Y Proms yn  … Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Fawrth 9 Medi, 7.30pm–c9.00pm

News image

BohuslavMartinů
Jazz Suite
 11’

John Adams
Symffoni Siambr
 22’

Gavin Higgins
Rough Voices 8’
Comisiwn y BBC: première byd

Samuel Barber
Knoxville: Summer of 1915
 16’

Aaron Copland
Appalachian Spring
 23’


Natalya Romaniw soprano
BBC National Orchestra of Wales

Ryan Bancroft arweinydd

News image

Caiff y cyngerdd ei ddarlledu’n fyw gan BBC Radio 3 a’i ffrydio’n fyw ar BBC iPlayer. Gallwch wrando ar unrhyw un o gyngherddau Proms 2020 ar BBC Sounds neu eu gwylio ar BBC iPlayer tan ddydd Llun 12 Hydref.

Croeso i’r Prom heno

Bydd Ryan Bancroft o Galiffornia yn cymryd rhan yn y Proms am y tro cyntaf erioed, fel Prif Arweinydd Dynodedig Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Cafodd Bancroft ei fagu ar aelwyd oedd yn gwrando mwy ar jazz a prog-rock na cherddoriaeth Bach, felly nid yw’n syndod bod jazz yn rhan o’r rhaglen Americanaidd hon.

Mae Jazz Suite hynod Martinů yn cyd-fynd yn dda â Symffoni Siambr John Adams. Dywedodd Adams fod y byd sain wedi dod yn glir iddo fel cyfansoddwr pan oedd yn astudio Symffoni Siambr Schoenberg yn un ystafell ac fe sylwodd fod ei fab yn gwylio cartwnau yn yr ystafell nesaf. Roedd yn gallu clywed y tebygrwydd rhwng yr arddulliau cwbl wahanol hyn.

Yn ei gomisiwn newydd, Rough Voices, mae’r cyfansoddwr Prydeinig Gavin Higgins yn edrych ar sut mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith anghymesur ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas. Bydd y noson yn cloi gyda dau ddarn poblogaidd o America: Portread hiraethus Barber o noson braf o haf yn Tennessee, a ballet Copland a gafodd ei hysbrydoli gan ymsefydlwyr yn Pennsylvania ddechrau’r 19eg ganrif.

(BBC NOW/Kirsten Mcternan)
News image

Croeso i’r Prom heno

Bydd Ryan Bancroft o Galiffornia yn cymryd rhan yn y Proms am y tro cyntaf erioed, fel Prif Arweinydd Dynodedig Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Cafodd Bancroft ei fagu ar aelwyd oedd yn gwrando mwy ar jazz a prog-rock na cherddoriaeth Bach, felly nid yw’n syndod bod jazz yn rhan o’r rhaglen Americanaidd hon.

Mae Jazz Suite hynod Martinů yn cyd-fynd yn dda â Symffoni Siambr John Adams. Dywedodd Adams fod y byd sain wedi dod yn glir iddo fel cyfansoddwr pan oedd yn astudio Symffoni Siambr Schoenberg yn un ystafell ac fe sylwodd fod ei fab yn gwylio cartwnau yn yr ystafell nesaf. Roedd yn gallu clywed y tebygrwydd rhwng yr arddulliau cwbl wahanol hyn.

Yn ei gomisiwn newydd, Rough Voices, mae’r cyfansoddwr Prydeinig Gavin Higgins yn edrych ar sut mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith anghymesur ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas. Bydd y noson yn cloi gyda dau ddarn poblogaidd o America: Portread hiraethus Barber o noson braf o haf yn Tennessee, a ballet Copland a gafodd ei hysbrydoli gan ymsefydlwyr yn Pennsylvania ddechrau’r 19eg ganrif.

News image
News image

Bohuslav Martinů (1890–1959)

Jazz Suite – ar gyfer cerddorfa fach
(1928)

Y perfformiad cyntaf yn y Proms

News image

1 Prélude
2 Musique d’entr’acte. Blues
3 Musique d’entr’acte. Boston
4 Finale. Allegro

Mae Jazz Suite Martinů yn un o gyfres o weithiau gan y cyfansoddwr Tsiecaidd o ddiwedd y 1920au sydd â’u gwreiddiau’n gadarn mewn jazz, genre a ddisgrifiodd yn 1925 fel ‘ergyd rymus yn erbyn telynegiaeth argraffiadaeth’. Cafodd y gyfres ei chyfansoddi ym Mharis gan fwyaf a chafodd y ddau symudiad cyntaf eu perfformio am y tro cyntaf ar 7 Mehefin 1928 yn Baden-Baden, gyda’r gyfres gyfan yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn honno yn Frankfurt.

Cafodd y sgôr ei ysgrifennu ar gyfer cerddorfa fach sy’n gweddu i ensembles symffonig a jazz, mae’r gyfres yn arbrofi drwy uno’r clasurol a’r poblogaidd. Roedd Martinů wedi bod yn byw ym Mharis ers 1923 ac mae’r cyfansoddwr yn adlewyrchu prif dueddiadau’r ddinas drwy gyfuno eglurder neo-Glasuriaeth gyda dyfais rythmig jazz ar draws pedwar symudiad byr y gyfres.

News image

Paris Fin Nos (Edmond Haraucourt, 1925) – yn cyfleu ysbryd Paris yn yr Oes Jazz, pan gyfansoddodd Milhaud ran o’i Gyfres Jazz (Granger/Bridgeman Images)

Paris Fin Nos (Edmond Haraucourt, 1925) – yn cyfleu ysbryd Paris yn yr Oes Jazz, pan gyfansoddodd Milhaud ran o’i Gyfres Jazz (Granger/Bridgeman Images)

Mae’r arddull yn amrywiol – mae’r gyfres yn cynnwys blues myfyriol a’r diweddglo bywiog sy’n llawn cadenze – yn y pen draw mae’n waith sydd wedi cael ei lunio’n gywrain ac mae’n llawn trawsacennu, harmonïau cymhleth, darnau melodaidd hudol – a chyffyrddiadau o Stravinsky a Milhaud.

Nodyn i’r rhaglen © Sophie Redfern
Mae Sophie Redfern yn ddarlithydd cerddoriaeth ym Mhrifysgol Sheffield, ac mae hi’n Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus yno. Mae hi’n arbenigo mewn cerddoriaeth a dawns Americanaidd o’r ugeinfed ganrif.

John Adams (born 1947)

Symffoni Siambr
(1992)

Y perfformiad cyntaf yn y Proms

1 Mongrel Airs
2 Aria with Walking Bass
3 Roadrunner

Fel ymateb uniongyrchol i Op. 9 Symffoni Siambr 1906 Arnold Schoenberg roedd Symffoni Siambr Adams yn deillio o gyfosodiad cerddorol hynod. Dywed ei hun ei fod yn astudio sgôr Schoenberg yn un ystafell ac iddo glywed cerddoriaeth y cartwnau roedd ei fab yn eu gwylio mewn ystafell arall: ‘Roedd sgoriau prysur, acrobatig a digyfaddawd o ymosodol y cartwnau yn troi a throsi yn fy mhen gyda cherddoriaeth Schoenberg, sydd ei hun yn brysur, yn acrobatig ac yn eithaf ymosodol. Yn sydyn, sylweddolais cymaint oedd yn gyffredin rhwng y ddau draddodiad hyn.’

Dyma’r ysgogiad ar gyfer y tri symudiad rhydd a gafodd eu cyfansoddi rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 1992. Yn llawn grym cinetig rhyfeddol, mae’n gofyn am feistrolaeth lwyr gan ei 15 perfformiwr ac mae grymoedd Schoenberg yn ymestyn i gynnwys y trwmped, y trombôn, cit drymiau, syntheseiddydd (sy’n cael eu defnyddio’n gofiadwy yn y symudiad terfynol, ‘Roadrunner’). Mae pensyfrdandod, anghyseinedd ac arloesedd di-ben-draw yn perthyn i arbrofi Adams yn y symudiadau allanol a’u hanrhefn hoenus, ac mae argoel bygythiol yn perthyn i’r symudiad canol. Mae hyn oll yn esgor ar reid chwareus a chyffrous.

Cafodd y darn ei berfformio am y tro cyntaf  gan Ensemble Schoenberg yn yr Hag ar 17 Ionawr 1993, ac fe gafodd y Symffoni Siambr ei pherfformio am y tro cyntaf yn UDA ar 12 Ebrill, gan y cerddorion y cafodd y darn ei gomisiynu ar eu cyfer, sef y San Francisco Contemporary Chamber Players. Enillodd y darn Wobr y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol am gerddoriaeth siambr i Adams yn 1994.

Nodyn i’r rhaglen © Sophie Redfern

Gavin Higgins (ganwyd 1983)

Rough Voices
(2020)

Comisiwn y BBC: première byd

Fel yr holl gyfansoddwyr sy’n cael eu comisiynu i gyfansoddi darnau newydd ar gyfer tymor y Proms, gofynnwyd i mi ymateb i bandemig Covid-19.

Meddyliais yn hir ac yn ddyfal am effaith yr argyfwng ac roeddwn yn dychwelyd bob amser at y ffaith ei fod wedi cael effaith anghymesur ar bobl mewn tlodi – sydd hefyd yn wir am faterion fel iechyd meddwl, unigrwydd, addysg, tai a diswyddo. Roedd hyn yn fy ngwneud i’n flin.

Tra oeddwn i’n cyfansoddi'r darn, dois ar draws y gerdd ‘Tough’ gan Tony Walsh (ganwyd yn 1965 a chaiff ei adnabod fel Longfella) – sef cadfloedd i’r dosbarth gweithiol – ac roedd ei eiriau’n ategu’r gerddoriaeth roeddwn i’n ei chyfansoddi:

They don’t like it when we make it despite all their ifs and cuts

They don’t like it when we take it as our right to shake things up

They don’t like it when rough voices start demanding better choices

But it’s tough, we’ve had enough and we are coming

Gan fy mod i’n dod o gefndir dosbarth gweithiol fy hun, rydw i’n gwybod sut gall cerddoriaeth newid bywyd rhywun. Rydw i hefyd yn gwybod, wrth i ni ddod allan o’r pandemig, y bydd mynd i'r afael â chwestiynau am amrywiaeth a dosbarth ym myd cerddoriaeth glasurol yn mynd yn fwy anodd byth. Rhaid i ni barhau i gefnogi a hybu talent dosbarth gweithiol neu fe wnawn ni golli cenhedlaeth o gerddorion gwych yn ddiangen. Felly, galwad i uno'r isddosbarthiadau yw Rough Voices.

Mae’r darn yn dechrau gyda bloedd – o ddicter a rhwystredigaeth – sy’n torri ar draws corâl parhaus a chynhwynol sy’n cael ei chwarae ar y llinynnau. Mae’r torri ar draws yn troi’n orymdaith daer a di-baid sy’n gyrru ymlaen yn ddi-ildio.

Mae’r ‘floedd’ yn dychwelyd ar ddiwedd y gwaith, mewn tôn o ddicter cyfiawn y tro hwn, cyn i'r corâl ailymddangos wedi newid rhywfaint ac yn adleisio curiad rhythmig sy’n flaenllaw drwy lawer o’r darn.

Nodyn i'r rhaglen © Gavin Higgins

Samuel Barber (1910–81)

Knoxville: Summer of 1915, Op. 24
(1947; fersiwn gyda cherddorfa siambr, 1949)

Perfformiad cyntaf o'r fersiwn hwn yn y Proms

Mae synnwyr dwfn o hiraeth yn perthyn i ddarn telynegol ac atgofus Barber, Knoxville: Summer of 1915, sef gosodiad o gerdd ryddiaith o 1938 gan yr awdur James Agee. Roedd testun Agee, lle mae’n cofio noson hir o haf a dreuliodd â’i deulu pan oedd yn blentyn yn Knoxville, Tennessee, yn taro tant gyda Barber, a gyfansoddodd y gwaith mewn cyfnod pan oedd ei dad a’i fodryb yn ddifrifol wael. Ni wnaeth yr un o’r ddau fyw i glywed y gwaith. ‘Fe wnaeth y testun fy nghyffwrdd i’, meddai Barber wrth ei ewythr. ‘Roedd yn fy atgoffa i o'r nosweithiau braf o haf yn West Chester, sy’n bell iawn i ffwrdd erbyn hyn, ac rydych chi i gyd ynddo!’

News image

Amser i’r teulu ar y feranda (darlun gan Peter Nahum, tua 1935) – y math o olygfa a bortreadwyd yn ‘Knoxville: Summer of 1915’ gan James Agee, a ysbrydolodd Barber (Peter Nahum/The Leicester Galleries, Llundain)

Amser i’r teulu ar y feranda (darlun gan Peter Nahum, tua 1935) – y math o olygfa a bortreadwyd yn ‘Knoxville: Summer of 1915’ gan James Agee, a ysbrydolodd Barber (Peter Nahum/The Leicester Galleries, Llundain)

Cafodd y perfformiad cyntaf ei gynnal ar 9 Ebrill 1948 gydag Eleanor Steber, a gomisiynodd y gwaith, fel unawdydd, ochr yn ochr â Cherddorfa Symffoni Boston dan arweiniad Serge Koussevitzky. Roedd yn well gan Barber ei hun y fersiwn siambr-siambr mwy personol a gyfansoddodd yn 1949, sef yr un a glywn heno. Caiff y gwaith ei gyflwyno fel un symudiad â gwead trwchus, ac mae naws breuddwydiol a syml i’r darn ar yr wyneb, sy’n cuddio dull soffistigedig Barber. Mae’n cyfleu atgofion plentyndod o flancedi wedi’u gosod mewn iard gefn a ‘chŵyn haearn’ car ar y stryd ac yn dod â'r rhain yn fyw. Yn ei hanfod, yr hyn a geir yma yw myfyrdod dwys oedolyn ar fyrhoedledd profiadau fel hyn, a diniweidrwydd amseroedd a fu. Mae’r cyflwyniad yn nodi bod y darn: ‘er cof am fy nhad’.

Nodyn i’r rhaglen © Sophie Redfern

Aaron Copland (1900–90)

Appalachian Spring – cyfres i 13 offeryn
(1970)

Perfformiad cyntaf o'r fersiwn hwn yn y Proms

Cafodd y ballet Appalachian Spring ei berfformio am y tro cyntaf ar 30 Hydref 1944 yn lleoliad clyd Awditoriwm Coolidge yn Llyfrgell y Gyngres, Washington DC. Hwn oedd yr unig gydweithrediad rhwng Aaron Copland a’r arloeswraig dawns fodern, Martha Graham. Mae’r ballet wedi’i osod yn nhalaith Pennsylvania yn y 19eg ganrif ac mae’n portreadu diwrnod priodas cwpl ifanc sy’n archwilio eu dyheadau a’u hofnau wrth ddechrau bywyd newydd gyda’i gilydd.  Byddai’n waith diffiniol i’r rheini oedd yn ymwneud â chelfyddyd Americanaidd yr 20fed ganrif ac o’i blaid.

Enillodd Copland Wobr Pulitzer am ei sgôr, sy’n dyner ac yn ddathliadol ar yr un pryd. Mae’r darn yn cynnwys llawer o’r elfennau oedd yn nodweddiadol yn ei gerddoriaeth rhwng y 1930au a’r 1950au – harmonïau agored a llydan, bywiogrwydd rhythmig, symlrwydd twyllodrus, a naws Americanaidd neilltuol. Mae hefyd yn adnabyddus am gynnwys amrywiadau ar alaw’r Siglwyr, ‘Simple Gifts’ (sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel ‘Lord of the Dance’).

Daeth Copland ar draws yr alaw mewn antholeg ac roedd wedi dotio at sut mai bwriad y darn oedd dawnsio iddo a’i fod yn cyfleu uniondeb ysbryd, er bu’n gwamalu am hyd a lled ei ymchwil yn nes ymlaen:  ‘Wnes i ddim sylwi bod dim Siglwyr wedi ymsefydlu yng nghefn gwlad Pennsylvania erioed!’ Sgoriodd Copland y ballet ar gyfer 13 offeryn yn wreiddiol, cyn creu cyfres wyth symudiad i gerddorfa yn 1945; yn 1970, cafodd y fersiwn 13 offeryn o'r gyfres a glywn heno ei berfformio am y tro cyntaf.

Nodyn i’r rhaglen © Sophie Redfern

Bywgraffiadau

Ryan Bancroftarweinydd
Artist sy’n Perfformio yn y Proms am y Tro Cyntaf

News image

Ryan Bancroft (Benjamin Ealovega)

Ryan Bancroft (Benjamin Ealovega)

Ganwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles ac fe astudiodd y trwmped, y delyn, y ffliwt, y soddgrwth a cherddoriaeth a dawnsfeydd Ghana, cyn astudio arwain yn yr Alban a’r Iseldiroedd. Daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018, pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yn y MalköCompetition yn Copenhagen. Ef yw Prif Arweinydd Dynodedig Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a bydd yn camu i'r rôl ym mis Medi. O fis Medi 2021 ymlaen, bydd yn Artist Cyswllt gyda’r Tapiola Sinfonietta yn y Ffindir.

Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformio am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Ffilharmonig Stockholm, Cerddorfa Symffoni RAI, Torino, Cerddorfa Symffoni'r BBC, Cerddorfa Ffilharmonig Luxembourg, a cherddorfeydd Symffoni Malmö a Stavanger.

Mae’n frwd dros gerddoriaeth newydd ac mae wedi perfformio gyda Nieuw Ensemble Amsterdam, cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i waith Sur Incises yn Los Angeles, ac arwain premières nifer o weithiau newydd.

Mae’r ymrwymiadau sydd ganddo ar y gweill yn cynnwys perfformio am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban, cerddorfeydd Symffoni Atlanta a Dinas Birmingham, Cerddorfa Ffilharmonig yr Iseldiroedd, Cerddorfa’r Ganolfan Gelfyddydau Genedlaethol, Ottawa, cerddorfeydd Siambr Munich a Sweden, a Cherddorfa’r Ganolfan Celfyddydau Perfformio, Beijing.

Natalya Romaniw soprano

News image

Natalya Romaniw (Patrick Allen)

Natalya Romaniw (Patrick Allen)

Astudiodd y soprano o Gymru, Natalya Romaniw, yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall yn Llundain – lle dyfarnwyd y Fedal Aur iddi – ac yn y Stiwdio’r Houston Grand Opera. Roedd yn rownd derfynol Gwobr y Gân yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009, ac fe enillodd Wobr Kathleen Ferrier yn 2012, yn ogystal ag ennill gwobr yng Nghystadleuaeth Eleanor McCollum yn yr Houston Grand Opera.

Mae hi wedi canu rhannau Mimì (La bohéme) ar gyfer Opera Cenedlaethol Lloegr, Mařenka (Y Briodferch a Brynwyd) a Tatyana (Eugene Onegin) ar gyfer Opera Garsington, y brif ran yn Jenůfa gydag Opera Grange Park, a’r brif ran yn Iolanta ar gyfer Opera Holland Park.

Y tymor hwn, perfformiodd ran Cio-Cio San (Madam Butterfly) am y tro cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Lloegr, yn ogystal â'r prif rannau yn Tosca ac Iris gydag Opera’r Alban. Mae ei hymrwymiadau nodedig eraill yn cynnwys ymddangos gydag Opera Cenedlaethol Denmarc, Aarhus, a’r Theatr Genedlaethol yn Brno, Czechia.

Rhyddhaodd ei disg gyntaf o ddatganiadau gyda’r pianydd Lada Valesova yn ddiweddar, sy’n cynnwys cerddoriaeth gan Dvořák, Janáček, Novák a Rachmaninov, ac mae wedi cael derbyniad da.

Mae ei hymrwymiadau sydd ganddi ar y gweill ar gyfer y tymor nesaf a thu hwnt yn cynnwys rhan Alice Ford (Falstaff) ar gyfer Gŵyl Grange, dychwelyd at Opera Cenedlaethol Lloegr, a pherfformio'r brif ran yn Rusalka ar gyfer opera Garsington.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW) wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. 

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, y Deyrnas Unedig a'r byd. Mae’r gerddorfa yn llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru, ac yn hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. 

Mae’r gerddorfa’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales. 

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau. 

Mae BBC NOW yn berfformiwr arloesol, ac yn 2019 bu’n perfformio yng nghyngerdd cyntaf erioed ‘Playlist Clasurol: Yn Fyw’, sy’n cynnig ffordd arall i gynulleidfaoedd fwynhau cerddoriaeth glasurol mewn awyrgylch fwy hamddenol. Mae’r gerddorfa’n bwriadu ehangu ei gwaith i wneud cerddoriaeth gerddorfaol yn berthnasol ac yn bleserus i bawb. 

Ym mis Ionawr 2020, ymunodd Lisa Tregale â’r gerddorfa fel cyfarwyddwraig, a hi yw’r gyfarwyddwraig gyntaf yn hanes y gerddorfa. O fis Medi 2020 ymlaen, bydd Ryan Bancroft yn ymuno â BBC NOW fel Prif Arweinydd, a’r digwyddiad Proms a fydd yn cael ei ffrydio’n fyw o Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd fydd ei dasg swyddogol gyntaf a’i ymddangosiad cyntaf yn y Proms – a’r Prom cyntaf o Gymru!

Ffidil Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting
Ail Ffidil
Anna Smith
Jane Sinclair
Fiola
Rebecca Jones
Alex Thorndike
Soddgrwth
Alice Neary
Keith Hewitt
Bas Dwbl
David Stark
Ffliwt
Matthew Featherstone
Piccolo
Lindsey Ellis
Obo
Steven Hudson
Cor Anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer
Clarinét
Nick Carpenter
Lenny Sayers
Clarinét E meddalnod
Nick Carpenter
Clarinét Bas
Lenny Sayers
Basŵn
Jarosław Augustyniak
Isfasŵn
David Buckland
Corn
Tim Thorpe
Meilyr Hughes
Trwmped
Philippe Schartz
Robert Samuel
Trombôn
Donal Bannister
Dafydd Thomas
Tiwba
Daniel Trodden
Offerynnau Taro
Phil Girling
Phil Hughes
y Delyn’
Valerie Aldrich-Smith
Piano
Catherine Roe Williams
Allweddel
Siwan Rhys

Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r perfformiad heno

I gael manylion llawn cyngherddau a darllediadau Proms y BBC 2020, ewch i www.bbc.co.uk/proms


Cynhyrchwyd y rhaglen ar-lein gan Gyhoeddiadau Proms y BBC

News image