Chwedlau a Ffantasi

Ffrwd fyw

Nos Iau 11/12/25, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Edvard Grieg
Cyfres Peer Gynt Rhif 1 15’

Carl Nielsen 
Concerto i’r Ffliwt 19’ 

EGWYL: 20 munud

Pyotr Tchaikovsky
Llyn yr Elyrch – darnau 35’

Jaime Martín arweinydd
Elizaveta Ivanova ffliwt

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Maer cyngerdd hwn yn cael ei ffrydion fyw ar wefan BBC NOW ac yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 iw ddarlledu yn y dyfodol ar In Concert. Bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Yn y cyngerdd heno, rydym ni’n croesawu’r Prif Arweinydd Gwadd, Jaime Martín, yn ôl ar gyfer rhaglen o gerddoriaeth sy’n mynd â ni o Lychlyn i Rwsia. Mae’r gweithiau gan Grieg a Tchaikovsky yn mynd â ni i’r theatr, gyda’r cyntaf wedi ysgrifennu Peer Gynt fel cerddoriaeth achlysurol ar gyfer drama gan ei gydwladwr o Norwy, Henrik Ibsen. Yn ddiweddarach, roedd wedi creu dwy gyfres gerddorfaol ohoni a heno clywn y gyntaf o’r rheini, sy’n cynnwys peth o gerddoriaeth enwocaf y cyfansoddwr.

Fel unawdydd yn y Concerto i’r Ffliwt gan Nielsen, rydym ni’n falch iawn o groesawu Elizaveta Ivanova, un o Artistiaid Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3. Mae’n waith y mae ein harweinydd yn ei adnabod yn dda, gan iddo ddechrau ei yrfa fel ffliwtydd. Fel sy’n nodweddiadol o Nielsen, dyma ddarn llawn cymeriad ac un sy’n ymhyfrydu mewn troi confensiwn wyneb i waered, gyda’r ffliwt yn arwain y gerddorfa gyfan ar ddawns hwyliog.

I gloi, detholiadau o un o’r darnau gorau o’r holl faleau Rwsiaidd, sef Llyn yr Elyrch gan Tchaikovsky. Mae’n ymddangos yn anesboniadwy i ni heddiw nad oedd y darn wedi cael derbyniad da ar y dechrau, o ystyried ei fod yn ysbrydoli rhai o alawon mwyaf cofiadwy a threfniannau cerddorfaol mwyaf dychmygus y cyfansoddwr.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Edvard Grieg (1843–1907)

Cyfres Peer Gynt Rhif 1, Op. 46(1888)

1 Naws y Bore
2 Marwolaeth Åse
3 Dawns Anitra
4 Yn Neuadd Brenin y Mynydd

Yn 1874, roedd y dramodydd o Norwy, Henrik Ibsen, wedi gwahodd ei gydwladwr Edvard Grieg i gyfansoddi cerddoriaeth achlysurol ar gyfer Peer Gynt, ei ddrama fydryddol sy’n olrhain cwymp a gwaredigaeth ei wrth-arwr ar daith ryfeddol o gefn gwlad Norwy i ddiffeithwch Gogledd Affrica. Fel un o brif hyrwyddwyr cerddoriaeth Nordaidd ar ddiwedd y 19eg ganrif, Grieg oedd y dewis cerddorol naturiol ar gyfer drama a oedd wedi’i gwreiddio mor ddwfn yn hunaniaeth a llên gwerin Norwy.

Erbyn hynny, roedd Grieg yn cael ei fawrygu ledled Ewrop, ar ôl cyfansoddi ei Goncerto disglair i’r Piano pan nad oedd ond 24 oed. Roedd y cyfansoddwr yn gyndyn o ymgymryd â’r comisiwn i ddechrau, ond canfu’n fuan fod y cyfle i ysgrifennu ar gyfer golygfeydd mor fyw ac anghyffredin yn rhy anodd ei wrthod. Araf oedd y cynnydd ar y cychwyn, a chyfaddefodd i’w gyfeillion ei fod yn ‘brosiect anhydrin’. Fodd bynnag, cyn bo hir ysgrifennai’n gyflym.

Cwblhawyd y gerddoriaeth ar gyfer Peer Gynt yn hydref 1875, a chynhaliwyd y première y mis Chwefror canlynol yn Theatr Møllergården yn Christiania (Olso erbyn hyn), gyda Grieg ei hun yn arwain. Bu’r cynhyrchiad godidog yn llwyddiant ysgubol ar unwaith, a chafwyd 37 o berfformiadau y flwyddyn honno cyn ei atgyfodi wedyn yn 1885 a 1902. Ond er gwaethaf ei lwyddiant, roedd Grieg yn ddig iawn am y cyfyngiadau theatrig llym a oedd yn pennu trefn, hyd a ffurf ei gerddoriaeth ar gyfer y ddrama.

Roedd natur fyr, achlysurol y darnau yn golygu eu bod yn addas iawn ar gyfer perfformiad unigol a chyfunol y tu allan i leoliad gwreiddiol y ddrama – mater a brofwyd yn y ddwy gyfres a grëwyd gan Grieg (yn 1888 ac 1891) ac sy’n defnyddio wyth o’r 26 o ddarnau.

Mae Cyfres Peer Gynt Rhif 1 gan Grieg yn paentio pedair golygfa fyw o ddrama Ibsen. Mae ‘Naws y Bore’ yn agor gydag alaw fugeiliol felodaidd y chwythbrennau i gyfleu’r wawr dros ddiffeithwch. Mae ‘Marwolaeth Åse’ yn treiddio i alar dwys Peer am ei fam, gyda thema linynnol alarus. Mae hudoliaeth ‘Dawns Anitra’ yn dod â rhythmau bywiog a swyn hudolus sy’n llawn dirgelwch a chyfaredd. Daw’r gyfres i ben gydag ‘Yn Neuadd Brenin y Mynydd’, sef ymdeithgan lechwraidd lawn tyndra sy’n ffrwydro’n uchafbwynt cerddorfaol ffyrnig wrth i Peer ffoi rhag llys yr ellyll-frenin.

Nodyn y rhaglen © Branwen Thistlewood

Carl Nielsen (1865–1931)

Concerto i’r Ffliwt (1926)

1 Allegro moderato
2 Allegretto un poco – Adagio ma non troppo –
Allegretto – Poco adagio – Tempo di marcia

Elizaveta Ivanovaffliwt

Mae’r Concerto i’r Ffliwt gan Carl Nielsen ymhlith y gweithiau enwocaf ar gyfer y ffliwt a’r gerddorfa, a hwn oedd ei waith mawr cyntaf ar ôl cwblhau ei Chweched Symffoni yn 1925. Ac yntau’n enwog yn rhyngwladol am ei gynnyrch symffonig, dechreuodd y cyfansoddwr o Ddenmarc symud ei ffocws cyfansoddi tuag at ddull symlach a modernaidd ar ôl 1922, a oedd, drwy gyd-ddigwyddiad, wedi dilyn diagnosis o gyflwr difrifol ar y galon a chymodi â’i wraig, Anne Marie. 

Lluniwyd y concerto fel y cyntaf mewn cyfres o weithiau ar gyfer aelodau Pumawd Chwyth Copenhagen, yn yr achos hwn ar gyfer ffliwtydd yr ensemble sef Holger Gilbert-Jespersen. Gweithiodd Nielsen ar y darn yn ystod ei deithiau yn yr Eidal a’r Almaen ym 1926, ond amharodd salwch ar ei gynnydd, gan ei orfodi i roi diweddglo dros dro ar gyfer y première ym Mharis ym mis Hydref.

Yr arweinydd yn y première hwnnw, yn y Société des Concerts du Conservatoire, oedd Emil Telmányi, mab-yng-nghyfraith Nielsen. Roedd y rhaglen yn cynnwys gweithiau Nielsen yn unig, a denwyd cynulleidfa o nifer o gydweithwyr Nielsen, gan gynnwys Maurice Ravel ac Arthur Honegger. Bu’r noson yn llwyddiant ysgubol: Canmolodd Honegger chwarae gwych y gerddorfa a thôn gelfydd y ffliwt, a galwodd Nielsen ei hun y digwyddiad yn ‘un o brofiadau gorau fy mywyd’.

Cafwyd première o fersiwn cyflawn o’r concerto ym mis Ionawr 1927 yng Nghymdeithas Gerddoriaeth Copenhagen. Mae’r gwaith yn neo-Glasurol o ran arddull, ac yn gwyro oddi wrth draddodiad drwy gael ei gyflwyno mewn dau symudiad yn hytrach na thri. Yn hytrach na defnyddio natur ystrydebol y ffliwt, sef bugeiliol neu debyg i gân, mae’r offeryn yn nwylo Nielsen yn ystwyth, yn ddeinamig ac yn feistrolgar, ond eto’n gallu bod yn ysgafn a swynol.

Mae’r symudiad agoriadol, sef Allegro moderato 11 munud egnïol, yn agor gydag adrannau ffliwt sy’n llifo’n rhydd ac y mae eu cymeriad byrfyfyr yn cael ei gynnal drwy gydol y darn. Mae ei gefndir cerddorfaol yn amrywio rhwng pwysau llawn y gerddorfa ac eiliadau o dryloywder tebyg i siambr yn ystod deialogau gyda chwythbrennau unigol eraill. Mae’r ail symudiad chwareus yn siglo rhwng tempos cyferbyniol, ac yn gorffen gyda darn disglair tebyg i gadenza ar gyfer y ffliwt, gyda llithrynnau trawiadol gan y trombôn bas bob hyn a hyn.

Nodyn y rhaglen © Branwen Thistlewood

EGWYL: 20 munud

Pyotr Tchaikovsky (1840–93)

Llyn yr Elyrch (1875–6) – darnau

1 Scène
2 Valse
3 Danses des cygnes
4 Scène
6 Danse Espagnole
7 Danse Napolitaine
5 Danse Hongroise
8 Mazurka
29 Scène Finale

Yn rhyfeddol, bu Llyn yr Elyrch yn fethiant yn ystod oes Tchaikovsky, ac yn y pen draw roedd y cyfansoddwr yn gobeithio y gallai achub y gerddoriaeth drwy ei defnyddio mewn cyfres gyngherddol. Goroesodd y bale, wrth gwrs, diolch i goreograffeg newydd gan Petipa ac Ivanov ar gyfer cynhyrchiad ym 1895, ddwy flynedd ar ôl marwolaeth Tchaikovsky. Yn eironig, pan gyhoeddwyd y gyfres yn 1900, gallai fanteisio ar lwyddiant newydd y bale, er nad yw’n hysbys ai’r cyfansoddwr a wnaeth y detholiad. Heno, byddwch yn clywed fersiwn estynedig o gyfres 1900, gyda rhai dawnsiau ychwanegol wedi’u cynnwys.

Mae’r gyfres wedi’i fframio gan ddwy gân sy’n seiliedig ar unawd obo enwog y bale, sef alaw fythgofiadwy sy’n crynhoi hiraeth, gobaith ac amhosibilrwydd hapusrwydd. Daeth yr ysbrydoliaeth o alaw yn Symffoni ‘Anorffenedig’ Schubert, yr oedd Tchaikovsky yn ei hedmygu’n fawr. Mae’r bale yn cysylltu soniaredd yr obo â’r arwres fregus, y Dywysoges Odette, ac mae’r offeryn yn cael ei ddefnyddio mewn sawl thema gysylltiedig. Daw Waltz y gyfres o olygfa ddawns yn Act 1 (parti pen-blwydd preifat y Tywysog Siegfried), lle mae Tchaikovsky yn plethu alawon yn ddeheuig â’i gilydd, gyda phob adran gerddorfaol – y llinynnau, y chwythbrennau a’r offerynnau pres – yn cael ei ddeunydd unigryw ei hun.

Yn y trydydd darn, clywn Ddawns yr Elyrch, sy’n swynol a diymhongar, o Act 2. Roedd y gerddoriaeth, gyda dau obo a basŵn doniol, yn awgrymu interliwd ysgafn, gan ysbrydoli Ivanov i greu dawns eiconig yr elyrch gyda phedwar dawnsiwr yn dal dwylo ac yn symud fel un. Daw’r darn canlynol, sef deialog dyner rhwng unawd ffidil a soddgrwth, o’r un olygfa ar lan y llyn. Mae’r ffidil yn cyfleu Odette, a’r soddgrwth yn cyfleu Siegfried, gyda cadenza ar y delyn yn ychwanegu at yr hud.

Daw’r pedair dawns nesaf o Act 3, lle mae pen-blwydd Siegfried yn cael ei ddathlu mewn arddull fwy mawreddog, gyda dawns wisgoedd. Mae’r math hwn o olygfa faletig yn gyfrwng ar gyfer dawnsiau nodweddiadol sy’n cynrychioli gwahanol wledydd, gan ehangu’r amrediad o arddulliau cerddorol, gwisgoedd a choreograffeg. Cyflwynir castanedau a thambwrinau ar gyfer rhythmau tanllyd bolero Sbaenaidd. Mae’r Ddawns Napolitanaidd yn seiliedig ar alaw werin a glywodd Tchaikovsky yn ystod ei deithiau, ac i roi cymeriad mwynach iddi, defnyddiodd gornet yn hytrach nag utgorn. Mae’r csárdás Hwngaraidd yn swnio fel fersiwn cerddorfaol o Rapsodi Hwngaraidd Liszt, gydag adran gyntaf araf ac yna dawns gyflym drawsacennog. Rhoddir cerddoriaeth lai egsotig i’r Mazurka, gan fod y ddawns hon o Wlad Pwyl wedi cael ei chymhathu’n llwyr yn ystafelloedd dawns fawreddog Ewrop.

Y darn olaf yw dadleniad stori’r bale. Caiff y brif thema ei thrawsnewid, mae i’w chlywed bellach mewn cywair mwyaf, gydag utgyrn beiddgar yn awgrymu trosgynoldeb yn hytrach na diweddglo hapus syml. Yn y plot gwreiddiol, mae’r arwr a’r arwres yn boddi yn y llyn yn ystod storm, sy’n eu rhyddhau rhag melltith y dewin.

Nodyn y rhaglen © Marina Frolova-Walker

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Os ydych chi wedi mwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’r cyngerdd hwn sydd ar y gweill. Fel aelod cyfredol o’r gynulleidfa, cewch brynu tocynnau ar ei gyfer am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.

Arlunio Cerddorol ac Argraffiadau Cyfareddol

Nos Iau 8/1/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Anders Hillborg Exquisite Corpse
Shostakovich 
Concerto Rhif 2 i’r Soddgrwth
Sibelius Cyfres Lemminkäinen

Ryan Bancroft arweinydd
Alban Gerhardt 
soddgrwth

CYFAREDDOL | HUDOLUS | MODERNAIDD

O Exquisite Corpse cyffrous Anders Hillborg – collage cerddorol beiddgar wedi’i ysbrydoli gan y gêm swrrealaidd – i Ail Goncerto pwerus Shostakovich i’r Soddgrwth a berfformir gan y digymar Alban Gerhardt, mae’r cyngerdd hwn yn siŵr o gyfareddu. Teithiwch ymhellach i grombil chwedloniaeth y Ffindir gyda chyfres Lemminkäinen Sibelius, sy’n cynnig cyfriniaeth ddirgel, dawnsiau gwerin hudolus, a harddwch ysbrydol ‘Alarch Tuonela’.

Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw

Bywgraffiadau

Jaime Martín arweinydd

Paul Marc Mitchell

Paul Marc Mitchell

Ar hyn o bryd mae’r arweinydd o Sbaen Jaime Martín yn Gyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Siambr Los Angeles, yn Brif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Melbourne ac yn Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae hefyd wedi dal swyddi Prif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Iwerddon (2019–24), Prif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Sbaen (2022–24) a Chyfarwyddwr Artistig a Phrif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Gävle (2013–22).

Ar ôl treulio blynyddoedd lawer fel ffliwtydd uchel ei barch, trodd at arwain yn llawn-amser yn 2013 ac yn fuan daeth galw mawr amdano ar y lefel uchaf.

Ymhlith uchafbwyntiau’r tymor diwethaf roedd Gŵyl Beethoven dros 11 diwrnod gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne, lle arweiniodd bob un o’r naw symffoni. Dychwelodd hefyd i arwain cerddorfeydd yn Sbaen, Prydain ac Awstralia ac ymgymerodd â thaith trwy Brydain ac Ewrop gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne gan gynnwys ymddangosiadau yn y BBC Proms a Gŵyl Ryngwladol Caeredin.

Yn nhymor 2025/26 mae’n arwain cerddorfeydd Symffoni Aalborg, Colorado, Euskadi, Gothenburg, Seland Newydd a Queensland, Cerddorfa Gŵyl Budapest, cerddorfeydd Ffilharmonig George Enescu a Strasbwrg, Cerddorfa Symffoni Radio Berlin ac RTVE Madrid.

Mae ei ddisgograffeg helaeth yn cynnwys recordiadau gyda cherddorfeydd Symffoni Barcelona, Gävle a Melbourne, Cerddorfa Cadaqués a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain.

Mae Jaime Martín yn Gynghorydd Artistig a chyn Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Santander ac yn Gymrawd y Coleg Cerdd Brenhinol, lle bu’n athro ffliwt.

Elizaveta Ivanovaffliwt

Mae Elizaveta Ivanova yn Brif Ffliwtydd Cyswllt Opera a Cherddorfa Amgueddfa Frankfurt ers 2022, ar ôl gwneud yr un swydd gyda Cherddorfa Symffoni St Petersburg rhwng 2017 a 2022. Yn 2024, cafodd ei dewis yn un o Artistiaid Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3.

Cafodd ei geni yn Estonia yn 1997 i deulu cerddorol, a dechreuodd astudio pan oedd hi’n ifanc. Ar ôl sawl blwyddyn o wersi piano, dechreuodd chwarae’r ffliwt pan oedd hi’n 12 oed. Rhwng 2009 a 2014, bu’n astudio gyda Vladimir Ushakov yn Lyceum St Petersburg, gan barhau â’i haddysg yn Conservatoire St Petersburg gydag Olga Chernyadeva a Ksenia Kuelyar. Yn 2021, aeth i Academi Gerdd Basel lle bu’n astudio gyda Felix Renggli a graddiodd o’r rhaglen feistr gydag anrhydedd.

Yn 2023, enillodd y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Genefa. Mae hi hefyd wedi ennill gwobrau mewn cystadlaethau o fri, gan gynnwys Cystadleuaeth Crusell, Cystadleuaeth Ryngwladol Cluj a Chystadleuaeth Maxence Larrieu. Fel aelod o Chwythbrennau St Petersburg, enillodd wobrau hefyd mewn sawl cystadleuaeth cerddoriaeth siambr yn Rwsia.

Mae Elizaveta Ivanova yn perfformio’n rheolaidd mewn grwpiau cerddoriaeth siambr, ac fel unawdydd mae’n ymddangos gyda cherddorfeydd rhyngwladol gan gynnwys cerddorfeydd Ffilharmonig Transylvania a Frankfurt a gwyliau fel Gŵyl Lubljana a Gŵyl Ffliwtiau Awstria, ymysg eraill.

 

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Tom Aldren
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Kerry Gordon-Smith
Emilie Godden
Alejandro Trigo
Carmel Barber
Ruth Heney **
Anna Cleworth
Alefredo Reyes Logounova
Gary George-Veale

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Ros Butler
Sheila Smith
Michael Topping
Katherine Miller
Joseph Williams
Beverley Wescott
Vickie Ringguth
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines **
Laurence Kempton

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Laura Sinnerton
Robert Gibbons
Anna Growns
Lowri Taffinder
Catherine Palmer
Lydia Abell

Soddgrythau
Alice Neary ‡
Raphael Lang
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Keith Hewitt
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Christopher Wescott
Emma Prince
Thea Sayer
Antonia Bakewell

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Ellen Wilkinson

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
William White

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
David Buckland

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Jesse Durkan 
Flora Bain
Tom Taffinder
Carys Williams

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †
Dean Wright

Trombonau
Dafydd Thomas †
Liam Belford

Trombôn Bas
Mark Frost

Tiwbau
Anders Swane
Patrick Miller

Timpani
Chris Thomas

Offrynnau Taro
Harry Lovell Jones 
Andrea Porter
Sam Jowett
Sarah Mason
Riccardo Fabisiak

Y Delyn
Eluned Pierce

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Prentis Marchnata Mya Clayden
Cynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications