

Darluniau o Brydain
Nos Iau 14/11/24, 7.30pm
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Nos Wener 15/11/24, 7.30pm
Neuadd Prichard-Jones, Bangor

Grace Williams
Hen Walia10’
Edward Elgar
Sea Pictures23’
EGWYL: 20 munud
Ralph Vaughan Williams
Symffoni Rhif 5 39’
Martyn Brabbinsarweinydd
Beth Taylor mezzo-soprano
Mae’r cyngerdd ym Mangor yn cael ei recordio gan BBC Radio 3, i’w ddarlledu yn y dyfodol ar Classical Live a bydd ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Llun: Kirsten McTernan
Llun: Kirsten McTernan
Croeso i’r cyngerdd heno, sy’n cael ei arwain gan un o arweinwyr rheolaidd poblogaidd BBC NOW: Martyn Brabbins. Er bod ei repertoire yn eang iawn, mae cerddoriaeth Brydeinig wedi bod yn arbennig o agos at ei galon ers tro byd. Rydyn ni’n dechrau yma yng Nghymru, gydag un o gyfansoddwyr gorau’r wlad – Grace Williams. Ei hagorawd Hen Walia yw’r unig beth sy’n weddill o opera arfaethedig, sydd wedi’i hysbrydoli gan gaer Rufeinig Segontium yng Nghaernarfon.
Perfformiwyd Sea Pictures Elgar am y tro cyntaf yn 1899 gan y contralto arbennig, y Fonesig Clara Butt, a berfformiodd fel môr-forwyn, coeliwch neu beidio. Mae’r cylch hwn o ganeuon, sy’n dyner ac yn rhapsodig yn ei dro, wedi dod yn rhan werthfawr o’r repertoire ar gyfer mezzos a chontraltos. Y seren newydd, Beth Taylor, a gyrhaeddodd rownd derfynol gofiadwy cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y llynedd, fydd yn canu heno.
Rydyn ni’n cloi gyda Phumed Symffoni Vaughan Williams; fe’i hysgrifennwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac mae’n defnyddio profiad sylweddol y cyfansoddwr yn y cyfrwng i greu gwaith sydd wedi’i lunio’r un mor daclus â Phumed Symffonïau Beethoven a Sibelius, sy’n dra gwahanol. Fodd bynnag, mae’r ymdeimlad o lonyddwch haeddiannol ar y diwedd yn unigryw i Vaughan Williams ei hun.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Grace Williams(1906–77)
Hen Walia (1930, diw. 1936)

A r ôl cwblhau ei hastudiaethau yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn 1929, dyfarnwyd ysgoloriaeth i Grace Williams i astudio yn Fienna gyda’r cyfansoddwr blaenllaw o Awstria, Egon Wellesz. Pan oedd dramor, clywodd berfformiad o opera werin boblogaidd Jaromír Weinberger o’r Weriniaeth Tsiec, Švanda Dudák (Schwanda y Bagbibydd, 1927) ac fe’i hysbrydolwyd i ysgrifennu opera werin Gymreig ei hun. Er na chafodd ei gorffen erioed, cwblhaodd ei hagorawd yn 1930. Enwodd yr agorawd yn Hen Walia ar ôl caer Rufeinig a muriau allanol Segontium yng Nghaernarfon – tref enedigol ei thad – ac mae’r darn yn dwyn ysbrydoliaeth o alawon gwerin traddodiadol Cymreig, gan gynnwys yr hwiangerdd ‘Huna Blentyn’.
Perfformiwyd Hen Walia am y tro cyntaf erioed gan Gerddorfa Symffoni Llundain, o dan arweiniad E. T. Davies, yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor ar 6 Awst 1931. Darlledwyd y cyngerdd yn fyw ar Raglen Genedlaethol y BBC ledled y DU hefyd. Er y byddai poblogrwydd ei Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940) yn gysgod dros yr agorawd yn y pen draw, roedd y gwaith yn arwyddocaol o ran dod ag enw Williams i sylw’r cyhoedd yn eang, a dyma’r cyntaf o’i darnau cerddorfaol i’r BBC eu perfformio a’u darlledu’n rheolaidd yn ystod y 1930au.
Nodyn y rhaglen © Rhiannon Mathias
Edward Elgar(1857–1934)
Sea Pictures, Op. 37 (1897/99)

1 Sea Slumber-Song
2 In Haven (Capri)
3 Sabbath Morning at Sea
4 Where Corals Lie
5 The Swimmer
Beth Taylormezzo-soprano
Y n swatio rhwng dau o lwyddiannau cyhoeddus mwyaf Elgar – Amrywiadau ‘Enigma’ (1899) a The Dream of Gerontius (1900) – mae ei unig gylch o ganeuon, Sea Pictures. Roedd yn ymateb i gomisiwn gan Wŷl Norfolk a Norwich am ddarn lleisiol. Aeth Elgar ati’n briodol i ddewis pum cerdd, pob un gan awdur gwahanol, a’r môr yn cysylltu pob un â’i gilydd, a chyfansoddodd gylch ar gyfer contralto neu mezzo a cherddorfa, ac yntau oedd yr arweinydd yn yr Ŵyl yn 1899. Unawdydd Elgar yn y perfformiad cyntaf yn Norwich oedd y contralto enwog, y Fonesig Clara Butt (wedi gwisgo fel môr-forwyn coeliwch neu beidio), a pherfformiodd y ddau mewn siambr lawn eto yn Llundain ychydig ddyddiau’n ddiweddarach. ‘Aeth y cylch yn eithriadol o dda,’ ysgrifennodd Elgar mewn llythyr at ei ffrind August Jaeger. ‘Cawsom ein galw’n ôl bedair gwaith – rwy’n meddwl – ar ôl hynny fe wnes i ddiflasu a cholli cyfrif. Roedd hi’n canu’n dda iawn.’
Roedd y cyhoedd wrth eu bodd, ond nid oedd cytundeb ymhlith y beirniaid, a oedd yn beio dewis Elgar o destunau am ei ddiffygion. Mae’n ymddangos bod y cerddi – gan Roden Noel, Alice Elgar (gwraig Elgar), Elizabeth Barrett Browning, Richard Garnett ac Adam Lindsay Gordon – wedi cael eu dewis o flodeugerdd o farddoniaeth am y môr ac, yn hytrach na cheisio creu naratif cylchol, mae’n ymddangos bod Elgar wedi dymuno creu cyfres o gipluniau atgofus. Ond cwynodd beirniad y Manchester Courier am y cerddi gan ddweud, ‘nad oedd ganddynt gysylltiad arbennig â’i gilydd, nad oeddent yn gallu adrodd stori mewn unrhyw ffordd, na hyd yn oed cyflwyno cyfres o luniau o awyrgylch i ni a oedd yn esblygu o’r naill i’r llall’. Beirniadodd y Daily Telegraph y cylch am beidio â bod yn ddigon atgofus o’r môr, gan ddymuno cael ‘un pennill, os nad mwy, sy’n cyfleu’r môr pan fydd ei donnau’n dawnsio yn yr haul’.
Ac eto, er nad yw sgôr Elgar yn argraffiadol – yn yr un modd â La mer gan Debussy a ryddhawyd dim ond ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach – mae dŵr yn sicr yn llifo drwy’r darn. Mae’r llinynnau uchaf yn siglo’n ôl ac ymlaen, mae’r delyn yn disgleirio ym mhelydrau’r haul, mae’r soddgrythau a’r basau’n ein tynnu i lawr ac yn gwthio ymlaen. Yn y gân olaf, clywn grac y tympanau ac mae Elgar yn rhyddhau nerth llawn y gerddorfa wrth i’r môr chwyddo gyda ‘golau byr, garw a gwyllt’. Yn groes i sylwadau llym y beirniaid, prin y gallai Sea Pictures fod yn enw mwy priodol: cyfres o ‘luniau o awyrgylch’ y môr – ei gryfder, ei fawredd, ei harddwch a’i lonyddwch.
Nodyn y rhaglen © Jo Kirkbride
Testun
1 Sea Slumber-Song
Sea-birds are asleep,
The world forgets to weep,
Sea murmurs her soft slumber-song
On the shadowy sand
Of this elfin land;
‘I, the mother mild,
Hush thee, O my child,
Forget the voices wild!
Isles in elfin light
Dream, the rocks and caves,
Lulled by whispering waves,
Veil their marbles bright,
Foam glimmers faintly white
Upon the shelly sand
Of this elfin land;
Sea-sound, like violins,
To slumber woos and wins,
I murmur my soft slumber-song,
Leave woes, and wails, and sins,
Ocean’s shadowy might
Breathes good-night,
Good-night!’
Roden Noel (1834–94)
2 In Haven (Capri)
Closely let me hold thy hand,
Storms are sweeping sea and land;
Love alone will stand.
Closely cling, for waves beat fast,
Foam-flakes cloud the hurrying blast;
Love alone will last.
Kiss my lips and softly say:
‘Joy, sea-swept, may fade today;
Love alone will stay.’
C. Alice Elgar (1848–1920)
3 Sabbath Morning at Sea
The ship went on with solemn face:
To meet the darkness on the deep,
The solemn ship went onward.
I bowed down weary in the place;
For parting tears and present sleep
Had weighed mine eyelids downward.
The new sight, the new wondrous sight!
The waters around me, turbulent,
The skies, impassive o’er me,
Calm in a moonless, sunless light,
As glorified by even the intent
Of holding the day glory!
Love me, sweet friends, this sabbath day.
The sea sings round me while ye roll
Afar the hymn, unaltered,
And kneel, where once I knelt to pray,
And bless me deeper in your soul
Because your voice has faltered.
And though this sabbath comes to me
Without the stolèd minister,
And chanting congregation,
God’s Spirit shall give comfort. He
Who brooded soft on waters drear,
Creator on creation.
He shall assist me to look higher,
Where keep the saints, with harp and song,
An endless sabbath morning,
And, on that sea commixed with fire,
Oft drop their eyelids raised too long
To the full Godhead’s burning!
O gerdd gan Elizabeth Barrett Browning (1806–61)
4 Where Corals Lie
The deeps have music soft and low
When winds awake the airy spry,
It lures me, lures me on to go
And see the land where corals lie.
By mount and mead, by lawn and rill,
When night is deep, and moon is high,
That music seeks and finds me still,
And tells me where the corals lie.
Yes, press my eyelids close, ’tis well;
But far the rapid fancies fly
To rolling worlds of wave and shell,
And all the lands where corals lie.
Thy lips are like a sunset glow,
Thy smile is like a morning sky,
Yet leave me, leave me, let me go
And see the land where corals lie.
Richard Garnett (1835–1906)
5 The Swimmer
With short, sharp, violent lights made vivid,
To southward far as the sight can roam,
Only the swirl of the surges livid,
The seas that climb and the surfs that comb.
Only the crag and the cliff to nor’ward,
The rocks receding, and reefs flung forward,
Waifs wreck’d seawards and wasted shoreward,
On shallows sheeted with flaming foam.
A grim, grey coast and a seaboard ghastly,
And shores trod seldom by feet of men –
Where the battered hull and the broken mast lie,
They have lain embedded these long years ten.
Love! When we wandered here together,
Hand in hand through the sparkling weather,
From the heights and hollows of fern and heather,
God surely loved us a little then.
The skies were fairer, the shores were firmer –
The blue sea over the bright sand rolled;
Babble and prattle, and ripple and murmur,
Sheen of silver and glamour of gold.
So, girt with tempest and winged with thunder
And clad with lightning and shod with sleet,
And strong winds treading the swift waves under
The flying rollers with frothy feet.
One gleam like a bloodshot sword-blade swims on
The sky-line, staining the green gulf crimson,
A death-stroke fiercely dealt by a dim sun
That strikes through his stormy winding sheet.
O, brave white horses! You gather and gallop,
The storm sprite loosens the gusty reins;
Now the stoutest ship were the frailest shallop
In your hollow backs, on your high-arched manes.
I would ride as never a man has ridden
In your sleepy, swirling surges hidden;
To gulfs foreshadowed through strifes forbidden,
Where no light wearies and no love wanes.
O gerdd gan Adam Lindsay Gordon (1833–70)
EGWYL: 20 munud
Ralph Vaughan Williams(1872–1958)
Symffoni Rhif 5 yn D fwyaf(1938–43, diw. 1951)

1 Preludio: Moderato
2 Scherzo: Presto misterioso
3 Romanza: Lento
4 Passacaglia: Moderato
Roedd y perfformiad cyntaf o Bumed Symffoni Vaughan Williams, ym Mhroms y BBC yn 1943, yn syndod i lawer. Ar ôl y Bedwaredd Symffoni gras (1931–4) a’r gwaith corawl prudd Donanobis pacem (1936), roedd rhywfaint o ddyfalu a oedd Vaughan Williams wedi gadael iaith fyfyriol werinol Fantasia ‘Tallis’ a The Lark Ascending y tu ôl iddo. Roedd y Vaughan Williams newydd hwn yn ymddangos yn llai fel cyfansoddwr a oedd yn gweld natur ac yn creu tirweddau cerddorol yn ysbryd Constable, Turner a Samuel Palmer, ac yn fwy fel y math o artist a oedd yn adlewyrchu’r cyfnod cynyddol gythryblus. Fodd bynnag, nid cyfleu dychwelyd at yr hen ffyrdd oedd y Bumed Symffoni, ond yn hytrach, cyfoethogi a datblygu’r hen ffyrdd hyn. Mae’r darnau hudolus yno, ond maen nhw’n cael grym ychwanegol drwy’r ffordd y mae’r cyfansoddwr yn eu gosod mewn dadl symffonig gynnil a chymhellol; roedd y profiad o ganolbwyntio ar y Bedwaredd Symffoni wedi cael effaith barhaol a buddiol arno.
Bron y peth cyntaf a glywn yw galwadau cyrn meddal; ond, o dan hynny, mae’r soddgrythau a’r basau’n ychwanegu tensiwn sy’n gwrthdaro’n ysgafn. Mae’r amwysedd hwn yn cael ei drin mewn amrywiaeth o ffyrdd a dim ond yn ystod diweddglo tawel y symffoni y mae’n dod o hyd i’r ateb llawn.
Mae Scherzo llifeiriol a hudol yn dilyn, wedi’i sgorio’n ofalus iawn yn yr adrannau allanol – er bod yr offerynnau pres a’r tympanau yn llwyddo i awgrymu rhywbeth sy’n fwy trwm yn adran ganolog y Triawd. Ar y diwedd, mae llinynnau agoriadol tawel yn diflannu’n braf i un trawiad pianissimo ar y tympanau, sy’n debyg i gannwyll yn cael ei diffodd.
Yna daw’r Romanza, calon y symffoni. Mae rhai o syniadau’r symudiad hwn yn deillio o brif brosiect operatig Vaughan Williams, The Pilgrim’s Progress (a gyfansoddwyd rhwng 1925 a 1952). Nid oedd Vaughan Williams yn grediniwr confensiynol, ond roedd yn troi dro ar ôl tro at themâu crefyddol yn ei gerddoriaeth. Yn amlwg, daeth o hyd i ryw fath o ystyr drosgynnol yn stori enwog John Bunyan am y ‘Pererin’ Cristnogol a’i daith ysbrydol, ac mae’r cyfansoddwr yn cyfleu ei hanfod yn wefreiddiol yn y symudiad hwn – gan ei gynnig, efallai, fel gair o gysur ac anogaeth i wlad a oedd bryd hynny yng nghanol rhyfel.
Mae’r diweddglo’n cael ei ddisgrifio fel ‘passacaglia’ – symudiad sydd wedi’i adeiladu dros thema sy’n cael ei hailadrodd yn gyson, ac a gyflwynir gyntaf yma gan y soddgrythau. Mae’n cyrraedd uchafbwynt mawreddog yn y pen draw, lle mae cyrn agoriadol y symffoni yn dychwelyd, gyda’r gerddorfa lawn yn eu chwarae fel tonnau mawr o sŵn. Fel yn yr uchafbwynt gweledigaethol enfawr yn y symudiad cyntaf, mae’r ysblander yn pylu, ond y tro hwn mae’n cael ei ddilyn gan gerddoriaeth dawel a disglair o dan arweiniad y llinynnau – sy’n ein hatgoffa, efallai, o gôr yn canu anthem Elisabethaidd mewn eglwys gadeiriol yn Lloegr. O hyn ymlaen, does dim mwy o amwysedd. Mae’r ddiweddeb olaf dawel mor agos at heddwch perffaith ag sydd i’w gael mewn unrhyw symffoni o’r 20fed ganrif.
Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant …
Carolau’r Nadolig – Wrecsam
Dydd Sul 22/12/24, 3.00pm
Neuadd William Aston, Wrecsam
Adrian Partington arweinydd
NEW Voices
Côr Mawr o Blant
LLAWEN | CALONOGOL | NADOLIGAIDD
Carolau Nadolig mewn siwmperi clyd, plant yn canu’n llawen ac offerynnau pres ac offerynnau taro dyrchafol. Beth arall allai fod ei angen arnoch i fynd i ysbryd y Nadolig?
Ymunwch â chyfarwyddwr artistig Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Adrian Partington, ynghyd â chôr mawr o blant o bob cwr o Ogledd Cymru sydd wedi dod at ei gilydd ar gyfer y dathliad Nadolig blynyddol disglair a mawreddog hwn. Gwledd berffaith i’r teulu i gyd ar brynhawn dydd Sul.
Shostakovich 9 gyda Christoph König
Nos Iau 13/3/25, 7.30pm
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Nos Wener 14/3/25, 7.30pm
Neuadd Prichard-Jones, Bangor
Ravel Le Tombeau de Couperin
Anna Clyne Glasslands
Farrenc Agorawd Rhif 2
Shostakovich Symffoni Rhif 9
Christoph König arweinydd
Jess Gillam sacsoffon
CHWAREUS | SWYNOL | EPIG
Bydd hi’n 50 mlynedd ers marwolaeth Shostakovich yn 2025. Felly i ddathlu ei fywyd, rydyn ni’n mynd â’i Nawfed Symffoni gyffrous i Aberystwyth a Bangor. Er bod y symffoni ar raddfa fach, roedd yn syndod i bawb pan berfformiwyd hi gyntaf, gyda’i chyffyrddiadau o slapstic, themâu bywiog a naws hwyliog tebyg i ddawns.
Mae’r seren sacsoffon, Jess Gillam, yn ymuno â ni ar gyfer Grasslands gan Anna Clyne, gan gyfleu byd dychmygol sy’n cael ei reoli gan fwgan. Mae Ail Agorawd Louise Farrenc yn archwilio byd gwahanol iawn; roedd hi’n cael ei hystyried yn un o gerddorion benywaidd mwyaf blaenllaw ei hoes – a does dim rhyfedd, gan fod y darn hwn yn dangos cymeriad emosiynol tywyll gyda themâu eang a rhythmau wedi’u plethu’n fedrus, ochr yn ochr ag elfennau ysgafnach. Ond yn gyntaf, Le Tombeau de Couperin gan Ravel – teyrnged nid yn unig i’r cyfansoddwr François Couperin, ond i gerddoriaeth Ffrengig y 18fed ganrif yn fwy cyffredinol. Mae trefniant cerddorfaol clir a rhythmau pendant yn gwneud i waith, sydd wedi’i ysgrifennu’n wreiddiol ar gyfer piano, ddisgleirio’n fyw.
Bywgraffiadau
Martyn Brabbinsarweinydd
Benjamin Ealovega
Benjamin Ealovega
Mae Martyn Brabbins yn Gyn-Gyfarwyddwr Cerdd Opera Cenedlaethol Lloegr. Ac yntau’n ffigwr o bwys ac yn ysbrydoliaeth ym myd cerddoriaeth Brydeinig, mae wedi cael gyrfa brysur ym myd yr opera, ers ei ddyddiau cynnar yn y Kirov ac yn fwy diweddar yn La Scala a’r Bayerische Staatsoper, yn ogystal ag ymddangosiadau rheolaidd yn Lyon, Amsterdam, Frankfurt ac Antwerp.
Mae’n ymddangos fel arweinydd gwadd gyda cherddorfeydd rhyngwladol blaenllaw, gan gynnwys y Royal Concertgebouw, Cerddorfeydd Symffoni Metropolitan Tokyo a San Francisco a Deutsches Symphonie-Orchester Berlin, yn ogystal â’r Philharmonia, Cerddorfa Symffoni’r BBC a’r rhan fwyaf o brif gerddorfeydd eraill y DU. Mae’n ffigwr poblogaidd ym Mhroms y BBC, a gomisiynodd 14 o gyfansoddwyr i ysgrifennu teyrnged pen-blwydd yn 60 iddo yn 2019. Mae’n adnabyddus am ei gefnogaeth i gyfansoddwyr Prydeinig ac mae wedi arwain cannoedd o premières ledled y byd. Mae wedi recordio bron i 150 o gryno-ddisgiau hyd yma, gan gynnwys operâu llwyddiannus gan Korngold, Birtwistle a Harvey. Y llynedd, enillodd Wobr Arweinydd RPS am ei gyfraniad ‘aruthrol’ at fywyd cerddorol y DU.
Bu’n Brif Arweinydd Cyswllt Cerddorfa Symffoni BBC yr Alban (1994-2005), Prif Arweinydd Gwadd y Gerddorfa Ffilharmonig Ffleminaidd Frenhinol (2009-15), Prif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Nagoya (2012-16), a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Cheltenham (2005-7). Mae’n Athro Arwain y Tywysog Cydweddog yn y Coleg Cerdd Brenhinol, yn Athro Gwadd yng Nghonservatoire Brenhinol yr Alban, ac yn Gynghorydd Artistig i Gymdeithas Gorawl Huddersfield; ers blynyddoedd lawer mae wedi cefnogi’r gwaith o greu cerddoriaeth broffesiynol, amatur a cherddoriaeth gan fyfyrwyr ar y lefel uchaf yn y DU.
Beth Taylormezzo-soprano
Mae Beth Taylor yn un o’r mezzo-sopranos ifanc newydd sy’n dod i'r amlwg.
Y tymor hwn, bydd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y brif ran yn La Cenerentola yn yr Opéra de Nancy, gyda pherfformiadau dilynol yn Lwcsembwrg, Caen a Reims. Mae hi hefyd yn perfformio Arsilda gan Vivaldi mewn cyngherddau yn y Concertgebouw yn Amsterdam ac Auditorio Nacional Madrid a Giulio Cesare gan Handel gyda The English Concert yn Neuadd Carnegie, Neuadd Barbican ac yn San Francisco a Newcastle.
Mewn cyngherddau y tymor hwn, mae hi’n canu yn Symffoni Rhif 9 Beethoven gyda Cherddorfa Ffilharmonig Berlin yng Ngŵyl y Pasg Baden-Baden; Harmoniemesse Haydn yn y Paris Philharmonie a Berlin Konzerthaus; Symffoni Rhif 3 Mahler gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm, Das Lied von der Erde gyda Cherddorfa Siambr Paris; Fünf Lieder gan Alma Mahler gyda Cherddorfa Symffoni Montreal, yn perfformio am y tro cyntaf yng Nghanada; Requiems gan Michael Haydn a Mozart gyda Chymdeithas Handel a Haydn, gan berfformio am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau; A Child of Our Time gan Tippett yn Glyndebourne; ac El amor brujo gan Falla gyda Cherddorfa Tonkünstler.
Mae wedi perfformio mewn operâu yn ddiweddar, sy’n cynnwys Cornelia (Giulio Cesare) and Bradamante (Alcina) yn Glyndebourne; Arsace (Semiramide), La Cieca (La Gioconda), Erda (Das Rheingold), Y Norn Gyntaf (Götterdämmerung) a Schwertleite (Die Walküre) ar gyfer Deutsche Oper Berlin; Giuliano Gordio (Eliogabalo) yn Nhŷ Opera Zurich; Falliero (Bianca e Falliero) a Dardano (Amadigi) yn Oper Frankfurt; Bradamante yn Nhŷ Opera Nancy ac mewn fersiynau llwyfan o Elijah gan Mendelssohn yn Opéra de Lyon a Dioddefaint Sant Mathew gan Bach yn Theater Basel.
Mae galw mawr amdani hefyd fel datgeiniad, ar ôl perfformio gyda Malcolm Martineau yng Ngŵyl Buxton a Hamish Brown yn y Schubertíada yn Vilabertran, ymysg eraill.
Cyrhaeddodd Beth Taylor rownd derfynol cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd 2023, ac mae hi wedi ennill Gwobr Elizabeth Connell 2022, y drydedd wobr yng Nghystadleuaeth Neuadd Wigmore 2019 a daeth yn fuddugol yng Ngwobrau Cerddoriaeth Glasurol Gianni Bergamo 2018.
Graddiodd o’r Conservatoire Brenhinol yn yr Alban a’r Brifysgol Agored. Astudiodd gyda Jennifer Larmore ac Iain Paton a chymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda’r Fonesig Sarah Connolly, Susan Graham, Syr Thomas Allen, Sophie Daneman a’r Fonesig Emma Kirkby.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei brosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Children in Need.
Yn eu cartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gilyn-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Emilie Godden
Anna Cleworth
Juan Gonzalez
Ruth Heney
Žanete Uškāne
Alejandro Trigo
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Dmitry Khakhamov
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines
Fiolâu
Rebecca Jones *
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Anna Growns
Catherine Palmer
Robert Gibbons
Lydia Abell
Lowri Taffinder
Soddgrythau
Nina Kiva
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Alistair Howes
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Basau Dwbl
Alexander Jones #
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Ketan Curtis
Ffliwtiau
John Hall †
Lindsey Ellis
Piccolo
Lindsey Ellis †
Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Cor anglais
Amy McKean
Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Lenny Sayers
Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Patrick Bolton
David Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Neil Shewan †
Meilyr Hughes
John Davy
Flora Bain
James Chesney
Utgyrn
Corey Morris †
Robert Samuel
Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Phil Hughes
Rhydian Griffiths
Y Delyn
Ceri Wynne Jones
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlleduswydd wag
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy **
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications



