Tchaikovsky Symffoni Rhif 5

Nos Iau 16/3/2023, 7.30pm

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Nos Wener 17/3/2023, 7.30pm

Neuadd Prichard-Jones, Bangor

Dydd Sul 19/3/2023, 3.00pm

Venue Cymru, Llandudno

Tansy Davies
Monolith: I Extend My Arms 17’

Jean Sibelius
Concerto i’r Ffidil 31’

EGWYL: 20 munud

Pyotr Ilyich Tchaikovsky
Symffoni Rhif 5 44’

Clara-Jumi Kang ffidil
Ryan Bancroftarweinydd

Mae’r cyngerdd yn Aberystwyth yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu ar raglen Radio 3 in Concert yn y dyfodol. Bydd ar gael i’w ffrydio neu ei lawrlwytho am 30 diwrnod trwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chymysgeddau cerddoriaeth. Ewch i bbc.co.uk/now am ragor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.

Croeso

Matthew Wood

Rydyn ni’n falch iawn o fod yn ôl yng Ngogledd Cymru, yn dilyn ein taith yr hydref diwethaf, gyda’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft y tro hwn. 

Rydyn ni’n lansio’r rhaglen gyda gwaith hynod atgofus Tansy Davies Monolith: I Extend My Arms. Cafodd y gwaith ei ysgrifennu yn 2021, a’i ysbrydoli gan ffotograff gan yr artist swrrealaidd Ffrengig Claude Cahun.

I ddechrau, roedd Sibelius wedi gobeithio bod yn unawdydd ar y ffidil cyn gorfod rhoi’r gorau i’r freuddwyd honno, felly mae’n rhaid bod cyfansoddi ei unig goncerto wedi bod yn brofiad chwerw-felys. Gyda’i berseinedd hiraethlon, ynghyd â’i natur virtuoso astrus, nid yw’n syndod ei fod wedi datblygu i fod yn ffefryn yn y neuadd gyngerdd. Heno, rydyn ni’n falch iawn o groesawu Clara-Jumi Kang fel unawdydd.

Rydyn ni’n gorffen gyda Phumed Symffoni dywyll a dramatig Tchaikovsky, gwaith a ysgrifennwyd mewn cyfnod o argyfwng, gyda’r cyfansoddwr yn cyfaddef i’w frawd Modest ei fod yn ‘raddol, a gyda chryn anhawster … yn gwasgu symffoni allan o’m hymennydd pŵl.’

Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Tansy Davies (ganed 1973)

Monolith: I Extend My Arms (2021)

Strata o ganonau fel craig, daeth Monolith: I Extend My Arms i fy meddwl fel gweledigaeth o ddeunydd haenog, cylchol ar gyfer nifer fawr o offerynnau llinynnol. Yn ddwys ac yn dryloyw ar yr un pryd, dychmygais y sŵn fel corff o graig ar siâp cwmwl yn disgyn yn dawel fach ac yn araf iawn, fel pluen enfawr, o’r awyr i’r ddaear.

Mae’r tu allan – sydd weithiau’n enfawr ac yn debyg i wenithfaen gyda fflachiadau disglair o gwarts, ond dro arall yn niwlog ac yn debyg i we, yn crwydro ar wahân ac yna’n toddi’n un – yn cael ei amlygu a’i bwysleisio gan offerynnau taro: clychau a’r drwm bas. Mae rhythmau mewnol yn raddol weithio’u ffordd allan o grombil y graig cyn byrlymu allan o’r diwedd a dawnsio hyd wyneb y graig.

Mae ffotograff du a gwyn Claude Cahun I Extend My Arms (c.1930) – sy’n dangos pâr o freichiau’n dod allan o fonolith carreg – yn gweddu’n berffaith i naws fy ngwaith i: monolithig ond agored a/neu amddiffynnol; darlun o wrywdod dwyfol.

Mae’r graig hynafol yn ffotograff Cahun yn dwyn i gof yr hunan isfydol, hanfodol, cysefin, di-rywedd y mae llawer o ddelweddau hunanbortread Cahun yn eu cyfleu. ‘Gwrywaidd? Benywaidd?’ Ysgrifennodd Cahun yn ei llyfr Aveux non Avenus, a gyhoeddwyd yn Saesneg fel Disavowals: ‘Mae’n dibynnu ar y sefyllfa. Diryw yw’r unig rywedd sy’n gweddu i mi bob amser.’

Nodyn y rhaglen © Tansy Davies
Gwefan: https://tansydavies.com

Jean Sibelius (1865–1957)

Concerto i’r Ffidil yn D leiaf (1903–1904, diw. 1905)

1 Allegro moderato
2 Adagio di molto
3 Allegro, ma non tanto

Clara-Jumi Kangffidil

Am gyfnod, pan oedd yn ŵr ifanc, roedd Sibelius wedi gobeithio bod yn bencerddor ar y ffidil. Ond, mae’n ymddangos bod rhywbeth wedi digwydd i’w hyder, ac roedd ei dechneg wedi dioddef o ganlyniad i hynny. Ystyriodd roi’r gorau i gerddoriaeth yn gyfan gwbl ‘a byw bywyd ffŵl, gan fy mod yn fwy cymwys i wneud hynny’. Yn y diwedd, roedd yr ysfa i gyfansoddi yn rhy gryf ond, er hynny, gall rhywun ddychmygu pa mor gymysglyd oedd ei deimladau pan ddechreuodd fynd i’r afael â’r prosiect concerto yn 1904.

Efallai ei fod yn arwyddocaol bod Sibelius wedi bod drwy un o’i byliau gwaethaf o alcoholiaeth yn y cyfnodau cyn ac yn ystod ei waith ar y Concerto i’r Ffidil. Roedd ei wraig arwrol o amyneddgar, Aino, yn mynd i chwilio amdano o gwmpas clybiau, bariau a bwytai ffasiynol Helsinki byth a hefyd yn y gobaith y byddai’n sobri ddigon i orffen y gwaith er gwaethaf popeth. Yn ôl y sôn, cyfansoddwyd braslun o symudiad araf y concerto yn ystod ‘hangofyr’ anferth a barodd am dridiau. Bu Christian, brawd Sibelius, a oedd yn seiciatrydd clinigol, yn erfyn arno i roi’r gorau i yfed. Ond atebodd Sibelius ei fod yn rhy wan i wneud hynny. ‘Pan fydda i’n sefyll o flaen cerddorfa fawr ar ôl yfed hanner potel o siampên, rydw i’n arwain fel duw ifanc. Fel arall, rydw i’n nerfus ac yn crynu, yn teimlo’n ansicr ohonof fy hun, ac yna mae popeth yn mynd i’r gwellt. Mae’r un peth yn wir am fy ymweliadau â rheolwr y banc.’

Ond eto, fyddech chi ddim yn disgrifio’r gerddoriaeth hon fel ‘myfiol’ na ‘llac’. Mae’r ysgrifennu i’r ffidil yn feistrolgar ac yn dangos mor drylwyr oedd dealltwriaeth Sibelius o’i offeryn. Mae rhannau ohono, serch hynny, yn ddigon i beri i’r chwaraewr mwyaf meistrolgar fynd yn chwys oer drosto – ac nid y rhannau hynny sy’n swnio fwyaf cymhleth i’r gynulleidfa ydyn nhw bob amser chwaith.

Mae’r syniad o feistrolaeth yn ymestyn i bob dimensiwn o’r Concerto i’r Ffidil. Mae wedi’i saernïo’n dynn, ac mae’r emosiynau yn bwerus ond dan reolaeth, mae’r paragraffau telynegol hir (fel y llinell esgynnol ysgafn ar y ffidil ar ddechrau’r darn) wedi’u llunio’n hyfryd bob amser – dydyn nhw byth yn chwalu. Ar adegau, fel yn ail thema angerddol y symudiad cyntaf, neu yn yr holl symudiad araf canolog fwy neu lai, mae’r naws yn boenus, os nad yn ingol, o hiraethus. Ond mae cyffyrddiad Sibelius, y symffonïwr o fri, meistr y rhesymeg organig, i’w deimlo ynddo bob amser. Ac ar ôl y symudiad cyntaf a’r ail symudiad emosiynol, daw diweddglo egnïol a chadarn. Mae’r diweddglo didostur a stormus, ond yn ddiamwys yn y cywair mwyaf, yn awgrymu bod tywyllwch mewnol wedi’i wynebu a’i herio. Yng nghyd-destun bywyd Sibelius ei hun ar y pryd, efallai mai cyflawni dymuniad oedd hyn, ond fel celfyddyd mae’n argyhoeddi’n llwyr.

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson
Gwrando Pellach: Viktoria Mullova; Cerddorfa Symffoni Boston/Seiji Ozawa (Philips 4784812)
Darllen Pellach: Jean Sibelius: Life, Music, Silence Daniel M. Grimley (Reaktion Books)

EGWYL: 20 munud

Pyotr Ilyich Tchaikovsky (1840–93)

Symffoni Rhif 5 yn E leiaf, Op. 64 (1888)

1 Andante – Allegro con anima
2 Andante cantabile con alcuna licenza – Moderato con anima 
3 Valse: Allegro moderato
4 Finale: Andante maestoso – Allegro vivace – Molto vivace

Dechreuodd Tchaikovsky weithio ar ei Bumed Symffoni mewn cyfnod arteithiol iddo, pan oedd wedi colli’r awen ac yn llawn hunanamheuaeth ddiwedd gwanwyn a haf 1888. Er ei fod ar y pryd yn ymlacio mewn tŷ gwyliau yr oedd wedi’i adeiladu ym mhentref Folovskoe, heb fod ymhell iawn o’i gartref ym Moscow, cyfaddefodd Tchaikovsky wrth ei frawd Modest fod ‘yr ysfa i greu wedi fy ngadael i … rydw i’n raddol, a gyda chryn anhawster, yn gwasgu symffoni allan o’m hymennydd pŵl.’ 

Wrth i’r haf fynd rhagddo, parhaodd Tchaikovsky i wasgu drafft cychwynnol y symffoni allan, ond mae hwn bellach ar goll. Mae’r brasluniau sydd wedi goroesi yn dangos gwaith gwahanol iawn i’r gwaith rydyn ni’n gyfarwydd ag ef erbyn hyn; efallai mai’r drafft cychwynnol hwn oedd yr un yr oedd Tchaikovsky yn cyfeirio ato gyda chymaint o amheuaeth ac ansicrwydd. Ac eto, hyd yn oed wrth gwblhau fersiwn derfynol o’r symffoni, roedd Tchaikovsky yn parhau i fod yn niwtral am y gwaith, gan ddweud wrth ei noddwr Nadezha von Meck, ‘Gallaf ystyried [y symffoni newydd] yn wrthrychol ac […] nid yw’n ddim gwaeth na fy rhai blaenorol.’ 

Arweiniodd Tchaikovsky berfformiad cyntaf y gwaith ym mis Tachwedd 1888, a chafodd ymateb brwdfrydig gan gynulleidfaoedd. Fodd bynnag, roedd amheuon Tchaikovsky am y gwaith ar flaen ei feddwl o hyd. ‘Mae sylweddoli ei fod yn aflwyddiannus (neu efallai bod fy mhwerau i’n gwanhau) yn peri loes mawr i mi,’ cyfaddefodd. ‘Mae’r symffoni yn rhy liwgar, yn enfawr, yn annidwyll, yn hirfaith ac ar y cyfan yn oeraidd iawn.’

Wrth wrando ar y symffoni, efallai y byddai rhywun yn dweud bod dadansoddiad Tchaikovsky yn iawn – ond am y rheswm anghywir. Mae’n wir fod tôn y gerddorfa yn lliwgar iawn, ac er bod y gwaith wedi’i drefnu ar ffurf pedwar symudiad Clasurol, nid yw’r uniad rhyngddynt mor dynn â’i Bedwaredd Symffoni ddegawd ynghynt. Ond er ei fod yn teimlo’n anghyfforddus ynghylch emosiynoldeb a dimensiynau’r symffoni, mae’r Bumed yn drobwynt o ran rhyddid mynegiant Tchaikovsky. Byddai ei Chweched Symffoni, y  ‘Pathétique’, yn datblygu mwy ar y rhyddid hwn.

Mae’r Bumed Symffoni yn dechrau â thema brudd yn y clarinetau sy’n gosod y naws ar gyfer gweddill y gwaith. Mae’n ailymddangos yn aml, wedi’i haddasu’n helaeth ar adegau, ond er hynny mae modd ei hadnabod bob amser. Mae rhywfaint o amheuaeth Tchaikovsky wedi diferu o’i bin ysgrifennu i’r dudalen mewn mannau – mae llawer o’r gerddoriaeth yn dywyll ac yn llwm.  Ond weithiau gallwn glywed y goleuni’n torri drwy’r tywyllwch ar ffurf alawon mwy gobeithiol a thonau mwy bywiog gan y gerddorfa. 

Dyma ddywedodd un beirniad cynnar: ‘Os mai Ffawd yn curo ar y drws yw Pumed Symffoni Beethoven, yna Ffawd yn ceisio dianc allan yw Pumed Symffoni Tchaikovsky.’ Gallwn glywed yr ymgais hon i ddianc yn y symudiad olaf ar ffurf trwst taranllyd rhaeadr o gordiau B fwyaf. Ac eto, diweddglo digon annelwig sydd i’r darn ar ffurf pedwar cord E fwyaf: mae’n troi cywair E leiaf y cyflwyniad ar ei ben yn fuddugoliaethus, ac eto mor fygythiol, gan awgrymu tywyllwch hefyd. 

Nodyn y rhaglen © Margaret Frainier
Gwrando Pellach: Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl/Vasily Petrenko (Onyx ONYX4150)
Darllen Pellach: Tchaikovsky: The Man and his Music David Brown (Faber)

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?

Bywgraffiadau

Ryan Bancroft arweinydd

Ryan Bancroft

Lun: Benjamin Ealovega

Lun: Benjamin Ealovega

Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018, pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2020, bu’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf i weithio gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yr Artist Cyswllt o’r tymor 2021– 22 ymlaen. Y llynedd, cyhoeddwyd ei fod yn Brif Arweinydd Dynodedig Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm a bydd yn dechrau yn y swydd fis Medi nesaf. 

Mae wedi perfformio am y tro cyntaf gyda nifer o gerddorfeydd blaenllaw yn Ewrop, gan gynnwys y Philharmonia, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain a Rotterdam, y BBC, cerddorfeydd Symffoni Radio Cenedlaethol Denmarc a Sweden, Cerddorfa Capitole Toulouse, RAI Turin ac Ensemble Intercontemporain. Yng Ngogledd America, mae wedi gweithio gyda cherddorfeydd Symffoni Baltimore, Houston a Toronto a bydd y tymor hwn yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Dallas a Cherddorfa Minnesota. Mae hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Suntory Hall gyda New Japan Philharmonic a Midori, yn y Royal Festival Hall gyda’r Philharmonia a Syr Stephen Hough ac yn y Royal Concertgebouw gyda Cherddorfa Ffilharmonig yr Iseldiroedd. Mae hefyd yn dychwelyd at gerddorfeydd Symffoni Dinas Birmingham, Gothenburg a Malmö.

Mae’n frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble, Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, Cage, Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio’n agos gyda threfnwyr byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden. Mae’n dychwelyd i weithio gydag Ensemble Intercontemporain ym mis Mawrth. 

Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd.


Clara-Jumi Kang ffidil

Clara-Jumi Kang

Daeth Clara-Jumi Kang i sylw rhyngwladol pan enillodd Gystadleuaeth Ffidil Ryngwladol Indianapolis a Chystadleuaeth Ffidil Sendai (y ddwy yn 2010) a Chystadleuaeth Ffidil Seoul (2009). 

Mae ei huchafbwyntiau diweddar a chyfredol yn cynnwys ymddangos am y tro cyntaf yng nghyfres Proms y BBC yn 2022 gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, perfformiadau gyda cherddorfa Ffilharmonig Bremen, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm a Cherddorfa Ffilharmonig y BBC, Cerddorfa Gürzenich, Deutsche Kammerphilharmonie Bremen a cherddorfeydd Symffoni Dinas Birmingham, Israel, Melbourne a Taipei yn ogystal â Cherddorfa Symffoni Fetropolitan Tokyo.

Mae hi wedi gweithio ag arweinwyr blaenllaw fel Andrey Boreyko, Lionel Bringuier, Myung-Whun Chung, Vladimir Fedoseyev, Valery Gergiev, Lü Jia, Jun Märkl, Juanjo Mena, Christoph Poppen, François-Xavier Roth, Yuri Temirkanov a Kazuki Yamada.

Mae hi’n gerddor siambr brwd, ac mae’n ymweld yn rheolaidd â gwyliau cerddoriaeth siambr ac yn cydweithio â cherddorion enwog, gan gynnwys Janine Jansen, Gidon Kremer a Misha Maisky.

Ymysg recordiadau Clara-Jumi Kang mae Modern Solo, sy’n cynnwys gweithiau gan Schubert ac Ysaÿe, ac albwm o waith Brahms a Schumann gydag Yeol-Eum Son. Cafodd ei recordiad diweddaraf, sef sonatâu i’r ffidil gan Beethoven gyda’r pianydd Sunwook Kim, ganmoliaeth wresog gan y beirniaid.

Cafodd ei geni yn yr Almaen i deulu cerddorol a dechreuodd chwarae’r ffidil yn dair oed a blwyddyn yn ddiweddarach, cofrestrodd yn y Mannheim Musikhochschule, gan berfformio concerto am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Hamburg pan oedd yn bump oed. Aeth ymlaen i astudio gyda Zakhar Bron yn y Lübeck Musikhochschule ac yn saith oed, enillodd ysgoloriaeth lawn i Ysgol Juilliard i astudio gyda Dorothy DeLay. Enillodd radd Baglor a Gradd Meistr ym Mhrifysgol Gelf Genedlaethol Korea o dan Nam-Yun Kim cyn cwblhau ei hastudiaethau yn y Munich Musikhochschule gyda Christoph Poppen.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes. 

Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu. 

Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.

Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr 
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jones is-arweinydd
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Anna Cleworth
Juan Gonzalez
Ruth Heney
Patrycja Mynarska
Ilze Abola

Ail Ffidlau 
Anna Smith *
Jane Sinclair
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Sellena Leony
Gary George-Veale
Catherine Fox

Fiolâu 
Rebecca Jones *
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Liam Brolly
Ania Leadbeater
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton

Soddgrythau 
Alice Neary *
Morwenna Del Mar
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Alistair Howes
Jacky Phillips

Basau Dwbl
David Stark *
Daniel Vassallo
Richard Gibbons
Emma Prince

Ffliwtiau
Fiona Kelly ‡
John Hall
Elizabeth May

Piccolo
Elizabeth May ‡

Oboau
Steve Hudson *
Sarah-Jayne Porsmoguer 

Clarinetau 
Thomas Verity ‡
Lenny Sayers

Baswnau 
Jarosław Augustyniak *
Paul Boyes ‡
Lois Au

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
William Haskins
John Davy

Utgyrn
Ryan Linham
Robert Samuel

Trombonau
Donal Bannister *
Ryunosuke Abe

Trombôn Bas 
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden †

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro
Mark Walker †
Phil Hughes


* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James **
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-Rediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorth-Wyydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata a Chynulleid-Faoedd Sassy Hicks + 
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruch-Wylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
Prentisiaid BBC Cymru Josh Gill, Analese Thomas-Strachan, Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications