Nodau o Gariad

Nos Iau 29/5/25, 7.00pm

Symphony Hall, Birmingham

Nos Wener 30/5/25, 7.30pm

Neuadd Brangwyn, Abertawe

Béla Bartók Concerto Rhif 1 i’r Ffidil 21’

EGWYL: 20 munud

Gustav Mahler Symffoni Rhif 5 yn C llonnod leiaf 68’

Ryan Bancroft arweinydd
James Ehnes ffidil

Caiff y cyngerdd yn Birmingham ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn Classical Live yn y dyfodol; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu trwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Croeso i’n cyngerdd heno, a chroeso’n ôl i’n Prif Arweinydd Ryan Bancroft gyda rhaglen sy’n canolbwyntio ar thema serch – mewn dau waith sy’n archwilio ei boen a’i lawenydd.

Ysgrifennodd Bartók ei Goncerto Cyntaf i’r Ffidil ar gyfer feiolinydd ifanc – Steffi Geyer – roedd wedi syrthio mewn cariad â hi ar ôl dod ar ei thraws yn Academi Franz Liszt yn Budapest. Yn anffodus, doedd Geyer ddim yn rhannu ei deimladau a wnaeth hi erioed berfformio’i goncerto, a dim ond ar ôl iddi farw y daeth y gwaith i’r fei. Heno rydym yn falch iawn o groesawu’r feiolinydd disglair James Ehnes yn ôl fel unawdydd.

Mae Pumed Symffoni Mahler yn dyddio o gyfnod o gythrwfl ym mywyd y cyfansoddwr: wedi gwella ar ôl salwch difrifol roedd wedi ymddiswyddo fel arweinydd cerddorfa Ffilharmonig Fienna, ac wedi syrthio mewn cariad â’r wraig y byddai’n ei phriodi – Alma Schindler. Mae rhai’n gweld symudiad araf y Bumed Symffoni (yr Adagietto enwog) fel llythyr caru iddi hi; beth bynnag yw ei ystyr, mae’n fôr o brydferthwch mewn gwaith sy’n ingol ac yn llawn gofid ar y dechrau, cyn i’r gwewyr ddiflannu o’r diwedd yn y symudiad olaf ysgubol.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Béla Bartók (1881–1945)

Concerto Rhif 1 i’r Ffidil (1907–8)

1 Andante sostenuto
2 Allegro giocoso

James Ehnesffidil

Mae wedi dod yn dipyn o ystrydeb wrth ysgrifennu am gerddoriaeth – a hynny’n aml heb fod yn hollol gywir – i ddisgrifio rhai darnau fel ‘llythyrau caru’ gan gyfansoddwyr i eraill yn eu bywydau. Ond yn achos Concerto cyntaf Bartók i’r Ffidil, mae’r disgrifiad hwnnw’n gwbl addas a haeddiannol.

Yn 26 mlwydd oed penodwyd Bartók yn athro piano yn Academi Gerdd Franz Liszt yn Budapest ym 1907 (lle byddai’n parhau’n athro tan 1934). Dyna ble y daeth ar draws y fyfyrwraig ffidil Stefi Geyer am y tro cyntaf, ac yn fuan iawn roedd wedi datblygu teimladau angerddol tuag ati; cymaint felly, â dweud y gwir, nes iddo gyfansoddi Concerto Ffidil cyfan – sef y gwaith a glywn ni heno – yn arbennig iddi hi. Disgrifiodd ei gariad tuag ati fel ‘math o opiwm’ oedd yn tanio’i greadigrwydd cerddorol, ‘hyd yn oed os ydyw’n arteithiol, gwenwynig a pheryglus’.

Yn anarferol i goncerto, dau symudiad sydd i’r darn, yn wahanol i gynllun gwreiddiol Bartók. Yn ddiweddarach, byddai’n dweud bod ei symudiad agoriadol telynegol ysgafn yn portreadu ‘Stefi ddelfrydol, yn nefolaidd a thyner’. Mae’r ffidil unigol yn dechrau ar ei phen ei hun, yn canu thema esgynnol o bedwar nodyn swynol a oedd, yn ôl Bartók, yn cynrychioli Geyer ei hun. Mae’r pedwar nodyn hynny a glywir wedyn yn llinellau agoriadol y llinynnau mor hollbresennol fel ei bod yn hawdd dirnad dyhead obsesiynol Bartók amdani. Tua diwedd y symudiad, hefyd, mae’r unawdydd yn canu fersiwn ecstatig o syniad melodig Geyer mewn cywair uchel, ac wrth gloi’r symudiad ailadroddir yr un thema dro ar ôl tro.

Mae’r naws yn newid yn gyfan gwbl, fodd bynnag, gydag ail symudiad afieithus, chwareus Bartók. ‘Siriol, ffraeth a difyr’ oedd disgrifiad y cyfansoddwr o’r symudiad, tra bod Geyer yn ei weld fel ‘teyrnged i’r feiolinydd yr oedd yn ei edmygu’. Mae pob cyfle yma i’r unawdydd ddangos ei sgiliau yn ysgrifennu tanllyd, allblyg y symudiad, er bod cyfle i synfyfyrio mewn adran arafach, fwy angerddol (wedi’i hadeiladu o amgylch motiff Geyer wedi’i droi wyneb i waered) cyn i’r concerto ddirwyn i ben yn llawn hwyl ac asbri.

Yn wreiddiol roedd Bartók wedi bwriadu cynnwys trydydd symudiad, a fyddai, meddai, yn darlunio Geyer fel un ‘ddifater, dideimlad a di-ddweud’, ond rhoddodd y gorau i’r syniad ‘cas’ hwn wedyn. Ond mae hyd yn oed hynny’n dangos efallai nad oedd popeth yn dda rhwng y ddau gerddor ifanc. Derbyniodd Geyer y concerto gan Bartók, ond wnaeth hi erioed ei chwarae, ac yn fuan wedyn fe dorrodd hi gysylltiad â’r cyfansoddwr. Byddai’r llawysgrif yn aros heb ei darganfod ymhlith pethau Geyer nes roedd hi a Bartók wedi marw, a chafodd ei adael yn ei hewyllys i’r arweinydd a’r dyngarwr o’r Swistir Paul Sacher, a drefnodd ei première hwyr ym mis Mai 1958 yn Basel. Erbyn hynny, roedd Concerto ‘arall’ Bartók i’r Ffidil, a ysgrifennwyd ym 1937–8, wedi sefydlu’i hun yn y repertoire, ac roedd ambell academydd a pherfformiwr yn anhapus braidd o orfod galw hwnnw’n Rhif 2. Serch hynny, yn y Rhif 1 newydd datgelwyd Bartók iau, mwy emosiynol ramantus a cherddorol Ramantaidd.

Nodyn y rhaglen © David Kettle

EGWYL: 20 munud

Gustav Mahler (1860–1911)

Symffoni Rhif 5 yn C llonnod leiaf(1901–2)

Rhan I
1 Trauermarsch [Ymdeithgan Angladdol]: In gemessenem Schritt. Streng. Wie ein Kondukt [Mewn camau pwyllog. Caeth. Fel gorymdaith]
2 Stürmisch bewegt. Mit grösster Vehemenz [Stormus. Gyda’r ffyrnigrwydd mwyaf]

Rhan II
3 Scherzo: Kräftig, nicht zu schnell [Egnïol, ddim yn rhy gyflym]

Rhan III
4 Adagietto: Sehr langsam [Araf iawn]
5 Rondo-Finale: Allegro – Allegro giocoso

Cyfansoddwyd y Bumed Symffoni ar un o’r adegau hapusaf ym mywyd Mahler. Ychydig fisoedd ynghynt roedd wedi cwrdd ag Alma Schindler ac wedi syrthio mewn cariad â hi, gan ofyn iddi hi ei briodi yn hydref 1901, a hwythau’n dod yn ŵr a gwraig ym mis Mawrth 1902. Er na adawodd unrhyw arwydd o raglen ar gyfer y Bumed Symffoni, mae ei thaith o bruddglwyf i orfoledd fel petai’n adlewyrchu darganfyddiad Mahler ei hun o hapusrwydd.

Mae pum symudiad y symffoni wedi’u grwpio’n dair rhan, y gyntaf yn agor gydag un o’r gorymdeithiau angladdol tywyllaf a ysgrifennodd erioed – ond mae gobaith hyd yn oed yma, gyda motiff o ddyheu sy’n ymddangos ar yr union bwynt lle mae’r symudiad yn ymddangos ar drothwy anobaith. A thra bod yr ail symudiad stormus yr un mor ffyrnig ag yr oedd y symudiad cyntaf yn ddigalon, dim ond paratoad yw hyn i gyd mewn gwirionedd ar gyfer symudiad hiraf y symffoni, y Scherzo canolog afieithus sy’n darlunio ‘bod dynol, gefn dydd golau, ym mlodau ei ddyddiau’. Ar ôl clywed y Scherzo caiff ein canfyddiad o’r ddau symudiad blaenorol ei drawsnewid: yn sydyn, mae’r rhain yn peidio â bod yn fynegiant o alar ac yn dod yn gofebion i fywyd sydd bellach yn y gorffennol – dyma Mahler yn canu’n iach i’w fywyd blaenorol. Mae’r diweddglo’n cadarnhau hyn, gan gyrraedd ei gartref newydd disglair yn D fwyaf o’r diwedd, wedi’r dechrau yn nyfnderoedd C♯ leiaf. Ac wrth i’r symudiad heulog hwn dynnu at ei derfyn, mae corâl pres trymaidd a fethodd â’n cyffroi yn wreiddiol yn yr ail symudiad yn dychwelyd unwaith eto, wedi’i adnewyddu a’i adfywio, i ddod â’r symffoni i ben yn orfoleddus.

Mae’r ffaith i Mahler ddewis dychwelyd at gerddoriaeth offerynnol ‘bur’ yn y symffoni hon – ar ôl cynnwys elfen leisiol yn ei Ail, ei Drydedd a’i Bedwaredd – yn awgrymu mai ei fwriad oedd creu toriad cerddorol glân iddo’i hun. Mae caniad yr utgorn unig sy’n agor y symffoni hefyd fel petai’n cyhoeddi bod oes newydd yn gwawrio. Ond mae’r realiti’n fwy cynnil fyth. Er bod Mahler yn hepgor y llais ei hun o sgôr y Bumed Symffoni, mae agosrwydd cân wedi’i gadw o fewn y gwead cerddorfaol.

Mae hyn i’w deimlo’n arbennig o gryf yn yr Adagietto, symudiad araf hamddenol y Bumed Symffoni, a ysgrifennwyd, mae’n debyg, fel cân serch onest i’w wraig newydd, Alma. Mae wedi’i farcio’n Sehr langsam (‘Araf iawn’) ac yn y bôn mae’n datblygu mewn un rhychwant sy’n para tua deng munud, mewn cyferbyniad dramatig ag afiaith y Scherzo blaenorol ac mewn man llawer mwy tyner o fyfyrdod tawel a symlrwydd mwyn. Er nad oes llais na thestun yn y sgôr, dywedodd Alma Mahler yn ddiweddarach mewn llythyr at yr arweinydd Willem Mengelberg fod y symudiad wedi’i ysbrydoli gan gerdd a adawodd Mahler iddi: ‘Cymaint y’th garaf di, tydi fy heulwen, ni allaf ddweud hynny wrthyt â geiriau. Ni allaf ond canu iti fy hiraeth a’m serch.’ Pan gopïodd Mengelberg y gerdd i’r sgôr, roedd y geiriau’n cyd-fynd yn argyhoeddiadol â’r alaw. Felly mae ‘cân heb eiriau’ Mahler mewn gwirionedd yn ‘gân gyda geiriau’, yn un lle mae’r teimlad mor uniongyrchol ac mor dyner fel bod y gerddorfa yn cario’i hystyr gyda mwy o fynegiant nag y gallai llais byth obeithio ei wneud.

Nodyn y rhaglen © Jo Kirkbride

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant … 

Caneuon Tynged

Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain

Nos Wener 20/6/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Brahms Serenâd Rhif 2
Brahms Schicksalslied
Stravinsky Symffoni’r Salmau 

Ryan Bancroft arweinydd
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

CELFYDD | TANBAID | DARLUNIADOL

Os bwriadwyd serenadau yn hanesyddol fel cerddoriaeth ar gyfer adloniant, yna mae Brahms yn sicr wedi rhagori yn ei Serenâd Rhif 2. Mae’r gwaith cynnar hwn yn llawn cymeriad Brahms o’r cychwyn cyntaf gyda’i gynhesrwydd ysgafn, ei rythmau croes bywiog, a’i alawon toreithiog i swyno unrhyw wrandäwr.

Yr un mor nodweddiadol, ond yn fwy pruddglwyfus ei natur, y mae gosodiad llesmeiriol Brahms o’r gerdd Schicksalslied gan Friedrich Hölderlin. Mewn dau bennill sy’n cyferbynnu bywydau’r tragwyddol ddedwydd â’r rhai sy’n dioddef ffawd greulon, mae Brahms yn symud rhwng yr ysgafn a’r didaro yn erbyn y tymhestlog. I’r gwrthwyneb, mae Stravinsky yn Symffoni’r Salmau yn defnyddio dulliau sy’n adleisio’r siant Gregoraidd traddodiadol, ynghyd ag ysgrifennu ffiwgaidd a motiffau dawns ecstatig i bortreadu testun y salmau...dyma waith o athrylith pur! I arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn eu cyngerdd olaf yn ystod tymor Caerdydd, mae’n bleser gennym groesawu’r Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, yn ôl.

Cyngherddau Amser Cinio Lesley

Dydd Iau 3/7/25, 2.00pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Dydd Gwener 4/7/25, 2.00pm
Eglwys Gadeiriol Casnewydd

Haydn SymffoniRhif 64
Caroline Shaw Punctum
Dvořák Serenâd i'r Llinynnau

Lesley Hatfield cyfarwyddwr/ffidil

Ymunwch â ni yng Nghasnewydd a Chaerdydd yr haf hwn am ein cyngherddau amser cinio arbennig a gyflwynir gan brif feiolinydd Cerddorfa Gymreig y BBC, Lesley Hatfield, gan gychwyn gydag un o gampweithiau Sturm und Drang Haydn, ei Symffoni Rhif 64.

Mae Caroline Shaw wedi disgrifio Punctum fel ‘ymarfer mewn nostalgia’: mae’n cymryd ei ysbrydoliaeth gerddorol o Ddioddefaint Sant Matthewgan J. S. Bach, ond gyda’i dilyniannau harmonig wedi’u gwyro allan o siâp, i greu palet synhwyraidd o Glasuriaeth heb ffurf. I gloi, cawn fwynhau Serenâd i’r Llinynnau gan Dvořák, gwaith sydd yn ei dro’n felodaidd, yn smala ac yn llawn hwyl.

Bywgraffiadau

Ryan Bancroftarweinydd

Benjamin Ealovega

Benjamin Ealovega

Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018, pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, bu’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf i weithio gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yn Artist Cyswllt yno o dymor 2021/22 ymlaen. Ym mis Medi 2023, daeth yn Brif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm.

Ar ôl dechrau ar ei gyfnod fel Prif Arweinydd yn Stockholm gyda pherfformiad cyntaf y gerddorfa o The High Mass gan Sven-David Sandström, mae ei ail dymor yn cynnwys perfformiadau o symffonïau gan Mahler a Bruckner, ochr yn ochr â’r perfformiadau cyntaf yn y byd o weithiau gan Chrichan Larson a Zacharias Wolfe, a chydweithrediadau gydag unawdwyr enwog gan gynnwys Leif Ove Andsnes, Maxim Vengerov a Vikingur Ólafsson.

Y tymor hwn, bydd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Radio Boston a’r Ffindir, Deutsches Symphonie-Orchester Berlin yn y Berlin Philharmonie a’r WDR Symphonieorchester yn Cologne.

Mae’n frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble, Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, John Cage, James Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio’n agos gyda cherddorion byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden.

Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd. 

James Ehnes ffidil

Benjamin Ealovega

Benjamin Ealovega

Mae James Ehnes wedi sefydlu ei hun fel un o’r cerddorion mwyaf poblogaidd ar y llwyfan rhyngwladol. Wedi’i fendithio â chyfuniad prin o feistrolaeth diymdrech, telynegiaeth dawel, a dealltwriaeth gerddorol ddi-ffael, mae’n bresenoldeb rheolaidd yn neuaddau cyngerdd enwocaf y byd.

Ymhlith ei uchafbwyntiau cerddorfaol diweddar mae cyngherddau gyda’r Gerddorfa Concertgebouw Frenhinol, Cerddorfa Tonhalle Zurich, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Cerddorfeydd Symffoni Boston, Chicago ac NHK a Cherddorfa Cleveland. Y tymor hwn mae’n Artist Preswyl gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne ac mae hefyd yn teithio i Asia, i berfformio set gyflawn sonatas ffidil Beethoven yn Neuadd Kioi, Tokyo, ac i ymddangos hefyd gyda Cherddorfa Ffilharmonig Hong Kong a Cherddorfa Symffoni Singapore.

Yn ogystal â’i waith concerto, mae’n cadw’n brysur yn perfformio datganiadau. Fe’i gwelir yn rheolaidd yn Neuadd Wigmore, Neuadd Carnegie, Canolfan Symffoni Chicago, Concertgebouw Amsterdam ac yng ngwyliau Ravinia, Montreux, Verbier, Dresden ac Aix-en-Provence. Mae’n gerddor siambr brwd hefyd: mae’n arweinydd yr Ehnes Quartet ac yn Gyfarwyddwr Artistig Cymdeithas Cerddoriaeth Siambr Seattle.

Mae ei waith recordio helaeth wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys dwy Grammy, tair Gwobr Gramophone a 12 Gwobr Juno. Yn 2021 cafodd ei enwi’n Artist y Flwyddyn gan Gramophone, i ddathlu ei gyfraniadau diweddar i’r diwydiant recordio, gan gynnwys lansio cyfres o ddatganiadau ar-lein dan y teitl ‘Recitals from Home’ a ryddhawyd ym Mehefin 2020 mewn ymateb i’r pandemig COVID-19 a arweiniodd at gau neuaddau cyngerdd. Recordiodd Sonatas a Partitas Bach a Chwe Sonata Ysaÿe o’i gartref gydag offer recordio o’r radd flaenaf, gan ryddhau chwe rhaglen dros gyfnod o ddau fis.

Dechreuodd astudio’r ffidil yn bump oed, a phan oedd yn naw daeth yn ddisgybl i’r feiolinydd nodedig o Ganada, Francis Chaplin, cyn gwneud ei ymddangosiad cerddorfaol cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Montreal yn 13 oed. Parhaodd ei astudiaethau gyda Sally Thomas yn Ysgol Gerdd Meadowmount ac Ysgol Juilliard, gan ennill Gwobr Peter Mennin pan raddiodd ym 1997. Mae’n Aelod o Urdd Canada ac Urdd Manitoba, yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Canada, ac yn gymrawd anrhydeddus yr Academi Gerdd Frenhinol, lle mae’n athro gwadd. Yr haf diwethaf cafodd ei benodi’n athro ffidil yn Ysgol Gerdd Jacobs ym Mhrifysgol Indiana.

Mae James Ehnes yn chwarae’r Stradivarius ‘Marsick’ o 1715.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Shana Douglas
Terry Porteus
Ruth Heney
Anna Cleworth
Emilie Godden
Kerry Gordon-Smith
Žanete Uškāne
Carmel Barber
Alejandro Trigo
Jane Sinclair
Amy Fletcher

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ros Butler
Sheila Smith
Roussanka Karatchivieva
Katherine Miller
Beverley Wescott
Michael Topping
Ilze Abola
Joseph Williams
Lydia Caines **
Vickie Ringguth
Elizabeth Whittam

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Laura Sinnerton
Catherine Palmer
Anna Growns
Lydia Abell
Robert Gibbons
Lowri Taffinder

Soddgrythau
Jonathan Ayling ‡
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Alistair Howes
Rachel Ford
Keith Hewitt
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Christopher Wescott
Emma Prince
Fabien Galeana
Georgia Lloyd
Antonia Bakewell
Callum Duggan

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis
Elizabeth May

Piccoli
Lindsey Ellis †
Elizabeth May

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Patrick Flanaghan

Cor Anglais
Patrick Flanaghan

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Will White
Lenny Sayers

Clarinét Bas
Lenny Sayers †

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Antonia Lazenby
David Buckland 

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe
Meilyr Hughes
John Davy
Tom Taffinder
Dave Ransom
Michael Gibbs
Ed Griffiths

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †
Tim Barber
Will Morley

Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Adrian Miotti

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro 
Scott Lumsdaine
Phil Girling
Andrea Porter
Rhydian Griffiths

Telynau
Elen Hydref
Emily Harris

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Daniel Williams
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol swydd wag

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications