Elgar Concerto i’r Soddgrwth  

Nos Wener 11/11/22, 7.30pm

Andrew Lewis   
In Memory   première byd  (c9’) 

Edward Elgar
Concerto i’r Soddgrwth  (30’) 

EGWYL  (20’) 

Felix Mendelssohn  
Symffoni Rhif 3, ‘Yr Alban’ (40’) 

Gergely Madaras Arweinydd
Santiago Cañón-Valencia Soddgrwth

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu ar raglen Radio 3 in Concert yn y dyfodol. Bydd ar gael i’w ffrydio neu ei lawrlwytho drwy BBC Sounds am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu. Mae BBC Sounds hefyd yn cynnwys podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.

Croeso

Croeso i’r gyngerdd heno, sy’n rhan o’n taith gyntaf i Ogledd Cymru ers dwy flynedd hirfaith!

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cael ei harwain gan un o gerddorion gorau ei genhedlaeth, Gergely Madaras. 

Rydyn ni’n dechrau gyda phremière byd In Memory gan Andrew Lewis, darn a gyfansoddwyd yn ystod y cyfnod clo yn 2020. Mae’n taro golwg bwerus ar effeithiau torcalonnus dementia.

Cafodd Symffoni ‘Yr Alban’ Mendelssohn, sy’n cloi’r rhaglen, ei hysbrydoli gan daith yn 1829 a aeth â’r cyfansoddwr o adfeilion Palas Holyrood yng Nghaeredin i dir mwy gwyllt yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd. 

Bron i 100 mlynedd yn ddiweddarach, ar ddiwedd y Rhjyfel Byd Cyntaf cafodd Elgar ymdeimlad newydd o bwrpas ar ôl cyfnod o ataliad creadigol ac ymysg y canlyniadau oedd y Concerto gwych i’r soddgrwth. Mae cyfuniad o fawredd a hunanolygiad y Concerto wedi hudo cenedlaethau o offerynwyr. Yr unawdydd heddiw yw’r hynod dalentog Santiago Cañón-Valencia, un o Artistiaid Cenhedlaeth Newydd y BBC.  Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Andrew Lewis (ganed 1963)

In Memory (2020) 

première byd

Mae In Memory yn fyfyrdod ar fyw gyda dementia, a phrofiad aelodau o’r teulu sy’n ofalwyr di-dâl yn enwedig. Mae dyfyniadau o sgyrsiau wedi’u recordio gyda theuluoedd sy’n ofalwyr yn rhan o wead y darn – yn ffurfio ei alawon, ei harmonïau a’i rythmau.

Mae gan y teitl In Memory wahanol ystyron. Mae’n cyfleu’r ymdeimlad o hunaniaeth sy’n byw yn y cof, ac yn coffáu colli’r ymdeimlad hwnnw. Mae’n cyfleu atgofion y rheini sy’n gofalu am bobl â dementia, atgofion o’r person fel yr arferai fod, ac atgofion mwy diweddar o’r heriau sy’n deillio o’u rôl gofalu erbyn hyn. Mae hefyd yn wahoddiad i gofio ymroddiad y miloedd o ofalwyr di-dâl nad yw eu gwaith yn aml yn cael ei gydnabod. Yn olaf, mae’r darn yn cael ei gyflwyno er cof am bawb a gollwyd i ddementia, ac i ddathlu’r hyn sy’n weddill pan fo popeth arall wedi’i anghofio.

Comisiynwyd In Memory  gan y BBC a Phrifysgol Bangor fel rhan o Cerddoriaeth 100/Music 100, sef gŵyl flwyddyn o hyd sy’n dathlu canrif o greu cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Rwy’n ddiolchgar i Joanna Griffiths, Sue Last a Mary Mitchell am rannu eu meddyliau a’u profiadau’n hael. Eu lleisiau nhw yw cerddoriaeth In Memory. 

… remember …
He doesn’t remember
… sadness, despair, guilt …

They didn’t understand
… just exhausting …
Life was closing in, and we’d barely started
… really frustrating …
People are on their knees caring

It’s wearing (… remember …)
Everything has to be planned (… remember …)
… very lonely …
Dementia’s part of my life, caring 24/7
… sadness, grief, despair (… remember …) in this caring role
… constant repetition, constant following you around,
it’s wearing
The person you love is disappearing from you

He doesn’t remember
He’ll turn round to me and say, ‘Where is she?’, and I’ll say ‘Who?’
‘My wife, where is she?’ – and I’m with him
It creeps up on you: I am a carer!
(…remember…)
I don’t want to be

… music …
He was looking at a newspaper or a magazine that I’d given him
And he was reading out loud, but singing what he was reading
The last few times he was talking it was in a sing-song voice
Whatever he said was in a sort of sing-songy, lilty way that was musical
He was sort of singing what he was saying
So he was just really enjoying singing
He loved classical music,
‘The Chorus of the Hebrew Slaves’, ‘Tannhäuser’
Music … seems to soothe him

He’s always had a very strong faith
… I pray … (… remember …)
… the 23rd Psalm … (… remember …)
… it’s a great comfort …

The LORD is my shepherd, I shall not want
He maketh me to lie down in green pastures
The LORD is my shepherd …
Though I walk through the valley of the shadow of death
I will fear no evil
For thou art with me …

Nodyn y rhaglen © Andrew Lewis

Gwefan: www.andrewlewis.org.uk

Edward Elgar (1857–1934)

Concerto i’r Soddgrwth yn E leiaf, Op. 85  (1918–19) 

1 Adagio – Moderato –
2 Lento – Allegro molto
3 Adagio
4 Allegro – Moderato – Allegro, ma non troppo

Santiago Cañón-Valencia soddgrwth

‘Rwy’n unig nawr a does gen i ddim y safbwyntiau gynt am gerddoriaeth, ac nid wyf yn credu y byddaf yn cwblhau unrhyw waith newydd … Nid oes uchelgais gennyf,’ ysgrifennodd Elgar, ychydig dros flwyddyn ar ôl cwblhau ei Goncerto i’r Soddgrwth yn E leiaf. Y concerto oedd ei waith mawr olaf. Ac eithrio ambell ddarn bach o gerddoriaeth siambr a llond llaw o drawsgrifiadau, ni ysgrifennodd Elgar lawer o bethau o unrhyw bwys yn ystod 14 mlynedd olaf ei fywyd. Ond dechreuodd weithio ar amrywiaeth eang o sgoriau newydd a gafodd eu gadael yn y pen draw – yn eu plith roedd concerto i’r piano, trydedd symffoni ac opera. Collodd ei frwdfrydedd dros gyfansoddi yn fuan ar ôl colli ei wraig, Alice, a fu farw dim ond pum mis ar ôl première y Concerto i’r Soddgrwth. 

Doedd ei marwolaeth ddim yn sioc. Yn y misoedd cynt, dywedodd Elgar fod Alice ‘yn ymddangos ei bod yn dihoeni o flaen ei lygaid’. Ond wrth i’w hiechyd waethygu, daeth persona cerddorol Elgar yn fwy synfyfyriol. Ar ôl ysgrifennu’r nesaf peth i ddim yn ystod blynyddoedd y rhyfel, ffrwyth 1918 ac 1919 oedd pedwar o weithiau mwyaf prydferth – a nodweddiadol – ei yrfa. Nodwedd ei Sonata i’r Ffidil, ei Bedwarawd Llinynnol a’i Goncerto i’r Soddgrwth (i gyd yn E leiaf), yn ogystal â’i Bumawd i’r Piano yn A leiaf, yw eu harddull synfyfyriol, oedd yn ‘gampus’ yn ôl Alice. Roedd y beirniaid yn hoff o’r Elgar newydd hefyd. Er hynny, bu bron i bremière y Concerto i’r Soddgrwth, a roddwyd gan Gerddorfa Symffoni Llundain yn Neuadd y Frenhines ym mis Hydref 1919, fod yn noson drychinebus. Mae’n debyg bod rhai o’r gweithiau ar y rhaglen wedi cael mwy o amser ymarfer nag eraill, ac yn ôl adolygydd ar gyfer The Observer: ‘Debyg iawn nad oes cerddorfa erioed wedi gwneud y fath sioe druenus ohoni’i hun … Mae’r gwaith ei hun yn hyfryd, hynod syml – y symlrwydd ystyrlon sydd wedi ymddangos yng ngherddoriaeth Elgar yn y blynyddoedd diwethaf – ond gyda harddwch a doethineb dwys wrth wraidd ei symlrwydd.’

Yn wahanol i’w Goncerto i’r Ffidil yn 1910, sy’n fawreddog, yn angerddol ac, yng ngeiriau Elgar ei hun, yn ‘rhy emosiynol’, mae’r Concerto i’r Soddgrwth yn ddwys, yn fyfyriol ac yn fwy hiraethus drwyddo draw. Nid yw’n goncerto meistrolgar mewn unrhyw ystyr traddodiadol, ond yr unawdydd sy’n dal yn cynnal y naratif. Yma, mae’r chwaraewr soddgrwth yn hanner perfformiwr a hanner llefarydd, gan agor y gwaith â darn beiddgar o adroddgan sy’n dechrau fel cri o ofid cyn pylu’n sydyn i felancoli. Mae’r gerddorfa’n pylu hefyd. Nid yw ei hatseiniau ysgafn a’i chyfeiliant tawel byth yn rhagori ar linellau crwydrol yr unawdydd. Er bod fflachiadau o fawredd ac o ysgafnder hyd yn oed, yn fwyaf nodedig yn yr ail symudiad brysiog a’r diweddglo sydd fel gorymdaith, maen nhw’n diflannu mor sydyn ag y daethant, naill ai’n cael eu hysgubo ymaith gan syniad arall neu eu tanseilio gan nodyn o dristwch. Dyma Elgar mewn hwyliau dwys a myfyriol, yn gwared ei hun o’i faich fel petai’n arnofio ar fôr o fyrfyfyrio.

Nodyn y rhaglen © Jo Kirbride

Gwrando Pellach: Sheku Kanneh-Mason; Cerddorfa Symffoni Llundain, Syr Simon Rattle (Decca 4850241)
Darllen Pellach: Elgar: The Music Maker Diana McVeagh (Boydell Press)

EGWYL: 20 minutes

Felix Mendelssohn (1809–47)

Symffoni Rhif 3 yn A leiaf, Op. 56, ‘Yr Alban’   (1829–42) 

1 Andante con moto – Allegro un poco agitato – Assai animato – Andante –
2 Vivace non troppo – 
3 Adagio – 
4 Allegro vivacissimo – Allegro maestoso assai

Dechreuodd Mendelssohn fraslunio ei symffoni ‘Yr Alban’ ar yr un daith yn 1829 a arweiniodd at Agorawd Yr Hebrides. Y tro hwn, cafodd ei ysbrydoli gan adfeilion capel ym Mhalas Holyrood, Caeredin. ‘Mae popeth o’m cwmpas yn doredig ac yn bydredig, a’r awyr ddisglair yn llewyrchu,’ ysgrifennodd y cyfansoddwr mewn llythyr adref. ‘Rwyf yn credu fy mod heddiw, mewn hen gapel, wedi canfod dechrau fy symffoni “Albanaidd”.’ Roedd y diwedd yn hir iawn yn cyrraedd: bu Mendelssohn yn ymladd â’r darn am ychydig o flynyddoedd, cyn ei roi o’r neilltu mewn rhwystredigaeth am ddegawd, a’i orffen yn 1842 yn y pen draw, ac felly, er ei rhif, hon oedd y pumed symffoni – a’r olaf – iddo ei chwblhau. 

Mae pedwar symudiad y gwaith yn cael eu chwarae heb seibiant, ac nid yw’n hawdd ei adnabod fel un ‘Albanaidd’. Heblaw, efallai, am rythmau’r alaw sy’n agor yr ail symudiad sy’n llawn bywyd, mae dylanwad cerddoriaeth draddodiadol yr Alban yn amlwg o absennol: Yn wir, ni lwyddodd ‘alawon gwerin, fel y’i gelwir’ Ynysoedd Prydain i swyno Mendelssohn (galwodd gerddoriaeth telyn Cymru yn ‘sothach ddi-chwaeth, allan o diwn’). Mae’r trydydd symudiad yn nodweddiadol o Mendelssohn – urddasol a theimladwy – ond y symudiadau cyntaf ac olaf yw mêr y darn. Mae’r cyntaf yn adeiladu am allan o’r alaw yr oedd Mendelssohn wedi’i braslunio yn Holyrood; ac mae’r olaf, wedi’i farcio gydag ‘Allegro guerriero’ (Cyflym a rhyfelgar) yn wreiddiol, rywsut yn symud o egni nerfus i orfoledd perlesmeiriol.

Nodyn y rhaglen © Will Fulford-Jones

Gwrando Pellach: Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham/Edward Gardner (Chandos CHSA5139)
Darllen Pellach: Mendelssohn: A Life in Music R. Larry Todd (OUP)

Biographies

Gergely Madaras arweinydd

Gergely Madaras yw Cyfarwyddwr Cerdd Orchestre Philharmonique Royal de Liège. Gyda’i gilydd maen nhw’n perfformio ar hyd a lled Gwlad Belg, yn ogystal â mynd ar deithiau o amgylch gweddill Ewrop a De America. Ar hyn o bryd maen nhw’n dathlu deucanmlwyddiant César Franck gan berfformio ei brif operâu, oratorios a symffonïau.

Ymysg yr uchafbwyntiau eraill y tymor hwn mae ei berfformiadau cyntaf gyda Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, Orchestre Philharmonique de Radio France, Toulouse Capitole Orchestra, Orchestre National de Lille, Orchestre de Chambre de Paris, Orchestra della Svizzera Italiana a Cherddorfa Symffoni Fetropolitan Tokyo. Mae’n dychwelyd i gerddorfeydd symffoni Bamberg, Bournemouth a Dinas Birmingham, ac Orchestra Sinfonica Nazionale della RAI. 

Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformiadau gyda Cherddorfa Gŵyl Budapest, Zurich Tonhalle Orchestra, Cerddorfa Ffilharmonig yr Iseldiroedd, Orchestre National de Lyon, Filarmonica della Scala, Maggio Musicale, a cherddorfeydd siambr Munich a’r Alban. Mae wedi gweithio gyda’r Academi Cerddoriaeth Hynafol hefyd. Ymhellach i ffwrdd, mae wedi ymddangos gyda Cherddorfeydd Symffoni Houston, Melbourne a Queensland. 

Yn ogystal ag arwain repertoire Clasurol a Rhamantaidd, mae ganddo berthynas glos â cherddoriaeth gyfoes, gan gydweithio â chyfansoddwyr fel Syr George Benjamin, Péter Eötvös, György Kurtág a Pierre Boulez (roedd Gergely yn arweinydd cynorthwyol i Pierre yn Academi Gŵyl Lucerne o 2011 i 2013). 

Ef oedd Cymrawd cyntaf Syr Charles Mackerras yn Opera Cenedlaethol Lloegr. Ers hynny mae wedi arwain cynyrchiadau clodfawr yn Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd, Grand Théâtre de Genève ac Opera Talaith Hwngari. Y tymor hwn bydd yn ymddangos yn La Monnaie am y tro cyntaf, gan arwain gwaith Shostakovich,
Y Trwyn.

Cafodd ei eni yn Budapest yn 1984 a dechreuodd astudio cerddoriaeth werin yn 5 oed gyda’r genhedlaeth olaf o gerddorion sipsi a gwerinol Hwngaraidd. Aeth ymlaen i astudio cyfansoddi, y ffliwt a’r ffidil glasurol yn Academi Liszt yn Budapest, yn ogystal ag arwain ym Mhrifysgol Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio Fienna.


Santiago Cañón-Valencia soddgrwth

Mae Santiago Cañón-Valencia wedi ennill clod fel un o chwaraewyr soddgrwth ifanc mwyaf addawol ei genhedlaeth. Wedi’i eni yn Bogotá yn 1995, mae ei brif fentoriaid cerddorol yn cynnwys Henryk Zarzycki yn Colombia, James Tennant yn Seland Newydd, Andres Diaz yn yr Unol Daleithiau ac Wolfgang Emanuel Schmidt yn Academi Kronberg ar gyfer Unawdwyr Ifanc yn yr Almaen.

Mae wedi cael llawer o lwyddiant mewn cystadlaethau, gan gynnwys ennill y Fedal Arian a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth Tchaikovsky yn 2019, ac ar hyn o bryd mae’n un o Artistiaid Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3. 

Perfformiodd gyda cherddorfa am y tro cyntaf fel unawdydd yn 6 oed. Ers hynny mae wedi ymddangos gyda’r prif gerddorfeydd i gyd yn Colombia, ei famwlad, ac mae ei yrfa ryngwladol fel unawdydd wedi mynd ag ef i bedwar ban byd, gan berfformio gyda cherddorfeydd fel Cerddorfa Mariinsky gyda Valery Gergiev, Cerddorfa Radio Frankfurt gyda Christoph Eschenbach, Cerddorfa Ffilharmonig Brwsel gyda Stéphane Denève, Cerddorfa Ffilharmonig St Petersburg gyda Nikolai Alexeev, Cerddorfa Symffoni Radio Hwngari gyda János Kovács, Cerddorfa Unawdwyr Moscow gydag Yuri Bashmet, Cerddorfa Siambr Orpheus a Cherddorfa Symffoni Antwerp gyda Muhai Tang, ymysg eraill.

Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys concertos yn Colombia a Japan, yn ogystal â pherfformio am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd symffoni Radio Cenedlaethol Gwlad Pwyl, RTVE a SWR, Cerddorfa Philharmonia Prague, ac ymddangos yng ngwyliau Dresden, Casals a Moritzburg.

Mae o blaid cerddoriaeth newydd ac mae wedi rhoi première i goncertos gan Carlos Izcaray a Jorge Pinzón, yn ogystal â phremière Concerto Rhif 2 Ginastera i’r Soddgrwth yn Colombia.

Cafodd Solo, ei recordiad cyntaf, ei ryddhau yn 2013 i ganmoliaeth frwd. Dilynodd hwnnw gyda sonatas Rwsiaidd i’r soddgrwth a Diable vert gyda’r pianydd Katherine Austin. Bydd yn rhyddhau albwm newydd yn hwyrach eleni.

Ers 2011, mae wedi cael Ysgoloriaeth Mayra ac Edmundo Esquenazi drwy Sefydliad Salvi. 

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes. 

Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff
raglenni teledu. 

Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.

Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr 
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jones is-arweinydd
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Ruth Heney
Zanete Uskane
Juan Gonzalez
Amy Fletcher

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Vicki Hodgson
Beverley Wescott
Patrycja Mynarska
Ilze Abola
Vickie Ringguth
Katherine Miller
Michael Topping
Gary George-Veale
Cathy Fox

Fiolâu
Rebecca Jones *
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Dáire Roberts
James Flannery
Sharada Mack

Soddgrythau
Alice Neary *
Raphael Lang
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Daniel Vassalo
Emma Prince
Hiu Man Phoebe Cheng

Ffliwt
Matthew Featherstone *
Jack Welch
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean 

Clarinetau
Marie Lloyd ‡
Lenny Sayers

Bass Clarinet
Lenny Sayers †

Baswnau
Gareth Humphreys ‡
Jo Shewan
David Buckland

Is-Faswnau
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
James Mildred
Neil Shewan †
William Haskins
John Davy

Utgyrn
William Morley
Robert Samuel
Nina Tyrrell

Trombonau
Paweł Cieślak
Huw Evans

Trombôn Bas
Lloyd Pearce

Tiwba
Richard Evans

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro
Chris Stock *
Phil Hughes

Y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †

Electroneg
Catherine Roe Williams


* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Gweinyddwr y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlledu Jacob Perkins 
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks 
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
PrentisiaidBBC Wales
Josh Gill
Analese Thomas-Strachan
Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am

Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications