BBC NOW – NOW!

Nos Wener 26/1/24, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Gavin Higgins
Sarabande Comisiwn gan y BBC:première byd tua 6’

Tan Dun
Three Muses in Video Game première DU 22’

EGWYL: 20 munud

Anna Whitcombe
And the Skies Became Vermillion 6’

Ross Edwards
Chorale and Ecstatic Dance première DU12’

Syr James MacMillan
Her tears fell with the dews at even première DU12’

Jordan de Souzaarweinydd
Jrgen van Rijen trombôn

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y rhaglenni Afternoon Concert a New Music Show yn y dyfodol

Cyflwyniad

Croeso i’r cyngerdd heno sy’n dathlu cerddoriaeth gyfoes, dan arweiniad Jordan de Souza, yr arweinydd ifanc cyffrous o Ganada, sy’n perfformio am y tro cyntaf gyda BBC NOW.

Rydyn ni’n dechrau gyda Sarabande gan Gavin Higgins, Cyfansoddwr Cyswllt BBC NOW, lle mae’n dwyn ysbrydoliaeth gan hanes hir y ddawns, ond mae’n rhoi ei stamp ei hun ar yr holl ddarn gyda’i hylifedd rhythmig a’i liwiau newidiol.

Mae Tan Dun yn dod â’r hynafol a’r cyfoes at ei gilydd yn ei ffordd anarferol nodweddiadol yn ei ddarn Three Muses in Video Game, a ysbrydolwyd gan ddawn gerddorol y trombonydd y mae’r darn wedi ei ysgrifennu ar ei gyfer, sef Jörgen van Rijen. Mae pob symudiad wedi ei ysbrydoli gan offeryn Tsieineaidd hynafol, ond mae’r cyfansoddwr yn ychwanegu at hyn ei ddehongliad ei hun o gerddoriaeth gemau fideo, a’i gyfnewidioldeb cyson. Cafodd Anna Whitcombe ei hysbrydoliaeth yn nes at adref ar gyfer y darn And the Skies Became Vermillion: ar daith gerdded ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro.

Mae digon o gyferbyniad rhwng y ddau ddarn yn Chorale and Ecstatic Dance gan Ross Edwards o Awstralia, sy’n amrywio o’r myfyriol i’r dathliadol. I gloi, mae Syr James MacMillan yn cynnig myfyrdod ar alar yn Her tears fell with the dews at even, sydd wedi ei ysbrydoli gan eiriau Alfred, Lord Tennyson.

Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Gavin Higgins (ganed 1983)

Sarabande(2020–22)

Comisiwn gan y BBC: première byd

Dawns Sbaenaidd gyflym a nwydus oedd y saraband yn wreiddiol. Roedd yn cael ei hystyried yn waradwyddus ac fe gafodd hyd yn oed ei gwahardd yn Sbaen yn 1538. Cafodd ei harafu yn ddiweddarach a’i chynnwys mewn cyfresi dawns Baróc. Mae’r saraband rydyn ni’n ei hadnabod erbyn hyn yn ddawns araf, orymdeithiol a bonheddig mewn ffurf ddwyran (AB) a mesur triphlyg sy’n dechrau heb guriad i fyny, ac fe’i gwelir yn aml yng nghanol y gyfres, neu wedi ei hamgylchynu gan courantes a gigues bywiog.

Yn gyffredinol, mae fy Sarabande i mewn amser triphlyg – er bod fy null o ymdrin â’i strwythur rhythmig yn llawer mwy hyblyg. Nid yw’n dechrau ar guriad i fyny – mewn gwirionedd, mae’r curiad i lawr yn symud yn gynnil drwy gydol y darn; ac mae’r darn ar ffurf ddwyran yn fras, er fy mod yn ychwanegu coda byr ar y diwedd.

Mae’r rhan gyntaf yn cynnwys yr adran linynnol yn bennaf – gyda mudyddion ac yn chwarae’n dolce espressivo. Clywir prif thema’r darn yn y barrau agoriadol: motiff syml sy’n esgyn chweched mwyaf ac yna’n symud drydydd lleiaf i lawr (D–B feddalnod–G).

Yn yr ail ran, ceir cyfres o unawdau chwythbrennau blodeuog – picolo, obo, ffliwt, clarinét, cor anglais ac, yn olaf, basŵn a chlarinét bas – sy’n adeiladu at uchafbwynt llesmeiriol ar gyfer cerddorfa lawn, gyda thafodi dwbl ‘mor gyflym â phosibl’ ar yr offerynnau pres.

Daw’r darn i ben gyda choda byr lle mae’r deunydd o’r agoriad yn dychwelyd – yn ddim ond cysgod o’r barrau agoriadol – mewn harmonigau ar y delyn y tro hwn, gyda’r llinynnau’n cael eu chwarae col legnotratto, ‘hanner gyda’r pren a hanner gyda’r rhawn’.

Mewn sawl ffordd, dydy fy Sarabande i ddim yn saraband o gwbl, ond yn hytrach mae’n ymateb i’r paramedrau strwythurol a nodir uchod. Ynddi, rwyf wedi ceisio cyfleu natur urddasol y fersiwn Baróc o’r ddawns, ond hefyd – efallai – rywfaint o angerdd a chwant ei ffurf wreiddiol.

Nodyn y rhaglen © Gavin Higgins

Tan Dun (ganed 1957)

Three Muses in Video Game (2021)

première DU

1 Muse of Bili
2 Muse of Xiqin
3 Muse of Sheng

Jörgen van Rijen trombôn

Mae’r hynafol a’r rhyfeddol o fodern wedi cyd-fyw’n bryfoclyd ochr yn ochr ers tro yng ngherddoriaeth Tan Dun, y cyfansoddwr mwyaf dawnus ac amlwg o Tsieina sy’n ysgrifennu cerddoriaeth heddiw. Mae Tan, a fagwyd yn Hunan ac sydd bellach yn byw yn Efrog Newydd, wedi cael ei ysbrydoli’n helaeth gan gerddoriaeth a defodau ei wlad enedigol sy’n filoedd o flynyddoedd oed. Mae wedi defnyddio hynny ar draws ei weithiau niferus ar gyfer y neuadd gyngerdd a’r tŷ opera, gan ddod ag offerynnau traddodiadol Tsieineaidd a Gorllewinol ynghyd, yn ogystal â chyfansoddi concerti ar gyfer yr hyn y mae’n ei alw’n ‘offerynnau organig’ – sef papur, dŵr, cerrig a serameg. Fodd bynnag, mae ei holl gyfeiriadau hanesyddol wedi eu gwreiddio mewn iaith gerddorol mor gyfoethog a chymhleth fel na allai ond berthyn i gyfansoddwr o’r 21ain ganrif.

Ysgrifennodd Tan Dun Three Muses in Video Game yn 2021, yn benodol ar gyfer y trombonydd o’r Iseldiroedd, Jörgen van Rijen (yr unawdydd heno). Roedd ei chwarae a’i bersonoliaeth wedi ysbrydoli Tan Dun ar ôl sawl cyfarfyddiad yn yr Iseldiroedd a Shanghai. Yn y darn, daw ei ysbrydoliaeth hanesyddol gan dri offeryn Tsieineaidd hynafol, a welodd wedi eu darlunio ymhlith y cerfiadau carreg cywrain yn Ogofâu Mogao yn Dunhuang, gogledd Tsieina. Mae’r bili yn offeryn cyrs ychydig yn debyg i obo; mae’r xiqin yn rhagflaenydd i offeryn Tsieineaidd mwy adnabyddus, yr erhu, sef ffidil â dau dant sy’n cael ei chwarae’n fertigol fel soddgrwth; ac mae’r sheng yn gasgliad cain o bibellau fertigol sy’n ffurfio math o organ geg, sy’n cynhyrchu harmonïau disglair unigryw. Mae pob un o’r offerynnau hyn yn ‘awen’ ar gyfer un o symudiadau’r concerto, ac mae Tan yn ymgorffori eu personoliaethau cerddorol unigryw yn ei ysgrifennu ar gyfer y trombôn unawdol a’r gerddorfa.

Er mwyn cyferbynnu’n llwyr, fodd bynnag, mae Tan Dun yn gosod yr ysbrydoliaethau hynafol hyn mewn cyd-destun cwbl gyfredol: cerddoriaeth gemau fideo. Dywedodd ei fod wedi cael ei ysbrydoli’n arbennig gan rôl ganolog technoleg yn ystod pandemig Covid-19 o ran cysylltu pobl ac – wrth gwrs – eu difyrru hefyd. Does dim bwriad i bortreadu gêm benodol, fodd bynnag. Yn hytrach, roedd gan y cyfansoddwr ddiddordeb mewn cerddoriaeth gemau a’i ailadroddiadau pwerus, ei ystumiau a’i liwiau llachar, a sut mae’n neidio o un awyrgylch neu gyfeiriad i’r llall yn igam-ogam. Mae’n efelychu hyn yn offeryniaeth foethus y concerto, gydag offerynnau taro disglair yn dyrnu.

Y drymiau Tsieineaidd taranllyd sy’n sbarduno’r unawdydd ar ddechrau’r symudiad agoriadol, ac mae rhythm yn gyrru’r symudiad hyd at ei ddiweddglo annisgwyl o fyfyriol, gyda llithriadau mynegiannol y trombonydd yn cyfleu arddull chwarae unigryw’r bili, sy’n debyg i’r obo. Ar ôl yr ail symudiad arafach, sydd wedi ei ysbrydoli gan y xiqin, mae trombonau cerddorfaol yn llafarganu harmonïau dwys (a ysbrydolwyd gan harmonïau organ geg y sheng) i lansio’r diweddglo defodol, sy’n datblygu fel cyfres o uchafbwyntiau nes iddo gyrraedd ei ddiweddglo di-flewyn-ar-dafod.

Nodyn y rhaglen © David Kettle

EGWYL: 20 munud

Anna Whitcombe

And the Skies Became Vermillion (2023)

Mae And the Skies Became Vermillion yn ddarn sydd wedi ei ysbrydoli gan daith gerdded ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro wrth i’r haul fachlud.

Wrth i’r darn fynd rhagddo, mae’r agoriad oer â’i wead ysgafn yn ildio i liwiau cynhesach a gweadau dwysach – dyma fy ymgais i efelychu’r awyr yn newid lliw o las i loywgoch, neu fermiliwn. 

Mae’r darn yn cynnwys offeryniaeth ysgafn, gyda darnau alawol bach wedi eu gwasgaru drwy’r cyfan i ddynodi’r newidiadau mewn gweadau.

Nodyn y rhaglen © Anna Whitcombe

Ross Edwards (ganed 1943)

Chorale and Ecstatic Dance (1993, diw. 1995)

première DU

Mae Ross Edwards yn un o leisiau cerddorol mwyaf adnabyddus ac unigryw Awstralia, gyda gyrfa sydd wedi rhychwantu bron i chwe degawd. Dathlodd ei ben-blwydd yn 80 oed y llynedd, ac fe gynhaliwyd perfformiadau o’i gerddoriaeth ledled Awstralia a gweddill y byd i nodi’r achlysur.

Mae Chorale and Ecstatic Dance yn rhan o gyfres o weithiau a oedd yn dwyn y teitl Enyāto yn wreiddiol. Yn ôl Edwards, mae ‘enyāto’ yn syml yn golygu ‘gwrthgyferbyniad’, yn aml rhwng arddull gysegredig fyfyriol, fewnblyg y cyfansoddwr a’i arddull allblyg ar ffurf dawns-siant maninya. Chorale and Ecstatic Dance (Enyāto I) oedd y cyntaf yn y gyfres Enyāto, a chomisiwn i bedwarawd llinynnol ydoedd i ddechrau – ar gyfer Pedwarawd Balaescu yn 1993. Cyhoeddwyd fersiwn ar gyfer cerddorfa lawn ym 1995 (hon a glywn heddiw). Comisiynwyd hon ar gyfer taith Cerddorfa Symffoni Sydney o amgylch Ewrop y flwyddyn honno, dan arweiniad Edo de Waart. Cafodd trydedd fersiwn ei chreu ar gyfer cerddorfa linynnol yn ddiweddarach.

Mae cerddoriaeth Chorale and Ecstatic Dance yn cyflwyno arwyneb sy’n ddeniadol i’r gwrandawyr ar unwaith. Mae’r Chorale yn ddarn syml, moel sy’n seiliedig ar ddrôn, lle mae moddau eglwysig Ewropeaidd canoloesol yn cael eu cyfosod â lliwiau De Ddwyrain Asia. Mae’r harmoni’n aros yn weddol statig, gyda’r rhan fwyaf o’r gweithgarwch harmonig wedi ei gyfyngu i’r adran ganol. Mae’r amlinellau melodaidd yn adleisio plaensiant a cherddoriaeth linynnol gynnar ond, yn hytrach nag awgrymu ymdeimlad Gorllewinol o bolyffoni, mae’r haenau hyn yn tueddu i gydfodoli’n bwyllog a chroesi ar draws ei gilydd. Mae’r effaith gyffredinol yn ddefodol a myfyriol.

Dechreuodd yr Ecstatic Dance fel deuawd ffliwt a gyfrannwyd gan Edwards yn 1979 at arlant o sgorau poced gan gyfansoddwyr o Awstralia i ddathlu pen-blwydd Peter Sculthorpe yn 50 oed. Roedd Sculthorpe yn un o athrawon a mentoriaid cynharaf Edwards ac fe gafodd ei ysbrydoli’n helaeth gan gerddoriaeth draddodiadol Bali a Japan, gan gynnwys eu defnydd o raddfeydd pentatonig. Adlewyrchir hyn yn yr Ecstatic Dance drwyddi draw, lle mae Edwards yn cyfuno moddau pentatonig â thrawsrhythmau.

Mae gan Ecstatic Dance arwyddocâd arbennig i Edwards gan mai dyma lle’r ymddangosodd ei arddull maninya am y tro cyntaf – sef gwrthgyferbyniad allblyg i’r gerddoriaeth fyfyriol yr oedd wedi bod yn ei hysgrifennu drwy gydol y 1970au. Mae’r darn disglair a melodaidd taer hwn, sy’n addas ar gyfer ei swyddogaeth wreiddiol – sef dathlu, wedi dod yn un o gyfansoddiadau mwyaf poblogaidd y cyfansoddwr ac mae sawl fersiwn ohono wedi eu creu ar gyfer ensembles a deuawdau offerynnol, gan gynnwys yr un gerddorfaol a glywir heno.

Nodyn y rhaglen © Bernard Rofe

Syr James MacMillan (ganed 1959)

Her tears fell with the dews at even(2020)

première DU

Mae teitl y darn cerddorfaol un symudiad hwn yn giplun barddonol o ‘Mariana’, cerdd fawr gyntaf Alfred, Lord Tennyson, a gyhoeddwyd yn 1830. Mae’r llond llaw o eiriau yma’n crynhoi eiliad o alar sy’n sail i’r gerddoriaeth gofleidiol – sy’n ddistylliad estynedig o’r emosiwn penodol hwn. Mae’r gwaith yn dechrau gyda chyfres o gordiau ynysig byr ond dwys ar y basau dwbl, y chwythbrennau, y ffidlau, y soddgrythau, y fiolâu ac offerynnau eraill, cyn i ffliwt unawdol gymryd drosodd gydag alaw foddol fynegiannol a hynod addurniadol.

A dweud y gwir, y ffliwt unawdol yw’r elfen bwysicaf yn y darn hwn, ac mae’n gyfrifol am lawer o graidd thematig ac emosiynol y gwaith. Mae offerynnau unawdol eraill yn dod i’r amlwg yn raddol fel gwrthbwyntiau wrth i’r gerddoriaeth arwain at ffrwydrad anterthol: mae’r holl offerynnau pres yn chwarae deunydd tu hwnt o allblyg, sydd wedi ei farcio â’r cyfarwyddyd ‘yn groch, fel ffanffer hynafol’.

Mae’r llinynnau wedyn yn cymryd drosodd gyda llinellau heteroffonig cymhleth, wedi eu hatalnodi gan gordiau meddal yn yr offerynnau pres a roulades byrlymus ar y chwythbrennau. Daw’r ffocws yn ôl ar y ffliwt yn ôl mewn amrywiad newydd o’r deunydd, gyda chyffyrddiadau ysgafn tebyg i gerddoriaeth siambr ledled y gerddorfa y tro hwn. Mae tonnau o arpeggi llinynnol yn arwain y gerddoriaeth at ei phrif uchafbwynt, mewn ffigur galarnadus a ailadroddir ar yr offerynnau pres a’r chwythbrennau, gydag atganau meistrolgar i’r ffliwt yn unig yn tarfu arnynt.

Mae hyn yn ymlonyddu i goda dwys a mewnblyg ar gyfer y ffliwt i gyfeiliant soddgrythau, cyn i’r cordiau curiadol agoriadol ddychwelyd, wrth i’r gerddoriaeth ddod i ddiweddglo tawel a gostyngedig.

Nodyn y rhaglen © James MacMillan

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant ... 

Cyfuniadau Gwerinol – Japan a Dwyrain Ewrop

Nos Sadwrn 24/2/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Takemitsu Three Film Scores
Kikuko Kanai Okinawa Fantasy Suite première DU
Liszt Concerto i’r Piano Rhif 2
Dvořák The Wood Dove

Nodoka Okisawa arweinydd
Iyad Sughayer piano

TRAWIADOL | CLODFORUS | YSBRYDOLEDIG

Mewn rhaglen sydd wedi ei hysbrydoli gan gerddoriaeth werin, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r arweinydd o Japan, Nodoka Okisawa, i’r podiwm. Daw arddulliau jazz a blues wyneb yn wyneb â cherddoriaeth angladdol a waltz anarferol o bruddglwyfus ond siriol yng ngwaith cerddor arall o Japan, 3 Film Scores gan Tōru Takemitsu. Gan ddatblygu ei llais cyfansoddi unigryw ei hun, Kikuko Kanai oedd un o’r merched cyntaf yn Japan i gyfansoddi cerddoriaeth glasurol Orllewinol, gan gadw ei threftadaeth gerddorol o Okinawa. A hithau’n ymroddedig i drawsgrifio caneuon gwerin, defnyddiodd y rhain fel sail ar gyfer ei gweithiau ei hun, gan gynnwys ei Chyfres Ffantasi Okinawa.

Yn enwog yn yr un modd am ddefnyddio cerddoriaeth werin frodorol yn ei weithiau, roedd Franz Liszt nid yn unig yn gyfansoddwr dylanwadol, ond hefyd yn bianydd cyngerdd penigamp, felly does dim rhyfedd bod ei goncertos i’r piano ymysg ei ddarnau a berfformir amlaf heddiw. Gyda rhamantiaeth hynod, alawon trawsnewidiol a cadenzas tanllyd, daw ei ail goncerto yn fyw dan ofal y pianydd Iorddonaidd-Palesteinaidd sydd wedi ennill sawl gwobr, Iyad Sughayer. Mae plwc cynhenid Tsiecaidd, teitlau rhaglennol ffansi a’i gariad at faledau gwerin Karel Erben yn disgleirio yn The Wood Dove gan Dvořák, gyda’i offeryniaeth ddramatig ac atgofus yn troi’n alawon trawsnewidiol. Daw’r goleuni i gwrdd â’r cysgodion, galar i gwrdd â chariad, a darnau corawl i gwrdd â dawnsfeydd – yn syml iawn, adrodd straeon symffonig ar ei orau.

Llwch Sêr ac Eneidiau

FFRWD FYW

Nos Iau 18/4/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Alexander Campkin Sounds of Stardust première byd
Dani Howard Gwaith Newydd: Concerto i Offerynnau Taro première byd
Poulenc Stabat mater

Sofi Jeannin arweinydd
Y Fonesig Evelyn Glennie offerynnau taro
Julieth Lozano soprano
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

ARALLFYDOL | ATMOSFFERIG | DIRGEL

Gyda dau bremière byd ac un o berlau’r repertoire corawl, mae’n bleser gennym groesawu’r arweinydd dihafal Sofi Jeannin yn ôl ochr yn ochr â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, y Fonesig Evelyn Glennie ac enillydd Gwobr Cynulleidfa Canwr y Byd Caerdydd, Julieth Lozano, am noson o archwilio a darganfod cerddorol.

Ond yn gyntaf, première byd gan Alexander Campkin a’i Sounds of Stardust. Bydd y Fonesig Evelyn Glennie, yr offerynnwr taro o fri, yn camu i’r llwyfan i berfformio concerto newydd Dani Howard i offerynnau taro am y tro cyntaf, cyn i ni ddathlu campwaith lleisiol Poulenc 60 mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Wedi’i ysgrifennu mewn ymateb i farwolaeth ei gyfaill agos, yr artist Christian Bérard, mae Stabat mater yn cwmpasu’r tywyll a’r golau – cynrychiolaeth wirioneddol o Gatholigiaeth ddidwyll y cyfansoddwr, ond hefyd ei ffraethineb a’i gymeriad bywiog.

Ychydig o Ganu Nosweithiol

Nos Iau 16/5/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Fauré Pelléas et Mélisande – cyfres
Stephen McNeff The Celestial Stranger première byd
Schoenberg Verklärte Nacht (fersiwn 1943)

Joana Carneiro arweinydd
Gavan Ring tenor

CHWYLDROADOL | ANGERDDOL | GOLEUOL

Mae goleuadau nefolaidd, pefriol yn disgleirio yn y noson hon o gerddoriaeth arloesol. Mae cyfres Fauré o Pelléas et Mélisande yn agor mewn arddull sionc ond cythryblus – Lleoliad cerddorol cyntaf drama Maurice Maeterlinck o’r un enw, a fyddai’n ysbrydoli cyfansoddwyr enwog eraill fel Debussy, Sibelius a Schoenberg.

Rydyn ni’n symud i uchelfannau mwy etheraidd gyda’r perfformiad cyntaf erioed o The Celestial Stranger gan Stephen McNeff. Yna, 150 mlynedd ers i Schoenberg gael ei eni, byddwn yn dathlu’r cyfansoddwr radical hwn gyda pherfformiad o Verklärte Nacht, gwaith cynnar a enillodd glod am y tro cyntaf i ddyn a fyddai’n newid cwrs hanes cerddoriaeth drwy greu cerddoriaeth ddodecaffonig, sy’n fwy adnabyddus fel cyfresiaeth. I arwain BBC NOW am y tro cyntaf, byddwn yn croesawu'r arweinydd hyfryd o Bortiwgal, Joana Carneiro.

Bywgraffiadau

Jordan de Souzaarweinydd

Bydd Jordan de Souza, yr arweinydd o Ganada, yn camu i’w rôl fel Cyfarwyddwr Cerdd Cyffredinol Theatr Dortmund a Phrif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Dortmund ym mis Awst 2025.

Y tymor hwn, mae’n dychwelyd at y Canadian Opera ar gyfer La bohème, at Opéra de Montréal ar gyfer La traviata ac at Gerddorfa’r Philharmonia ar gyfer cyngerdd yn y Royal Festival Hall. Bydd hefyd yn perfformio am y tro cyntaf gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol ac Opera Santa Fe, gan arwain y perfformiad cyntaf erioed o The Righteous gan Gregory Spears. Yn nes ymlaen, bydd yn dychwelyd at Chicago Lyric Opera, Deutsche Oper Berlin a Gŵyl Glyndebourne.

Mae ei uchafbwyntiau yn ei wlad enedigol, Canada, wedi cynnwys cyngherddau gyda cherddorfeydd Symffoni Montreal a Vancouver a Cherddorfa Canolfan Gelfyddydau Genedlaethol Ottawa. Mae hefyd wedi ymddangos yng Ngŵyl Gerdd Grant Park yn Chicago ac wedi arwain Trystan ac Esyllt gyda’r Seattle Opera a Rigoletto gyda’r Houston Grand Opera.

Yn Ewrop, mae ei ymrwymiadau operatig wedi cynnwys Y Ffliwt Hudol gydag Opera Talaith Bafaria ac Opera Köln; Carmen gydag Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd; The Flying Dutchman gyda Nationaltheater Mannheim; a La périchole yn Theater an der Wien. Bu hefyd yn arwain La bohéme yn Glyndebourne, ac yn arwain am y tro cyntaf erioed yn yr Eidal gydag Orchestra della Toscana, yn perfformio rhaglen o weithiau Brahms a Mendelssohn.

Fe’i ganed yn Toronto ac astudiodd arwain ym Mhrifysgol McGill, Montreal. Ar ôl graddio ymunodd â chyfadran McGill (2011–15), lle bu’n arwain gweithiau corawl cysegredig mawr gan J. S. Bach, Fauré, Mozart a Verdi. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd hefyd yn Arweinydd Preswyl gyda’r Tapestry Opera yn Toronto. Yna symudodd i Ewrop i ymuno â staff Komische Oper Berlin, lle’r arhosodd tan 2020. Tra bu yno, bu’n cydweithio â’r cyfarwyddwr Barrie Kosky ar gynyrchiadau newydd clodfawr o Frühlingsstürme gan Weinberger, Pelleas a Melisande, La bohéme a Candide.


Jörgen van Rijentrombôn

Marco Borggreve

Marco Borggreve

Mae galw mawr am Jörgen van Rijen fel unawdydd sy’n cael ei edmygu am ei ymrwymiad i hyrwyddo ei offeryn, am ddatblygu repertoire newydd ac am gyflwyno’r repertoire sy’n bodoli eisoes i gynulleidfa ehangach. Mae’n arbenigwr ar y trombôn modern a’r trombôn Baróc. Mae wedi perfformio fel unawdydd yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop, yn ogystal â’r Unol Daleithiau, Canada, Japan, Tsieina, Korea, Rwsia, Singapore ac Awstralia. Mae wedi chwarae concerti gyda cherddorfeydd blaenllaw, gan gynnwys Cerddorfa’r Royal Concertgebouw (lle mae’n brif drombonydd), cerddorfeydd Ffilharmonig Tsiecia, Nagoya, Rotterdam a Taiwan, Cerddorfa Symffoni BBC yr Alban, Cerddorfa Symffoni Fetropolitan Tokyo a Cherddorfeydd Symffoni Antwerp a Dallas, ac Orchestre de la Suisse Romande.

Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformiadau cyntaf o’r Concerto i’r Trombôn (2020) gan Bryce Dessner a Three Muses in Video Game (2021) gan Tan Dun.

Ymhlith ei wobrau niferus mae Gwobr Cerddoriaeth yr Iseldiroedd, a enillodd yn 2004, a Gwobr Ymddiriedolaeth Borletti-Buitoni, a enillodd ddwy flynedd yn ddiweddarach. Mae hefyd wedi ennill y wobr gyntaf yng nghystadlaethau trombôn rhyngwladol Toulon a Guebweather.

Mae’r darnau newydd niferus a ysgrifennwyd ar ei gyfer yn cynnwys concerti i’r trombôn gan Kalevi Aho, Syr James MacMillan a Theo Verbey, a gweithiau gan Nico Muhly a Tan Dun.

Yn ystod y tymhorau sydd i ddod, bydd yn ymddangos fel unawdydd gyda Cherddorfa’r Royal Concertgebouw, Cerddorfa Ffilharmonig Hong Kong, Philharmonie du Luxembourg, Orchestre National de France a Cherddorfa Symffoni Toronto, ymysg eraill.

Mae Jörgen van Rijen yn addysgu yn y Conservatorium van Amsterdam ac mae wedi cael ei benodi’n Athro Gwadd Rhyngwladol yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Mae hefyd yn gerddor siambr brwd mewn ensembles fel y New Trombone Collective, RCO Brass, a Brass United.

Mae Jörgen van Rijen wedi rhyddhau pum albwm, gan gynnwys Fratres gydag aelodau o Gerddorfa’r Royal Concertgebouw, y perfformiodd â hi yn ddiweddar yng Ngŵyl Bach yn Dordrecht. Mae’n chwarae offerynnau wedi eu gwneud gan Antoine Courtois yn unig.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn cael cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.

Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau ac yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.

I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now 

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Fiona McCapra
Terry Porteus
Suzanne Casey
Ruth Heney
June Lee
Rebecca Totterdell
Carmel Barber
Anna Cleworth
Gary George-Veale
Amy Fletcher
Zhivko Georgiev

Ail Ffidlau
Peter Campbell-Kelly ‡
Sheila Smith
Joseph Williams
Michael Topping
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines
Beverley Wescott
Ilze Abola
Katherine Miller
Vickie Ringguth
Jane Sinclair
Elizabeth Whittam

Fiolâu
Max Mandel ‡
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Lydia Abell
Catherine Palmer
Robert Gibbons
Lowri Thomas
Charlotte Limb
Lucy Theo

Soddgrythau
Jessica Burroughs ‡
Raphael Lang
Sandy Bartai
Rachel Ford
Alistair Howes
Keith Hewitt
Carolyn Hewitt
Kathryn Graham

Basau Dwbl
Alexander Jones #
Christopher Wescott
Richard English
Antonia Bakewell
Matt Clarkson
Thea Sayer
Richard Gibbons 
Mike Chaffin

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
James Hulme ‡
Vanessa Howells
Amy McKean †

Cor anglais
Amy McKean

Clarinetau
Nick Carpenter *
Isaac Prince
Lenny Sayers

Clarinet Bas
Lenny Sayers †

Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Jamie King 
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Tom Findlay
John Davy

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Will Morley

Trombonau
Donal Bannister *
Jake Durham

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Aled Meredith-Barrett

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro 
Phil Girling *
Phil Hughes
Rhydian Griffiths
Harry Lovell-Jones
Andrea Porter

Y Delyn
Kathryn Rees

Piano
Catherine Roe Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Katie Axelsen(yn llenwi dros gyfnod tadolaeth)
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentis BBC Cymru Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications