

Gwawr o Gyrn
Nos Iau 13/11/25, 7.30pm
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Nos Wener 14/11/25, 7.30pm
Neuadd Prichard-Jones, Bangor

Ida Moberg
Cyfres Codiad Haul 21’
Huw Watkins
Concerto i’r Corn 20’
EGWYL: 20 munud
Wolfgang Amadeus Mozart
Concerto Rhif 4 i’r Corn yn E feddalnod fwyaf 16’
Jean Sibelius
Symffoni Rhif 5 yn E feddalnod fwyaf 30’
Ryan Bancroft arweinydd
Ben Goldscheider corn
Mae’r cyngerdd yn Aberystwyth yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu ar raglen Classical Live yn y dyfodol; ac mae’r cyngerdd ym Mangor yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar In Concert. Byddant ar gael am 30 diwrnod ar ôl eu darlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Croeso i’n cyngerdd heno, lle cawn y pleser o groesawu’n Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn ôl i gyflwyno rhaglen sy’n dathlu’r Ffindir a’r corn Ffrengig.
Yma i chwarae nid un ond dau goncerto i’r corn mae Ben Goldscheider, sy’n dal yn ei ugeiniau ond eisoes yn seren lachar yn y byd cerddorol. Ysgrifennodd Huw Watkins ei goncerto yn arbennig ar ei gyfer, wedi’i ysbrydoli gan ei feistrolaeth a’i ddawn delynegol ar yr offeryn. Ac mae Pedwerydd Concerto poblogaidd Mozart i’r Corn yn ffefryn ymhlith cerddorion a chynulleidfaoedd fel ei gilydd ers blynyddoedd.
Darn hynod boblogaidd arall yw Pumed Symffoni Sibelius, sy’n llwyddo beidio â dangos unrhyw olion o’r trafferth a gafodd y cyfansoddwr i’w hysgrifennu. Ynddi, mae Sibelius yn ymhyfrydu yn harddwch a rhinweddau epig y byd naturiol o’i gwmpas. A chawn ddechrau’r noson yn y Ffindir hefyd, gyda’r gyfres hudolus Codiad Haul gan Ida Moberg, ffigwr sy’n haeddu bod yn llawer mwy adnabyddus ac a fu’n astudio gyda Sibelius.
Mwynhewch!
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Ida Moberg (1859–1947)
Cyfres Codiad Haul (1908)

1 Codiad Haul
2 Preliwd – Gweithgarwch
3 Hwyrnos
4 Tawelwch – Si-lwli
Byddai’r rhai ffodus hynny a gafodd fynediad i Sefydliad Cerdd Helsinki yn y 1910au wedi bod yn fwy ffodus fyth o ganfod eu hunain yn nosbarth Ida Moberg. A hithau newydd adael Dresden a thiwtoriaeth Émile Jaques-Dalcroze – arloeswr y dull ‘ewrhythmeg’ mewn addysg gerddoriaeth – cyflwynai Moberg syniadau newydd cryf i do newydd o gerddorion y Ffindir; syniadau a fyddai’n dylanwadu arnynt ac yn eu hysbrydoli.
Menyw ddewr, arloesol a phenderfynol oedd Moberg, y cyfeirir ati weithiau fel ‘symffonydd benywaidd cyntaf’ y Ffindir. Fe’i ganed yn Helsinki, ac astudiodd y piano a chanu yng Nghonservatoire St Petersburg cyn troi at gyfansoddi ar ôl dioddef anaf i’w llais. Ymhen pedair blynedd dychwelodd i Helsinki, ac un o’i hathrawon yno oedd Jean Sibelius, oedd chwe blynedd yn iau na hi.
Roedd Moberg wedi ymddiddori ers tro yn y syniad o gerddoriaeth seiliedig ar symudiad y corff. Felly symudodd yn y 1910au i Dresden lle roedd Jaques-Dalcroze yn cyflwyno’i athroniaeth o ddychmygu’r corff dynol fel offeryn cerdd wedi’i diwnio’n dda. Cymerodd Moberg ddiddordeb hefyd mewn theosoffi – y syniad o gelfyddyd fel porth i fyd ysbrydol trosgynnol – ac fe’i swynwyd gan y Symbolwyr a’r Argraffiadwyr cerddorol, oedd yn adnabyddus am ddarnau cerddorfaol hynod o atmosfferig. I Moberg, roedd pob gwaith cerddorfaol – hyd yn oed ei choncerto i’r ffidil – i’w osod yng nghategori cathl symffonig.
Os yw’r cymysgedd hwnnw o syniadaethau athronyddol yn swnio’n ddryslyd, mae cyfres Moberg dan y pennawd Swedeg Soluppgång (‘Codiad Haul’) yn ddarlun taclus o’u heffaith ar ei cherddoriaeth tra hefyd yn gymorth i esbonio effeithiolrwydd y gerddoriaeth honno.
I bob golwg, yr hyn a geir yn y gwaith yw disgrifiad o ddiwrnod mewn pedwar symudiad: codiad haul, gweithgarwch, gyda’r nos a thawelwch (mae’r olaf o’r rhain yn defnyddio alaw si-lwli a gyfansoddwyd yn wreiddiol gan Moberg ar gyfer ei hopera ar fywyd Bwdha, Asiens Ljus). Ar yr un pryd mae’n olrhain deffroad ysbrydol ac efallai hynt bywyd, gan gyfleu teimlad sicr o symudiad corfforol o gryniadau cyntaf ei symudiad agoriadol.
Mae’r symudiad hwnnw, ‘Codiad haul’ y teitl, yn ymledu’n raddol – fel corff yn ystwyrian ac yn deffro: yr haul yn gwawrio dros y gorwel, efallai. Mae’r disgleirdeb ysgubol a sefydlir yma yn cario drosodd i weddill y darn. Moberg ei hun a arweiniodd y perfformiad cyntaf o’r gwaith yn Vyborg ym 1908.
Nodyn y rhaglen © Andrew Mellor
Huw Watkins (ganwyd 1976)
Concerto i’r Corn (2023)

Cwrddais â Ben gyntaf yn 2020, pan oedd yntau’n chwarae fy Nhrio dieflig o anodd i’r Corn gyda dau gyfaill. Gofynnodd a wnawn i ysgrifennu darn newydd iddo; galargan, ar gyfer corn a phiano, ac fe recordion ni’r darn yr haf hwnnw. Cefais fy nharo nid yn unig gan ei feistrolaeth ddiymdrech ar yr offeryn, ond gan harddwch a thelynegiaeth ei sain; felly pan gododd y cyfle i ysgrifennu concerto iddo, fe’i bachais yn syth.
Yn y symudiad cyntaf, caiff corn athletaidd, llawn neidiau wythfed a gweithgarwch allblyg, ei annog yn ei flaen gan gerddorfa brysur, gyflym. Mae’r ail symudiad yn llawer mwy myfyriol, a chân hiraethus y corn yn derbyn cysur gan obo unig. Dechreua’r symudiad olaf yn dawel, wrth i glarinét sionc gyflwyno dawns fywiog mewn amser triphlyg. Daw’r corn i mewn, yn ddistaw bach i ddechrau, cyn annog y gerddorfa gyfan i ymuno mewn dathliad gwyllt.
Nodyn y rhaglen © Huw Watkins
EGWYL: 20 munud
Wolfgang Amadeus Mozart (1756–91)
Concerto Rhif 4 i’r Corn yn E feddalnod fwyaf, K495 (1786)

1 Allegro maestoso
2 Romance: Andante cantabile
3 Rondo: Allegro vivace
Ben Goldscheidercorn
Pedwerydd Concerto Mozart i’r Corn yw un o’r gweithiau mwyaf poblogaidd yn y repertoire i gorn unigol, ac mae’n sefyll fel conglfaen ymhlith concerti chwyth Clasurol. Fe’i cyfansoddwyd ym 1786 ar gyfer Joseph Leutgeb o Fienna, meistr ar y corn a hen ffrind i’r teulu Mozart.
Erbyn 1786 roedd Mozart wedi cyrraedd uchafbwynt creadigol. Yn 30 oed, roedd yn mwynhau cyfnod mwyaf sefydlog ei yrfa yn Fienna, yn prysur ennill amlygrwydd yn llys Ymerawdwr Awstria, Joseff II, ac roedd galw mawr amdano fel cyfansoddwr a pherfformiwr llawrydd. Yn ogystal â’r concerto hwn, cwblhaodd Briodas Figaro,tri choncerto piano (Rhifau 23–25), Symffoni ‘Prâg’ a chyfoeth o weithiau siambr.
Erbyn hyn, roedd Mozart eisoes wedi cyfansoddi dau goncerto i’r corn ar gyfer Leutgeb (Rhifau 2 a 3). Y pedwerydd yw’r enwocaf o’r set, yn dwyn yr is-deitl ‘Concerto corn hela i Leutgeb’. Mae’n arddangos cwmpas mynegiannol a disgleirdeb technegol y corn naturiol – offeryn heb falfiau modern, oedd yn dibynnu ar sgìl y chwaraewr wrth atal â llaw i chwarae adrannau cromatig.
Roedd y berthynas rhwng y cyfansoddwr a’r unawdydd yn un gyfeillgar a direidus, fel y gwelir yn glir o’r llawysgrif wreiddiol, sy’n llawn nodiadau ffraeth a bachog mewn pedwar lliw inc gwahanol. Trwy gydol y sgôr ceir cyfarwyddiadau camarweiniol i’r chwaraewr, a sylwadau pryfoclyd fel ‘ych’, ‘ffŵl’ a ‘y mul Leutgeb’.
Allegro maestoso swynol yn E feddalnod fwyaf yw’r symudiad agoriadol, yn gyforiog o alawon hyfryd, neidiau tonyddol mawr ac adrannau llanw technegol heriol. Mae’r ail symudiad araf a thyner yn gwahodd yr unawdydd i archwilio cwmpas telynegol y corn, â’i ffurfiau bwa melodig dyrchafol a’i bwyslais ar harddwch sain. Rondo bywiog, ysgafn a ffraeth yw’r symudiad olaf: diweddglo gorfoleddus ar ffurf helfa gerddorol chwareus, sy’n talu teyrnged i wreiddiau helwriaethol y corn.
Nodyn y rhaglen © Branwen Thistlewood
Jean Sibelius (1865–1957)
Symffoni Rhif 5 yn E feddalnod fwyaf, Op. 82(1914–15, adol. 1916, 1919)

1 Tempo molto moderato – Allegro moderato
2 Andante mosso, quasi allegretto
3 Allegro molto
Roedd y cyfansoddwr o’r Ffindir Jean Sibelius yn enwog o hunanfeirniadol. Byddai’n llawn hyder un diwrnod ac anobaith drannoeth, gan fwrw ati’n aml i adolygu ei gyfansoddiadau’n helaeth. Ond hyd yn oed yn ôl safonau Sibelius, roedd ei waith ar y Bumed Symffoni yn eithafol. Dechreuodd ysgrifennu ym 1914 ond cafodd y darn ei adolygu nid unwaith ond ddwywaith. Roedd hwn yn gyfnod o newid cythryblus i Sibelius ac mae ansicrwydd y blynyddoedd hyn wedi’i adlewyrchu ym mhroses gyfansoddi estynedig y gwaith.
Cyrhaeddodd Sibelius ei 50 mlwydd oed ym 1915 ac fe arweiniodd y première o fersiwn gyntaf y symffoni ar ei ben-blwydd. Roedd yn poeni am fynd yn hen, ac mae ei ddyddiadur yn llawn cofnodion sy’n myfyrio ar y modd y gallai heneiddio effeithio ar ei greadigrwydd a’i fywyd personol. Roedd amgylchiadau allanol yn destun pryder parhaus hefyd. Roedd ei Bedwaredd Symffoni wedi cael derbyniad llugoer, felly roedd Sibelius yn poeni am ei safle fel cyfansoddwr rhyngwladol. Pan ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd ei wahanu oddi wrth ei ffrindiau a’i gydweithwyr Ewropeaidd, ac yna daeth Rhyfel Cartref y Ffindir ym 1918. Bu’r wlad yn Archddugiaeth o dan Rwsia hyd at 1917, pan enillwyd annibyniaeth a chychwyn brwydr fewnol am rym a chwalodd y genedl, gan effeithio’n fawr ar Sibelius a’i deulu.
Wrth reswm, roedd gorffen symffoni yng nghanol hyn i gyd yn teimlo’n dasg lethol. Yn ei ffurf derfynol, y Bumed Symffoni yw un o weithiau mwyaf amwys a diddorol Sibelius. Ar rai lefelau mae’n ddiedifar orfoleddus. Yn wyneb argyfwng, trodd Sibelius at natur. Mae’r symudiad agoriadol yn creu naws wanwynol, ac fe seiliodd thema ysgubol y symudiad olaf ar sŵn 16 o elyrch a welodd yn hedfan fry uwch ei ben yn Ebrill 1914. ‘Arglwydd Dduw, am harddwch!’ ysgrifennodd: ‘Thema diweddglo’r Bumed Symffoni’. Roedd Sibelius yn gweld cysylltiad uniongyrchol rhwng golwg a sŵn yr elyrch a’r thema a roddodd i’r cyrn, gan ddal rhyw elfen o symudiad yr adar ar yr adain.
Ac eto, dim ond un agwedd ar y gwaith yw hyn. Mae olion yr anghyseinedd a ddominyddai fersiwn gyntaf y symffoni yn dal yma yn y fersiwn derfynol, yn sleifio i mewn i’r symudiad cyntaf gan greu cysgodion bygythiol na chânt fyth eu sgubo i ffwrdd yn llwyr.
Ennyd o seibiant yw’r symudiad canol (Andante mosso), ond nid symudiad araf mohono mewn gwirionedd. Mae’n cadw’r momentwm, gan wthio ymlaen tuag at y symudiad olaf. Pan ddaw’r diwedd yn y pen draw, yr hyn a geir yw chwe chord olaf wedi’u hatalnodi gan agendorau mawr o ddistawrwydd llawn tensiwn. Does gan Sibelius ddim atebion hawdd inni yn y symffoni hon – efallai mai dyna un o’r rhesymau niferus dros ei phoblogrwydd parhaus hyd heddiw, dros ganrif ar ôl iddi gael ei chlywed gyntaf.
Nodyn y rhaglen © Leah Broad
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:
Os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’n cyngerdd nesaf. Fel un sydd eisoes yn aelod o’n cynulleidfa, gallwch brynu tocynnau am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.
‘Grace’
Nos Iau 20/11/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Grace Williams Ballads for Orchestra
Elizabeth Maconchy Serenata concertante
Anna Semple The Gates
Julia Wolfe Pretty
Stephanie Childressarweinydd
Geneva Lewis ffidil
ARLOESOL | FFRES | DARLUNIADOL
Fis Tachwedd, fel rhan o’n cyfres flynyddol ‘Grace’ sy’n archwilio cerddoriaeth Grace Williams a menywod modern ym myd cerddoriaeth, byddwn yn arddangos gwaith gan y cyfansoddwyr byw Anna Semple a Julia Wolfe, dan arweiniad Stephanie Childress.
Ysgrifennwyd The Gates gan Anna Semple ar gyfer Cerddorfa Malcolm Street, ac yma mae’n chwarae gyda’r syniadau o adalw a chofio – yn benodol, ceir yma ddehongliad cerddorol o weld delwedd o gatiau yn agos, ac yna’i hailddychmygu o bell, heb ei chofio’n union. Mae Pretty gan Julia Wolfe wedi’i ysbrydoli gan ystumiad a datseinedd cerddoriaeth roc a rôl, ac mae’n ddathliad croch o’r hyn mae’n ei olygu i fod yn ‘brydferth’.
Yn wahanol i’r repertoire a hysbysebwyd yn flaenorol, bydd BBC NOW yn perfformio Serenata concertante gan Elizabeth Maconchy, lle ceir cyferbyniad rhwng symudiadau telynegol, arafach a rhai mwy rhythmig ac egnïol.
Ond yn gyntaf, rydyn ni’n troi at y sawl a roddodd ei henw i’r gyfres, Grace, a’i gwaith Ballads for Orchestra.
Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw
Bywgraffiadau
Ryan Bancroft arweinydd
Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf yn 2018 pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, bu’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae hefyd yn Artist Cyswllt gyda’r Tapiola Sinfonietta ac, ers mis Medi 2023, mae wedi bod yn Brif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm.
Ar ôl dechrau ar ei gyfnod fel Prif Arweinydd yn Stockholm gyda pherfformiad cyntaf y gerddorfa o The High Mass gan Sven-David Sandström, roedd ei ail dymor wedi cynnwys perfformiadau o symffonïau gan Mahler a Bruckner, ochr yn ochr â’r perfformiadau cyntaf erioed o weithiau gan Chrichan Larson a Zacharias Wolfe, a chydweithrediadau gydag unawdwyr enwog gan gynnwys Leif Ove Andsnes, Maxim Vengerov a Vikingur Ólafsson.
Y tymor hwn, mae wedi ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Radio Boston a’r Ffindir, Deutsches Symphonie-Orchester Berlin yn y Berlin Philharmonie, a’r WDR Symphonieorchester yn Cologne.
Mae Ryan Bancroft yn frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble yn Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, John Cage, James Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio gyda cherddorion byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden. Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban, ac yn yr Iseldiroedd.
Ben Goldscheidercorn
Kaupo Kikkas
Kaupo Kikkas
Mae Ben Goldscheider wedi perfformio dros 50 o weithiau newydd i’r corn am y tro cyntaf, yn goncerti, unawdau, darnau siambr, a phrosiectau traws-genre, gan gynnwys gwaith sy’n ymgorffori electroneg fyw a goleuadau.
Y tymor hwn mae’n perfformio premières byd Sirens gan Anna Clyne gyda’r London Mozart Players, a Concerto Laurence Osborn i’r Corn gyda Manchester Camerata. Mae hefyd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Ffilharmonig Magdeburg a Christian Øland i berfformio Concerto Gavin Higgins i’r Corn.
Ymhlith uchafbwyntiau diweddar cafwyd première byd Concerto Brian Elias i’r Corn gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC yng Ngŵyl Aldeburgh, y perfformiad cyntaf yn Iwerddon o goncerto Higgins gyda Cherddorfa Ulster a pherfformiadau gyda Cherddorfa Ffilharmonig Tokyo a Cherddorfa Siambr Aichi.
Mae wedi rhoi datganiadau mewn neuaddau cyngerdd mawr ledled Ewrop, gan gynnwys Concertgebouw Amsterdam, Elbphilharmonie Hamburg, Kölner Philharmonie, Musikverein Wien, Pierre Boulez Saal Berlin, Southbank Centre, a Wigmore Hall.
Mae hefyd yn gerddor siambr ymroddedig ac wedi cydweithio ag artistiaid blaenllaw, gan gynnwys Daniel Barenboim, Martha Argerich, Sergei Babayan, Kirill Gerstein, Denis Kozhukhin, Sunwook Kim, Clara Jumi-Kang, ac Allan Clayton mewn gwyliau fel Verbier, Salzburg, Jerusalem, Intonations (Berlin), a Barenboim (Buenos Aires). Perfformiodd ddatganiadau gyda Michael Barenboim, Syr Stephen Hough, Tom Poster, Benjamin Baker, Giuseppe Guarrera a Richard Uttley, ac mae’n aelod o’r Kaleidoscope Chamber Collective. Eleni bu’n Artist Preswyl yng Ngŵyl Gerdd Barnes. Ymhlith yr uchafbwyntiau sydd i ddod mae dychwelyd i’r Unol Daleithiau gyda Camerata Pacifica yn Santa Barbara a chyngerdd yn y Boulez Saal gydag Alina Ibragimova a Dénes Várjon, yn ogystal â rhaglen o weithiau ar gyfer corn ac electroneg.
Mae ei recordiadau yn cynnwys Legacy: A Tribute to Dennis Brain, gyda gweithiau newydd gan Huw Watkins a Roxanna Panufnik, ac albwm o goncerti unawdol gyda Cherddorfa Philharmonia.
Mae’n Brif Gorn y West-Eastern Divan Orchestra ac yn Brif Chwaraewr Camerata Pacifica. Mae hefyd yn aelod o’r Boulez Ensemble. Mae’n athro yn Ysgol Gerdd Frenhinol Antwerp ac yn gwasanaethu fel Artist Cyswllt yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Ganed Ben Goldscheider yn Llundain ym 1997 ac astudiodd yn Adran Iau y Coleg Cerdd Brenhinol cyn cwblhau ei astudiaethau gydag anrhydedd yn 2020 yn Academi Barenboim-Said yn Berlin. Roedd yn enillydd gwobr yng Nghlyweliadau Rhyngwladol YCAT 2019, cyrhaeddodd rownd derfynol y concerto yng Nghystadleuaeth Cerddor Ifanc y BBC 2016, a chafodd ei enwebu gan y Barbican fel un o Sêr Newydd ECHO ar gyfer tymor 2021/22.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.
Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf Lesley Hatfield blaenwr
Amanda Lake
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Terry Porteus
Suzanne Casey
Juan Gonzalez
Žanete Uškāne
Emilie Godden
Ruth Heney **
Carmel Barber
Alejandro Trigo
Anna Cleworth
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Ros Butler
Sheila Smith
Michael Topping
Katherine Miller
Lydia Caines **
Beverley Wescott
Vickie Ringguth
Roussanka Karatchivieva
Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Catherine Palmer
Anna Growns
Lydia Abell
Laura Sinnerton
Robert Gibbons
Soddgrythau
Morwenna Del Mar ‡
Raphael Lang
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Alistair Howes
Rachel Ford
Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Emma Prince
Christopher Wescott
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Clarinetau
Nicholas Carpenter *
William White
Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Rhiannon Carmichael
Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Edward Griffiths
Flora Bain
John Davy
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †
Trombonau
Donal Bannister*
Dafydd Thomas †
Trombôn Bas
Darren Smith †
Timpani
Steve Barnard *
* Prif Offerynnwr yr Adran† Prif Offerynnwr‡ Prif Offerynnwr Gwadd# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyolRoedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Prentis Marchnata Mya ClaydenCynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications



