Prynhawn Llundain – Grace Williams, Vaughan Williams & Britten

Dydd Mercher 3 Tachwedd 2021, 2.00pm

Benjamin Britten  
Preliwd A Ffiwg, Op. 29 9’  

Grace Williams 
Concerto i’r Ffidil 21’  

EGWYL: 20 munud

Ralph Vaughan Williams   
Symffoni Rhif 5 39’ 


Madeleine Mitchell ffidil

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Jamie Phillips arweinydd

Mae’r cyngerdd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Radio 3 ac yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar BBC Radio Cymru yn y dyfodol. Ar ôl hynny, bydd ar gael i’w ffrydio neu i’w lawrlwytho am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a cherddoriaeth amrywiol. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.

Cyflwyniad

Croeso cynnes i Neuadd Hoddinott y BBC heddiw ar gyfer cyngerdd o gerddoriaeth Brydeinig dan arweiniad Jamie Phillips.

Cafodd y tri darn o waith ar y rhaglen eu hysgrifennu o fewn blwyddyn neu ddwy i’w gilydd. Roedd Preliwd a Ffiwg Britten yn anrheg i Gerddorfa Linynnol Boyd Neel ar achlysur ei phen-blwydd yn 10 oed, gyda’r cyfansoddwr yn fedrus iawn yn ystyriol o’r prinder offerynwyr adeg y rhyfel ym Mhrydain, wrth iddo gynllunio’r darn ar gyfer 18 o chwaraewyr llinynnau meistrolgar. 

Mae Concerto i’r Ffidil Grace Williams (1950) yn archwilio posibiliadau telynegol yr offeryn unigol; mae unawdydd heddiw, Madeleine Mitchell, yn eiriolwr brwd dros gerddoriaeth Williams, ac wedi recordio disg o’i darnau siambr yn y gorffennol.

Mae Pumed Symffoni Vaughan Williams, a gwblhawyd flwyddyn ar ôl y Concerto i’r Ffidil rydym newydd ei glywed, yn waith hynod ddwfn a hyfryd. 

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Benjamin Britten (1913–76)

Preliwd A Ffiwg, Op. 29 (1943)  

Ysgrifennodd Britten ei breliwd a ffiwg fel darn newydd byr i ddathlu 10fed pen-blwydd Cerddorfa Linynnol Boyd Neel, a rhoddodd y grŵp premiere i’r gwaith yn Neuadd Wigmore yn Llundain ar 23 Mehefin 1943.

Gydag erchyllterau’r Ail Ryfel Byd o’u cwmpas o hyd, roedd yn anochel y byddai offerynwyr Boyd Neel yn brin – ond llwyddwyd i gynnull 18 ar gyfer y cyngerdd arbennig, ac yn ôl ei arfer fe wnaeth Britten y gorau o’r sefyllfa drwy ysgrifennu rhannau ar gyfer pob perfformiwr a oedd ar gael!

Mae’r Preliwd yn agor gydag ebychiad angerddol yn y llinynnau uchaf ac yn ehangu i alaw huawdl ond cythryblus nad oedd yn awgrymu unrhyw ymdeimlad o ddathliad achlysurol. 

Mae’r Ffiwg yn llawn lleisiau unigol niferus lle mae’r holl gyfranogwyr unigol yn cael cyfle i serennu. Mae gan y gerddoriaeth hon ymdeimlad go iawn o orfoledd ac o ddal yn dynn yng nghanol y cyffro. Mae’r egni hwn yn cael ei dorri’n sydyn i ganiatáu i’r agoriad ddychwelyd yn fyfyriol cyn gorffen ar nodyn buddugoliaethus.

Nodyn y rhaglen © Geraint Lewis

Gwrando Pellach: Cerddorfa Siambr Norwy/Iona Brown (Simax PSC1111)
Darllen Pellach:
Benjamin Britten: A Life in the Twentieth Century Paul Kildea (Penguin)

Grace Williams (1906–77)

Concerto I’r Ffidil (1950) 

1 Liricamente
2 Andante sostenuto –   
3 Allegro con spirito

Madeleine Mitchell ffidil

Cafodd Concerto Grace Williams i’r Ffidil ei berfformio am y tro cyntaf ar 30 Mawrth 1950 gan y feiolinydd o Gymru, Granville Jones a Cherddorfa Gymreig y BBC (a ddaeth yn BBC NOW yn ddiweddarach), dan arweiniad Mansel Thomas. Cafodd y cyngerdd ei ddarlledu’n fyw ar Wasanaeth Cartref Cymru’r BBC. 

Roedd Williams wedi ei lleoli yn Llundain yn ystod y rhyfel ond yn 1947 penderfynodd ddychwelyd adref i’r Barri. Ymgymerodd â nifer o wahanol swyddi cerddorol, ac yn 1949 hi oedd y cyfansoddwr benywaidd cyntaf o Brydain i ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer ffilm nodwedd pan gyfansoddodd y sgôr ar gyfer Blue Scar.   

Yn yr un flwyddyn, dywedodd Williams wrth ei ffrind Enid Parry ei bod yn dyheu am gyfansoddi Concerto i’r Ffidil fel cyfrwng ar gyfer y ‘delynegiaeth a oedd wedi bod yn cronni’ o’i mewn yn ystod y misoedd blaenorol. Yr ysgogiad pwerus hwnnw a lywiodd y darn. Yn wahanol i’r patrwm symudiadau cyflym-isel-cyflym arferol, mae ei choncerto yn agor gyda symudiad araf, sy’n cael ei ddilyn gan symudiad araf canolog a diweddglo cyflym. 

Mae’r symudiad agoriadol ar ffurf rhapsodi estynedig. Mae cyfnodau o ddwysedd hiraethus – gan gynnwys cadenza’r unawdydd – ond yr edau delynegol sydd drechaf.  

Mae’r Andante sostenuto yn dawel a myfyriol. Defnyddir cymal o’r emyn dôn Gymreig Hen Dderby fel man cychwyn y symudiad, alaw yr oedd Williams wedi ei defnyddio yn ei sgôr ar gyfer Blue Scar, er bod y dilyniant arbennig hwn wedi ei dynnu allan o fersiwn derfynol y ffilm. Mae’r unawdydd a’r gerddorfa’n swyno, yn ymhelaethu ac yn datblygu agweddau ar yr alaw, gan greu cefndir cerddorol hudolus.  

Mae’r hud yn cael ei dorri gan y diweddglo Allegro, sy’n dilyn heb doriad. Mae’n ddramatig ei naws ond mae hefyd yn cynnwys sgyrsiau ffraeth rhwng yr unawdydd a’r gerddorfa, a cadenza unigol gwych. Hyd yn oed yn y symudiad cyflym hwn, fodd bynnag, nid yw ethos delynegol cyffredinol y concerto yn cael ei chwalu’n llwyr.

Nodyn y rhaglen © Rhiannon Mathias

Darllen Pellach: Lutyens, Maconchy, Williams and Twentieth-Century British Music: A Blest Trio of Sirens Rhiannon Mathias (Routledge)


EGWYL: 20 munud

Ralph Vaughan Williams (1872–1958)

Symffoni Rhif 5 Yn D Fwya (1938–43, Rev. 1951) 

1 Preludio: Moderato
2 Scherzo: Presto misterioso  
3 Romanza: Lento
4 Passacaglia: Moderato

Daeth premiere Pumed Symffoni Vaughan Williams, yng nghyfres Proms y BBC yn 1943, yn syndod i lawer. Ar ôl y Bedwaredd Symffoni frathog (1934) a gwaith corawl syber Dona nobis pacem (1936), roedd rhywfaint o ddyfalu a oedd Vaughan Williams wedi gadael iaith fyfyriol a gwerinol Fantasia Tallis a The Lark Ascending ar ei ôl. Roedd yn ymddangos bod y Vaughan Williams newydd hwn yn llai o weledydd natur, creawdwr tirluniau cerddorol yn arddull Constable, Turner neu Samuel Palmer, ac yn fwy o’r math o artist a oedd yn dal drych i gyfnodau cynyddol gythryblus. Fodd bynnag, roedd y Bumed Symffoni nid yn gymaint yn ymgorffori dychweliad i’r hen ffyrdd ond yn hytrach yn eu cyfoethogi a’u datblygu. Mae’r darnau atgofus hyfryd yno, ond maen nhw’n cael pŵer ychwanegol drwy’r ffordd mae’r cyfansoddwr yn eu gosod mewn dadl symffonig gynnil a chymhellol; cafodd y profiad o ganolbwyntio ei feddyliau yn y Bedwaredd Symffoni effaith barhaol a buddiol.

Y peth cyntaf rydyn ni’n ei glywed, bron, yw synau corn meddal; ond, o dan y rhain, mae’r soddgrythau a’r basau’n ychwanegu tensiwn sy’n gwrthdaro’n ysgafn. Mae’r amwysedd hwn yn cael ei ddatrys mewn amrywiaeth o ffyrdd, a dim ond yn cael ei ddatrys yn llawn yn y diweddglo tawel i’r symffoni. 

Mae Scherzo llifeiriol ac arswydus yn dilyn, wedi ei sgorio â medrusrwydd mawr yn ei adrannau allanol – er bod yr offerynnau pres a’r timpani’n llwyddo i awgrymu rhywbeth mwy trwm yn yr adran Triawd canolog. Ar y diwedd, mae ffigurau’r llinynnau agoriadol tawel yn diflannu’n flasus i un strôc pianissimo timpani, fel cannwyll yn cael ei diffodd.

Yna daw’r Romanza, sef calon y symffoni. Mae rhai o syniadau’r symudiad hwn yn deillio o brif brosiect operatig Vaughan Williams, The Pilgrim’s Progress (a gyfansoddwyd rhwng 1925 a 1952). Nid oedd Vaughan Williams yn grediniwr confensiynol, ond trodd dro ar ôl tro at themâu crefyddol yn ei gerddoriaeth. Yn amlwg, daeth o hyd i ryw fath o ystyr trosgynnol yn stori enwog John Bunyan am y ‘Pererin’ Cristnogol a’i daith ysbrydol, ac mae’n cyfleu ei hanfod yn deimladwy yn y symudiad hwn – gan ei gynnig, o bosibl, fel gair o gysur ac anogaeth i wlad a oedd yng nghanol y rhyfel ar y pryd.

Disgrifir y diweddglo fel Passacaglia – symudiad a adeiladwyd dros thema a ailadroddir yn gyson, a gyflwynir yma ymysg y soddgrythau yn gyntaf. Mae hyn, yn y pen draw, yn cyrraedd uchafbwynt mawreddog lle mae corn agoriadol y symffoni’n dychwelyd, ac yn cael ei chwarae gan y gerddorfa lawn mewn tonnau mawr o sain. Yn yr un modd ag uchafbwynt gweledigaethol mawr y symudiad cyntaf, mae’r ysblander yn pylu, ond y tro hwn mae’n cael ei ddilyn gan gerddoriaeth reiddiol, dawel dan arweiniad y llinynnau – sy’n atgoffa rhywun o gôr yn canu anthem Elisabethaidd mewn eglwys gadeiriol yn Lloegr. O hyn ymlaen, nid oes mwy o amwysedd. Daw’r ddiweddeb derfynol dawel cyn agosed at heddwch perffaith ag y gellir ei brofi yn unrhyw un o symffonïau’r 20fed ganrif. 

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

Gwrando Pellach: Cerddorfa Symffoni’r BBC/Martyn Brabbins (Hyperion CDA 68325) 
Darllen Pellach:
Vaughan Williams: Composer, Radical, Patriot Keith Alldritt (Robert Hale);
Gwefan: https://rvwsociety.com 

Bywgraffiadau

Jamie Phillips arweinydd

Lun: Sim Canetty-Clarke

Lun: Sim Canetty-Clarke

Mae galw mawr am Jamie Phillips fel arweinydd gwadd, ac yn ddiweddar bu’n arwain cerddorfeydd Ffilharmonig Philharmonia, Arnhem, Llundain, Oslo, y Royal a De’r Iseldiroedd, Cerddorfeydd Symffoni Antwerp, Odense a Radio Cenedlaethol Gwlad Pwyl, Cerddorfa Tonkünstler Fienna, Cerddorfeydd Siambr Lausanne a Munich, Camerata Salzburg a’r Orchestre National d’Île-de-France.

Mae ganddo gysylltiad agos â’r Hallé: yn dilyn ei benodiad fel Arweinydd Cynorthwyol (20 oed), creodd y gerddorfa y teitl Arweinydd Cyswllt ar ei gyfer, ac mae’n dychwelyd i arwain cyngherddau tanysgrifio ym mis Mai. Mae uchafbwyntiau eraill y tymor hwn yn cynnwys ymgysylltu â Cherddorfa Symffoni Bournemouth, cerddorfeydd Ffilharmonig Radio’r Almaen, Gogledd Orllewin yr Almaen, y Royal a Württemberg a cherddorfa Opera Glyndebourne.

Mae ei repertoire yn amrywio o’r cyfnod Baróc i’r presennol, ac mae ei recordiadau’n cynnwys gweithiau gan Tarik O’Regan a Helen Grime; y llynedd rhyddhaodd ddisg o 11 o weithiau newydd wedi eu hysbrydoli gan Amrywiadau Goldberg y cyfansoddwr Bach.

Pan oedd yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr, cyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Cystadleuaeth Besançon 2011, a daeth yn ail yng Ngwobrau Arweinyddion Ifanc Gŵyl Nestlé Salzburg 2012. Yn 2016, cafodd Gymrodoriaeth Dudamel gan Gerddorfa Ffilharmonig Los Angeles.


Madeleine Mitchell ffidil

Mae Madeleine Mitchell wedi ymddangos fel unawdydd a cherddor siambr mewn tua 50 o wledydd mewn amrywiaeth eang o repertoire. 

Mae’r prif leoliadau y mae wedi perfformio ynddynt yn cynnwys Canolfan Lincoln yn Efrog Newydd, Neuadd Wigmore a Chanolfan y South Bank yn Llundain, Canolfan Seoul ar gyfer y Celfyddydau a Thŷ Opera Sydney. Mae hi wedi ymddangos gyda cherddorfeydd blaenllaw, gan gynnwys y gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol a cherddorfa Ffilharmonig St Petersburg, Cerddorfa Symffoni Radio y Weriniaeth Tsiec ac ensembles y BBC. Mae ei huchafbwyntiau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn cynnwys taith i Japan a dychwelyd i Unol Daleithiau America. 

Mae ei disgograffi enwog yn cynnwys gweithiau a ysgrifennwyd ar ei chyfer gan gyfansoddwyr fel Guto Puw, Syr James MacMillan a Howard Blake. Yn ddiweddar, cyhoeddodd ddisg o gerddoriaeth siambr Grace WiIliams, sydd wedi cael derbyniad gwresog. 

Yn 1997 creodd ŵyl y Ffidil Goch dan nawdd Yehudi Menuhin, y dathliad rhyngwladol cyntaf i archwilio’r ffidl ar draws y celfyddydau, ac a gynhaliwyd ledled Caerdydd. 

Eleni derbyniodd wobr gan Gronfa Fenter y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol.  

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae’r gerddorfa yn llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes.

Mae’r gerddorfa’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales.

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Yn ystod y cyfyngiadau symud diweddar, mae BBC NOW wedi parhau i recordio a ffilmio y tu ôl i ddrysau caeedig yn Neuadd Hoddinott y BBC ac mae wedi cynhyrchu fideos, traciau sain a chyngherddau digidol wythnosol sydd wedi cael eu gweld gan 14 miliwn o bobl ar draws y byd, gan gynnwys fideo hynod boblogaidd o drac sain Doctor Who. Mae’r cynlluniau ar gyfer y gerddorfa’n cynnwys cyngherddau a digwyddiadau sy’n cael eu ffrydio’n fyw, teithiau i wahanol gymunedau ledled Cymru a chynlluniau addysg a datblygu cymunedol i gynnwys pawb yn y gwaith o greu cerddoriaeth. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield Blaenwr
Martin Gwilym-Jones †
Terry Porteus
Suzanne Casey
Anna Cleworth
Carmel Barber
Robert Bird
Gary George-Veale
Anna Szabo
Richard Newington

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Jane Sinclair #
Ros Butler
Sheila Smith +
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott **
Sellena Leony

Fiolâu
Rebecca Jones *
Peter Taylor
Ania Leadbeater
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton

Soddgrythau
Alice Neary *
Jessica Feaver **
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Ben Burnley
Christopher Wescott
Richard Gibbons

Ffliwt
Matthew Featherstone *

Ffliwt/Piccolo
Lindsey Ellis †

Obo
Steve Hudson *

Obo/Cor Anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †
 
ClarinEtau
Maura Marinucci ‡
Lenny Sayers + **

Baswnau
Jarosław Augustiniak
David Buckland

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
William Haskins

Utgyrn
Mark O’Keefe
Cai Isfryn

Trombonau
Simon Baker ‡
Huw Evans

Trombôn Bas
Darren Smith †

Offerynnau Taro
Rhys Matthews

Offerynnau Taro
Mark Walker
Phil Hughes

Y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †


* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr
Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-rediadau Kevin Myers
Gweinyddwr y Gerddorfa Rhonwen Jones **
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorth-wyydd Darlledu Emily Preston **
Pennaeth Marchnata a Chynulleid-faoedd Sassy Hicks
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +, Caroline Richards **
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey
Rheolwr y Corws a Chydlynydd Allgymorth Osian Rowlands **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications