Andrew Gourlay yn arwain … 

nos Sadwrn 17/9/22, 7.30pm

Carl Maria Von Weber  
Oberon – agorawd (9’) 

William Mathias 
Celtic Dances (14’) 

Gareth Glyn 
Amaterasu (15’) 

EGWYL  (20’) 

Ralph Vaughan Williams   
Pastoral Symphony (Symffoni Rhif 3) (34’) 

Andrew Gourlay Arweinydd
Hannah Stone Telyn
Ffion Edwards Soprano
Donal Bannister Trombôn 

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu ar Radio 3 in Concert. Bydd ar gael i’w ffrydio neu i’w lawrlwytho am 30 diwrnod ar BBC Sounds, sy’n cynnwys podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth hefyd. Ewch i bbc.co.uk/now i gael mwy o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol

Cyflwyniad

Croeso i’r tymor newydd, lle bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cael ei harwain gan Andrew Gourlay mewn gwledd o gerddoriaeth sy’n amrywio o Ramantiaeth gynnar yr Almaen hyd at y diwrnod presennol.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Andrew Gourlay am gamu i’r adwy’n fyr rybudd i arwain y cyngerdd, a fydd yn dechrau gyda’r agorawd o Oberon gan Weber – tad gwreiddiol opera Rhamantaidd yr Almaen – sy’n creu ymdeimlad o hud a lledrith yn syth diolch i glust ddiguro’r cyfansoddwr am liw offerynnol. Bron i ganrif yn ddiweddarach, roedd Vaughan Williams yn cyfleu byd llawer mwy amwys yn ei Drydedd Symffoni. Er iddo ei henwi’n Pastoral, mae’n ddarn sy’n frith o anesmwythyd – prin bod hynnny’n syndod o ystyried ei brofiadau dirdynnol fel gyrrwr ambiwlans yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn y canol daw cerddoriaeth gan ddau o leisiau mwyaf nodedig Cymru. Ysgrifennodd William Mathias ei Celtic Dances ar gyfer Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru ac mae ysbryd o optimistiaeth yn sail i bob un ohonynt. Yn Amaterasu, mae Gareth Glyn yn cymryd myth hynafol o Japan ac yn ei droi’n waith dychmygol ar gyfer telyn, trombôn a cherddorfa.

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Carl Maria von Weber (1786–1826)

Oberon (1825–6) – agorawd

Roedd y perfformiad cyntaf o opera ‘cenedlaethol’ cyffrous Weber, Der Freischütz (‘Y Saethwr Rhydd’) yn 1821 yn llwyddiant ysgubol. Creodd y sgôr gymaint o argraff ar Beethoven fel iddo fynnu bod Weber yn ‘ysgrifennu dim byd ond operâu nawr, un ar ôl y llall!’ Ysywaeth, rhoddodd y gwaith o gyfansoddi ei opera nesaf – Oberon, neu Llw Brenin y Corachod (1826) – gymaint o straen ar gyfansoddiad bregus Weber fel bod hynny wedi ei ladd i bob pwrpas. Bu farw lai na dau fis ar ôl llwyfaniad cyntaf Oberon yn Llundain ym mis Ebrill 1826, ac yntau ddim ond yn 39 oed. 

Petai wedi byw, byddai Weber bron yn sicr wedi diwygio Oberon, gan dynhau’r strwythur rhyfeddol o lac a sicrhau bod ei gerddoriaeth wych yn cael effaith briodol. Nid felly oedd pethau i fod, ond yn ffodus mae’r agorawd yn ddigon cryf i siarad drosto’i hun. Mae’r cyflwyniad araf yn llawn awyrgylch (roedd Mendelssohn yn cofio amdano pan ysgrifennodd ei gerddoriaeth tylwyth teg ei hun ar gyfer gwaith Shakespeare, A Midsummer Night’s Dream): Mae defnydd Weber o’r llinynnau tawel, y fflachiadau o ffliwtiau uchel a’r clarinetau, a baswnau tawel gyda chyrn ac utgyrn, yn unol â’r plot, yn hudolus. Yn anad dim, y cyfansoddi ar gyfer y corn unawdol, sy’n adleisio corn hud y Brenin Oberon, ac sy’n dod i gynorthwyo’r prif gymeriadau – a hefyd y plot cymhleth – ar sawl achlysur yn yr opera. Mae Allegro con fuoco egnïol yn dilyn, gan dynnu syniadau eraill i mewn o’r opera, gan gyrraedd diweddglo gorfoleddus. 

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

Gwrando Pellach: Konzerthaus Orchester Berlin/Christoph Eschenbach (Alpha ALPHA744)

Darllen Pellach: Carl Maria von Weber John Warrack (Cambridge University Press)

William Mathias (1934–92)

Celtic Dances, Op. 60 (1972) 

1 Moderato – Allegro vivace
2 Allegro leggiero
3 Andante con moto
4 Allegro con slancio

Mae’r gwaith llawen hwn yn dathlu ieuenctid ym mhob ystyr. Ganwyd Mathias yn Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin, ar ddydd Gŵyl yr Holl Saint yn 1934 ac astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn symud yn ei flaen i’r Academi Gerdd Frenhinol. Ar ôl bron i ddegawd o ddarlithio ym Mhrifysgol Bangor, aeth i Gaeredin am gyfnod byr yn 1968 – ond cyn iddo allu setlo yno bu farw ei dad, a sbardunodd hyn benderfyniad i symud yn ôl i Hendy-gwyn ar Daf i ganolbwyntio ar gyfansoddi yn unig. Cyfeiriodd Mathias yn ddiweddarach at y cyfnod hwn fel ei ‘flwyddyn mewn meillion’ ac roedd yn ymddangos ei fod yn ailffocysu ymwybyddiaeth ddofn o’i dreftadaeth Gymreig. Daeth hyn i’r amlwg am y tro cyntaf yn y Concerto i’r Delyn yn 1970, a ddisgrifiodd fel ei sgôr Gymreig ‘archdeip’ gyntaf, ac mae hefyd yn darparu’r cyd-destun ar gyfer y Celtic Dances, a gomisiynwyd ar gyfer y dathliadau yn 1972 i nodi 50 mlynedd ers sefydlu Urdd Gobaith Cymru, y mudiad eiconig sy’n dathlu ei ganmlwyddiant eleni.

Fe’u cynlluniwyd hefyd i gael eu perfformio gan offerynwyr ifanc Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ar eu taith flynyddol dros yr haf, ac roedd yn arbennig o ffodus bod yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno wedi ei chynnal yn Rhydaman yn sir enedigol Mathias, lle cafodd y sgôr ei pherfformio am y tro cyntaf yn swyddogol. 

Mae’r gerddoriaeth yn dechrau gyda naws defodol, fel pe bai cynulliad o gwmpas cylch cerrig ar fore niwlog: ac mae dawns fywiog yn dechrau’n fuan. Mae dwy ddawns arall yn dilyn, un yn dyner a’r llall yn rhamantus, cyn i wŷs ddramatig arwain at y gerddoriaeth gyflymaf a thynnu ynghyd yr holl faneri defodol i roi gorffeniad cyffrous. Mewn nodyn, ysgrifennodd y cyfansoddwr am y rhinweddau Celtaidd a oedd wedi eu hymgorffori yn y gerddoriaeth: ‘Rite and magic, jewelled colours, the spirit of play, wistfulness, lyrical warmth and (above all) rhythmic vitality’. Yn wir, mae digonedd o ddefod a lliw, canu a dawnsio – ond mae’r hud yn unigryw i Mathias ei hun.

Nodyn y rhaglen © Geraint Lewis

Gareth Glyn (ganed 1951)

Amaterasu (2015) 

Hannah Stonetelyn
Donal Bannistertrombôn

Mae’r gwaith hwn ar gyfer unawd ar y delyn a cherddorfa yn ddarlun cerddorol o stori Amaterasu, duwies y goleuni yn y grefydd Shinto, a gafodd ei hadrodd yn y gronicl Japaneaidd o’r wythfed ganrif a elwir yn Kojiki

Ar ôl cael ei cham-drin gan ei brawd anwadal Susanowo, mae Amaterasu yn encilio i ogof, lle mae’r byd cyfan yn troi’n dywyll. I’w denu allan, mae’r duwiau eraill yn cynnal parti swnllyd y tu allan, ac mae ei chwilfrydedd yn cael y gorau arni; pan ddaw i’r amlwg, mae’r byd cyfan yn llawn goleuni unwaith eto. 

Mae cerdd ar dôn Gareth Glyn yn defnyddio’r delyn unawdol i gynrychioli gweithredoedd ac emosiynau Amaterasu ei hun, ac mae rôl bwysig ei brawd yn cael ei rhoi i drombôn unawdol. 

Mae’r darn yn dilyn y stori’n agos mewn nifer o adrannau cysylltiedig - rhai ohonynt yn fyr iawn. Gellir crynhoi’r digwyddiadau fel a ganlyn: mae’r duw Izanagi yn creu ei ferch Amaterasu o’i lygad chwith yn ystod defod buro yn Afon Woto. Mae ei munudau cyntaf yn ddi-hid ac yn afieithus, ond buan iawn y caiff ei throi’n fod dwyfol difrifol gan ei thad. Mae Susanowo, a gafodd ei ddiarddel i’r is-fyd am ei gamymddygiad, yn camu’n hyderus tua’r nefoedd i wynebu ei chwaer. Mae Amaterasu, sydd wedi ei haflonyddu gan yr holl ffws a ffwdan, yn cwrdd ag ef mor awdurdodol ag y gall; fodd bynnag, mae ei brawd yn annisgwyl o glên ac mae’n awgrymu y dylent, cyn iddo adael, greu plant o eiddo ei gilydd. Mae hi’n cynhyrchu tri bod dwyfol benywaidd, ac yntau’n creu pump o rai gwrywaidd, ond mae’r ddealltwriaeth yn suro pan mae Amaterasu yn hawlio goruchafiaeth yn annoeth. Mae Susanowo’n yn gwylltio, ac chwalu popeth o’i gwmpas, gan daflu merlen wedi ei blingo i mewn i’r neuadd lle mae ei chwaer yn gwehyddu. Dan dristwch mawr, mae hi’n cau ei hun mewn ogof, gan gau’r fynedfa gyda cherrig enfawr. Mae tywyllwch yn gorchuddio’r byd; mae ysbrydion drwg yn ymddangos, ac mae’r duwiau’n galarnadu. Mae eu hateb – parti mawr – yn dechrau’n raddol, gan ddod i ben gyda dawns ddinoethi wyllt y dduwies Uzume ar faddon wedi ei droi wyneb i waered. Mae Amaterasu yn cael ei chyfareddu gan rhythm y ddawns, ac mae’n agor y drws i’r ogof, gan ymdrochi’r byd mewn golau disglair unwaith eto.

Gwrando Pellach: Hannah Stone; Donal Bannister; Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC/Gavin Sutherland (Heritage HTGCD181)

Gwefan: http://garethglyn.info

EGWYL: 20 munud

Ralph Vaughan Williams (1872–1958)

Pastoral Symphony (Symffoni Rhif 3) (1916–21) 

1 Molto moderato 
2 Lento moderato  
3 Moderato pesante
4 Lento – Moderato maestoso 

Ffion Edwardssoprano

Mae Pastoral Symphony Vaughan Williams yn un o’r pethau hyfrytaf a ysgrifennodd erioed, ond mae hefyd yn un o’r rhai mwyaf enigmatig. Mae’r ymatebion iddo wedi amrywio’n rhyfeddol: i rai, mae’n atgof hiraethus hyfryd a hudolus o baradwys gwledig delfrydol; i eraill mae’n llawn cysgodion tywyll, ac i lawer o wrandawyr mae’r hiraf a dyfnaf o’r cysgodion hynny’n cael ei fwrw gan brofiad trawmatig y cyfansoddwr fel swyddog meddygol yn y ffosydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. ‘Nid wŷn yn prancio sydd yma mewn gwirionedd’, dywedodd Vaughan Williams yn ddiweddarach. ‘Mae’n gerddoriaeth o gyfnod y rhyfel – roedd llawer iawn ohono yn tarddu o’r adeg pan oeddwn i’n arfer mynd, noson ar ôl noson, gyda cherbyd yr ambiwlans yn Écoivres, ac ar ôl mynd i fyny bryn serth, roedd tirwedd hyfryd tebyg i waith Corot i’w weld wrth iddi fachlud.’ 

Yr hyn sydd fwyaf trawiadol am y datganiad hwnnw yw’r hyn nad yw’n ei ddweud. Nid oedd gyrru ambiwlans yn rhywbeth i’r gwangalon. Roedd eraill yn cofio sut byddai’r milwyr a oedd wedi eu hanafu yn cwyno ac yn sgrechian mewn poen pryd bynnag y byddai lori yn mynd dros rywbeth anwastad (a oedd yn digwydd yn aml). Mae Pastoral Symphony Vaughan Williams yn osgoi’r portreadau sinematig bron o erchyllterau rhyfela diwydiannol a geir yn y Chweched Symffoni, ond mae ei lliwiau cerddorfaol moethus a’i alawon hyfryd hir a gwerinol yn cuddio rhywfaint o anghytgord heb ei ddatrys sy’n rhyfeddol o galed. Ac wrth galon yr ail symudiad mae rhywbeth hynod o ddadlennol: mae utgorn yn dwyn i gof sŵn biwglwr a glywodd Vaughan Williams yn y ffosydd yn ceisio chwarae’r ‘Last Post’ ac yn colli’r nodyn uchaf bob amser. Mae ymateb gofidus byr y gerddorfa yn ein hatgoffa ei bod yn druenus o annhebygol y byddai’r biwglwr ifanc yn goroesi.

Mae pedwar symudiad y gwaith i gyd yn gymedrol neu’n araf – mae’r unig gerddoriaeth gyflym yn y coda cyfareddol, arswydus i’r trydydd darn, sy’n debyg i scherzo. Mae’r cymeriad yn fyfyriol, mae’r newid yn raddol, ac yn anaml yn ddramatig: mae’n hawdd dychmygu ein hunain yn syllu ar y dirwedd tebyg i waith Corot gyda Vaughan Williams, ac am ychydig eiliadau’n anghofio am yr erchyllterau rydyn ni newydd eu gweld. Ond bydd y cof yn dal i ddod i’r wyneb, waeth pa mor gynnil: yn nhroeon cydgordiol rhyfedd ac ysbeidiol symudiad cyntaf y Molto moderato; yn unawd Lento biwglwr y nos, ac yn ei adleisiau ysgafn ond arwyddocaol o’r arwr clwyfedig Tristan yn ngwaith Wagner (yn enwedig harmonïau esgynnol i’r ffidil tua’r dechrau); tra bo alawon gwerin carlamus y symudiad yn mynd yn fwy a mwy bygythiol dros amser. 

Yn y diweddglo, fodd bynnag, mae cymeriad galarnadol y symffoni yn datgelu ei hun yn fwyaf clir. Mae unawd lleisiol pell yn dechrau ac yn cloi’r symudiad. Beth mae’n ei gynrychioli – atgof am rywun yn canu yn y caeau, cyn i’r dinistr ddechrau? Ynteu a yw’n nes at lais soprano unawdol natur ddideimlad Sinfonia antartica yn llawer diweddarach? Rhwng y lleisiau dirgel hyn, mae thema storïol nobl yn codi mewn dwy don fawr, gan gyrraedd uchafbwynt gwych lle mae cariad a cholled ddofn i’w gweld yn plethu â’i gilydd. Ond llonyddwch yw’r diweddglo: mae llais yr unawdydd i’w glywed eto o dan ffidlau uchel a pharhaus, ac nid yw’n swnio fel galar na chysur. 

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

Gwrando Pellach: BBC Symphony Orchestra/Martyn Brabbins (Hyperion CDA68280)

Darllen Pellach: Vaughan Williams: Composer, Radical, Patriot Keith Alldritt (Robert Hale)

Gwefan: https://rvwsociety.com

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?

Bywgraffiadau

Andrew Gourlay Arweinydd

Lun: Kaupo Kikkas

Lun: Kaupo Kikkas

Astudiodd Andrew Gourlay y grefft o arwain yn y Coleg Cerdd Brenhinol, lle bu’n helpu Bernard Haitink ar symffonïau Bruckner, a Syr Roger Norrington ar symffonïau Mozart. Cafodd ei ddewis gan gylchgrawn Gramophone ar gyfer ei chyfres nodwedd ‘One to Watch’, a gan BBC Music Magazine fel ‘Rising Star: great Artists of tomorrow’.

Enillodd y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Arwain Ryngwladol Cadaqués 2010, gan sicrhau cyngherddau gyda 29 o gerddorfeydd ledled y byd. Yn dilyn hynny, bu’n Arweinydd Cynorthwyol i Syr Mark Elder a cherddorfa Hallé, ac yn 2015 fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Orquesta Sinfónica de Castilla y León.

Mae ei ymrwymiadau gwadd diweddar yn cynnwys cyngherddau gyda’r Philharmonia, cerddorfeydd y BBC, cerddorfeydd Symffoni Bremen, Llundain a Rotterdam, cerddorfeydd Ffilharmonig Brenhinol Lerpwl a Tampere, Cerddorfeydd Symffoni Cenedlaethol Dinas Birmingham, Melbourne, Norrköpping, RTÉ a Stavanger, Cerddorfa Hallé, Cerddorfa Ulster, Ffilharmonia Auckland, Orchestre National Bordeaux a Cherddorfa Ieuenctid Awstralia. Ymddangosodd am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn nhymor 2016–17 gyda Symffoni San Diego. 

Mae’n ymddangos yn rheolaidd yng nghyngherddau Proms y BBC, lle mae wedi arwain Sinfonietta Llundain, Cerddorfa Gyngherddau’r BBC a Cherddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr.

Mae ei ymrwymiadau operatig yn cynnwys y perfformiad cyntaf yn y Deyrnas Unedig o Quartertt Luca Francesconi yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden; Rusalka a La tragédie de Carmen ar gyfer English Touring Opera; Priodas Figaro yn y Coleg Cerdd Brenhinol; The Ice Break gan Tippett mewn cynhyrchiad newydd gan Graham Vick ar gyfer Cwmni Opera Birmingham; In the Locked Room gan Huw Watkins gyda Sinfonia Britten; a’r perfformiad cyntaf o Violet gan Tom Coult yng Ngŵyl Aldeburgh. Y gwanwyn nesaf bydd yn arwain Y Llwynoges Fach Gyfrwys ar gyfer Opera North. 

Mae ei recordiadau yn cynnwys recordiadau gyda cherddorfeydd Symffoni’r BBC a Llundain, Cerddorfa Siambr Iwerddon, RLPO, Sinfonia Britten a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae disgwyl i’w gyfres gerddorfaol o Parsifal, y bu’n ei recordio gyda’r LPO, gael ei rhyddhau yn ystod yr hydref eleni.


Hannah Stone Telyn

Astudiodd Hannah Stone, cyn Delynor Ei Uchelder Brenhinol y Brenin Charles III, yn Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan raddio yn 2012. Mae hi wedi ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Eisteddfod Ryngwladol ac wedi ennill rhai o brif wobrau cystadleuaeth Franz Josef Reinl yn Fienna, Cystadleuaeth Delynau Camac yn Llundain a’r Gystadleuaeth Delynau Ryngwladol yng Nghaernarfon. 

Mae hi wedi perfformio mewn sawl lleoliad nodedig, gan gynnwys y Royal Albert Hall, Canolfan Barbican, LSO St Luke’s, St John’s yn Smith Square, Amgueddfa Llundain, Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Dulyn, Neuadd Dewi Sant a Chanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. Yn 2010, cafodd ei phenodi’n brif delynores Cerddorfa Gŵyl Schleswig-Holstein, gan deithio o gwmpas Ewrop gyda’r ensemble. Mae hi wedi perfformio fel unawdydd gwadd gyda cherddorfeydd blaenllaw, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Sinfonia Cymru, Cerddorfa Gyngerdd RTÉ, Cerddorfa Siambr Lloegr a Cherddorfa Ffilharmonig Borusan, Istanbul.

Mae hi wedi perfformio i aelodau’r Teulu Brenhinol sawl gwaith, gan gynnwys yn ystod taith Jiwbilî Diemwnt y ddiweddar Frenhines o gwmpas Cymru. 

Mae hi wedi perfformio yng ngwyliau Caeredin, King’s Lynn a Chaerlwytgoed ac yn Kings Place, Llundain a Phalas Hampton Court, yn ogystal ag yn Tokyo, Melbourne, Toronto a Vancouver. Rhoddodd y première byd o St Asaph’s Dance gan Syr Karl Jenkins yn 2012 ac Amaterasu gan Gareth Glyn yn 2015. 

Mae hi wedi ymddangos ar nifer o ddarllediadau o wyliau, yn ogystal ag ar raglen Songs of Praise ar BBC One. Mae hi hefyd yn ymddangos ar albwm Lullabies Catrin Finch.

Mae ei hymrwymiadau diweddar yn cynnwys datganiadau gyda Syr Bryn Terfel yn nhai opera Monte Carlo a Zurich, cyngherddau yn Nhŷ Opera Sydney a Neuadd Hamer Melbourne gyda Cherddorfa Victoria, perfformiadau yng Ngŵyl Verbier, Gŵyl Llais Caerdydd, a chyngerdd i ddathlu pen-blwydd Osian Ellis yn 90 oed.


Ffion Edwards Soprano

Roedd Ffion Edwards, y soprano o Gymru sy’n byw yn Llundain, yn un o Artistiaid Ifanc y Stiwdio Opera Genedlaethol ar gyfer tymor 2021–22. Astudiodd yn y Coleg Cerdd Brenhinol a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Enillodd Wobr Handel yng Ngwobrau Lleisiol Rhithiol Maureen Lehane 2021. 

Y tymor diwethaf ymddangosodd am y tro cyntaf gydag Opera Gŵyl Glyndebourne (fel Oberto yn Alcina gan Handel), Opéra National de Lorraine (fel Kristin yn Julie gan Boesmans) ac Opera Cenedlaethol Lloegr (fel Frantík a Jay yn Y Llwynoges Fach Gyfrwys gan Janáek).

Mae ei pherfformiadau blaenorol yn cynnwys rhannau yn Il mondo della luna gan Haydn, Trouble in Tahiti gan Bernstein, Ariadne auf Naxos gan Richard Strauss ac Il re pastore gan Mozart yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Mae hi hefyd wedi perfformio sawl gwaith gydag Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru mewn mân rolau ac fel aelod o’r corws, ac yn 2019 bu’n canu yn y Corws yng nghynhyrchiad Tosca y Tŷ Opera Brenhinol gyda Syr Bryn Terfel, Vittorio Grigolo a Kristin Opolais yng Ngŵyl Abu Dhabi.

Fel unawdydd, mae hi wedi ymddangos gyda cherddorfeydd Opera Cenedlaethol Lloegr ac Opera Cenedlaethol Cymru ac wedi canu yn Ascension Oratorio a’r Offeren mewn B leiaf gan Bach a’r Meseia gan Handel.


Donal Bannister Trombôn

Donal Bannister yw prif drombonydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae o Ddulyn yn wreiddiol ac fe astudiodd yn Academi Gerdd Frenhinol Iwerddon, Coleg y Drindod Dulyn (lle roedd yn ysgolhaig) ac yn Ysgol Gerdd Eastman, Efrog Newydd (lle roedd yn ysgolhaig Fulbright). 

Yn 1987, ymunodd â Cherddorfa Symffoni Bournemouth ac fe dreuliodd 20 mlynedd yno’n perfformio gyda’r gerddorfa a’i hadran offerynnau pres weithgar. Cafodd ei benodi’n brif drombonydd BBC NOW yn 2007. Mae ganddo yrfa lawrydd brysur hefyd ac mae’n ymddangos fel gwestai gyda’r rhan fwyaf o brif gerddorfeydd y DU, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni Llundain, Philharmonia a Cherddorfa Siambr yr Alban, ymysg eraill.

Yn ogystal â pherfformio, mae hefyd yn addysgu’r trombôn, yn gwneud trefniannau ar gyfer offerynnau pres, ac yn chwarae cerddoriaeth siambr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae ei ddiddordebau cerddorol yn eang: yn ogystal â’i waith cerddorfaol, mae hefyd yn perfformio ar offerynnau cyfnod ac yn arwain bandiau pres a cherddorfeydd cymunedol. Mae llawer o’i drefniannau ar gyfer offerynnau pres wedi cael eu cyhoeddi a’u recordio, ac yn ystod y cyfnod clo, cafodd rhywfaint o’i weithiau ei recordio gan offerynwyr pres BBC NOW – mae’r rhain ar gael ar wefan y gerddorfa.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes. 

Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu. 

Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.

Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Martin Gwilym- Jones is-arweinydd
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Cecily Ward
Robert Bird
Kerry Gordon-Smith
Juan Gonzalez
Ilze Abola
Anna Cleworth
Anthony Wing Pong Poon
Gary George-Veale
Zhivko Georgiev

Ail Ffidlau
Emre Engin
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Beverley Wescott
Sellena Leony
Lydia Caines
Zanete Uskane
Laurence Kempton

Fiolâu
Rebecca Jones *
Cathy Bower
Liam Brolly
Ania Leadbeater
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Mabon Rhyd

Soddgrythau
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Raphael Lang
Sandy Bartai
Rachel Ford
Alistair Howes
Jacky Phillips

Basau Dwbl
David Stark *
Louis van der Mespel
Christopher Wescott
Albert Dennis

Ffliwt
Matthew Featherstone *
John Hall
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Suzie Thorn ‡
Sam Baxter

Cor Anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †

Clarinétau
Irene Chen
Andy Mellor
Lenny Sayers

Clarinét Bas
Lenny Sayers †

Baswnau
Paul Boyes ‡
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Neil Shewan †
William Haskins
Joseph Ryan
Neil Mitchell
Tom Taffinder

Utgyrn
Philippe Schartz *
Ed Burfield
Nina Tyrrell
Ben Jarvis

Trombonau
Donal Bannister*
Karapet Harutyunyan

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden †

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Phil Girling
Rhydian Griffiths

Telyn
Valerie Aldrich-Smith †

Selesta
Catherine Roe Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Gweinyddwr y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlledu Jacob Perkins 
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks 
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications