Grym Gwerin

Nos Iau 1/5/25, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Wener 2/5/25, 7.30pm

Neuadd Brangwyn, Abertawe

Gustav Holst
Capriccio 6’

Igor Stravinsky
Symffonïau Offerynnau Chwyth 12’

Syr James MacMillan
Where the Lugar meets the Glaisnock première byd c23’

EGWYL: 20 munud

Ralph Vaughan Williams
In the Fen Country 14’

Igor Stravinsky
Symffoni mewn Tri Symudiad 22’

Syr James MacMillan arweinydd
David Childs ewffoniwm

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Caiff y cyngerdd yng Nghaerdydd ei ddarlledu’n fyw gan BBC Radio 3 yn Radio 3 in Concert a thrwy’r Undeb Darlledu Ewropeaidd. Caiff y cyngerdd yn Abertawe ei recordio i’w ddarlledu yn Classical Live yn y dyfodol; bydd y ddau ddarllediad ar gael am 30 diwrnod trwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ganfod podlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Croeso i’n cyngerdd heno. Mae’n bleser croesawu Syr James MacMillan atom i arwain rhaglen sy’n cyferbynnu cerddoriaeth yr 20fed ganrif â choncerto newydd sbon.

Yn gyntaf, gwaith prin gan Holst. Er gwaethaf teitl diniwed ei Capriccio diweddar, mae’r darn yn llawn danteithion direidus sy’n tanseilio’n disgwyliadau.

Cawn natur danseiliol hefyd yn y ddau waith gan Stravinsky a glywn ni heno, y ddau’n cynnig dehongliad unigol o ystyr y gair ‘symffoni’. Yn ei Symffonïau Offerynnau Chwyth mae Stravinsky’n cymryd ystyr Groegaidd clasurol y gair – sef ‘cyd-seinio’ – ac yn ei droi’n orchestwaith o weadau yn yr offerynnau chwyth yn unig. Yn y Symffoni mewn Tri Symudiad, ar y llaw arall, mae pob symudiad yn archwilio ffordd wahanol o symud, gydag ymdeithgan, dawns araf a finale sy’n dechrau ar dempo cymedrol ond sy’n graddol gyflymu.

Mae teitl concerto Syr James MacMillan i’r ewffoniwm, Where the Lugar meets the Glaisnock, yn mynd â ni’n ôl i’r dref lle cafodd ei fagu, ac atgofion o’i dad-cu, a oedd yn löwr ac yn chwaraewr ewffoniwm amatur. Cyflwynwyd y concerto i David Childs, sy’n enwog am hyrwyddo’r offeryn, ac sy’n rhoi’r perfformiad cyntaf o’r gwaith heno.

Mae In the Fen Country, gwaith cynnar gan Vaughan Williams, yn cynnig delweddau cerddorfaol hynod atgofus o dir moel dan ehangder yr awyr uwchben.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Gustav Holst (1874–1934)

Capriccio(1932)

Cyfansoddwyd Capriccio Holst yn Efrog Newydd ym 1932, ac mae’n dechrau’n ddigon confensiynol, gydag alaw alarnadol ar y fiola unigol, ac eraill yn ymuno’n raddol, cyn ymestyn yn gyfoethog dros gefndir o gordiau. Cychwyn digon bugeiliol, dim byd annisgwyl. Ond cyn hir mae pethau’n troi mor ecsentrig â theitl gwreiddiol y gwaith – Mr Shilkret’s Maggot: arweinydd cerddorfa radio yn Efrog Newydd oedd Nathanial Shilkret, oedd wedi gofyn i Holst am ddarn yn seiliedig ar alawon gwerin. Mae’n eitha tebyg hefyd fod y teitl yn cyfeirio at nofel o 1927 gan Sylvia Townsend Warner o’r enw Mr Fortune’s Maggot, sy’n dwyn y rhagair ‘MAGGOT: a whimsical or perverse fancy’.

Yn dilyn yr agoriad hwn, mae Holst yn newid yr awyrgylch yn fympwyol ddireidus trwy gyflwyno’r marimba, y piano a’r glockenspiel a rhyw bytiau o alaw. Daw sŵn ymdeithgan band, cyn diflannu ac wedyn ymddangos eto; yn nes ymlaen, daw llinynnau rhamantus a thelyn i gyflwyno alaw foethus Hollywoodaidd. Tua’r diwedd, mae’r piano a’r marimba’n ymuno â ffidil unigol cyn – pam lai? – diweddglo rhodresgar ar yr offerynnau pres. Cyhoeddodd Imogen Holst y gwaith yn ddiweddarach, gyda’r teitl llai enigmatig Capriccio.

Nodyn y rhaglen © Lucy Walker

Igor Stravinsky (1882–1971)

Symffonïau Offerynnau Chwyth
(1920, adol. 1947)

Byddai Stravinsky weithiau’n defnyddio’r gair ‘symffoni’ yn ystyr y Roeg Glasurol, i olygu yn syml ‘cyd-seinio’, yn hytrach na’r ffurf ddatblygol draddodiadol. Y Symffonïau Offerynnau Chwyth yw’r enghraifft fwyaf eithafol o hyn. Mae fel esboniad cyfansoddiadol o sut i haenu chwythbrennau ac offerynnau pres y gerddorfa mewn ffyrdd trawiadol a lliwgar, gydag adeiladwaith o flociau sain cyferbyniol iawn, sy’n aml yn eithaf statig a moel o ran effaith.

Ysgrifennodd Stravinsky’r Symffonïau ychydig flynyddoedd ar ôl Defod y Gwanwyn, ac yntau ar yr un pryd yn ymdrechu i gwblhau Les noces, oedd yn achosi penbleth iddo o ran ei offeryniaeth (penderfynodd hepgor offerynnau chwyth yn gyfan gwbl yn y diwedd, a gwneud heb ddim offerynnau cynnal o gwbl – yn hollol groes i’r Symffonïau).

Fel y ddau gyfansoddiad bale gwych hynny, mae’r Symffonïau yn gyforiog o alawon gwerin (neu yn hytrach, alawon gwerin ffug a grëwyd gan Stravinsky ei hun). Mae’r rhain yn dynwared patrymau pwyslais chwareus yr iaith Rwseg, gan greu rhythmau a newidiadau mydr annisgwyl. Er mai cyfleu anhrefn a bryntni yn y Ddefod a naws dathlu gwyllt yn Les noces a wna’r dechneg hon, yma mae’r alawon hyn yn felancolaidd ac annaearol, gan ymdroelli rhwng y gweadau dwysach.

Tua diwedd y Symffonïau mae Stravinsky’n ailweithio’i ddarn piano diweddar er cof am Debussy, a fu farw ym 1918, gan roi dyfnder marwnadol i’r darn haniaethol hwn, ac, efallai’n bwysicach i Stravinsky, yr ymdeimlad o ddefod neu, yn well fyth, eneiniad.

Nodyn y rhaglen © Tom Owen

Syr James MacMillan (ganed 1959)

Where the Lugar meets the Glaisnock
(2024)

première byd

David Childsewffoniwm

Mae teitl y gwaith hwn yn cyfeirio at dref fach Cumnock yn Ayrshire lle cefais fy magu, lle mae dwy afon (Lugar a Glaisnock) yn cwrdd. Darn concertante yw hwn i ewffoniwm unigol a llinynnau, ac mae’n atgof hoffus o’m blynyddoedd cynnar yno. Rwy’n ei gyflwyno er cof am fy nhad-cu George Loy, fu’n löwr yn y dref ac yn chwaraewr ewffoniwm amatur a chwaraeodd mewn bandiau glofeydd yn yr ardal yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Rwy’n cyflwyno’r darn hefyd i’r unawdydd David Childs a’i comisiynodd.

Wedi’i ysgrifennu mewn un symudiad trwodd sy’n para tua 25 munud, mae’n dechrau gydag unawd araf, llawn mynegiant gan yr ewffoniwm cyn i offerynnau llinynnol unigol ymuno yn y gân. Mae’r gerddoriaeth yn dechrau codi a gostwng wrth i’r ensemble llawn ddod i mewn. Mae’n bywiocáu cyn mynd trwy’r cyntaf o sawl trawsgyweiriad mydryddol sy’n bwrw’r gerddoriaeth ymlaen i dempos cyflymach.

Yn raddol aiff y gerddoriaeth yn fwyfwy egnïol cyn i gyfres o gordiau uchel, grymus fynd â ni’n ôl i’r tempo araf agoriadol. Ond bellach mae’r alawon yn fwy soniarus a melodaidd, gan ddwyn i gof y canu gwerin a phlaengan sydd wedi ymddangos mor aml yn fy ngherddoriaeth dros y blynyddoedd.

Cawn fwy o drawsgyweiriadau mydryddol, sy’n gwthio’r gerddoriaeth ymlaen i dir cyflymach a chyflymach. Wedyn daw adran arafach eto, yn gorawl ac ecstatig ar y llinynnau cyn cyfeilio i’r unawdydd gyda chordiau meddal, pwysfawr sy’n esgyn o’r seiniau cerddorfaol isaf i’r uchaf. Daw’r alaw agoriadol yn ôl am un tro olaf cyn i’r gerddoriaeth ddod i ben mewn coda annisgwyl – yn orfoleddus, motoraidd ac ailadroddus ar y llinynnau gyda ffrwydradau egni gwyllt a meistrolgar ar yr ewffoniwm. Mae’r eiliadau olaf yn dangnefeddus.

Nodyn y rhaglen © Syr James MacMillan

EGWYL: 20 munud

Ralph Vaughan Williams (1872–1958)

In the Fen Country(1904, adol. 1935)

Darn cymharol fyr yw In the Fen Country Vaughan Williams: barnwyd ei fod braidd yn ddisylwedd, ac yn ffuantus hyd yn oed, yn ei berfformiad cyntaf yn 1909 (‘Though the theme is fragrant of the soil’ ysgrifennodd adolygydd The Times, ‘it appears to be only in the style of folk-music, not an actual specimen’). Ond wrth edrych yn ôl mae’n cynrychioli pwynt arwyddocaol iawn yn allbwn Vaughan Williams; cyn ei gyfansoddi yn 1904 mae gweithiau cerddorfaol yng nghatalog y cyfansoddwr wedi’u nodi fel rhai a gollwyd, a ddinistriwyd neu a dynnwyd yn ôl. In the Fen Country oedd y cyntaf i oroesi, a chafodd ei ddiwygio gan Vaughan Williams sawl gwaith dros y blynyddoedd. Fe’i dilynwyd gan y Norfolk Rhapsodies, yr enwog Fantasia on a theme by Thomas Tallis a’r naw symffoni rhyfeddol. Er bod dylanwad cyfansoddwyr Almaenig Rhamantaidd diweddar yn amlwg, yn enwedig Richard Strauss, mae’r darn ‘peraroglus’ hwn yn dwyn olion cynnar, clir iawn o lais Vaughan Williams ei hun.

Fel y nododd adolygydd The Times, arddull werinaidd sydd yma yn hytrach na cherddoriaeth werin. Mae’n agor gyda darlun o dir gwastad, agored: alaw unigol drist, wedi’i chwarae’n briodol ddolefus gan y cor anglais, gyda ‘thro’ hanner cwafer amlwg. Daw fiola unigol i mewn, yna clarinét a chorn, a’u themâu unig yn sefyll mewn cyferbyniad mynegiannol â’r gweadau cerddorfaol llawnach. Mae elfennau eraill yn nofio i mewn ac allan o ffocws, fel corâl i’r cyrn mewn triadau moethus, sy’n symud o bryd i’w gilydd i rannau eraill o’r ensemble. Yn dilyn interliwd nwydus i linynnau uchel a chwythbrennau rhythmig ceir adran wedi’i sgorio’n foethus mewn amser walts breuddwydiol. Gyda galwad y corn tynnir ein sylw’n ôl at y tir moel, wrth i’r gerddoriaeth bylu yn gynnil, lesmeiriol tua’r diwedd.

Nodyn y rhaglen © Lucy Walker

Igor Stravinsky

Symffoni mewn Tri Symudiad
(1942–5)

1 [Allegro]
2 Andante –
3 Con moto

Bob tro y câi Stravinsky gomisiwn gan gerddorfa byddai’n ymateb gyda symffoni: Symffoni’r y Salmau (1930) i Boston, y Symffoni yn C (1938–40) i Chicago, y Symffoni mewn Tri Symudiad i Efrog Newydd. Mae ystyr i deitl pob un ohonynt, a’r Symffoni mewn Tri Symudiad yn cyflwyno tri symudiad i ni ond hefyd dair ffordd wahanol o symud: ymdaith, dawns araf, ymdaith–lonc–ras.

Yn ei nodyn rhaglen ar gyfer y perfformiad cyntaf – ac yntau ei hun yn arwain, yn Neuadd Carnegie ar 24 Ionawr 1946 – yn groes i’w natur fe nododd Stravinsky fod gan y symffoni ystyron a chymhellion amgenach, ei bod yn adlewyrchu ‘hon ein hoes flinderus o ddigwyddiadau llym a symudol, o anobaith a gobaith, o wewyr parhaus, o dyndra, ac, o’r diwedd, derfyniad a rhyddhad’. Ysgogwyd y symudiad cyntaf, meddai’n ddiweddarach, gan ffilm ddogfen o dactegau tir llosg yn Tsieina, a’r trydydd gan ‘'ffilmiau newyddion a rhaglenni dogfen … o filwyr yn ymdeithio’ ac yna gan ‘gynnydd y Cynghreiriaid’. Roedd y symudiad araf hefyd yn tarddu o ffilm, meddai Stravinsky, gan ei fod yn deillio o ddrafft yr oedd wedi’i wneud ar gyfer rhith y Forwyn yn The Song of Bernadette ym 1943, cyn i Alfred Newman gymryd ei le fel cyfansoddwr.

Efallai fod y rhyfel wedi dylanwadu nid yn unig ar ddelweddau ac amgylchiadau’r symffoni ond hefyd ar ei harddull, gan fod y bygythiad i Rwsia fel petai wedi ailddeffro ymdeimlad y Stravinsky alltud ohono’i hun fel cyfansoddwr Rwsiaidd. Roedd cerddoriaeth Sofietaidd, yr oedd wedi bod mor ddirmygus ohoni, yn dechrau teimlo’n berthnasol: yn haf 1942, hanner ffordd trwy’r symudiad cyntaf, gwrandawodd ar ddarllediad radio o Symffoni ‘Leningrad’ Shostakovich. Dychwelodd hefyd at ganeuon gwerin Rwsia yn ystod y cyfnod hwn, ac yn y symffoni clywir adlais o’i weithiau bale Rwsiaidd o ryw 30 mlynedd ynghynt: Defod y Gwanwyn yw’r unig gynsail i ddwndwr a dwysedd offerynnol parhaus y symudiadau allanol, ac mae amlygrwydd y piano yn y gerddorfa yn dwyn Petrushka i gof.

Agorir yr ymdeithgan gyda phiano a chordiau enfawr: dyma glychau anferthol, toredig, am yn ail â cherddoriaeth ysgafnach, dynerach. Nid testun cyntaf ac ail destun yw’r ddau yn gymaint â segmentau mewn mosaig.

Yn yr ail symudiad mae’r offerynnau trymach (utgyrn, trombonau a timpani) wedi’u hepgor, a’r piano unigol wedi’i ddisodli gan delyn. Yn fwy na gweledigaeth y Santes Bernadette, mae’r symudiad yn awgrymu tawelwch bugeiliol.

Mae’r symudiad olaf, a’r piano a’r delyn yn cyd-chwarae, yn cynnwys amrywiaeth o benodau sydd fel petaen nhw ddim ond yno i oedi’r diweddglo trystfawr.

Nodyn y rhaglen © Paul Griffiths

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant … 

Nodau Serch

Nos Iau 29/5/25, 7.00pm
Neuadd Symffoni, Birmingham

Nos Wener 30/5/25, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Bartók Concerto Rhif 1 i’r Ffidil
Mahler Symffoni Rhif 5

Ryan Bancroftarweinydd
James Ehnes ffidil

CYFAREDDOL | FFANSÏOL | HUDOLUS

Mae hanes hir o gyfansoddwyr yn ysgrifennu rhoddion cerddorol i’w cariadon, ac yng Nghyngerdd Cloi’r Tymor heno cawn glywed dau o’r goreuon.

Cariad heb ei ateb sydd yng Nghoncerto Bartók i’r Ffidil. Ysgrifennwyd y concerto hwn i’r feiolinydd gwych o Hwngari Stefi Geyer, testun awen Bartók, ac mae ei ddau symudiad yn rhoi darlun cerddorol o’i phersonoliaeth – ceir alawon galarus a neidiau ffansïol lu yn y gwaith rhapsodïaidd hynod bersonol hwn. I’w berfformio, bydd croeso mawr i’r feiolinydd byd-enwog James Ehnes yn ôl at Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Yn wahanol i Bartók, atebwyd serch Mahler, ac mewn arwydd o gariad at ei wraig newydd, Alma, mae ei Bumed Symffoni’n tanio â ffanfferau utgyrn, dawns a gorfoledd – heb sôn am y symudiad araf llesmeiriol, ei gân serch i’w anwylyd, yn ddi-os.

Caneuon Tynged

Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain

Nos Wener 20/6/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Brahms Serenâd Rhif 2
Brahms Schicksalslied
Stravinsky Symffoni’r Salmau 

Ryan Bancroft arweinydd
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

CELFYDD | TANBAID | DARLUNIADOL

Os bwriadwyd serenadau yn hanesyddol fel cerddoriaeth ar gyfer adloniant, yna mae Brahms yn sicr wedi rhagori yn ei Serenâd Rhif 2. Mae’r gwaith cynnar hwn yn llawn cymeriad Brahms o’r cychwyn cyntaf gyda’i gynhesrwydd ysgafn, ei rythmau croes bywiog, a’i alawon toreithiog i swyno unrhyw wrandäwr.

Yr un mor nodweddiadol, ond yn fwy pruddglwyfus ei natur, y mae gosodiad llesmeiriol Brahms o’r gerdd Schicksalslied gan Friedrich Hölderlin. Mewn dau bennill sy’n cyferbynnu bywydau’r tragwyddol ddedwydd â’r rhai sy’n dioddef ffawd greulon, mae Brahms yn symud rhwng yr ysgafn a’r didaro yn erbyn y tymhestlog. I’r gwrthwyneb, mae Stravinsky yn Symffoni’r Salmau yn defnyddio dulliau sy’n adleisio’r siant Gregoraidd traddodiadol, ynghyd ag ysgrifennu ffiwgaidd a motiffau dawns ecstatig i bortreadu testun y salmau...dyma waith o athrylith pur! I arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn eu cyngerdd olaf yn ystod tymor Caerdydd, mae’n bleser gennym groesawu’r Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, yn ôl.

Bywgraffiadau

Syr James MacMillan arweinydd

Philip Gatward

Philip Gatward

Mae Syr James MacMillan yn un o gyfansoddwyr mwyaf llwyddiannus ein hoes ac yn perfformio’n rhyngwladol fel arweinydd. Mae ei iaith gerddorol yn llawn dylanwadau o’i dreftadaeth Albanaidd, ei ffydd Gatholig, ei gydwybod gymdeithasol a’i gysylltiad agos â cherddoriaeth werin Geltaidd.

Daeth i enwogrwydd rhyngwladol am y tro cyntaf ar ôl llwyddiant The Confession of Isobel Gowdie yn y BBC Proms ym 1990. Ers hynny mae ei allbwn toreithiog wedi cael ei berfformio a’i ddarlledu ledled y byd. Ymhlith ei brif weithiau mae’r concerto i offerynnau taro Veni, Veni, Emmanuel, a berfformiwyd bron i 500 o weithiau, concerto soddgrwth i Mstislav Rostropovich a phum symffoni. Yn ddiweddar mae wedi cyfansoddi Concerto Rhif 2 i Offerynnau Taro ar gyfer Colin Currie, Concerto Rhif 2 i’r Ffidil ar gyfer Nicola Benedetti a’i Symffoni Rhif 5, ar gyfer The Sixteen, a berfformiwyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ryngwladol Caeredin yn 2019. Yn fwyaf diweddar, cafwyd première i sawl gwaith newydd ar gyfer corws a cherddorfa, gan gynnwys ei Oratorio Nadolig a berfformiwyd gan y London Philharmonic yn 2021 a Timotheus, Bacchus and Cecilia, a berfformiwyd am y tro cyntaf gan Gerddorfa Symffoni Cincinnati yn 2023.

Mae Syr James MacMillan yn mwynhau gyrfa lwyddiannus fel arweinydd, ac yn ennill clod am ei allu i edrych ar bob sgôr trwy lygad cyfansoddwr. Mae wedi arwain cerddorfeydd Ffilharmonig Munich, Radio’r Iseldiroedd a Rotterdam a cherddorfeydd Symffoni Baltimore, y BBC, Radio Denmarc, Radio Frankfurt, Gothenburg a St Louis. Bu’n Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Ffilharmonig Siambr Radio’r Iseldiroedd tan 2013 ac yn Gyfansoddwr/Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig y BBC tan 2009.

Ymhlith uchafbwyntiau tymor 2024/25 mae première byd ei Concerto i Gerddorfa (a gyd-gomisiynwyd gan Gerddorfa Symffoni Llundain, Cerddorfa Symffoni Melbourne, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm, Ffilharmonia Auckland, a Cherddorfa Symffoni Singapore) gan Gerddorfa Symffoni Llundain, dan arweiniad Syr Antonio Pappano; a première byd ei goncerto i’r ewffoniwm, Where the Lugar meets the Glaisnock, heno. Hefyd y tymor hwn, mae’n arwain Cerddorfa Ffilharmonig Genedlaethol Hwngari yn ei Oratorio Nadolig, Cerddorfa Symffoni BBC yr Alban mewn dathliad o gyfansoddwyr Cumnock Tryst, Cerddorfa Minnesota, Gŵyl MacMillan VocalEssence, Cantorion y BBC a Cherddorfa Siambr Tallinn. Cynhelir Gŵyl Cyfansoddwyr Ffilharmonig Stockholm dan enw MacMillan eleni.

Yn 2014 fe sefydlodd ŵyl gerddoriaeth The Cumnock Tryst, sy’n cael ei chynnal yn flynyddol ym mro ei febyd yn Ayrshire. Yn 2024, dathlodd yr ŵyl ei degfed blwyddyn drwy lansio Ysgol Haf Ryngwladol i Gyfansoddwyr, dan gyfarwyddyd MacMillan, sy’n agored i gyfansoddwyr ifanc ledled y byd.

Mae wedi arwain llawer o’i weithiau ei hun ar ddisg i amrywiaeth o labeli recordio.

Dyfarnwyd CBE iddo yn 2004 a chafodd ei urddo’n farchog yn 2015. Fe’i penodwyd yn Gymrawd yr Ivors Academy yn 2024.

David Childs ewffoniwm

Mae David Childs yn cael ei ystyried yn un o gerddorion pres gorau ei genhedlaeth, ac wedi teithio’n helaeth ledled Asia, cyfandir Ewrop a Gogledd America.

Mae wedi ymddangos fel unawdydd gyda cherddorfeydd cyngerdd y BBC ac RTÉ, Cerddorfa Ffilharmonig y BBC, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol a Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, Philharmonie Baden-Baden, Sinfonia Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Symffoni Vancouver ac Orchestra da Camera Fiorentina, yn ogystal â gyda llawer o fandiau pres a bandiau milwrol gorau Prydain a’r Unol Daleithiau. Gwnaeth ymddangosiadau unigol yng ngwyliau Singapore, Harrogate, Cheltenham, Melbourne ac Efrog Newydd ac yn y BBC Proms. Mae hefyd wedi rhoi datganiadau unigol yn Neuadd Wigmore, Ystafell Purcell a Neuadd Bridgewater, a pherfformio concertos yn y Concertgebouw Brenhinol, Royal Albert Hall, Canolfan Southbank, Neuadd Symffoni Birmingham, Canolfan Lincoln a Neuadd Carnegie, Efrog Newydd.

Mae’n eiriolwr brwd dros gerddoriaeth newydd ac wedi perfformio première 16 concerto i’r ewffoniwm. Yn 2022 rhoddodd y perfformiad cyhoeddus cyntaf o drefniant newydd i’r ewffoniwm o Goncerto Tiwba Ralph Vaughan Williams yn Noson Olaf y Proms Cymreig.

Mae wedi derbyn llawer o wobrau yn ystod ei yrfa, a hefyd wedi cael sawl anrhydedd fel artist recordio, gan gynnwys dwy Wobr Rhagoriaeth mewn Recordio gan ITEA, a gellir ei glywed ar sawl label.

Mae’n gyn-aelod o nifer o ensembles band pres, gan gynnwys Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr, Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Brighouse and Rastrick, a’r Cory Band, lle bu’n Brif Ewffoniwm am 10 mlynedd dan arweiniad ei dad, Robert Childs.

Mae David Childs bellach yn Athro Ymchwil Nodedig yr Ewffoniwm ym Mhrifysgol Gogledd Texas ac yn dal swyddi fel Athro Gwadd yng Ngholeg Cerdd Senzoku Gakuen Tokyo a Thiwtor Gwadd Rhyngwladol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle cafodd ei wneud yn gymrawd y llynedd. Mae’n un o sylfaenwyr ensemble siambr Eminence Brass.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Jens Lynen
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Žanete Uškāne
Carmel Barber
Alejandro Trigo
Juan Gonzalez
Ruth Heney **
Kerry Gordon-Smith
Anna Cleworth
Zhivko Georgiev

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ros Butler
Sheila Smith
Michael Topping
Lydia Caines **
Katherine Miller
Roussanka Karatchivieva
Vickie Ringguth
Beverley Wescott
Joseph Williams
Amy Fletcher
Jane Sinclair

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Lowri Taffinder
Lydia Abell
Anna Growns

Soddgrythau
Reinoud Ford ‡
Raphael Lang
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Kathryn Graham

Basau Dwbl
Neil Tarlton
Christopher Wescott
Emma Price
Yat Hei Lee
Thea Sayer
Nigel Smith

Ffliwtiau
Fiona Kelly ‡
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Catriona Lockhart
Amy McKean †

Cor Anglais
Amy McKean

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Isaac Prince
Lenny Sayers

Clarinét Bas
Lenny Sayers †

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Georgie Powell
Alex Davidson

Isfasŵn
Alex Davidson

Cyrn
Hugh Sisley
Meilyr Hughes
Dave Ransom
Tom Taffinder
Craig MacDonald

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †

Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Adrian Miotti

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro 
Sam Staunton
Phil Girling
Andrea Porter

Y Delyn
Deian Rowlands

Piano/Selesta
Catherine Roe Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +**
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol swydd wag
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol swydd wag

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications