Dvořák 8 gyda Ryan Bancroft

Nos Iau 30/11/23, 7.30pm

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Nos Wener 1/12/23, 7.30pm

Neuadd Prichard-Jones, Bangor

Hannah Kendall
TheSpark Catchers 10’

AlexanderGlazunov
Concerto i’r Ffidil 21’

EGWYL: 20 munud

Antonín  Dvořák
Symffoni Rhif 8 34’

Ryan Bancroft arweinydd
Benjamin Beilman ffidil

Mae’r cyngerdd yn Aberystwyth yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 ar gyfer ei ddarlledu yn y dyfodol fel rhan o Afternoon Concert, ac mae’n cael ei ffilmio gan BBC Four ar gyfer Inside Classical.

Cyflwyniad

Rydym yn falch iawn o groesawu Prif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Ryan Bancroft, i’r podiwm heno ar gyfer rhaglen sy’n amrywio o ddiwedd y 19eg ganrif i’r presennol.

I ddechrau, cathl symffonig Hannah Kendall The Spark Catchers, darn wedi’i ysbrydoli gan gerdd gan Lemn Sissay ac un sy’n cynnwys amrywiaeth drawiadol o hwyliau yn ei rhychwant byr.

Mae’r Concerto i’r Ffidil gan Alexander Glazunov yn dyddio o flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, ond nid oes modd osgoi’r naws Rhamantaidd sydd iddo. Y piano oedd offeryn Glazunov ei hun mewn gwirionedd, ond ni fyddech byth yn dweud hynny o’r concerto hwn, sy’n archwilio natur swynol y ffidil a’r posibiliadau sydd ganddi i ddangos meistroliaeth. Heno, rydym yn croesawu Benjamin Beilman, yr unawdydd, sy’n ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Daw’r cyngerdd i ben gydag un o weithiau mwyaf poblogaidd Dvořák, sef ei Wythfed Symffoni. Dyma waith sy’n manteisio ar berseinedd naturiol y cyfansoddwr, a’r hwyliau hollbresennol sydd ynddo yw llawenydd anorchfygol.

Mwynhewch!

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Hannah Kendall (ganed 1984)

The Spark Catchers(2017)

Cerdd hynod atgofus Lemn Sissay The Spark Catchers yw’r ysbrydoliaeth i’r gwaith hwn. Cefais fy nenu at ei nerth, ei bywiogrwydd a’i hegni bendigedig. Roeddwn hefyd yn hoffi’r ffaith fod Sissay wedi cael ei gomisiynu i ysgrifennu’r gerdd ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012 a bod honno wedi cael ei hysgythru’n barhaol ar un o’r trawsnewidyddion trydanol yn y Parc Olympaidd, lle daeth y byd i gyd at ei gilydd i gefnogi a dathlu talent eithriadol. Mae geiriau ac ymadroddion penodol o’r testun wedi sefydlu strwythur i’r gwaith ac wedi llywio’r nodweddion cerddorol cyferbyniol sydd o fewn prif gydrannau’r darn.

Mae’r adran ‘Sparks and Strikes’ agoriadol yn creu egni a bywiogrwydd ar unwaith, gyda’r picolo a’r ffidlau’n sefydlu egni rhythmig chwyddedig, gyda thrawiadau cryf gan weddill yr ensemble. Mae’r momentwm hwn yn parhau i ‘The Molten Madness’, gan gynnal yr egni cinetig cychwynnol, a chynhyrchu awyrgylch tywyllach a gofidus a gyflwynir yn y llinellau bas. Mae llinell alaw eang ac esgynnol yn y cyrn a’r ffidlau cyntaf yn troshaenu’r deunydd, gan symud tuag at bennod fawreddog dan arweiniad adran lawn y llinynnau, wedi’i dwysau gan alwadau beiddgar yn y chwythbrennau, yr offerynnau pres a’r offerynnau taro, gan arwain at saib sydyn. Mae amrywiad ysgafnach ar y deunydd rhythmig agoriadol yn y clarinetau, y delyn a’r llinynnau yn dilyn, gan greu teimlad o ddirgelwch. Mae’r gwead yn datblygu drwy ffigwr jazz dan arweiniad yr offerynnau pres, sy’n arwain at ryngweithio pwerus ac ymchwyddol rhwng y ffliwtiau, yr oboau a’r ffidlau.

Mae adran ysgafnach, cliriach a grisialaidd ‘Beneath the Stars/In the Silver Sheen’ yn dilyn. Mae’n dawel ac yn llonydd, ac mae’n cael ei nodweddu gan ei cheinder drwy linellau hir sy’n plethu â’i gilydd, traw uchel a gweadau tenau. Mae trawiad dadlennol, a ategir gan y glockenspiel a’r delyn, yn arwydd o uchafbwynt yr adran hon. Yn dilyn hynny, mae’r afiaith agoriadol yn dod yn ôl eto drwy ddeunydd tebyg i ddawns sy’n gorffen gyda ‘The Matchgirls’ March’ gyda’i gordiau grymus ac ergydiol. Daw The Spark Catchers i ben gydag adran debyg i goda, sy’n cario pŵer y ‘March’ ar yr un pryd ag ymgorffori amrywiadau ar fotiffau cerddorol o ‘Sparks and Strikes’ a ‘The Molten Madness’, gan gloi’n derfynol gydag utganiad disglair.

Nodyn y rhaglen © Hannah Kendall

Alexander Glazunov (1865–1936)

Concerto i’r Ffidil yn A leiaf, Op. 82 (1904–5)

Moderato – Tranquillo – Tempo 1 – Cadenza – Allegro

Benjamin Beilman ffidil

Heddiw, yn gyffredinol, nid yw Alexander Glazunov yn cael ei ystyried yn un o’r prif enwau yn hanes cerddorol Rwsia. Yn anaml iawn y clywir y symffonïau a’r pedwarawdau llinynnol sy’n ffurfio craidd ei gynnyrch, ond mae’r dawnsiau Tchaikovskiaidd deniadol o’i faleau Y Tymhorau a Raymonda yn cadw eu lle yn y repertoire, ac mae un gwaith mawr wedi llwyddo i gadw ei le yn y neuadd gyngerdd, sef y Concerto i’r Ffidil. Un o’r rhesymau pam mae’r concerto hwn yn dal yn boblogaidd yw ei fod wedi’i ysgrifennu’n hyfryd ar gyfer y ffidil: mae’n sicr yn heriol (ac yn ffyrnig o heriol ar adegau), ond nid yw fyth wedi’i ysgrifennu ‘yn erbyn’ yr offeryn. Dyma gynnyrch dyn a oedd yn deall enaid y ffidil yn ogystal â’i alluoedd technegol – sy’n fwy rhyfeddol fyth o ystyried nad dyma offeryn cyntaf Glazunov. Mae cyfansoddwyr concertos i’r ffidil yn aml wedi ymgynghori â’r darpar unawdwyr ynglŷn â’r cadenza, sef y rhan fwyaf disglair a manwl o’r gwaith yn draddodiadol, ond mae’n debyg fod Glazunov wedi ysgrifennu’r cyfan ei hun, gan gynnwys y darnau lle mae’r ffidil yn cyd-fynd â’i linellau canu alawol ei hun – sy’n ddigon anodd i’w chwarae’n gywir, heb sôn am yn fynegiannol.  

Cyfansoddodd Glazunov y Concerto i'r Ffidil yn 1904–5 ar gyfer y pianydd rhagorol o Hwngari, Leopold Auer, a oedd wedi rhyfeddu gymaint nes iddo annog ei ddisgybl 14 oed, Mischa Elman, i ddechrau arno. Dull Elman o chwarae’r concerto a sefydlodd ei enw da y tu allan i Rwsia. Ar ei orau, roedd gan Glazunov ddawn i greu alawon teimladwy ag anadl hir, ac mae’r darn hwn yn cynnwys toreth o'r rheini. Efallai fod ei helaethder rhapsodig Rwsiaidd nodweddiadol wedi’i ddylanwadu gan yr amgylchiadau delfrydol lle cafodd ei gwblhau, yng nghanol y coedwigoedd eang a’r llynnoedd i’r dwyrain o St Petersburg, dinas Glazunov. Ond roedd yn well gan Glazunov beidio â sôn am ysbrydoliaeth, roedd eisiau gadael i’r gerddoriaeth siarad drosti’i hun, ac yn yr achos hwn mae hi’n gwneud hynny’n hyfryd a grymus.

Mae ffurf y concerto yn hynod o wreiddiol: mae dau hanner o’r hyn sy’n ymddangos yn symudiad cyntaf Moderato eithaf traddodiadol yn rhoi ffrâm i adran Tranquillo mwy myfyriol, lle mae telyn farddol yn ymuno â’r ffidil. Ar ôl i’r deunydd agoriadol (Tempo 1) ddychwelyd ar ei newydd wedd, mae’r cadenza unawdol yn dod i’r amlwg yn llyfn, gan fagu momentwm o’r diwedd a llifo ymlaen i’r Allegro, dan arweiniad thema dawnsio ddymunol ar ddau drwmped. Ond does dim angen chwilio am arwyddbyst ffurfiol. Mae’n debyg mai’r ffordd orau o fwynhau Concerto Glazunov i’r Ffidil yw fel un darn cyson o delynegiaeth a disgleirdeb, gyda’r disgleirdeb yn amlwg iawn yn yr eiliadau olaf aruthrol.

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

EGWYL: 20 munud

Antonín Dvořák (1841–1904)

Symffoni Rhif 8 yn G fwyaf, Op. 88 (1889)

1  Allegro con brio
2  Adagio
3  Allegretto grazioso
4  Allegro ma non troppo

Mae llawer o gyfansoddwyr yn cael trafferth dod o hyd i syniadau; problem Dvořák yn aml oedd bod ganddo ormod. ‘O na allwn eu hysgrifennu ar unwaith!’ ysgrifennodd at ffrind, ‘Mae alawon yn arllwys allan ohonof.’ Awst 1889 oedd hyn, pan oedd Dvořák newydd orffen ei Bedwarawd Piano hyfryd, Op. 87. Wythnos yn ddiweddarach, roedd yn nodi syniadau ar gyfer symffoni newydd, yr un sy’n gyfarwydd i ni erbyn hyn fel ‘Rhif 8’, a llai na mis yn ddiweddarach roedd sgôr y piano wedi’i chwblhau.

Pam oedd hyn yn broblem? Wel, o ran ysgrifennu symffonïau, y model a sefydlwyd gan Beethoven a Brahms oedd yn tra-arglwyddiaethu ar y sefyllfa ddiwedd y 19eg ganrif. Yma, roedd datblygu syniadau o leiaf yr un mor bwysig â’r themâu eu hunain: meddyliwch faint o filltiroedd cerddorol y mae Beethoven yn eu cael o’r motiff da-da-da-DA enwog yn ei Bumed Symffoni. Yn Seithfed Symffoni Dvořák (1885), roedd wedi dangos y gallai ymroi i'r gwaith, ac yng ngeiriau Brahms, ‘wedi gwneud i geiniog wneud gwaith swllt’. Ond, ar ôl cyflawni hynny – fel y dywedodd ffrind arall – ymroddodd yn Rhif 8 i greu ‘gwaith sy’n wahanol i’w symffonïau eraill, gyda meddyliau unigol yn cael eu cyfleu mewn ffordd newydd.’ Nid yn unig y ceir toreth ryfeddol o syniadau yn symudiad cyntaf yr Wythfed Symffoni, maent i gyd yn drawiadol a chofiadwy; mae datblygiad i'w gael, ond y themâu yn eu rhinwedd eu hunain sy’n ein swyno a’n cyffroi pan fyddant yn dychwelyd. Yn anad dim, mae’r Wythfed Symffoni yn fynegiant o galon orfoleddus a gorlawn. Mewn oes pan mai symffonïau trasig neu arwrol oedd y ddelfryd heriol, roedd Dvořák wedi gwneud rhywbeth arall – roedd wedi creu symffoni sy’n wirioneddol hapus.

Efallai nad dyna’r argraff gyntaf: ar y dechrau mae’r soddgrythau’n arwain gyda thema ddwys, debyg i siant yn y cywair lleiaf, ond mae hyn yn cael ei chwalu’n fuan gan drydar hapus ar y ffliwt, ac mae crescendo’n adeiladu at thema debyg i emyn sy’n sicr yn y cywair mwyaf ar fiolâu a’r soddgrythau, sydd yn ei dro’n ildio’n llwyr i lawenydd y ddawns. Yn ei hanfod, dyma’r templed emosiynol ar gyfer y symffoni gyfan. Efallai fod cysgodion weithiau, ond cynhesrwydd a goleuni sydd drechaf bob amser.

Mae’r ail symudiad yn adleisio’r trydydd o gylch piano Dvořák, Poetic Tone Pictures, Op. 85, ‘In the Old Castle’, a gyfansoddwyd yr un flwyddyn. Gallwch chi ddychmygu’r ymwelydd yn ymgolli yn hwyliau’r castell hynafol: yn dywyll un eiliad, yna yng ngolau’r haul, gyda ffanfferau’n awgrymu atgofion o helbulon y gorffennol yn dod i'r meddwl mewn cyfnod hapusach a mwy diogel.

Yna daw’r ddawns werin Allegretto grazioso hyfryd, hanner waltz ddi-ffrwt a hanner dawns werin bruddglwyfus hyfryd, gyda ffrwydrad hyfryd o ddawnsio yn y cywair mwyaf ar y diwedd.

Yn olaf, mae ffanffer drawiadol yr utgorn yn cyflwyno alaw debyg i emyn dan arweiniad y soddgrythau, ond buan iawn y daw’r hyn sy’n dilyn i amharu ar y ffug-ddifrifoldeb hwn. Hwyliau da, penrhydd sy’n cloi. Yn sicr, gallai Dvořák greu trasiedi, ond anodd gweld awgrym o hynny yma.

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant ... 

Perfformio Picasso

LIVESTREAM

Nos Wener 8/12/23, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Stravinsky Pulcinella
Satie Parade
Stravinsky Ragtime
Falla El Sombrero de Tres Picos – Cyfres Rhif 2

Ryan Bancroftarweinydd
Katharine Dain soprano
Jorge Navarro Colorado tenor
Michel de Souzabariton

LLIWGAR | ANGERDDOL | GOLEUEDIG

Ac yntau’n adnabyddus fel un o artistiaid mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif ac am gyd-sefydlu’r mudiad Ciwbaidd, mae’n syndod cyn lleied o bobl sy’n gwybod bod yr artist Pablo Picasso wedi ymwneud llawer â dylunio’r gwisgoedd ar gyfer sawl bale arloesol. Roedd ei gyswllt creadigol â’r impresario bale, Serge Diaghilev, yn un o gydweithrediadau mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif, a newidiodd natur bale, ac a agorodd y drws i fyd newydd o archwilio artistig i Picasso.

Hanner can mlynedd ar ôl ei farwolaeth, byddwn yn dathlu ei waith mewn cyngerdd sy’n cynnwys dim ond y gerddoriaeth o’r gweithiau bale yr oedd ef wedi dylunio ar eu cyfer – o Pulcinella Stravinsky lle cafodd straeon traddodiadol eu ‘trawsnewid yn llwyr yn gampweithiau modernaidd trawiadol, gan ail-ddychmygu’r bale fel lleoliad ar gyfer arddulliau, siapiau a ffurfiau avant-garde oedd yn gwrthdaro â’i gilydd’ drwy ei wisgoedd a’i ddyluniadau ar gyfer setiau, i waith onglog, cyfwynebol ac avant-garde Satie, Parade, a chyfres Het Tri Chornel Falla sy’n adrodd stori garu o Sbaen, wedi’i lleoli ym mynyddoedd Andalwsia.

Jurassic Park mewn Cyngerdd

LIVESTREAM

Nos Fercher 13/12/23, 7.30pm
Arena Utilita Caerdydd

Nos Iau 14/12/23, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Benjamin Popearweinydd

TEULUOL | ATGOFUS | GWEFREIDDIOL

Pwy sy’n gallu anghofio cerddediad dirgrynol a byddarol y T rex neu synau arswydus y felisoraptor? Ymunwch â BBC NOW y mis Rhagfyr hwn ar gyfer Jurassic Park, yn fyw mewn cyngerdd.

Dewch gyda ni i Isla Nublar i ddilyn stori Dr Alan Grant ac Ellie Sattler wrth iddynt frwydro i oroesi yn erbyn deinosoriaid y parc thema pan maent yn adfywio ac yn dianc o’u llociau i geisio rheoli’r ddaear unwaith eto. Gyda delweddau gweledol trawiadol ac effeithiau arbennig arloesol, efallai nad yw’r antur llawn cyffro hon yn nodweddiadol o gyngerdd Nadolig, ond gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio sgôr epig John Williams yn fyw i’r ffilm, mae’n ffordd briodol iawn o ddathlu pen-blwydd y ffilm eiconig hon yn 30 oed!

Llwch Sêr ac Eneidiau

LIVESTREAM

Nos Iau 18/4/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC

Alexander Campkin Sounds of Stardust première byd
Dani Howard Gwaith Newydd: Concerto i Offerynnau Taro première byd
Poulenc Stabat mater

Sofi Jeannin arweinydd
y Fonesig Evelyn Glennie offerynnau taro
Julieth Lozano soprano
BBC National Chorus of Wales

ARALLFYDOL | ATMOSFFERIG | DIRGEL

Gyda dau berfformiad cyntaf y byd ac un o berlau’r repertoire corawl, mae’n bleser gennym groesawu’r arweinydd dihafal Sofi Jeannin yn ôl ochr yn ochr â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, y Fonesig Evelyn Glennie ac enillydd Gwobr Cynulleidfa Canwr y Byd Caerdydd, Julieth Lozano Rolong, am noson o archwilio a darganfod cerddorol.

Ond yn gyntaf, premiere byd gan Alexander Campkin a’i Sounds of Stardust. Bydd y Fonesig Evelyn Glennie, yr offerynnwr taro o fri, yn camu i’r llwyfan i berfformio concerto newydd Dani Howard i offerynnau taro am y tro cyntaf, cyn i ni ddathlu campwaith lleisiol Poulenc 60 mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Wedi’i ysgrifennu mewn ymateb i farwolaeth ei gyfaill agos, yr artist Christian Bérard, mae Stabat mater yn cwmpasu’r tywyll a’r golau – cynrychiolaeth wirioneddol o’i Gatholigiaeth ddidwyll, ond hefyd ei ffraethineb a’i gymeriad bywiog.

Bywgraffiadau

Ryan Bancroftarweinydd

Benjamin Ealovega

Benjamin Ealovega

Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018, pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, mae’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf i weithio gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yn Artist Cyswllt yno o dymor 2021/22 ymlaen. Ym mis Medi, daeth yn Brif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm.

Yn ei rôl newydd fel Prif Arweinydd yn Stockholm, bu’n agor y tymor gyda pherfformiad cyntaf y gerddorfa o The High Mass gan Sven-David Sandström ac mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys perfformiadau cyntaf o ddarnau gan Daniel Börtz ac Anders Hillborg, a chyngherddau gydag Emanuel Ax a Seong-Jin Cho.

Yr haf eleni, ymddangosodd am y tro cyntaf yn yr Hollywood Bowl gyda Ffilharmonig Los Angeles; y tymor hwn, bydd hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Cleveland, Cerddorfeydd Symffoni San Francisco a Cincinnati, NDR Elbphilharmonie Orchestra, Orquesta Sinfónica Castilla y León a Cherddorfa Ffilharmonig Radio’r Iseldiroedd, yn ogystal â dychwelyd i Gerddorfa Symffoni a Cherddorfa Ffilharmonig Toronto.

Mae’n frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble, Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, John Cage, James Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio’n agos gyda cherddorion byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden.

Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd. 


Benjamin Beilmanffidil

Sunhao Zhou

Sunhao Zhou

Mae’r Americanwr Benjamin Beilman yn un o fiolinwyr mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth.

Yn yr Unol Daleithiau, mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni St Louis o dan arweiniad Cristian Măcelaru ac mae’n dychwelyd i Gerddorfa Minnesota gydag Elim Chan, Cerddorfa Symffoni Oregon gyda David Danzmayr a Cherddorfa Symffoni’r Môr Tawel, lle bydd yn ei chwarae-gyfarwyddo. Mae hefyd yn rhoi cyngherddau gyda’r SWR Symphonieorchester Stuttgart ochr yn ochr â Chan, Deutsche Radio Philharmonie Saarbrücken, Cerddorfa Siambr Llundain, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Estonia ac Opéra Orchestre National Montpellier Occitanie. Mae’n ymddangos yng Ngŵyl Grafenegg, St Pölten Festspielhaus a Musikverein Fienna.

Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cerddoriaeth gyfoes, ac mae cyfansoddwyr fel Frederic Rzewski a Gabriella Smith wedi ysgrifennu darnau ar ei gyfer. Mae hefyd wedi gwneud sawl perfformiad o’r Concerto i'r Ffidil gan Jennifer Higdon, wedi perfformio Concerto Rhif 1 Chris Rogerson i’r Ffidil am y tro cyntaf, ac wedi recordio concerto Thomas Larcher.

Fel datgeiniad a cherddor siambr, mae’n perfformio’n rheolaidd mewn neuaddau mawr ledled y byd, gan gynnwys Neuadd Carnegie, Canolfan Lincoln, Amsterdam Concertgebouw, Cologne Philharmonie, Berlin Philharmonie, Neuadd Wigmore, Louvre a Tokyo Bunka Kaikan; mae’r ymddangosiadau mewn gwyliau yn cynnwys Verbier, Gŵyl Pasg Aix-en-Provence, Cyngherddau'r Haf Robeco (Amsterdam), Music@Menlo Marlboro a Cherddoriaeth Siambr Seattle. Mae hefyd yn parhau i berfformio gyda Chymdeithas Cerddoriaeth Siambr Canolfan Lincoln.

Astudiodd Benjamin Beilman yn Sefydliad Cerddoriaeth Curtis gydag Ida Kavafian a Pamela Frank, ac yn Academi Kronberg gyda Christian Tetzlaff; mae ei anrhydeddau niferus yn cynnwys Cymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Borletti-Buitoni, Grant Gyrfa Avery Fisher a Gwobr Meistr Cerddoriaeth Llundain.

Mae’n perfformio gyda bwa F.X. Tourte cyn-Balaković (c1820) ac mae’n chwarae’r ‘Ysaÿe’ Guarneri del Gesù sy’n dyddio o 1740 ac ar fenthyg yn hael gan Sefydliad Cerddoriaeth Nippon.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn cael cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.

Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau ac yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.

I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now 

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Shana Douglas
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Laura Embrey
Anna Cleworth
Juan Gonzalez
Ruth Heney
Emilie Godden

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines
Ilze Abola

Fiolâu
Francis Kefford ‡
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Catherine Palmer
Lowri Thomas
Robert Gibbons
Jim Drummond

Soddgrythau
Alice Neary *
Raphael Lang
Sandy Bartai
Rachel Ford
Alistair Howes
Carolyn Hewitt

Basau Dwbl
David Stark *
Fabian Galeana
Christopher Wescott
Richard Gibbons

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †

Clarinetau
Nick Carpenter ‡
Lenny Sayers

Clarinét Bas
Lenny Sayers †

Baswnau
Jarosław Augustiniak *
David Buckland

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Flora Bain
John Davy

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel

Trombonau
Donal Bannister *
Sakari Mäkimattila

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden †

Timpani
Matt Hardy

Offerynnau Taro 
Phil Hughes *
Harry Lovell-Jones
Owen Williams

Y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Katie Axelsen(yn llenwi dros gyfnod tadolaeth)
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentisiaid BBC Cymru Analese Thomas-Strachan, Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications