‘Grace’

Nos Iau 20/11/25, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Grace Williams
Baledi i’r Gerddorfa 18’

Elizabeth Maconchy
Serenata concertante 23’

EGWYL: 20 munud

Anna Semple
The Gates 10’

Julia Wolfe
Pretty 25’

Stephanie Childress arweinydd
Geneva Lewis ffidil

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Mae’r cyngerdd yn cael ei ddarlledu’n fyw gan BBC Radio 3 yn In Concert; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ól cael ei ddarlledu, drwy BBC Sounds, lle gallwch chi hefyd gael podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth.

Cyflwyniad

Croeso i’n cyngerdd heno, a’n digwyddiad blynyddol i ddathlu’r gyfansoddwraig arloesol o Gymraes, Grace Williams, gan osod ei cherddoriaeth yng nghyd-destun cyfansoddwyr benywaidd blaenllaw eraill. Ein harweinydd, yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf heno, yw Stephanie Childress, sy’n un o sêr y dyfodol yn ei maes.

Dechreuwn gyda gwaith Williams o 1968, Baledi, a gomisiynwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol, ac sy’n dangos ei meistrolaeth ar gymeriadu a lliwio cerddorfaol. Daeth Elizabeth Maconchy a Williams yn ffrindiau pan oeddent yn fyfyrwyr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Llundain, a choncerto i’r ffidil i bob pwrpas yw ei Serenataconcertante. I chwarae hon heno croesawn yr hynod dalentog Geneva Lewis, fu’n un o Artistiaid y Genhedlaeth Newydd gan BBC Radio 3.

Mae teitlau diddorol ar y ddau waith arall ar ein rhaglen – The Gates gan Anna Semple, sy’n trafod pwnc y cof ac atgofion, a’r ffyrdd y gallant ein twyllo. I gloi, cawn Pretty gan Julia Wolfe, dathliad egnïol o’r hyn mae bod yn ‘ddel’ yn ei olygu, a goblygiadau hynny.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Grace Williams (1906–77)

Baledi i’r Gerddorfa(1968)

1 Allegro moderato, alla canzone
2 Alla marcia solenne
3 Andante calmante
4 Allegro furioso

Comisiwn i’r Eisteddfod Genedlaethol oedd Baledi, a chafodd y gwaith ei berfformiad cyntaf yn yr Eisteddfod ar 10 Awst 1968 gan Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a Charles Groves, a hynny yn nhref enedigol Grace Williams, y Barri. Bwriad gwreiddiol Williams ar gyfer y comisiwn hwn oedd gosod baledi Cymraeg ar gyfer pedwar unawdydd lleisiol a cherddorfa, ond yn y pen draw penderfynodd gyfansoddi baledi i gerddorfa’n unig ar ôl methu dod o hyd i destunau addas. Mae’r darn sy’n deillio o hynny yn rhannu ambell nodwedd gyffredin â’i Phenillion cynharach (1955) – cyfresi cerddorfaol pedwar symudiad yw’r ddwy sy’n tynnu ysbrydoliaeth o draddodiad cerdd dant – ond yn Baledi mae Williams yn cyflwyno lliwiau newydd i’w harddull gerddorol rethregol ac yn gwneud defnydd mwy beiddgar o gyferbyniadau dramatig, rhwng y symudiadau ac o’u mewn.

Er nad oes gan y darn raglen benodol, gellid disgrifio’r faled agoriadol fel proclamasiwn mawreddog: yma, caiff yr alaw hynod addurniadol a gyflwynir gyntaf ar yr obo – alaw sy’n dwyn i gof ‘esgyniad a dirywiad dawn areithio’r Cymry’, yng ngeiriau’r cyfansoddwr – ei hailadrodd a’i hadleisio’n gywrain gan wahanol offerynnau. Mae naws ddifrifol ddwys i thema ymdeithgan araf yr ail faled ond yn raddol ceir mwy o firi a choegni wrth i’r symudiad fynd yn ei flaen. Dechreua’r drydedd faled gyda chaniad cloch ac alaw donnog ar y fiola sy’n awgrymu ein bod ar dir tawelach, ond torrir yr heddwch gan nodau jazz beiddgar ar y clarinét, ac wedyn ffanfferau ffyrnig gan yr offerynnau chwyth a phres, cyn dychwelyd i’r naws wreiddiol ar ôl eco byr o nodau’r clarinét. Yn y faled olaf (sylw cofiadwy Williams oedd ei bod yn debyg i ‘ddawns – neu dwrnament – neu helfa’) ceir cerddoriaeth lawn egni ffrwydrol a brwdfrydedd rhythmig, gyda phennod fwy myfyriol yn y canol yn cynnig ennyd o orffwys yng nghanol yr helfa.

Nodyn y rhaglen © Rhiannon Mathias

Elizabeth Maconchy (1907–94)

Serenata concertante (1962)

1 Lento – Andante con moto
2 Scherzo: Allegro molto
3 Andante con moto
4 Allegro vigoroso – Andante tranquillo

Geneva Lewisffidil

Magwyd Elizabeth Maconchy yng nghefn gwlad Iwerddon a dechreuodd ysgrifennu cerddoriaeth yn chwe mlwydd oed, gan astudio’n ddiweddarach gyda Vaughan Williams yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Anogodd hwnnw hi i ddilyn gyrfa mewn cyfansoddi a bu’r ddau’n ffrindiau drwy’u hoes, ond o ran arddull roedden nhw’n hollol wahanol. Denwyd Maconchy at foderniaeth cyfansoddwyr fel Bartók a Janáček, a bu hynny’n ysgogiad iddi deithio i Prâg i astudio gyda’r cyfansoddwr-arweinydd Karel Boleslav Jirák.

Bu canmol mawr i gyfres Maconchy, The Land, pan berfformiwyd hi yn y Proms ym 1930, gan lansio gyrfa fyddai’n cynnwys darlledu ei gwaith yn rheolaidd ar y BBC. Erbyn y 1960au roedd hi’n mwynhau cyfres o gomisiynau ar gyfer Cyngherddau Gwadd y BBC ar ddydd Iau, yn ogystal â chomisiwn gan Gerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, y Serenata concertante. Roedd Maconchy wedi bod yn canolbwyntio ar ysgrifennu operatig, ac fe ganfu mai ‘peth cwbl wahanol’ oedd dychwelyd at gyfansoddi offerynnol pur. Cafodd y gwaith ei ymarfer mewn YMCA yn Birmingham cyn ei berfformio am y tro cyntaf dan arweiniad Hugo Rignold gyda’r feiolinydd Manoug Parikian – sef yr unawdydd hefyd yn yr unig recordiad o’r gwaith. Ar ôl y perfformiad cyntaf, ysgrifennodd Maconchy at ei chyd-gyfansoddwraig Grace Williams – ffrind ers eu dyddiau coleg yn yr RCM – gan nodi bod ‘y gynulleidfa i’w gweld yn frwdfrydig iawn, oedd yn beth braf’.

Mae’r Serenataconcertante yn agor gyda ffanffer afaelgar ar yr utgorn cyn i weadau mwy cywrain ddatblygu: telyn, obo, yna’r ffidil unigol. Sefydlir motiffau yn gynnar sy’n darparu deunydd ar gyfer y gwaith cyfan. Mae’r hyn sy’n dilyn – gan gynnwys Scherzo prysur a symudiad araf hudolus – yn dangos ffordd hynod fedrus Maconchy o drin gwead a lliw. Caiff y motiffau eu pasio o offeryn i offeryn mewn modd sydd fel pe bai’n creu strwythur y gwaith yn organig, gan chwyddo a chilio, a rhan y ffidil weithiau dan yr wyneb, weithiau’n hedfan fry, gan ryddhau ffrwydradau o athrylith, cyn llithro i’r niwl yn y diwedd un.

Nodyn rhaglen © Joanna Wyld

EGWYL: 20 munud

Anna Semple (ganwyd 1997)

The Gates (2017)

Ysgrifennwyd The Gates yn 2017 ar gyfer Cerddorfa Malcolm Street yng Nghaergrawnt, ac fe’i sgoriwyd yn wreiddiol ar gyfer cerddorfa siambr fach ac utgorn oddi ar y llwyfan. Mae’r darn yn chwarae gyda’r syniad o gofio a pha mor oddrychol yw’r cof.

Daeth y teitl ei hun o ddarlun oedd gen i yn fy mhen o set enfawr o gatiau, a’r teimlad o symud i ffwrdd oddi wrthynt yn araf, gan geisio cofio’r union fanylion a methu gwneud hynny yn y pen draw, ond dal i gadw rhyw argraff o’r gwreiddiol pan oedd wedi mynd o’r golwg. Lled-unsain, dynwared ac yn wir, tebygrwydd – gwahaniaeth sydd wrth graidd pob un, ac roeddwn i eisiau archwilio’r elfennau hyn yn gerddorol i ddangos y goddrychedd hwn. Roeddwn i’n awyddus i adael y darn yn benagored – fel ffanffer rwy’n credu ei bod yn bwysig ei fod yn agor clustiau’r gwrandäwr i bosibiliadau’r hyn allai ddigwydd nesaf.

Nodyn y rhaglen © Anna Semple

Julia Wolfe (ganwyd 1958)

Pretty(2023)

Mae’r gair ‘pretty’ yn gymhleth mewn perthynas â menywod. Mae’n awgrymu bod yn ddeniadol heb unrhyw ymylon garw, heb gryfder na grym. Ac mae wedi gwasanaethu fel mesur o werth mewn ffyrdd rhyfedd, cyfyngedig a dinistriol. Mae ystyr llai melys i’r gair yn yr hen Saesneg, sef ‘cyfrwys, craff, clyfar’. Wrth i eiriau esblygu, daeth i gyfleu rhywbeth llawer meddalach. Dathliad cras yw Pretty gen i – yn cofleidio dycnwch ffidlan, rhythmau diddiwedd gwaith, ac wedi’i ysbrydoli gan ystumiadau ac atseiniau roc a rôl.

Nodyn y rhaglen © Julia Wolfe

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Os ydych chi wedi mwynhau’r cyngerdd Heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’r cyngerdd hwn sydd ar y gweill. Fel aelod cyfredol o’r gynulleidfa, cewch brynu tocynnau ar ei gyfer am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.

Campweithau a Dylanwadau

Nos Iau 27/11/25, 7.30pm
Hoddinott y BBC, Caerdydd

María Huld Markan Sigfúsdóttir Oceanspremière y DU
Barber Concerto i’r Ffidil 
Respighi Rossiniana
Rossini William Tell – agorawd

Nil Venditti arweinydd
Stella Chen ffidil

LLIWGAR | ARGRAFFIADOL | ERGYDIOL

Mae Nil Venditti yn dychwelyd i Neuadd Hoddinott y BBC fis Tachwedd eleni gyda rhaglen yn cynnwys Respighi a Rossini, y tro hwn gyda’r Concerto eiconig i’r Ffidil gan Barber a’r perfformiad cyntaf yn y DU o Oceans María Huld Markan Sigfúsdóttir.

Cafodd Concerto i’r Ffidil gan Barber ei ysgrifennu yn yr 1930s, ar adeg pan oedd digyweiredd yn cystadlu am sylw gydag arddulliau mwy traddodiadol, ac roedd cyfoeth ei alawon yn plesio. Mae meistrolaeth danbaid yn cydbwyso themâu ymehangol sydd weithiau’n oriog. I berfformio’r unawd heno rydym ni’n falch iawn o groesawu Stella Chen. Yn Rossiniana, mae Respighi yn troi at gerddoriaeth Rossini fel awen iddo. Mae Respighi yn cymryd pedwar darn ar gyfer y piano o Pechodau Henaint Rossini ac yn eu hailweithio’n lliwgar yn gyfres gerddorfaol dwfn sy’n fywiog a mynegiannol – y cymar perffaith ar gyfer gwaith nad oes angen fawr o gyflwyniad arno – agorawd Rossini i William Tell.

Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw

Bywgraffiadau

Stephanie Childress arweinydd

Karolina Heller

Karolina Heller

Syniadau cryf, cyfathrebu clir ac egni canolbwyntiol – dyna rai o’r rhinweddau sy’n diffinio’r arweinydd Ffrengig-Brydeinig Stephanie Childress.

Daeth ei thymor 2024/25 i ben gyda’i hymddangosiadau cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni San Francisco, Houston a San Diego, ynghyd â dychwelyd at Gerddorfa Cleveland. Dechreuodd y tymor hwn gyda’i hymddangosiad cyntaf yn Ysgol Juilliard Efrog Newydd yn arwain Ail Symffoni Rachmaninov a phremière Efrog Newydd o Palette Anna Clyne. Mae hi’n parhau’n Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Symffoni Barcelona a Cherddorfa Genedlaethol Catalwnia gyda rhaglenni sy’n cynnwys Concerto Philip Glass i’r Ffidil, Symffoni Rhif 1 Sibelius a Symffoni Rhif 2 Schumann. Yr olaf o’r rhain yw’r cyntaf mewn archwiliad o weithiau symffonig Schumann a berfformir trwy gydol y tymor gyda Cherddorfa Symffoni Toronto, hr-Sinfonieorchester Frankfurt a Cherddorfa Minnesota. Mae hi’n arwain am y tro cyntaf hefyd gyda Cherddorfa Siambr Zurich a Cherddorfa Symffoni Adelaide. Fis Mehefin nesaf bydd hi’n gweithio gyda’r cyfarwyddwr Tom Morris ar ail-ddychmygu Symffoni Gyntaf Mahler yn St John’s Smith Square.

Yn y tymhorau diwethaf bu’n arwain Die Entführung aus dem Serail yn Staatsoper Hamburg a Don Giovanni a Priodas Figaro yn rhaglen hydref Glyndebourne. Mae hi’n eiriolwr dros opera gyfoes ac mae wedi arwain Breaking the Waves gan Missy Mazzoligydag Opera Detroit ac Ogres Simon Voseček yn Opera Wladwriaethol Prâg. Y tymor hwn mae’n arwain La traviata yn Opera Cenedlaethol y Ffindir.

Mae ganddi gysylltiadau cryf â’r byd diwylliannol yn Ffrainc ar ôl ennill ail wobr yng nghystadleuaeth arwain La Maestra yn 2020. Ers hynny, bu’n arwain yr Orchestre de Paris, Cerddorfa Mozart Paris, Cerddorfa Siambr Paris, Orchestre National d’Île de France ac Orchestre National de Montpellier ac mae’n gwneud ei hymddangosiad cyntaf gydag Orchestre National Bordeaux Aquitaine y tymor hwn.

Mae gan Stephanie Childress ddiddordeb brwd mewn rhaglenni cerddoriaeth ieuenctid, a chysylltiad agos â Sefydliad Gŵyl Gerdd Sun Valley, lle bu’n Arweinydd Cyswllt. Pan oedd dan hyfforddiant ei hun, gwasanaethodd fel Arweinydd Cynorthwyol i gerddorfa Symffoni St Louis o dan Stéphane Denève rhwng 2021 a 2023 ac roedd yn un o’r arweinwyr cyntaf i ymuno â’r Académie de l’Opéra national de Paris.

Geneva Lewis ffidil

Matthew Holler

Matthew Holler

Mae’r feiolinydd Americanaidd sy’n wreiddiol o Seland Newydd, Geneva Lewis, wedi creu enw da iddi’i hun fel cerddor o ddawn arbennig gyda pherfformiadau o’r galon.

Roedd hi’n un o Artistiaid y Genhedlaeth Newydd gan BBC Radio 3 (2022–24) a derbyniodd Wobr Ymddiriedolaeth Borletti-Buitoni 2022 a Grant Gyrfa Avery Fisher 2021, ymhlith gwobrau eraill.

Yn 2023 gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf yn y BBC Proms yn y Royal Albert Hall gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Jaime Martín. Mae wedi cydweithio hefyd gyda cherddorfeydd Symffoni’r BBC a BBC yr Alban, Orchestre National de Bordeaux Aquitaine, Cerddorfa Ffilharmonia Auckland, Cerddorfa Siambr yr Alban, Orquestra Filarmonica de Minas Gerais a cherddorfeydd Symffoni Atlanta, Indianapolis a Vancouver.

Y tymor hwn bydd yn perfformio gyda cherddorfeydd Symffoni Kremerata Baltica, Baltimore, San Diego, Santa Rosa ac Utah, Cerddorfa Dinas Granada a cherddorfeydd Ffilharmonig Czěstochowska a Jalisco.

Mae cerddoriaeth siambr yn elfen bwysig o’i gwaith a bu’n gweithio gyda cherddorion blaenllaw gan gynnwys Jonathan Biss, Glenn Dicterow, Miriam Fried, Kim Kashkashian, Gidon Kremer a’r Fonesig Mitsuko Uchida. Perfformiodd mewn lleoliadau a gwyliau fel Neuadd Wigmore, Concertgebouw Amsterdam, Gŵyl Gerdd Marlboro, Gŵyl Kronberg, Cymdeithas Cerddoriaeth Siambr Philadelphia, Ravinia a Chamberfest Cleveland.

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ensemble iddi gan Raglen Perfformiadau a Phartneriaethau Cymunedol y New England Conservatory, lle bu ei phedwarawd llinynnol wrthi’n creu rhaglenni addysgol rhyngweithiol i gynulleidfaoedd ledled Boston. Dewiswyd y pedwarawd hefyd ar gyfer Preswyliad Gŵyl Gelfyddydau Virginia, lle buont yn perfformio a chyflwyno dosbarthiadau meistr mewn ysgolion elfennol, canolradd ac uwchradd.

Derbyniodd ei Diploma Artist o’r New England Conservatory, lle bu’n astudio gyda Miriam Fried, cyn mynd ymlaen i astudio gyda Mihaela Martin yn Academi Kronberg.

Ar hyn o bryd mae Geneva Lewis yn perfformio ar ffidil gyfansawdd gan Giovanni Battista Guadagnini, c.1776; benthyciad hael gan ymddiriedolaeth elusennol.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lucy Gould ‡  
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Žanete Uškāne
Ruth Heney **
Kerry Gordon-Smith
Carmel Barber
Alejandro Trigo
Anna Cleworth
Zhivko Georgiev
Gary George Veale
Grace Shepherd

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Ros Butler
Sheila Smith
Katherine Miller
Beverley Wescott
Michael Topping
Roussanka Karatchivieva
Joseph Williams
Lydia Caines **
Vickie Ringguth
Laurence Kempton

Fiolâu
Rebecca Jones *
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Lydia Abell
Catherine Palmer
Lowri Taffinder
Anna Growns
Robert Gibbons
Laura Sinnerton
Dáire Roberts

Soddgrythau
Pedro Silva 
Raphael Lang
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Alistair Howes
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Phoebe Clarke
Emma Prince
Christopher Wescott
Thea Sayer
Nathan Perry

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Luiz De Campos 

Cor anglais
Luiz De Campos 

Clarinetau
William White
Rae Todd
Lenny Sayers +

Clarinét Bas
Lenny Sayers †+

Baswnau
Tammy Thorn
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
John Davy
Meilyr Hughes
Tom Taffinder
Flora Bain
Dave Ransom

Utgyrn
Corey Morris †
Robert Samuel
Rob Johnston

Trombonau
Donal Bannister*
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Richard Evans

Timpani
Chris Thomas

Offrynnau Taro
Phil Girling
Phil Hughes
Rhydian Griffiths

Y Delyn
Deian Rowlands

Piano
Catherine Roe Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Prentis Marchnata Mya Clayden
Cynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications