BBC NOW – NOW!

Nos Iau 24/10/24, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Jessie Montgomery
Coincident Dances12’
première y DU

Elena Kats-Chernin
Fantasie im Wintergarten30’
première y DU

EGWYL: 20 munud

Huw Watkins
Symffoni Rhif 225’

Gemma Newarweinydd
Emily Sun ffidil

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3, i’w ddarlledu yn y dyfodol yn Classical Live a’r New Music Show. Bydd ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Llun: Kirsten McTernan

Llun: Kirsten McTernan

Croeso i’r cyngerdd heno, un sy’n llawn perfformiadau cyntaf. Mae’r arweinydd a’r unawdydd ffidil – Gemma New ac Emily Sun – yn ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW.

Yn y rhaglen hefyd mae dau berfformiad cyntaf erioed yn y DU. Mae Coincident Dances, darn Jessie Montgomery o 2017, yn troi naws strydoedd Efrog Newydd yn gerddoriaeth sy’n llawn egni a lliw.

O ymhellach i ffwrdd, mae’r cyfansoddwr o Awstralia, Elena Kats-Chernin, yn cloddio’n ôl i fyd sinema fud yr Almaen am yr ysbrydoliaeth i’w choncerto o 2022, Fantasie im Wintergarten, a ysgrifennwyd gyda chyfuniad arbennig o fedusrwydd a thelynegiaeth Emily Sun mewn golwg hefyd.

Nid oes angen llawer o gyflwyniad ar Huw Watkins, ac yntau wedi bod yn Gyfansoddwr Cyswllt BBC NOW rhwng 2015 a 2018, perthynas ffrwythlon a arweiniodd at sawl darn pwysig. Ysgrifennwyd ei Ail Symffoni fwy diweddar yn ystod pandemig Covid; ac eto mae naws y darn yn y pen draw yn un o optimistiaeth.

Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Jessie Montgomery(ganed 1981)

Coincident Dances (2017)

première y DU

Mae Coincident Dances wedi’u hysbrydoli gan y seiniau a glywir ymysg diwylliannau amrywiol Efrog Newydd. Mae’r darn yn cyfleu’r egni gwyllt a’r palet sain amlddiwylliannol rydych chi’n ei glywed hyd yn oed mewn taith gerdded fer drwy un o’i chymdogaethau. Mae’r gwaith yn gyfuniad o sawl byd sain gwahanol: Consort Saesnig, samba, cerddoriaeth ddawns mbira o Ghana, cerddoriaeth swing a thecno.

Roedd fy rheswm dros ddewis yr arddulliau hyn weithiau’n deillio o brofiad go iawn o glywed pâr o arddulliau yn ddamweiniol ar yr un pryd – sy’n digwydd y rhan fwyaf o ddyddiau’r wythnos wrth gerdded drwy strydoedd Efrog Newydd. Neu un adeg pan glywais gar wedi’i barcio yn chwarae jazz Lladin pan oeddwn ni’n gwrando ar rythmau a blŵs yn fy nghlustffonau. Arbrofion yn unig yw rhai o’r parau. Gan weithio yn y modd hwn, mae’r gerddorfa’n ymgymryd â rôl DJ gyda thrac dawns amlddiwylliannol.

Nodyn y rhaglen © Jessie Montgomery

EGWYL: 20 munud

Elena Kats-Chernin(ganed 1957)

Fantasie im Wintergarten (2022)

première y DU

Emily Sunffidil

Comisiynwyd y gwaith hwn gan Gerddorfa Symffoni Adelaide gyda chefnogaeth hael Mary Lou Simpson. Mae Mary Lou a minnau yn adnabod ein gilydd ers blynyddoedd lawer a dyma’r trydydd prosiect cyfansoddi i ni ei rannu. Soniodd y feiolinydd Emily Sun y byddai wrth ei bodd yn cael concerto gennyf, ac ysgrifennais Fantasie im Wintergarten gyda hi mewn golwg.

Cafodd y concerto hwn ei ysbrydoli gan rai elfennau o ffilm fud o’r Almaen yn yr 1920au. Calon y ffilm yw stori drasig o gariad a brad sy’n digwydd ym myd y ffair a’r syrcas; mae’r rhan fwyaf o’i golygfeydd yn cael eu perfformio mewn lleoliad enwog yn Berlin sy’n dal i fodoli heddiw, sef y Wintergarten. Ar gyfer y concerto hwn, roeddwn i eisiau adeiladu ar themâu amrywiol fel golau a chysgod, anhrefn, hiraeth ac ofn: byddai pob un o’r rhain yn rhoi cyfrwng gwych i Emily arddangos ei meistrolaeth a’i thelynegiaeth.

O safbwynt gweadol, mae’r ffidil yn symud rhwng bod yn unawdydd ac yn endid o fewn y gerddorfa. Mae tri symudiad unigryw i’r darn, gyda motiffau ailadroddus sy’n ymddangos mewn gwahanol ffurfiau drwy bob un.

Ar ôl cyflwyniad byr, mae motiff tango pedwar nodyn ailadroddus yn ymddangos yn is-gwmpasran y ffidil, sy’n cael ei ddilyn gan gyfres o syniadau cythryblus. Daw’r symudiad cyntaf i ben gyda dawns ergydiol, soniarus a rhythmig – yn gyntaf yn C leiaf ac yna, ar ôl ebychiad byr, yn D leiaf.

Mae cymalau prudd tebyg i’r blŵs gan y chwythbrennau isel yn adeiladu’r cyflwyniad i’r symudiad canol. Mae’r unawdydd yn ymuno gyda nodau hir iasol sy’n anwesu patrymau melodaidd ysgafn y llinynnau. Mae’r cyrn a’r utgyrn yn arwydd bod y chwythbrennau a’r offerynnau pres yn dychwelyd, gyda’r utgorn, y picolo a’r ffliwt yn chwarae’r nodau hir annaearol a’r ffidil yn darparu gwrthbwynt ysgafn. Ar ôl adeiladu i uchafbwynt, mae'r symudiad yn gorffen drwy ailadroddiad y deunydd rhagarweiniol yn dawel.

Mae’r diweddglo’n cyferbynnu unawd ffidil â chyfeiliant arddull cabaret melancolaidd (ar yr offerynnau pres a’r llinynnau yn bennaf). Daw’r uchafbwynt pan fydd y tango pedwar nodyn cychwynnol yn dychwelyd, a gyhoeddir gan gordiau cerddorfaol mawr, bron fel gorymdaith. Mae’n newid i adran olaf y darn, sy’n cynnwys cadenza ar gyfer yr unawdydd, cyn dod i uchafbwynt yn yr eiliadau olaf.

Nodyn y rhaglen © Elena Kats-Chernin

EGWYL: 20 munud

Huw Watkins(ganed 1976)

Symffoni Rhif 2(2020–21)

1 Allegro ma non troppo
2  Lento
3  Allegro

Mae’r ffaith bod yr Hallé a BBC NOW wedi cyd-gomisiynu Ail Symffoni Huw Watkins yn adlewyrchu ei berthynas ffrwythlon â’r ddwy gerddorfa. Roedd yn Gyfansoddwr Cyswllt gyda BBC NOW rhwng 2015 a 2018, a’r Hallé a gomisiynodd ei Symffoni Gyntaf. Arweiniodd llwyddiant y symffoni gyntaf at gais am waith arall, gyda’r awgrym cryf y byddai symffoni olynol yn cael ei chroesawu. Cyfansoddwyd yr Ail Symffoni rhwng 2020 a 2021. Cafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn ystod y pandemig mewn cyngerdd gan yr Hallé a ffilmiwyd ac ddarlledwyd ar 15 Ebrill 2021, dan arweiniad Syr Mark Elder. Meddai Watkins am y digwyddiad: ‘Ar ôl dod i adnabod y ddwy gerddorfa’n dda iawn, rwy’n gobeithio y bydd y symffoni newydd hon yn herio ac yn diddanu’r cerddorfeydd a’u cynulleidfaoedd craff fel ei gilydd’. Cafodd ei huniongyrchedd a’i steil cyfansoddi trawiadol eu cydnabod gan Wobr Cerddoriaeth Glasurol Sky Arts 2022.

Er nad oes ysbrydoliaeth angherddorol y tu ôl i’r symffoni, mae Watkins yn cydnabod bod rhyfeddod y cyfnod pan fu wrthi’n creu’r darn wedi helpu i ddiffinio cymeriad y gwaith, ac i bennu ei uchelgais y dylai’r gerddoriaeth gyrraedd cyrchfan gadarnhaol erbyn iddi orffen. Yn gyffredinol, mae gan y gerddoriaeth ansawdd awyr agored sy’n anadlu ysbryd o adferiad, yn ogystal ag adlewyrchu sylw Watkins, ‘Rydw i wrth fy modd yn ceisio dod o hyd i ffyrdd ffres o ddefnyddio deunydd tonyddol, triadol, ynghyd â rhythmau i swyno clustiau chwaraewyr a gwrandawyr fel ei gilydd.’

Mae’r symudiad agoriadol yn strwythur teiran lle mae syniadau thematig yn cael eu datgelu, eu datblygu a’u hadolygu. Yn ystod cyfnod y symudiad, ceir accelerando graddol drwy gyfres o dri uchafbwynt. Daw’r gerddoriaeth o gelloedd darniog ar y chwythbrennau, pob un yn ganon bach yn dynwared ei gilydd blith draphlith.  Maen nhw’n sefydlu proses o dwf organig sy’n berthnasol i’r symffoni yn ei chyfanrwydd. Mae alaw delynegol, ysgafn a gyflwynir gan yr obo yn bwysig hefyd. Daw’r symudiad i ben yn raddol, yr holl egni wedi pallu.

Gan gyferbynnu bywiogrwydd y symudiad cyntaf, mae’r ail yn gyfnod eang o orffwys, wedi’i greu o amgylch dau syniad. Mae’r cyntaf yn cyflwyno golygfa lonydd, dawel, wrth i linynnau distaw chwarae bob yn ail â chordiau’r offerynnau chwyth a phres. Yn yr ail olygfa, mae’r clarinetau a’r ffidlau cyntaf pizzicato yn cyflwyno syniad disgynnol sy’n graddol newid wrth i gôr y chwythbrennau, heb y baswnau, gael blas arno. Mae cyflymu’r tempo yn dod â dau uchafbwynt, gyda rhywfaint o hud clywedol ar y diwedd pan gyflwynir tincian tawel y crotalau, y glockenspiel a’r delyn.

Mae’r diweddglo’n cael ei gyflwyno fel accelerando dros bedwar cyfnod sy’n codi ac yn disgyn, gyda phob un yn arwain at uchafbwynt ffrwydrol o sain soniarus. Deialog ysgafn, byrlymus rhwng y ffliwtiau sy’n cyflwyno’r cyntaf; a chlarinetau disgynnol sy’n cychwyn yr ail, tra bo’r trydydd yn dechrau’n ysgafn gyda gwrthbwynt animeiddiedig ar y ffidlau a’r fiolâu. Wrth i gerddoriaeth afieithus tebyg i ddawns fwrw ymlaen tua’r uchafbwynt nesaf, rydym yn cyrraedd C fwyaf gyda’i oblygiadau o obaith a goleuni. Y llinynnau sy’n lansio’r adran olaf –coda sy’n cael ei sbarduno gan fomentwm di-baid, gyda’r symffoni’n cloi, yng ngeiriau Watkins, ag ‘optimistiaeth sy’n codi fry’.

Nodyn y rhaglen © Andrew Burn

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant … 

Argraffiadau a Myfyrdodau

Nos Iau 5/12/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Gabriella Smith Tumblebird Contrails
Simon Wills Concerto i’r Trombôn: Nora Barnacle Assumes Command première byd
Ives Symffoni Rhif 1

Ryan Bancroft arweinydd
Donal Bannister trombôn 

DYNAMIG | FFRI | LLIWGAR

Mae’r Môr Tawel, gyda’i donnau mawr, y llif rhydd a’r sïo ar y tywod, yn gefndir i Tumblebird Contrails gan Gabriella Smith. Mae gwylanod dolefus a brain uwchben a llwybr awyren rhithiol yn peintio lluniau ar draws drych yr awyr i gyfeiliant llanw a thrai’r môr yn y portread cerddorol argraffiadol hwn.

Mae Donal Bannis, Prif Trombonydd BBC NOW, yn camu allan o’r gerddorfa ac i safle’r unawdydd yn y perfformiad cyntaf erioed o’r Concerto i’r Trombôn gan Simon Wills, a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer Donal, cyn i’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft barhau i archwilio gweithiau Charles Ives gyda BBC NOW, y tro hwn gyda’i Symffoni Gyntaf. Mae alawon myfyriol yn cyferbynnu â themâu egnïol ac alawon tebyg i emynau sy’n frith o delynegiaeth esgynnol yn y symffoni Ramantaidd hon.

‘Grace’

Nos Wener 21/02/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Cecilia Darmström ICE première y DU
Ninfea Cruttwell-Reade Concerto i’r Piano premièrebyd
Grace Williams Symffoni Rhif 1

Emilia Hoving arweinydd
Clare Hammond piano

YSBRYDOLEDIG | GWREIDDIOL | PERTHNASOL

Y gwanwyn hwn, rydym yn parhau â’n cyfres Grace, sy’n arddangos talent a menywod Cymru mewn cerddoriaeth, gyda gweithiau gan Cecilia Darmström, Ninfea Cruttwell-Reade a Grace Williams, i gyd dan faton Emilia Hoving.

Mae Cecilia Darmström yn archwilio effeithiau cynhesu byd-eang a chwymp ecosystemau hanesyddol yn ICE. Drwy gerddoriaeth mae’n darlunio’r ddaear yn brwydro dros ei bodolaeth, a sut y gallem wyrdroi’r broses hon. Bydd y Concerto i’r Piano gan y cyfansoddwr o Brydain, Ninfea Cruttwell-Reade, yn cael ei berfformio am y tro cyntaf erioed gyda Clare Hammond, aelod rheolaidd o BBC NOW wrth y piano, cyn i ni droi , at yr un a roes ei henw i’r gyfres, Grace Williams. Mae ei Symffoni Gyntaf nid yn unig yn un o’i gweithiau cynharaf, ond credir mai dyma’r symffoni gyntaf i’w hysgrifennu erioed gan gyfansoddwr o Gymru. Cafodd y symffoni gyntaf ddramatig hon ei hysbrydoli gan y rebel Cymreig o’r 15fed ganrif, Owain Glyndŵr.

Bywgraffiadau

Gemma Newarweinydd

Roy Cox

Roy Cox

Mae Gemma New, a aned yn Seland Newydd, yn Gynghorydd Artistig ac yn Brif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Seland Newydd, ac mae galw mawr amdani fel arweinydd gwadd ledled y byd. Derbyniodd Wobr Arwain Syr Georg Solti yn 2021.

Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys ei hymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Radio Munich, Cerddorfa Symffoni Radio Sweden, Cerddorfa’r Ganolfan Celfyddydau Genedlaethol yn Ottawa, cerddorfeydd Ffilharmonig Brwsel a’r Iseldiroedd, Philharmonia Prag a Musikkollegium Winterthur. Mae’n dychwelyd i arwain cerddorfeydd Symffoni Barcelona, BBC Scotland, Indianapolis, Malmö, Milwaukee a St Louis, Cerddorfa Juilliard, Cerddorfa Academi Mendelssohn Leipzig, Orchestra della Toscana, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol a Cherddofra Ffilharmonig Bergen.

Mae ei huchafbwyntiau gyda Cherddorfa Symffoni Seland Newydd yn cynnwys perfformiadau o Goncerto i’r Piano Rhif 3 Lyell Cresswell, a’r perfformiad cyntaf o Asteroid Kaija Saariaho yn Seland Newydd.

Mae’n ymddangos yn rheolaidd gyda cherddorfeydd rhyngwladol blaenllaw, a hithau wedi arwain cerddorfeydd Ffilharmonig y BBC, Los Angeles, Helsinki ac Efrog Newydd, Cerddorfa Philadelphia, Cerddorfa Cleveland a cherddorfeydd Symffoni Atlanta, Baltimore, Detroit, Montreal, San Diego, San Francisco, Sydney a WDR, St Louis, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Washington DC, Cerddorfa Minnesota, Hallé, Orchestre National de Lyon ac Orquesta Nacional de España, ymysg eraill.

Y tymor diwethaf oedd ei thymor olaf fel Cyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Ffilharmonig Hamilton yn Ontario. Yn ystod ei deiliadaeth, fe wnaeth hi ddyfnhau rhagoriaeth artistig y gerddorfa ac ehangu ei chyrhaeddiad i’r gymuned, yn ogystal â chydweithio â llawer o unawdwyr mwyaf blaenllaw Canada, gan gynnwys James Ehnes, Timothy Chooi, Janina Fialkowska a Stewart Goodyear.

Roedd hi’n arfer bod yn Arweinydd Cyswllt Cerddorfa Symffoni New Jersey, ac yn Gymrawd Arwain Dudamel gyda Cherddorfa Ffilharmonig Los Angeles. Yn 2018 roedd yn Gymrawd Arwain yn Tanglewood, lle bu’n arwain y perfformiad cyntaf erioed o In America gan Michael Gandolfi.

Mae hi wedi ymrwymo i gerddoriaeth newydd ac ymddangosodd am y tro cyntaf yn Neuadd Carnegie yn 2013 gyda pherfformiadau o weithiau John Adams ac Andrew Norman. Yn 2010, sefydlodd y Lunar Ensemble, ensemble cerddoriaeth gyfoes naw aelod a berfformiodd 30 o weithiau dros chwe thymor. Mae New wedi arwain gweithiau gan Thomas Adès, Anna Clyne, Kevin Puts, Steve Mackey, Aaron Jay Kernis a llawer mwy.

Mae gan Gemma New radd Meistr mewn Cerddoriaeth ym maes arwain cerddorfaol o Sefydliad Peabody yn Baltimore. Graddiodd gydag anrhydedd o Brifysgol Caergaint yn Seland Newydd gyda Baglor mewn Cerddoriaeth ym maes perfformio ar y ffidil.

Emily Sunffidil

Shin-joong Kim

Shin-joong Kim

Mae sain bwerus, dehongliadau grymus a phresenoldeb diddorol Emily Sun yn ennill canmoliaeth ryngwladol. Daeth yn enwog yn wreiddiol fel unawdydd ifanc ac ymddangosodd fel unawdydd yn y rhaglen ddogfen enwog o Awstralia, Mrs Carey’s Concert. Mae hi bellach yn byw yn Llundain ac wedi perfformio gyda cherddorfeydd blaenllaw ac ymddangos yn neuaddau cyngerdd mawr y byd.

Emily Sun oedd Artist Cyswllt Cerddorfa Symffoni Adelaide y tymor diwethaf, ac yn ystod y tymor hwnnw rhoddodd y perfformiad cyntaf erioed o’r gwaith y mae’n ei berfformio heno, darn y comisiynwyd Elena Kats-Chernin i’w gyfansoddi ar ei chyfer gan Gerddorfa Symffoni Adelaide. Yr hydref hwn hefyd bydd ei halbwm cyntaf o goncerti, Film Fantasia, yn cael ei ryddhau. Mae’n cynnwys recordiadau byw o Fantasie im Wintergarten, Concerto i’r Ffidil Korngold a Thema Schindler’s List ganJohn Williams.

Yn ogystal â’r cyngerdd heno gyda BBC NOW, mae hi hefyd yn perfformio am y tro cyntaf gyda Cherddorfeydd Ffilharmonig Johannesburg a KwaZulu-Natal, ac yn dychwelyd i Gerddorfa Symffoni Melbourne a Cherddorfa Ieuenctid Awstralia, yn ogystal â rhoi datganiad yn Nhŷ Opera Sydney.

Mae ei pherfformiadau cerddorfaol diweddar yn cynnwys cyngherddau gyda cherddorfeydd Symffoni Melbourne, Sydney, Tasmania a Gorllewin Awstralia gydag arweinwyr fel Vasily Petrenko, Andrew Litton, Jaime Martín, Mark Wigglesworth, Johannes Fritzsch a Benjamin Northey.

Cafodd ei gwahodd i berfformio ym Mhalas Buckingham ochr yn ochr â Maxim Vengerov ym mhresenoldeb Ei Uchelder Brenhinol y Brenin Charles III, ac ym Mhalas Brenhinol Brwsel ym mhresenoldeb Brenin a Brenhines Gwlad Belg. Mae’r gwobrau y mae wedi’u hennill yn cynnwys Gwobr Perfformiwr Ifanc ABC 2016, Cystadleuaeth Gerddorol Royal Over-Seas League a chystadlaethau ffidil Brahms, Yampolsky a Lipizer.

Mae ei datganiadau siambr diweddar yn cynnwys Music in the Round, perfformiadau gyda’r pianyddion Anna Tilbrook a Joseph Havlat a chyfnod preswyl yng Ngŵyl Cerddoriaeth Siambr Awstralia.

Enillodd ei halbwm cyntaf, Nocturnes, glod enfawr; mae hi hefyd yn ymddangos ar ddisg o weithiau siambr Robert Kahn.

Astudiodd Emily Sun gyda Robin Wilson, Itzhak Rashkovsky ac Augustin Dumay a chafodd ei mentora ymhellach gan Pinchas Zukerman, Maxim Vengerov ac Ivry Gitlis. Mae’n athro ffidil yn y Coleg Cerdd Brenhinol ac mae’n chwarae ffidil G. B. Guadaganini o 1753 ar fenthyciad hael gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol UKARIA.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei brosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Children in Need.

Yn eu cartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Nick Whiting blaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Žanete Uškāne
Ruth Heney
Carmel Barber
Emilie Godden
Kerry Gordon-Smith
Alejandro Trigo
Anna Cleworth
Juan Gonzalez
Jane Sinclair
Amy Fletcher

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Paul Medd
Sheila Smith
Joseph Williams
Beverley Wescott
Vickie Ringguth
Katherine Miller
Roussanka Karatchivieva
Michael Topping
Lydia Caines
Gary George-Veale
Elizabeth Whittam

Fiolâu
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Lowri Taffinder
Robert Gibbons
Lydia Abell
Anna Growns
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Dáire Roberts

Soddgrythau
Joely Koos ‡
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Keith Hewitt
Alistair Howes
Kathryn Graham

Basau Dwbl
Alex Jones #
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Richard English
Hannah Turnbull

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccoli
Lindsey Ellis †
John Hall
Matthew Featherstone

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †

Cor anglais
Amy McKean †

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Lenny Sayers

Clarinét Bas
Lenny Sayers †

Baswnau
Alison Wormell
Jo Shewan
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland † 

Cyrn
Tim Thorpe *
Tom Taffinder
Neil Shewan †
Max Garrard **
John Davy

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Andy Dunn
Will Morley **

Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden † 

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro 
Phil Girling
Phil Hughes
Andrea Porter
Riccardo Fabisiak

Y Delyn
Elen Hydref

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol
**Watkins yn unig



Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlleduswydd wag
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy **
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications