Rhamant a Chwyldro
9 a 10 Mehefin 2022, 7.30pm

William Walton
Concerto i’r Soddgrwth 30’
EGWYL: 20 munud
Dmitry Shostakovich
Symffoni Rhif 10 yn E leiaf 57’
Ryan Bancroft arweinydd
Steven Isserlis soddgrwth

Mae’r cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol yn ‘Afternoon Concert’. Gellir ei ffrydio neu ei lawrlwytho am 30 diwrnod ar ôl y darllediad drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a cherddoriaeth amrywiol. Ewch i bbc.co.uk/now i gael mwy o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.
Cyflwyniad
Mae’r cyngerdd heno yn nodi diwedd y prif dymor yma yng Nghymru (er bod un arall yn Neuadd Hoddinott y BBC ar 23 Mehefin) ac rydym yn falch o groesawu’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn ôl ar gyfer dau gampwaith mawr.
Mae Concerto William Walton i’r soddgrwth yn un o drysorau diamheuol y repertoire, ac yn llawn telynegiaeth ac angerdd fel ei gilydd. Wrth ysgrifennu’r darn, gofynnodd y cyfansoddwr am gyngor y chwaraewr soddgrwth o fri Gregor Piatigorsky, ac iddo ef y cyflwynwyd y gwaith. Yr unawdydd heno yw Steven Isserlis, artist sydd wedi rhoi ei stamp ei hun ar y concerto, yn y neuadd gyngerdd ac yn y stiwdio recordio.
Dim ond pedair blynedd yn hŷn na concerto Walton yw 10fed Symffoni Shostakovich, ond mae’r sain yn gwbl wahanol. Ac eto, mae’n bosibl nad yw hynny’n syndod, o gofio bod Shostakovich yn byw dan gyfundrefn ormesol iawn ar y pryd. Dim ond ar ôl marwolaeth Stalin y mentrodd ddatgelu gwaith mwy cywrain a phwerus nag unrhyw beth arall a gyfansoddodd, ond sydd hefyd ag amwysedd emosiynol wrth wraidd y symffoni, ac wedi arwain at ddehongliadau di-rif.
Diolch am ymuno â ni. Gobeithio y gwnewch fwynhau’r cyngerdd ac edrychaf ymlaen at eich croesawu yn ôl y tymor nesaf, a fydd yn cael ei lansio ym mis Gorffennaf.
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
William Walton (1902–83)
Concerto i’r Soddgrwth (1955–6)

1 Moderato
2 Allegro appassionato
3 Tema ed improvvisazioni [Thema a darnau byrfyfyr]
Steven Isserlis soddgrwth
Y farn ramantaidd am hanes cerddoriaeth yw bod y cyfansoddwr gwirioneddol wreiddiol yn dychryn pawb i ddechrau â’i newydd-deb heriol, ond yn cael ei gyfiawnhau yn ddiweddarach gan genedlaethau’r dyfodol. Ond yn ail haner yr 20fed ganrif dechreuodd y broses newid i’r gwrthwyneb. Mae Concerto William Walton i’r Soddgrwth yn enghraifft wych o hyn. Roedd Walton wedi cael ei alw’n fodernydd herfeiddiol pan oedd yn ifanc, ond yn raddol datblygodd yn Rhamantydd tyner-galon, a oedd yn llawer mwy tueddol o gyfareddu a hudo na’i gyfoedion, Benjamin Britten a Michael Tippett. Ym mherfformiad cyhoeddus cyntaf y concerto yn 1957, dywedodd un beirniad sarrug na fyddai’r concerto yn ‘dychryn modryb oedrannus’, a chyfeiriodd beirniad arall at waith Walton fel enghraifft o ‘farweidd-dra’ creadigol. Ond roedd y chwaraewr soddgrwth disglair Gregor Piatigorsky, y gŵr y cyflwynwyd y gwaith iddo, yn rhagweld y byddai’r gwaith yn cael ei berfformio gan chwaraewyr soddgrwth ar hyd a lled y byd ymhen blynyddoedd. A gwireddwyd ei eiriau.
Roedd Piatigorsky o gymorth mawr i Walton yn ystod y broses gyfansoddi hefyd. Roedd y ddau’n cysylltu â’i gilydd, drwy lythyr yn bennaf, ac roedd sylwadau hynod galonogol Piatigorsky yn hwb mawr i Walton (er y gallai fod yn feirniadol hefyd). Ond roedd un pwynt yr oedd Walton yn anghytuno â’r chwaraewr soddgrwth yn ei gylch: roedd ar Piatigorsky eisiau diweddglo mwy cynhyrfus a mawreddog, ond penderfynodd y cyfansoddwr gadw ei goda tawel, â’i oleuni hudolus, ac ymhen amser mae perfformwyr a sylwebwyr wedi dod i gytuno ag ef. Mae lliw ac awyrgylch arbennig yn y Concerto hwn, ac mae llawer yn credu ei fod yn adlewyrchu naws ynys Eidalaidd Ischia a ddaeth yn gartref i Walton yn y diwedd. I’r chwaraewr soddgrwth Almaenaidd Daniel Müller-Schott mae’n adlewyrchu ‘pelydrau aur yr haul, gwahanol liwiau golau [yr ynys], tonau glas y môr ac arogl yr heli’ ag ‘uniongyrchedd anghyffredin.’ Mae hynny’n arbennig o wir am y diweddglo hudolus.
Fel concertos Walton i’r feiolin a’r fiola, mae’r concerto hwn mewn tri symudiad. Mae’r Concerto i’r Soddgrwth yn cychwyn â llewyrch y gweadau cerddorfaol, cord fibraffon gwresog a ffigurau tic-toc meddal ar linynnau sy’n cael eu plycio, a’r soddgrwth yn canu alaw deimladwy, hir uwch eu pennau. Mae’r angerdd yn cynyddu yn yr adran ganol sydd ychydig yn fwy bywiog, ond yn ymdawelu â dychweliad hyfryd y thema gyntaf, wedi’i saernïo’n hyfryd, a’r ffigurau tic-toc ar y chwythbrennau y tro hwn.
Ar yr olwg gyntaf mae’r ail symudiad yn ymddangos fel arddangosfa dân gwyllt, sy’n weddol nodweddiadol o Walton, ond mae telynegiaeth ac angerdd yn ymwthio i’r amlwg o hyd.
Yna mae’r finale yn cyflwyno thema i ni ar soddgrwth â mudydd, â chyfeiliant cynnil, ac ar ôl unawd soddgrwth dywyll, synfyfyriol, ceir pedwar ‘darn byrfyfyr’ gwrthgyferbyniol iawn ar y thema hon, yr ail a’r pedwerydd yn ddarnau arddangos trawiadol i soddgrwth digyfeiliant. (Roedd cyfraniad Piatigorsky yn werthfawr iawn yma.) Ar y diwedd, fodd bynnag, mae thema gyntaf y concerto yn dychwelyd, â seiniau pêr telyn a selesta wedi’u hychwanegu yn awr. Y tro hwn mae telynegiaeth fwaol y soddgrwth yn gostwng yn raddol ar y diwedd, i lawr i linyn isaf yr offeryn (C), ac â’r sain hon, yn pylu’n araf, y daw’r gwaith i ben.
EGWYL: 20 munud
Dmitry Shostakovich (1906–75)
Symffoni Rhif 10 yn E leiaf,
Op. 93 (1953)

1 Moderato
2 Allegro
3 Allegretto
4 Andante – Allegro
Ysgrifennodd Dmitry Shostakovich ei 10fed Symffoni ar un o adegau isaf ei yrfa amrywiol. Cafodd ei ddyrchafu i statws arwr cenedlaethol yn dilyn gorfoledd Symffoni ‘Leningrad’ yng nghyfnod y rhyfel (Rhif 7, 1941), ac roedd yn dal i gael ei ganmol ar ôl i’r Wythfed lawer tywyllach ymddangos ddwy flynedd yn ddiweddarach, ond collodd lawer o barch â’i Nawfed Symffoni led-ddisylwedd, led-ddychanol dywyll yn 1945 – nid y Nawfed corawl arwrol yr oedd y wasg Sofietaidd wedi arwain pawb i’w disgwyl o bell ffordd. Cyfeiriwyd at ei methiant honedig pan feirniadwyd Shostakovich yn hallt yng Nghyngres Gyntaf Undeb y Cyfansoddwyr yn 1948.
Sylweddolodd Shostakovich yn fuan, am y tro o leiaf, bod yn rhaid i gyfansoddi ‘o ddifri’ fod ar gyfer drôr y ddesg yn unig. Wrth wrando ar y 10fed Symffoni, nid yw’n anodd gweld pam ei fod yn credu y byddai’n ddoeth dal y sgôr yn ôl. Mae naws bruddglwyfus i’r rhan fwyaf o’r darn. Mae galar a chynddaredd yn codi’n ddigamsyniol yn uchafbwynt canolog pwerus y symudiad cyntaf a thrwy gydol yr ail llifeiriol, tra mae’r trydydd yn llawn o’r math o hiwmor enigmatig, swta y cafodd ei gystwyo o’i herwydd yn gynharach.
Ond pan gafodd y 10fed Symffoni ei chlywed am y tro cyntaf, naw mis ar ôl marwolaeth Stalin ym mis Mawrth 1953, yr hyn a drawodd llawer o’r beirniaid oedd y ffordd ryfeddol yr oedd yn cael ei chynnal fel dadl gerddorol. Er y dwyster mawr, dirdynnol ar adegau, mae’r symudiad cyntaf wedi’i strwythuro ag anocheledd medrus, a chyfunir telynegiaeth deimladwy â gwrthbwynt cymhleth, sy’n ein hatgoffa o arddull Bach, na welwyd ei debyg yng ngweithiau symffonig cynharach Shostakovich. Y rhan fwyaf o’r amser defnyddir y palet cerddorfaol yn gynnil, ac oherwydd hyn mae’r seiniau y tynnir sylw atynt yn sefyll allan: unawd clarinét yn canu’r brif thema gyntaf ar ôl cyflwyniad tywyll gan y llinynnau yn unig, ffliwt isel yn yr ail thema a sain bythgofiadwy dau bicolo yn cydblethu’n ysgafn yn y coda.
Mae’r ail symudiad Allegro ffrwydrol ond hynod gryno yn rhaeadr o gynddaredd gwyllt, ond mae hefyd yn rhyfeddol o gyffrous – gwefr rhyddhad cathartig?
Yna yng nghysgodion yr Allegretto, sy’n debyg i ddawns, clywn ddau fotiff sydd ag arwyddocâd cryptig arbennig. Mae’r motiff pedwar nodyn a gyflwynir gan chwythbrennau uchel ag offerynnau taro yn sillafu’r nodau D–E feddalnod–C–B, sydd mewn nodiant Almaenaidd yn cynrychioli D–Ess–C–H, h.y. llythrennau enw Shostakovich ei hun (D. Sch). Mae’r ffigur corn unigol trawiadol sy’n torri ar draws y ddawns yn sillafu’n ddyfeisgar enw un o fyfyrwyr Shostakovich, Elmira Nazirova, merch yr oedd mewn cariad â hi ar y pryd – er nad oedd hi’n rhannu’r un teimladau tuag ato ef mae’n debyg.
Ar y dechrau mae cyflwyniad araf y finale yn dod â ni’n ôl i fewnsylliad gaeafol. Yna’n sydyn trawsnewidir ffigur ffliwt ymlusgol yn ddawns Allegro sionc, cywair mwyaf, llawn egni, â D–S–C–H yn dychwelyd mewn undod aruthrol yn yr uchafbwynt. Mae’r motiff hwn yn parhau tua’r diwedd (cyrn uchel yna tympanau’n diasbedain), gan seinio drwy’r gerddoriaeth dawns orffwyll. Gadewir i’r gwrandäwr benderfynu ai buddugoliaeth sydd yma ynteu rywbeth llawer tywyllach a mwy amwys.
Nodiadau’r rhaglen © Stephen Johnson
Mae Stephen Johnson wedi ysgrifennu llyfrau ar Bruckner, Wagner, Mahler a Shostakovich, ac mae’n gyfrannwr rheolaidd i ‘BBC Music Magazine’. Am 14 blynedd roedd yn gyflwynydd ‘Discovering Music’ ar BBC Radio 3. Erbyn hyn mae’n gweithio fel awdur llawrydd ac fel cyfansoddwr.
Bywgraffiadau
Ryan Bancroft arweinydd

Lun: Benjamin Ealovega
Lun: Benjamin Ealovega
Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018 pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ym Medi 2019, cyhoeddwyd ei fod wedi ei benodi’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Dechreuodd y rôl hon yn nhymor 2020-21. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf â’r gwaith gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yr Artist Cyswllt o’r tymor hwn ymlaen.
Mae wedi perfformio gyda cherddorfeydd rhyngwladol blaenllaw, gan gynnwys yr Atlanta, y BBC, Cincinnati, Dinas Birmingham, Opera Cenedlaethol Denmarc, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol RAI, Radio Sweden a Cherddorfa Symffoni Toronto, Cerddorfeydd Ffilharmonig Rotterdam a Cherddorfa Opera Genedlaethol. Mae ein perfformiadau newydd diweddar a’r rhai sydd i ddod yn cynnwys cyngherddau gyda cherddorfeydd Symffoni Baltimore, Gothenburg a Gwlad yr Iâ ac Ensemble Intercontemporain.
Mae’n frwd dros gerddoriaeth fodern ac mae wedi perfformio gydag Ensemble Nieuw Amsterdam, cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur Incises yn Los Angeles, perfformio gwaith gan Sofia Gubaidulina, Cage, Tenney ac Anne LeBaron ac mae wedi gweithio’n agos gyda byrfyfyrwyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden.
Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd.
Steven Isserlis soddgrwth

Lun: Satoshi Aoyagi
Lun: Satoshi Aoyagi
Mae’r chwaraewr soddgrwth o Brydain, Steven Isserlis, yn mwynhau gyrfa amrywiol unigryw fel unawdydd, cerddor siambr, addysgwr, awdur a darlledwr. Mae’n ymddangos gyda cherddorfeydd ac arweinwyr gorau’r byd, ac yn rhoi datganiadau mewn canolfannau cerddoriaeth mawr. Fel cerddor siambr, mae wedi curadu cyfresi cyngerdd ar gyfer nifer o leoliadau a gwyliau arbennig, gan gynnwys Wigmore Hall yn Llundain, 92nd St Y yn Efrog Newydd a Gŵyl Salzburg.
Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn perfformio hanesyddol, ac mae’n gweithio gyda llawer o gerddorfeydd offerynnau cyfnod ac yn rhoi datganiadau gyda harpsicord a fortepiano. Mae hefyd yn berfformiwr cerddoriaeth gyfoes brwd ac mae wedi rhoi sawl premiere o weithiau newydd gan gyfansoddwyr fel Johnn Tavener, Thomas Adès, György Kurtág, Heinz Holliger a Jörg Widmann.
Mae ei ddisgyddiaeth, sydd wedi ennill gwobrau, yn cynnwys gwaith gan J. S. a C. P. E. Bach, Beethoven, Brahms, Elgar, Haydn a Walton.
Er 1997 ef yw Cyfarwyddwr Artistig y Seminar Cerddorion Rhyngwladol yn Prussia Cove, Cernyw. Mae ei ddau lyfr i blant wedi’u cyfieithu i lawer o ieithoedd; cyhoeddwyd ei lyfr diweddaraf, am Gyfresi Soddgrwth Bach, yn 2021.
Mae ei anrhydeddau yn cynnwys CBE, Gwobr Schumann Dinas Zwickau, Gwobr Piatigorsky a Medal Wigmore. Mae’n chwarae soddgrwth ‘Marquis de Corberon’ gan Stradivarius (1726), sydd ar fenthyg gan yr Academi Gerdd Frenhinol.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae’r gerddorfa yn llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes.
Mae’r gerddorfa’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales.
Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.
Yn ystod y cyfyngiadau symud diweddar, mae BBC NOW wedi parhau i recordio a ffilmio y tu ôl i ddrysau caeedig yn Neuadd Hoddinott y BBC ac mae wedi cynhyrchu fideos, traciau sain a chyngherddau digidol wythnosol sydd wedi cael eu gweld gan 14 miliwn o bobl ar draws y byd, gan gynnwys fideo hynod boblogaidd o drac sain Doctor Who! Mae’r cynlluniau ar gyfer y gerddorfa’n cynnwys cyngherddau a digwyddiadau sy’n cael eu ffrydio’n fyw, teithiau i wahanol gymunedau ledled Cymru a chynlluniau addysg a datblygu cymunedol i gynnwys pawb yn y gwaith o greu cerddoriaeth. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidil Cyntaf
Lesley Hatfield Blaenwr
Nick Whiting Blaenwr Cyswllt + **
Martin Gwilym- Jones †
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Richard Newington
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Gary George-Veale
Anna Cleworth
Ruth Heney
Caroline Heard
James Wicks
Paul Mann
Ail Ffidil
Anna Smith *
Jane Sinclair
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Sellena Leony
Barbara Zdziarska
Veronica Marziano
Fiola
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Ania Leadbeater
Robert Gibbons
Dáire Roberts
Lowri Thomas
Soddgrwth
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Jessica Feaver **
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Katy Cox
Aoife Burke
Bas Dwbl
David Stark *
Rupert Ring
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Claire Whitson
Albert Dennis
Mike Chaffin
Ffliwt
Matthew Featherstone *
John Hall
Fiona Slominska
Piccolo
Fiona Slominska
John Hall
Obo
Steve Hudson *
Amy McKean
Sarah-Jayne Porsmoguer
Cor anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †
Clarinét
Han Kim
Lenny Sayers
Elizabeth Jordan
Clarinét Bas
Lenny Sayers + **
Basŵn
Jarosław Augustyniak *
Gareth Humphreys
David Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Corn
Neil Shewan †
Meilyr Hughes
John Davy
William Haskins
Neil Mitchell
Utgorn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Ryan Linham
Ed Burfield
Trombôn
Donal Bannister *
Simon Wills
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Phil Girling
Phil Hughes
y Delyn
Valerie Aldrich- Smith †
Selesta
Catherine Roe Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Gweinyddwr y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlledu Emily Preston **
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

