

Opera ac Elgar gyda BBC NOW
Dydd Sadwrn 21/9/24, 3.00pm
Hafren, Y Drenewydd
Dydd Sul 22/9/24, 3.00pm
Glan yr Afon, Casnewydd

Georges Bizet
Carmen – Agorawd4’
Carmen – Habanera5’
Carmen – Chanson bohème5’
Giacomo Puccini
Preludio sinfonico10’
Gaetano Donizetti
La favorita – ‘O mio Fernando’7’
Pietro Mascagni
Cavalleria rusticana – Intermezzo7’
Ruperto Chapí
Las hijas del Zebedeo – ‘Al pensar en el dueño de mis amores’ (Carceleras)7’
EGWYL: 20 munud
Edward Elgar
Amrywiadau ar Thema Wreiddiol (‘Enigma’)35’
Nil Vendittiarweinydd
Niamh O’Sullivan mezzo-soprano
Mae’r cyngerdd yng Nghasnewydd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol ar Classical Live; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl y darllediad ar BBC Sounds, lle gallwch chi hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Llun: Kirsten McTernan
Llun: Kirsten McTernan
Croeso i’r cyngerdd heddiw, lle cawn weld yr arweinydd llwyddiannus Nil Venditti yn dychwelyd at Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ar ôl gwneud ei hymddangosiad cofiadwy cyntaf gyda’r gerddorfa ym Mhroms y BBC fis diwethaf.
Daw Nil â’i chariad at bopeth operatig i’r rhaglen heddiw, gan ddechrau gyda detholiad o un o’r operâu mwyaf poblogaidd yn y byd – Carmen gan Bizet, gyda’i hanes anorchfygol o gariad a cholled. Yn canu’r ‘Habanera’ heddiw y mae mezzo ifanc o Iwerddon sydd eisoes yn gwneud enw iddi hi ei hun (ac sy’n Artist Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3 ar hyn o bryd) – Niamh O’Sullivan. Cawn ei chlywed hefyd yn Donizetti ar ei fwyaf tanbaid, yn ogystal â meistr y zarzuela, Ruperto Chapí. Yn gymysg â’r rhain, ceir gwaith cynnar Puccini ac Intermezzo poblogaidd gan Mascagni.
Daw’r cyngerdd i ben gydag Amrywiadau ‘Enigma’ gan Elgar, lle mae’r cyfansoddwr yn cyflwyno portreadau cerddorol o ffrindiau a theulu, sy’n amrywio mewn hwyliau o’r chwareus i’r hynod huawdl.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Georges Bizet(1838–75)
Carmen (1875) – detholiad

Agorawd
Habanera
Chanson bohème
Niamh O’Sullivanmezzo-soprano
Yn 1875 taniodd Georges Bizet ffrwydrad theatrig ym myd cwrtais yr Opéra Comique ym Mharis – a oedd yn gartref i gymdeithas Ffrengig uchel ael. Roedd Carmen yn fath newydd o opera gyda math newydd o arwres: menyw y tu hwnt i foesoldeb, sy’n yfed ac yn ymladd, yn hudo dynion ac yna’n eu taflu o’r neilltu. Gan addasu nofel fer boblogaidd Prosper Merimée, mae Bizet yn gosod ei arwres yng nghanol drama gerddorol sy’n llawn chwys a mwg a gwaed, llif o emosiwn dynol sydd heb ei sensro ac sy’n curo i rythmau di-baid y castanetau.
Y ferch o sipsi, Carmen, yw’r ferch ddrwg yn y ffatri dybaco yn Seville. Mae ffrwgwd yn dod â hi i sylw’r Corporal Don José. Ac yntau’n dyheu’n wyllt am Carmen, mae’n caniatáu iddi ddianc o’i ddalfa, gan ei orfodi i adael a chyfnewid bywyd yn y fyddin am fod yn rhan o griw Carmen o smyglwyr. Ond mae Carmen yn rhydd ei hysbryd, a chyn bo hir mae serch cenfigennus Don José yn ei diflasu, ac mae’n ei adael am yr ymladdwr teirw neu’r ‘toreador’, Escamillo. Ond mae’r ysgrifen ar y mur; waeth pa mor galed y mae’n ceisio dianc, mae ei bywyd hi a bywyd Don José wedi’u plethu’n anorfod nes eu tranc gwaedlyd.
Wrth i’r symbalau ddiasbedain, cawn ein plymio i fyd tanbaid y talwrn teirw wrth i’r Agorawd ein llusgo, â’n gwynt yn ein dwrn, nes i ni gyrraedd gorymdaith rodresgar y Toreador. Ond mae ei lliwiau cysefin yn pylu’n sydyn wrth i gryndod y llinynnau gyflwyno thema ‘tynged’ Carmen ei hun.
Nodyn y rhaglen © Alexandra Coghlan
Testun
Habanera
L’amour est un oiseau rebelle
Que nul ne peut apprivoiser
Et c’est bien en vain qu’on l’appelle
S’il lui convient de refuser.
Rien n’y fait, menace ou prière
L’un parle bien, l’autre se tait:
Et c’est l’autre que je préfère
Il n’a rien dit mais il me plaît
L’amour!
L’amour est enfant de Bohème
Il n’a jamais, jamais connu de loi
Si tu ne m’aimes pas, je t’aime
Si je t’aime, prends garde à toi!
Si tu ne m’aimes pas
Si tu ne m’aimes pas, je t’aime!
Mais, si je t’aime
Si je t’aime, prends garde à toi!
L’oiseau que tu croyais surprendre
Battit de l’aile et s’envola …
L’amour est loin, tu peux l’attendre
Tu ne l’attends plus, il est là!
Tout autour de toi, vite, vite
Il vient, s’en va, puis il revient …
Tu crois le tenir, il t’évite
Tu crois l’éviter, il te tient
L’amour!
Cyfieithiad
Aderyn gwrthryfelgar yw cariad
Na all unrhyw beth ei ddofi,
Ofer yw galw arno
Os yw’n gyfleus iddo wrthod.
Ni fydd dim yn gweithio, bygwth na phledio,
Mae un yn siarad, mae’r llall yn aros yn dawel;
A’r llall sy’n well gen i
Ni ddywedodd ddim; ond mae yn fy mhlesio.
Cariad!
Plentyn y Bohemiad yw cariad,
Ni fu erioed yn gyfarwydd ag unrhyw gyfraith,
Os nad wyt ti’n fy ngharu i, dwi’n dy garu di,
Os ydw i’n dy garu di, gwylia dy hun!
Os nad wyt ti’n fy ngharu i,
Os nad wyt ti’n fy ngharu i, dwi’n dy garu di!
Ond, os dwi’n dy garu di,
Os dwi’n dy garu di, gwylia dy hun!
Mae’r aderyn roeddet ti’n meddwl ei synnu
Wedi chwifio ei adenydd a hedfan i ffwrdd;
Mae cariad yn bell i ffwrdd, galli di aros amdano;
Os nad arhosi di amdano mwyach, mae yno!
O’th gwmpas, yn gyflym, gyflym,
Mae’n dod, yn mynd, yna’n dod nôl!
Os wyt am ei ddal, mae’n dy osgoi;
Os wyt am ei osgoi, mae’n dy ddal!
Cariad!
Cyfieithiad gan Cymen
Giacomo Puccini(1858–1924)
Preludio sinfonico (1882)

Ysgrifennodd Giacomo Puccini ei Preludio sinfonico yn 1882, fel myfyriwr yn y Conservatoire ym Milan. Fe’i perfformiwyd yno am y tro cyntaf yr un flwyddyn. Ar yr adeg hon, roedd cerddoriaeth Richard Wagner yn ddylanwad cryf ar Puccini. Yn wir, roedd yn dyheu am fod yn gyfansoddwr a oedd ‘yn meddu ar bŵer a oedd yn adleisio Wagner y tu hwnt i’r Alpau’. Serch hynny, nid pastiche mo’r Preludio: yn ei harddwch melodaidd a’i liwiau cerddorfaol sy’n symud yn gynnil, mae’n rhagflas o gampweithiau operatig y cyfansoddwr, fel La bohème.
Cyflwynir prif thema’r gwaith gan y chwythbrennau uchel a’r llinynnau disglair, gan ddwyn i gof Act 1 Agorawd Lohengrin gan Wagner. Yna mae’n esblygu i alaw dyner ar y ffidil. Daw’r gerddoriaeth yn fwyfwy tanbaid, gan gyrraedd uchafbwynt cynhyrfus yn y pen draw, gydag offerynnau pres yn seinio i gyfeiliant llinynnau chwyrlïol. Mae’r barrau olaf yn dychwelyd i’r gweadau tryloyw cychwynnol, gyda’r darn yn dod i ben yn dawel.
Nodyn y rhaglen © Kate Hopkins
Gaetano Donizetti(1797–1848)
La favorita (1840) – ‘O mio Fernando’

Niamh O’Sullivanmezzo-soprano
Yn wahanol iawn i’w gomedïau Eidalaidd siriol, roedd operâu mawreddog Donizetti ar gyfer y llwyfan yn Ffrainc yn apelio at y cyhoedd a oedd yn awyddus i weld drama emosiynol drawiadol. Roedd hyn yn sbardun ar gyfer rhai o’i ddarnau cerddorol aeddfed gorau.
Wedi’i chreu o glytwaith o ddarnau o brosiectau cynharach, segur, mae La favorita (1840) yn archwilio’r triongl serch rhwng y Brenin Alfonso o Castile, ei feistres Leonora a’i chariad Fernando. Pan mae’r brenin yn gorchymyn i Leonora briodi ei hanwylyd, Fernando, nid yw’n gwybod beth i’w wneud. A all hi lygru’r dyn y mae hi’n ei garu â’i chywilydd? A fydd yn dal i’w charu pan ddaw i wybod ei chyfrinach? Ai priodas neu angladd sy’n aros amdani?
Mae ‘O mio Fernando’, aria ddwbl Leonora yn Act 3, ymhlith y darnau lleisiol gorau sydd – mae’n gwneud y mwyaf o lais mezzo’r arwres, gyda’i gywair is a’i liwiau cyfoethocach sy’n cyfleu dyfnder emosiynol. Mae’r olygfa hon yn drawiadol o ran ei symlrwydd – yn llwm, hyd yn oed – a gwelir yma ddatganiad cynhyrfus yn ildio i gantabile telynegol, gan gloi gyda cabaletta mwy angerddol wrth i Leonora ystyried marwolaeth. Mae grym yr aria yn ei chynildeb: llif o emosiwn cynnil sydd – o drwch blewyn – o fewn terfynau cerddorol ffurfiol.
Nodyn y rhaglen © Alexandra Coghlan
Testun
O mio Fernando!
Fia dunque vero, oh ciel?
Desso, Fernando, lo sposo di Leonora!
Ah! Tutto mel dice,
E dubbia è l'alma ancora
All’inattesta gioja!
Oh Dio! Sposarlo?
Oh mia vergogna estrema!
In dote al prode recar il disonor –
No, mai; dovesse esecrarmi, fuggir,
Saprà in brev’ ora chi sia la donna
Che cotanto adora.
O mio Fernando! Della terra il trono
A possederti avria donato il cor;
Ma puro l’amor mio come il perdono,
Dannato, ahi lassa! è a disperato orror.
Il ver fia noto, e in tuo dispegio estremo,
La pena avrommi che maggior si de’, ah!
Se il giusto tuo disdegno allor fia scemo,
Piombi, gran Dio, la folgor tua su me!
Su, crudeli, e chi v’arresta?
Scritto è in cielo il mio dolor!
Su, venite, ell’ è una festa;
Sparsa l’ara sia di fior.
Già la tomba a me s’appresta;
Ricoperta in nefra vel sia la trista fidanzata,
Che reietta, disperata, non avrà perdono in ciel.
Maledetta, disperata, non avrà perdono in ciel.
Ah! crudeli, e chi v’arresta?
Scritto in cielo è il mio dolor.
Crudeli, venite.
Ah! la trista fidanzata non avrà perdono in ciel.
Cyfieithiad
A allai hyn fod yn wir felly, O’r nefoedd?
Ef … Fernando, gŵr Leonora!
Gallai! Mae popeth yn dweud hynny wrthyf,
ac eto mae fy enaid yn dal yn amheus
o’r llawenydd annisgwyl hwn!
O, Dduw! Ei briodi?
O, fy nghywilydd mwyaf!
I ddod â gwarth yn waddol i’r gŵr mawr?
Na, byth; hyd yn oed pe bai’n fy melltithio, yn ffoi!
Caiff ddysgu cyn bo hir pwy yw’r fenyw
y mae’n ei haddoli gymaint.
O, fy Fernando! Byddai fy nghalon wedi rhoi
gorsedd y ddaear i’th feddiannu.
Ond mae fy nghariad, mor bur â maddeuant,
wedi’i gondemnio. Gwae fi, mae’n arswyd ofnadwy!
Daw’r gwir yn hysbys, ac yn dy ddirmyg mwyaf
Caf y gosb waethaf.
Pan fydd dy ddirmyg cyfiawn yn llai,
gad i’th fellten fy nharo, Dduw Hollalluog.
Dewch, chwi greulon rai, pwy all eich atal?
Mae fy mhoen wedi’i hysgrifennu yn y nefoedd.
Dewch, dewch i wledd;
gadewch i’r allor gael ei gwasgaru â blodau.
Mae’r beddrod eisoes wedi’i baratoi ar fy nghyfer
dan orchudd du, na foed i’r ddyweddi alaethus
a wrthodwyd, yn ddiobaith, gael maddeuant yn y nefoedd,
na, na, ni chaiff hi faddeuant yn y nefoedd.
Dewch, chwi greulon rai, pwy all eich atal?
Mae fy mhoen wedi’i hysgrifennu yn y nefoedd.
Melltigedig, mewn anobaith,
ni chaiff hi faddeuant yn y nefoedd.
Cyfieithiad gan Cymen
Pietro Mascagni(1863–1945)
Cavalleria rusticana (1890) – Intermezzo

Ysgrifennwyd Cavalleria rusticana ar gyfer cystadleuaeth operâu un act, ac roedd yn cynrychioli egin yr arddull verismo newydd o gyfansoddi operatig – a oedd yn rhoi portread realistig o’r dosbarthiadau cymdeithasol is, yn hytrach nag operâu ‘gwisgoedd’ artiffisial y gorffennol. Bu’r perfformiad cyntaf o’r darn yn llwyddiant ysgubol, gyda Mascagni yn cipio’r wobr gyntaf ac yn cael ei alw’n ôl 40 o weithiau ar ôl i’r llenni gau. Ymledodd poblogrwydd yr opera fel tân gwyllt, gyda pherfformiadau’n dilyn ar hyd a lled Ewrop mewn ychydig dros flwyddyn. Erbyn i Cavalleria rusticana gyrraedd America, roedd hyrwyddwyr opera yn brwydro yn erbyn ei gilydd – yn aml drwy’r llysoedd – am yr hawl i’w pherfformio. Pan gyrhaeddodd yr Opera Metropolitan yn Efrog Newydd, llwyfannwyd nid un, ond dau berfformiad gan gynhyrchwyr a oedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd – un ohonynt wedi’i gyfarwyddo gan Oscar Hammerstein I, tad y telynegwr sy’n enwog ar Broadway.
Stori bob dydd am gariad, brad a llofruddiaeth yw Cavalleria rusticana, wedi’i gosod ymhlith gwerinwyr cefn gwlad Sisili. Mae’r Intermezzo, sydd wedi dod yn enwog fel darn cyngerdd ar wahân, yn adlewyrchu’r ddrama hyd yma yn yr opera ac yn rhagfynegi’r hyn sydd i ddod; mae’n crynhoi alawon dyrchafol yr opera arbennig hon yn ogystal â’r arddull verismo yn gyffredinol. Nid yw’n syndod, o ystyried alawon toreithiog ac elfennau dramatig y gwaith, ei bod wedi’i throi’n ffilm ddim llai na thair gwaith – y mwyaf swynol gan Franco Zeffirelli, a ffilmiodd gantorion opera gan gynnwys Plácido Domingo, Renato Bruson a Fedora Barbieri yn ei fersiwn yn 1982. Mae’r Intermezzo wedi ymddangos ar sawl trac sain, gan gynnwys Raging Bull a The Godfather: Part III, heb sôn am bennod olaf ond un The Sopranos.
Nodyn y rhaglen © David A. Threasher
Ruperto Chapí(1851–1909)
Las hijas del Zebedeo (1840) – ‘Al pensar en el dueño de mis amores’ (Carceleras)

Niamh O’Sullivanmezzo-soprano
Efallai na chlywir y Zarzuela, opereta Sbaenaidd, yn aml ar lannau llai heulog Prydain, ond mae hwn yn genre arwyddocaol sy’n llawn hud, tân ac alawon anorchfygol – neu mewn gair, wmff. Cyfansoddodd Ruperto Chapí dros 100 ohonyn nhw, ac ymhlith y rhain caiff Las hijas del Zebedeo (‘Merched y Zebedeo’) ei hystyried yn un o’i lwyddiannau mawr. Mae’r stori gyfareddol yn ymwneud â bywydau carwriaethol sy’n cydblethu o amgylch bar o’r enw Zebedeo. Aria virtuoso yw ‘La carceleras’ (‘Cân y Carcharor’) sy’n cael ei chanu gan Luisa, merch sy’n gweithio mewn siop teiliwr ac sydd mewn cariad ag Arturo, mab perchennog Zebedeo.
Ar ôl agoriad tanbaid, mae’r gerddoriaeth yn carlamu drwy diroedd angerdd. Mae cymeriad oriog Luisa, sy’n ymwybodol bod digonedd o ferched eraill yn llygadu’r gŵr golygus, eisiau Arturo i gyd iddi hi ei hun. ‘Os yw’n rhoi blodau i mi,’ meddai, ‘rwy’n teimlo fy nghalon fach yn marw o gariad.’
Nodyn y rhaglen © Jessica Duchen
Testun
Al pensar en el dueño
De mis amores,
Siento yo unos mareos
Encantadores.
Bendito sea
Aquel picaronazo
Que me marea.
A mi novio yo le quiero
Porque roba corazones
Con su gracia y su salero.
El me tiene muy ufana
Porque hay muchas que le quieren
Y se quedan con las ganas.
Caprichosa yo nací,
Y le quiero solamente,
Solamente para mí.
Que quitarme a mí su amor
Es lo mismo que quitarle
Las hojitas a una flor.
Yo me muero de gozo
Cuando me mira,
Y me vuelvo jalea
Cuando suspira.
Si me echa flores
Siento el corazoncito
Morir de amores.
Porque tiene unos ojillos
Que me miran entornados,
Muy gachones y muy pillos,
Y me dicen ¡ay! lucero,
Que por esa personita
Me derrito yo y me muero.
José Estremera (1852–95)
Cyfieithiad
Pan feddyliaf am arglwydd
fy nghariad
Rwy’n teimlo pendro
braf.
Bendigedig fyddo’r
dihiryn hwnnw
sy’n gwneud i mi deimlo mor benysgafn.
Rwy’n caru f’anwylyd
oherwydd ei fod yn dwyn calonnau,
gyda’i ras a’i swyn.
Mae’n gwneud i mi deimlo’n falch
oherwydd mae llawer o ferched yn ei garu
ond cânt eu gadael gyda’u dyheadau.
Un oriog fues i erioed,
ac rydw i ei eisiau i gyd i mi fy hun
Dim ond i mi.
Mae cymryd ei gariad oddi wrthyf
fel rhwygo’r
dail oddi ar flodyn.
Rwy’n marw o bleser
pan mae’n edrych arna i,
ac rwy’n colli fy mhen
pan ochneidia.
Pan mae’n taflu blodau ata i
Rwy’n teimlo fy nghalon fach
yn marw o gariad.
Mae ganddo lygaid annwyl
sy’n edrych arna i’n gilagored
yn dyner ac yn ddireidus dros ben,
ac yn dweud wrthyf ‘O fy nghariad,
am yr un fach yma
buaswn yn colli fy enaid a fy mywyd’.
Cyfieithiad gan Cymen
EGWYL: 20 munud
Edward Elgar(1857–1934)
Amrywiadau ar Thema Wreiddiol (‘Enigma’), Op. 36(1898–9)

Thema (‘Enigma’)
1 C. A. E.
2 H. D. S.-P.
3 R. B. T.
4 W. M. B.
5 R. P. A.
6 Ysobel
7 Troyte
8 W. N.
9 Nimrod
10 Dorabella
11 G. R. S.
12 B. G. N.
13 * * * (Romanza)
14 Finale: E. D. U.
‘Wnaf i ddim esbonio’r Enigma’, ysgrifennodd Elgar, ‘rhaid aros heb ddyfalu ei “ddywediad tywyll” … rhaid hefyd peidio â dyfalu’r set lawn y mae’r thema fwy yn “mynd” drwyddi a throsti … hefyd mae’r thema fwy yn mynd drwy a thros set lawn arall, ond nid yw’n cael ei chwarae. A allai ‘Auld Lang Syne’, neu hyd yn oed ‘Rule Britannia’, fod wedi’u hanner cuddio yn y gerddoriaeth yn rhywle? Neu a yw’n rhywbeth mwy - wel - enigmatig? Roedd Elgar yn dwlu ar eiriau ac ystyron dwbl, felly mae’n bosib bod rhywbeth arall, rhywbeth ehangach yn cael ei awgrymu gan y gair ‘thema’?
Ceir cliw am hynny yn ei ddisgrifiad o sut cafodd y syniad am y thema ‘Enigma’ yn wreiddiol. Ac yntau wedi blino ar ôl diwrnod o ddysgu, roedd Elgar yn byrfyfyrio ar y piano, ac yn sydyn, torrodd ei wraig, Alice, ar ei draws:
‘Dyna alaw dda, Edward.’
Deffrois o’r freuddwyd: ‘Beth? Alaw, pa alaw?’
Ac meddai hi, ‘Chwarae hi eto, rwy’n hoffi’r alaw yna.’
Fe wnes i chwarae a strymio, a chwarae, ac yna ebychodd:
‘Dyna’r alaw.’
Mewn fersiwn arall o’r stori, mae Alice yn gofyn i Elgar beth mae’n ei chwarae: ‘Dim’, meddai Elgar, ‘ond gallai rhywbeth gael ei wneud ohoni’. Po fwyaf y mae rhywun yn ei wybod am y cyfansoddwr uchelgeisiol ond hynod ansicr hwn, y mwyaf y mae hynny’n swnio fel disgrifiad o Elgar ei hun ar y pryd. Er ei fod eisoes yn ei bedwardegau, roedd Elgar yn dal i fod ymhell o ennill ei blwyf yn y byd diwylliannol ym Mhrydain, a theimlai’n rhwystredig ac yn ynysig. Flynyddoedd yn ddiweddarach dywedodd wrth yr adolygydd Ernest Newman fod thema’r ‘Enigma’ yn ‘mynegi fy ymdeimlad o unigrwydd yr artist pan gyfansoddais hi (yn 1898) … ac i fi, mae’n dal i ymgorffori’r ymdeimlad hwnnw’.
Mae’r ‘thema fwy’ sy’n rhedeg drwy Amrywiadau Enigmayn debyg i Elgar ei hun – yn unig ac yn fyfyriol i ddechrau, ond yn datgelu agweddau eraill ar ei gymeriad cymhleth wrth i’r 14 amrywiad fynd yn eu blaen. Mae’r thema’n parhau i fod yn amlwg, fwy neu lai, ond mae’n mynd drwy drawsnewidiadau cyfoethog a dyfeisgar wrth iddo ddod ar draws pob un o’r ‘ffrindiau’ sydd ‘wedi’u portreadu ynddynt’, yn ôl Elgar. Daw’n angerddol yng nghwmni Alice (Amrywiad 1), yn chwareus a fflyrtiog yng nghwmni ‘Dorabella’ (Amrywiad 10), yn hynod bruddglwyfus wrth ysgafnhau ei faich ei hun i’r chwaraewr soddgrwth Basil Nevinson (Amrywiad 12) ac yn fonheddig yn yr enwog ‘Nimrod’ (Amrywiad 9), sy’n cofnodi sut y gwnaeth ei gyfaill o gyhoeddwr, August Jaeger, ei annog i ddyheu am yr uchelfannau uchaf un. Yna, yn y diweddglo (Amrywiad 14), mae Elgar ei hun yn dod i’r amlwg fel glöyn byw o’r chwiler, a’i adenydd ar led yn ogoneddus. Os mai Elgar yr artist yw’r ‘thema fwy’ sy’n mynd drwy’r ‘Amrywiadau Enigma’, yna drwy’r dwyfoliad godidog hwn, mae’n dweud wrth bob un o’r ffrindiau hynny, ‘Edrychwch beth rydych chi wedi’i greu ohonof i!’
Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant …
Dawns a Duwiau
Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain
Nos Iau 21/11/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Rossini, trefn. Respighi La boutique fantasque – cyfres
Rossini Stabat mater
Nil Venditti arweinydd
Masabane Cecilia Rangwanasha soprano
Marianna Pizzolato mezzo-soprano
Levy Segkapane tenor
Ashley Riches bariton-bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
THEATRIG | HUDOLUS | SWYNOL
Dychmygwch ddoliau’n dawnsio mewn siop deganau hudolus, a phâr o ddawnswyr can-can gwych yn cynllwynio i aros gyda’i gilydd waeth beth fo’r gost - dyma stori swynol La boutique fantasque. Gyda’i gerddoriaeth fywiog a hwyliog (wedi’i threfnu gan Ottorino Respighi o ddarnau piano gan Gioachino Rossini), mae’r bale hwn yn ddilyniant o ddawnsfeydd godidog, pob un yn fwy egnïol na’r un o’i blaen, ac yn bleser gwrando arno.
I’r gwrthwyneb, mae Stabat mater gan Rossini yn waith sydd bron â chroesi’r ffin i sentimentaliaeth gysegredig ac opera coeg-ddramatig. Mae gorchestwaith ac alawon hudolus a chofiadwy’r ‘Cujus animam’ a thân a brwmstan yr ‘Inflammatus et accensus’ yn cydblethu’n ddi-dor â rhinweddau cwbl gysegredig yr ‘Eja mater’ a’r ‘Quando corpus morietur’ – campwaith o’r galon sy’n llawn mynegiant, yn lluniaidd yn lleisiol ond eto’n rhythmig ac yn amlwg operatig.
La voix humaine
Nos Iau 30/01/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Ravel Ma mère l’Oye
Poulenc La voix humaine
Jaime Martín arweinydd
Danielle de Niese soprano
THEATRIG | BYWIOG | SYFRDANOL
Mae’r Prif Arweinydd Gwadd, Jaime Martín, yn ein harwain mewn rhaglen o berlau Ffrengig, gan ddechrau gyda dathliad o 150 mlynedd ers geni Ravel. Mae ei sgôr hudolus, synhwyrus, cyfareddol a chwareus i’r bale Ma mère l’Oye yn seiliedig ar straeon tylwyth teg clasurol, o’r Dywysoges Hir ei Chwsg a Hyll Bach i Twm Bawd a Belle a’r Bwystfil.
Ar ôl yr egwyl, bydd y seren opera, Danielle de Niese, yn perfformio am y tro cyntaf gyda BBC NOW mewn perfformiad wedi’i lwyfannu’n rhannol fel Elle yn opera un-act bwerus Poulenc, La voix humaine. Yn ystod galwad ffôn gan ei chariad, mae galar a gwadu yn arwain at ddicter ac anobaith wrth iddo ddwyn eu perthynas i ben – thema dragwyddol o gariad unochrog yn dod yn fyw o flaen ein llygaid.
Bywgraffiadau
Nil Vendittiarweinydd
Alessandro Bertani
Alessandro Bertani
Mae’r arweinydd Eidalaidd-Twrcaidd Nil Venditti yn prysur ddatblygu perthnasoedd gyda cherddorfeydd ac ensembles pwysig ym mhedwar ban byd, gan gynnwys y Royal Northern Sinfonia, lle daeth yn Brif Arweinydd Gwadd y tymor hwn.
Yn ystod tymor 2024/25, bydd yn arwain am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Radio’r Ffindir, Cerddorfeydd Ffilharmonig y BBC, yr Arctig a Borusan Istanbul, yn ogystal â cherddorfeydd yn Aalborg, Tenerife, Baleares, Wuppertal a Bochum. Bydd yn perfformio ddwywaith gyda’r Royal Northern Sinfonia ac yn dychwelyd i Gerddorfa Siambr Stuttgart ar gyfer cyngherddau yn y Musikverein yn Vienna ac yn Bregenz, yn ogystal â’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfeydd Symffoni’r BBC, Hamburg a Helsingborg, Deutsche Kammerphilharmonie Bremen, a Real Filharmonía de Galicia.
Y tymor diwethaf, fe arweiniodd am y tro cyntaf gyda’r Konzerthausorchester Berlin, Cerddorfeydd Symffoni’r BBC Hiroshima a Lahti, Cerddorfeydd Ffilharmonig Nagoya, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol ac Opera Brenhinol Sweden (ar gyfer cynhyrchiad newydd o Don Giovanni), ymhlith eraill. Ymddangosodd ym Mhroms y BBC a Gŵyl Schleswig-Holstein am y tro cynaf a dychwelodd i Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, y Royal Northern Sinfonia ac Opera Stuttgart.
Mae hi’n cyfuno ei chysylltiad cryf â’r repertoire Glasurol a Rhamantaidd cynnar â’i diddordeb arbennig mewn cyfansoddwyr Twrcaidd ac Eidalaidd. Mae’n parhau i ennill ei phlwyf mewn tai opera, ar ôl arwain operâu sy’n amrywio o Così fan tutte gan Mozart i The Lighthouse gan Peter Maxwell Davies.
Astudiodd Nil Venditti arwain yn y Zürcher Hochschule der Künste o dan arweiniad Johannes Schlaefli, ac yn Academi Arwain Gŵyl Pärnu dan Paavo Järvi, Neeme Järvi a Leonid Grin. Yn yr Eidal, astudiodd y soddgrwth gyda Francesco Pepicelli.
Niamh O’Sullivanmezzo-soprano
Marshall Light Studio
Marshall Light Studio
Mae’r mezzo soprano o IwerddonNiamh O’Sullivan yn Artist y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3 ar hyn o bryd (2023-25) ac yn gyn-aelod o’r Bayerische Staatsoper.
Y tymor hwn mae hi’n ymddangos am y tro cyntaf mewn cyfres o dai opera ac yn camu i rolau am y tro cyntaf, gan gynnwys ei hymddangosiad cyntaf fel Ino (Semele) ar gyfer y Théâtre des Champs-Élysées, Olga (Eugene Onegin) gyda Chwmni Opera Canada, ac fel Ursule (Béatrice et Bénédict) a Maddalena (Rigoletto) gydag Opera Cenedlaethol Iwerddon.
Fel Artist Cenhedlaeth Newydd, mae’n rhoi datganiadau yn Neuadd Wigmore gyda’r pianydd Gary Beecher ac yn St George’s ym Mryste, ochr yn ochr â’i gwaith datganiadau yn y DU ac yn Iwerddon.
Y tymor diwethaf chwaraeodd ran Wellgunde am y tro cyntaf mewn cynhyrchiad newydd o Das Rheingold gan Barrie Kosky yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden; ac fe ganodd ran Wellgunde yn Das Rheingold a Götterdämmerung, a rhan Mercédès (Carmen) gydag Opera Zurich, yn ogystal â chamu i’r brif ran yn La tragédie de Carmen am y tro cyntaf yng Ngŵyl Buxton.
Mewn cyngherddau, mae hi wedi perfformio Sea Pictures gan Elgar yn y Prinzregententheater yng Ngŵyl Munich, Requiem Mozart a’r Meseia gan Handel gyda’r Müncher Hofkantorei, rôl Cain (Il primo omicidio gan Scarlatti) gyda Cherddorfa Jakobsplatz , The Universal Applause of Mount Parnassus gan Kusser yn Neuadd Wigmore gydag Ensemble Marsyas, y Meseia gyda Cherddorfa Ulster, rhan yr Ail Butain (Solomon gan Handel) gyda The English Concert, a Symffoni Rhif 2 Mahler gyda Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Iwerddon o dan arweiniad Anja Bihlmaier.
Fel aelod o’r Opera Studio yn y Bayerische Staatsoper rhwng 2016 a 2018, roedd ei repertoire yn cynnwys gweithiau gan Humperdinck, Puccini, Menotti a Verdi, ymhlith eraill.
Astudiodd Niamh O’Sullivan yn Academi Gerdd Frenhinol Iwerddon yn Nulyn a chymerodd ran yn Academi Gŵyl Aix-en-Provence yn 2023.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae'r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth.
Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei brosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Children in Need.
Yn eu cartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf
Martin Gwilym-Jones blaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Alejandro Trigo
Anna Cleworth
Žanete Uškāne
Ruth Heney
Zhivko Georgiev
Gary George-Veale
Anna Szabo
Grace Shepherd
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirstie Lovie
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines
Beverley Westcott
Liz Whittam
Fiolâu
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Anna Growns
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Lowri Thomas
Lydia Abell
Soddgrythau
Jessica Burroughs ‡
Gabriel Waite
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Basau Dwbl
Alexander Jones #
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Evangeline Tang
Ffliwtiau/Piccoli
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis
Oboau
Steve Hudson *
Sam Willsmore
Amy McKean †
Cor anglais
Amy McKean †
Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Lenny Sayers
Clarinét Bas
Lenny Sayers
Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Ruth Rosales
Chris Vale
Isfasŵn
Chris Vale
Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Jack Sewter
John Davy
Utgyrn
Corey Morris †
Robert Samuel
Sian Davis
Trombonau
Dafydd Thomas
Huw Evans
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Adrian Bending
Offerynnau Taro
Phil Girling
Phil Hughes
Rhydian Griffiths
Y Delyn
Bethan Semmens
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa swydd wag
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy **
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications



