Sŵn a Sbri

Dydd Sul 8/9/24, 3.00pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Johannes Brahms
Agorawd Gŵyl Academaidd10’

Pyotr Tchaikovsky
Concerto i’r Ffidil33’

EGWYL: 20 munud

Antonín Dvořák
Symffoni Rhif 641’

Jaime Martínarweinydd
Nemanja Radulović ffidil

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3, i’w darlledu yn y dyfodol ar gyfer Classical Live; bydd ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol. 

Cyflwyniad

Llun: Kirsten McTernan

Llun: Kirsten McTernan

Pa ffordd well o ddechrau tymor 2024/25 yn Neuadd Hoddinott nag o dan arweiniad ein Prif Arweinydd Gwadd newydd, Jaime Martín. Agorwn gyda diolch cerddorol Brahms i Brifysgol Breslau am ei ddoethuriaeth er anrhydedd: mae ei Agorawd Gŵyl Academaidd yn asio caneuon myfyrwyr traddodiadol ag offeryniaeth annisgwyl i greu naws delynegol, gellweirus gyda theimlad anorchfygol o hwyl.

Fel Brahms, doedd Tchaikovsky byth yn brin o syniadau creadigol – ysgrifennodd ei Goncerto i’r Ffidil mewn pythefnos yn unig. Mae yma gyfuniad di-guro o alawon cofiadwy, disgleirdeb cynhyrfus a symlrwydd hudolus, a’r cyfan wedi’i goroni gan feistrolaeth danbaid yr unawd, a berfformir yma gan y digymar Nemanja Radulović. Gorffennwn gyda Chweched Symffoni Dvořák – y symffoni gyntaf lle dangosodd feistrolaeth lwyr, gellid dadlau – gyda chlust y cyfansoddwr am liw, mynegiant cynnes ac ysbryd Bohemaidd tanllyd mewn harmoni perffaith.

Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Johannes Brahms(1833–97)

Agorawd Gŵyl Academaidd, Op. 80 (1880)

Roedd hyfforddiant academaidd Brahms yn weddol sylfaenol. Dysgu ei hun a wnaeth yn bennaf, sy'n gwneud ystod a dyfnder yr hyn a gyflawnodd hyd yn oed yn fwy trawiadol. Ond yn ddyn ifanc roedd wedi taflu ei hun i fywyd cymdeithasol myfyriwr Prifysgol Göttingen, ac roedd atgofion o’r direidi hwnnw – ac o ganeuon yfed calonnog y myfyrwyr – wedi aros gydag ef. Felly yn 1879, pan ddyfarnwyd y teitl Doethur er Anrhydedd mewn Athroniaeth iddo gan Brifysgol Breslau, ymatebodd Brahms gydag agorawd nad oedd cyflawni’r naws ddifrifol a deallusol drylwyr yr oedd ei theitl fel petai'n ei haddo.

Yn ei hanfod, datblygiad symffonig o bedair o ganeuon myfyrwyr yw’r Agorawd Gŵyl Academaidd, sef: y gân wladgarol ‘Ich hab mich ergeben’ (‘Rwy’n ffyddlon i ti gorff ac enaid’), sy’n ymddangos yn agos at ddechrau’r darn ar offerynau pres dramatig; yna ‘Hört, ich sing das Lied der Lieder’ (‘Gwrandewch, canaf y gân o ganeuon’) i ganmol harddwch; yna ‘Was kommt dort von der Höh?’ (‘Beth sy’n dod o’r fan draw?’), cân a genid yn draddodiadol mewn defodau derbyn ar gyfer glasfyfyrwyr, cychwynnir hon gan ddau fasŵn cellweirus. Yn olaf, mae ‘Gaudeamus igitur’ (‘Gadewch inni lawenhau’) yn seinio’n fuddugoliaethus ar chwythbrennau trwy arianwe gyfoethog o offerynnau taro disglair a llinynnau’n ymchwyddo.

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

Pyotr Tchaikovsky(1840–93)

Concerto i’r Ffidil yn D fwyaf, Op. 35 (1878)

1 Allegro moderato – Moderato assai
2 Canzonetta: Andante –
3 Finale: Allegro vivacissimo

Nemanja Radulovićffidil

Mae Concerto Tchaikovsky i’r Ffidil yn un o’r gweithiau disgleiriaf a mwyaf afieithus a greodd erioed. Oes, mae yna ambell i gysgod, ond mae’n dal yn anodd credu y gallai’r gerddoriaeth hon fod wedi dod i’r amlwg ar ôl un o’r argyfyngau dyfnaf a mwyaf poenus ym mywyd y cyfansoddwr hwn nad oedd argyfyngau yn ddieithr iddo. Ym 1877, y flwyddyn cyn iddo gyfansoddi’r concerto, fe wnaeth Tchaikovsky, nad oedd wedi datgan yn gwbl gyhoeddus ei fod yn hoyw, ddychryn ei ffrindiau trwy gyhoeddi ei fod yn priodi un o’i fyfyrwyr. Yn anffodus, mae’n ymddangos bod ei ddarpar briodferch – Antonina Miliukova, 29 oed – naill ai wedi camddeall, neu’n gwrthod derbyn, telerau ac amodau eu priodas (sef nad oedd unrhyw agosatrwydd corfforol i fod). O ganlyniad, fe ffodd Tchaikovsky yn fuan o’r cartref priodasol, ac yn ddiweddarach o’r wlad, mewn trallod. Ymddengys ei fod hyd yn oed wedi ceisio rhoi diwedd ar bethau trwy foddi ei hun, er bod yr adroddiadau’n ddryslyd. Cyfaddefodd yn ddiweddarach, ‘am rai misoedd bwygilydd roeddwn fymryn yn wallgof’.

Yn aml, yr hyn a oedd i weld yn codi Tchaikovsky allan o’r ‘gwallgofrwydd’ hwn oedd cyfansoddi. Mae teimladau o ing ac iselder – ac efallai euogrwydd hefyd – i’w clywed yn ei ddau waith mawr nesaf: y Bedwaredd Symffoni a’r opera Eugene Onegin (y ddau wedi’u cyfansoddi ym 1877–8). Yna ym 1878, mewn cyrchfan glan llyn yn y Swistir, daeth o’r diwedd o hyd i’r heddwch a’r ysgogiad yr oedd ei angen arno. Pan ymddangosodd y feiolinydd ifanc Iosif Kotek (y bu Tchaikovsky mewn cariad ag ef unwaith) gyda phentwr o gerddoriaeth, cafodd effaith ar y cyfansoddwr bron ar unwaith. Un o’r gweithiau a chwaraeodd y ddau ddyn gyda’i gilydd oedd Symphonie espagnole gan Édouard Lalo, gwaith yn llawn ymdeimlad ac awyrgylch cynnes y De, gydag unawd amlwg a heriol i’r ffidil. Roedd Tchaikovsky wrth ei fodd gyda’r darn: ‘Mae ganddo lawer o ffresni, ysgafnder, rhythmau pryfoclyd ac alawon hardd sydd wedi’u harmoneiddio’n rhagorol …’

Yn fuan, roedd Tchaikovsky yn gweithio ar Goncerto i’r Ffidil, lle mae’r teimlad o ryddhad a joie de vivre i’w glywed ar bob tudalen bron – yn y symudiadau cyntaf ac olaf o leiaf. Mae’r symudiad cyntaf hir yn cydbwyso elfennau telynegol a meistrolgar yn hyfryd: mae’r ffidil yn syfrdanu un eiliad, ac yn canu’r eiliad nesaf. Ond disgleirdeb a bywiogrwydd sy’n trechu yn y pen draw. Yn y Canzonetta sy’n dilyn, ceir alaw felys felancolaidd hir sy’n llifo, wedi’i harwain gan ffidil (sydd, yn anarferol, â mudydd drwyddi draw), ond nid prudd-der sy’n loes i’r enaid a geir yma: mae’r uchafbwyntiau a’r iselfannau emosiynol a drafodwyd yn y Bedwaredd Symffoni ac Eugene Onegin yn ddiogel yn y gorffennol – am y tro o leiaf. Yna mae cadenza unawdol byr yn arwain yn hyderus i mewn i’r diweddglo syfrdanol, sy’n llawn naws cerddoriaeth dawns werin Rwsiaidd – cybolfa aromatig feddwol o fygdarthau fodca, winwns wedi’u ffrio a gwichiadau esgidiau lledr yn cicio’n uchel. Hyd yn oed yn ei alltudiaeth wirfoddol, nid oedd Tchaikovsky wedi anghofio ei famwlad.

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

EGWYL: 20 munud

Antonín Dvořák(1841–1904)

Symffoni Rhif 6 yn D fwyaf, Op. 60(1880)

1 Allegro non tanto
2  Adagio
3  Scherzo (Furiant): Presto – Trio: Poco meno mosso – Scherzo
4 Finale: Allegro con spirito

Yn aml, dim ond un cam syml sydd ei angen i drawsnewid syniad cerddorol cloff yn un gwych. Syniad cyntaf Dvořák ar gyfer symudiad agoriadol ei Chweched Symffoni oedd alaw yn y cywair lleiaf, yn seiliedig ar gân werin Tsiecaidd, mewn amsernod dau guriad araf. Yna cafodd ysbrydoliaeth: newidiodd Dvořák y thema o’r lleiaf i’r mwyaf, a mynd ati i ddisodli’r amsernod dau guriad gwreiddiol â thri churiad cyflym fesul bar. Yn lle alaw werin ddymunol, mae gennym thema wirioneddol symffonig gyda momentwm trawiadol, tebyg i waltz. O’r dechrau godidog hwn, llwyddodd y cyfansoddwr i greu ei symudiad symffonig agoriadol gwirioneddol wych cyntaf.

Rhywbeth arall sy’n newydd am y Chweched Symffoni yw sicrwydd llwyr yr ysgrifennu cerddorfaol. Efallai fod mân gyffyrddiadau hudolus o liw offerynnol yn symffonïau cynharach Dvořák, ond mae darnau hefyd lle gall y gweadau swnio’n flêr neu’n anghywrain. Nid yw ffresni a mireinder seinfyd y Chweched Symffoni fyth yn cael ei fygwth. Gallwn hefyd synhwyro cymaint y dylanwadwyd ar feddylfryd Dvořák gan natur – canu’r adar a synau’r gwynt a’r dŵr, yn ogystal â cherddoriaeth amrwd y cymunedau gwledig Tsiecaidd yr oedd yn gyfarwydd â nhw pan oedd yn fachgen.

Diau fod y feistrolaeth newydd hon yn rhannol oherwydd anogaeth yr arweinydd Hans Richter, a oedd yn 1879 wedi rhoi perfformiad gwych o Drydedd Rhapsodi Slafonig Dvořák yn Berlin – ym mhresenoldeb y cyfansoddwr. Roedd y gynulleidfa yn llafar ei brwdfrydedd, ac fe dynnodd Richter y cyfansoddwr allan o’i sedd a’i gofleidio ar lwyfan y cyngerdd. Wedi hynny, aeth Richter â Dvořák am ginio a gwneud iddo addo ysgrifennu symffoni iddo. Y canlyniad oedd y Chweched Symffoni, a gwblhawyd yn haf 1880 – ar waethaf, fel y gwelsom, o leiaf un camgychwyniad. Roedd Dvořák yn sylweddoli bod yn rhaid iddo gynhyrchu rhywbeth arbennig iawn ar gyfer arweinydd enwog fel Richter, a gallai hynny esbonio pam y cymerodd gymaint o amser i ffurfio syniad blaenllaw’r symudiad cyntaf – gall baich disgwyliadau uchel lesteirio creadigrwydd.

Mae Adagio tebyg i gân, eto â naws werinol, yn dilyn ehediad parhaus y symudiad cyntaf. Yna daw adlais mwy uniongyrchol o gerddoriaeth werin Tsiecaidd yn y Scherzo. Ei is-deitl yw ‘Furiant’: cyfeiriad at ddawns wyllt mewn rhythm sy’n newid yn gyson. Mae prif thema Dvořák yn gyrru ymlaen ar batrwm nodweddiadol un-dau–un-dau–un-dau, am yn ail ag un-dau-tri–un-dau-tri. Mae adran Triawd bugeiliol mwy tyner yn dilyn, lle mae Dvořák yn gwneud defnydd telynegol anarferol a theimladwy iawn o bicolo unigol. Nid yw’r diweddglo yn cuddio dyled Dvořák i’w arwr a’i fentor, Johannes Brahms: mae cysylltiad amlwg rhwng thema agoriadol y symudiad hwn ac Ail Symffoni Brahms (hefyd yn D fwyaf). Ond gweithred o wrogaeth yw hon, nid lladrad llwyr, ac mae’r symudiad yn ei gyfanrwydd yn gwbl annibynnol ei ysbryd, gan adeiladu’n hyderus tuag at un o ddiweddgloeon mwyaf cyffrous Dvořák. 

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant … 

Syr Stephen Hough yn perfformio gweithiau Brahms

Nos Iau 3/10/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Brahms Concerto Rhif 1 i’r Piano
Brahms, trefn. Schoenberg Pedwarawd Piano Rhif 1

Ryan Bancroft arweinydd
Syr Stephen Hough piano

MEISTROLGAR | DISGLAIR | BYWIOG

Bydd y pianydd byd-enwog Syr Stephen Hough yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft i lansio tymor 2024/25 yn Abertawe gyda rhaglen o gerddoriaeth Brahms sy’n dechrau gyda’i Goncerto Cyntaf i’r Piano.

Mae’r gwaith digyfaddawd a meistrolgar hwn yn parhau i fod yn ffefryn ymysg cynulleidfaoedd a pherfformwyr fel ei gilydd. O gryfder ei symudiad cyntaf hynod symffonig, trwy symudiad araf disglair, i’r diweddglo llawn bywyd, mae’r concerto hwn yn dangos cyfuniad diddorol o dreftadaeth gerddorol, gyda golwg flaengar sy’n unigryw i Brahms.

Mae Pedwarawd Piano Cyntaf Brahms – a gafodd ei berfformio am y tro cyntaf ym 1861, a’i drefnu gan Schoenberg ym 1937 – yn arddangosfa ddyfeisgar o amrywiad a thrawsnewid. Drwy gymryd syniadau cerddorol ac archwilio eu posibiliadau’n syth, mae’n braenaru’r tir ar gyfer arddangosfa fawr o geinder, disgleirdeb a chyffro sy’n datblygu’n gyson.

Dawns a Duwiau

Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain

Nos Iau 21/11/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Rossini, trefn. Respighi La boutique fantasque – cyfres
Rossini Stabat mater

Nil Venditti arweinydd
Masabane Cecilia Rangwanasha soprano
Marianna Pizzolato mezzo-soprano
Levy Segkapane tenor
Ashley Riches bariton-bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

THEATRIG | HUDOLUS | SWYNOL

Dychmygwch ddoliau’n dawnsio mewn siop deganau hudolus, a phâr o ddawnswyr can-can gwych yn cynllwynio i aros gyda’i gilydd waeth beth fo’r gost - dyma stori swynol La boutique fantasque. Gyda’i gerddoriaeth fywiog a hwyliog (wedi’i threfnu gan Ottorino Respighi o ddarnau piano gan Gioachino Rossini), mae’r bale hwn yn ddilyniant o ddawnsfeydd godidog, pob un yn fwy egnïol na’r un o’i blaen, ac yn bleser gwrando arno.

I’r gwrthwyneb, mae Stabat mater gan Rossini yn waith sydd bron â chroesi’r ffin i sentimentaliaeth gysegredig ac opera coeg-ddramatig. Mae gorchestwaith ac alawon hudolus a chofiadwy’r ‘Cujus animam’ a thân a brwmstan yr ‘Inflammatus et accensus’ yn cydblethu’n ddi-dor â rhinweddau cwbl gysegredig yr ‘Eja mater’ a’r ‘Quando corpus morietur’ – campwaith o’r galon sy’n llawn mynegiant, yn lluniaidd yn lleisiol ond eto’n rhythmig ac yn amlwg operatig.

Bywgraffiadau

Jaime Martínarweinydd

Paul Marc Mitchell

Paul Marc Mitchell

Yr arweinydd Sbaenaidd Jaime Martín yw Prif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Melbourne, Cyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Siambr Los Angeles, a Phrif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Bu’n Brif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Iwerddon (2019–24), yn Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Sbaen (2022–24) ac yn Gyfarwyddwr Artistig a Phrif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Gävle (2013–22).

Ymhlith ei uchafbwyntiau diweddar mae perfformiadau cyntaf clodwiw gyda cherddorfeydd Symffoni Dallas ac Indianapolis a Cherddorfa Ffilharmonig Dresden, taith o amgylch y DU gyda Symffoni Gävle, a’i ymddangosiad cyntaf fel arweinydd ym Mhroms y BBC y llynedd. Y tymor hwn mae wedi gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Gŵyl Budapest, ac wedi dychwelyd i gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm, cerddorfeydd symffoni Castile a León, Colorado, Galicia a Queensland, a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. 

Cafodd recordiad cyntaf Jaime Martín gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne (caneuon gan Debussy a Richard Strauss gyda Siobhan Stagg) ei ryddhau yn gynharach eleni. Mae wedi recordioconcerti Mozart i’r chwythbrennau gyda Cherddorfa Symffoni Llundain, cyfres o recordiadau Brahms gyda cherddorfa symffoni Gävle, disg o weithiau corawl gyda Chôr Siambr Eric Ericson, yn ogystal â gweithiau diweddaraf y cyfansoddwr o Sweden, Melcher Melchers.

Cyn troi at arwain yn llawn amser yn 2013, roedd yn brif ffliwtydd yn y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Siambr Ewrop, Opera Cenedlaethol Lloegr a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain.


Nemanja Radulovićffidil

Sever Zolak

Sever Zolak

Mae’r feiolinydd Serbaidd-Ffrengig Nemanja Radulović wedi ennill sawl cystadleuaeth, gan gynnwys cystadlaethau ffidil Joseph Joachim a Stradivarius, a Chystadleuaeth George Enescu, ac fe’i henwyd yn Newydd-ddyfodiad y Flwyddyn ECHO Klassik yn 2015.

Mae wedi ymddangos gyda phrif gerddorfeydd y byd, gan gynnwys cerddorfeydd Bilbao, Düsseldorf, Gothenburg, Montreal, Queensland, RAI National, Sydney, Tokyo, WDR a Cherddorfa Symffoni Yomiuri Nippon, cerddorfeydd ffilharmonig Copenhagen, Munich, Netherlands Radio a Tampere, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol a Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl.  Deutsches Symphonie-Orchester Berlin, Orchester Philharmonique de Radio France, Staatskapelle Dresden, a cherddorfeydd cenedlaethol Gwlad Belg, Iwerddon a Sbaen.

Mae wedi rhoi datganiadau mewn lleoliadau nodedig fel yr Amsterdam Concertgebouw, Berlin Philharmonie, Neuadd Carnegie, Salle Pleyel, Neuadd Suntory, Teatro Colón a’r Théâtre des Champs-Élysées.

Ymhlith ei uchafbwyntiau diweddar a’r rhai sydd i ddod mae perfformiadau cyntaf gyda Deutsche Kammerphilharmonie Bremen, yr Hallé, Cerddorfa Siambr Los Angeles, Cerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd, Cerddorfa Philharmonia a Cherddorfa Symffoni Quebec, a pherfformiadau gyda’i gerddorfa siambr ef, Double Sens (lle mae’n perfformio ac yn cyfarwyddo).

Yr ychwanegiad diweddaraf at ei ddisgograffeg helaeth yw disg sy’n cynnwys Concerto Beethoven i’r Ffidil a’i drefniant ei hun o Sonata ‘Kreutzer’ Beethoven. Penodwyd Nemanja Radulović yn Chevalier de l’Ordre des Arts et des Lettres gan lywodraeth Ffrainc yn 2017.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae'r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth.

Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei brosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Children in Need.

Yn eu cartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jonesis-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus 
Suzanne Casey 
Ruth Heney
Alejandro Trigo
Emilie Godden 
Anna Cleworth 
Žanete Uškāne
Juan Gonzalez
Amy Fletcher
Jane Sinclair

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Laura Emberey
Ros Butler
Michael Topping
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines
Vickie Ringguth
Ilze Abola 
Beverley Wescott
Joseph Williams
Katherine Miller
Gary George-Veale

Fiolâu
Chris Yates ‡ 
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Lowri Thomas 
Lydia Abell
Anna Growns 
Ania Leadbeater
Charlotte Limb

Soddgrythau
Jesper Svedberg ‡
Jessica Feaver  
Sandy Bartai
Rachel Ford
Keith Hewitt
Carolyn Hewitt
Alistair Howes
Katy Cox

Basau Dwbl
Alexander Jones #
Richard Gibbons
Georgia Lloyd
Ketan Curtis
Daniel Vassallo
Callum Duggan 

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
David Hedley

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Emídio André Costa 

Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Andres Yauri

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan † 
Jack Sewter  
John Davy

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †

Trombonau
Donal Bannister*
Dafydd Thomas

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden † 

Timpani
Rhys Matthews 

Offerynnau Taro 
Phil Girling ‡
Phil Hughes
Andrea Porter

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol



Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa swydd wag
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy **
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications