ar y corn, y fiola a’r clarinét.
Rhoddir y llysenw ‘Yr Helfa’ ar y Scherzo weithiau, ond mae rhywbeth cosmig am y gerddoriaeth hon, fel pe bai’r ceffylau’n carlamu drwy’r awyr yn hytrach nag ar y ddaear. Mae’r adran ganolog y Triawd yn wrthgyferbyniad hyfryd: Ländler clyd a gwerinol araf (cefnder gwledig y waltz Fiennaidd soffistigedig). Yna, clywir y Scherzo eto, yn llawn, cyn dechrau ar y symudiad hiraf a mwyaf archwiliadol o’r pedwar, y Finale.
Roedd cyrraedd ffurf olaf y symudiad hwn wedi achosi llawer o drafferth i Bruckner, ac mae tystiolaeth nad oedd yn fodlon hyd yn oed ar ôl iddo gwblhau ei ail ddiwygiad (1880). Ymddengys bod consensws, er bod syniadau gwych yma, bod ambell ran lle mae Bruckner i weld yn colli ei ffordd am ennyd. Ond mae Bruckner yn ceisio gwneud rhywbeth cwbl newydd yma: nid diweddglo clasurol cyflym sydd ganddo, ond rhyw fath o grynhoad enfawr sy’n cyferbynnu arddeliad dramatig ag eiliadau o ansicrwydd neu dawelwch myfyriol. Gwobrwyir amynedd yn y pen draw. Mae’r crescendo hir olaf – sy’n dechrau yn nhywyllwch y cywair lleddf gyda’r thema gyntaf yn seinio’n ysgafn drwy linynnau disglair – yn un o grynoadau symffonig mwyaf cyffrous Bruckner, sy’n gorffen gyda ffrwydrad gogoneddus yn y cywair mwyaf. Rywsut, wrth edrych yn ôl, mae’r cyfan yn gwneud synnwyr.
Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant …
Chwedlau a Chariad
Dydd Sadwrn 11/1/25, 3.00pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Dydd Sul 12/1/25, 3.00pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Janáček Y Llwynoges Fach Gyfrwys – cyfres
Martinů Concerto Rhif 1 i’r Soddgrwth
Stravinsky Petrushka(fersiwn 1947)
Antony Hermus arweinydd
Laura van der Heijden soddgrwth
HUDOLUS | TRAWIADOL | GWERINOL
Dechreuwch ar eich taith gerddorol fis Ionawr gyda’r Llwynoges Fach Gyfrwys, y gomedi drasig eithriadol o boblogaidd gan Janáček. Gydag adrannau pantomeim symffonig byr a bachog, wedi’u sgorio’n ddyfeisgar i roi eu motiff rhythmig eu hunain i bob cymeriad, mae’r gyfres werinol hon yn llawn harmoni toreithiog a naws sy’n frith o natur a chariad.
Bydd y chwaraewr soddgrwth ifanc talentog, Laura van der Heijden, yn dychwelyd at BBC NOW i berfformio Concerto Cyntaf Martinů i’r Soddgrwth – darn bywiog a gwerinol ond eto’n llawn mynegiant – cyn i’r arweinydd Antony Hermus gamu i rôl y pypedfeistr ar gyfer bale Petrushka gan Stravinsky. Yn y bale, mae Petrushka, y gwamalwr gwrthryfelgar, yn syrthio mewn cariad â Balerina, sy’n syrthio mewn cariad â’r Mŵr yn y chwedl werin drasig hon. Yr hyn sydd mor feistrolgar am y darn yw sut mae Stravinsky yn consurio’r pyped yma, gan wneud iddo ddawnsio ac anobeithio – a hynny drwy rythmau a threfniant cerddorfaol dyfeisgar.
Gwychder Gwyllt
Nos Iau 20/3/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Nos Wener 21/3/25, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Grace Williams Penillion
Bruch Concerto Rhif 1 i’r Ffidil
Rachmaninov Symffoni Rhif 3
Tadaaki Otaka arweinydd
Eldbjørg Hemsing ffidil
TANLLYD | ANGERDDOL | GRYMUS
Yn y darn Penillion gan Grace Williams, ceir adlais o ganeuon gwerin â chyfeiliant telyn wrth i alawon lled-fyrfyfyr gael eu plethu â chyfeiliant rhythmig i greu agoriad grymus i’r cyngerdd yma gydag Arweinydd Llawryfog poblogaidd BBC NOW, Tadaaki Otaka.
Cyfunir alaw esgynnol a meistrolaeth andros o anodd yng Nghoncerto Cyntaf angerddol Bruch i’r Ffidil. O dân gwyllt yr unawdydd i gefndir cyfoethog y gerddorfa, does dim rhyfedd bod y concerto hwn yn dal yn ffefryn ymysg unawdwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, ac mae’n bleser gennym groesawu’r meistr ar y ffidil, Eldbjørg Hemsing, yn ei ôl i berfformio’r darn. Yn yr un modd, mae Trydedd Symffoni Rachmaninov hefyd yn ddarn angerddol, gydag uchafbwyntiau trawiadol yn ildio i unawdau dwys, a gorymdeithiau grymus yn troi’n ddathliad taranllyd, a’r cyfan yn seiliedig ar un motiff cerddorol sy’n cael ei drawsnewid a’i ddatblygu’n fedrus drwyddi draw.
Bywgraffiadau
Jaime Martínarweinydd
Paul Marc Mitchell
Paul Marc Mitchell
Jaime Martín, yr arweinydd o Sbaen, yw Prif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Melbourne, Cyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Siambr Los Angeles a Phrif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Bu hefyd yn Brif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Iwerddon (2019-24), yn Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Sbaen (2022–24) ac yn Gyfarwyddwr Artistig a Phrif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Gävle (2013–22).
Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformio am y tro cyntaf gyda Cherddorfeydd Symffoni Dallas ac Indianapolis a Cherddorfa Ffilharmonig Dresden, mynd ar daith o gwmpas y DU gyda Cherddorfa Symffoni Gävle, a’i ymddangosiad cyntaf fel arweinydd ym Mhroms y BBC y llynedd. Y tymor diwethaf, ymddangosodd am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Gŵyl Budapest, a dychwelodd at Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm, Cerddorfeydd Symffoni Castilla y León, Colorado, Galicia a Queensland, a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Cafodd recordiad cyntaf Jaime Martín gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne (caneuon gan Debussy a Richard Strauss gyda Siobhan Stagg) ei ryddhau’n gynharach eleni. Mae wedi recordio concerti Mozart i’r chwythbrennau gyda Cherddorfa Symffoni Llundain, cyfres o recordiadau o weithiau Brahms gyda Cherddorfa Symffoni Gävle, disg o weithiau corawl gyda Chôr Siambr Eric Ericson, ac, yn fwyaf diweddar, gweithiau'r cyfansoddwr o Sweden, Melcher Melchers.
Cyn troi at arwain yn llawn amser yn 2013, roedd Jaime Martín yn brif ffliwtydd y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Siambr Ewrop, Opera Cenedlaethol Lloegr a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain.
Ellinor D’Melonffidil
Ganwyd Ellinor D’Melon yn Jamaica i rieni o Giwba, a dechreuodd ddysgu chwarae’r ffidil pan oedd yn ddwy oed. Heddiw, a hithau ond yn ei hugeiniau cynnar, mae hi’n gwneud argraff ar y byd cerddorol.
Mae hi wedi ennill gwobrau mewn cystadlaethau mawr, gan gynnwys y wobr gyntaf yng Nghystadlaethau Ffidil Rhyngwladol Karol Lipiński , Henryk Wieniawski a Novosibirsk. Mae’n perfformio mwy a mwy gyda cherddorfeydd rhyngwladol blaenllaw, gan gynnwys cerddorfeydd symffoni Gävle a Navarra, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol RTÉ, Cerddorfa Theatr Mariinsky, cerddorfeydd ffilharmonig Galicia, St Petersburg a Sofia, y Moscow Virtuosi ac Orquestra de Cadaqués. Mae hi wedi perfformio mewn neuaddau cyngerdd mawreddog, gan gynnwys y Berlin Philharmonie, Neuadd Gyngerdd Theatr Mariinsky, Awditoriwm Cenedlaethol Madrid, y Royal Concertgebouw, Cologne Philharmonie, Tonhalle Zurich, Sala Verdi Milano, a Neuadd Faltig Gdansk.
Mae ei rhestr o gydweithredwyr yn tyfu, ac yn eu plith mae Zubin Mehta, Vladimir Spivakov, Jaime Martín, Michail Jurowski, James Feddeck a Jan Latham Koenig. Mae ei huchafbwyntiau diweddar a’r rhai sydd ar y gweill yn cynnwys perfformio am y tro cyntaf gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Orquesta Sinfónica del Principado de Asturias, Orquesta Sinfónica de Castilla y León, Orquesta y Coro Nacionales de España a Cherddorfa Symffoni Norrlandsoperan; perfformio ei datganiad cyntaf erioed yn y DU yn Ystafell Elgar yn y Royal Albert Hall; ac ymddangos yng ngwyliau Verbier, Gstaad a Schleswig-Holstein.
Ymhlith ei huchafbwyntiau eraill mae perfformiadau o Goncerto Dwbl Bach ochr yn ochr ag Anne-Sophie Mutter, a chyngerdd siambr gyda Fazil Say yng Ngŵyl Tsinandali. Ers 2011, mae hi wedi astudio yn Ysgol Gerdd Reina Sofia gyda Zakhar Bron, lle bu gynt yn ddeiliad Ysgoloriaeth Sefydliad Albeniz ac Ysgoloriaeth Helena Revoredo. Ymunodd hefyd ag Academi Zakhar Bron yn 2013.
Mae Ellinor D’Melon yn chwarae ffidil Giovanni Baptista Gudagnini o 1743, sydd ar fenthyg yn garedig iawn gan roddwr dienw.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei brosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Children in Need.
Yn eu cartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Martin Gilyn-Jonesis-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Alejandro Trigo
Juan Gonzalez
Anna Cleworth
Žanete Uškāne
Ruth Heney
Amy Fletcher
Zhivko Georgiev
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Will Hillman
Ros Butler
Sheila Smith
Michael Topping
Lydia Caines
Vickie Ringguth
Katherine Miller
Joseph Williams
Gary George-Veale
Laurence Kempton
Fiolâu
Rebecca Jones *
Peter Taylor
Catherine Palmer
Lydia Abell
Laura Sinnerton
Lowri Thomas
Robert Gibbons
Ania Leadbeater
Dáire Roberts
Lucy Theo
Soddgrythau
Joely Koos ‡
Raphael Lang
Sandy Bartai
Rachel Ford
Alistair Howes
Carolyn Hewitt
Keith Hewitt
Kathryn Graham
Basau Dwbl
David Stark *
Alex Jones #
Christopher Wescott
Fabian Galeana
Ruohua Li
Imogen Fernando
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Oboau
James Hulme ‡
Amy McKean †
Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Beth Crouch
Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Laura Vincent
Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Flora Bain
John Davy
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †
Tim Barber
Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas
Jake Durham
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Steve Barnard *
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlleduswydd wag
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy **
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications



