Shostakovich 6 gyda Ryan Bancroft

Nos Wener 14/2/25, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Sadwrn 15/2/25, 7.30pm

Neuadd Brangwyn, Abertawe

Gavin Higgins
A Monstrous Little Suite première byd c20’

Mieczysław Weinberg
Concerto i’r Utgorn 24’

EGWYL: 20 munud

Dmitry Shostakovich 
Symffoni Rhif 6 30’

Ryan Bancroftarweinydd
Håkan Hardenberger utgorn

Mae’r cyngerdd yng Nghaerdydd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol yn In Concert; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd glywed podlediadau a rhaglenni cerddoriaeth.

Cyflwyniad

Llun: Kirsten McTernan

Llun: Kirsten McTernan

Croeso i’r cyngerdd heno, lle mae ein Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn cyflwyno rhaglen amrywiol sy’n mynd â ni o galon yr hen Rwsia Sofietaidd i’n hoes ni heddiw. Does dim angen cyflwyno Gavin Higgins, ein Cyfansoddwr Cysylltiedig hoff. Heno cawn weld y perfformiad cyntaf yn y byd o AMonstrous Little Suite, sef crynodeb gan Higgins o’i opera o 2019 The Monstrous Child (ei gyntaf) i greu darn cerddorfaol miniog a chwareus nad yw’n colli dim o’i synnwyr cymeriadaeth.

Eleni rydym hefyd yn nodi 50 mlynedd ers marw Shostakovich, a heno tro’r Chweched Symffoni yw hi. Dyma waith mewn symudiadau cyferbyniol iawn, a syfrdanodd gynulleidfaoedd cynnar – a’r awdurdodau, hefyd, a oedd wedi cael eu harwain gan y cyfansoddwr i ddisgwyl gwaith corawl mawreddog i ddathlu Lenin.

Ffrind a chydweithiwr iau i Shostakovich oedd Weinberg, ac mae ei Goncerto ir Utgorn o 1967 yn ei dro’n chwareus, yn ddwys ac yn feistrolgar. Dyma rinweddau nad yw Håkan Hardenberger yn brin ohonynt ac rydym yn falch iawn o groesawu’r meistr hwn ar yr utgorn i’r llwyfan heno.

Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Gavin Higgins (ganed 1983)

A Monstrous Little Suite(2024)

première byd

1 Slither, Plop, Out I Come! 
2 Hel Is In Love 
3 Hel’s Fate and Ragnarok 
4 Bìum, Bìum, Bambaló 
5 Stop Fighting! Or I’ll Smash Your Skulls! 

Mae’r gyfres hon yn tarddu o gerddoriaeth fy opera The Monstrous Child, sy’n seiliedig ar y llyfr o’r un enw gan Francesca Simon. Mae’n adrodd hanes Hel, duwies Nordig y meirw, yr hanner-dduwies hanner-corff sy’n ferch i Loki. Yn ferch yn ei harddegau o’r canol i fyny, ond yn gelain bydredig, fadreddog o’r canol i lawr, mae Hel wedi cael ei halltudio i’r isfyd gan y duwiau ofnus a’i gorfodi i reoli’r meirw anniolchgar. Fodd bynnag, gyda’i brodyr angenfilaidd, Fenrir y Blaidd a Jormungandr y Neidr, mae hi wedi’i thynghedu i ladd y duwiau a dinistrio’r byd – ac all hyd yn oed duwies ddim newid ei thynged ...

Mae’n amhosib gwasgu holl themâu cerddorol yr opera i ddarn cerddorfaol 20 munud, ond rydw i wedi ceisio dewis yn ddoeth. Gobeithio fy mod i wedi dal hanfod yr opera – yr hiwmor, y rhamant, y ddrama – yn y Monstrous Little Suite yma.

Mae ‘Slither, Plop, Out I Come!’ wedi’i gymryd o Olygfa 1 lle mae’r gawres – a gwraig Loki – Angrbodayn geni ei thri anghenfil o blentyn. Mae ‘Hel Is In Love’ yn dod o Olygfa 5 lle mae Hel yn breuddwydio am y duw hardd Baldr – yr unig dduw a ddangosodd unrhyw garedigrwydd tuag ati ac sydd, mae hi bellach yn argyhoeddedig, mewn cariad â hi. Daw ‘Hel’s Fate and Ragnarok’ o Olygfa 6 lle mae Hel yn derbyn ei thynged o’r diwedd, mae’r Blaidd a’r Neidr yn torri’n rhydd, ac mae’r byd yn cael ei ddinistrio yn Ragnarok. Cân si-lwli sbeitlyd yw ‘Bìum, Bìum, Bambaló’ sy’n cael ei chanu gan y gawres Angrboda i’w hanghenfil-blant yng Ngolygfa 2, a daw’r gyfres i ben gyda ‘Stop Fighting! Or I’ll Smash Your Skulls!’ – yr interliwd gerddorol gyntaf yn yr opera, o Olygfa 1, lle mae’r Blaidd a’r Neidr ifanc yn cwffio â’i gilydd!

Nodyn y rhaglen © Gavin Higgins

Mieczysław Weinberg (1919–96)

Concerto i’r Utgorn yn B feddalnod fwyaf, Op. 94(1967)

1 Études
2 Episodes
3 Fanfares

Håkan Hardenberger utgorn

Cyfansoddodd Weinberg ei Goncerto i’r Utgorn ym 1967 ar gyfer yr athrylith Sofietaidd Timofei Dokshitser. Mae pob motiff a deunydd thematig i’r unawdydd a’r gerddorfa fel ei gilydd yn idiomatig i’r utgorn, felly nid concerto sy’n digwydd bod wedi’i ysgrifennu i’r utgorn yw’r darn – dim ond utgorn allai ei chwarae. Mae’r symudiad cyntaf, ‘Études’, yn dechrau gyda graddfeydd byr a chyflym sy’n cael eu dynwared gan y gerddorfa. Wedyn mae’r utgorn yn newid i nodau hir, mawreddog, yna i dafodi dwbl, ac felly ymlaen. Mae’r naws yn chwareus, yn enwedig pan glywir math o polka ffair, yn debyg iawn i arddull mentor a chyfaill Weinberg, Shostakovich.

Yn yr ail symudiad, ‘Episodes’, mae’r naws yn fwy tywyll a thaer. Ategir y ffanffer un nodyn cychwynnol gan thema sy’n cychwyn o gyfwng pedwerydd perffaith (ystum arwrol, fel ar ddechrau’r Marseillaise). Rydyn ni’n mynd i fyd sain tebyg i fyd Pedwaredd Symffoni Shostakovich a oedd heb ei pherfformio ers bron i 30 mlynedd ond a welodd olau dydd o’r diwedd yn y 1960au cynnar. Roedd dylanwad Mahler yn gryf yn y symffoni, ac mae’n bresennol yma hefyd, yn enwedig pan fydd yr unawd utgorn yn cael cyfeiliant telyn. Mae’r naws yn ddwys ac yn anesmwyth.

Mae’r finale, ‘Fanfares’, yn od: mae’n dechrau gyda chasgliad o alawon utgorn enwog, o weithiau Mendelssohn, Rimsky-Korsakov, Bizet a Stravinsky. Yn dilyn y tameidiau hyn daw’r ffigurau o agoriad y symudiad cyntaf yn eu hôl, ond yn hytrach na dechrau’r finale go iawn, cynigir cadenza meistrolgar inni yn ei le. Efallai, nawr, meddylia’r gwrandäwr, bydd y finale’n dechrau, ond dim ond pytiau gwibiol o waltz a gawn mewn trefniant cerddorfaol byrhoedlog. Cawn gipolwg ar rai o’r dyfyniadau cynharach, ac wedyn mae’r symudiad ar ben cyn i ni hyd yn oed fod yn gwbl siŵr ei fod wedi dechrau.

Enillodd y darn edmygedd Shostakovich, ac fe’i galwodd yn ‘symffoni-concerto’. Roedd y 1960au yn gyfnod o ansicrwydd arddulliadol mawr i gyfansoddwyr Sofietaidd: roedd rhai’n arbrofi gyda thechnegau avant-garde Gorllewinol, tra bod eraill yn dal i ysgrifennu yn arddull confensiynol blynyddoedd Stalin. Nid yw concerto Weinberg yn perthyn i’r naill garfan na’r llall, ac mae’n rhoi llwyfan i’r offeryn unigol, yn gariadus ac yn ffraeth, tra’n adeiladu celfwaith o ddarnau o’r gorffennol ymhell o’u cyd-destunau gwreiddiol.

Nodyn y rhaglen © Marina Frolova-Walker

EGWYL: 20 munud

Dmitry Shostakovich (1906–75)

Symffoni Rhif 6 yn B leiaf, Op. 54(1939)

1 Largo
2 Allegro
3 Presto

Oholl symffonïau Shostakovich, efallai mai’r Chweched ydi’r anoddaf i’w hamgyffred, gyda thri symudiad trawiadol iawn sydd ddim fel petaen nhw wedi’u cysylltu gan unrhyw ‘resymeg symffonig’ safonol. Mae’r symudiad cyntaf, araf, hir a statig, yn llawn galar a thristwch, ac yn ddefnyddio idiomau sy’n ein hatgoffa o’r tudalennau mwyaf truenus yng ngherddoriaeth Dioddefaint Bach. Scherzo chwil yw’r ail symudiad, weithiau’n ddeifiol, weithiau’n fwyn. Mae blas opera gomig i’r finale, gyda thinc o Rossini a Prokofiev tua’i dechrau. Clywir pyliau o chwerthin milain ac yna atgofion am ddawnsiau bale cynnar Shostakovich ei hun (a gawsai eu tynnu oddi ar y llwyfan ers tro), a chancan eofn yn goron ar y cyfan.

Doedd y daith hon ‘o Bach i Offenbach’ ddim yn ddealladwy nac yn dderbyniol i feirniaid y cyfnod oedd yn ffyddlon i’r Blaid Gomiwnyddol. Roedden nhw wedi nodi ymgais Shostakovich i ‘ddiwygio’ ei hun a dangos ‘dinasgarwch’ yn ei bumed symffoni aruthrol ac arwrol. Ond roedd y Chweched, medden nhw, yn gam anffodus yn ôl tuag at ffocws blaenorol Shostakovich ar ei obsesiynau preifat. Roedd Shostakovich ei hun wedi gwneud pethau’n waeth trwy roi’r argraff i’w gynulleidfa mai symffoni gorawl fawreddog am Lenin oedd ar y gweill. Eto, roedd y beirniaid yn cydnabod athrylith y cyfansoddi a’r trefniant cerddorfaol disglair, a oedd ben ac ysgwydd uwchben gwaith unrhyw gyfansoddwr Sofietaidd arall ar y pryd.

Efallai fod cyferbyniadau gwyllt Shostakovich yn gwneud synnwyr, serch hynny, fel portread o’r byd hurt o’i gwmpas. Fel y mynegwyd y peth gan ddyddiadurwr cyfoes ‘Gorymdeithiau a chaneuon ar y radio, posteri, torfeydd yn y strydoedd ... O’r tu allan, mae hyn yn ymddangos fel bwrlwm arferol bywyd. Ond bob nos, mae trenau’n gadael am y gogledd a’r dwyrain, yn cario carcharorion, ac mae’r celloedd carchar a adawyd ganddyn nhw’n cael eu hail-lenwi ar unwaith.’ Er bod braw y Carthu Mawr wedi tawelu erbyn 1939, roedd y canlyniadau’n dal i fod yn bresennol. Roedd rhai o berthnasau Shostakovich yn dal mewn gwersylloedd carchar. Cafodd Vsevolod Meyerhold, y cyfarwyddwr theatr mawr, a fu’n fentor pwysig i Shostakovich, ei arestio ym mis Mehefin (a’i ddienyddio’n gyfrinachol). Cafodd gwraig Meyerhold, yr actores enwog Zinaida Raikh, ei llofruddio’n giaidd yn eu fflat – doedd dim coffadwriaeth, a thrwy sibrydion anghyson y daeth yr unig wybodaeth. Ym mis Awst, llofnododd yr Undeb Sofietaidd gytundeb gyda Hitler, a gwnaeth propaganda’r wladwriaeth dro pedol ysgubol. Dim ond ysgwyd eu pennau mewn dryswch wnâi dinasyddion Sofietaidd o glywed y newyddion yn y strydoedd.

Yn fwriadol neu’n ddiarwybod, roedd y Chweched Symffoni yn ddarlun o’r ffordd yr oedd unrhyw fydolwg cydlynol bellach yn deilchion, gan gyfleu’r sefyllfa mewn ffordd na feiddiai neb ei mynegi mewn geiriau.

Nodyn y rhaglen © Marina Frolova-Walker

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant … 

Gwychder Gwyllt

Nos Iau 20/3/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Wener 21/3/25, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Grace Williams Penillion
Bruch Concerto Rhif 1 i’r Ffidil
Rachmaninov Symffoni Rhif 3

Tadaaki Otaka arweinydd
Eldbjørg Hemsing ffidil

TANLLYD | ANGERDDOL | GRYMUS

Yn y darn Penillion gan Grace Williams, ceir adlais o ganeuon gwerin â chyfeiliant telyn wrth i alawon lled-fyrfyfyr gael eu plethu â chyfeiliant rhythmig i greu agoriad grymus i’r cyngerdd yma gydag Arweinydd Llawryfog poblogaidd BBC NOW, Tadaaki Otaka.

Cyfunir alaw esgynnol a meistrolaeth andros o anodd yng Nghoncerto Cyntaf angerddol Bruch i’r Ffidil. O dân gwyllt yr unawdydd i gefndir cyfoethog y gerddorfa, does dim rhyfedd bod y concerto hwn yn dal yn ffefryn ymysg unawdwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, ac mae’n bleser gennym groesawu’r meistr ar y ffidil, Eldbjørg Hemsing, yn ei ôl i berfformio’r darn. Yn yr un modd, mae Trydedd Symffoni Rachmaninov hefyd yn ddarn angerddol, gydag uchafbwyntiau trawiadol yn ildio i unawdau dwys, a gorymdeithiau grymus yn troi’n ddathliad taranllyd, a’r cyfan yn seiliedig ar un motiff cerddorol sy’n cael ei drawsnewid a’i ddatblygu’n fedrus drwyddi draw.

Grym Gwerin

Nos Iau 1/5/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Wener 2/5/25, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Holst Capriccio
Stravinsky Symffonïau Offerynnau Chwyth
Syr James MacMillan Where the Lugar meets the Glaisnock première byd
Vaughan Williams In the Fen Country
Stravinsky Symffoni mewn Tri Symudiad

Syr James MacMillan arweinydd
David Childs ewffoniwm

ARGRAFFIADOL | SONIARUS | YSBLENNYDD

Yn Capriccio, ceir pytiau o alawon gwerin yn plethu â’i gilydd yng ngwaith caleidosgopig Holst. Mae’r elfennau gwerin Rwsiaidd yn chwarae rhan yr un mor ganolog yn Symffonïau Offerynnau Chwyth Stravinsky mewn darn sy’n archwilio ystyr gwreiddiol ‘symffoni’ – sef ‘seinio gyda’i gilydd’. Mae gweddïau byr rhwng y gwahanol offerynnau yn dwyn ynghyd yr atganau cyferbyniol ar dri chyflymder gwahanol ond â chysylltiad â’i gilydd.

Mae’r seren o Gymru ar yr ewffoniwm, David Childs, yn camu i lwyfan yr unawdydd ar gyfer y perfformiad cyntaf yn y byd o goncerto Syr James MacMillan, Where the Lugar meets the Glaisnock. Cerddoriaeth werin Lloegr sy’n ysbrydoliaeth i In the Fen Country gan Vaughan Williams; mae’n creu argraff symffonig drwy bortreadu cynhesrwydd natur, wedi’i gyfosod â gwagle llwm y ffendir, ac mae’n waith cynnar sy’n cynnig cipolwg ar iaith gerddorol aeddfed Vaughan Williams. Bydd y cyngerdd yn cloi gyda Stravinsky, y tro hwn gyda’i ymateb i erchyllterau’r Ail Ryfel Byd, ei Symffoni mewn Tri Symudiad. Mae’n bleser gennym groesawu Syr James MacMillan fel arweinydd.

Bywgraffiadau

Ryan Bancroftarweinydd

Benjamin Ealovega

Benjamin Ealovega

Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018, pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, bu’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf i weithio gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yn Artist Cyswllt yno o dymor 2021/22 ymlaen. Ym mis Medi 2023, daeth yn Brif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm.

Ar ôl dechrau ar ei gyfnod fel Prif Arweinydd yn Stockholm gyda pherfformiad cyntaf y gerddorfa o The High Mass gan Sven-David Sandström, mae ei ail dymor yn cynnwys perfformiadau o symffonïau gan Mahler a Bruckner, ochr yn ochr â’r perfformiadau cyntaf yn y byd o weithiau gan Chrichan Larson a Zacharias Wolfe, a chydweithrediadau gydag unawdwyr enwog gan gynnwys Leif Ove Andsnes, Maxim Vengerov a Vikingur Ólafsson.

Y tymor hwn, bydd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Radio Boston a’r Ffindir, Deutsches Symphonie-Orchester Berlin yn y Berlin Philharmonie a’r WDR Symphonieorchester yn Cologne.

Mae’n frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble, Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, John Cage, James Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio’n agos gyda cherddorion byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden.

Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd. 

Håkan Hardenbergerutgorn

Marco Borggreve

Marco Borggreve

Yn ystod ei yrfa anhygoel o 40 mlynedd fel unawdydd utgorn amlycaf y byd, mae Håkan Hardenberger nid yn unig wedi gwthio ffiniau’r hyn y gellir ei gyflawni gyda’r offeryn, mae hefyd wedi ysbrydoli cyfansoddwyr a chyd-gerddorion di-ri i ehangu eu gorwelion ac archwilio tiriogaethau cerddorol dieithr yn ei gwmni. Hyd heddiw mae’n dal yn danbaid dros ragoriaeth ac arloesedd.

Mae’n perfformio’n rheolaidd gydag ensembles gorau’r byd, gan gynnwys cerddorfeydd Ffilharmonig Berlin a Fienna, Cerddorfa Gewandhaus Leipzig, Cerddorfa Concertgebouw Frenhinol Amsterdam a cherddorfeydd symffoni Radio Bafaria, Boston, Llundain ac NHK.

Ymhlith ei ymrwymiadau nodedig y tymor hwn mae premières Sbaen, y Swistir a Siapan o Towards Paradise gan Jörg Widmann a première Sweden o goncerto i’r utgorn Helen Grime, night-sky-blue, dau waith a gomisiynwyd i nodi tymor ei benblwydd yn 60 oed yn ddiweddar; Aerial HK Gruber; concerto i’r utgorn Rolf Martinsson Bridge; Concerto Haydn i’r Utgorn ac Onze Lieder gan Betsy Jolas gyda cherddorfeydd Ffilharmonig y BBC a Turku; a Choncerto Weinberg i’r Utgorn yma yng Nghymru a gyda’r NDR Elbphilharmonie Orchester.

Mae’n cydweithio gydag arweinyddion enwocaf y byd, yn cynnwys Marin Alsop, Ryan Bancroft, Fabien Gabel, Alan Gilbert, Daniel Harding, Susanna Mälkki, Andris Nelsons, Sakari Oramo, Syr Simon Rattle, Dima Slobodeniouk, a John Storgårds.

Mae llawer o’r gweithiau a ysgrifennwyd iddo wedi dod yn gonglfeini’r repertoire diolch i’w ymroddiad diflino. Mae’r rhain yn cynnwys darnau gan Birtwistle, Brett Dean, Helen Grime, HK Gruber, Henze, Betsy Jolas, Ligeti, Olga Neuwirth, Takemitsu, Mark-Anthony Turnage, Rolf Wallin a Jörg Widmann.

Mae’n perfformio’n aml gyda’r pianydd Roland Pöntinen a’r offerynnwr taro Colin Currie. Gyda’r olaf rhyddhaodd Hardenberger recordiad o weithiau deuawd gan Brett Dean, André Jolivet ac eraill. Ar ei ddisg ddiweddaraf mewn rhestr doreithiog ceir concerti i’r utgorn gan y Ffrancwyr Jolivet, Schmitt a Tomasi, ynghyd ag Onze Lieder.

Yn enedigol o ddinas Malmö yn Sweden, dechreuodd Håkan Hardenberger astudio’r utgorn yn wyth oed gyda Bo Nilsson a pharhaodd â’i astudiaethau yn y Paris Conservatoire gyda Pierre Thibaud ac yn Los Angeles gyda Thomas Stevens. Rhwng 2016 a 2018, efe oedd Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerddoriaeth Siambr Malmö ac mae’n athro yng Nghonservatoire Malmö.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting + blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jonesis-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Alejandro Trigo
Anna Cleworth
Kerry Gordon-Smith
Žanete Uškāne
Carmel Barber
Ruth Heney **
Emilie Godden
Juan Gonzalez

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie
Ros Butler
Sheila Smith
Lydia Caines **
Ilze Abola
Roussanka Karatchivieva
Joseph Williams
Beverley Wescott
Vickie Ringguth
Katherine Miller
Michael Topping

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Catherine Palmer
Lydia Abell
Laura Sinnerton
Lowri Taffinder
Anna Growns
Robert Gibbons

Soddgrythau
Jessica Burroughs ‡
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Keith Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Evangeline Tang
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Mike Chaffin

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis **

Piccolo
Lindsey Ellis * **

Oboau
Steve Hudson *
Matt Jones
Amy McKean †

Cor anglais
Amy McKean †

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Bethany Crouch
Isaac Prince
Lenny Sayers +

Clarinét E feddalnod
Bethany Crouch

Clarinét Bas
Lenny Sayers †+**

Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Patrick Bolton
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland  † 

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Tom Taffinder
John Davy

Utgyrn
Philippe Schartz *
Dean Wright
Corey Morris †
Ben Jarvis

Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden † 

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro 
Phil Girling
Phil Hughes
Andrea Porter
Rhydian Griffiths
Max Ireland

Y Delyn
Elen Hydref Wright

Piano
Catherine Roe Williams

Organ
Gregory Drott

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol




Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +**
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol swydd wag
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol swydd wag
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications