Nobody Knows the Trouble I See

Nos Wener 10/3/23, 7.30pm

Ludwig van Beethoven
Agorawd ‘Leonore’ Rhif 3  14’

Bernd Alois Zimmermann
Nobody Knows de Trouble I See 15’

EGWYL: 20 munud

Anton Bruckner
Symffoni Rhif 0  46’

Simon Höfele utgorn
Ryan Bancroftarweinydd

Mae’r cyngerdd yn cael ei ddarlledu’n fyw gan BBC Radio 3 yn y rhaglen Radio 3 in Concert. Bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu ar BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnig podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth i chi. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol. 

Croeso

Matthew Wood

Croeso i’r cyngerdd heno, pan fydd ein Prif Arweinydd Ryan Bancroft unwaith eto yn ymuno â BBC NOW. 

Byddwn yn dechrau gydag agorawd gyffrous ‘Leonore’ Rhif 3 gan Beethoven. Roedd hon yn un o ddim llai na phedair agorawd yr oedd y cyfansoddwr wedi’u llunio ar gyfer ei unig opera, Fidelio. Gyda’i drama tywyllwch-i-oleuni, yma y gwelwn y cyfansoddwr ar ei fwyaf arwrol. 

I gloi, byddwn yn clywed Symffoni Rhif 0 Bruckner. Y rheswm dros y rhifo anghonfensiynol yw bod Bruckner wedi gwrthod y gwaith yn y lle cyntaf ac ni chafodd ei ailddarganfod tan ar ôl i’r cyfansoddwr farw. Mae’n gyforiog o nodweddion Bruckner – gwaith sy’n llawn o seiniau melodaidd syml hyfryd wedi’u cyferbynnu ag uchafbwyntiau ymchwyddol mawreddog ac, yn sail i’r cyfan, fframwaith cerddorol cadarn.  

Pleser o’r mwyaf i ni yw cael croesawu’r trwmpedwr Simon Höfele i berfformio concerto hynod ddyfeisgar Zimmerman, Nobody Knows de Trouble I See, darn o waith sy’n cyfosod amrywiaeth eang o arddulliau cerddorol yn feiddgar mewn modd cwbl hyderus. 

Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Ludwig van Beethoven (1770-1827)

Agorawd ‘Leonore’ Rhif 3, Op. 72b (1806)

O holl waith Beethoven, nid oedd y broses o gyfansoddi wedi bod mor arteithiol â’r un yr aeth o drwyddi wrth gyfansoddi ei unig opera, Fidelio. ‘O fy holl blant, dyma’r un a barodd y loes a’r gofid mwyaf i mi wrth ei ddwyn i’r byd’ cwynodd wrth ei fywgraffydd yn hwyrach ymlaen, ‘ac am y rheswm hwnnw, dyma’r un sydd agosaf at fy nghalon.’ Daeth Fidelio, fel y byddai’r opera yn cael ei hadnabod ymhen amser, i fod ym 1803 o dan yr enw Leonore. Roedd fersiwn gyntaf yr opera, sef Leonore (a enwyd ar ôl yr arwres yn wreiddiol) yn dair act, ond, yn ddiweddarach, cafodd ei hadolygu a’i chwtogi i ddwy act a’i hailenwi yn Fidelio (‘yr un ffyddlon’) ac ni chafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn ei ffurf derfynol tan 11 mlynedd yn ddiweddarach. 

Yn y cyfamser, perfformiwyd pedair fersiwn wahanol o’r agorawd, ac mae’n ymddangos mai’r ail fersiwn – sy’n cael ei hadnabod erbyn hyn, am ryw reswm astrus, fel ‘Leonore’ Rhif. 3 – sydd wedi ennill ei phlwy fel ffefryn y neuadd gyngerdd. Er y byddai pedwaredd agorawd Fidelio, a’r olaf, yn defnyddio themâu o’r opera i lunio crynodeb cronolegol o brif ddigwyddiadau dramatig y gwaith, cyfansoddwyd Rhif 3 fel darn o waith ‘codi’r llen’ rhagarweiniol a dramatig ynddo’i hun. A dweud y gwir, mae tôn y darn mor ddramatig nes bod perygl iddo daflu’r opera ei hun i’r cysgod a dyma pam ei fod yn fwy addas ar gyfer neuadd gyngerdd. 

Mae’r agorawd yn dechrau’n besimistaidd ac yn nhywyllwch cell Florestan yn y carchar, ond mae ei feddwl yn raddol droi at gyfnod hapusach mewn dyddiau a fu. Wrth i’r cywair drawsnewid o’r lleddf i’r llon ac wrth i ysbryd heriol Florestan ddychwelyd, mae’r agorawd yn datblygu i fod yn waith bywiog o ynni anorchfygol gyda rhyddid yn cario’r dydd yn wyneb adfyd – ymgorfforiad o arddull ‘arwrol’ Beethoven. 

Nodyn y rhaglen © Jo Kirkbride 
Gwrando Pellach: Gewandhausorchester Leipzig/Riccardo Chailly (Decca 4783492)
Darllen Pellach: Beethoven (Master Musicians) Barry Cooper (OUP)

Bernd Alois Zimmermann (1917-70)

Nobody Knows de Trouble I See (1954)

Simon Höfeleutgorn

Bernd Alois Zimmermann oedd un o gyfansoddwyr mwyaf gwreiddiol yr Almaen yn y cyfnod avant-garde ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Yr opera ryfeddol Die Soldaten yw ei waith mwyaf enwog (wedi’i chwblhau yn 1964), ond mae’r concerto i’r utgorn, Nobody Knows de Trouble I See (y teitl fel y’i cyhoeddwyd oedd y dehongliad cyffredin ar y pryd) yn dyddio o gyfnod ychydig cynharach yn ei yrfa. Cafodd ei chomisiynu gan Radio Gogledd-orllewin yr Almaen a’i pherfformio am y tro cyntaf yn Hamburg ar 11 Hydref 1955 gan y trwmpedwr Adolf Scherbaum, dan arweiniad Ernest Bour. Mae’r cyfansoddwr yn egluro’r teitl yn y sgôr: mae’n defnyddio’r gân ysbrydol Affricanaidd-Americanaidd , ‘Nobody Knows the Trouble I See’ yn y gwaith drwyddo draw – sef alaw a oedd eisoes wedi gwneud ymddangosiad cofiadwy yn y neuadd gyngerdd fel un o’r caneuon ysbrydol yng ngwaith Michael Tippett A Child of Our Time a berfformiwyd am y tro cyntaf yn 1944. Roedd rheswm gwleidyddol y tu ôl i’r ffaith fod Zimmermann wedi dewis yr alaw hon: roedd yn gweld hyn fel ffordd o brotestio yn erbyn casineb hiliol yn y 1950au drwy ei gerddoriaeth. 

Mae sgôr anarferol iawn i goncerto Zimmermann sy’n tanlinellu mor bwysig oedd cerddoriaeth jazz iddo: yn ogystal ag offerynnau chwyth traddodiadol y gerddorfa, mae rhannau hefyd i bum sacsoffon yn y gwaith (tri alto, tenor a bariton), tri utgorn jazz (yn ogystal â’r unawdydd) ac adran i offerynnau taro sy’n golygu bod angen tri chwaraewr jazz. Ar ben hyn, disgwylir i’r pianydd cerddorfaol chwarae organ Hammond hefyd, offeryn sydd i’w glywed yma ac acw yn y darn, ac mae ei effaith yn syfrdanol. 

Gan ddefnyddio tameidiau (sy’n aml yn gudd iawn) o ‘Nobody Knows’ fel llinyn alawol drwy’r gwaith, mae’r iaith gerddorol yn gyfuniad cyfareddol o dechnegau 12-tôn y cyfnod ar ôl y rhyfel, ambell i fflach o Stravinsky a seiniau soniarus cyffrous cerddoriaeth jazz gyfoes. Roedd y cyfuniad hwn o arddulliau wedi apelio at Zimmermann fel ffordd o gyfuno cywirdeb cyfansoddol â dawn greadigol. Un symudiad sydd i’r concerto, a hwnnw’n frith o fflachiadau o liw offerynnol annisgwyl, gyda’r unawdydd (sydd hefyd yn brif gymeriad cerddorol y darn) i’w glywed yn gyson bron dros seiniau soniarus y gerddorfa sy’n esblygu drwy’r amser, wrth i Zimmermann newid cyfeiriad yn afieithus o ddigyweiredd i ruo grymus Band Mawr ac yna cilio a distewi. 

Nodyn y rhaglen © Nigel Simeone
Gwrando Pellach: Alison Balsom; Cerddorfa Symffoni BBC yr Alban/Lawrence Renes (Warner Classics 6785902)

EGWYL: 20 munud

Anton Bruckner (1824-96)

Symffoni Rhif 0 yn D leiaf (1869)

1  Allegro
2  Andante
3  Scherzo: Presto – Trio: Langsamer und ruhiger
4  Finale: Moderato

Roedd ymgais hir Bruckner i ennill cydnabyddiaeth y cyhoedd ac i feistroli’r symffoni yn cael ei llesteirio byth a hefyd gan broblemau. Cafodd ei Symffoni Gyntaf ei pherfformio am y tro cyntaf yn Linz ar 9 Mai 1868 (dan arweiniad y cyfansoddwr) ac ysgrifennodd y gwaith presennol rhwng Ionawr a Medi 1869, gyda’r bwriad iddi fod ei Ail Symffoni (dyma ei ddisgrifiad ohoni ar y llawysgrif). Hyd yn oed ar ei anterth, nid oedd gan Bruckner fawr o hunanhyder – ac roedd ganddo lai fyth ar ddechrau ei yrfa. Pan edrychodd yr arweinydd Orro Dessoff ar sgôr y symudiad cyntaf a gofyn, ‘Ond lle mae dy brif thema?’, roedd Bruckner wedi cymryd ato gymaint nes iddo ysgrifennu ‘annulliert’ ar dudalen flaen y gwaith, sef ‘dilëwyd’ a newid y rhif i sero. Gadawyd y symffoni heb ei chyffwrdd am ddegawdau, tan y sylweddolwyd ei gwerth o’r diwedd yn 1924: sef y flwyddyn y cafodd ei chyhoeddi (yn Fienna) a’i pherfformio am y tro cyntaf (yn Klosterneuburg) i nodi canmlwyddiant geni Bruckner. 

Roedd yn sicr yn haeddu’r adferiad hwyr hwn. Mae agoriad y symudiad cyntaf yn nodweddiadol iawn, gydag ostinato ansefydlog ar y ffidil dros linell fas wastad (techneg y byddai Bruckner yn ei defnyddio eto, yn yr un cywair, ar ddechrau ei Drydedd Symffoni). Cyflwynir ail thema delynegol gan y ffidlau, gyda thrydydd syniad i’w glywed yn y chwythbrennau dros addurniadau llawn tyndra ar y llinynnau. Mae Bruckner yn ailadrodd ac yn datblygu’r tair thema mewn gwahanol ffyrdd, gan ymchwyddo i uchafbwyntiau ac yna tawelu eto i eiliadau o lonyddwch. Ymhen amser, cadarnheir y cywair D leiaf yn fawreddog yn y coda.

Mae’r symudiad araf Andante (yn B fflat fwyaf) yn agor â chymal fel emyn yn y llinynnau sy’n cael ei ateb gan y chwythbrennau. Efallai bod datblygiad araf y cordiau a’r seiniau soniarus cyferbyniol yn y llinynnau a’r chwythbrennau yn ein hatgoffa bod Bruckner hefyd yn organydd dawnus – mae’r effaith yn ddigon tebyg i newid chwaraefyrddau ar yr organ. Nesaf, caiff thema eang, hynod fynegiannol ei chyflwyno drwy gyfeiliant gyriadol cynnil. Mae’r ddau brif syniad yn cael eu hymestyn a’u datblygu ac mae’r awyrgylch gan mwyaf yn dangnefeddus, gan ddychwelyd ar y diwedd i’r un cordiau llinynnol ag a gafwyd ar ddechrau’r symudiad. 

Mae’r Scherzo yn ddramatig ac yn daer, wedi’i nodweddu â rhythmau ergydiol, tra bo’r adran Trio yn y canol yn arafach ac yn dynerach. Ar ôl y symudiad pigog hwn, mae’r diweddglo yn dechrau â chyflwyniad araf (sy’n anarferol iawn yng ngwaith Bruckner) cyn i’r prif syniad ymddangos, sy’n cael ei foddi yn y lle cyntaf gan yr holl gerddorfa yn chwarae fel un. Mae’r ail thema yn wahanol iawn: alaw eithaf operatig dros gyfeiliant curiadol. Tua diwedd y symudiad, mae Bruckner yn cryfhau’r tensiwn cyn cynnwys eiliad o dawelwch sy’n cael ei dilyn gan newid swta i gywair mwy sionc D fwyaf ar gyfer y coda byr buddugoliaethus. 

Nodyn y rhaglen © Nigel Simeone
Gwrando Pellach: RSO Berlin/Riccardo Chailly (Decca 4215932)
Darllen Pellach: The Cambridge Companion to Bruckner gol. John Williamson (CUP)

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?

Bywgraffiadau

Ryan Bancroft arweinydd

Ryan Bancroft

Lun: Benjamin Ealovega

Lun: Benjamin Ealovega

Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018, pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2020, bu’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf i weithio gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yr Artist Cyswllt o’r tymor 2021– 22 ymlaen. Y llynedd, cyhoeddwyd ei fod yn Brif Arweinydd Dynodedig Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm a bydd yn dechrau yn y swydd fis Medi nesaf. 

Mae wedi perfformio am y tro cyntaf gyda nifer o gerddorfeydd blaenllaw yn Ewrop, gan gynnwys y Philharmonia, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain a Rotterdam, y BBC, cerddorfeydd Symffoni Radio Cenedlaethol Denmarc a Sweden, Cerddorfa Capitole Toulouse, RAI Turin ac Ensemble Intercontemporain. Yng Ngogledd America, mae wedi gweithio gyda cherddorfeydd Symffoni Baltimore, Houston a Toronto a bydd y tymor hwn yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Dallas a Cherddorfa Minnesota. Mae hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Suntory Hall gyda New Japan Philharmonic a Midori, yn y Royal Festival Hall gyda’r Philharmonia a Syr Stephen Hough ac yn y Royal Concertgebouw gyda Cherddorfa Ffilharmonig yr Iseldiroedd. Mae hefyd yn dychwelyd at gerddorfeydd Symffoni Dinas Birmingham, Gothenburg a Malmö.

Mae’n frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble, Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, Cage, Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio’n agos gyda threfnwyr byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden. Mae’n dychwelyd i weithio gydag Ensemble Intercontemporain ym mis Mawrth. 

Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd.


Simon Höfele utgorn

Simon Höfele

Lun: Marco Borggreve

Lun: Marco Borggreve

Enillodd Simon Höfele brif wobr cerddoriaeth glasurol yr Almaen, sef yr Opus Klassik, yn 2020, gan lansio ei yrfa ryngwladol.  

Mae eisoes wedi chwarae â sawl cerddorfa flaenllaw, a’r tymor diwethaf, ef oedd Artist Preswyl y Brandenburgisches Staatsorchester yn Frankfurt.   

Mae wedi rhoi datganiadau yn Neuadd Wigmore Llundain, Zurich Tonhalle, Vienna Konzerthaus, Amsterdam Concertgebouw, yn Sefydliad Gulbenkian yn Lisbon, L’Auditori yn Barcelona, Müpa Budapest, Luxembourg Philharmonie, BOZAR ym Mrwsel, Hamburg Elbphilharmonie, Berlin Konzerthaus, Prinzregententheater a Herkulessaal yn Munich a’r Dortmund Konzerthaus, yn ogystal ag yng ngwyliau Cheltenham, MITO, Rheingau, Schleswig-Holstein, Mecklenburg-Vorpommern, MDR Musiksommer a Grafenegg. 

Ymysg yr Arweinyddion y mae wedi gweithio â nhw mae Ryan Bancroft, Joseph Bastian, Semyon Bychkov, Alpesh Chauhan, Jonathan Cohen, Dennis Russell Davies, Jan Willem de Vriend, Ben Gernon, Pietari Inkinen, Julia Jones, Vladimir Jurowski, Roland Kluttig, Joana Mallwitz, Andrew Manze, Matthias Pintscher, Clemens Schuldt, Steven Sloane, Markus Stenz, Valentin Uryupin, Mario Venzago, Lorenzo Viotti, Duncan Ward a Kahchun Wong.   

Yn ogystal â pherfformio repertoire utgorn safonol, mae ganddo hefyd ddiddordeb brwd mewn cerddoriaeth gyfoes; y tymor hwn bydd yn rhoi’r perfformiad cyntaf o Icaros gan Helena Winkelman a’r perfformiad cyntaf o Orion Arm gan Miroslav Srnka. 

Cafodd Simon Höfele ei wers gyntaf ar yr utgorn pan oedd yn 7 oed ac mae’n un o gyn Artistiaid Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3. Mae hefyd yn un o ‘Sêr Newydd’ Cymdeithas Neuaddau Cyngerdd Ewrop a chafodd ei ddewis fel artist yng nghyfres ‘Junge Wilde’ Dortmund Konzerthaus.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes. 

Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu. 

Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.

Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr 
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Fiona McCapra
Terry Porteus
Suzanne Casey
Kerry Gordon-Smith
Ilze Abola 
Juan Gonzalez
Anthony Wing Pong Poon 
Ruth Heney
Carmel Barber
Anna Cleworth
Dániel Máté Mészöly
Paul Mann

Aail Ffidlua 
Anna Smith *
Molly Cockburn
Vickie Ringguth
Sellena Leony
Michael Topping
Beverley Wescott
Joseph Williams
Lydia Caines
Gary George-Veale
Emma Menzies
Zhivko Georgiev
Eleanor Gilchrist

Fiolau 
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Ania Leadbeater
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Lily Rogers
Carl Hill

Soddgrythau 
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Jessica Feaver
Alistair Howes
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Kathryn Graham 
Katy Cox

Basau Dwbl
Alexander Jones ‡
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Emma Prince
Lowri Morgan
Evangeline Tang

Ffliwtiau
Fiona Fulton ‡
Lindsey Ellis

Piccolo 
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson †
Sarah-Jayne Porsmoguer

Cor Anglais 
Sarah-Jayne Porsmoguer † 

Clarinetau 
Nick Carpenter ‡
Lenny Sayers

Sacsoffonau 
Gerard McChrystal
Naomi Bailey
Megan Glover
Rhys Taylor
Dave Miller

Baswnau 
Jarosław Augustyniak *
Rosemary Cow 
Alex Davidson

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes 
Neil Shewan †
William Haskins
John Davy

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Cameron Todd

Trombonau
Donal Bannister *
Pawel Cieślak

Trombôn Bas 
Darren Smith †

Tiwba 
Daniel Trodden †

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro  
Chris Stock *
Mark Walker †
Phil Hughes

Y Delyn 
Valerie Aldrich-Smith †

Piano/Organ Hammond
Ben Dawson

Gitâr
Steve Smith

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James **
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Gweinyddwr y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-Rediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorth-Wyydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata a Chynulleid-Faoedd Sassy Hicks + 
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruch-Wylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
Prentisiaid BBC Cymru Josh Gill, Analese Thomas-Strachan, Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications