Gŵyl Bro Morgannwg
Dydd Iau 22/9/22, 2.00pm

David John Roche
Waves of Love première byd (c10’)
John Metcalf, Offeryniaeth David John Roche
Calm première byd (c4’)
Huw Watkins
Spring (15’)
EGWYL (20’)
Sarah Lianne Lewis
Tourmaline première byd (c7’)
Grace Williams
Sinfonia concertante (24’)
Jac van SteenArweinydd
Clare HammondPiano

Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y rhaglenni Afternoon Concert a New Music Show yn y dyfodol. Bydd ar gael i’w ffrydio neu ei lawrlwytho am 30 diwrnod drwy BBC Sounds. Mae BBC Sounds hefyd yn cynnwys podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.
Cyflwyniad
Croeso i gyngerdd heddiw, sy’n rhan o Ŵyl Bro Morgannwg. Yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC mae’r cyn-Brif Arweinydd Gwadd, Jac van Steen.
Dyma ddathliad o gerddoriaeth gyfoes ar ei gorau a chredwch neu beidio bydd yna 3 première byd yn y perfformiad y prynhawn yma – sef darn trawiadol Waves of Love gan David John Roche; bydd yr egni tanbaid hwn yn parhau gyda Tourmaline Sarah Lianne Lewis. Yna ceir cyfle i eistedd yn ôl a myfyrio yng nghwmni ‘Calm’ gan John Metcalf, sef darn a gyfansoddwyd yn wreiddiol ar gyfer y ffliwt a’r delyn ond sydd wedi cael ei osod gan Roche ar gyfer cerddorfa.
Yn y canol, cawn glywed Spring gan Huw Watkins, cyn Gyfansoddwr-Cyswllt gyda BBC NOW, a bydd y cyngerdd yn cloi gyda Sinfonia concertante Grace Williams, ei hunig ddarn ar gyfer piano a cherddorfa: yr unawdydd heddiw yw Clare Hammond.
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
David John Roche (ganed 1990)
Waves of Love (2020–22)
première byd

Mae Waves of Love yn waith cyflym, uchel ei sŵn sy’n codi calon. A minnau, yn y bôn, yn gerddor roc a metel, mae sŵn mawr, riffiau dyfalbarhaus, a’r awydd i deimlo gwefr o gyffro wrth galon popeth rwy’n ei gyfansoddi. Mae’r darn hwn yn brawf o hynny.
Cafodd drafft cychwynnol Waves of Love ei orffen y diwrnod cyn fy mhen-blwydd yn 30 oed (yng nghanol y cyfnod clo cyntaf) – ar y pryd, doedd gen i ddim syniad pa mor bell oeddwn i o gwblhau’r darn gorffenedig! O’r diwedd, ddwy flynedd yn ddiweddarach, llwyddais i orffen y gwaith yng Nghanolfan Gerdd Tanglewood yn Massachusetts, gan fynd ag ef yr holl ffordd o gymoedd gwyrddlas Cymru i diroedd tonnog Bryniau Berkshire.
Nodyn y rhaglen © David John Roche
John Metcalf (Ganed 1946), offeryniaeth David John Roche
Three Miniatures (2005) – Calm
première byd o’r offeryniaeth hon

Dyma ysgrifennodd John Metcalf:Ychydig flynyddoedd yn ôl roedd gorchwyl y cyfansoddwyr a oedd yn cymryd rhan yn ‘Cyfansoddiad Cymru’ wedi ennyn fy chwilfrydedd – sef cyfansoddi darn byr naill ai fel agorawd neu fel encôr i gyngerdd gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Er nad oeddwn i wedi mynd dim pellach na’r syniad ar y pryd, fe wnes i fynd mor bell â nodi ‘Calm’ (2005), sef yr ail ddarn yn y gwaith Three Minatures ar gyfer y ffliwt a’r delyn, fel ymgeisydd posibl ar gyfer y briff hwnnw. Yn ystod sesiwn gwaith ar-lein gyda David Roche, fe wnes i grybwyll y syniad. Awgrymodd yn syth fod y ddau ohonom yn paratoi fersiwn ac yn cymharu nodiadau, fel petai. Fel y digwyddodd, roedd o wedi symud ymlaen â’r gwaith yn gynt o lawer na mi ac yn y diwedd, fe wnaethom ni weithio ar ei fersiwn ef gyda’n gilydd.
Dyma ysgrifennodd David John Roche:Roeddwn i eisiau creu trefniant ar gyfer cerddorfa o’r darn ‘Calm’ gan John Metcalf fel ffordd o ddiolch iddo am y cymorth, yr arweiniad a’r haelioni enfawr mae wedi’u dangos i mi. Roeddwn i’n gallu gweithio’n agos gyda John, gan roi’r cyfle i mi weithio drwy gyfansoddiad gydag un o gyfansoddwyr pwysicaf Cymru – profiad anhygoel, rhywbeth rwy’n hynod ddiolchgar amdano!
Huw Watkins (ganed 1976)
Spring (2017)

Nid bwriad Spring yw creu darlun o dreigl y tymor. Yn hytrach, yr agoriad, oer, bregus a chyflym, wedi’i sgorio ar gyfer ffliwtiau sionc a llinynnau’n eu cysgodi’n dawel, sy’n arwydd clir o’r amser hwnnw o’r flwyddyn i mi. At ei gilydd, siâp palindromig sydd i’r darn. Ar ôl yr agoriad oeraidd, daw adran statig, fer gyda nodau iasoer parhaus ar y llinynnau yn gyfeiliant i goralau tawel ar yr offerynnau pres a’r chwythbrennau. Yr adran yn y canol yw’r hiraf, gyda’r gerddorfa lawn yn cael ei defnyddio o’r diwedd mewn cyfres o uchafbwyntiau. Ar ôl hyn, mae’r gerddoriaeth yn raddol yn dychwelyd at ble y dechreuodd.
Nodyn y rhaglen © Huw Watkins
EGWYL: 20 munud
Sarah Lianne Lewis (ganed 1988)
Tourmaline (2022)
première byd

Ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi bod â diddordeb yn y ffiniau rhwng sain acwstig a sain electronig. Rwyf wedi ysgrifennu darnau sy’n defnyddio prosesu digidol i drin a rhyngweithio â cherddorion byw, ac wedi creu cerddoriaeth gwbl offerynnol sydd ag ymdeimlad electronig, drwy chwarae gyda gwead y gerddoriaeth a thechnegau estynedig.
Mae’r comisiwn newydd hwn yn ddarn egnïol iawn sydd wedi’i ysbrydoli gan y genre cerddoriaeth ddawns electronig prif ffrwd. Nid wyf yn dyfynnu’n uniongyrchol o unrhyw ddarn sy’n bodoli’n barod, ond yn hytrach rwyf yn archwilio rhythmau, harmoniau a gwead cerddoriaeth electronig mewn cyd-destun offerynnol.
Mae rhyw ymdeimlad o anesmwythyd sylfaenol drwyddo draw. Mae’r llinynnau’n amrywio o drawiadau grutiog uchel i glissandos sy’n siglo’n anghyfforddus, ac o bizzicatos mecanyddol ysgafn i alawon esgynnol sy’n llawn rhythmau digyswllt. Rydym yn symud drwy weadau amrywiol wrth i themâu ddatblygu a thyfu, ac yna chwalu, cyn i guriad y drymiau eu tynnu’n ôl at ei gilydd eto. Gyda’i gilydd, mae’r gwaith hwn yn wibdaith orfoleddus drwy dirwedd annisgwyl, sy’n ymhyfrydu yn hyblygrwydd llinynnau acwstig, ond sy’n cynnal effaith reddfol gref y genre a’i hysbrydolodd ar yr un pryd.
Nodyn y rhaglen © Sarah Lianne Lewis
Grace Williams (1906–77)
Sinfonia concertante (1940–41)

1 Allegro con brio
2 Poco lento
3 Alla marcia
Clare Hammond piano
Roedd Grace Williams yn ei hugeiniau pan gafodd y syniad o gyfansoddi darn mawr ar gyfer piano a cherddorfa am y tro cyntaf. Roedd yn gweithio fel cerddor proffesiynol yn Llundain ar yr adeg hon ac, yn 1934, ysgrifennodd at y BBC yn dweud wrthynt ei bod yn bwriadu cyfansoddi ‘Sinfonia concertante ar gyfer Piano a Cherddorfa’, ac y byddai’n hoffi perfformio’r unawd ei hun. Roedd ymrwymiadau gwaith wedi rhwystro Williams rhag gallu dechrau ar ei darn newydd tan 1940, ond cwblhaodd y sgôr lawn ym mis Mehefin 1941.
Fel mae’r teitl yn awgrymu, mae Sinfonia concertante Williams ar ffurf dadl neu sgwrs ddramatig rhwng yr unawdydd a’r gerddorfa yn hytrach na choncerto traddodiadol. Er mai’r piano sydd i’w chlywed fwyaf bob amser, mae’n ymddangos fel pe bai cysylltiad agos rhwng y cydbwysedd mae Williams wedi llwyddo i’w gael rhwng yr unawdydd a’r gerddorfa ag ysgogiad Rhamantaidd y darn ac awydd ar ran Williams i archwilio amrywiaeth o wahanol hwyliau a thechnegau.
Mae thema agoriadol gythryblus yr Allegro con brio yn cael ei dilyn yn fuan gan alaw fwy myfyriol, ac mae’r gwrthgyferbyniadau hyn yn cael eu datblygu mewn dilyniant o gyfnewidiadau cyflym, sy’n aml yn annisgwyl, rhwng y piano a’r gerddorfa. Mae’r melodi tawel ar y piano sy’n agor y Poco lento yn arwain at ddadl gynyddol angerddol gyda’r gerddorfa, er bod yr awyrgylch digynnwrf yn dychwelyd ar ddiwedd y symudiad gydag adlais o’r alaw agoriadol. Mewn gwrthgyferbyniad â hyn, mae’r curiad parhaus a glywir yn yr agoriad i’r diweddglo Alla marcia yn arwain at dân gwyllt cerddorol mwyaf tanbaid y gwaith, ac mae hefyd yn cynnwys peth o’r bravura mwyaf ysblennydd ar gyfer y piano.
Y Sinfonia concertante oedd unig waith mawr Williams ar gyfer piano a cherddorfa, a chafodd ei berfformio am y tro cyntaf erioed gan y pianydd Margaret Good a Cherddorfa Symffoni’r BBC, dan arweiniad Clarence Raybould, ar Wasanaeth Cartref y BBC ym mis Ionawr 1943. Cafwyd y perfformiad cyntaf yng Nghymru ym mis Medi 1947 gan Eiluned Davies (piano) a Cherddorfa Gymreig y BBC, dan arweiniad Mansel Thomas. I nodi canmlwyddiant geni Williams, cafodd recordiad arbennig gan y BBC o’r gwaith, a oedd yn cynnwys Huw Watkins fel unawdydd a Cherddorfa Symffoni’r BBC dan arweiniad Baldur Brönnimann, ei gynnwys yn rhaglen Composer of the Week Radio 3 yn 2006.
Nodyn y rhaglen © Rhiannon Mathias
Darllen Pellach: Lutyens, Maconchy, Williams and Twentieth-Century British Music: A Blest Trio of Sirens Rhiannon Mathias (Routledge)
Bywgraffiadau
Jac van Steen arweinydd

Lun: Simon van Boxtel
Lun: Simon van Boxtel
Ganwyd Jac van Steen yn yr Iseldiroedd ac astudiodd y grefft o arwain cerddorfeydd a chorau yn Ysgol Gerddoriaeth Brabants.
Ers iddo gymryd rhan yn Seminar Arweinyddion y BBC yn 1985, mae wedi mwynhau gyrfa brysur yn arwain cerddorfeydd gorau Ewrop, ac wedi dal swyddi fel Cyfarwyddwr Cerdd a Phrif Arweinydd Ballet Cenedlaethol yr Iseldiroedd, cerddorfeydd Bochum, Nuremberg, Weimar Staatskapelle, Cerddorfa Ffilharmonig ac Opera Dortmund, Musikkollegium Winterthur a Phrif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Ar hyn o bryd mae’n Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Ulster a Cherddorfa Symffoni Prag.
Ymddangosodd am y tro cyntaf gydag Opera North a’r Volksoper Fienna yn 2013 a gydag Opera Garsington yn 2015. Mae wedi dychwelyd i Opera North ar gyfer sawl cynhyrchiad ac mae’n ymddangos yn rheolaidd gydag Opera Garsington a Volksoper Fienna, gan arwain gweithiau sy’n cynnwys Pelléas and Mélisande gan Debussy a The Bartered Bride gan Smetana. Yn ystod tymor 2018-19, ymddangosodd am y tro cyntaf gydag Opera Oslo i berfformio dau gynhyrchiad gan Puccini.
Mae’n ymweld â’r DU yn rheolaidd, gan weithio gyda cherddorfeydd fel y Philharmonia, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol a Cherddorfa Ulster. Ymddangosodd am y tro cyntaf yn Tokyo gyda Cherddorfa Ffilharmonig New Japan a Cherddorfa Ffilharmonig Malaysia.
Mae wedi gwneud llawer o recordiadau masnachol, ac mae llawer o’i gyngherddau wedi cael eu darlledu ar y BBC.
Yn ogystal â’i weithgareddau fel arweinydd, mae’n Athro Arwain yn y Conservatoire Brenhinol yn yr Hague. Mae hefyd yn gweithio’n rheolaidd gydag Ysgol Gerdd Chetham, Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd, yr Academi Frenhinol a’r Coleg Cerdd Brenhinol. Yn 2018 arweiniodd raglen arddangos Artistiaid Ifanc Jette Parker yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden.
Clare Hammond piano

Mae Clare Hammond yn adnabyddus am feistrolaeth a hyfedredd ei pherfformiadau. Yn 2016 enillodd Wobr Artist Ifanc y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol ac yn 2020 cafodd ei gwahodd i berfformio yn yr International Piano Series yng Nghanolfan y Southbank yn Llundain. Ymhlith ei huchafbwyntiau yn fwyaf diweddar mae cyngherddau gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac yng ngwyliau Aldeburgh a Husum, yn ogystal â darllediadau ar gyfer BBC Radio 3 a Danish Radio gyda’r feiolinydd Henning Kraggerud.
Yn ystod y pandemig, bu’n perfformio darnau yn Wigmore Hall ac Aldeburgh, darllediad byw o Neuadd Dewi Sant Caerdydd, a recordio gyda Cherddorfa Symffoni y BBC a Cherddorfa Gyngerdd y BBC.
Yn ystod tymor 2020–21, cafodd wahoddiad i berfformio gyda’r Britten Sinfonia dan law Ryan Wigglesworth, Sinfonia Varsovia o dan Jacek Kaspszyk, Y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol o dan Christoph Altstaedt a Cherddorfa Symffoni y BBC o dan Dalia Stasevska.
Mae ei chatalog recordiau yn cynnwys dros 20 première byd, ac mae ei chyhoeddiad diwethaf, Variations, wedi cael canmoliaeth fawr yn gyffredinol.
Mae cerddoriaeth gyfoes wrth wraidd ei gwaith ac mae wedi perfformio dros 50 première byd.
A hithau’n gerddor siambr brwd, mae hi’n gweithio’n rheolaidd gyda’r Carducci Quartet a Henning Kraggerud, ac mae newydd ddechrau cydweithio â’r actor Tama Matheson yn cyflwyno dramâu telynegol. Yn 2018, datblygodd Ghosts & Whispers, darn perfformio ar gyfer y piano a ffilm, mewn cydweithrediad â’r cyfansoddwr John Woolrich a’r Brodyr Quay yr animeiddwyr.
Mae hi’n credu’n gryf mewn ymgysylltu â’r gymuned ac ers 2017 mae hi wedi perfformio i dros 6,500 o blant ysgol mewn partneriaeth â Gloucestershire Music a Wye Valley Music in Schools
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes.
Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.
Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Nick Whiting arweinydd
Martin Gwilym-Jones is-arweinydd
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Kerry Gordon-Smith
Juan Gonzalez
Anthony Wing Pong Poon
Anna Cleworth
Carmel Barber
Ruth Heney
Gary George-Veale
Cathy Fox
Ail Ffidlau
Jane Sinclair ‡
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Beverley Wescott
Sellena Leony
Ilhem Ben Khalfa
Vikki Hodgson,
Robyn Bell
Anna Szabo
Caroline Heard
Fiolâu
Rebecca Jones *
Peter Mallinson
Nancy Johnson
Ania Leadbeater
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Cecily Rice
Lucy Theo
Marsalaidh Groat
Sharada Mack
Soddgrythau
Keith Hewitt #
Raphael Lang
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Kathryn Graham
Basau Dwbl
David Stark *
Louis van der Mespel
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Claire Whitson
David F. C. Johnson
Ffliwt
Matthew Featherstone *
John Hall
Elizabeth May
Piccolo
Elizabeth May
Oboau
Steve Hudson *
Sam Baxter
Clarinetau
Irene Chen
Eleanor Kershaw
Will White
Clarinet Bas
Will White
Baswnau
Gareth Humphreys ‡
Alexandra Davidson
David Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Neil Shewan †
William Haskins
Dave Ransom
Neil Mitchell
Tom Taffinder
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Emily Mitchell
Trombonau
Donal Bannister*
Dafydd Thomas
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Rhydian Griffiths
Telyn
Valerie
Aldrich-Smith †
Piano
Catherine Roe Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Gweinyddwr y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

