Gergely Madaras yn arwain …

Nos Wener 21/06/24, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Claude Debussy
Prélude à l’après-midi d’un faune10’

Claude Debussy
Nocturnes25’

EGWYL: 20 munud

Christian Mason
Thaleia première y DU 20’

César Franck
Psyché – Rhan 318’

Gergely Madarasarweinydd
Noémi Győri ffliwt/piccolo
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3, i’w darlledu yn y dyfodol ar gyfer Classical Live; bydd ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol. Mae gweithiau Debussy a Franck yn cael eu recordio i’w darlledu yng Nghyfres Cyngherddau Digidol BBC NOW yn y dyfodol.

Cyflwyniad

Llun: Kirsten McTernan

Llun: Kirsten McTernan

Mae’n bleser gennym groesawu’r arweinydd Gergely Madaras i’r cyngerdd olaf hwn ar gyfer rhaglen sy’n llawn aniaeth bywiog Paris ar droad y ganrif.

Mae Debussy yn gosod y naws gyda’i Prélude à l’après-midi d’un faune hynod atgofus, sef gwaith a gafodd ei ddisgrifio gan neb llai na Pierre Boulez fel dechreuad cerddoriaeth fodern, oherwydd ei arloesedd.

Mae Nocturnes Debussy wedi cael eu hysbrydoli gan gyfres o baentiadau gan Whistler, gyda’r cyfansoddwr yn ychwanegu alaw ddieiriau i gôr merched at yr olaf o’r rhain, sef ‘Sirènes’.

Yna, bydd y ffliwtydd Noémi Győri yn ymuno â’i gŵr, Gergely Madaras, ar gyfer y perfformiad cyntaf erioed yn y DU o Thaleia gan Christian Mason, sef gwaith y mae ei offeryniaeth, a’i ryddid i’r ffliwt, yn tynnu’n uniongyrchol ar L’après-midi gan Debussy.

I gloi, rydyn ni’n dychwelyd at naws fywiog y darn agoriadol gyda Rhan 3 o gathl symffonig Franck, sef Psyché.

Mwynhewch, a gobeithio y cewch haf i’w gofio!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Claude Debussy(1862–1918)

Prélude à l’après-midi d’un faune (1891–4)

Mae’r Prélude à l’après-midi d’un faune (‘Preliwd i Brynhawn Ffawn’) yn un o’r enghreifftiau mwyaf amlwg o’r croestoriad rhwng cerddoriaeth a llenyddiaeth. Wedi’i ysbrydoli gan gerdd sy’n rhannu’r un teitl, gan y bardd Symbolaidd o Ffrainc, Stéphane Mallarmé, mae Prélude gan Debussy yn cynnig darlun cerddorol o atgof breuddwydiol ffawn o’i gyfarfyddiadau â nymffau a naiadau. Yn hytrach na chyfosod naratif Mallarmé yn unig, mae Debussy yn ceisio cyfleu dymuniadau a breuddwydion y ffawn mewn cyfres o olygfeydd. Mae hyn, yn ei dro, yn creu delweddau sonig o brofiad synhwyraidd y ffawn, dyma effaith sy’n cyfleu hanfod yr hyn a fyddai’n cael ei alw’n Argraffiadaeth gerddorol yn nes ymlaen.

Mae ailddychmygiad Debussy o L’après-midi d’un faune yn rhoi pwyslais cryf ar y ffliwt, sef offeryn y ffawn. Mae’r Prélude yn dechrau gyda phrif thema donnog ar ffliwt unawdol, ac mae ei soniaredd yn rhoi naws freuddwydiol i’r gerddoriaeth. Mae’r alaw wedyn yn cael ei throsglwyddo i’r oboau a’r clarinetau yn y lle cyntaf, ac wedyn i’r ffidlau wrth i’r ffawn ddod wyneb yn wyneb â’r nymffau. Ar ôl i’r unawd ffliwt ailymddangos dros ffiguroliad hudolus y delyn, daw llinell newydd ar unawd yr obo i’r amlwg, gan newid yr olygfa. Yn y rhan ganol hon, rydyn ni’n clywed ffrwydrad o delynegiaeth: mae thema fewnblyg lawn mynegiant ar chwythbrennau a llinynnau tutti yn ildio i uchafbwynt sy’n adlewyrchu ebychiad y ffawn o gariad at y nymffau. Wrth i’r brif thema ailymddangos, rydyn ni’n cael ein gadael mewn cyflwr ansicr, gan gwestiynu gyda’r ffawn ai breuddwyd neu realiti oedd hyn.

Nodyn y rhaglen © Kelvin H. F. Lee

Claude Debussy

Nocturnes (1892–9)

1 Nuages [‘Cymylau’]
2 Fêtes [‘Gwyliau’]
3 Sirènes [‘Seirenau’]

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC (lleisiau merched)

Cymerodd amser anarferol o hir i gyfansoddi’r Nocturnes, wrth i Debussy ei chael yn anodd dod o hyd i ffyrdd newydd o archwilio lliw a soniaredd i gyfleu delweddau a hwyliau. Gan greu’r gwaith i ddechrau ym 1892, fel Trois scènes au crépuscule (‘Tair golygfa fin nos’), cafodd ei ysbrydoli’n wreiddiol gan y delweddau breuddwydiol o gerddi Symbolaidd o’r un teitl gan ei ffrind Henri de Régnier. Ond wedyn, darganfu’r gyfres o dirweddau tywyll atmosfferaidd gan yr artist Americanaidd o Baris, sef James McNeill Whistler – ffigwr celfyddydau gweledol tebyg i Baudelairer – a dyma lle cafodd Debussy y teitl Nocturnes. Wedi’i ysbrydoli gan ei ddarganfyddiadau yn y Prélude à l’après-midi d’un faune (1894) - a agorodd lwybrau cyfansoddi newydd o ran harmoni, lliw offerynnol a ffurf - cwblhaodd Debussy ei Nocturnes o’r diwedd ym 1899 . Yn ei nodyn rhaglen ar gyfer y perfformiad cyflawn cyntaf gan yr Orchestre Lamoureux o dan arweiniad Camille Chevillard ym 1901, ysgrifennodd Debussy: ‘Nid bwriad y teitl Nocturnes yw dynodi ffurf arferol y nocturne, ond yn hytrach yr holl wahanol argraffiadau ac effeithiau arbennig o olau y mae’r gair yn eu hawgrymu.’

Yn ddirgel ac yn dawedog gyda chrosietau’n pendillio’n gyson, mae’r ‘Nuages’, sy’n amwys o ran tonyddiaeth, yn cyfleu’r hyn yr oedd Debussy yn ei alw’n ‘yr awyr ddigyfnewid, a symudiad araf a dwys y cymylau, sy’n pylu’n llwyd ag arlliw o wyn’. Cafodd Debussy y syniad ym Mharis wrth sefyll ar y pont de Solfárino yn hwyr iawn un noson yn gwylio awyr ddi-leuad, a’r Seine oddi tani ‘heb grych, fel drych yn deilchion’.

Mae ‘Fêtes’ yn fwy afieithus, gyda’i symudiad triphlyg tebyg i ddawns a’i themâu llawen sy’n portreadu ‘gweledigaeth ddisglair a gwych’ Debussy o orymdaith gŵyl yn y Bois de Boulogne, ond yn cael ei gweld o bell drwy’r coed; mae tyrfaoedd yn rhedeg, ac mae marchogion ysblennydd y Garde Républicaine yn seinio eu cyrn cyn diflannu i’r tywyllwch.

Mae ‘Sirènes’ yn edrych ymlaen at La mer, wrth bortreadu’r môr, a’r hyn yr oedd Debussy’n ei alw’n ‘rhythmau di-ri’. Ymhlith y tonnau, sy’n disgleirio yng ngolau’r lleuad, mae alaw ddieiriau’r côr merched yn cyfleu cân ddirgel ac ochneidiau hiraethus y Seirenau cyfriniol, sef bodau goruwchnaturiol a ddenai forwyr i’w tranc.

Nodyn y rhaglen © Caroline Rae

EGWYL: 20 munud

Christian Mason(ganed 1984)

Thaleia(2023–4)

première y DU

1 Galargan – Cadenza 1
2 Swyn-gân – Cadenza 2
3 Caneuon (heb eiriau)

Noémi Győri ffliwt/piccolo

Ym mytholeg Groeg – Thaleia oedd afondduwies Etna yn Sisili, ac mae ei henw’n golygu ‘gorfoledd, toreth’. Nid yw’r gerddoriaeth o reidrwydd yn ymwneud â’i stori hi o ran rhinweddau’r ffrwythlonder a’r ffyniant y mae hi’n eu hymgorffori, ac sy’n tyfu wrth i’r darn ddatblygu: gwraidd yr enw Thaleia yw thállein, sef ‘ffynnu, bod yn wyrdd’.

Ond mae’n bosibl bod awgrym o’r stori hefyd: mae’r gerddoriaeth yn llawn canonau – weithiau’n cael eu harwain gan y ffliwt, ac weithiau’n ffurfio cefndir y gerddorfa – ac mae’n bosibl bod y rhain yn awgrym o blant Thaleia? Yn ôl y chwedl, rhoddodd enedigaeth i efeilliaid Zeus ond, gan ofni bod ei wraig Hera’n genfigennus, gofynnodd am gael ei llyncu gan y ddaear – ac felly cafodd ei hefeilliaid, y Palici, eu geni o’r ddaear i fod yn dduwiau ffynhonnau poeth yn Sisili.

Mae’r trefniant cerddorfaol – er nad y gerddoriaeth – yn cyfeirio at Prélude à l’après-midi dun faune gan Debussy, gan gydnabod rôl Debussy o ran rhyddid y ffliwt. Mae’r concerto hwn yn rhan o’r prosiect ‘Contemplatation of the Nymph’ gan Noémi Győri.

Nodyn y rhaglen © Christian Mason

César Franck (1822–90)

Psyché (1886–7) – Rhan 3

Quasi lento – Amour, elle a connu ton nom [‘Gariad, gwyddai dy enw’]
Souffrances et plaintes de Psyché – Éros a pardonné [‘Dioddefaint a galarnadau Psyché – mae Eros wedi maddau’]

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Ym 1886, pan oedd ei enwogrwydd fel cyfansoddwr, organydd ac athro yn y Conservatoire ym Mharis ar ei anterth, dechreuodd Franck ar yr olaf o’i gathlau symffonig – gwaith mawr yn seiliedig ar gofnod barddonol Émile Sicard a Louis de Fourcaud o chwedl Eros (Ciwpid) a Psyché. Roedd hwn yn destun anarferol i gyfansoddwr a oedd yn adnabyddus am ei gerddoriaeth grefyddol bryd hynny. Fe wnaeth hyn alluogi Franck i ymhyfrydu yn chwantusrwydd gorawenus y chwedl, gan sbarduno’r syniadau o faddeuant a gwaredigaeth sydd wrth wraidd yr alegori. Dywedodd Vincent d’Indy, y sawl y cyflwynwyd y gwaith iddo, fod Psyché ‘yn llawn teimlad a’r ffydd Gristnogol’, a’r naws hwn sy’n nodweddu’r adran olaf, lle mae’r mynegiant llawen o gariad bythol yn dod yn rhywbeth dynol a duwiol.

Dyma’r stori. Mae Aphrodite yn eiddigeddus o dlysni Psyché, ac felly mae’n gofyn i Eros annog y fenyw ifanc i syrthio mewn cariad ag anghenfil. Ar ôl gweld pa mor brydferth yw Psyché, yn lle cyflawni’r dasg, mae Eros ei hun yn syrthio mewn cariad â hi ac yn mynd â hi i ardd hud, lle mae’n gwneud ei hun yn anweledig ac yn caru â hi. Un noson, a hithau’n awyddus i wybod pwy yw ei chariad cudd, mae Psyché yn gollwng olew o’i lamp arno ac yn gweld mai Eros sydd yno. Mae Eros yn ei chosbi ac yn mynd a’i gadael. A hithau mewn gwewyr ac yn edifarhau, mae Psyché yn mynd ar daith i chwilio am ei chariad coll, lle mae Aphrodite yn dial arni drwy wneud iddi gyflawni cyfres o orchwylion bychanol. Yn y pen draw, mae Eros yn maddau iddi ac yn ei hachub. Daw’r cariadon yn ôl at ei gilydd ac uno mewn priodas, ac fe wneir Psyché yn anfarwol er mwyn i’w cariad allu para am byth. Yma mae Psyché, sy’n bersonoliad o’r enaid dynol, yn dysgu beth yw gwir ystyr hapusrwydd drwy ddioddefaint ac anffawd.

Mae’r darn wedi’i sgorio ar gyfer cerddorfa fawr a chorws cymysg (heb faswyr) ac mae’n cynnwys saith symudiad sydd wedi’u trefnu’n dair brif adran, gyda’r olaf o’r rhain yn adrodd hanes dioddefaint a maddeuant Psyché. Ysgrifennwyd y darn yn gaeth i arddull Wagner, a oedd yn ddylanwad pwysig ar lawer o gyfansoddwyr Ffrengig y cyfnod. Gellir gweld ymateb Franck i hyn yn y gwaith hwn, gyda’i liwiau cerddorfaol cyfoethog, ei arddull gromatig hiraethus, a’i uchafbwyntiau angerddol. Perfformiwyd y darn am y tro cyntaf ar 10 Mawrth 1888 gan y Société nationale de musique yn Salle Erard, dan arweiniad Franck.

Nodyn y rhaglen © Caroline Rae

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant … 

Sŵn a Sbri

Dydd Sul 8/9/24, 3.00pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Brahms Agorawd Gŵyl Academaidd
Tchaikovsky Concerto i’r Ffidil
Dvořák Symffoni Rhif 6

Jaime Martín arweinydd
Nemanja Radulović ffidil

TELYNEGOL | RHAGOROL | DYRCHAFOL

Pa ffordd well o gyflwyno ein hunain i dymor 2024–25 yn Neuadd Hoddinott na dan arweiniad ein Prif Arweinydd Gwadd newydd, Jaime Martín. Mae’r cyngerdd yn agor gydag Agorawd Gŵyl Academaidd Brahms – cerddoriaeth yn diolch i Brifysgol Breslau yn dilyn y newyddion ei bod yn rhoi doethuriaeth er anrhydedd iddo – sy’n cyfuno caneuon traddodiadol myfyrwyr gyda threfniant cerddorfaol rhyfedd a shifftiau deinamig i arddangos telynegiaeth ysgubol, bywiogrwydd doniol a theimlad anhygoel o hwyl.

Hefyd, un nad oedd byth yn brin o syniadau creadigol oedd Tchaikovsky a ysgrifennodd ei Goncerto i’r Ffidil mewn dim ond pythefnos! Gyda hud anochel a disgleirdeb cyffrous yn cydblethu i greu symlrwydd swynol, coronir y cyfan gan fedrusrwydd fel tân gwyllt gan yr unawd ffidil, a berfformir yma gan y godidog Nemanja Radulović. I gloi, ceir Chweched Symffoni Dvořák, gyda’i chyfuniad anorchfygol o delynegiaeth ddi-ben-draw, mynegiant cynnes ac ysbryd Bohemaidd tanllyd.

Dawns a Duwiau

Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain

Nos Iau 21/11/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Rossini, trefn. Respighi La boutique fantasque – cyfres
Rossini Stabat mater

Nil Venditti arweinydd
Masabane Cecilia Rangwanasha soprano
Tara Erraught mezzo-soprano
Levy Segkapane tenor
Ashley Riches bariton-bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

THEATRIG | HUDOLUS | SWYNOL

Dychmygwch ddoliau’n dawnsio mewn siop deganau hudolus, a phâr o ddawnswyr cancan gwych yn cynllwynio i aros gyda’i gilydd waeth beth fo’r gost – dyma stori swynol La boutique fantasque. Gyda’i gerddoriaeth fywiog a hwyliog (wedi’i threfnu gan Ottorino Respighi o ddarnau i’r piano gan Gioacchino Rossini), mae’r bale hwn yn ddilyniant o ddawnsfeydd godidog, pob un yn fwy egnïol na’r un o’i blaen, ac yn bleser gwrando arno.

I’r gwrthwyneb, mae Stabat mater gan Rossini yn waith sydd bron â chroesi’r ffin i sentimentaliaeth gysegredig ac opera coeg-ddramatig. Mae gorchestwaith ac alawon hudolus a chofiadwy’r ‘Cujus animam’ a thân a brwmstan yr ‘Inflammatus et accensus’ yn cydblethu’n ddi-dor â rhinweddau cwbl gysegredig yr ‘Eja mater’ a’r ‘Quando corpus morietur’ – campwaith o’r galon sy’n llawn mynegiant, yn lluniaidd yn lleisiol ond eto’n rhythmig ac yn amlwg operatig.

Bywgraffiadau

Gergely Madarasarweinydd

Gergely Madaras yw Cyfarwyddwr Cerdd Orchestre Philharmonique Royal de Liège. Gyda’i gilydd, maen nhw wedi perfformio ar hyd a lled Gwlad Belg, ac wedi bod ar daith i berfformio ar draws Ewrop a De America. Maen nhw’n ymddangos yn rheolaidd ar Mezzo a Medici.tv, ac mae ganddynt lu o recordiadau gan gynnwys cerddoriaeth gan Franck, Liszt a Dohnányi. Cyn hynny, bu Madaras yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Orchestre Dijon Bourgogne ac yn Brif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Savaria. 

Fel arweinydd gwadd, mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys ymrwymiadau gyda cherddorfeydd Ffilharmonig y BBC, Llundain, Monte-Carlo, Oslo a Radio France, Cerddorfa Gŵyl Budapest, Ffilharmonia, Tonhalle-Orchester Zürich, Bamberg, Cerddorfa Symffoni’r BBC a Cherddorfa Symffoni Fetropolitan Tokyo, Cerddorfa Hallé, Cerddorfa Toulouse Capitole, Orchestra della Svizzera Italiana ac Il Pomo d’Oro.

Y tymor hwn, mae wedi dychwelyd i gerddorfeydd Ffilharmonig Borusan Istanbul, Llundain a Radio France, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, Musikkollegium Winterthur ac Opera Talaith Hwngari. Mae wedi ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni NHK, Talaith São Paulo a WDR, a Cherddorfa Ffilharmonig Turku. Mae ei gynlluniau’n cynnwys ymddangosiadau gyda cherddorfeydd Ffilharmonig Radio’r Iseldiroedd ac Oslo, a Cherddorfa Gürzenich, Cologne.

Ef oedd y Cymrawd Syr Charles Mackerras cyntaf yn Opera Cenedlaethol Lloegr, gan arwain ei berfformiad operatig am y tro cyntaf yno gyda chynhyrchiad newydd o Y Ffliwt Hudol. Ers hynny mae wedi arwain cynyrchiadau clodfawr yn Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd, Grand Théâtre de Genève, Opera Talaith Hwngari a La Monnaie.

Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth newydd hefyd, gan gydweithio â Syr George Benjamin, Péter Eötvös, György Kurtág, Tristan Murail, Luca Francesconi, Philippe Boesmans a Pierre Boulez. 

Mae wedi bod yn westai rheolaidd yng ngwyliau Lucerne, Gstaad, Milan, Murten, Gŵyl y Gwanwyn yn Budapest, Gŵyl Enescu yn Bucharest, a Gŵyl Stradivarius yn Tokyo, ymhlith gwyliau eraill.

Cafodd Gergely Madaras ei eni yn Budapest yn 1984, a dechreuodd astudio cerddoriaeth werin gyda’r genhedlaeth olaf o gerddorion sipsi a gwerinol Hwngaraidd pan oedd yn bum mlwydd oed. Aeth ymlaen i astudio cyfansoddi, y ffliwt a’r ffidil glasurol, gan raddio o gyfadran y ffidil yn Academi Liszt yn Budapest, yn ogystal â’r gyfadran arwain ym Mhrifysgol Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio Fienna.


Noémi Győriffliwt/piccolo

Mae Noémi Győri yn unawdydd ac yn gerddor siambr enwog ar ffliwtiau modern a Baróc, mae ei rhaglenni creadigol a’i dehongliadau o repertoire eang yn seiliedig ar gyfleuster technegol di-fai, palet cyweiraidd eang ac ymchwil fanwl.

Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys y perfformiad cyntaf yn y DU o Thaleia gan Christian Mason yma heno (sef gwaith a berfformiwyd am y tro cyntaf erioed gyda’r Orchestre Philharmonique Royal de Liège ym mis Ebrill), y perfformiad cyntaf erioed o Goncerto Cyntaf Weinberg i’r Ffliwt yn Hwngari, a pherfformiadau o Goncerto Ibert i’r Ffliwt gyda cherddorfeydd Ffilharmonig Georgia a Turku. Cafodd ei chweched albwm unigol, Exploration, gyda’r pianydd Suzana Bartal, ei ryddhau’n gynharach yn y tymor.

Noémi Győri yw’r ffliwtydd cyntaf i gael PhD mewn perfformio’r ffliwt o Academi Gerdd Frenhinol Llundain, yn dilyn astudiaethau yn Academi Gerdd Liszt, Prifysgol Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio, Fienna, a’r Hochschule für Musik und Theater ym Munich.

Ers 2008, hi yw prif ffliwtydd y Gerddorfa Siambr Iddewig ym Munich, ac mae wedi ymddangos fel gwestai gyda Cherddorfa Ffilharmonig y BBC a Cherddorfa Ffilharmonig Fienna, ymysg eraill, gyda’r ail o’r rhain yn Opera Talaith Fienna. Ers 2011, mae hi wedi arwain stiwdio ffliwt yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Iau Gogledd Lloegr ac mae’n diwtor gwadd ym Mhrifysgol Manceinion.

Mae Noémi Győri yn chwarae ffliwt LaFin headjoint wedi’i wneud o aur 14K, a ffliwt Miyazawa Boston wedi’i wneud o aur 14K.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn cael cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.

Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau ac yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.

I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now 

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Nick Whiting blaenwr
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Žanete Uškāne
Ruth Heney
Carmel Barber
Juan Gonzalez
Alejandro Trigo
Anna Cleworth
Kerry Gordon-Smith
Emilie Godden
Gary George-Veale

Ail Ffidlau
Emily Davis
Jane Sinclair 
Ros Butler
Sheila Smith
Beverley Wescott
Vickie Ringguth
Katherine Miller
Roussanka Karatchivieva
Michael Topping
Lydia Caines
Joseph Williams
Ilze Abola

Fiolâu
Joel Hunter ‡
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Daire Roberts
Robert Gibbons
Anna Growns 
Lydia Abell
Catherine Palmer
Ania Leadbeater
Lucy Theo

Soddgrythau
Alice Neary *
Jessica Feaver
Alistair Howes
Keith Hewitt
Carolyn Hewitt
Katy Cox
Ali Robinson
Vonni Parsons

Basau Dwbl
David Stark *
Alex Jones #
Christopher Wescott
Fabián Galeana
Chris Kelly
Hannah Turnball    

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Elizabeth May

Piccolo
Elizabeth May

Oboau
Steve Hudson *
Catherine Tanner-Williams
Amy McKean †

Cor anglais
Amy McKean †

Clarinetau
Anna Hashimoto
Bethany Crouch
Lenny Sayers

Clarinét Bas
Lenny Sayers †

Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Bruce Parris
David Buckland
Alex Davidson

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Flora Bain
John Davy

Utgyrn
Corey Morris †
Robert Samuel
Olly Carey

Cornetau
Olly Carey
Louis Barclay 

Trombonau
Simon Wills
Jon Pippen

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Matthew Thistlewood 

Timpani
Rhys Matthews 

Offerynnau Taro 
Phil Hughes
Harry Lovell-Jones 

Telynau
Sally Pryce
Daniel deFry

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol



Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy **
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yw un o brif gorau cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig.

Wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae’r corws, sy’n dathlu ei benblwydd yn 40 y tymor hwn, yn gweithio’n rheolaidd ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â pherfformio cyngherddau ar ei ben ei hun. Mae’n cynnwys dros 150 o gantorion: cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Mae uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformiadau o Requiem Fauré ac O sacrum convivium Messiaen gyda Ludovic Morlot, Offeren Nelson’ Haydn gyda’r arbenigwr cerddoriaeth gynnar enwog Christian Curnyn a recordiad CD o Dewi Sant gan Syr Karl Jenkins yn ei flwyddyn pen-blwydd yn 80 oed, a pherfformiadau blynyddol ym Mhroms y BBC – gydag ymddangosiadau diweddar yn cynnwys Harmonium gan John Adams gyda Prif Arweinydd Ryan Bancroft, A Sea Symphony gan Vaughan Williams gydag Andrew Manze a Requiem Mozart o’r cof gyda Nathalie Stutzmann.

Yn ystod y tymor hwn, bydd y corws yn perfformio Five Mystical Songs Vaughan Williams gyda Harry Bicket, Dewi Sant gan Karl Jenkins i nodi Dydd Gŵyl Dewi, Stabat mater Poulenc a pherfformiad cyntaf y byd o Sound of Stardust Alexander Campkin ochr yn ochr ag enillydd Gwobr Cynulleidfa BBC Canwr y Byd Caerdydd, Julieth Lozano, ynghyd â’r baswyr yn perfformio 13eg Symffoni wych Shostakovich o dan faton Ryan Bancroft.

Mae’r corws wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg a cherddoriaeth gyfoes Rhoddodd Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yr ail berfformiad erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl ei pherfformiad cyntaf, y maent newydd ei recordio i’w rhyddhau ar gryno ddisg yn ddiweddarach eleni. Mae wedi perfformio gweithiau am y tro cyntaf erioed gan amrywiaeth eang o gyfansoddwyr, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, yn seiliedig ar eiriau Araith Malala Yousafza i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.

Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac yn ddiweddar ymddangosodd ar drac sain Paul Mealor ar gyfer Wonders of the Celtic Deep BBC Cymru.

Soprano 1
Bethan M. Evans
Caitlin Hockley
Charlotte Town
Claire Hardy
Darcie Hamilton
Delyth Jewell
Elizabeth Phillips
Ella Edwards Beavington
Ellen Steward
Eve Carey
Hannah Willman
Jessica Rose Baber
Joanna Osborn
Leora Molnar
Lucie Jones
Phoebe Dry
Rebecca Jolliffe
Rhiannon Chard
Sally Glanfield
Sarah Jane Griffiths
Vanessa John-Hall
Zoha Sohail

Soprano 2
Caroline Thomas
Carolyn Lee
Dee Cooke
Emily Hopkins
Esme Daniell-Greenhalgh
Frankie Ingall
Hannah Soares
Hannah Williams
Imogen Rowe
Isabel D’Avanzo
Kate Bidwell
Katherine Woolley
Margaret Lake
Melanie Taylor
Nia Emanuel
Pippa Johnson
Rhian Davies
Rhiannon Humphreys
Rhianwen Hallows
Rosie Moore
Samar Small
Sarah Clinch
Sinead Gallagher
Tory Martin

Alto 1
Alison Davies
Amy Roberts
Atiyeh Dast Afkan
Catherine Bradfield
Heather Price
Joy Dando
Julie Ellen Thornton
Kate Reynolds
Kathrin Hammer
Lisa May
Naomi Hitchings
Rachel Farebrother
Sara Peacock
Sarah Roberts
Shanta Miller
Sophie Chick
Vicki Westwell
Zozi Sookanadenchetty

Alto 2
Alex Butler
Annette Hecht
Darcy Cole
Eleanor Prescott
Julie Wilcox
Max Keith
Sarah Willmott
Sian Schutz
Thomas Wilde

Tenor 1
Keith Davies
Nick Willmott
Oli Bourne
Orlando Vas

Tenor 2
Michael Willmott
Rhys Archer
Richard Shearman
Rory McIver
Phil Holtam
Roland George
Deryck Webb

Bas
Ben Pinnow
David Hoopkins
Ethan Davies
Jack Irwin
John Davies
Neil Schofield
Ben Hunt
Joshua Eatough
Lyndon Davies
Mike Osborn

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications