

Cyngerdd Cloi’r Tymor
Nos Iau 6/6/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Nos Wener 7/6/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Antonín Dvořák
Concerto i’r Soddgrwth yn B leiaf40’
EGWYL: 20 munud
Jennifer Higdon
Blue Cathedral11’
William Dawson
Negro Folk Symphony 36’
Ryan Bancroftarweinydd
Alisa Weilerstein soddgrwth

Mae’r cyngerdd yng Nghaerdydd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i gael ei ddarlledu ar 13 Mehefin ar y rhaglen Radio 3 in Concert.Bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad

Llun: Kirsten McTernan
Llun: Kirsten McTernan
Ar gyfer y cyngerdd heno, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn ôl ar gyfer ei gyngerdd olaf o’r tymor gyda BBC NOW.
Yn rhyfedd ddigon, a’n harweinydd wedi’i eni yn Los Angeles, mae llinyn Americanaidd cryf yn rhedeg drwy’r rhaglen, gan orffen ar nodyn uchel gyda’r Negro Folk Symphony gan William Dawson – gwaith a gafodd ganmoliaeth sylweddol 90 mlynedd yn ôl gan neb llai na Leopold Stokowski a Cherddorfa Philadelphia.
Cafodd Dawson ei ysbrydoli gan yr esiampl a roddwyd gan Dvořák, a aeth ati, tra oedd yn gweithio yn Efrog Newydd, i annog cyfansoddwyr Americanaidd i ddwyn ysbrydoliaeth o’u gwreiddiau diwylliannol eu hunain. Dechreuwn gyda’r meistr Tsiecaidd ei hun, a’i Goncerto i’r Soddgrwth poblogaidd, a gwblhaodd yn yr Unol Daleithiau. Mae’n deyrnged i’w wlad enedigol ac mae’n hawdd deall pam mae wedi dod yn ddarn y mae chwaraewyr soddgrwth a chynulleidfaoedd fel ei gilydd mor hoff ohono. Heno, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r seren ar y soddgrwth, yr Americanes Alisa Weilerstein, i’w berfformio.
Gan barhau â’r thema Americanaidd, cawn glywed Blue Cathedral gan Jennifer Higdon – gwaith a ysgrifennwyd i nodi pen-blwydd Sefydliad Curtis yn 75 oed, ond a ddaeth hefyd yn deyrnged i’w diweddar frawd hi ei hun. Wrth ysgrifennu’r darn, esboniodd, ‘cefais fy hun yn dychmygu taith drwy gadeirlan wydr yn yr awyr’.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Antonín Dvořák(1841–1904)
Concerto i’r Soddgrwth yn B leiaf(1894–5)

1 Allegro
2 Adagio, ma non troppo
3 Finale: Allegro moderato
Alisa Weilerstein soddgrwth
Roedd Antonín Dvořák yn syllu dros bellteroedd mawr yn hiraethu am ei gartref yn ei Goncerto i’r Soddgrwth. Fe’i cwblhaodd yn 1895 yn Efrog Newydd, yn ystod ei drydedd flwyddyn fel Cyfarwyddwr y Conservatoire Cerdd Cenedlaethol newydd ym Manhattan. Roedd wedi mwynhau ei ddwy flynedd gyntaf yn y rôl yn arw, ac roedd hynny i’w weld yn rhyfeddod a syndod ei Symffoni ‘Byd Newydd’ (Rhif 9) ac ym modlonrwydd cynnes ei Bedwarawd ‘Americanaidd’. Fodd bynnag, erbyn ei drydedd flwyddyn, roedd yn gweld ei hun yn hiraethu mwy a mwy am Bohemia. Cafodd y sefyllfa ei gwaethygu pan gafodd newyddion a oedd yn peri gofid: roedd ei chwaer yng nghyfraith, Josefína Kounicová (Čermáková gynt), yn ddifrifol wael. Tua 30 mlynedd yn gynharach, yr oedd y Dvořák ifanc dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â Josefína, a oedd yn un o’i ddisgyblion piano. Fodd bynnag, nid oedd hi’n ei garu yn ei ôl, felly priododd Dvořák ei chwaer iau, Anna, yn y pen draw. Ond y gred gyffredinol yw mai prin y newidiodd ei deimladau dros y degawdau.
Serch hynny, ysbrydoliaeth Americanaidd a sbardunodd Dvořák i ysgrifennu ei Goncerto i’r Soddgrwth. Yn gynharach yn ei yrfa, roedd y chwaraewr soddgrwth blaenllaw o Tsiecia, Hanuš Wihan, wedi plagio’r cyfansoddwr am goncerto, ond roedd Dvořák bob amser wedi gwrthod, gan nad oedd wedi’i argyhoeddi bod y soddgrwth yn addas fel unawdydd mewn concerto. Ond pan glywodd Ail Goncerto i’r Soddgrwth Victor Herbert, un o’i gydweithwyr yn y conservatoire, ym mis Mawrth 1894, cafodd ei ysbrydoli ar unwaith i ysgrifennu ei ddarn ei hun. Gwnaeth hynny mewn dim ond tri mis, rhwng mis Tachwedd 1894 a mis Chwefror 1895. Nid anghofiodd ychwaith am Josefina yn ei gwaeledd: ymgorfforodd ddyfyniad o’i gân ‘Gad Lonydd i Mi’ (‘Kéž duch můj sám’), un o ffefrynnau Josefína, i mewn i symudiad araf telynegol y concerto.
Ymhen hir a hwyr, dychwelodd Dvořák i Bohemia ym mis Ebrill 1895, a bu farw Josefína ddim ond mis yn ddiweddarach. Mewn ymateb i hyn, aeth y cyfansoddwr yn ôl at ei Goncerto i’r Soddgrwth, gan ddisodli ei ddiweddglo dathliadol gwreiddiol gydag atgof tawel o’i gân ‘Gad Lonydd i Mi’. Pan fynnodd Wihan, y sawl y cyflwynwyd y gwaith iddo, ei fod yn cael cadenza unawdol trawiadol i ddangos ei sgiliau eithriadol yn y diweddglo, gwrthododd Dvořák, gan fynd mor bell â phwysleisio ei ddymuniadau mewn nodyn i’w gyhoeddwr: ‘Rhaid i mi fynnu bod fy ngwaith yn cael ei gyhoeddi yn union fel rwyf wedi’i ysgrifennu. Rydw i’n rhoi fy ngwaith i chi ar yr amod eich bod yn addo i mi na fydd neb – dim hyd yn oed fy nghyfaill Wihan – yn ei newid yn ddiarwybod i mi a heb fy nghaniatâd i, a’ch bod hefyd yn addo na fydd cadenza fel un Wihan yn cael ei gynnwys yn y symudiad olaf.’
Er gwaethaf drama stormus y darn, mae’r Concerto i’r Soddgrwth yn aml yn fyfyriol o ran tôn, gyda’r unawdydd a’r gerddorfa yn gyfartal fel partneriaid yn hytrach na gwrthwynebwyr. Mae ei symudiad agoriadol pendant yn ildio i dawelwch bugeiliol yn y symudiad araf canolog, cyn i ddiweddglo Dvořák, sydd fel arall yn orfoleddus, drochi’r gwrandawyr yn annisgwyl mewn prudd-der chwerwfelys ychydig cyn iddo ddod i ben.
Nodyn y rhaglen © David Kettle
EGWYL: 20 munud
Jennifer Higdon(ganed 1962)
Blue Cathedral(1999)

Glas … fel yr awyr. Lle hed yr holl bosibiliadau.
Cadeirlannau ... mannau ar gyfer meddwl, twf, mynegiant ysbrydol … sy’n gweithredu fel drws symbolaidd i mewn ac allan o’r byd hwn.
Mae glas yn cynrychioli potensial a chynnydd teithiau. Mae Cadeirlannau yn cynrychioli dechrau, gorffen, unigedd, cymrodoriaeth, myfyrdod, gwybodaeth a thwf. Wrth i mi ysgrifennu’r darn hwn, cefais fy hun yn dychmygu taith drwy gadeirlan wydr yn yr awyr. Oherwydd y byddai’r waliau’n dryloyw, gallwn weld y ddelwedd o gymylau a glesni yn treiddio o’r tu allan i mewn i’r eglwys hon. Yn fy meddwl i, byddai’r gwrandäwr yn dod i mewn o gefn y noddfa ac yn arnofio ar hyd y coridor rhwng pileri crisial enfawr, gan symud yn fyfyriol. Byddai ffigyrau yn y ffenestri gwydr lliw yn dechrau symud gan ganu cerddoriaeth nefolaidd. Byddai’r gwrandäwr yn arnofio i lawr yr eil, gan symud i fyny’n araf yn gyntaf ac yna’n gyflymach, gan godi tuag at nenfwd enfawr a fyddai’n agor i’r awyr ... wrth i’r daith hon fynd yn ei blaen, byddai’r teithiwr yn cyflymu, gan ruthro ymlaen ac i fyny. Roeddwn i eisiau creu’r teimlad o fyfyrdod a heddwch tawel ar y dechrau, gan symud tuag at y teimlad o ddathlu a’r enaid yn ehangu’n orawenus, a hyn oll gan gydganu â’r gerddoriaeth nefolaidd honno.
Dyma oeddwn i’n meddwl amdano pan gefais fy nghomisiynu gan Sefydliad Cerddoriaeth Curtis i ysgrifennu gwaith i goffáu ei ben-blwydd yn 75 oed. Tŷ gwybodaeth yw Curtis – lle i ymgyrraedd at y mynegiant hyfryd o’r enaid sy’n dod drwy gerddoriaeth. Dechreuais ysgrifennu’r darn hwn ar adeg unigryw yn fy mywyd ac fe’m cefais fy hun yn pendroni ynghylch beth sy’n gwneud bywyd. Fe wnaeth colli fy mrawd bach, Andrew Blue, yn ddiweddar wneud i mi fyfyrio ar y teithiau anhygoel rydyn ni i gyd yn eu gwneud yn ein bywydau, gan groesi llwybrau gyda chymaint o unigolion ar ein pennau ein hunain ac ar y cyd, gan ddysgu a thyfu bob cam o’r ffordd.
Mae Blue Cathedral yn cynrychioli mynegiant yr unigolyn a’r grŵp ... ein teithiau y tu mewn i ni a’r lleoedd y mae ein heneidiau yn mynd â ni, y gwersi rydyn ni’n eu dysgu, a’r twf rydyn ni’n ei brofi. Yn deyrnged i fy mrawd, rwy’n cynnwys unawdau ar gyfer y clarinét (yr offeryn roedd e’n ei chwarae) a’r ffliwt (yr offeryn rydw i’n ei chwarae). Gan mai fi yw’r chwaer fawr, y ffliwt sy’n ymddangos gyntaf yn y ddeialog hon. Ar ddiwedd y gwaith, mae’r ddau offeryn yn parhau â’u deialog, ond y ffliwt sy’n rhoi’r gorau i chwarae a’r clarinét sy’n parhau ar y daith tuag i fyny. Dyma stori sy’n coffáu byw a theithio drwy fannau o wybodaeth, a rhannu’r gân honno a elwir yn fywyd.
Nodyn y rhaglen © Jennifer Higdon
William Dawson (1899–1990)
Negro Folk Symphony (1925–9, diw. ar ôl 1952)

1 The Bond of Africa
2 Hope in the Night
3 O Le’ Me Shine, Shine Like a Morning Star!
Yn 1893, roedd Antonín Dvořák yn annog cyfansoddwyr Americanaidd i ddefnyddio cerddoriaeth werin Affricanaidd-Americanaidd fel sail ar gyfer cerddoriaeth genedlaethol unigryw. Cafodd ‘O’r Byd Newydd’, ei Nawfed Symffoni a ysbrydolwyd gan gerddoriaeth werin, ei pherfformio am y tro cyntaf yn Efrog Newydd y flwyddyn honno. Ychydig a wyddai Dvořák y byddai cyfansoddwr Affricanaidd-Americanaidd o Alabama yn dwys ystyried ei eiriau a’i esiampl ychydig ddegawdau yn ddiweddarach, gan arwain at gyfansoddi ei Negro Folk Symphony ei hun.
Roedd y perfformiadau cyntaf o symffoni gyntaf William L. Dawson yn 1934 yn llwyddiant ysgubol ymysg cynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd – roedd yn dderbyniad anhygoel i unrhyw gyfansoddwr Americanaidd anhysbys, heb sôn am un Du. Cafodd Cerddorfa Philadelphia, dan arweiniad Leopold Stokowski, gymeradwyaeth fyddarol ar ôl pob symudiad. Yn anffodus, nid oedd gan y cyfansoddwr yr adnoddau, y cysylltiadau na’r eiriolwyr i gadw ei symffoni rhag mynd yn angof o fewn ychydig flynyddoedd. Fe wnaeth Dawson ymroi i addysgu yn y Tuskegee Institute yn Alabama, gan arwain y côr i enwogrwydd cenedlaethol a chreu trefniadau corawl oesol o emyn-donau Affricanaidd-Americanaidd.
Yn 1952–53 treuliodd Dawson sawl wythnos yng Ngorllewin Affrica, yn astudio cerddoriaeth ei hynafiaid. Fe’i synnwyd gan y drymio, y canu a’r dawnsio y daeth ar eu traws, gan ysgrifennu adref at ei wraig Cecile yn dweud mai ‘chwarae plant’ oedd y gerddoriaeth Affricanaidd yr oedd wedi’i chlywed ar recordiau o’i gymharu â’r peth go iawn. Ar ôl dychwelyd i’r Unol Daleithiau, aeth Dawson ati i adolygu ei Negro Folk Symphony yn sylweddol a’i gwella, gan ychwanegu seiniau a rhythmau newydd ati, wedi’u hysbrydoli gan ei brofiadau. Cyhoeddwyd y fersiwn ddiwygiedig hon yn 1963, a dyma’r unig un a glywyd ers hynny.
Mae symudiadau’r symffoni yn cael eu huno gan fotiff pedwar nodyn a glywir ar y dechrau, sy’n cynrychioli, yng ngeiriau’r cyfansoddwr, ‘y cysylltiad a dynnwyd o gadwyn ddynol pan gipiwyd yr Affricanwr cyntaf oddi ar lannau ei dir brodorol a’i anfon i fod yn gaethwas’. Mae’r symudiad cyntaf yn cyfleu cyfoeth treftadaeth ddiwylliannol Americanwyr Affricanaidd, yr ail yn cyfleu trasiedi caethwasiaeth, a’r trydydd yn cyfleu’r llawenydd a’r gwellhad a ddaw yn sgil rhyddid. Mae Dawson yn defnyddio sawl alaw werin sydd eisoes yn bodoli fel deunydd melodaidd, er ei fod, yn drawiadol, yn dewis peidio â chynnwys un yn y symudiad canol. Nodweddir y Negro Folk Symphony gan feistrolaeth y cyfansoddwr o liw cerddorfaol, gweadau a rhythmau cymhleth, a synnwyr dramatig craff. Mae’n ymateb nodweddiadol Affricanaidd-Americanaidd i Nawfed Symffoni Dvořák, sy’n cynnig pleserau tebyg, ond neges llawer mwy cymhleth, i wrandawyr.
Nodyn y rhaglen © Gwynne Kuhner Brown
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant …
Gergely Madaras yn arwain …
Nos Wener 21/06/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Debussy Prélude à l’après-midi d’un faune
Debussy Nocturnes
Christian Mason Thaleia première y DU
Franck Psyché – ‘Les jardins d’Éros’
Gergely Madaras arweinydd
Noémi Győri ffliwt
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
HUDOLUS | DARLUNIADOL | LLESMEIRIOL
Yn Prélude à l’après-midi d’un faune gan Debussy – darn arloesol sy’n portreadu breuddwydion a chyfarfyddiadau ffawn mytholegol – mae amwysedd byrlymus a harmonïau tryloyw yn disgleirio yn y darn, gyda’i alawon sy’n dwyn ysbrydoliaeth gan y Dwyrain, ei naws gynnil a’i brydferthwch pur. Yna, byddwn yn archwilio golau a chysgod yn Nocturnes Debussy, sydd wedi’u hysbrydoli gan gyfres o baentiadau Whistler o’r un enw. Ceir alaw befriog ysgafn yn ‘Nuages’, y cyntaf o'r Nocturnes, ac yna egni rhythmig sy’n dyrnu mynd yn ‘Fêtes’, tra mae’r defnydd o leisiau menywod yn ‘Sirènes’ yn dod ag ansawdd iasol i’r gwead.
Mae Thaleia, concerto Louis Mason i’r ffliwt, yn defnyddio’r offeryn unawdol mewn arddull persain rhydd, sy’n adleisio L’après-midi gan Debussy. Fe’i hysgrifennwyd ar gyfer Noémi Győri fel rhan o’i phrosiect ‘Contemplation of the Nymph’, lle mae nodweddion Thaleia, afondduwies Etna, yn ganolog. Rydyn ni’n falch iawn bod Noémi yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r arweinydd Gergely Madaras ar gyfer y perfformiad cyntaf erioed o’r gwaith hwn yn y DU. Byddwn ni’n gorffen y cyngerdd hudolus hwn gyda ‘Les jardins d’Eros’ o Psyché, cathl symffonig Franck, sy’n gosod geiriau gan Sicard a Louis de Fourcaud ac sydd wedi’u hysbrydoli gan Metamorphoses gan Apuleius.
Bywgraffiadau
Ryan Bancroftarweinydd

Llun: Benjamin Ealovega
Llun: Benjamin Ealovega
Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018, pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, mae’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf i weithio gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yn Artist Cyswllt yno o dymor 2021/22 ymlaen. Ym mis Medi, daeth yn Brif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm.
Yn ei rôl newydd fel Prif Arweinydd yn Stockholm, bu’n agor y tymor gyda pherfformiad cyntaf y gerddorfa o The High Mass gan Sven-David Sandström ac mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys perfformiadau cyntaf o ddarnau gan Daniel Börtz ac Anders Hillborg, a chyngherddau gydag Emanuel Ax a Seong-Jin Cho.
Haf diwethaf, ymddangosodd am y tro cyntaf yn yr Hollywood Bowl gyda Cherddorfa Ffilharmonig Los Angeles; y tymor hwn, bydd hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Cleveland, Cerddorfeydd Symffoni San Francisco a Cincinnati, NDR Elbphilharmonie Orchestra, Orquesta Sinfónica de Castilla y León a Cherddorfa Ffilharmonig Radio’r Iseldiroedd, yn ogystal â dychwelyd i Gerddorfa Symffoni a Cherddorfa Ffilharmonig Toronto.
Mae’n frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble, Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, John Cage, James Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio’n agos gyda cherddorion byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden.
Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd.
Alisa Weilersteinsoddgrwth

Llun: Marco Borggreve
Llun: Marco Borggreve
Mae Alisa Weilerstein yn un o chwaraewyr soddgrwth mwyaf blaenllaw ein hoes. Mae’n adnabyddus am ei chelfyddyd ddeheuig, ei hymroddiad emosiynol a’i dyfnder deongliadol prin, ac fe gafodd ei chydnabod gyda Chymrodoriaeth MacArthur yn 2011. Heddiw, mae ei gyrfa’n wirioneddol fyd-eang o ran ei chwmpas, gan fynd â hi i’r lleoliadau rhyngwladol mwyaf mawreddog ar gyfer datganiadau unigol, cyngherddau siambr a choncerti cydweithredol gydag arweinwyr a cherddorfeydd blaenllaw ym mhedwar ban byd.
Ganed Alisa Weilerstein yn 1982 ac fe syrthiodd mewn cariad â’r soddgrwth yn ddyflwydd a hanner – pan oedd ganddi frech ieir a’i nain wedi creu set o offerynnau wedi’u gwneud o focsys grawnfwyd i’w difyrru. Er iddi gael ei denu’n syth at y soddgrwth wedi’i wneud â bocs Rice Krispies, buan iawn y teimlodd Weilerstein yn rhwystredig nad oedd yn cynhyrchu unrhyw sain. Ar ôl darbwyllo ei rhieni i brynu soddgrwth go iawn iddi pan oedd yn bedair oed, datblygodd gysylltiad naturiol â’r offeryn a rhoddodd ei pherfformiad cyhoeddus cyntaf chwe mis yn ddiweddarach. Yn 13 oed ymddangosodd am y tro cyntaf mewn cyngerdd proffesiynol, yn chwarae Amrywiadau ‘Rococo’ gan Tchaikovsky gyda Cherddorfa Cleveland, ac ym mis Mawrth 1997 ymddangosodd yn Neuadd Carnegie am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Ieuenctid Efrog Newydd. Graddiodd o’r Rhaglen Artistiaid Ifanc yn Sefydliad Cerddoriaeth Cleveland, lle bu’n astudio gyda Richard Weiss, ac mae ganddi hefyd radd mewn hanes o Brifysgol Columbia.
Ganed hi i mewn i deulu cerddorol – hi yw merch y feiolinydd Donald Weilerstein a’r pianydd Vivian Hornik Weilerstein, a chwaer yr arweinydd Joshua Weilerstein.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn cael cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.
Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.
Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.
Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau ac yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.
I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Anna Cleworth
Emilie Godden
Žanete Uškāne
Ruth Heney
Carmel Barber
Amy Fletcher
Gary George-Veale
Catherine Fox
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Amy Jones
Ros Butler
Sheila Smith
Michael Topping
Katherine Miller
Joseph Williams
Lydia Caines
Ilze Abola
Vickie Ringguth
Beverley Wescott
Roussanka Karatchivieva
Fiolâu
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Lowri Taffinder
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Anna Growns
Daíre Roberts
Lucy Theo
Ania Leadbeater
Charlotte Limb
Soddgrythau
Alice Neary *
Raphael Lang
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Tabitha Selley
Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Thea Sayer
FabiánGaleana
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis
Piccolo
Lindsey Ellis †
Oboau
Steve Hudson *
Henrietta Cooke
Amy McKean †
Cor Anglais
Amy McKean †
Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Aaron Hartnell-Booth
Hannah Morgan
Lenny Sayers
Clarinét E feddalnod
Aaron Hartnell-Booth
Clarinét Bas
Lenny Sayers †
Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Andrew Huntriss
David Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Joel Ashford
John Davy
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris † **
Trombonau
Donal Bannister*
Simon Wills
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Barnaby Archer
Offerynnau Taro
Phil Girling
Harry Lovell-Jones
Sam Jowett
Christina Slominska
Y Delyn
Deian Rowlands
Piano/Celesta
Catherine Roe Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol
** Prif Offerynnwr yn y Dvořák
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa penodiad ar waith
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentis BBC Cymru Jordan Woodley
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications
