Archwiliadau Elfennol
Nos Iau 29/9/22, 7.30pm (Theatr Brycheiniog, Aberhonddu)
Gwen 30/9/22, 7.30pm (The Riverfront, Newport)

Max Bruch
Kol nidrei (10’)
Fazil Say
Never give up première y DU (25’)
EGWYL (20’)
Fabien Waksman
Protonic Games première y DU (12’)
Ludwig Van Beethoven
Symffoni Rhif 7 (36’)
Nil Venditti Arweinydd
Camille Thomas Soddgrwth

Mae’r cyngerdd hwn yn Aberhonddu yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y rhaglenni Afternoon Concert a New Music Show yn y dyfodol. Bydd ar gael i’w ffrydio neu ei lawrlwytho am 30 diwrnod drwy BBC Sounds. Mae BBC Sounds hefyd yn cynnwys podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.
Cyflwyniad
Croeso i’r cyngerdd heno, pan fydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cael ei harwain am y tro cyntaf gan y seren newydd Nil Venditti.
Bydd dau ddarn o waith sy’n cael eu perfformio am y tro cyntaf yn y DU yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â phâr o gampweithiau o’r gorffennol. Mae Kol nidrei Bruch yn un o’i ddarnau mwyaf pwerus ac effeithiol, gyda’r soddgrwth yn cyflwyno ei alargan ddolefus dros liwiau cyfoethog y gerddorfa. Cyflwynir y darn heno gan y canwr soddgrwth ifanc Camille Thomas. Hi hefyd sy’n canu’r unawd yng nghoncerto Fazil Say, Never give up, darn wedi’i ysbrydoli gan wleidyddiaeth sy’n ymateb cerddorol dwys i erchyllterau terfysgol.
Efallai fod Seithfed Symffoni Beethoven yn gyfarwydd iawn i ni, ond mae’n cael ei rhoi mewn cyd-destun newydd drwy gael ei rhagflaenu gan Protonic Games Fabien Waksman. Yma mae Waksman yn cymryd darnau bach o symffoni Beethoven ac yn eu hail-greu mewn modd egnïol iawn.
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Max Bruch (1838–1920)
Kol nidrei (1880)

Camille Thomassoddgrwth
Kol nidrei, is-deitl: ‘Adagio on Two Hebrew Melodies for cello and orchestra’ yw un o weithiau enwocaf Bruch. Cafodd y gwaith ei ysbrydoli i raddau helaeth gan gysylltiad hirsefydlog y cyfansoddwr â’r Cantor Abraham Lichtenstein y bu’n cydweithio ag ef yn Berlin. Drwy Lichtenstein, daeth Bruch yn gyfarwydd â’r alaw hiraethlon ‘Kol nidrei’, alaw a oedd yn cael ei chanu, yn draddodiadol, ar noswyl Yom Kippur (Dydd y Cymod) yn y synagog. Mae ei drawsgrifiad, a gyhoeddwyd yn 1881, yn gyflwyniad triw o’r hyn yr oedd ei fywgraffydd, Christopher Fifield, yn ei ddisgrifio fel ‘elfennau gwrthgyferbyniol’ yr alaw, sef ‘edifeirwch, penderfynoldeb a gorfoledd’. Mae’n gwneud hyn drwy ei rhannu’n ddilyniant o batrymau tri nodyn di-dor bron yn yr unawd soddgrwth wrth iddo gynnal deialog fwyfwy angerddol â’r gerddorfa.
Mae’r storm yn gostegu wrth i alaw newydd sbon hynod o deimladwy gael ei chyflwyno yn y cywair mwyaf. Cyhoeddir hon i ddechrau gan y gerddorfa ar ffurf arpeggios amlwg ar y delyn cyn i’r soddgrwth gymryd yr alaw, gan greu llinell delynegol hir sydd, ymhen amser, yn dwyn y gerddoriaeth i ben mewn ffordd dawel a myfyriol. Yma mae Bruch, a oedd yn arwain y Liverpool Philharmonic ar y pryd, yn dyfynnu’n uniongyrchol o adran ganol trefniant y cyfansoddwr Prydeinig-Iddewig Isaac Nathan o ‘O Weep for Those that Wept by Babel’s Stream’. Roedd un o Three Hebrew Songs a gyfansoddodd Bruch tua’r un pryd hefyd yn seiliedig ar y trefniant hwn.
Perfformiwyd Kol nidrei am y tro cyntaf mewn cyngerdd yn Lerpwl yn 1881, gyda Bruch yn arwain a Robert Hausmann yn unawdydd.
Nodyn y rhaglen © Erik Levi
Gwrando Pellach: Jacqueline du Pré; Cerddorfa Ffilharmonig Israel/Daniel Barenboim (Warner Classics 9029622248)
Darllen Pellach: Max Bruch: His Life and Works Christopher Fifield (Gollancz)
Fazil Say (ganed 1970)
Never give up (2016–17)
première y DU

1 Never give up
2 Terror elegy
3 Song of hope
Camille Thomassoddgrwth
Fel y gwnaeth yn ei gyfres ‘Gezi Park’ [a sbardunwyd gan ymateb creulon yr heddlu i brotest meddiannu heddychlon yn 2013 yn erbyn ailddatblygu parc yn Istanbul a oedd wedyn wedi lledaenu i brotestiadau ledled Twrci], mae Fazıl Say yn cyfeirio at ddigwyddiadau gwleidyddol cyfredol yn ei goncerto newydd i’r soddgrwth [2017]. Yn ôl y cyfansoddwr, mae Never give up yn ‘fanllef o brotest dros ryddid a heddwch’, sy’n canolbwyntio ar yr ‘ymosodiadau terfysgol dirdynnol yn Ewrop a Thwrci’. Mae hyn i’w weld yn fwyaf amlwg yn y symudiad yn y canol: mae nodau ailadroddus cras ar yr offerynnau taro i’w clywed bob yn ail â glissandos sgrechlyd ar y chwythbrennau – darnau sydd wedi’u marcio â’r cyfarwyddiadau perfformio ‘Kalashnikov’ ac ‘fel sgrech’ yn y sgôr. Serch hynny, daw’r gwaith i ben ar nodyn gobeithiol gyda rhythmau Tyrcaidd traddodiadol ynghyd â sŵn adar yn canu’n heddychlon a sŵn tonnau yn y llinynnau.
Nodyn y rhaglen © Schott Music
Gwrando Pellach: Camille Thomas; Cerddorfa Ffilharmonig Brwsel/Stéphane Denève (DG 4838564)
EGWYL: 20 munud
Fabien Waksman (ganed 1980)
Protonic Games (2012)
première y DU

Mae gallu Beethoven i lunio ffurf fawr sy’n deillio o ficro-elfennau cerddorol bob amser wedi fy nghyfareddu. Meddyliwch am fotiff pedwar nodyn agoriadol y Bumed Symffoni, er enghraifft, sy’n gyrru’r symudiad cyntaf i gyd.
Datrys y dirgelion mwyaf, drwy ddechrau gyda’r pethau lleiaf, yw’r union beth mae’r ffisegwyr gronynnau yng nghanolfan ymchwil CERN yn Genefa wedi bod yn ceisio’i wneud, gyda chymorth cyflymydd gronynnau mwyaf y byd, sef y Large Hadron Collider. Yn hwn, mae pelydrau proton yn gwrthdaro â’i gilydd ar gyflymder sydd bron gymaint â chyflymder golau, gan greu traweffeithiau grymus eithriadol.
Mae Protonic Games yn ceisio adalw’r gwrthdrawiadau ynni uchel hyn, sy’n creu gronynnau ansefydlog nad ydynt wedi bodoli ers ychydig ar ôl y Glec Fawr.
Mae’r deyrnged ddwbl hon i Beethoven a’r ymchwilwyr anweledig yn dibynnu’n gerddorol ar saith motiff o Seithfed Symffoni Beethoven, y mwyafrif ohonynt bron yn anadnabyddadwy i’r glust. A dweud y gwir, rydw i wedi amrywio natur, ac, yn enwedig, cyflymder y ‘micro-fotiffau’ hyn yn sylweddol – gronynnau go iawn o elfennau cerddorol sy’n ffurfio deunydd cyforiog sy’n symud yn gyflym iawn.
Mae’r gronynnau’n gwrthdaro’n ddiseremoni ac mae’r ffrwydradau hyn yn arwain at elfennau pellach, sydd eu hunain yn trawsnewid yn barhaus.
Mae’r adran agoriadol – ffrwydrol ei naws – yn ildio i gôr ysgafn o linynnau sydd, yn eu tro, yn arwain at gerddoriaeth sy’n fwy gwrthbwyntiol, gyda lliwiau tonyddol cyferbyniol. Ar ôl ein hatgoffa o’r agoriad, mae’r gerddoriaeth yn cyflymu’n ddi-ildio, gan gynnwys mwy a mwy o’r motiffau sy’n arwain yn y pendraw at gord disglair, gan greu awyrgylch ecstatig i gloi’r darn.
Ar 4 Gorffennaf 2012, ychydig fisoedd ar ôl premiere byd Protonic Games, cyhoeddodd ymchwilwyr CERN eu bod wedi darganfod boson Higgs, a elwir hefyd ‘gronyn Duw’.
Nodyn y rhaglen © Fabien Waksman, cyfieithiad Edward Bhesania © BBC
Ludwig Van Beethoven (1770–1827)
Symffoni Rhif 7 yn A fwyaf, Op. 92 (1811–12)

1 Poco sostenuto – Vivace
2 Allegretto
3 Presto – Assai meno presto – Presto
4 Allegro con brio
Pan alwodd Wagner Seithfed Symffoni Beethoven yn ‘apotheosis y ddawns’, rhannol gywir yn unig ydoedd. Mae hyd yn oed yn fwy sylfaenol na hynny. Rhythm ydy hi mewn gwirionedd: mae’r Seithfed yn byrlymu â ffocws obsesiynol Beethoven ar yr hyn y gall ei greu wrth ddefnyddio ychydig o unedau rhythmig, ac mae’n eu troi’n flociau adeiladu strwythurol gyda dycnwch di-baid.
Yn ddiamheuol, rhythm yw pwrpas prif ran y symudiad cyntaf, lle mae rhythm ddotiog cod Morse i’w chlywed ym mhob bar bron, ac mae’n treiddio i’n hymwybod fel gwrandawyr; rhythm yw’r catalydd ar gyfer yr ymdeimlad fwyfwy dwys o alaru yn yr ail symudiad; mae scherzo’r trydydd symudiad yn gatapwlt symffonig pensyfrdanol sy’n ein herio i ymdopi â’r cyflymder; ac mae’r diweddglo yn fersiwn rhythmig cyffrous o alaw werin yn corddi â grym sy’n amsugno’r bydysawd cerddorol, yn ogystal â phob un ohonom sy’n gwrando ac yn chwarae.
Ond mae’r Seithfed yn gwneud mwy na hynny hyd yn oed. Nid darn am arwyr neu syniadau chwyldroadol yw hwn na thaith ysbrydol o’r tywyllwch i’r goleuni. Nid yw’n ymwneud â pherthynas y ddynoliaeth â natur, nac â chyfansoddwr yn dangos sut y gall dorri confensiynau cenedlaethau’r gorffennol. Roedd wedi gwneud hynny i gyd – a mwy – yn ei chwe symffoni flaenorol. Yn y gwaith hwn mae’n rhoi sylw nid yn unig i’n hymennydd, ond i’n cyrff hefyd. Mae’n ymosodiad ar ein synhwyrau sy’n mynnu cyrraedd pob darn o’n corff sy’n gallu derbyn negeseuon: nid yn unig ein clustiau, ond ein stumogau, ein cluniau, ein coesau, ein breichiau, ein traed, pob darn ohonom a wnaed i symud i gerddoriaeth ac i gael ei gyffroi gan gerddoriaeth.
Mae’r Seithfed symffoni yn brofiad cyfareddol pur, darn sy’n chwalu ffiniau’r neuadd gyngerdd ac yn cyrraedd pob darn ohonom sy’n gallu dirgrynu ac atseinio – apotheosis daearol gwefr symffonig!
Nodyn y rhaglen © Tom Service
Gwrando Pellach: Cerddorfa Ffilharmonig Fienna/Carlos Kleiber (DG 4474002)
Darllen Pellach: Beethoven Barry Cooper (OUP)
Bywgraffiadau
Nil Venditti arweinydd

Photo: Alessandro Bertani
Photo: Alessandro Bertani
Mae’r arweinydd Eidalaidd/Twrcaidd – Nil Venditti – yn prysur sefydlu cysylltiadau â cherddorfeydd ac ensembles mawr ledled y byd. Mae uchafbwyntiau tymhorau diweddar yn cynnwys cydweithio â’r Orchestre National du Capitole de Toulouse, Orchestre National de Lille, Orchestre National Bordeaux Aquitaine, cerddorfeydd Ffilharmonig yr Iseldiroedd a Royal Liverpool, Cerddorfa Ulster, Cerddorfa Symffoni Lucerne, Camerata Salzburg, Cerddorfa Siambr Stuttgart ac Opera Cenedlaethol Iwerddon. Mae hi hefyd wedi cydweithio â’r Orchestra della Toscana, a hi oedd Prif Arweinydd Gwadd y gerddorfa honno rhwng 2020 a 2022.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys dychwelyd i’r Orchestre de Pays de Béaune, Cerddorfa Siambr Stuttgart a Cherddorfa Ffilharmonig Talaith Transylvania. Bydd hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Ffilharmonig Brenhinol Belgrade, Dresden a Galicia, cerddorfeydd Symffoni Asturias, Basle, Castilla y León a Helsingborg, Cerddorfa Opera Paris, Orchestre de Mulhouse, Orchestre National des Pays de la Loire, Deutsche Kammerphilmonie Bremen, cerddorfa Staatstheater Stuttgart, Cerddorfa Extremadura, Cerddorfa Zurich Tonhalle, Cerddorfa Siambr Helsinki, Sinfonietta Dalarna a’r Royal Northern Sinfonia. Yn Nhwrci, mae’n cydweithio â cherddorfeydd Symffoni Taleithiau Antalya, Istanbul ac Izmir. Bydd yn perfformio am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau y gwanwyn nesaf gyda Cherddorfa Conservatoire San Francisco.
Mae ei repertoire yn cwmpasu’r cyfnodau Clasurol a Rhamantaidd hyd at ddechrau’r 20fed ganrif. Mae ganddi hefyd ddiddordeb penodol mewn rhaglenni cyfoes, gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth Fazil Say (a bydd yn perfformio Pumed Symffoni’r cyfansoddwr hwnnw am y tro cyntaf yng Ngŵyl Bremen), Peter Maxwell Davies, Fabien Waksman, Lepo Sumera, Caroline Shaw a Nicola Campogrande (gan gynnwys ei Goncerto ar gyfer cynulleidfa a cherddorfa). Yn y tŷ opera, mae hi wedi arwain Così fan tutte, L’elisir d’amore, The Lighthouse, Carmen, Tosca ac Out of the Ordinary, sef opera cymunedol realiti rhithwir cyntaf Opera Cenedlaethol Iwerddon.
Camille Thomas cello

Cafodd Camille Thomas ei geni ym Mharis ym 1988. Dechreuodd chwarae’r soddgrwth pan oedd yn bedair oed, gan wneud cynnydd cyflym a arweiniodd at wersi gyda Marcel Bardon. Symudodd i Berlin yn 2006 i astudio gyda Stephan Forck a Frans Helmerson yn yr Hanns Eisler Hochschule fur Musik, a pharhaodd â’i hyfforddiant drwy gael gwersi ôl-radd gyda Wolfgang-Emanuel Schmidt yn y Franz Liszt Hochschule fur Musik yn Weimar.
Llofnododd gontract recordio ecsgliwsif yn 2017, gan ryddhau albwm o gerddoriaeth Saint-Saëns ac Offenbach. I ddilyn, rhyddhaodd ail albwm, sef Voice of Hope, sy’n cynnwys recordiad premiere byd o Never give up gan Fazil Say, darn a fydd yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn y DU heno.
Mae uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Ffilharmonig Los Angeles yn Neuadd Gyngerdd Walt Disney i berfformio Concerto Elgar ar gyfer y Soddgrwth; cyfnod preswyl gyda Cherddorfa Ffilharmonig Łódź Arthur Rubinstein; a theithiau yng Ngogledd America ac Asia.
Mae wedi gweithio gydag arweinwyr blaenllaw, gan gynnwys Darrell Ang, Stéphane Denève, Mikko Franck, Paavo Järvi, Kent Nagano a Marc Soustrot, a gyda cherddorfeydd fel Deutsche Kammerphilharmonie Bremen, Orchestra dell’Accademia Nazionale di Santa Cecilia, Sinfonia Varsovia, Cerddorfa Ffilharmonig Talaith Hamburg, Lucerne Festival Strings, Orchestre National Bordeaux Aquitaine a Cherddorfa Ffilharmonig Brwsel.
Mae Camille Thomas yn chwarae ‘Feuermann’ Stradivarius 1730 ar fenthyg o Sefydliad Cerddoriaeth Nippon.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes.
Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.
Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Anna Cleworth
Juan Gonzalez
Gary George-Veale
Amy Fletcher
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Barbara Zdziarska
Joseph Williams
Katherine Miller
Tom Grundy
Michael Topping
Beverley Wescott
Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Ania Leadbeater
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Robert Gibbons
Dáire Roberts
Soddgrythau
Jesper Svendberg ‡
Keith Hewitt #
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Basau Dwbl
David Stark *
Fabián Galeana
Christopher Wescott
Claire Whitson
Ffliwt
Jonathan Burgess ‡
John Hall
Oboau
Amy McKean
Sarah-Jayne Porsmoguer
Clarinetau
Natalie Harris
Lenny Sayers
Baswnau
Sarah Sesu ‡
Alexandra Davidson
Cyrn
Tim Thorpe *
Neil Shewan †
William Haskins
Utgyrn
Sam Kinrade
Robert Samuel
Ed Burfield
Trombonau
Miri Wallich
Jake Durham
Trombôn Bas
Darren Smith †
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Telyn
Valerie Aldrich-Smith †
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Gweinyddwr y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

