Beethoven 5

Dydd Sul 21/9/25, 3.00pm

Glan yr Afon, Casnewydd

Grace Williams
Hen Walia 10’

Antonín Dvořák
Concerto i’r Ffidil yn A leiaf 32’

EGWYL: 20 munud

Ludwig van Beethoven
Symffoni Rhif 5 yn C leiaf 31’

Nil Venditti arweinydd
Inmo Yang ffidil

Cyflwyniad

Croeso i’r cyngerdd heddiw, ac i ddechrau'r tymor newydd. Mae'n bleser gennym groesawu Nil Venditti yn ôl i arwain rhaglen sy'n dathlu seinfyd Tsiecaidd dihafal Dvořák ac sy'n cloi gydag un o'r gweithiau enwocaf erioed yn y canon clasurol.

Ond, rydyn ni'n dechrau yn nes at adref, gyda Hen Walia gan Grace Williams, gwaith a fwriadwyd fel agorawd i opera na wnaeth hi erioed ei chwblhau. Dyma un o'r darnau cyntaf a wnaeth Williams yn enwog, ac mae ei hyder llwyr yn ei harddull yn drawiadol.

Roedd y Concerto i'r Ffidil gan Dvořák wedi'i fwriadu'n wreiddiol ar gyfer yr enwog Joseph Joachim, ond roedd arloesiadau ffurfiol y cyfansoddwr yn ormod i'r feiolinydd, ac yn lle hynny fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf gan y pianydd meistrolgar Tsiecaidd, František Ondříček. I'w chwarae heddiw, mae Inmo Yang yn dychwelyd ar ôl gwneud ymddangosiad cyntaf mor nodedig gyda BBC NOW.

Prin fod angen cyflwyno Pumed Symffoni Beethoven, ond yr hyn sy'n rhyfeddol – dros ddwy ganrif ar ôl iddi gael ei pherfformio am y tro cyntaf yn 1808 – yw ei grym dramatig, o'r agoriad enwog tan yr eiliadau herfeiddiol olaf.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Grace Williams (1906–77)

Hen Walia(1930, diw. 1936)

Ar ôl cwblhau ei hastudiaethau yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn 1929, dyfarnwyd ysgoloriaeth i Grace Williams i astudio yn Fienna gyda’r cyfansoddwr blaenllaw o Awstria, Egon Wellesz. Pan oedd hi dramor, clywodd berfformiad o opera werin boblogaidd Jaromír Weinberger o’r Weriniaeth Tsiec, Švanda Dudák (‘Schwanda y Bagbibydd’, 1927) a chafodd ei hysbrydoli i ysgrifennu opera werin Gymreig ei hun. Er na chafodd honno ei gorffen erioed, cwblhaodd ei hagorawd yn 1930. Mae Hen Walia yn dwyn ysbrydoliaeth gan alawon gwerin traddodiadol Cymreig, gan gynnwys yr hwiangerdd Huna Blentyn.

Perfformiwyd Hen Walia am y tro cyntaf erioed gan Gerddorfa Symffoni Llundain o dan arweiniad E. T. Davies yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor ar 6 Awst 1931. Darlledwyd y cyngerdd yn fyw ar Raglen Genedlaethol y BBC ledled y DU hefyd. Er y byddai poblogrwydd ei Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940) yn taflu’r agorawd i'r cysgod yn y pen draw, roedd y gwaith yn arwyddocaol o ran dod ag enw Williams i sylw’r cyhoedd yn eang, a dyma’r cyntaf o’i darnau cerddorfaol i’r BBC eu perfformio a’u darlledu’n rheolaidd yn ystod y 1930au.

Nodyn y rhaglen © Rhiannon Mathias

Antonín Dvořák (1841–1904)

Concerto i’r Ffidil yn A leiaf, Op. 53 (1879)

1  Allegro ma non troppo –
2  Adagio ma non troppo
3  Allegro giocoso, ma non troppo

Inmo Yang ffidil

Ym 1878, fe wnaeth Fritz Simrock, ar ôl cyhoeddi Deuawdau Morafaidd Dvořák y set gyntaf o Ddawnsfeydd Slafonaidd (y ddau ddarn wedi'u hanelu'n bennaf at y farchnad gerddoriaeth ddomestig), roi comisiwn o'r diwedd i Dvořák am waith mawr: y Concerto i'r Ffidil. Erbyn hyn, roedd y feiolinydd Joseph Joachim hefyd yn ymddiddori'n frwd yn ei gerddoriaeth a chynigiodd ei helpu gyda rhan y ffidil. Ym mis Gorffennaf 1879, ymwelodd Dvořák â Joachim yn Berlin, gan fynd â'r brasluniau cyntaf o'r concerto gydag ef. Nid oedd adborth Joachim wedi'i gyfyngu i'r rhan unawdol yn unig, roedd hefyd yn ymestyn i strwythur y darn. Gan mai traddodiadolwr ydoedd yn y bôn, câi ei boeni gan ymadawiadau'r concerto oddi wrth uniongrededd ffurfiol (megis absenoldeb cyflwyniad cerddorfaol hir cyn i'r unawdydd ymuno am y tro cyntaf, a chysylltu'r ddau symudiad cyntaf).

Roedd Dvořák yn amharod i ildio rhywbeth a oedd, iddo ef, yn rhesymeg ffurfiol hanfodol y gwaith, wedi'i bennu gan natur y deunydd cerddorol. O hyn ymlaen, roedd diddordeb Joachim yn y concerto fel pe bai’n oeri. Dros y blynyddoedd nesaf, ymgynghorodd y ddau ddyn ragor â’i gilydd, ond erbyn hydref 1882 daeth yn amlwg eu bod wedi cytuno i anghytuno ynghylch y concerto. Dywedodd Dvořák wrth Simrock fod siâp y gwaith bellach wedi'i gwblhau ac y gellid trefnu perfformiad. Ond er bod y cyfansoddwr wedi llwyddo i ddarbwyllo ei gyhoeddwr o resymeg agweddau mwy anghonfensiynol y concerto, mae'n ymddangos na wnaeth Joachim, y cyflwynwyd y concerto iddo, erioed ei chwarae.

Rhoddwyd y perfformiad cyntaf, y bu oedi mawr yn ei gylch, ym mis Hydref 1883 gan y chwaraewr ffidil ifanc Tsiecaidd, František Ondříček. Diolch i ddawn angerddol Dvořák o ddyfeisgarwch melodaidd a synnwyr cerddorol Tsiecaidd digamsyniol, bu’r concerto yn llwyddiant ar unwaith a chyn bo hir daeth yn rhan annatod o'r repertoire, gyda chynulleidfaoedd ym mhob man yn ymateb yn frwd i'w fywiogrwydd rhythmig a'i joie de vivre digymell. Mae'r rhain yn amlwg ar y dechrau, lle mae'r cyflwyniad cerddorfaol byr, a nodweddir gan egni tebyg i gerddoriaeth werin, yn cael ei ddilyn gan unawd ffidil y mae ei egni rhythmig cychwynnol yn ildio'n gyflym i ddarn rhapsodïaidd o hyfrydwch tyner. Mae tawelwch y symudiad araf sydd yr un mor hyfryd yn cael ei aflonyddu'n fyr gan utgyrn bygythiol yn yr adran ganol, ac mae'r gwaith yn dod i ddiweddglo bywiog a llawen gan yr Allegro giocoso terfynol sydd wedi'i ysbrydoli gan y furiant, sef dawns werin Tsiecaidd fywiog.

Nodyn y rhaglen © Paula Kennedy

EGWYL: 20 munud

Ludwig van Beethoven (1770–1827)

Symffoni Rhif 5 yn C leiaf, Op. 67(1807–8)

1 Allegro con brio
2 Andante con moto
3  Allegro –
4  Allegro

Prin iawn yw’r themâu cerddorol sydd mor enwog ag agoriad Pumed Symffoni Beethoven, ac sydd wedi cael eu hatgynhyrchu i’r fath raddau – o gael eu samplu mewn caneuon disgo i’w defnyddio fel cân ambell gloch drws. Un peth rhyfedd sydd wedi deillio o hyn yw ei bod hi'n anodd iawn i ni, fel gwrandawyr yn yr 21ain ganrif, amgyffred y broblem fawr y byddai'r gynulleidfa yn y première yn 1808 wedi'i chael wrth glywed y barrau cychwynnol trawiadol hynny. Pedwar nodyn (heb gordiau), curiad gwag a saib … pedwar nodyn (heb gordiau), curiad gwag a saib … Ym mha gyweirnod mae’r darn? Sawl curiad sydd yn y bar? Mae Beethoven yn ein gadael ni’n hofran yn yr awyr, heb unrhyw syniad ble gallai'r ddaear fod. Rydyn ni i gyd bellach yn gwybod bod y darn hwn yn C leiaf, ond nid yw'r nodau agoriadol yn gwneud hynny'n glir. Gallech chi chwarae cord E feddalnod fwyaf oddi tanynt yn ddigon hawdd, a fyddai'n swnio'n hollol wahanol. A gwyliwch yr arweinydd pan fydd y darn yn dechrau: y peth cyntaf sydd wedi'i ysgrifennu ar y sgôr yw tawnod: tawelwch. I ddangos i'r gerddorfa pryd maen nhw'n dechrau chwarae, mae'n rhaid i chi’n gyntaf farcio curiad lle nad ydyn nhw'n chwarae.

A dweud y gwir, mae'r symudiad cyntaf i gyd yn llawn disgwyliadau dryslyd: mae'r motiff pedwar nodyn yn ymddangos ym mhob man ond yn aml yn mynd â ni i gyfeiriadau annisgwyl, gan arallgyfeirio’r gerddoriaeth yn ddirybudd i grwydro tuag at gyweiriau pell neu ddatblygiadau newydd. Dyma pam mae'r finale, pan ddaw, mor daer gyda’i ddiweddglo hir o gordiau C fwyaf grymus ac ailadroddus. Yma yw ein cartref, yma rydyn ni’n teimlo ein bod wedi datrys a chyrraedd y cywair rydyn ni i fod ynddo. Mae'n cydbwyso’r symudiad cyntaf dychrynllyd o ansefydlog.

Rhwng y ddau symudiad allanol hyn ceir Andante con moto cain, sy’n rhoi sylw blaenllaw i'r chwythbrennau, a scherzo prudd yn C leiaf. Yn y naill a'r llall ceir eiliadau o ddeinameg eithafol (gan gynnwys ambell adran lanw annisgwyl o rymus yn yr Andante, sydd fel arall yn dawel); ac mae'r scherzo hefyd yn rhoi sylw cadarn i’r cyrn, sy’n seinio rhythm ffigur cychwynnol y darn. Yn wir, mae'r motiff bach hwnnw yn aros gyda ni drwy gydol y darn, yn clymu popeth at ei gilydd.

Mae brasluniau cynharaf Beethoven ar gyfer y symffoni hon yn dyddio’n ôl i 1804, ond yn 1807-8 y cwblhaodd y rhan fwyaf o'r gwaith. Er i'r darn gael ei berfformio am y tro cyntaf yn 1808, ni ymddangosodd yr adolygiad pwysicaf o'r darn tan 1810: erthygl hir gan yr awdur a'r cerddor E. T. A. Hoffmann. Tynnodd sylw at natur hynod 'Ramantaidd' cerddoriaeth offerynnol Beethoven - dyma enghraifft gynnar iawn o'r ansoddair hwn yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio cerddoriaeth. Aeth ymlaen i ddweud: ‘Mae’n sicr o gyffroi a chydio yng nghalonnau pob gwrandäwr sensitif a’u dal tan y cord olaf un, gan wneud iddynt deimlo rhyw hiraeth anghyfarwydd ac anesmwyth sy’n para’.

Nodyn y rhaglen © Katy Hamilton

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’n cyngherddau nesaf. Fel un sydd eisoes yn aelod o’n cynulleidfa, gallwch brynu’r tocynnau hyn am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.

Ymdeithio ac Ymhyfrydu

Nos Iau 25/9/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Schumann, trefn. Donal Bannister Pedair Ymdeithgan
Finzi Concerto i’r Clarinét
Franck Symffoni yn D leiaf

Gergely Madaras arweinydd
Nicholas Carpenterclarinét

GOGONEDDUS | CYNNES | LLAWEN

Mewn rhaglen sy’n gosod ein cerddorion gwych ar flaen y llwyfan, fe gychwynnwn ein tymor 2025-26 yn Neuadd Hoddinott y BBC gyda sioe gan ein hadran bres – mae Pedair Ymdeithgan Schumann, a ysgrifennwyd yn wreiddiol ar gyfer piano unigol, yn agoriad grymus i’n cyngerdd yn y trefniant hwn gan ein Prif Trombonydd Donal Bannister. Wedyn cawn Goncerto Finzi i’r Clarinét, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Henffordd yng Ngŵyl y Tri Chôr ym 1949, ac sy’n dal i fod yn un o’i weithiau enwocaf a mwyaf poblogaidd. I berfformio’r gwaith teimladwy a meistrolgar hwn bydd Prif Glarinetydd Cerddorfa Gymreig y BBC, Nicholas Carpenter, yn camu i’r sbotolau.

Yn waith sy’n agos at galon ein harweinydd heno, Gergely Madaras, y Symffoni yn D leiaf oedd gwaith mawr olaf Franck, a’i unig symffoni. O themâu telynegol tyner llawn llawenydd y symudiad cyntaf i ail symudiad cymysg sy’n gyfuniad o linynnau pizzicato ysgafn o dan unawd hudolus ar y cor anglais a dau drio scherzo, cyrhaeddwn lawenydd ysgubol y symudiad olaf sy’n ailweithio themâu blaenorol mewn modd dyfeisgar iawn i goroni’r symffoni fendigedig hon.

Dathlu Shostakovich

Nos Wener 03/10/25, 7:30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Shostakovich Concerto Rhif 1 i’r Ffidil
Shostakovich Symffoni Rhif 7, ‘Leningrad’

Ryan Bancroft arweinydd
Clara-Jumi Kangffidil

GRYMUS | ARWROL | MEISTROLGAR

Hanner can mlynedd ar ôl ei farwolaeth, cawn ddathlu meistrolaeth Shostakovich mewn cyngerdd sy’n cynnwys ei Goncerto i’r Ffidil a’i Seithfed Symffoni nerthol dan faton ein Prif Arweinydd poblogaidd, Ryan Bancroft.

Mae’r concerto yn arddangosiad artistig ar raddfa aruthrol, o’i Nocturne agoriadol tywyll, thrist, i Scherzo sydd bron yn ddieflig gyda’i ddawns yn arddull y Klezmer Iddewig ar gyfer y clarinét; ac o’r Passacaglia mawreddog i’r Bwrlésg arbennig o feistrolgar. Mae ei Symffoni ‘Leningrad’ yr un mor bwerus; dyma waith grymus a phwysfawr sy’n troedio’r llinell rhwng disgwyliadau Stalin-aidd a mynegiant personol am ryfel.

Bywgraffiadau

Nil Vendettiarweinydd

Alessandro Bertani

Alessandro Bertani

Mae’r arweinydd Eidalaidd-Twrcaidd, Nil Venditti, yn prysur sefydlu perthynas â cherddorfeydd ac ensembles mawr ym mhedwar ban byd, gan gynnwys y Royal Northern Sinfonia, y mae hi wedi bod yn Brif Arweinydd Gwadd arni ers tymor 2024/25.

Y tymor hwn, mae hi’n perfformio ledled y byd. Mae ei huchafbwyntiau’n cynnwys nifer o gyngherddau yn y DU, lle mae’n gweithio’n helaeth gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, yn ogystal ag ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa’r Philharmonia a Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham. Mae hi hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Barbican yn Llundain gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC. Mae hi hefyd yn ymddangos gyda’r Deutsche Symphonie-Orchester Berlin, y Beethoven Orchester Bonn, y Musikalische Akademie Mannheim, Cerddorfeydd Symffoni Bilbao a Quebec a Cherddorfa Ffilharmonig Tampere, ymysg eraill.

Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Radio’r Ffindir, Cerddorfa Ffilharmonig y BBC ac Ensemble Cerddorfa Kanazawa, yn ogystal â dychwelyd i Proms y BBC, Gŵyl Schleswig-Holstein, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, a’r Deutsche Kammerphilharmonie Bremen.

Mae hi’n cyfuno cysylltiad cryf â repertoire Clasurol a Rhamantaidd cynnar gyda diddordeb arbennig mewn cyfansoddwyr o Dwrci ac o’r Eidal. Mae hi’n parhau i gryfhau ei henw da yn y tŷ opera, ac mae wedi arwain operâu fel Così fan tutte Mozart a The Lighthouse Peter Maxwell-Davies. Yr haf nesaf, bydd hi’n arwain Macbeth ar gyfer Opera Gŵyl Longborough.

Astudiodd Nil Venditti arwain ym Mhrifysgol y Celfyddydau, Zurich gyda Johannes Schlaefli, yn ogystal â mynychu’r Academi Arwain sy’n gysylltiedig â Gŵyl Gerddoriaeth Pärnu o dan Paavo Järvi, Neeme Järvi a Leonid Grin. Cyn hyn, bu hi’n astudio’r soddgrwth yn yr Eidal gyda Francesco Pepicelli.

Inmo Yangffidil

Sangwook Lee

Sangwook Lee

Mae Inmo Yang wedi dod i’r amlwg fel un o feiolinwyr mwyaf nodedig ei gyfnod.

Yn ddiweddar, bu’n perfformio am y tro cyntaf yng nghyfres Proms y BBC, a hynny’n llwyddiannus iawn, gyda Marie Jacquot. Y tymor hwn, bydd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfeydd Symffoni Dinas Birmingham, Munich, Radio Prag, SWR a Taipei, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, Cerddorfa Mozarteum Salzburg, Cerddorfa Siambr Zurich, Konzerthausorchester Berlin a Cherddorfa Macao. Mae hefyd yn dychwelyd at Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Festival Strings Lucerne ac mae’n ymddangos yn Neuadd Carnegie ar gyfer cyngerdd siambr gyda’r pianydd Kirill Gerstein.

Mae wedi ymddangos fel unawdydd gyda cherddorfeydd ffilharmonig Dresden, Helsinki, Hong Kong, Los Angeles, Efrog Newydd, y Royal, Royal Stockholm a Seoul, cerddorfa symffoni’r BBC, cerddorfa Symffoni Genedlaethol Denmarc a Cherddorfa Symffoni Radio’r Ffindir, Orchestre National de France, y Gerddorfa Suisse Romande ac Unawdwyr Baróc Berlin, ymysg eraill. Mae wedi cydweithio â llawer o arweinwyr mwyaf uchel eu parch y dydd, gan gynnwys Marin Alsop, Myung-whun Chung, Roberto González-Monjas, Hannu Lintu, Tianyi Lu, Fabio Luisi, Jonathan Nott, Sakari Oramo, Kristiina Poska, John Storgårds, Osmo Vänskä a Jaap van Zweden.

Daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf pan enillodd y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Paganini 2015 yn Genoa. Yn 2022, cadarnhaodd ei enw da gyda’r wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Jean Sibelius yn Helsinki. Mae wedi rhyddhau dau albwm, a’r un diweddaraf yw 24 Caprices Paganini.

Astudiodd gyda Namyoon Kim ym Mhrifysgol Celfyddydau Genedlaethol Korea, Miriam Fried yn y New England Conservatory of Music yn Boston ac Antje Weithaas yn Academi Kronberg a’r Hanns Eisler Hochschule für Musik yn Berlin.

Mae Inmo Yang yn chwarae ffidil ‘Carrodus’ a wnaed gan Giuseppe Guarneri del Gesù yn 1743, ar fenthyg yn hael gan aelod o Gymdeithas Stretton.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Róisín Verity blaenwr gwadd
Nick Whiting +blaenwr cyswllt  
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus 
Suzanne Casey
Carmel Barber 
Kerry Gordon-Smith 
Emilie Godden 
Anna Cleworth 
Ruth Heney **
Žanete Uškāne
Alejandro Trigo

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie # 
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines **
Laurence Kempton

Fiolâu
Rebecca Jones *
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton 
Lydia Abell
Carl Hill

Soddgrythau
Pedro Silva
Raphael Lang 
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes

Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Emma Prince

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †**

Oboau
Steve Hudson *
Russell Coates 

Cor anglais
Russell Coates

Clarinetau
Lenny Sayers +**
William White †

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Llinos Owen
Alex Davidson

Isfasŵn
Alex Davidson ‡ 

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Tom Taffinder 
Flora Bain
Dave Ransom

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel

Trombôn
Donal Bannister *

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Matt Lait

Timpani
Ignacio Molins

Offrynnau Taro
Andrea Porter ‡
Rhydian Griffiths ‡

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Daniel Williams
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol swydd wag

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications