Archwiliadau Americanaidd

Nos Wener 3/5/24, 7.30pm

Glan yr Afon, Casnewydd 

Nos Sadwrn 4/5/24, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Samuel Barber
Adagio for Strings8’

Samuel Barber
Concerto i’r Ffidil25’

EGWYL: 20 munud

Charles Ives
Symffoni Rhif 237’

Ryan Bancroftarweinydd
Benjamin Baker ffidil

Mae’r cyngerdd yng Nghaerdydd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3, i’w ddarlledu yn y dyfodol ar Radio 3 in Concert a bydd ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sy’n cynnwys podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth hefyd.

Cyflwyniad

Croeso i’r cyngerdd heno, ac mae’n bleser gennym groesawu ein Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn ei ôl.

Yn y rhaglen gwbl Americanaidd hon, cyflwynir cerddoriaeth dau ffigwr arloesol sydd wedi’u gwahanu gan genhedlaeth. Byddwn ni’n dechrau gyda gwaith enwocaf Samuel Barber, ei Adagio for Strings, sydd wedi cael ei gysylltu’n agos ag adegau cenedlaethol o alaru – ac nid yw hynny’n syndod o ystyried ei harddwch pwerus.

Ar ôl hynny, byddwn yn symud ymlaen at Goncerto Barber i'r Ffidil, gwaith a fwriadwyd yn wreiddiol ar gyfer y chwaraewr ffidil o fri, Iso Briselli – un o gyd-fyfyrwyr Barber yn Ysgol Curtis yn Philadelphia. Mae cyfuniad perffaith o feistrolaeth a thelynegiaeth hardd yn y gwaith hwn, sydd bellach yn boblogaidd iawn ymysg feiolinwyr ym mhedwar ban byd. Heno, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r offerynnwr ifanc, Benjamin Baker, a aned yn Seland Newydd.

Byddwn ni’n gorffen gydag Ail Symffoni’r rebel mawr o Americanwr, Charles Ives. Dywedodd ei gyd-gyfansoddwr Aaron Copland unwaith: ‘Bydd cryn amser wedi mynd heibio cyn i ni werthfawrogi Charles Ives yn ei holl ogoniant.’ Efallai fod hynny’n wir, ond mae rhyw uniongyrchedd yn perthyn i’r symffoni hon, sy’n eich cymell a’ch cyfareddu wrth iddi gydblethu alawon poblogaidd America.

Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Samuel Barber( 1910–81)

Adagio for Strings(1936, trefn. 1938)

Mae’n debyg nad oes llawer o ddarnau mwy addas i agor y cyngerdd Americanaidd heno nag Adagio Samuel Barber. Mae’r gwaith wedi cael ei labelu fel ‘y gerddoriaeth dristaf yn y byd’, ac mae cysylltiad parhaol rhyngddo ac adegau llawn emosiwn a chynnwrf mawr. Fe’i chwaraewyd yn angladdau Franklin Delano Roosevelt, Albert Einstein a Grace Kelly (ymhlith llawer o bobl eraill). Hefyd, trefnodd Jackie Kennedy i Gerddorfa Symffoni Genedlaethol Washington ei chwarae i neuadd wag ar ôl i’w gŵr JFK gael ei ladd yn 1963, a daeth yn anthem answyddogol ar gyfer galar y genedl yn ystod yr wythnosau canlynol.

Fodd bynnag, mae’n dal i fodoli fel y darn a gyfansoddwyd yn wreiddiol hefyd, sef symudiad araf Pedwarawd Llinynnol Op. 11 Barber, lle mae’n gwahanu dau symudiad allanol sy’n llawn egni a chymhlethdod. Roedd yr arweinydd Arturo Toscanini yn meddwl y byddai’r Adagio yn gwneud gwaith cerddorfaol gwych, a gofynnodd i’r cyfansoddwr 26 oed fynd ati i wireddu hynny. Perfformiwyd y gwaith am y tro cyntaf gan y Gerddorfa Symffoni Genedlaethol ar ddarllediad radio yn 1938. Gydag America’n dal i deimlo effaith y Dirwasgiad Mawr, ac Ewrop yn mynd ar ei ben i ryfel, daeth emosiwn calon-agored Barber yn yr Adagio ar yr union adeg i gipio calonnau’r cyhoedd a’u cysuro – gyda’i gyfres o alawon araf, troellog, tebyg i lafargan, sy’n datblygu ac yn codi i uchafbwynt angerddol.

Nodyn y rhaglen © David Kettle

Samuel Barber

Concerto i’r Ffidil(1939)

1 Allegro
2 Andante
3 Presto in moto perpetuo

Benjamin Baker ffidil 

Pan gyfeiriodd Samuel Barber yn goeglyd at y Concerto i’r Ffidil yn 1939 fel ei ‘concerto del sapone’ (concerto sebon), nid oedd hynny heb reswm. Roedd y llysenw braidd yn ddilornus hwnnw’n cyfeirio at y cynnyrch a oedd wedi gwneud comisiynydd y darn yn gyfoethog – sef y teicŵn Samuel Simeon Fels, a oedd yn adnabyddus am gynhyrchu sebon Fels-Naptha – ond hefyd, efallai, yn cyfeirio at y broses o greu a pherfformio’r darn am y tro cyntaf, a drodd yn ychydig o opera sebon. 

Roedd Fels a’i wraig Jennie wedi bod yn rhieni benthyg i Iso Briselli, y feiolinydd rhyfeddol a aned yn Odessa, ac a oedd yn astudio yn Ysgol Gerdd Curtis yn Philadelphia – yn yr un flwyddyn â Barber, yn digwydd bod. Erbyn 1939 roedd Briselli a Barber wedi graddio ac roeddent yn sefydlu eu hunain yn y byd proffesiynol – a dweud y gwir, roedd Barber wedi dychwelyd i'r sefydliad fel athro cyfansoddi. Darbwyllwyd Fels i ofyn i’r cyfansoddwr ifanc greu concerto newydd ar gyfer Briselli, un a allai ddangos dawn gerddorol a thechneg ddisglair y feiolinydd.

Ar y dechrau, roedd pethau’n mynd yn dda. Aeth Barber ati i gyfansoddi’r concerto ar daith i Ewrop yn ystod haf 1939. Ond gyda rhyfel ar y gorwel, bu’n rhaid iddo ddychwelyd i’r Unol Daleithiau ar frys, a oedd yn golygu oedi cyn cwblhau’r darn. Er bod Briselli wrth ei fodd â dau symudiad cyntaf y gwaith pan ddaethant i law, doedd ei athro, Albert Meiff, ddim mor siŵr. Cymerodd arno’i hun i ysgrifennu at Fels, gan roi gwybod i’r dyn busnes y byddai angen i’r concerto gael ei weddnewid yn llwyr gan rywun a oedd yn deall y ffidil i'r dim (mewn geiriau eraill, ef ei hun). Roedd hyd yn oed Briselli, wrth edrych yn ôl, yn meddwl tybed a oedd y symudiadau agoriadol yn ddigon trawiadol, a gofynnodd am rywbeth mwy meistrolgar ar gyfer y diweddglo. 

Aeth pethau o ddrwg i waeth, fodd bynnag, pan anfonodd Barber ei symudiad clo trawiadol at Briselli. Nid oedd y feiolinydd wedi’i argyhoeddi. Roedd o'r farn ei fod yn rhy ysgafn a’i fod yn anghydnaws â'r symudiad cynharach. Gofynnodd iddo ei ailysgrifennu. Gwrthododd Barber, gan esbonio: ‘Ni allwn ddinistrio symudiad y mae gennyf hyder llwyr ynddo, allan o barch artistig i mi fy hun.’ O ganlyniad, gwrthododd Briselli chwarae’r concerto, a chafodd ei berfformio am y tro cyntaf gan feiolinydd a oedd wedi ennill ei blwyf, sef Albert Spalding (a dderbyniodd y cynnig yn frwd), gyda Cherddorfa Philadelphia ym mis Chwefror 1941. Fodd bynnag, arhosodd Barber a Briselli yn ffrindiau nes y bu farw’r cyfansoddwr yn 1981. 

Er gwaethaf y trafferthion wrth ei greu, buan iawn yr enillodd Concerto Barber i’r Ffidil ei blwyf yn repertoire y ffidil. Mae’r unawdydd yn dechrau’r symudiad agoriadol Rhamantaidd cyfoethog gyda phrif alaw delynegol iawn, sy’n cael ei gwrthgyferbynnu’n ddiweddarach gan thema fwy pigog a gyflwynir gan glarinét unawdol (y mae’r feiolinydd yn llwyddo i’w hosgoi tan ddiwedd y symudiad bron). Mae obo yn galarnadu alaw hir, tebyg i lafargan uwchben clustog o harmonïau llinynnol yn yr ail symudiad digynnwrf, cyn i’r unawdydd ein harwain at gerddoriaeth fwy stormus a mwy anghyseiniol. Yn y diweddglo byr, prysur (efallai y byddwch yn teimlo bod gan Briselli bwynt yn ei gylch), mae’r feiolinydd yn sgrialu drwy linell felodaidd nad oes modd ei hatal bron, gan fynd drwy aflunieidd-dra sy’n adlais o waith Shostakovich, i wthio’r darn tuag at ei ddiweddglo brysiog. 

Nodyn y rhaglen © David Kettle

EGWYL: 20 munud

Charles Ives (1874–1954)

Symffoni Rhif 2 (1897–1902)

1 Andante moderato
2 Allegro
3 Adagio cantabile
4 Lento maestoso –
5 Allegro molto vivace

Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf o Symffoni Rhif 2 Ives gan yr arweinydd Leonard Bernstein a Cherddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd ym mis Chwefror 1951, bron i hanner canrif ar ôl i’r cyfansoddwr gwblhau’r gwaith yn 1902. Erbyn i’r symffoni gael ei pherfformio am y tro cyntaf, roedd Ives wedi cwblhau ei ddarnau mwyaf radical, arbrofol – o’r bandiau gorymdeithiol croch yn Three Places in New England i gymhlethdod aml-haenog, gweledigaethol ei Bedwaredd Symffoni – er bod llawer ohonynt yn dal heb gael eu perfformio. Hyd yn oed saith degawd ar ôl ei farwolaeth yn 1954, mae cerddoriaeth Ives yn dal i swnio’n ffres ac yn newydd i ni heddiw – yn frawychus felly weithiau. Mae wedi cael ei gyfansoddi gydag unigolyddiaeth rymus a styfnig sy’n nodweddiadol Americanaidd, fel pe bai Ives yn torri ei gwys ei hun heb boeni llawer am boblogrwydd na chydnabyddiaeth. Mae hynny’n llawn cystal, gan na chafodd fawr ddim o’r naill na’r llall yn ystod ei oes. Rhagwelodd ei gydweithiwr Aaron Copland yng nghanol y 1940au: ‘Bydd cryn amser wedi mynd heibio cyn i ni werthfawrogi Charles Ives yn ei holl ogoniant.’ Ac nid oedd ymhell o’i le.

Yr eironi, fodd bynnag, yw bod hwn mewn gwirionedd yn ddarn telynegol, rhwydd a chymeradwy. Roedd Ives wedi ysgrifennu ei Symffoni Gyntaf tra oedd yn astudio yng Ngholeg Yale gyda Horatio Parker, gan ddilyn amodau ei athro yn ufudd – sef y dylai lynu’n gaeth wrth fodelau Ewropeaidd. Mae’r canlyniad yn swnio ychydig fel Dvořák, ychydig fel Brahms, a hyd yn oed ychydig fel Schubert ar brydiau. Yn ei Ail Symffoni, fodd bynnag, teimlai Ives ei bod yn amser torri ei gwys ei hun – gan gadw’r ffurfiau symffonig traddodiadol yr oedd Parker yn eu hedmygu gymaint, ond eu llenwi â cherddoriaeth a oedd yn Americanaidd yn ei hanfod. Roedd hyn yn cynnwys dyfynnu’n helaeth o alawon poblogaidd, caneuon gwaith, emynau, alawon ysbrydol a mwy. Er bod y canlyniadau’n swnio ychydig yn dawedog o’u cymharu â dychymyg gwyllt a rhydd rhai o’i ddarnau diweddarach, mae’r Ail Symffoni yn cymryd y camau cychwynnol, petrus tuag at yr hyn a fyddai’n arwain at ddathliad cerddorol hollgynhwysol Ives o gyfoeth bywyd a chelf. ‘Mae ffabrig bodolaeth yn plethu ei hun yn gyfan,’ ysgrifennodd yn ddiweddarach. ‘Allwch chi ddim rhoi celf mewn cornel a gobeithio iddo fod yn llawn bywiogrwydd, realiti a sylwedd.’

Mae’r symudiad cyntaf yn dechrau’n feddylgar, gydag alaw ag arddull tebyg i Brahms ar y soddgrythau, ond mae’n symud yn gyflym iawn i mewn i gerddoriaeth fywiog sy’n seiliedig ar ddyfyniadau o gân boblogaidd Stephen Foster ‘Massa’s in de Cold Ground’, a’r alaw i’r ffidil, ‘The Pigtown Fling’. Mae tri dyfyniad yn brwydro am sylw yn yr ail symudiad bywiog: y gân hwyliog o’r Rhyfel Cartref ‘Wake Nicodemus’ (a gyflwynir am y tro cyntaf gan y chwythbrennau), yr emyn gospel ‘Bring in the Sheaves’ sydd wedi’i thrawsnewid yn orymdaith sionc, a chân ar gyfer defod derbyn i’r coleg ‘Where, O Where are the Pea-Green Freshmen?’ sydd wedi’i harafu ar gyfer y llinynnau, y ffliwtiau a’r oboau.

Yr emyn ‘Beulah Land’ ac ‘America the Beautiful’ sy’n sail i'r trydydd symudiad ysgafn, bugeiliol, tra bo’r pedwerydd symudiad byr a difrifol – a ddechreuir gan alwad y corn – bron fel rhagarweiniad estynedig i’r diweddglo. Yno, mae Ives yn plethu pytiau o ‘Camptown Races’, ‘Turkey in the Straw’ a ‘Columbia, the Gem of the Ocean’, sy’n cael eu taflu’n ôl ac ymlaen ar draws y gerddoriaeth fywiog, llawn mynd sy’n gyrru ymlaen yn gynt ac yn gynt tuag at ddiweddglo Ives, a fydd yn eich synnu o bosib. Digon yw dweud bod hyd yn oed y rhan olaf un yn rhyw fath o ddyfyniad: yn ôl y cyfansoddwr, byddai’r sawl a oedd yn chwarae’r ffidil yn y band mewn dawnsfeydd erstalwm fel arfer yn cloi gyda sŵn crafu anghyseiniol, swnllyd i nodi bod y gerddoriaeth wedi gorffen am y noson. Mae Ives yn cyfleu neges debyg ar ddiwedd ei Ail Symffoni – ond ar raddfa fwy mawreddog.

Nodyn y rhaglen © David Kettle

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant ... 

Concerto i’r Gerddorfa gan Bartók

Nos Iau 9/5/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Wener 10/5/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Caroline Shaw The Observatory première y DU
Ravel Concerto i’r Piano yn G fwyaf
Bartók Concerto i’r Gerddorfa

Giancarlo Guerrero arweinydd
Sergio Tiempo piano

LLIWGAR | DEINAMIG | GAFAELGAR

Cafodd The Observatory gan Caroline Shaw (sy’n cael ei berfformio am y tro cyntaf yn y DU) ei ysbrydoli gan daith i Arsyllfa Griffin ger yr Hollywood Bowl; mae’n archwilio ffyrdd newydd o edrych ar y bydysawd, yn cyfuno’r hen a’r newydd gydag anhrefn ac eglurder, mewn llif ymwybod sy’n procio ein chwilfrydedd.

Bydd concerto atmosfferaidd Ravel i’r piano, sy’n gymysgedd gyfoethog o delynegiaeth, offeryniaeth atgofus a darnau piano meistrolgar, yn cael ei berfformio gan y pianydd penigamp, Sergio Tiempo, wrth iddo ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW. I gloi’r rhaglen syfrdanol hon, mae’r feistrolaeth ryfeddol yn parhau yng Nghoncerto gwych Bartók i’r Gerddorfa, gyda’i adleisiau o gerddoriaeth werin, dan arweiniad Giancarlo Guerrero, yr arweinydd o Costa Rica sydd wedi ennill Gwobr Grammy.

Ychydig o Ganu Nosweithiol

Nos Iau 16/5/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Fauré Pelléas et Mélisande – cyfres
Stephen McNeff The Celestial Stranger première byd
Schoenberg Verklärte Nacht (fersiwn 1943)

Joana Carneiro arweinydd
Gavan Ring tenor

CHWYLDROADOL | ANGERDDOL | GOLEUOL

Mae goleuadau nefolaidd, pefriol yn disgleirio yn y noson hon o gerddoriaeth arloesol. Mae cyfres Fauré o Pelléas et Mélisande yn agor mewn arddull sionc ond cythryblus – lleoliad cerddorol cyntaf drama Maurice Maeterlinck o’r un enw, a fyddai’n ysbrydoli cyfansoddwyr enwog eraill fel Debussy, Sibelius a Schoenberg.

Rydyn ni’n symud i uchelfannau mwy etheraidd gyda’r perfformiad cyntaf erioed o The Celestial Stranger gan Stephen McNeff. Yna, 150 mlynedd ers i Schoenberg gael ei eni, byddwn yn dathlu’r cyfansoddwr radical hwn gyda pherfformiad o Verklärte Nacht, gwaith cynnar a enillodd glod am y tro cyntaf i ddyn a fyddai’n newid cwrs hanes cerddoriaeth drwy greu cerddoriaeth ddodecaffonig, sy’n fwy adnabyddus fel cyfresiaeth. I arwain BBC NOW am y tro cyntaf, byddwn yn croesawu'r arweinydd hyfryd o Bortiwgal, Joana Carneiro.

Cyngerdd Cloi’r Tymor

Nos Iau 6/6/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Wener 7/6/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Dvořák Concerto i’r Soddgrwth
Jennifer Higdon Blue Cathedral
Dawson Negro Folk Symphony

Ryan Bancroft arweinydd
Alisa Weilerstein soddgrwth

YSBRYDOLEDIG | EICONIG | AMRYWIOL

Mae Alisa Weilerstein, y chwaraewr soddgrwth byd-enwog, yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng nghyngerdd olaf y tymor ar gyfer un o'r concerti i'r soddgrwth mwyaf poblogaidd. Wrth i Dvořák edrych yn ôl ar ei fywyd llawn mwynhad ond hefyd yn llawn colled, disgleiria ei arbenigedd alawol, ei egni bywiog a’i gariad at gerddoriaeth gwerin ei famwlad. Yn yr un modd, mae dyfeisiadau cerddorol greddfol, offeryniaeth gyfoethog, ac archwiliad o’r gadeirlan ‘fel drws symbolaidd i mewn ac allan o’r byd hwn’ yn llwyfan ar gyfer awyrgylch breuddwydiol, synfyfyriol, arallfydol yn Blue Cathedral gan Jennifer Higdon.

Dychmygwch hyn: mis Tachwedd 1934, yn Neuadd Carnegie a symffoni newydd sbon yn cael ei chyflwyno, gan dderbyn cymeradwyaeth frwd gan y gynulleidfa a’r cyfansoddwr diymhongar yn ymgrymu. William Dawson oedd y cyfansoddwr hwnnw, dyn Americanaidd-Affricanaidd 35 oed, a oedd wedi ffoi o’i gartref yn 13 oed er mwyn gwireddu ei freuddwyd o astudio cerddoriaeth; a’r darn oedd y Negro Folk Symphony. Aeth Dawson ati i gyfansoddi cerddoriaeth synhwyrus a gonest a oedd ‘yn amlwg ddim yn waith gan ddyn gwyn’ a chafodd ei ysbrydoli gan gerddoriaeth werin negroaidd yr oedd wedi’i dysgu pan oedd yn blentyn bach. Pwy well i arwain y symffoni hon, sydd wedi’i chreu’n fedrus ac sy’n llawn emosiwn, na’n Prif Arweinydd Ryan Bancroft?

Bywgraffiadau

Ryan Bancroftarweinydd

Llun: Benjamin Ealovega

Llun: Benjamin Ealovega

Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018, pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, mae’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf i weithio gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yn Artist Cyswllt yno o dymor 2021/22 ymlaen. Ym mis Medi, daeth yn Brif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm.

Yn ei rôl newydd fel Prif Arweinydd yn Stockholm, bu’n agor y tymor gyda pherfformiad cyntaf y gerddorfa o The High Mass gan Sven-David Sandström ac mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys perfformiadau cyntaf o ddarnau gan Daniel Börtz ac Anders Hillborg, a chyngherddau gydag Emanuel Ax a Seong-Jin Cho.

Haf diwethaf, ymddangosodd am y tro cyntaf yn yr Hollywood Bowl gyda Cherddorfa Ffilharmonig Los Angeles; y tymor hwn, bydd hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Cleveland, Cerddorfeydd Symffoni San Francisco a Cincinnati, NDR Elbphilharmonie Orchestra, Orquesta Sinfónica de Castilla y León a Cherddorfa Ffilharmonig Radio’r Iseldiroedd, yn ogystal â dychwelyd i Gerddorfa Symffoni a Cherddorfa Ffilharmonig Toronto.

Mae’n frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble, Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, John Cage, James Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio’n agos gyda cherddorion byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden.

Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd. 


Benjamin Baker ffidil

Llun: Kaupo Kikkas

Llun: Kaupo Kikkas

Ers ennill y wobr gyntaf yn y Clyweliadau Rhyngwladol i Artistiaid Cyngerdd Ifanc yn 2016 yn Efrog Newydd, a’r drydedd wobr yng Nghystadleuaeth Michael Hill yn Seland Newydd, mae Benjamin Baker wedi sefydlu presenoldeb rhyngwladol cryf, ac mae galw mawr amdano fel unawdydd a cherddor siambr.

Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys ymddangosiadau rheolaidd yn Neuadd Wigmore ac ar BBC Radio 3, ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Ffilharmonig Llundain a Cherddorfa Siambr yr Alban yng Ngŵyl East Neuk, yn ogystal ag ymddangosiadau unigol gyda Philharmonia Auckland a Cherddorfa Symffoni Christchurch. Y llynedd, dychwelodd i Ogledd America fel unawdydd gyda Cherddorfa Symffoni Fort Worth a Cherddorfa’r Colorado Ballet, ac i Neuadd Gyngerdd Merkin yn Efrog Newydd.

Y tymor hwn, mae’n dychwelyd i Seland Newydd ar gyfer yr ŵyl yn Queenstown a lansiwyd ganddo yn 2021, sef At the World’s Edge. Mae ei uchafbwyntiau eraill yn cynnwys cyngherddau gyda’r Symffoni Symudol yn Alabama, a’r tymor nesaf, bydd yn perfformio Concerto Matthew Kaner i’r Ffidil gyda Cherddorfa Symffoni Amarillo yn Texas – gwaith a berfformiodd am y tro cyntaf erioed yn 2017 yn Sgwâr St John’s Smith. Hwn fydd y tro cyntaf erioed i’r darn gael ei berfformio yn yr Unol Daleithiau.

Mae wedi rhyddhau tair CD sydd wedi cael cryn ganmoliaeth, sef 1942 a 1919: Coda gyda Daniel Lebhardt, a disg o ddatganiadau o weithiau Beethoven, Kreisler a Richard Strauss gyda Robert Thompson.

Mae galw mawr amdano hefyd fel cerddor siambr ac mae wedi cymryd rhan mewn gwyliau ledled Ewrop a’r Unol Daleithiau, gan gynnwys Pärnu, East Neuk, Cheltenham, Steirisches Kammermusik, Northern Chords, Bridgehampton a chyfres Caramoor’s Rising Stars gyda Pamela Frank. 

Ganwyd Benjamin Baker yn Seland Newydd, a bu’n astudio yn Ysgol Yehudi Menuhin a’r Coleg Cerdd Brenhinol, lle dyfarnwyd Powlen Rosynnau’r Frenhines Elizabeth a’r Fam Frenhines iddo. Wedi hynny, bu’n Gymrawd yn Sefydliad Cerddoriaeth Steans Gŵyl Ravinia yn Chicago yn 2016 a 2017.

Mae Benjamin Baker yn chwarae ffidil Giovanni Grancino o 1694, sydd wedi’i roi iddo ar fenthyg yn hael gan ymddiriedolaeth elusennol.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn cael cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.

Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau ac yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.

I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now 

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Emilie Godden
Juan Gonzalez
Žanete Uškāne
Ruth Heney
Carmel Barber
Anna Cleworth
Rebecca Totterdell
Amy Fletcher **
Jane Sinclair** 

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Iona McDonald
Ros Butler
Sheila Smith
Beverley Wescott
Vickie Ringguth
Katherine Miller
Roussanka Karatchivieva
Michael Topping
Lydia Caines
Joseph Williams
Ilze Abola

Fiolâu
Yukiko Ogura ‡
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Lydia Abell
Anna Growns
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Daire Roberts
Lowri Taffinder

Soddgrythau
Raphael Lang
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Keith Hewitt
Alistair Howes
Rachel Ford
Tabitha Selley
Katy Cox 

Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Kornel Koncos
Richard Lewis **

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †

Clarinetau
Nick Carpenter *
Emidio Andre Costa

Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Florence Plane
David Buckland 

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Jack Sewter
John Davy

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel

Trombonau
Donal Bannister *
Jake Durham

Trombôn Bas
Alan Swain

Tiwba
Anders Swane

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro 
Phil Girling
Phil Hughes

Piano
Catherine Roe Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
** Caerdydd yn unig

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa penodiad ar waith
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentis BBC Cymru Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications