

Dvořák 9
Dydd Sadwrn 20/9/25, 4.00pm
Hafren, Y Drenewydd

Grace Williams
Hen Walia 10’
Antonín Dvořák
Concerto i’r Ffidil yn A leiaf 32’
EGWYL: 20 munud
Antonín Dvořák
Symffoni Rhif 9 yn E leiaf, ‘From the New World’ 40’
Nil Venditti arweinydd
Inmo Yang ffidil
Cyflwyniad
Croeso i’r cyngerdd heddiw, ac i ddechrau'r tymor newydd. I'w arwain, mae’n bleser gennym groesawu Nil Venditti yn ôl ar gyfer rhaglen sy'n dathlu byd sain Tsiecaidd dihafal Dvořák.
Ond, rydyn ni'n dechrau yn nes at adref, gyda Hen Walia gan Grace Williams, gwaith a fwriadwyd fel agorawd i opera na wnaeth hi erioed ei chwblhau. Dyma un o'r darnau cyntaf a oedd wedi gwneud Williams yn enwog, ac mae ei hyder llwyr yn ei harddull yn drawiadol.
Roedd y Concerto i'r Ffidil gan Dvořák wedi'i fwriadu'n wreiddiol ar gyfer yr enwog Joseph Joachim, ond roedd arloesiadau ffurfiol y cyfansoddwr yn ormod i'r feiolinydd, ac yn lle hynny fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf gan y pianydd meistrolgar Tsiecaidd, František Ondříček. I'w chwarae heddiw, mae Inmo Yang yn dychwelyd ar ôl gwneud ymddangosiad cyntaf mor nodedig gyda BBC NOW.
Nawfed Symffoni boblogaidd Dvořák sy’n cloi'r rhaglen mewn arddull fyrlymus. Nid yw ‘From the New World’ yn ddim llai na gwrogaeth i America (ar ôl cael ei hysgrifennu pan oedd yn Efrog Newydd), a hudolus tu hwnt yw’r ffordd y mae’n plethu awgrymiadau o gerddoriaeth werin Americanaidd ac emynau ysbrydol drwy’r gerddoriaeth.
Mwynhewch!
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Grace Williams (1906–77)
Hen Walia(1930, diw. 1936)

Ar ôl cwblhau ei hastudiaethau yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn 1929, dyfarnwyd ysgoloriaeth i Grace Williams i astudio yn Fienna gyda’r cyfansoddwr blaenllaw o Awstria, Egon Wellesz. Pan oedd hi dramor, clywodd berfformiad o opera werin boblogaidd Jaromír Weinberger o’r Weriniaeth Tsiec, Švanda Dudák (‘Schwanda y Bagbibydd’, 1927) a chafodd ei hysbrydoli i ysgrifennu opera werin Gymreig ei hun. Er na chafodd honno ei gorffen erioed, cwblhaodd ei hagorawd yn 1930. Mae Hen Walia yn dwyn ysbrydoliaeth gan alawon gwerin traddodiadol Cymreig, gan gynnwys yr hwiangerdd Huna Blentyn.
Perfformiwyd Hen Walia am y tro cyntaf erioed gan Gerddorfa Symffoni Llundain o dan arweiniad E. T. Davies yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor ar 6 Awst 1931. Darlledwyd y cyngerdd yn fyw ar Raglen Genedlaethol y BBC ledled y DU hefyd. Er y byddai poblogrwydd ei Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940) yn taflu’r agorawd i'r cysgod yn y pen draw, roedd y gwaith yn arwyddocaol o ran dod ag enw Williams i sylw’r cyhoedd yn eang, a dyma’r cyntaf o’i darnau cerddorfaol i’r BBC eu perfformio a’u darlledu’n rheolaidd yn ystod y 1930au.
Nodyn y rhaglen © Rhiannon Mathias
Antonín Dvořák (1841–1904)
Concerto i’r Ffidil yn A leiaf, Op. 53 (1879)

1 Allegro ma non troppo –
2 Adagio ma non troppo
3 Allegro giocoso, ma non troppo
Inmo Yang ffidil
Ym 1878, fe wnaeth Fritz Simrock, ar ôl cyhoeddi Deuawdau Morafaidd Dvořák y set gyntaf o Ddawnsfeydd Slafonaidd (y ddau ddarn wedi'u hanelu'n bennaf at y farchnad gerddoriaeth ddomestig), roi comisiwn o'r diwedd i Dvořák am waith mawr: y Concerto i'r Ffidil. Erbyn hyn, roedd y feiolinydd Joseph Joachim hefyd yn ymddiddori'n frwd yn ei gerddoriaeth a chynigiodd ei helpu gyda rhan y ffidil. Ym mis Gorffennaf 1879, ymwelodd Dvořák â Joachim yn Berlin, gan fynd â'r brasluniau cyntaf o'r concerto gydag ef. Nid oedd adborth Joachim wedi'i gyfyngu i'r rhan unawdol yn unig, roedd hefyd yn ymestyn i strwythur y darn. Gan mai traddodiadolwr ydoedd yn y bôn, câi ei boeni gan ymadawiadau'r concerto oddi wrth uniongrededd ffurfiol (megis absenoldeb cyflwyniad cerddorfaol hir cyn i'r unawdydd ymuno am y tro cyntaf, a chysylltu'r ddau symudiad cyntaf).
Roedd Dvořák yn amharod i ildio rhywbeth a oedd, iddo ef, yn rhesymeg ffurfiol hanfodol y gwaith, wedi'i bennu gan natur y deunydd cerddorol. O hyn ymlaen, roedd diddordeb Joachim yn y concerto fel pe bai’n oeri. Dros y blynyddoedd nesaf, ymgynghorodd y ddau ddyn ragor â’i gilydd, ond erbyn hydref 1882 daeth yn amlwg eu bod wedi cytuno i anghytuno ynghylch y concerto. Dywedodd Dvořák wrth Simrock fod siâp y gwaith bellach wedi'i gwblhau ac y gellid trefnu perfformiad. Ond er bod y cyfansoddwr wedi llwyddo i ddarbwyllo ei gyhoeddwr o resymeg agweddau mwy anghonfensiynol y concerto, mae'n ymddangos na wnaeth Joachim, y cyflwynwyd y concerto iddo, erioed ei chwarae.
Rhoddwyd y perfformiad cyntaf, y bu oedi mawr yn ei gylch, ym mis Hydref 1883 gan y chwaraewr ffidil ifanc Tsiecaidd, František Ondříček. Diolch i ddawn angerddol Dvořák o ddyfeisgarwch melodaidd a synnwyr cerddorol Tsiecaidd digamsyniol, bu’r concerto yn llwyddiant ar unwaith a chyn bo hir daeth yn rhan annatod o'r repertoire, gyda chynulleidfaoedd ym mhob man yn ymateb yn frwd i'w fywiogrwydd rhythmig a'i joie de vivre digymell. Mae'r rhain yn amlwg ar y dechrau, lle mae'r cyflwyniad cerddorfaol byr, a nodweddir gan egni tebyg i gerddoriaeth werin, yn cael ei ddilyn gan unawd ffidil y mae ei egni rhythmig cychwynnol yn ildio'n gyflym i ddarn rhapsodïaidd o hyfrydwch tyner. Mae tawelwch y symudiad araf sydd yr un mor hyfryd yn cael ei aflonyddu'n fyr gan utgyrn bygythiol yn yr adran ganol, ac mae'r gwaith yn dod i ddiweddglo bywiog a llawen gan yr Allegro giocoso terfynol sydd wedi'i ysbrydoli gan y furiant, sef dawns werin Tsiecaidd fywiog.
Nodyn y rhaglen © Paula Kennedy
EGWYL: 20 munud
Antonín Dvořák
Symffoni Rhif 9 yn E leiaf, ‘From the New World’ (1893)

1 Adagio – Allegro molto
2 Largo
3 Scherzo: Molto vivace
4 Allegro con fuoco
Ym mis Mehefin 1891, cysylltodd Jeannette Thurber, gwraig gyfoethog o America a noddai’r celfyddydau, â Dvořák gyda chynnig na allai ei wrthod. Roedd Thurber yn bwriadu sefydlu conservatoire cerddorol newydd yn Efrog Newydd, ac roedd hi eisiau i Dvořák fod yn Gyfarwyddwr arno. Flwyddyn yn ddiweddarach, wedi'i annog gan gyflog hael y swydd a'r cyfle i ddarganfod 'cerddoriaeth Americanaidd go iawn', cyrhaeddodd Dvořák a'i deulu yn America i ddechrau ar dair o flynyddoedd mwyaf cynhyrchiol ei fywyd. Er ei fod yn aml yn hiraethu am ei gartref, roedd ganddo ddiddordeb mawr yn ei amgylchfyd newydd, gan fanteisio ar bob cyfle i ddarganfod ac amsugno'r diwylliant lleol, a mynd ati i chwilio am y 'gerddoriaeth Americanaidd go iawn' yr oedd wedi symud i America i ddod o hyd iddi. Roedd Ragtime yn boblogaidd iawn ym mariau a neuaddau dawns Efrog Newydd, ond ni wnaeth hynny fawr o argraff ar Dvořák, a oedd â llawer mwy o ddiddordeb yn yr emynau Affricanaidd Americanaidd a ddygwyd i'w sylw gan Harry Burleigh – un o fyfyrwyr y Conservatoire Cenedlaethol Du a fyddai'n dod yn enwog yn ddiweddarach am gyhoeddi casgliadau o emynau ysbrydol. ‘Rwyf bellach yn fodlon fod yn rhaid i gerddoriaeth y wlad hon yn y dyfodol fod yn seiliedig ar yr hyn a elwir yn alawon Negro,’ meddai Dvořák. ‘Rhaid i hyn fod yn sylfaen go iawn i unrhyw ysgol gyfansoddi ddifrifol a gwreiddiol sydd i'w datblygu yn yr Unol Daleithiau.'
Ychydig dros dri mis ar ôl iddo gyrraedd Efrog Newydd, cafodd Dvořák ei gomisiwn arwyddocaol cyntaf – sef symffoni newydd ar gyfer Cerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd. Dyma'r cyfle yr oedd wedi bod yn chwilio amdano: y cyfle i roi ei ymchwil i ddiwylliant cerddorol America ar waith. Dengys ei lyfrau braslunio iddo ddechrau gweithio ar y symffoni newydd ym mis Ionawr 1893 a'i chwblhau prin bum mis yn ddiweddarach. Er iddo roi'r isdeitl ‘From the New World’ iddo, honnai Dvořák nad ymarferiad mewn ethnograffeg yn unig ydoedd hyn, fel yr honnai rhai o'i feirniaid. Yn hytrach, cofnodi ysbryd alawon Americanaidd Affricanaidd ac Indiaidd Brodorol oedd ei nod.
Yn wir, ar wahân i thema sy'n debyg iawn i'r emyn ysbrydol draddodiadol Swing low, sweet chariot yn symudiad cyntaf y symffoni, nid yw’r Symffoni 'New World’ yn cynnwys atgynhyrchiad dilys o’r alawon. Yn hytrach, mae'r darn yn cael ei ymdeimlad o 'Americana' drwy ei ddefnydd o alawon pentatonig, ei symlrwydd tebyg-i-gân yn llawer o'i themâu, a'r ddarluniaeth fugeiliol sy'n ymestyn ar draws ei bedwar symudiad – nodweddion y gallech ddadlau nad ydynt yn fwy cynhenid i gerddoriaeth werin America nag ydynt i lawer o ddiwylliannau gwerin eraill ledled y byd. Felly, yn hytrach na'i glywed fel trawsgrifiad cerddorol o'i gyfnod yn America, efallai y byddai'n well deall Symffoni 'New World' Dvořák fel rhodd i wlad yr oedd wedi tyfu i'w charu ac i'w galw'n gartref. Fel yr ysgrifennodd mewn llythyr yn 1893, 'Ni fyddwn fyth wedi ysgrifennu'r gweithiau hyn “fel hyn” petawn i ddim wedi gweld America.’
Nodyn y rhaglen © Jo Kirkbride
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:
Os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’n cyngherddau nesaf. Fel un sydd eisoes yn aelod o’n cynulleidfa, gallwch brynu’r tocynnau hyn am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.
Ymdeithio ac Ymhyfrydu
Nos Iau 25/9/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Schumann, trefn. Donal Bannister Pedair Ymdeithgan
Finzi Concerto i’r Clarinét
Franck Symffoni yn D leiaf
Gergely Madaras arweinydd
Nicholas Carpenterclarinét
GOGONEDDUS | CYNNES | LLAWEN
Mewn rhaglen sy’n gosod ein cerddorion gwych ar flaen y llwyfan, fe gychwynnwn ein tymor 2025-26 yn Neuadd Hoddinott y BBC gyda sioe gan ein hadran bres – mae Pedair Ymdeithgan Schumann, a ysgrifennwyd yn wreiddiol ar gyfer piano unigol, yn agoriad grymus i’n cyngerdd yn y trefniant hwn gan ein Prif Trombonydd Donal Bannister. Wedyn cawn Goncerto Finzi i’r Clarinét, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Henffordd yng Ngŵyl y Tri Chôr ym 1949, ac sy’n dal i fod yn un o’i weithiau enwocaf a mwyaf poblogaidd. I berfformio’r gwaith teimladwy a meistrolgar hwn bydd Prif Glarinetydd Cerddorfa Gymreig y BBC, Nicholas Carpenter, yn camu i’r sbotolau.
Yn waith sy’n agos at galon ein harweinydd heno, Gergely Madaras, y Symffoni yn D leiaf oedd gwaith mawr olaf Franck, a’i unig symffoni. O themâu telynegol tyner llawn llawenydd y symudiad cyntaf i ail symudiad cymysg sy’n gyfuniad o linynnau pizzicato ysgafn o dan unawd hudolus ar y cor anglais a dau drio scherzo, cyrhaeddwn lawenydd ysgubol y symudiad olaf sy’n ailweithio themâu blaenorol mewn modd dyfeisgar iawn i goroni’r symffoni fendigedig hon.
Dathlu Shostakovich
Nos Wener 03/10/25, 7:30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Shostakovich Concerto Rhif 1 i’r Ffidil
Shostakovich Symffoni Rhif 7, ‘Leningrad’
Ryan Bancroft arweinydd
Clara-Jumi Kangffidil
GRYMUS | ARWROL | MEISTROLGAR
Hanner can mlynedd ar ôl ei farwolaeth, cawn ddathlu meistrolaeth Shostakovich mewn cyngerdd sy’n cynnwys ei Goncerto i’r Ffidil a’i Seithfed Symffoni nerthol dan faton ein Prif Arweinydd poblogaidd, Ryan Bancroft.
Mae’r concerto yn arddangosiad artistig ar raddfa aruthrol, o’i Nocturne agoriadol tywyll, thrist, i Scherzo sydd bron yn ddieflig gyda’i ddawns yn arddull y Klezmer Iddewig ar gyfer y clarinét; ac o’r Passacaglia mawreddog i’r Bwrlésg arbennig o feistrolgar. Mae ei Symffoni ‘Leningrad’ yr un mor bwerus; dyma waith grymus a phwysfawr sy’n troedio’r llinell rhwng disgwyliadau Stalin-aidd a mynegiant personol am ryfel.
Bywgraffiadau
Nil Vendettiarweinydd
Alessandro Bertani
Alessandro Bertani
Mae’r arweinydd Eidalaidd-Twrcaidd, Nil Venditti, yn prysur sefydlu perthynas â cherddorfeydd ac ensembles mawr ym mhedwar ban byd, gan gynnwys y Royal Northern Sinfonia, y mae hi wedi bod yn Brif Arweinydd Gwadd arni ers tymor 2024/25.
Y tymor hwn, mae hi’n perfformio ledled y byd. Mae ei huchafbwyntiau’n cynnwys nifer o gyngherddau yn y DU, lle mae’n gweithio’n helaeth gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, yn ogystal ag ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa’r Philharmonia a Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham. Mae hi hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Barbican yn Llundain gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC. Mae hi hefyd yn ymddangos gyda’r Deutsche Symphonie-Orchester Berlin, y Beethoven Orchester Bonn, y Musikalische Akademie Mannheim, Cerddorfeydd Symffoni Bilbao a Quebec a Cherddorfa Ffilharmonig Tampere, ymysg eraill.
Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Radio’r Ffindir, Cerddorfa Ffilharmonig y BBC ac Ensemble Cerddorfa Kanazawa, yn ogystal â dychwelyd i Proms y BBC, Gŵyl Schleswig-Holstein, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, a’r Deutsche Kammerphilharmonie Bremen.
Mae hi’n cyfuno cysylltiad cryf â repertoire Clasurol a Rhamantaidd cynnar gyda diddordeb arbennig mewn cyfansoddwyr o Dwrci ac o’r Eidal. Mae hi’n parhau i gryfhau ei henw da yn y tŷ opera, ac mae wedi arwain operâu fel Così fan tutte Mozart a The Lighthouse Peter Maxwell-Davies. Yr haf nesaf, bydd hi’n arwain Macbeth ar gyfer Opera Gŵyl Longborough.
Astudiodd Nil Venditti arwain ym Mhrifysgol y Celfyddydau, Zurich gyda Johannes Schlaefli, yn ogystal â mynychu’r Academi Arwain sy’n gysylltiedig â Gŵyl Gerddoriaeth Pärnu o dan Paavo Järvi, Neeme Järvi a Leonid Grin. Cyn hyn, bu hi’n astudio’r soddgrwth yn yr Eidal gyda Francesco Pepicelli.
Inmo Yangffidil
Sangwook Lee
Sangwook Lee
Mae Inmo Yang wedi dod i’r amlwg fel un o feiolinwyr mwyaf nodedig ei gyfnod.
Yn ddiweddar, bu’n perfformio am y tro cyntaf yng nghyfres Proms y BBC, a hynny’n llwyddiannus iawn, gyda Marie Jacquot. Y tymor hwn, bydd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfeydd Symffoni Dinas Birmingham, Munich, Radio Prag, SWR a Taipei, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, Cerddorfa Mozarteum Salzburg, Cerddorfa Siambr Zurich, Konzerthausorchester Berlin a Cherddorfa Macao. Mae hefyd yn dychwelyd at Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Festival Strings Lucerne ac mae’n ymddangos yn Neuadd Carnegie ar gyfer cyngerdd siambr gyda’r pianydd Kirill Gerstein.
Mae wedi ymddangos fel unawdydd gyda cherddorfeydd ffilharmonig Dresden, Helsinki, Hong Kong, Los Angeles, Efrog Newydd, y Royal, Royal Stockholm a Seoul, cerddorfa symffoni’r BBC, cerddorfa Symffoni Genedlaethol Denmarc a Cherddorfa Symffoni Radio’r Ffindir, Orchestre National de France, y Gerddorfa Suisse Romande ac Unawdwyr Baróc Berlin, ymysg eraill. Mae wedi cydweithio â llawer o arweinwyr mwyaf uchel eu parch y dydd, gan gynnwys Marin Alsop, Myung-whun Chung, Roberto González-Monjas, Hannu Lintu, Tianyi Lu, Fabio Luisi, Jonathan Nott, Sakari Oramo, Kristiina Poska, John Storgårds, Osmo Vänskä a Jaap van Zweden.
Daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf pan enillodd y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Paganini 2015 yn Genoa. Yn 2022, cadarnhaodd ei enw da gyda’r wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Jean Sibelius yn Helsinki. Mae wedi rhyddhau dau albwm, a’r un diweddaraf yw 24 Caprices Paganini.
Astudiodd gyda Namyoon Kim ym Mhrifysgol Celfyddydau Genedlaethol Korea, Miriam Fried yn y New England Conservatory of Music yn Boston ac Antje Weithaas yn Academi Kronberg a’r Hanns Eisler Hochschule für Musik yn Berlin.
Mae Inmo Yang yn chwarae ffidil ‘Carrodus’ a wnaed gan Giuseppe Guarneri del Gesù yn 1743, ar fenthyg yn hael gan aelod o Gymdeithas Stretton.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.
Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf
Róisín Verity blaenwr gwaddNick Whiting +blaenwr cyswllt
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus Suzanne CaseyCarmel Barber
Kerry Gordon-Smith Emilie Godden
Anna Cleworth
Ruth Heney **
Žanete Uškāne
Alejandro Trigo
Ail FfidlauAnna Smith *Kirsty Lovie #
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines **
Laurence Kempton
FiolâuRebecca Jones *Tetsuumi NagataPeter TaylorRobert GibbonsCatherine PalmerLaura Sinnerton Lydia Abell
Carl Hill
SoddgrythauPedro Silva Raphael Lang Sandy Bartai
Keith Hewitt
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Basau DwblDavid Stark *
Alexander Jones #Christopher WescottRichard Gibbons
Emma Prince
FfliwtiauMatthew Featherstone *Lindsey Ellis
Piccolo
Lindsey Ellis †**
OboauSteve Hudson *
Russell Coates
Cor anglais
Russell Coates
ClarinetauLenny Sayers +**William White †
BaswnauJarosław Augustyniak *
Llinos Owen
Alex Davidson
Isfasŵn
Alex Davidson ‡
CyrnTim Thorpe *Meilyr HughesTom Taffinder
Flora Bain
Dave Ransom
UtgyrnPhilippe Schartz *
Robert Samuel
TrombônDonal Bannister *
Trombôn BasDarren Smith †
Tiwba
Matt Lait
Timpani
Ignacio Molins
Offrynnau Taro
Andrea Porter ‡
Rhydian Griffiths ‡
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Daniel Williams
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol swydd wag
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications


