

Llwch Sêr ac Eneidiau
Nos Iau 18/4/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Dani Howard
Concerto i Offerynnau Taro première byd c25’
EGWYL: 20 munud
Alexander Campkin
Sounds of Stardust première byd c15’
Francis Poulenc
Stabat mater31’
Sofi Jeanninarweinydd
Y Fonesig Evelyn Glennie offerynnau taro
Julieth Lozano Rolong soprano
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae’r cyngerdd yn cael ei ddarlledu’n fyw gan BBC Radio 3 ar Radio 3 in Concert;a bydd ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sy’n cynnwys podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth hefyd. Yn ogystal â hyn, mae’n cael ei ffrydio’n fyw ar wefan BBC NOW.
Cyflwyniad
Croeso i chi i’r cyngerdd heno lle rydyn ni’n falch iawn o groesawu Sofi Jeannin, Prif Arweinydd Cantorion y BBC, i arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.
Yn y rhaglen heno mae gennym ddau ddarn a fydd yn cael eu perfformio am y tro cyntaf erioed, gan ddechrau gyda’r Concerto i Offerynnau Taro gan Dani Howard. Ysgrifennwyd y darn ar gyfer y Fonesig Evelyn Glennie a hi fydd yn ei berfformio heno.
Sounds of Stardust yw ymateb Alexander Campkin i edrych ar awyr y nos a rhyfeddu at sut y mae, yn ei eiriau ef, ‘yn drosiad ar gyfer dathlu gwahaniaethau, anabledd a chariad’. Yma mae’n gosod ei gerddi myfyriol ei hun ar gerddoriaeth, a byddant yn cael eu canu gan y Corws a’r soprano Julieth Lozano Rolong, a wnaeth argraff fawr yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd y llynedd.
Byddwn ni’n gorffen gyda Stabat mater gan Poulenc, gwaith sy’n gosod testun hynafol am Mair yn galaru wrth waelod Croes Crist. Ysgrifennodd y cyfansoddwr y darn mewn ymateb i farwolaeth ei ffrind, yr artist Christian Bérard. Ynddo, mae tynerwch a galar wedi’u plethu â harddwch seciwlar sy’n gwbl nodweddiadol o’r cyfansoddwr.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Dani Howard(ganed 1993)
Concerto i Offerynnau Taro(2023–4)
première byd

1 Dot and Dash –
2 Menlo Park –
3 Eureka –
4 Unfinished Business
5 Light Bulb Moment
Y Fonesig Evelyn Glennie offerynnau taro
Yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r concerto hwn i offerynnau taro yw stori Thomas Alva Edison, dyfeisiwr mwyaf cynhyrchiol America. Addysgu ei hun a wnaeth Edison: cafodd ei eni yn 1847 a dim ond tri mis o addysg ffurfiol a gafodd cyn mynd i weithio yn gwerthu papurau newydd ar drên pellter hir pan oedd yn 12 oed. Arweiniodd hyn at ddiddordeb dwys yn y system telegraffau, a oedd wedi newid y byd drwy ei gwneud yn bosib anfon negeseuon ar wib drwy wifrau. Dysgodd god Morse iddo’i hun a’i ymarfer yn ddiddiwedd, nes iddo gael swydd fel telegraffydd yn 15 oed.
Bu’n gweithio fel telegraffydd am saith mlynedd cyn mynd i Efrog Newydd i fod yn ddyfeisiwr. Erbyn iddo fod yn 29 oed, roedd wedi gwneud digon o arian i wireddu ei freuddwyd, sef adeiladu labordy o’r enw Menlo Park, lle gallai ef a’i dîm ddyfeisio’n llawnamser. Arweiniodd hyn at rai o’r dyfeisiadau pwysig sy’n dal yn rhannau hanfodol o’n bywydau heddiw.
Yn y concerto hwn, mae’r unawdydd yn portreadu’r dyfeisiwr Americanaidd drwy bum symudiad, pob un yn cynrychioli cerrig milltir allweddol yn ei fywyd a’i yrfa.
1 Dot and Dash
Mae’r symudiad cyntaf ‘Dot and Dash’ (sef llysenwau Edison ar gyfer ei ddau blentyn) yn canolbwyntio ar god Morse. Gan ganolbwyntio ar acenion a glywir ar y marimba, mae’r patrymau hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer yr holl ddeunydd rhythmig a geir yn y concerto. Yn 29 oed, roedd Edison yn uchelgeisiol ac yn llawn syniadau. Roedd ganddo obsesiwn â’r syniad o newid y byd drwy feddwl am ffyrdd newydd o gyflawni pethau – y naïfrwydd a’r cyffro ifanc yma sy’n sail i’r symudiad agoriadol hwn.
2 Menlo Park
Dyma labordy delfrydol Edison, lle cynhaliodd bob math o arbrofion gyda gwahanol ddeunyddiau. Mae’r symudiad hwn yn cynrychioli’r dyfeisiwr pan oedd wedi rhoi ei holl fryd ar archwilio, a gallwn synhwyro cyffro Edison a’i greadigrwydd diniwed drwy’r amryw o synau sy’n cael eu creu gan y drwm gwifrau.
3 Eureka
Mae’r symudiad hwn yn canolbwyntio ar ei ddyfais nodedig gyntaf; y ffonograff. Rhoddodd ei fryd ar gofnodi sain am y tro cyntaf, a gwnaeth hynny drwy ddefnyddio ffoil y tu mewn i’r peiriant. Mae’r symudiad hwn yn defnyddio amrywiaeth o offerynnau metel, gyda’r unawdydd ‘yn ddwfn mewn myfyrdod’ yn yr ail hanner wrth archwilio’r gwahanol ddeunyddiau drwy ddarn byrfyfyr estynedig.
4 Unfinished Busnes
Roedd pris i’w dalu am ei lwyddiant ysgubol, gydag Edison wedi’i glymu i deithio ar draws y wlad i arddangos ei ffonograff newydd. Roedd yn mynd yn fwy ac yn fwy rhwystredig wrth iddo sylweddoli bod ganddo uchelgais enfawr ac awydd i greu o hyd. Roedd y pwysau yma, ochr yn ochr ag amserlen brysur (o ganlyniad i’w enwogrwydd newydd) yn golygu ei fod mewn stad emosiynol anarferol. Gallwn glywed hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr offerynnau mwy a ddewiswyd ar gyfer y symudiad hwn, gydag amrywiaeth o dom-tomau, drwm bas, a darn byrfyfyr estynedig ar y tam-tam i’w gloi.
5 Light Bulb Moment
Dyfeisio’r bwlb golau oedd ei gyflawniad pennaf a’r allwedd i’w waddol. Mae’r symudiad hwn yn defnyddio’r ystod lawn o synau a glywir yng ngweddill y concerto, gan gyfleu ei brofiadau bywyd blaenorol yn dod at ei gilydd. Mae aeddfedrwydd yma, ac awydd dwfn i gyflawni’r her enfawr hon, gan newid llwybr hanes.
Nodyn y rhaglen © Michael Howard
EGWYL: 20 munud
Alexander Campkin (ganed 1984)
Sounds of Stardust(2023–4)
première byd

1 Stardust streaking
2 Stardust settles
3 Stardust dancing
Julieth Lozano Rolong soprano
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Mae awyr y nos yn syfrdanol. Er nad wyf yn gwybod llawer am seryddiaeth, rwy'n cadw llygad am gawodydd sêr gwib a digwyddiadau arbennig achlysurol. Rwy’n mwynhau harddwch ysblennydd yr awyr yn y nos, sy’n berffaith ac yn amrywiol.
Mae thema awyr y nos yn cael ei ddefnyddio fel trosiad ar gyfer dathlu gwahaniaethau, anabledd a chariad.
Ydych chi byth yn edrych fry i’r awyr yn y nos ac yn dychmygu y byddai’n well pe bai’r sêr i gyd mewn rhesi taclus, yn disgleirio’r un mor llachar â’i gilydd, ac yn union yr un lliw â’i gilydd? Pam mae’n ymddangos weithiau ein bod yn disgwyl i bawb gydymffurfio, fel petai gan bawb yr un doniau a galluoedd? Yn hytrach, pam nad ydym mor barod i ddathlu harddwch yr hyn sy’n ein gwneud yn wahanol?
Mae pob un o’m tair cerdd yn defnyddio geiriau fel ‘tingling’, ‘burning’, ‘searing’ a ‘scorching’ i gyfeirio at y pinnau bach a’r symptomau annifyr eraill rwyf wedi’u cael ers degawdau gyda sglerosis ymledol. Ac eto, mae edrych ar awyr y nos yn rhoi ymdeimlad o gysur a rhyddid i mi:
… I lose myself, and yet I find
shimmering strength and bliss
Efallai fod llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd trafod pethau fel hyn yn ein cymdeithas. Mae fy narn i’n cynnig gobaith ac awydd i ymgysylltu â’n gilydd mewn ffordd garedig, agored a derbyngar:
Spilling secrets in tender sight …
Nodyn y rhaglen © Alexander Campkin
Testun
1 Stardust streaking
Stardust streaking
Tingling fingers
Tracingmeteors
Splashing hues of light.
Stardust shimmers in
Tingling eyes
Burning, blazing
Through the night.
A spell of tranquillity.
Stardust whispers
Glisten with wonders;
Fragile sparks
Spilling secrets in tender sight.
2 Stardust settles
Whispers radiant with dreams!
I lie and watch in pure delight
A guiding star through the dark,
In the vast expanse of night.
Shining in gold, captivating,
And the tingling glow of a celestial kiss,
On shooting souls stardust settles;
Then quietness crept through the sky.
And I lose myself, and yet I find
shimmering strength and bliss.
As cool grass cradles my body
I stretch out my arms on the ground.
And in that moment I feel not alone,
My thoughts floating through timeless cosmic sound.
Stardust settles
Ar Hyd y Nos.
3 Stardust dancing
With burning toes we dance with stars agaze,
With scorching hands we reach with love and awe.
With tingling fingers we point to meteors,
Crescendos shooting searing trails of fire.
The shimmering jewels sparking through the skies –
Celestial dancers leaping in our eyes!
The guiding star in radiance sings our dreams
And, shining true, is bathed in tender light.
Ar Hyd y Nos.
© Alexander Campkin
Francis Poulenc (1899–1963)
Stabat mater (1950–51)

1 Stabat mater dolorosa
2 Cujus animam gementem
3 O quam tristis
4 Quae moerebat
5 Quis est homo
6 Vidit suum
7 Eja, mater
8 Fac ut ardeat
9 Sancta mater
10 Fac ut portem
11 Inflammatus et accensus
12 Quando corpus
Julieth Lozano Rolong soprano
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Ycymhelliant y tu ôl i Stabat mater gan Poulenc oedd marwolaeth ei gyfaill a’i gydweithredwr, yr arlunydd Christian Bérard, yn 1949. Y syniad yn y lle cyntaf oedd cyfansoddi Offeren ond, yn fuan iawn, diystyrwyd hynny am ei fod yn rhy rodresgar o’r hanner. Yn lle hynny, dewisodd y gerdd benydiol o’r 13eg ganrif, Stabat mater dolorosa, sy’n disgrifio dioddefaint y Fam Forwyn wrth waelod Croes Crist.
Mae’r gerddoriaeth yn nodweddiadol o waith Poulenc, yn gosod cordiau a pholyffoni cynnil yn erbyn tudalennau o nwydusrwydd erotig iraidd. Ni ddylai’r ddeuoliaeth amlwg hon beri syndod: roedd Poulenc yn derbyn ei fod yn cael ei dynnu i ddau gyfeiriad – at y cysegredig a’r seciwlar. Roedd ei waith crefyddol yn aml yn cael ei borthi gan ei garwriaethau, ac ar ddiwedd y 1940au, ychydig cyn dechrau’r Stabat mater, dechreuodd ar berthynas â dyn ifanc o’r enw Lucien Roubert. Yn 1955 cyfaddefodd Poulenc mewn llythyr at ei gyfaill agos, y bariton Pierre Bernac, mai Lucien oedd ‘cyfrinach’ y Stabat mater, yn ogystal â’r opera Dialogues des Carmélites – ond erbyn hynny fod y gofid ynghlwm wrth y garwriaeth hon, ar ôl bron â pheri i’w nerfau chwalu yn 1954, wedi troi’n dderbyniad digynnwrf bod Roubert yn marw o dwbercwlosis. Roedd fel pe bai Poulenc yn dweud (gan ddyfynnu Georges Bernanos, libretydd Carmélites), ‘nid marw drosom ein hunain a wnawn, ond dros ein gilydd, neu yn lle ein gilydd’.
Ar 26 Mawrth 1962, bron i 10 mis i’r diwrnod cyn ei farwolaeth ei hun, ysgrifennodd Poulenc at Bernac: ‘Rydw i wedi gorffen Les ténèbres ac yn meddwl ei fod yn ddarn hardd ... rhwng hwnnw a’r Gloria a’r Stabat, rydw i’n meddwl bod gen i dri gwaith crefyddol da. Boed iddyn nhw fy arbed rhag y purdan am ychydig ddyddiau, os ydw i’n osgoi mynd i Uffern o drwch blewyn.’ Heb os nac oni bai, atebwyd ei weddi.
Nodyn y rhaglen gan Geraint Lewis © BBC
Testun
1
Stabat mater dolorosa
Juxta crucem lacrimosa,
Dum pendebat Filius.
2
Cujus animam gementem,
Contristantem, ac dolentem
Pertransivit gladius.
3
O quam tristis et afflicta
Fuit illa benedicta
Mater Unigeniti!
4
Quae moerebat et dolebat
Pia Mater, cum videbat
Nati poenas inclyti.
5
Quis est homo qui non fleret,
Matrem Christi si videret
In tanto supplicio?
Quis non posset contristari,
Matrem Christi contemplari,
Dolentem cum Filio?
Pro peccatis suae gentis
Vidit Jesum in tormentis
Et flagellis subditum.
6
Vidit suum dulcem natum
Morientem desolatum,
Dum emisit spiritum.
7
Eja, mater, fons amoris,
Me sentire vim doloris
Fac, ut tecum lugeam.
8
Fac ut ardeat cor meum
In amando Christum Deum,
Ut sibi complaceam.
9
Sancta mater, istud agas
Crucifixi fige plagas
Cordi meo valide.
Tui nati vulnerati,
Tam dignati pro me pati,
Poenas mecum divide.
Fac me vere tecum flere,
Crucifixo condolere
Donec ego vixero.
Juxta crucem tecum stare,
Te libenter sociare
In planctu desidero.
Virgo virginum praeclara,
Mihi jam non sis amara,
Fac me tecum plangere.
10
Fac ut portem Christi mortem,
Passionis fac consortem
Et plagas recolere.
Fac me plagis vulnerari,
Cruce hac inebriari
Ob amorem FiIii.
11
Inflammatus et accensus
Per te, Virgo, sim defensus
In die judicii.
Christe, cum sit hunc exire,
Da per Matrem me venire
Ad palmam victoriae.
12
Quando corpus morietur,
Fac ut animae donetur
Paradisi gloria.
Amen.
Cyfieithiad
Safai’i fam ef yn wylofus
wrth y groesbren yn alarus
wrth i fywyd Iesu ddarfod.
Fe ddaeth cleddyf a’i thrywanu
drwy ei chalon, mae’n galaru,
ei boenau erchyll mae’n eu rhannu.
O, mor drist a gwael ei henaid
ydoedd hi, y fam fendigaid
i’r unig-anedig Un!
Crist mewn artaith ar y Groes,
hithau isod deimla’i loes
wrth i’w mab godidog farw.
Pwy yn wir na fyddai’n wylo
wrth weled ei fam annwyl yno
yn myfnderoedd mawr ei thrallod?
A oes calon a all beidio
â theimlo brath y boen ddi-ildio
a brofodd y fam annwyl honno?
Gwelodd ef yn hongian yno
dros ei bobl wedi’i arteithio,
a’i fflangellu yn ddiflino.
Ar ei hannwyl fab yn syllu,
gwrthodedig, a than warth
wrth i’w ysbryd dwyfol ballu.
Ti, y Fam, ffynhonnell cariad,
cyffwrdd f’ysbryd oddi uchod,
boed i’m calon fod mewn undod.
Gwna i mi deimlo fel y teimlaist ti;
gwna i’m henaid wir lewyrchu
gyda chariad Crist ein Hiôr.
O Fam sanctaidd, gwella di
glwyfau dwfn fy nghalon i,
o groeshoelio fy ngwaredwr.
Gad i mi rannu ei boen â thi,
yr hwn â ddioddefodd drosof i,
yr hwn a fu farw drosof i.
Gad i mi wylo gyda thi,
dros un a alarodd drosof fi,
drwy holl ddyddiau ’mywyd i.
Wrth y groes, gad i mi yno
aros i wylo a gweddïo,
hyn a ofynnaf gennyt ti.
Wyryf y gwyryfon,
gwrando nawr ar gais fy nghalon:
gad i mi rannu d’alar dwyfol.
Gad i mi hyd fy anadl olaf
ddioddef poen y diwedd hwnnw,
dy fab annwyl di yn marw.
Wedi ’nghlwyfo â’i holl glwyfau,
wedi ’nhrochi yn ei waed
nofio yn ei werthfawr waed.
Bydd wrth f’ochr, Wyryf deg
rhag im losgi yn y fflamau
pan ddaw dydd ei farn ofnadwy.
Grist, pan elwi arnaf draw,
boed i’th fam roi im ei llaw,
dy groes fo imi’n fuddugoliaeth.
Tra bo ’nghorff i yma’n pydru,
boed i’m henaid dy foliannu,
ym Mharadwys gyda thi.
Amen.
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant ...
Concerto i’r Gerddorfa gan Bartók
Nos Iau 9/5/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Nos Wener 10/5/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Caroline Shaw The Observatory première y DU
Ravel Concerto i’r Piano yn G fwyaf
Bartók Concerto i’r Gerddorfa
Giancarlo Guerrero arweinydd
Sergio Tiempo piano
LLIWGAR | DEINAMIG | GAFAELGAR
Cafodd The Observatory gan Caroline Shaw (sy’n cael ei berfformio am y tro cyntaf yn y DU) ei ysbrydoli gan daith i Arsyllfa Griffin ger Hollywood Bowl; mae’n archwilio ffyrdd newydd o edrych ar y bydysawd, yn cyfuno’r hen a'r newydd gydag anhrefn ac eglurder, mewn llif ymwybod sy’n procio ein chwilfrydedd.
Bydd concerto atmosfferaidd Ravel i’r piano, sy’n gymysgedd gyfoethog o delynegiaeth, offeryniaeth atgofus a darnau piano meistrolgar, yn cael ei berfformio gan y pianydd penigamp, Sergio Tiempo, wrth iddo ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW. I gloi’r rhaglen syfrdanol hon, mae’r feistrolaeth ryfeddol yn parhau yng Nghoncerto gwych Bartók i’r Gerddorfa, gyda’i adleisiau o gerddoriaeth werin, dan arweiniad Giancarlo Guerrero, yr arweinydd o Gosta Rica sydd wedi ennill Gwobr Grammy.
Ychydig o Ganu Nosweithiol
Nos Iau 16/5/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Fauré Pelléas et Mélisande – cyfres
Stephen McNeff The Celestial Stranger première byd
Schoenberg Verklärte Nacht (fersiwn 1943)
Joana Carneiro arweinydd
Gavan Ring tenor
CHWYLDROADOL | ANGERDDOL | GOLEUOL
Mae goleuadau nefolaidd, pefriol yn disgleirio yn y noson hon o gerddoriaeth arloesol. Mae cyfres Fauré o Pelléas et Mélisande yn agor mewn arddull sionc ond cythryblus – lleoliad cerddorol cyntaf drama Maurice Maeterlinck o’r un enw, a fyddai’n ysbrydoli cyfansoddwyr enwog eraill fel Debussy, Sibelius a Schoenberg.
Rydyn ni’n symud i uchelfannau mwy etheraidd gyda’r perfformiad cyntaf erioed o The Celestial Stranger gan Stephen McNeff. Yna, 150 mlynedd ers i Schoenberg gael ei eni, byddwn yn dathlu’r cyfansoddwr radical hwn gyda pherfformiad o Verklärte Nacht, gwaith cynnar a enillodd glod am y tro cyntaf i ddyn a fyddai’n newid cwrs hanes cerddoriaeth drwy greu cerddoriaeth ddodecaffonig, sy’n fwy adnabyddus fel cyfresiaeth. I arwain BBC NOW am y tro cyntaf, byddwn yn croesawu'r arweinydd hyfryd o Bortiwgal, Joana Carneiro.
Gergely Madaras yn arwain …
Nos Wener 21/06/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Debussy Prélude à l’après-midi d’un faune
Debussy Nocturnes
Christian Mason Thaleia première y DU
Franck Psyché – ‘Les jardins d’Éros’
Gergely Madaras arweinydd
Noémi Győri ffliwt
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
HUDOLUS | DARLUNIADOL | LLESMEIRIOL
Yn Prélude à l’après-midi d’un faune gan Debussy – darn arloesol sy’n portreadu breuddwydion a chyfarfyddiadau ffawn mytholegol – mae amwysedd byrlymus a harmonïau tryloyw yn disgleirio yn y darn, gyda’i alawon sy’n dwyn ysbrydoliaeth gan y Dwyrain, ei naws gynnil a’i brydferthwch pur. Yna, byddwn yn archwilio golau a chysgod yn Nocturnes Debussy, sydd wedi’u hysbrydoli gan gyfres o baentiadau Whistler o’r un enw. Ceir alaw befriog ysgafn yn ‘Nuages’, y cyntaf o'r Nocturnes, ac yna egni rhythmig sy’n dyrnu mynd yn ‘Fêtes’, tra mae’r defnydd o leisiau menywod yn ‘Sirènes’ yn dod ag ansawdd iasol i’r gwead.
Mae Thaleia, concerto Louis Mason i’r ffliwt, yn defnyddio’r offeryn unawdol mewn arddull persain rhydd, sy’n adleisio L’après-midi gan Debussy. Fe’i hysgrifennwyd ar gyfer Noémi Győri fel rhan o’i phrosiect ‘Contemplation of the Nymph’, lle mae nodweddion Thaleia, afondduwies Etna, yn ganolog. Rydyn ni’n falch iawn bod Noémi yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r arweinydd Gergely Madaras ar gyfer y perfformiad cyntaf erioed o’r gwaith hwn yn y DU. Byddwn ni’n gorffen y cyngerdd hudolus hwn gyda ‘Les jardins d’Eros’ o Psyché, cathl symffonig Franck, sy’n gosod geiriau gan Sicard a Louis de Fourcaud ac sydd wedi’u hysbrydoli gan Metamorphoses gan Apuleius.
Bywgraffiadau
Sofi Jeanninconductor

Lun: Radio France/Christophe Abramowitz
Lun: Radio France/Christophe Abramowitz
Mae Sofi Jeannin, a aned yn Sweden, wedi sefydlu ei hun fel un o’r arbenigwyr corawl gorau yn y byd. Ar hyn o bryd, hi yw Prif Arweinydd Cantorion y BBC (enillwyr Gwobr Ensemble RPS 2024), Cyfarwyddwr Cerdd La Maîtrise de Radio France, a Phrif Arweinydd ARS NOVA Copenhagen. Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Cerdd Choeur de Radio France (2015–18).
Mae hi hefyd yn mwynhau gyrfa brysur a llawn boddhad fel arweinydd gwadd. Y tymor hwn, bydd yn arwain y Meseia gan Handel gyda’r Britten Sinfonia, Dioddefaint Sant Matthew gan Bach gyda’r Dunedin Consort, Anthemau’r Coroni gan Handel, a gweithiau newydd gan Anna Clyne, Héloïse Werner, Ben Nabuto a Roderick Williams. Y mis hwn, mae hi’n cymryd rhan yng ngŵyl cerddoriaeth gorawl Tokyo Cantata; ac mae hi hefyd yn gweithio gyda Chôr a Cherddorfa Ffilharmonig Radio’r Iseldiroedd ar Alice in Wonderland gan Unsuk Chin.
Mae ei huchafbwyntiau diweddar eraill yn cynnwys ymddangosiadau gyda Cherddorfa’r Hallé, y New Japan Philharmonic a cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl; yn ogystal â cherddorfeydd Symffoni Norrköping, Seattle a Singapore, a’r Auckland Philharmonia. Mae ei repertoire arwain yn cynnwys gweithiau fel Y Tymhorau gan Haydn, Gloria gan Poulenc, Symffoni’r Salmau gan Stravinsky, Sinfonia da Requiem gan Britten, Offeren Fauré, ac Oratorio’r Nadolig a Dioddefaint Sant Matthew gan Bach. Mae ei phrosiectau corawl nodedig yn cynnwys ymddangos gyda Chorws Radio Sweden, Coro Casa da Música, DR VokalEnsemblet, Côr Siambr Iwerddon a Chôr NFM Wrocław.
Mae Sofi wedi ymrwymo i waith addysg ac allgymorth ac mae hi wedi gweithio gyda chorws a cherddorfa Kinshasa, Congo, yn ogystal ag ymwneud ag El Sistema yng Ngwlad Groeg, ers 2017. Mae hi’n cynnal gweithdai a dosbarthiadau meistr yn rheolaidd ym mhob cwr o’r byd.
Astudiodd arwain a chanu yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Stockholm, yn y Conservatoire yn Nice, ac wedyn yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Llundain gyda Paul Spicer. Arweiniodd ei darllediad cyntaf ar BBC Radio 3 yn 2006, sef y perfformiad cyntaf yn y DU o Consolation I gan Helmut Lachenmann.
Cafodd Sofi Jeannin y teitl Chevalier de l’ordre national du Mérite gan Weinyddiaeth Diwylliant Ffrainc yn 2021, a dyfarnwyd y Grand Prix Antoine Livio iddi gan Presse Musicale Internationale yn 2024.
Y Fonesig Evelyn Glennie offerynnau taro

Y Fonesig Evelyn Glennie yw’r person cyntaf i greu a chynnal gyrfa lawnamser fel unawdydd offerynnau taro, ac mae hi wedi perfformio ym mhedwar ban byd gyda cherddorfeydd ac artistiaid o’r radd flaenaf. Hi a agorodd y drws i gynnwys concerti i offerynnau taro yn repertoires cerddorfeydd, pan chwaraeodd Veni, veni, Emmanuel gan Syr James MacMillan, y concerto i offerynnau taro cyntaf yn hanes y Proms, yn y Royal Albert Hall yn 1992.
Mae hi wedi comisiynu dros 200 o weithiau gan lawer o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw’r byd. Yn ogystal â hyn, mae hi’n cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer cwmnïau ffilm, teledu, theatr a llyfrgelloedd cerddoriaeth. Mae hi wedi ennill dwy wobr Grammy ac mae hi wedi cael ei henwebu am wobr BAFTA. Mae hi’n cynnal dosbarthiadau meistr ac ymgynghoriadau’n rheolaidd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gerddorion.
Roedd ganddi rôl flaenllaw yn Seremoni Agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012, lle bu’n arwain 1,000 o ddrymwyr mewn perfformiad a oedd yn cynnwys offeryn newydd, sef Aliwffon Cyngerdd Glennie.
Mae hi wedi rhyddhau dros 40 o albymau, sy’n amrywio o ddarnau byrfyfyr gwreiddiol i goncerti ar gyfer offerynnau taro, a phrosiectau modern arloesol i unawdwyr offerynnau taro.
Dyfarnwyd OBE iddi yn 1993 ac mae ganddi dros 100 o wobrau rhyngwladol hyd yma, gan gynnwys Gwobr Cerddoriaeth Polar, Gwobr Gerddoriaeth Léonie Sonning a’r Cydymaith Anrhydedd. Fe’i penodwyd yn Llywydd benywaidd cyntaf Help Musicians, y trydydd person i ddal y teitl ers Edward Elgar a Peter Maxwell Davies. Ers 2021 mae hi wedi bod yn Ganghellor Prifysgol Robert Gordon, Aberdeen.
Lansiodd The Evelyn Glennie Podcast yn 2020, sydd wedi cynnwys enwogion o fyd cerddoriaeth, chwaraeon, teledu a’r byd academaidd. Mae hi’n curadu Casgliad Evelyn Glennie, sy’n cynnwys dros 3,800 o offerynnau taro. Y llynedd, cychwynnodd Sefydliad Evelyn Glennie, sy’n ceisio gwella cyfathrebu a chydlyniant cymdeithasol drwy annog pawb i ddarganfod ffyrdd newydd o wrando er mwyn ysbrydoli, creu, ymgysylltu a grymuso.
Julieth Lozano Rolong soprano

Lun: Bernado Borghetti
Lun: Bernado Borghetti
Enillodd Julieth Lozano Rolong, y soprano o Golombia, Wobr y Gynulleidfa’r Fonesig Kiri Te Kanawa yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd y llynedd, yn ogystal â chael ei henwi’n un o 10 Seren y Dyfodol yn Opera Wire yn 2023.
Y tymor hwn, dychwelodd at Opera Cenedlaethol Cymru i ailymgymryd â rôl Nuria (Ainadamar gan Osvaldo Golijov). Ymddangosodd am y tro cyntaf gyda’r cwmni yn nigwyddiad gohiriedig Dubai Expo 2020, fel Zayed/Mary Ifanc yn y cynhyrchiad newydd o Al Wasl Opera, dan arweiniad Justin Brown. Y tymor hwn, bydd hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Lloegr ac yng Ngŵyl Glyndebourne.
Dechreuodd ei thymor diwethaf yng Ngholombia yn perfformio rhan Susanna (Priodas Figaro) yn Teatro Mayo, dan faton Martin Haselböck. Yna, ymddangosodd am y tro cyntaf gydag Opera’r Alban fel Nuria o dan arweiniad Stuart Stratford, cyn treulio gweddill y tymor yn Grand Théâtre Genève fel rhan o’r ensemble Jeune. Yma, roedd ei rolau’n cynnwys Morwyn Flodau (Parsifal), Melanto (Il ritorno d’Ulisse in patria), y Meddyg (Voyage vers l’espoir gan Christian Jost) ac Aksinya (The Lady Macbeth of the Mtensk District).
Ymhlith ei hymrwymiadau blaenorol mae perfformio’r brif ran yn Y Llwynoges Fach Gyfrwys gydag Opera Gŵyl Longborough, rhan Zerlina (Don Giovanni) yng Ngŵyl Verbier, Tytania (A Midsummer Night’s Dream) gydag Opera al Parque yng Ngholombia, Despina (Così fan tutte) yng Ngŵyl Gerddoriaeth Genedlaethol Cartagena, Susanna (Priodas Figaro) yn y Coleg Cerdd Brenhinol, a Norina (Don Pasquale) gyda Random Opera.
Cyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth Kathleen Ferrier yn 2020, ac enillodd wobr y Llywydd yn 2018, yn ogystal ag ymddangos yn rhaglen ddogfen y BBC, Queen Victoria: My Musical Britain, a recordiwyd yn 2019. Mae hi wedi perfformio yn y Royal Albert Hall, yn Amgueddfa V&A ac mewn llawer o leoliadau eraill ym mhob cwr o’r byd.
Graddiodd Julieth Lozano Rolong gyda gradd Meistr mewn Perfformio Lleisiol a Diploma Artist mewn Opera o’r Coleg Cerdd Brenhinol, lle bu’n astudio gyda Dinah Harris. Mae hi’n ysgolor Irene Hanson ac Opera Annibynnol yn Sadler’s Wells, ac roedd hi hefyd yn Artist Ifanc yn y Stiwdio Opera Genedlaethol yn Llundain yn 2019/20.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn cael cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.
Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.
Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.
Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau ac yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.
I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Anna Cleworth
Emilie Godden
Marie-Noelle Richard =
Juan Gonzalez
Žanete Uškāne
Ruth Heney
Carmel Barber
Rebecca Totterdell
Gary George-Veale
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ros Butler
Sheila Smith
Lydia Caines
Katherine Miller
Beverley Wescott
Roussanka Karatchivieva
Pierre Coulaud =
Ilze Abola
Joseph Williams
Michael Topping
Vickie Ringguth
Fiolâu
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Anna Growns
Catherine Palmer
Lydia Abell
Robert Gibbons
Daire Roberts
Lucy Theo
Anne Marie Lemeunier =
Soddgrythau
Tim Hugh ‡
Raphael Lang
Sandy Bartai
Alistair Howes
Rachel Ford
Keith Hewitt
Carolyn Hewitt
Kathryn Graham
Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Manuel Jouen =
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Ruohua Li
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis
Piccolo
Lindsey Ellis †
Oboau
Catriona MacKinnon ‡
Amy McKean †
Sam Baxter
Cor anglais
Sam Baxter
Clarinetau
Anna Hashimoto ‡
Ivan Rogachev
Lenny Sayers
Clarinét Bas
Lenny Sayers †
Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Izabela Musial
David Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Neil Shewan †
Tom Taffinder
John Davy
Craig MacDonald
Lynn Henderson
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †
Trombonau
Donal Bannister*
Jake Durham
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Anders Swane
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Phil Girling
Phil Hughes
Rhydian Griffiths
Telynau
Eluned Pierce
Nia Evans
Piano/Selesta
Catherine Roe Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
= Orchestre National de Bretagne
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa penodiad ar waith
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentis BBC Cymru Jordan Woodley
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yw un o brif gorau cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig.
Wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae’r corws, sy’n dathlu ei benblwydd yn 40 y tymor hwn, yn gweithio’n rheolaidd ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â pherfformio cyngherddau ar ei ben ei hun. Mae’n cynnwys dros 150 o gantorion: cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Mae uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformiadau o Requiem Fauré ac O sacrum convivium Messiaen gyda Ludovic Morlot, Offeren ‘Nelson’ Haydn gyda’r arbenigwr cerddoriaeth gynnar enwog Christian Curnyn a recordiad CD o Dewi Sant gan Syr Karl Jenkins yn ei flwyddyn pen-blwydd yn 80 oed, a pherfformiadau blynyddol ym Mhroms y BBC – gydag ymddangosiadau diweddar yn cynnwys Harmonium gan John Adams gyda Prif Arweinydd Ryan Bancroft, A Sea Symphony gan Vaughan Williams gydag Andrew Manze a Requiem Mozart o’r cof gyda Nathalie Stutzmann.
Yn ystod y tymor hwn, bydd y corws yn perfformio Five Mystical Songs Vaughan Williams gyda Harry Bicket, Dewi Sant gan Karl Jenkins i nodi Dydd Gŵyl Dewi, Stabat mater Poulenc a pherfformiad cyntaf y byd o Sound of Stardust Alexander Campkin ochr yn ochr ag enillydd Gwobr Cynulleidfa BBC Canwr y Byd Caerdydd, Julieth Lozano Rolong, ynghyd â’r baswyr yn perfformio 13eg Symffoni wych Shostakovich o dan faton Ryan Bancroft.
Mae’r corws wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg a cherddoriaeth gyfoes. Rhoddodd Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yr ail berfformiad erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl ei pherfformiad cyntaf, y maent newydd ei recordio i’w rhyddhau ar gryno ddisg yn ddiweddarach eleni. Mae wedi perfformio gweithiau am y tro cyntaf erioed gan amrywiaeth eang o gyfansoddwyr, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, yn seiliedig ar eiriau Araith Malala Yousafzai i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.
Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac yn ddiweddar ymddangosodd ar drac sain Paul Mealor ar gyfer Wonders of the Celtic Deep arBBC Cymru.
Cyfarwyddwr ArtistigAdrian Partington
Cyfeilydd Chris Williams
Soprano 1
Elizabeth Aitken
Jessica Rose Baber
Ella Edwards Beavington
Eve Bennett
Beth Bradfield
Logan Clark
Bethan M. Evans
Sally Glanfield
Sarah Jane Griffiths
Darcie Hamilton
Claire Hardy
Caitlin Hockley
Vanessa John-Hall
Rebecca Jolliffe
Lucie Jones
Joanna Leighton
Katherine Meredith
Joanna Osborn
Elizabeth Phillips
Charlotte Town
Helen Thomas
Jo Westaway
Soprano 2
Kate Bidwell
Dee Cooke
Isabel D’Avanzo
Rhianwen Hallows
Emily Hopkins
Rhiannon Humphreys
Victoria Illsley
Pippa Johnson
Julie Jones
Margaret Lake
Amélie Mack
Melanie Taylor
Caroline Thomas
Hannah Williams
Katherine Woolley
Alto 1
Ceri-Ann Absalom
Catherine Bradfield
Anna Beresford
Atiyeh Dast Afkan
Catherine Duffy
Rachel Farebrother
Kathrin Hammer
Naomi Anne Hitchings
Lisa May
Shanta Miller
Kate Reynolds
Zozi Sookanadenchetty
Vicki Westwell
Jessica Williams
Alto 2
Yasmin Browne
Alex Butler
Annette Hecht
Yvonne Higginbottom
Max Keith
Eleanor Prescott
Sian Schutz
Julie Wilcox
Thomas Wilde
Tenor 1
Oli Bourne
Roland George
Phil Holtam
Huw Llywellyn
Andrew Morris
Orlando Vas
Nick Willmott
Tenor 2
Rhys Archer
Mike Ennis
Peter Holmes
Owen Parsons
Richard Shearman
Deryck Webb
Richard Wilcox
Bas 1
Peter Cooke
Ethan Davies
Billy Donaghy
Rafael Grigoletto
Stephen Hamnett
David Hopkins
Jack Irwin
Emyr Wynne Jones
John Rhys Liddington
Lucas Maunder
Jez Piper
Neil Schofield
David Stephens
Alun Williams
Bas 2
Jeff Davies
Oliver Hodgson
Stuart Hogg
David McLain
Joseff Morris
Gareth Nixon
Mike Osborn
Nick Perfect
David Rodgers
Roedd y rhestr o gantorion yn gywir wrth fynd i’r wasg
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications
