

Chwedlau a Chariad
Dydd Sadwrn 11/1/25, 3.00pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Dydd Sul 12/1/25, 3.00pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Leoš Janáček
Y Llwynoges Fach Gyfrwys – y gyfres23’
Bohuslav Martinů
Concerto i’r Soddgrwth Rhif 130’
EGWYL: 20 munud
Igor Stravinsky
Petrushka(fersiwn 1947) 34’
Antony Hermusarweinydd
Laura van der Heijden soddgrwth
Mae’r cyngerdd yng Nghaerdydd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3, i’w ddarlledu yn y dyfodol ar In Concert; a bydd ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Llun: Kirsten McTernan
Llun: Kirsten McTernan
Blwyddyn newydd dda! Croeso i’r cyngerdd heno. Rydym ni’n falch iawn o groesawu Antony Hermus mewn rhaglen sy’n fôr o liwiau – y tonig gorau ar gyfer nosweithiau tywyll hir mis Ionawr.
Byddwn yn dechrau gyda’r gyfres o Y Llwynoges Fach Gyfrwys gan Janáček - opera angerddol lle mae’r cyfansoddwr yn cyfuno ei hoffter o straeon dramatig ag atgofion o’i blentyndod a dreuliodd yn ucheldiroedd gwledig Gogledd Morafia.
Y llwyfan hefyd yw man cychwyn y darn olaf heno: Petrushka gan Stravinsky a ysgrifennwyd yn wreiddiol ar gyfer Ballets Russes Sergey Diaghilev lle mae’n cyfleu bwrlwm ac egni Ffair Ynyd yn Rwsia yn ei ffordd ddihafal ei hun.
Yn y canol, bydd Laura van der Heijden yn perfformio Concerto Cyntaf Martinů i’r Soddgrwth. A hithau ond yn ei hugeiniau, mae eisoes wedi cael gyrfa ryfeddol ar ôl ennill cystadleuaeth Cerddor Ifanc y BBC pan oedd hi’n 15 oed.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Leoš Janáček(1854–1928), trefn. Charles Mackerras (1925–2010)
Y Llwynoges Fach Gyfrwys – y gyfres (1921–3, trefn. 2006)

1 Andante
2 Andante
Roedd diddordeb brwd Leoš Janáček mewn byd natur a rythmau’r tymhorau yn deillio o’i blentyndod ym mhentref hyfryd Hukvaldy yn ucheldiroedd Beskydy yng Ngogledd Morafia. Taniwyd dychymyg y llanc gan adfeilion Rhamantaidd Castell Hukvaldy a’r parc o’i amgylch a oedd yn gyforiog o fywyd gwyllt.
Ar ôl i’w rieni sylweddoli bod angen gwell addysg ar eu plentyn dawnus nag y gallai Hukvaldy ei gynnig, cafodd ei anfon i’r ysgol yn y brifddinas ranbarthol, Brno. Ac er i Janáček ymgolli’n llwyr ym mywyd cerddorol y ddinas, roedd ganddo hiraeth mawr gydol ei oes am Hukvaldy a chefn gwlad hardd, bryniau ysblennydd a choedwigoedd dirgel Gogledd Morafia.
Pan oedd yn ei chwedegau hwyr, daeth Janáček ar draws cyfres o gartŵns ym mhapur newydd Brno Lidové noviny (‘Newyddion y Bobl’) yn darlunio anturiaethau llwynoges ifanc – ac fe wirionodd ar y straeon. Roedd hanesion y llwynoges eofn Bystrouška (Clustiau-Siarp) wedi tanio ei ddychymyg cerddorol a’i gludo’n ôl i dirweddau ei ieuenctid. ‘Llwyddais i bortreadu Bystrouška gan feddwl am y goedwig yn nhristwch blynyddoedd hwyrach bywyd’ meddai’r cyfansoddwr wrth sôn am Y Llwynoges Fach Gyfrwys (1921–3), yr opera a gafodd ei hysbrydoli gan ddarluniau hyfryd yr arlunydd Stanislav Lolek a’r testun a grëwyd gan yr ysgrifennydd Rudolf Těsnohlídek. Er bod Janáček ei hun yn cyfeirio at dristwch, yr opera hon yw un o’i ddarnau mwyaf llawen a chalonogol – yn ddathliad lliwgar o ryfeddodau natur a byd hudolus coedwigoedd Morafia.
Yn y bôn, mae’r gyfres yn fersiwn i gerddorfa yn unig o gerddoriaeth Act 1. Mae’r rhan gyntaf yn cyd-fynd â Golygfa 1 sy’n ein cyflwyno i greaduriaid y goedwig – gan gynnwys criciedyn, sioncyn y gwair, gwybed, mosgito a gwas y neidr glas – yn sleifio allan o’u cuddfannau ac yn dawnsio o gwmpas y cipar sy’n hepian cysgu. Mae’r gerddoriaeth a ysgrifennodd Janáček ar gyfer yr olygfa hon – sy’n gorffen wrth i’r cipar ddal y llwynoges ifanc – ymysg y mwyaf smala a hudolus a gynhyrchodd erioed. Mae ail ran y gyfres yn cyfateb i Olygfa 2 yn darlunio bywyd y llwynoges mewn caethiwed yng nghartref y cipar a sut y llwyddodd i ddianc yn ôl i’r gwyllt.
Nodyn y rhaglen © Paula Kennedy
Bohuslav Martinů(1890–1959)
Concerto Rhif 1 i’r Soddgrwth yn D fwyaf (1930, diw. 1939, 1955)

1 Allegro moderato
2 Andante moderato
3 Allegro
Laura van der Heijdensoddgrwth
Roedd Martinů yn adnabyddus iawn yng ngwlad Tsiec fel artist, ond yn eironig ddigon, dim ond ar ôl iddo symud i Baris yn ei dridegau cynnar y daeth o hyd i amgylchedd diwylliannol lle’r oedd yn teimlo y gallai ffynnu fel cyfansoddwr. Gyda sefydlu gwladwriaeth Tsiecoslofacia annibynnol yn 1918, dechreuwyd edrych y tu allan i ffiniau Canoldir Ewrop am ysbrydoliaeth ddiwylliannol, ac roedd llawer o aelodau’r avant-garde yn y wlad yn gweld diwylliant Ffrainc fel rhywbeth i’w groesawu fel gwrthbwynt i’r difrifoldeb a’r cymhlethdod Tewtonig.
Pan symudodd o Tsiecoslofacia yn 1923, roedd Martinů wedi datblygu hoffter o’r hyn yr oedd yn ei weld fel delfrydau nodweddiadol o Ffrainc o ran eglurder a manylder, a dechreuodd archwilio’n frwd y llifoedd artistig a welodd ym Mharis ond nad oeddent wedi cyrraedd Prague ar y pryd. Bu’n arbrofi gyda jazz, dadaiaeth a swrealaeth, ac yna’n sydyn cafodd ei ddenu at neo-Glasuriaeth a ddaeth yn ffasiynol yn ystod yr 1920au yn enwedig gan gyfansoddwyr fel Stravinsky. Yn achos Martinů, roedd edrych yn ôl i’r gorffennol am ysbrydoliaeth yn nodwedd bersonol: y ffurf a oedd yn cyfateb agosaf i’w ddelfryd esthetig ei hun oedd y concerto grosso o’r ddeunawfed ganrif, gyda’i gwrthgyferbyniadau clir ac adeiladwaith rhesymegol, felly mae’n debyg taw neo-Faróc yw’r label mwyaf addas i’w gerddoriaeth yn hytrach na neo-Glasurol.
Y gwaith cyntaf i arddangos nodweddion yr arddull hon oedd y Concerto Rhif 1 i’r Soddgrwth. Sgoriwyd y fersiwn wreiddiol ar gyfer cerddorfa fach a phiano. Yn 1939, ail-sgoriodd Martinů y concerto ar gyfer cerddorfa lawn, ond ar ôl clywed darllediad ohono yn 1955 daeth i’r casgliad bod anghydbwysedd difrifol yn y fersiwn hon, felly dyma fynd ati i ail-ysgrifennu, gan ollwng y rhan i’r piano a theneuo’r sgôr fel bod llai o risg y byddai’r unawdydd yn cael ei lethu. Mae’r rhannau allanol yn bennaf yn arddangos yr arddull neo-Faróc prysur, ond weithiau bach mae naws delynegol Tsiecaidd yn codi i’r wyneb, yn enwedig yn y symudiad araf emosiynol, lle mae’n ymddangos bod Martinů yn sianelu ysbryd gweithiau Dvořák ar gyfer yr unawd soddgrwth.
Nodyn y rhaglen © Paula Kennedy
EGWYL: 20 munud
Igor Stravinsky(1882–1971)
Petrushka(1911, diw. 1947)

1 Y Ffair Ynyd
2 Cell Petrushka
3 Trigfan y Mŵr
4 Y Ffair Ynyd
Mae’n bosib iawn mai’r enw cywir ar gyfer y gwaith yr ydym ni’n ei adnabod heddiw fel Petrushka gan Stravinsky yw ‘Pierrot’. Roedd hyn yn rhywbeth y sylwodd Stravinsky ei hun arno hyd yn oed. Yn dilyn y llwyddiant anhygoel a gafodd gyda Yr Aderyn Tân ar gyfer Ballets Russes yr impresario Sergey Diaghilev yn 1910, cafodd ei gomisiynu’n syth ar gyfer darn dilynol a dechreuodd feddwl am y sioeau pyped stryd a gofiai fel plentyn. I ddechrau, roedd Stravinsky yn ystyried Petrushka fel rhyw fath o goncerto i’r piano a’r gerddorfa – ac mae olion i’w gweld o hyd yn rhan flaenllaw yr allweddellau yn y sgôr terfynol – ond cafodd ei berswadio gan Diaghilev am botensial theatrig y darn. Serch hynny, wrth ddatblygu’r stori gyda’r dylunydd a’r awdur o Rwsia, Alexandre Benois, mynegodd Stravinsky bryderon bod y clown trasig a oedd gan Benois mewn golwg fel y prif gymeriad a theitl y darn yn llawer tebycach i’r Pierrot pathetig na’r cynllwyniwr direidus Petrushka. Yn rhyfedd ddigon, ac yn eithaf dryslyd, mae’r ddau gymeriad yn rhannu’r un enw (yn llythrennol ‘Peter bach’). Petrushka yw’r cymeriad cyfatebol yn Rwsia o’n Mr Punch ni sy’n curo ei wraig, sy’n feddwyn gwyllt ac sy’n ymladd â chrocodeils, o’i gymharu â’r Pierrot â wyneb gwelw, mewn pantalŵns, sy’n glaf o serch. (Dychwelodd Stravinsky at gymeriadau Mr Punch/Petrushka yn ei ymgnawdoliad o Pulcinella yn y commedia dell’arte Eidalaidd mewn sgôr bale arall naw mlynedd yn ddiweddarach.)
Ar y llaw arall, dadleuodd Benois efallai fod Stravinsky wedi drysu rhwng y cymeriadau o garnifalau ei ieuenctid yn ei atgofion. Beth bynnag, dyma’r teitl sy’n para hyd heddiw. Ac mae’n debyg nad oedd neb wedi poeni rhyw lawer yn y premiere o Petrushka ar 13 Mehefin 1911 yn y Theatr Châtelet ysblennydd ym Mharis.
Ond os oedd Yr Aderyn Tân yn drwm dan ddylanwad traddodiadau hanesyddol Rwsiaidd Stravinsky, fel disgybl i Rimsky-Korsakov ac edmygydd o Tchaikovsky, yna yn Petrushka gwnaeth ymdrech fwriadol i ddatblygu ei lais unigryw ei hun. Mae’r blociau o gerddoriaeth beiddgar yn gwrthdaro â’i gilydd ac mae’r rhythm yn rym mynegiannol angerddol ynddo’i hun. Gwthiodd y ffiniau ymhellach fyth yn Defod y Gwanwyn dwy flynedd yn ddiweddarach.
Mae stori Benois ar gyfer Petrushka yn ddigon syml ac mae sgôr Stravinsky yn ei hadrodd mewn manylder sinematig bron. Mae’n dechrau yng nghanol prysurdeb y Ffair Ynyd yn St Petersburg gyda hebogyddion, dawnswyr a hyrdi-gyrdi yn rhan o’r bwrlwm. Mae sŵn y drwm yn cyhoeddi dyfodiad y Pyped-feistr a’i theatr marionette. Cawn ein cyflwyno i’r tri phyped – y clown trasig Petrushka, y Balerina hardd a’r Mŵr golygus. Wrth i ‘Ddawns Rwsiaidd’ Stravinsky ddechrau chwarae, mae’r cymeriadau’n dod yn fyw ac mae’r cynllwynio’n dechrau. Er bod y Balerina’n fflyrtio gyda Petrushka i ddechrau, caiff ei wrthod ar ôl iddo ddatgelu ei gariad ati. Fodd bynnag, pan fydd y clown truenus yn ei gweld hi’n dawnsio gyda’r Mŵr, mae Petrushka yn ei herio ac mae’r ddau yn erlid ei gilydd o amgylch y ffair.
Yna dychwelwn at brysurdeb y ffair a’r prif atyniad yw dawns droetrwm yr arth ar gadwyn i gyfeiliant y tiwba a sgrech y clarinét. Serch hynny, mae’r Mŵr a Petrushka yn torri ar draws y ddawns; ond caiff y clown druan ei drywanu gan gleddyf pengam y Mŵr. Yna, mae’r Pyped-feistr yn codi ei gorff llipa i fyny i’r awyr i atgoffa’r gynulleidfa cegrwth mai dim ond pyped ydyw. Ond yn niweddglo iasol y bale, mae ysbryd Petrushka yn ymddangos ar do’r theatr bypedau yn chwerthin yn afreolus i sain y ddau utgorn. Daw’r sioe i ben yn sydyn gyda’r gynulleidfa rhwng dau feddwl beth oedd yn wir neu beidio.
Nodyn y rhaglen © David Kettle
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant …
Grym Gwerin
Nos Iau 1/5/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Nos Wener 2/5/25, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Holst Capriccio
Stravinsky Symffonïau Offerynnau Chwyth
Syr James MacMillan Where the Lugar meets the Glaisnock première byd
Vaughan Williams In the Fen Country
Stravinsky Symffoni mewn Tri Symudiad
Syr James MacMillan arweinydd
David Childs ewffoniwm
ARGRAFFIADOL | SONIARUS | YSBLENNYDD
Yn Capriccio, ceir pytiau o alawon gwerin yn plethu â’i gilydd yng ngwaith caleidosgopig Holst. Mae’r elfennau gwerin Rwsiaidd yn chwarae rhan yr un mor ganolog yn Symffonïau Offerynnau Chwyth Stravinsky mewn darn sy’n archwilio ystyr gwreiddiol ‘symffoni’ – sef ‘seinio gyda’i gilydd’. Mae gweddïau byr rhwng y gwahanol offerynnau yn dwyn ynghyd yr episodau cyferbyniol ar dri chyflymder gwahanol ond â chysylltiad â’i gilydd.
Mae’r seren o Gymru ar yr ewffoniwm, David Childs, yn camu i lwyfan yr unawdydd ar gyfer y perfformiad cyntaf yn y byd o goncerto Syr James MacMillan, Where the Lugar meets the Glaisnock. Cerddoriaeth werin Lloegr sy’n ysbrydoliaeth i In the Fen Country gan Vaughan Williams; mae’n creu argraff symffonig drwy bortreadu cynhesrwydd natur, wedi’i gyfosod â gwagle llwm y ffendir, ac mae’n waith cynnar sy’n cynnig cipolwg ar iaith gerddorol aeddfed Vaughan Williams. Bydd y cyngerdd yn cloi gyda Stravinsky, y tro hwn gyda’i ymateb i erchyllterau’r Ail Ryfel Byd, ei Symffoni mewn Tri Symudiad. Mae’n bleser gennym groesawu Syr James MacMillan fel arweinydd.
Caneuon Tynged
Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain
Nos Wener 20/6/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Brahms Serenâd Rhif 2
Brahms Schicksalslied
Stravinsky Symffoni’r Salmau
Ryan Bancroft arweinydd
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
CELFYDD | TANBAID | DARLUNIADOL
Os bwriadwyd serenadau yn hanesyddol fel cerddoriaeth ar gyfer adloniant, yna mae Brahms yn sicr wedi rhagori yn ei Serenâd Rhif 2. Mae’r gwaith cynnar hwn yn llawn cymeriad Brahms o’r cychwyn cyntaf gyda’i gynhesrwydd ysgafn, ei rythmau croes bywiog, a’i alawon toreithiog i swyno unrhyw wrandäwr.
Yr un mor nodweddiadol, ond yn fwy pruddglwyfus ei natur, y mae gosodiad llesmeiriol Brahms o’r gerdd Schicksalslied gan Friedrich Hölderlin. Mewn dau bennill sy’n cyferbynnu bywydau’r tragwyddol ddedwydd â’r rhai sy’n dioddef ffawd greulon, mae Brahms yn symud rhwng yr ysgafn a’r didaro yn erbyn y tymhestlog. I’r gwrthwyneb, mae Stravinsky yn Symffoni’r Salmau yn defnyddio dulliau sy’n adleisio’r siant Gregoraidd traddodiadol, ynghyd ag ysgrifennu ffiwgaidd a motiffau dawns ecstatig i bortreadu testun y salmau...dyma waith o athrylith pur! I arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn eu cyngerdd olaf yn ystod tymor Caerdydd, mae’n bleser gennym groesawu’r Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, yn ôl.
Bywgraffiadau
Antony Hermusarweinydd
Marco Borggreve
Marco Borggreve
Antony Hermus yw Prif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gwlad Belg, gan arwain y gerddorfa yn eu cartref yn BOZAR Brwsel, ar deithiau rhyngwladol ac yng Nghystadleuaeth y Frenhines Elisabeth. Ac yntau’n ffigwr blaenllaw ym mywyd cerddorol yr Iseldiroedd, mae’n arwain yr holl brif gerddorfeydd yno, gan gynnwys y Royal Concertgebouw, Cerddorfa Ffilharmonig Radio’r Iseldiroedd, Residentie Orkest a’r Rotterdam Philharmonic. Ef oedd Prif Westai’r North Netherlands Orchestra rhwng 2015 a 2024 ac mae bellach yn Arweinydd Anrhydeddus am Oes.
Y tymor hwn, mae’n dychwelyd i gerddorfeydd Orchestre Philharmonique de Radio France, Cerddorfa Ffilharmonig Radio’r Iseldiroedd, Residentie Orkest, Auckland Philharmonia, Cerddorfa Symffoni BBC yr Alban a Cherddorfa Ffilharmonig Gogledd yr Iseldiroedd. Mae’n ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Tenerife a Vancouver, Bonn Beethovenorchester a’r Cherddorfa Radio Genedlaethol Gwlad Pwyl. Mae’n westai rheolaidd gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Orchestre National de Lyon, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Denmarc a Cherddorfa Symffoni Galicia.
Mae wedi bod yn Brif Arweinydd Gwadd gydag Opera North ers 2019 a’r tymor hwn bydd yn arwain Simon Boccanegra. Yn Nice, bydd yn arwain Julietta gan Martinů.
Mae Cerddorfa Genedlaethol Gwlad Belg yn serennu yn ei recordiad diweddaraf wrth berfformio gwaith gan Medtner a Rachmaninov, gan ychwanegu at restr o recordiadau sy’n cynnwys gwaith gan Auber, Diepenbrock, Hausegger, Klughardt a Wagenaar.
Mae cerddoriaeth yn rhan annatod o fywyd a chymdeithas Antony Hermus. Mae wedi cyfrannu at nifer o brosiectau unigryw, sy’n amrywio o Ligeti yng ngŵyl roc Lowlands ar ffurf Sinema Symffonig (Mahler a Stravinsky), i greu’r cyngherddau Scratch sydd wedi ennill gwobrau yn nhai opera yr Almaen.
Dechreuodd chwarae’r piano pan oedd yn chwech oed, cyn astudio’r piano dan adain Jacques de Tiège yn y Conservatoire Cerddoriaeth yn Brabant, ac arwain gyda Jac van Steen a Georg Fritzsch. Mae’n athro gwadd yn y Conservatorium van Amsterdam ac mae hefyd yn dysgu’n rheolaidd yn Academi Sibelius a’r Royal Northern College of Music. Mae hefyd yn Gynghorydd Artistig i Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol yr Iseldiroedd.
Laura van der Heijdensoddgrwth
Miesbach KammermusikFestival
Miesbach KammermusikFestival
Mae Laura van der Heijden o Brydain wedi datblygu i fod yn un o berfformwyr amlycaf ei chenhedlaeth ar y soddgrwth.
Bydd yn ymddangos cyn hir mewn concertos gyda Cherddorfa Ffilharmonig Brno a Cherddorfa Symffoni Bournemouth. Bydd uchafbwyntiau eraill y tymor hwn yn cynnwys perfformio yn Cello Biënnale Amsterdam a Neuadd Wigmore gyda’r pianydd Jâms Coleman, prosiectau cydweithredol yng Ngŵyl Seriös yn Helsinki, gyda Her Ensemble yn Milton Court yn Llundain, yn ogystal â phrosiect siambr gydag Alina Ibragimova a Ben Goldscheider yn y Pierre Boulez Saal yn Berlin.
Rhoddodd y perfformiad cyntaf erioed o Earth, Sea, Air gan Cheryl Frances-Hoad ym Mhroms y BBC y llynedd gyda Cherddorfa Symffoni BBC yr Alban. Mae’r gwaith hefyd i’w glywed ar ei halbwm diweddaraf, ynghyd ag Oration gan Bridge a Choncerto Walton i’r Soddgrwth. Mae hi hefyd yn tyfu i fod yn enw mawr yn y sîn gerddoriaeth glasurol, gan ymddangos yn ddiweddar ar sioeau This Classical Life gyda Jess Gillama Saturday Morning gyda Tom Service(y ddau ar BBC Radio 3) ac hefyd yn artist ar glawr The Strad.
Dros y tymhorau diwethaf mae ei huchafbwyntiau’n cynnwys bod yn ‘Artist in Focus’ yn Kings Place ac ymddangosiadau concerto gyda cherddorfeydd y London Philharmonic, Aurora a Cherddorfa Siambr yr Alban, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, yn ogystal â chwarae/cyfarwyddo’r Britten Sinfonia. Ymddangosodd hefyd yn y Barbican gyda Cherddorfa Symffoni'r BBC fel rhan o brosiect ‘Total Immersion’ George Walker.
Mae’n gerddor siambr brwd yn chwarae gyda’r enwog Kaleidoscope Chamber Collective, ac hefyd gyda cherddorion blaenllaw gan gynnwys Timothy Ridout, Antje Weithaas, Max Baillie, Misha Mullov-Abbado, Hélène Clément a phedwaradwau Doric, Redon a Brodsky.
Daeth i amlygrwydd gyntaf ar ôl ennill cystadleuaeth Cerddor Ifanc y BBC yn 2012 pan oedd hi’n 15 oed. Graddiodd o Brifysgol Caergrawnt ac ar hyn o bryd mae hi’n astudio gydag Antje Weithaas yn Berlin.
Mae Laura van der Heijden yn chwarae soddgrwth Francesco Ruggieri o Cremona sy’n dyddio’n ôl i ddiwedd y 17egGanrif, sydd ar fenthyg yn garedig o gasgliad preifat.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.
Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Kerry Gordon-Smith
Anna Cleworth
Žanete Uškāne
Ruth Heney
Emilie Godden
Alejandro Trigo
Amy Fletcher
Gary George-Veale
Anna Szabo
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirstie Lovie
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Ilze Abola
Michael Topping
Lydia Caines
Katherine Miller
Roussanka Karatchivieva
Beverley Wescott
Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Lowri Taffinder
Lydia Abell
Anna Growns
Soddgrythau
Raphael Lang ‡
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Alistair Howes
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Kathryn Graham
Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Ketan Curtis
Georgia Lloyd
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis
Elizabeth May
Piccoli
Lindsey Ellis †
Elizabeth May
Oboau
Steve Hudson *
Catriona Lockhart
Amy McKean †
Cor anglais
Amy McKean †
Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Kie Umehara
Lenny Sayers
Clarinét Bas
Lenny Sayers †
Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Andrew Huntriss
David Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Tom Taffinder
John Davy
Utgyrn
Philippe Schartz *
Ryan Linham
Corey Morris †
Trombonau
Donal Bannister*
Dafydd Thomas †
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Phil Hughes
Rhydian Griffith
Sarah Mason
Harry Lovell-Jones
Y Delyn
Deian Rowlands
Piano
Catherine Roe Williams
Selesta
Chris Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlleduswydd wag
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol swydd wag
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications



