Jaime Martín yn arwain …

Dydd Sadwrn 13/1/24, 3.00pm

Neuadd Brangwyn, Abertawe

Dydd Sul 14/1/24, 3.00pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Hubert Parry
Galargan i Brahms 13’

Gavin Higgins
Concerto i’r Corn comisiwn gan y BBC: première bydtua 23’

EGWYL: 20 munud

Johannes Brahms
Symffoni Rhif 2 43’

Jaime Martín arweinydd
Ben Goldscheider corn

Bydd y cyngerdd yn Abertawe yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y rhaglen Afternoon Concert yn y dyfodol; bydd y cyngerdd yng Nghaerdydd yn cael ei recordio ar gyfer ei ddarlledu mewn rhaglen BBC Radio 3 in Concert yn y dyfodol ac yn cael ei ffilmio ar gyfer ei ryddhau yn y dyfodol fel rhan o Gyfres Cyngherddau Digidol BBC NOW.

Cyflwyniad

Blwyddyn Newydd Dda! Croeso i’r cyngerdd heddiw, pan fydd Jaime Martín, yr arweinydd o Sbaen, yn ymuno â BBC NOW ar gyfer rhaglen sy’n ein tywys o Ramantiaeth yr Almaen hyd heddiw.

Mae Ail Symffoni Brahms yn waith sy’n llawn sirioldeb a hiwmor; hefyd – yn anarferol i’r cyfansoddwr gorfeirniadol hwn – cafodd ei hysgrifennu’n gyflym, gyda llawer o’r darn yn cael ei gyfansoddi yn ystod gwyliau mewn tref hardd ar lan llyn yn Awstria.

Pan fu farw Brahms yn 1897, penderfynodd y cyfansoddwr o Loegr, Hubert Parry, dalu teyrnged i ddyn yr oedd yn ei ystyried yn gawr cerddorol. Felly, dechreuodd ar ei Alargan i Brahms; fodd bynnag, ni lwyddodd i orffen y gwaith a dim ond ar ôl marwolaeth Parry ei hun y cwblhaodd un o’i gyd-gyfansoddwyr, Charles Stanford, yr Alargan; cafodd ei dadlennu, o’r diwedd, mewn cyngerdd coffa i Parry ei hun.

Gan droi at y presennol, bydd y Concerto i’r Corn gan Gyfansoddwr Cyswllt BBC NOW, Gavin Higgins, yn cael ei berfformio am y tro cyntaf. Ac yntau'n chwarae'r corn ei hun, mae'n syndod bod Gavin wedi aros nes oedd yn 40 oed cyn mynd ati i gyfansoddi concerto ar gyfer yr offeryn, ond dyma ef o'r diwedd, yn cael ei berfformio am y tro cyntaf erioed gan yr hyfryd Ben Goldscheider!

Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Hubert Parry (1848–1918)

Galargan i Brahms (1897; cwblhawyd gan Stanford ym 1918)

Ganed Hubert Parry i deulu breintiedig yn ne-orllewin Lloegr ac astudiodd yn Eton a Rhydychen cyn cael swydd yn Lloyd’s of London. Dim ond ar ôl dechrau gweithio yn y busnes, yr oedd y teulu’n ei gymeradwyo, y dechreuodd astudio cerddoriaeth o ddifrif, ar adeg pan nad oedd cerddoriaeth Brahms yn cael ei chlywed yn aml ym Mhrydain. Ym 1873, gwnaeth ymgais i astudio gyda’i arwr o’r Almaen, ond cafodd ei wrthod fel ‘amatur dawnus a disglair’ gyda llawer i’w ddysgu o hyd. Ond erbyn y 1880au roedd Parry yn gweithio yn Rhydychen a’r Coleg Cerdd Brenhinol newydd, a daeth yn gyfarwyddwr ar yr olaf ym 1895.

Er na wnaeth y ddau ddyn erioed gyfarfod, roedd Parry yn dal i edmygu gwaith Brahms yn fawr iawn a gadawodd ei farwolaeth yn 1897 argraff fawr iawn arno, gan beri iddo ei ddisgrifio fel ‘pen-cerddor mwyaf ail hanner y ganrif’. Dechreuodd ei Alargan i Brahms ym mis Mai 1897, i’w chynnwys mewn cyngerdd coffa gan y Coleg Cerdd Brenhinol; ond ni lwyddodd i orffen y darn mewn pryd ac, yn y pen draw, rhoddodd y gorau iddo. Cafodd ei gwblhau wedyn gan ei gydweithiwr yn y Coleg Cerdd Brenhinol, Charles Stanford, yn 1918 a’i berfformio mewn cyngerdd coffa i Parry ei hun ym mis Tachwedd 1918.

Er bod rhai o adrannau’r Alargan yn amlwg yn adlewyrchiad o ysgrifennu cerddorfaol Brahms ei hun, mae dwyster angerddol adrannau canolog y darn yn perthyn i raddau helaeth i Wagner – a oedd hefyd yn ddylanwad pwysig ar waith Parry. Mae’r ffordd y mae’n cydblethu ei themâu’n ofalus yn ein harwain yn llyfn o un syniad cerddorol i’r llall, gyda’r uchafbwynt stormus yn ymdoddi’n dawelwch heddychlon yn y pen draw.

Nodyn y rhaglen © Katy Hamilton

Gavin Higgins (ganed 1983)

Concerto i’r Corn (2023)

Comisiwn gan y BBC: première byd

1 Understorey
2 Overstorey
3 Mycelium Rondo

Ben Goldscheider corn

Aminnau wedi bod yn chwarae’r corn drwy gydol fy mywyd, mae’n syndod efallai ei bod wedi cymryd cymaint o amser i mi ysgrifennu darn ar gyfer fy offeryn fy hun. Ond, o’r diwedd, yn 40 oed, roeddwn i’n teimlo’n barod i ysgrifennu concerto i’r corn. Wrth feddwl am y darn hwn, mi es yn ôl i fy ngwreiddiau. Cefais fy magu yng nghysgod coed Fforest y Ddena, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac mae coetiroedd wedi fy swyno byth ers hynny. Er ei fod yn haniaethol, fforiad drwy goedwigoedd a choed ac isdyfiant yw’r darn tri symudiad hwn. 

Mae’r symudiad cyntaf, o’r enw ‘Understorey’ (sy’n ymwneud â bywyd ar lawr y goedwig) yn dechrau’n araf yn y cywair E feddalnod – cyfeiriad nid yn unig at yr adlais o natur yn agoriad cylch Ring Wagner, ond hefyd at goncertos enwog i’r corn gan Strauss a Mozart. Mae’r cyrn yn dechrau ar waelod eu cwmpas, gan araf symud i fyny i nodau uchaf yr offeryn. Ar ôl cyfres o gadenzas a ffanfferau gan yr unawdydd, rydyn ni’n symud i rywbeth mwy chwareus wrth gyflwyno syniad thematig newydd, gyda’r corn unawdol yn sgwrsio â’r cyrn cerddorfaol mewn deialog cerddorol. Mae’r ffanfferau agoriadol yn ailymddangos yn yr adran yn y canol, ond gyda mudyddion y tro hwn a gyda soniaredd prennaidd y gerddorfa i’w glywed yn y cefndir, cyn y clywir alaw unsain fortissimo ar bum corn. Ar ôl dychwelyd at gadenzas helaeth yr agoriad, clywir yr offerynnau chwyth yn rhuthro am i fyny fel pryfaid i gloi'r symudiad.

Mae dechrau’r ail symudiad, ‘Overstorey’ (bywyd yn y brigdwf) yn efelychu dail yn cwympo gydag offeryniaeth gynnil yn gefndir i unawdau mynegiannol ar y corn. Mae’r gerddoriaeth yn adeiladu’n araf tuag at uchafbwynt lle mae’r cyrn cerddorfaol yn gwneud eu presenoldeb yn hysbys, cyn dychwelyd unwaith eto at rywbeth mwy agos-atoch, gyda’r corn unawdol yn esgyn i frig ei gwmpas. Mae’r motiff cwympo yn dychwelyd ar y diwedd, gan ddisgyn drwy’r gerddorfa nes ein bod unwaith eto ar y ddaear ac ymysg gwreiddiau’r coed, yn ôl yn E feddalnod.

Enw’r symudiad olaf yw ‘Mycelium Rondo’ (y rhwydwaith o ‘hyffae ffwngaidd’ – a elwir y we goed eang – sy’n cysylltu holl blanhigion y goedwig). Fel pob concerto da i’r corn, mae’r symudiad hwn ar ffurf rondo. Mae’r unawdydd a’r gerddorfa yn rhannu motiffau chwareus, cyn i ni glywed pob un o’r pum corn yn uno con forza gyda seiniau egnïol y blociau teml a chaniadau gan yr offerynnau pres. Mae’r tawelwch byr yng nghanol y symudiad yn ein paratoi at ddychweliad ffanfferau a motiff melodaidd y symudiad cyntaf cyn i’r gerddoriaeth adeiladu i uchafbwynt lle clywir y gerddorfa lawn mewn corawd sy’n ein hatgoffa o organ. Yna, un rhuthr terfynol i’r diwedd, cyn cloi gyda’r pum corn yn seinio’n groch.

Nodyn y rhaglen © Gavin Higgins

EGWYL: 20 munud

Johannes Brahms (1833–97)

Symffoni Rhif 2 yn D fwyaf, Op. 73 (1877)

Allegro non troppo
Adagio non troppo
Allegretto grazioso (quasi andantino)
4 Allegro con spirito

Mae Brahms yn adnabyddus am gymryd tua 20 mlynedd i gwblhau’r daith o’i ymdrechion cyntaf i fraslunio symffoni tan y perfformiad cyntaf erioed o’i Symffoni Rhif 1 yn 1876. Roedd sawl rhwystr i’w oresgyn: ei farn eithriadol o hunanfeirniadol am ei ddarnau ei hun am ei ddarnau; yr awydd taer i beidio â siomi’r rhai oedd wedi ei gefnogi mor hael (Robert a Clara Schumann uwchlaw pawb); a’r pwysau o ddod o hyd i rywbeth diddorol a gwreiddiol i’w wneud â’r genre yn sgil amryfal ddatblygiadau arloesol symffonïau Beethoven.

Ond ar ôl y frwydr epig hon i gwblhau’r Cyntaf, ymddangosodd yr Ail Symffoni yn D fwyaf flwyddyn yn ddiweddarach – yn 1877 – ac mae’n ymddangos ei bod wedi bod yn broses llawer haws a mwy pleserus i Brahms. Ysgrifennodd y rhan fwyaf ohoni yn ystod haf 1877 pan oedd ar wyliau yn Pörtschach, tref hardd yn ne Awstria ar lannau llyn mawr o’r enw Wörthersee. Yn wir, roedd llawer o’i ffrindiau wedi gwneud sylw ynghylch natur siriol a hwyliog yr Ail a’i chywair mwyaf, gan briodoli hyn i’r man pictiwrésg lle cafodd ei chyfansoddi. ‘Nid yw’n waith celf gwych,’ dywedodd Brahms, ‘mae’r Wörthersee yn dir an-âr, gyda chymaint o alawon i’w clywed hyd y lle nes bod yn rhaid i chi fod yn ofalus rhag sathru ar unrhyw un.’ Y bwriad oedd cynnal y perfformiad cyntaf ddechrau mis Rhagfyr 1877, a Cherddorfa Ffilharmonig Fienna a Hans Richter oedd i fod i roi’r perfformiad hwnnw. Fel y digwyddodd hi, cafodd y perfformiad cyntaf hwn ei ohirio am sawl wythnos oherwydd bod y gerddorfa mor brysur yn dysgu Das Rheingold gan Wagner fel nad oedd hi’n gallu ymarfer y symffoni newydd mewn pryd! Fe’i clywyd o’r diwedd ar 30 Rhagfyr 1877 a chafodd groeso gwresog.

Mae’r Ail Symffoni yn delynegol ac yn ysgafn iawn – yn enwedig yn y trydydd symudiad, gyda’i alaw osgeiddig ar gyfer chwythbrennau a’i ddarnau sionc ar gyfer y llinynnau. Ond nid yw’r darn yn fêl i gyd, er gwaethaf holl gellwair Brahms amdano. Mae’r symudiad cyntaf yn enwog am ddefnyddio fersiwn cywair lleiaf o’i Wiegenlied (Hwiangerdd) poblogaidd fel un o’i brif themâu, a gyflwynir gan y fiolâu a’r soddgrythau. Er bod ffraethineb yn y cyfeiriad (roedd Brahms yn ei disgrifio fel fersiwn i ‘blant bach drwg neu sâl’), roedd yr arweinydd Vincenz Lachner wedi pwyso ar Brahms am eglurhad ynghylch pam ei fod wedi cynnwys elfennau tywyll yr offerynnau pres a’r offerynnau taro yn yr un symudiad. Atebodd y cyfansoddwr mewn ffordd annodweddiadol o agored bod yn rhaid iddo gyfaddef ‘fy mod yn berson melancolaidd iawn, mae adenydd duon yn troelli uwch ein pennau o hyd …’ Mae’r awyrgylch melodaidd, ymchwilgar gydag arlliw o dristwch yn parhau yn yr ail symudiad; ond erbyn y pedwerydd mae fel pe bai’r cymylau yn clirio o’r diwedd, gan roi diweddglo gorfoleddus i’r darn. Ac mae gallu nodweddiadol Brahms i drin deunydd thematig yn gelfydd i’w weld yn y gwaith drwyddo draw: mae’r mwyafrif o’r deunydd ar gyfer y symudiad agoriadol yn deillio o ddim ond tri nodyn agoriadol y soddgrythau a’r basau. Dyma ddywedodd Otto Dessoff, a oedd wedi arwain y premiere o Symffoni Gyntaf Brahms, am yr Ail Symffoni: ‘Rydych chi’n anghofio’r deunydd, dydych chi ddim yn gwybod a yw’n cael ei ganu, ei chwarae neu ei beintio, ond rydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich trochi mewn Harddwch.’

Nodyn y rhaglen © Katy Hamilton

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant ... 

Shostakovich 13 gyda Ryan Bancroft

Nos Sadwrn 10/2/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Dydd Sul 11/2/24, 3pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Beethoven Concerto i’r Piano Rhif 1
Shostakovich Symffoni Rhif 13, ‘Babi Yar’ 

Ryan Bancroft arweinydd
Jonathan Bisspiano
James Platt bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

RADICAL | DRAMATIG | BYWIOG

O’i gymal agoriadol beiddgar i’w ddiweddglo hynod a chwareus, mae Concerto Rhif 1 Beethoven i’r Piano yn un o weithiau mwyaf mawreddog a herfeiddiol ei genhedlaeth. Cafodd ei berfformio gyntaf yn 1798 gan Beethoven ei hun. Ni wyddwn lawer am ei wreiddiau hyd heddiw, ond rydyn ni yn gwybod mai ei ail goncerto oedd hwn mewn gwirionedd, ond ei fod wedi’i gyhoeddi gyntaf, ac felly cafodd ei alw’n Goncerto Rhif 1.

Er bod Shostakovich yn aml yn pechu’r Sofietiaid ac yn cael ei ddiarddel am ei arddangosiadau amlwg o hunanfynegiant ac am ei ddewis o ysbrydoliaeth lenyddol, llwyddodd i dawelu’r dyfroedd gyda Symffonïau dieiriau 11 a 12; ond trodd y drol unwaith eto gyda’r ysbrydoliaeth a sbardunodd naratif ei 13eg Symffoni.

Mae trydedd symffoni ar ddeg Shostakovich, y cyfeirir ati’n aml yn ôl ei llysenw, ‘Babi Yar’, yn ddarn theatrig a throsgynnol, sy’n llawn hiwmor chwerw ac sy’n cynnwys gosodiadau i eiriau o waith Yevgeny Yevtushenko. Gwrthwynebodd Khrushchev, bu bron iddo ganslo’r perfformiad cyntaf, a rhoddodd waharddiad ar unrhyw sylw yn y wasg. Ni chafodd ei chlywed am dros 20 mlynedd ond tua diwedd yr 20fed ganrif daeth yn fwy poblogaidd eto. Nid yw hyn yn syndod o gofio dyfeisgarwch a chywreinrwydd cerddoriaeth Shostakovich, gyda’i chyferbyniadau llym, ei ffraethineb craff a’i chanolbwynt cyweiraidd amwys, wedi’i chyfuno â naws glasurol gynnil a hiraeth rhamantus.

Boed i’r Holl Fyd Ganu ym mhob Cwr

Nos Wener 22/3/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

NunesGarcia Agorawd ‘Zemira’
J. S. Bach Cantata Rhif 82, ‘Ich habe genug’
Haydn Symffoni Rhif 26, ‘Lamentatione’
Vaughan Williams Five Mystical Songs

Harry Bicket arweinydd
Julien Van Mellaerts bariton
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

GOGONEDDUS | YSBRYDOL | SWYNGYFAREDDOL

Mae ysbryd y Pasg, er ei fod yn gynnil, yn treiddio drwy’r cyngerdd hwn, gyda Harry Bicket yn dychwelyd i arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC. Y cyfansoddwr o Frasil, José Maurício Nunes Garcia, fydd yn dechrau’r noson gyda’i Agorawd Zemira, ac mae’r bariton anhygoel, Julien Van Mellatens, yn perfformio Ich habe genug gan Bach. Mae’r gwaith hwn yn gwbl addas ar gyfer unrhyw gyngerdd y Pasg, gyda thestun sy’n adrodd hanes puro Mair ac yn cyhoeddi ei hawydd i ddianc rhag trallod y ddaear yn ôl at Iesu.

Nid oes llawer yn gwybod mai ar gyfer y Pasg y cafodd Symffoni Rhif 26 Haydn ei hysgrifennu, er pan edrychwn yn ddyfnach ar y gerddoriaeth, mae llawer o awgrymiadau amlwg. Cafodd ei hysgrifennu mewn Sturm und Drang (storm a straen) nodweddiadol, mae’r awyrgylch dymhestlog a’r cywair lleiaf yn sail i ddyfyniadau o ganeuon plaen plaen Wythnosau'r Dioddefaint, sy’n fwy perthnasol i eglwys na’r neuadd gyngerdd. Hefyd ar gyfer y Pasg, ysgrifennwyd Five Mystical Songs gan Vaughan Williams, sy’n gosod testun o The Temple: Sacred Poems gan y bardd a’r offeiriad o Gymru, George Herbert. Yn ysbrydol ac yn uniongyrchol wrth gyflwyno, mae’r pum symudiad yn cyferbynnu o ddistaw a myfyriol i floeddiadau o ganmoliaeth buddugoliaethus.

Llwch Sêr ac Eneidiau

FFRWD FYW

Nos Iau 18/4/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Alexander Campkin Sounds of Stardust première byd
Dani Howard Gwaith Newydd: Concerto i Offerynnau Taro première byd
Poulenc Stabat mater

Sofi Jeannin arweinydd
y Fonesig Evelyn Glennie offerynnau taro
Julieth Lozano soprano
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

ARALLFYDOL | ATMOSFFERIG | DIRGEL

Gyda dau bremière byd ac un o berlau’r repertoire corawl, mae’n bleser gennym groesawu’r arweinydd dihafal Sofi Jeannin yn ôl ochr yn ochr â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, y Fonesig Evelyn Glennie ac enillydd Gwobr Cynulleidfa Canwr y Byd Caerdydd, Julieth Lozano, am noson o archwilio a darganfod cerddorol.

Ond yn gyntaf, premiere byd gan Alexander Campkin a’i Sounds of Stardust. Bydd y Fonesig Evelyn Glennie, yr offerynnwr taro o fri, yn camu i’r llwyfan i berfformio concerto newydd Dani Howard i offerynnau taro am y tro cyntaf, cyn i ni ddathlu campwaith lleisiol Poulenc 60 mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Wedi’i ysgrifennu mewn ymateb i farwolaeth ei gyfaill agos, yr artist Christian Bérard, mae Stabat mater yn cwmpasu’r tywyll a’r golau – cynrychiolaeth wirioneddol o Gatholigiaeth ddidwyll y cyfansoddwr, ond hefyd ei ffraethineb a’i gymeriad bywiog.

Bywgraffiadau

Jaime Martín arweinydd

Photo: Paul Marc Mitchell

Photo: Paul Marc Mitchell

Jaime Martín yw Prif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Melbourne a Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Iwerddon yn ogystal â Chyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Siambr Los Angeles. Bu’n Gyfarwyddwr Artistig ac yn Brif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Gävle (2013–22). Yn Sbaen, sef ei wlad enedigol, ef yw Prif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Sbaen ar hyn o bryd. Bu’n Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Ryngwladol Santander ac mae’n un o sylfaenwyr Orquesta de Cadaqués, cerddorfa y bu’n gysylltiedig â hi am 30 mlynedd.

Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformio am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Dallas ac Indianapolis a Cherddorfa Ffilharmonig Dresden, taith helaeth yn y DU gyda Cherddorfa Symffoni Gävle a’i ymddangosiad cyntaf yng nghyfres Proms y BBC, gan arwain BBC NOW. Y tymor hwn, bydd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Gŵyl Budapest ac mae’n dychwelyd i Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm, Cerddorfeydd Symffoni Colorado a Queensland, Orquesta Sinfónica de Galicia ac Orquesta Sinfónica de Castilla y León. Gyda Cherddorfa Siambr Los Angeles, mae’n arwain rhaglenni sy’n amrywio o Pergolesi i Danny Elfman ac mae’n cyfarwyddo Symffoni Melbourne mewn gweithiau gan Dvořák, Holst, Mahler a Richard Strauss, a bydd yn treulio cyfnod preswyl yn Indonesia.

Mae ei recordiadau’n cynnwys gweithiau gan Brahms, Mozart ac, yn fwyaf diweddar, albwm o gerddoriaeth gan y cyfansoddwr o Sweden, Melcher Melchers.

Cyn troi at arwain yn llawn amser yn 2013, roedd Jaime Martín yn brif ffliwtydd y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Siambr Ewrop, Opera Cenedlaethol Lloegr, Academi St Martin the Fields a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain. Mae’n Gymrawd o’r Coleg Cerdd Brenhinol ac yn 2022 dyfarnodd panel beirniaid Premios Nacionales de Música Sbaen eu gwobr flynyddol iddo am ei gyfraniad i gerddoriaeth glasurol.


Ben Goldscheidercorn

Enwebwyd Ben Goldscheider gan y Barbican fel un o Sêr Newydd ECHO ar gyfer tymor 2021/22; mae wedi rhoi datganiadau mewn neuaddau cyngerdd mawr ledled Ewrop, gan gynnwys y Royal Concertgebouw, Vienna Musikverein, Pierre Boulez Saal Berlin, Elbphilharmonie Hamburg, Köln Philharmonie a Neuadd Wigmore.

Mae wedi perfformio gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC, wedi perfformio concerto am y tro cyntaf ym Mhroms y BBC yn 2022 gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham, ac wedi ymddangos fel unawdydd gyda Cherddorfa Mozarteum Salzburg, Cerddorfa Ulster, Cerddorfa Aurora, Britten Sinfonia, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, London Mozart Players, Cerddorfa Symffoni Lucerne, Tapiola Sinfonietta, Musikkollegium Winterthur, Camerata Manceinion, Philharmonia Prag a Deutsches Symphonie-Orchester Berlin.

Y tymor hwn mae’n perfformio nifer o gomisiynau newydd ar gyfer y corn am y tro cyntaf, gan gynnwys concertos a gweithiau unigol a siambr. Mae ei uchafbwyntiau’n cynnwys première byd o goncertos i’r corn gan Gavin Higgins a Huw Watkins. Bydd ei ymddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Lucerne yn cynnwys comisiwn newydd ar gyfer y corn naturiol ac allweddellau gan Sara Cubarsi, a bydd ei ymddangosiad cyntaf yn Ystafell Purcell Canolfan Southbank yn perfformio gweithiau comisiwn newydd gan Zoë Martlew a Mark Simpson. Bydd hefyd yn comisiynu gweithiau newydd gan Nicola Lefanu (Gŵyl Lammermuir), Victoria Kelly a Georgina Palmer (Gŵyl At the World’s Edge yn Seland Newydd), Matthew Peterson a Joseph Phibbs (Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Hatfield House).

Fel cerddor siambr, mae wedi cydweithio â Daniel Barenboim, Martha Argerich, Sergei Babayan, Elena Bashkirova, Sunwook Kim a Michael Volle, ymhlith llawer o bobl eraill. O ran datganiadau, mae wedi gweithio gyda Michael Barenboim, Syr Stephen Hough, Tom Poster, Benjamin Baker, James Baillieu, Allan Clayton a’r Kaleidoscope Chamber Collective.

Mae ei recordiadau’n cynnwys Legacy: A Tribute to Dennis Brain a recordiad fel unawdydd concerto gyda’r Gerddorfa Philharmonia dan arweiniad Lee Reynolds.

Cafodd ei eni yn Llundain ac yn 2020, cwblhaodd ei astudiaethau gydag anrhydedd yn Academi Barenboim-Said yn Berlin gyda Radek Baborák. Y llynedd, fe’i penodwyd yn Artist Cyswllt yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn cael cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.

Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau ac yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.

I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now 

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Laura Embrey
Anna Cleworth
Juan Gonzalez
Emilie Godden
Alejandro Trigo
Ruth Heney
Zhivko Georgiev

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Beverley Wescott
Roussanka Karatchivieva
Joseph Williams
Lydia Caines
Michael Topping
Ilze Abola
Jane Sinclair
Gary George-Veale

Fiolâu
Francis Kefford ‡
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Daire Roberts
Lydia Abell
Ania Leadbeater
Carl Hill

Soddgrythau
Kate Gould ‡
Richard Birchall
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Keith Hewitt

Basau Dwbl
Seb Pennar ‡
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Emma Prince
Antonia Bakewell
Thea Sayer

Ffliwtiau
Fiona Kelly ‡
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Catriona MacKinnon ‡
Amy McKean †

Cor anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †

Clarinetau
Nick Carpenter *
Margreet Houtman
Lenny Sayers

Clarinet Bas
Lenny Sayers †

Baswnau
Jarosław Augustiniak *
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland *

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
John Davy

Horns (Parry a Brahms)
Ed Griffiths
Jenny Cox
Tom Taffinder
Dave Ransom

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel

Trombonau
Donal Bannister *
Benny Vernon

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden †

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro 
Phil Girling *
Phil Hughes
Andrea Porter

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Katie Axelsen(yn llenwi dros gyfnod tadolaeth)
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentis BBC Cymru Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications