Diwygiad a Bywiocâd

Nos Iau 15/5/25, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Wolfgang Amadeus Mozart Priodas Figaro – agorawd 4’

Jörg Widmann Concerto Rhif 2 i’r Ffidil Première y DU 35’

EGWYL: 20 munud

Felix Mendelssohn Symffoni Rhif 5 yn D fwyaf, ‘Diwygiad’ 27’

Jörg Widmann arweinydd
Carolin Widmann ffidil

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Caiff y cyngerdd hwn ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn Classical Live yn y dyfodol, a’i ffrydio’n fyw trwy wefan BBC NOW; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu trwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ganfod podlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Croeso i’n cyngerdd heno, lle rydym yn falch iawn o groesawu Jörg Widmann, fydd yn arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC am y tro cyntaf.

Mae’n bresennol heno fel cyfansoddwr hefyd: dyma berfformiad cyntaf ei Ail Goncerto i’r Ffidil yn y Deyrnas Unedig. Mae’n waith hynod bersonol, wedi’i ysgrifennu i’w chwaer, Carolin Widmann, sydd wedi ennill clod mawr ac sy’n perfformio i ni heno.

Dyna ganolbwynt rhaglen sy’n dechrau’n llawn cynnwrf gydag agorawd gogoneddus Mozart i Briodas Figaro, y gyntaf o’i drioleg fawr o operâu i libretos gan Lorenzo da Ponte.

Gorffennwn y noson gyda Symffoni ‘Diwygiad’ Mendelssohn, gwaith a ysgrifennwyd i nodi trichanmlwyddiant sefydlu Protestaniaeth yr Almaen, lle mae’n cyfuno’r cysegredig a’r seciwlar yn ddiymdrech. Mae’n waith hudolus.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Wolfgang Amadeus Mozart (1756–91)

Priodas Figaro (1785–6) – agorawd

Fyddai Mozart ddim wedi’i synnu o glywed un o’i agorawdau opera’n cael ei berfformio mewn cyngerdd cerddorfaol. Yn y rhan fwyaf o operâu Eidalaidd yr oes honno, unig swyddogaeth agorawd oedd tynnu’r sylw, nodyn atgoffa annibynnol fod yr opera ar fin dechrau yn hytrach na phrolog yn cynnwys rhagair i’r ddrama ddilynol. Mor ddiweddar â 1816, roedd yr agorawd i Barbwr Seville gan Rossinieisoes wedi cael ei ddefnyddio ddwywaith, a hynny mewn un achos i agor drama lawer mwy difrifol am Elizabeth I ac Iarll Caerlŷr. Ddylai hyn ddim poeni’r gwrandäwr modern fwy nag y gwnaeth i gynulleidfaoedd y cyfnod; mae llawer o’r gweithiau hyn yn ddarnau cyngerdd ardderchog yn eu rhinwedd eu hunain, ac mae’r ffaith bod llawer o gyngherddau heddiw yn dechrau gydag agorawd opera yn dystiolaeth bod eu swyddogaeth wreiddiol, i raddau, yn parhau. 

Nid eithriad yn hyn o beth yw’r agorawd i Briodas Figaro – y cyntaf o dri champwaith comig Mozart i libreto gan Lorenzo da Ponte. Mae’r opera, sy’n seiliedig ar ddrama ddadleuol wrth-aristocrataidd Beaumarchais, yn dangos gweision uchelwr yn tanseilio’i ymdrechion i ymarfer ei droit du seigneur. Ceir awgrym o’r cynllwynion sydd i ddilyn yn agoriad anarferol yr agorawd, efallai, ond y cyfan sy’n berthnasol inni yma mewn gwirionedd yw’r ymchwydd cyffrous o egni sy’n llenwi’r darn bach hwn, hyd at y crescendo hir sy’n cloi’r gwaith.

Nodyn y rhaglen © Lindsay Kemp

Jörg Widmann (ganed 1973)

Concerto Rhif 2 i’r Ffidil
(2018)

Première y DU

1 Una ricerca
2 Romanze
3 Mobile

Carolin Widmannffidil

Mae’r concerto i’r ffidil yn genre ‘sanctaidd’, sy’n wahoddiad i fynegi teimladau personol iawn. Mae hyn yn arbennig o wir am hwn, a gyflwynaf i’m chwaer, Carolin. Ynddo, daw offeryn canu’r ffidil yn llestr i gyfleu’r ystod ehangaf o emosiynau dynol.

Chwiliad yw’r symudiad cyntaf, ‘Una ricerca’ – chwiliad y ffidil amdani ei hun, am ei llais ei hun. Mae’n chwiliad am synau, arwyddion, siapiau a chysylltiadau. Dim ond yn ysbeidiol y cawn ymateb gan y gerddorfa, ond daw hynny drwy synau a ffigurau fydd yn dod yn flaenllaw yn y symudiadau dilynol. Mae’r symudiad cyntaf hwn, sy’n para rhyw bum munud, cyn fyrred – neu mor gryno – â’r olaf, ‘Mobile’. Yn hwnnw, caiff patrymau o’r symudiadau blaenorol eu gyrru i gyflwr o symud cyflym di-baid a’u gwthio i’w terfynau. Mae’r naws gyffredinol, serch hynny, yn parhau’n ysgafn bron drwyddi draw.

Teitl y symudiad canol, a’r hiraf o bell ffordd, yw ‘Romanze’. Yma, datblygir cosmos emosiynol eang – taith i’r hunan mewnol, gan groesi amrywiaeth o fydoedd emosiynol: ceir eiliadau telynegol, sensitif ochr yn ochr â gweadau trymach a hyrddiau ffrwydrol, caled. Ond trwy’r cyfan, y ffidil sy’n dal i adrodd y stori.

Yn gyfansoddiadol, mae amrywiadau cyson, chwareus yn nodweddu pob un o dri symudiad y concerto. Er cyfoeth y sain a’r lliw, mae cyfyngiadau tyn yn y bôn ar y deunydd cyweiraidd a’r eirfa arwyddol. Mae’r dyfeisiad ei hun – y lliwiau tôn, yr harmonïau – wedi bod yn rhan o fy iaith gerddorol erioed. Ond mae’r ffocws ar grynhoad a ffurf yn rhywbeth newydd, sy’n deillio, mae’n debyg, o’r gwaith hwn, sef yr ail waith i mi ymwneud â genre y concerto i’r ffidil.

Nodyn y rhaglen © Jörg Widmann

EGWYL: 20 munud

Felix Mendelssohn (1809–47)

Symffoni Rhif 5 yn D fwyaf, ‘Diwygiad’(1829–30)

1 Andante – Allegro con fuoco
2 Allegro vivace
3 Andante
4 Andante con moto

Roedd Felix Mendelssohn, ŵyr yr athronydd Iddewig enwog Moses Mendelssohn, yn Lutheriad mewn gair a gweithred. Penderfynodd ei rieni, Abraham a Leah Mendelssohn, roi bedydd Cristnogol i’w mab pan oedd yn saith oed – rai blynyddoedd, yn wir, cyn iddyn nhw eu hunain droi at y ffydd yn 1822. Pan gawsant eu bedyddio eu hunain, fe ychwanegon nhw ‘Bartholdy’ at gyfenw’r teulu. Nid enw crand oedd hwn o bell ffordd: fe’i cymerwyd o enw fferm a oedd yn eiddo i ewythr Felix. Ond roedd yn help i ddangos pellter oddi wrth eu gwreiddiau Iddewig. ‘All Mendelssohn Cristnogol ddim bodoli, ddim mwy nag y gall Confucius Iddewig!’, meddai Abraham yn gofiadwy. Roedd o hyd yn oed yn awyddus i Felix ollwng y ‘Mendelssohn’ o’i gyfenw’n gyfan gwbl, ond gwrthod wnaeth ei fab. Doedd Felix ddim yn gweld dim gwrthdaro rhwng cydnabod ei dras Iddewig ac ymroi i’r ffydd Gristnogol.

O ystyried hyn, does dim rhyfedd i Mendelssohn gael ei ysbrydoli i ysgrifennu Symffoni’r ‘Diwygiad’ i ddathlu trichanmlwyddiant un o ddogfennau sylfaenol Protestaniaeth yr Almaen, ‘Cyffes Augsburg’ 1530. Roedd wedi dechrau gweithio ar y darn ym 1829 – yr un flwyddyn â’i adfywiad arloesol o waith Protestannaidd Bach, Y Dioddefaint yn ôl Sant Mathew – yn y gobaith y câi ei berfformio am y tro cyntaf yn ystod dathliadau ym Merlin y flwyddyn ganlynol. Ond araf oedd y gwaith yn dod yn ei flaen, a methodd Mendelssohn y dyddiad cau. Heb ddigalonni, bwriodd ymlaen – a daeth diweddglo’r symudiad olaf iddo yng Nghymru, yn lleoliad annhebygol gwaith plwm y Coed Du yn Rhydymwyn. Perfformiwyd y symffoni am y tro cyntaf ym 1832, ond ni chafodd ei chyhoeddi tan 1868, dan y teitl anghywir Symffoni Rhif 5. Byddai’n gywirach ei henwi’n Rhif 2 (neu hyd yn oed Rif 14, os am gyfrif llu o symffonïau cynnar oedd heb eu cyhoeddi bryd hynny). Fu’r cyfansoddwr erioed yn fodlon â hi, gan haeru mai ‘gwaith hogyn anaeddfed’ oedd yma, ond mae hynny’n ddedfryd annheg braidd.

Efallai fod rhesymau eraill dros amharodrwydd Mendelssohn i gyhoeddi’r symffoni. Roedd y cyfansoddwr eithafol-ofalus yn aml yn anhapus â’i gerddoriaeth ei hun, ond yn yr achos hwn hwyrach bod y defnydd helaeth o gorâl Martin Luther ‘Eine feste Burg ist unser Gott’ (Caer nerthol yw ein Duw) yn symudiad olaf buddugoliaethus y symffoni yn ffactor ychwanegol. Doedd hynny ddim yn broblem ym 1832, ond ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach bu opera hynod ddylanwadol Meyerbeer, Les Huguenots (1836), yn llwyddiant ysgubol ym Mharis. Cafodd ei chynhyrchu yn syth yn yr Almaen hefyd, lle bu ei defnydd ‘cableddus’ o’r corâl yn destun dadlau ffyrnig. Cafwyd ymosodiadau arbennig o wenwynllyd ar y gwaith llwyfan honedig gableddus gan ffrind a chyd-gyfansoddwr Mendelssohn, Robert Schumann. Mewn amgylchiadau mor anghydnaws, hawdd deall pam y gallai Mendelssohn fod wedi dewis osgoi cyhoeddi symffoni oedd yn defnyddio’r un alaw yn union.

Nid y corâl yw’r unig alaw gysegredig y mae Mendelssohn yn ei defnyddio. Yng nghyflwyniad eglwysig araf y symffoni, clywn ‘Amen Dresden’ Johann Gottlieb Neumann (1741–1801), a gâi ei chanu’n aml bryd hynny mewn eglwysi ledled Sacsoni (mae’n fwy adnabyddus heddiw efallai fel y motiff y ‘Greal’ o Parsifal gan Wagner). Yn gyferbyniad i hyn cawn gerddoriaeth herfeiddiol o seciwlar mewn adran ymosodol egnïol Allegro con fuoco. Ond hyd yn oed yma, mae ‘Amen Dresden’ yn gwneud ailymddangosiad tawel ychydig cyn yr ailadroddiad.

Gall yr eneidiau mwyaf sychdduwiol orffwys yn dawel yng ngweddill y symffoni. Does dim cyfeiriadau crefyddol o gwbl yn nawns ysgafn yr ail symudiad Allegro vivace, nac yng nghân-heb-eiriau ddwys y trydydd – yn wir, fe allen nhw fod yn rhan o waith hollol wahanol. Tybed a oedd y diffyg ‘undod’ cysyniadol hwn yn rheswm arall dros amharodrwydd y cyfansoddwr i gyhoeddi? Bid a fo am hynny, waeth beth fo’u credoau crefyddol, a’u diddordeb neu ddiffyg diddordeb yng Nghyffes Augsburg, fe gaiff cynulleidfaoedd modern ddigon i’w fwynhau yn Symffoni’r ‘Diwygiad’.

Nodyn y rhaglen © Monika Hennemann

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant … 

Nodau Serch

Nos Iau 29/5/25, 7.00pm
Neuadd Symffoni, Birmingham

Nos Wener 30/5/25, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Bartók Concerto Rhif 1 i’r Ffidil
Mahler Symffoni Rhif 5

Ryan Bancroftarweinydd
James Ehnes ffidil

CYFAREDDOL | FFANSÏOL | HUDOLUS

Mae hanes hir o gyfansoddwyr yn ysgrifennu rhoddion cerddorol i’w cariadon, ac yng Nghyngerdd Cloi’r Tymor heno cawn glywed dau o’r goreuon.

Cariad heb ei ateb sydd yng Nghoncerto Bartók i’r Ffidil. Ysgrifennwyd y concerto hwn i’r feiolinydd gwych o Hwngari Stefi Geyer, testun awen Bartók, ac mae ei ddau symudiad yn rhoi darlun cerddorol o’i phersonoliaeth – ceir alawon galarus a neidiau ffansïol lu yn y gwaith rhapsodïaidd hynod bersonol hwn. I’w berfformio, bydd croeso mawr i’r feiolinydd byd-enwog James Ehnes yn ôl at Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Yn wahanol i Bartók, atebwyd serch Mahler, ac mewn arwydd o gariad at ei wraig newydd, Alma, mae ei Bumed Symffoni’n tanio â ffanfferau utgyrn, dawns a gorfoledd – heb sôn am y symudiad araf llesmeiriol, ei gân serch i’w anwylyd, yn ddi-os.

Caneuon Tynged

Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain

Nos Wener 20/6/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Brahms Serenâd Rhif 2
Brahms Schicksalslied
Stravinsky Symffoni’r Salmau 

Ryan Bancroft arweinydd
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

CELFYDD | TANBAID | DARLUNIADOL

Os bwriadwyd serenadau yn hanesyddol fel cerddoriaeth ar gyfer adloniant, yna mae Brahms yn sicr wedi rhagori yn ei Serenâd Rhif 2. Mae’r gwaith cynnar hwn yn llawn cymeriad Brahms o’r cychwyn cyntaf gyda’i gynhesrwydd ysgafn, ei rythmau croes bywiog, a’i alawon toreithiog i swyno unrhyw wrandäwr.

Yr un mor nodweddiadol, ond yn fwy pruddglwyfus ei natur, y mae gosodiad llesmeiriol Brahms o’r gerdd Schicksalslied gan Friedrich Hölderlin. Mewn dau bennill sy’n cyferbynnu bywydau’r tragwyddol ddedwydd â’r rhai sy’n dioddef ffawd greulon, mae Brahms yn symud rhwng yr ysgafn a’r didaro yn erbyn y tymhestlog. I’r gwrthwyneb, mae Stravinsky yn Symffoni’r Salmau yn defnyddio dulliau sy’n adleisio’r siant Gregoraidd traddodiadol, ynghyd ag ysgrifennu ffiwgaidd a motiffau dawns ecstatig i bortreadu testun y salmau...dyma waith o athrylith pur! I arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn eu cyngerdd olaf yn ystod tymor Caerdydd, mae’n bleser gennym groesawu’r Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, yn ôl.

Bywgraffiadau

Jörg Widmann arweinydd

Marco Borggreve

Marco Borggreve

Ystyrir bod Jörg Widmann yn un o artistiaid mwyaf amryddawn ei genhedlaeth. Y tymor hwn bydd yn ymddangos mewn sawl het, fel clarinetydd, arweinydd a chyfansoddwr, gan gynnwys ei ail dymor fel Prif Arweinydd Gwadd yr NDR Radiophilharmonie, Partner Creadigol Deutsche Radio Philharmonie, Partner Artistig Riga Sinfonietta ac Arweinydd Cyswllt Cerddorfa Siambr Munich.

Yn dilyn prosiectau arwain nodedig diweddar gyda cherddorfeydd fel Cerddorfa Ffilharmonig Berlin a Cherddorfa Symffoni Radio Bafaria, y tymor hwn mae’n ymddangos gyda Cherddorfa Ffilharmonig Seoul, Cerddorfa Symffoni Barcelona a Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Taiwan. Ymhlith uchafbwyntiau eraill mae preswyliad gyda Cherddorfa Symffoni Stavanger; y première Sbaeneg o’i waith Danse macabre, gan Gerddorfa Genedlaethol Sbaen o dan ei faton; a’i ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni NHK. Bydd hefyd yn dychwelyd i arwain Cerddorfa Symffoni Radio’r Ffindir, Cerddorfa Siambr Iwerddon ac Ensemble Cerddorfa Kanazawa, ymysg eraill.

Mae Jörg Widmann yn dal i weithio mewn partneriaethau cerddoriaeth siambr hirsefydlog hefyd gydag artistiaid enwog fel Antoine Tamestit, Syr András Schiff, Carolin Widmann, Sarah Aristidou, Nicolas Altstaedt, Dénes Várjon a’r Hagen Quartet, gan roi datganiadau cerddoriaeth siambr yn y Musikverein yn Fienna, Pierre Boulez Saal yn Berlin ac Alte Oper Frankfurt.

Caiff ei gyfansoddiadau eu perfformio’n rheolaidd gan arweinwyr amlwg gan gynnwys Daniel Barenboim, Daniel Harding, Kent Nagano, Franz Welser-Möst, Christian Thielemann, Iván Fischer, Andris Nelsons a Syr Simon Rattle, a chânt eu perfformiadau cyntaf gan ensembles fel cerddorfeydd Ffilharmonig Berlin, Efrog Newydd a Fienna, Cerddorfa Frenhinol Concertgebouw, Cerddorfa Cleveland, Orchestre de Paris a Cherddorfa Symffoni Llundain.

Astudiodd Jörg Widmann y clarinét gyda Gerd Starke ym Munich a Charles Neidich yn Ysgol Juilliard yn Efrog Newydd ac yn ddiweddarach daeth yn Athro Clarinét a Chyfansoddi, yn gyntaf ym Mhrifysgol Cerddoriaeth Freiburg ac, ers 2017, fel Athro Gadeirydd Cyfansoddi yn Academi Barenboim-Said Berlin. Yn 2024 cafodd ei enwi’n aelod o Academi Gerdd Frenhinol Sweden.

Astudiodd gyfansoddi gyda Kay Westermann, Wilfried Hiller, Hans Werner Henze a Wolfgang Rihm. Mae ei weithiau’n dal i dderbyn nifer o wobrau, yn fwyaf diweddar y Bach-Preis der Freien und Hansestadt Hamburg, yn ogystal â Musikpreis der Landeshauptstadt München.

Carolin Widmann ffidil

Lennard Ruehle

Lennard Ruehle

Mae gweithgareddau Carolin Widmann yn cwmpasu’r concertos clasurol mawr, comisiynau newydd a ysgrifennwyd yn arbennig ar ei chyfer, datganiadau unigol ac amrywiaeth eang o gerddoriaeth siambr a pherfformiadau ar offerynnau cyfnod.

Dyfarnwyd y Bayerischer Staatspreis am gerddoriaeth iddi yn 2017, ac enillodd ar gategori’r Concerto yn y Gwobrau Cerddoriaeth Glasurol Rhyngwladol am ei recordiad o goncertos ffidil Mendelssohn a Schumann gyda Cherddorfa Siambr Ewrop.

Mae hi wedi chwarae gyda cherddorfeydd Ffilharmonig Berlin, Tsiecia a Llundain, Orchestre de Paris, Orchestre National de France, cerddorfeydd Symffoni Bafaria, Sweden a Radio Fienna a Cherddorfa Symffoni y BBC, gan ymddangos gydag arweinwyr nodedig, gan gynnwys Syr Simon Rattle, Riccardo Chailly, Edward Gardner, Vladimir Jurowski, Sakari Oramo, Daniel Harding, François-Xavier Roth, Santtu-Matias Rouvali a Jukka-Pekka Saraste. Mae hi’n ymddangos hefyd mewn gwyliau blaenllaw, gan gynnwys Berlin, Salzburg, Lucerne, Caeredin, Gŵyl Wanwyn Prague, Pablo Casals a Gŵyl Hydref Paris, ymhlith eraill.

Ymhlith ei huchafbwyntiau diweddar cafwyd cyngherddau gyda cherddorfeydd Ffilharmonig Berlin, Los Angeles a Munich, cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm, Deutsches Symphonie-Orchester Berlin, Cerddorfa Siambr Iwerddon, yr Hallé, Cerddorfa Symffoni’r Iseldiroedd a cherddorfeydd Symffoni Radio Fienna a Dinas Birmingham.

Y tymor hwn bydd yn perfformio am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Denmarc, cerddorfeydd Ffilharmonig Helsinki a Seoul, Cerddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban a Cherddorfa Philadelphia. Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill mae perfformio Concerto Roberto Gerhard i’r Ffidil gyda Cherddorfa Symffoni Barcelona, rhaglen chwarae/cyfarwyddo wedi’i hysbrydoli gan Kurt Weill gyda Cherddorfa Siambr Paris, a theyrnged i Kaija Saariaho gyda Symphonieorchester SWR. Hi hefyd yw artist preswyl y Fondazione Arturo Toscanini am y tymor.

Ymhlith ei pherfformiadau cerddoriaeth siambr y tymor hwn mae dau ddatganiad yn y Pierre Boulez Saal yn Berlin; rhaglen pedwarawd gyda Nils Mönkemeyer, Julian Steckel a William Youn; prosiect ar gyfer ffidil ac offerynnau electronig; a dychwelyd i’r Alte Oper Frankfurt.

Mae Carolin Widmann yn chwarae ffidil G. B. Guadagnini o 1782, ar fenthyg gan ymddiriedolaeth elusennol.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Carmel Barber
Alejandro Trigo
Emilie Godden
Juan Gonzalez
Ruth Heney
Kerry Gordon-Smith
Anna Cleworth
Žanete Uškāne
Amy Fletcher
Emma Menzies

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ros Butler
Sheila Smith
Beverley Wescott
Vickie Ringguth
Katherine Miller
Lydia Caines **
Joseph Williams
Roussanka Karatchivieva
Michael Topping
Gary George-Veale
Elizabeth Whittam

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Lowri Taffinder
Lydia Abell
Anna Growns

Soddgrythau
Joely Koos ‡
Raphael Lang
Sandy Bartai
Alistair Howes
Keith Hewitt
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Kathryn Graham

Basau Dwbl
Alexander Jones #
Fabián Galeana
Christopher Wescott
Emma Prince
Yat Hei Lee
Georgina McGrath

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Flic Cowell

Cor anglais
Flic Cowell

Clarinetau
Fiona Cross
Lenny Sayers
Scott Lygate

Clarinét Bas
Lenny Sayers †

Clarinét Isfas
Scott Lygate

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Llinos Owen
Alex Davidson 

Isfasŵn
Alex Davidson

Cyrn
Tim Thorpe
Meilyr Hughes
John Davy
Tom Taffinder
Ed Griffiths

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †

Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Brian Kingsley

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro 
Rebecca Celebuski
Phil Girling
Andrea Porter

Y Delyn
Elen Hydref

Selesta
Catherine Roe Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +**
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol swydd wag
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol swydd wag

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications