Arlunio Cerddorol ac Argraffiadau Cyfareddol

Nos Iau 8/1/26, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Anders Hillborg 
Exquisite Corpse
15’

Dmitry Shostakovich 
Concerto Rhif 2 i’r Soddgrwth yn G fwyaf 33’

EGWYL: 20 munud

Jean Sibelius
Cyfres Lemminkäinen 50’

Ryan Bancroft arweinydd
Alban Gerhardt 
soddgrwth

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol ar In Concert; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Heno, yng nghyngerdd cyntaf y flwyddyn newydd, croesawn ein Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn ôl ar gyfer rhaglen o gerddoriaeth sy’n mynd â ni o Lychlyn i Rwsia. Dechreuwn yn Sweden gyda Exquisite Corpse, gwaith chwyldroadol gan Anders Hillborg. Daw ysbrydoliaeth y darn (a’i deitl) o dechneg collage a ddefnyddir gan arlunwyr a sgrifennwyr Swrrealaidd sy’n gosod elfennau anghymharus gyda’i gilydd i greu effaith syfrdanol; dyna a wna Hillborg yma, gyda chyfeiriadau at ei gerddoriaeth ei hun a gwaith cyfansoddwyr eraill.

Mae’r chwyldro yn elfen hollbresennol hefyd yn 2il Goncerto Shostakovich i’r Soddgrwth, a gaiff ei berfformio heno gan y digymar Alban Gerhardt. Dyma artist sy’n ymgysylltu’n llawn ag ehangder emosiynau’r concerto, o ddifrawder i gynddaredd, a joch go dda o watwar.

I gloi, awn i’r Ffindir at Lemminkäinen gan Sibelius, cyfres o gathlau symffonig lle mae’r cyfansoddwr yn rhoi bywyd newydd i olygfeydd o’r arwrgerdd Ffinnaidd, y Kalevala.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Anders Hillborg (ganed 1954)

Exquisite Corpse(2002)

Os ydych chi wedi chwarae’r gêm Consequences, byddwch chi’n gyfarwydd â’r syniad o basio darnau o bapur o gwmpas grŵp o bobl fel bod cyfraniadau pawb yn cael eu cymysgu gyda’i gilydd i lunio stori ddoniol o elfennau annisgwyl. Dyma’r broses a ddefnyddid gan Swrealwyr yn yr hyn a ddaeth i gael ei adnabod yn ‘exquisite corpse’. Ychwanegid geiriau neu ddelweddau at ei gilydd, gan arwain at gyferbyniadau rhyfedd, fel yn y frawddeg wreiddiol a roddodd ei henw i’r broses: ‘Le cadavre exquis boira le vin nouveau.’ (Bydd y corff cain yn yfed y gwin newydd). Amlinellwyd y cysyniad – y byddai pob collage yn datgelu cysylltiadau mewnol – gan sylfaenydd Swrealaeth André Breton, a daeth yn boblogaidd drwy’r awdur Henry Miller a’r artistiaid Joan Miró a Man Ray.

Addasodd y cyfansoddwr o Sweden, Anders Hillborg, y dechneg weledol hon ar gyfer Exquisite Corpse. Nid cywaith yw’r darn, ac nid yw wedi’i ffurfio ar hap, ond mae ei berthynas â’r gêm wreiddiol yn amlwg, ac mae’n gyfosodiad beiddgar o dameidiau cerddorol. Cyfeiriad at Seithfed Symffoni Sibelius yw un o’r rhai sydd wedi gwreiddio ddyfnaf, ac nid yw hynny’n syndod o ystyried mai Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm a gomisiynodd Exquisite Corpse a symffoni Sibelius ill dau.

Dywed Hillborg ei fod wedi ceisio ‘mynd ati’n ymwybodol i gyfuno deunydd gwahanol allan o’m darnau fy hun yn ogystal â gwaith cyfansoddwyr eraill... dyma gord o Petrushka [Stravinsky], dacw ddyfyniad yn arddull Ligeti’. Y bwriad oedd ‘gadael lonydd i’r gwahanol rannau hyn, heb bontio rhyngddyn nhw, ond wrth gwrs allwn i ddim peidio’. Eto, mae’n pwysleisio mai syniad sydd yno i helpu’r artist creadigol yw’r mae’r syniad o ‘exquisite corpse’, ac nid diben ynddo’i hun: ‘wrth gwrs dydi hi ddim yn bwysig a ddylai’r darn adlewyrchu proses y Cadavre exquis. Triciau rydyn ni’n eu defnyddio i ryddhau ein creadigrwydd yw’r rhain, a dyna’n union ydyn nhw yn aml.’

Nodyn y rhaglen © Joanna Wyld

Dmitry Shostakovich (1906–75)

Concerto Rhif 2 i’r Soddgrwth yn G fwyaf, Op. 126 (1966)

1 Largo
2 Allegretto
3 Allegretto

Alban Gerhardtsoddgrwth

Ysgrifennwyd y concerto hwn dros ddegawd ar ôl marwolaeth Stalin, sy’n creu ansicrwydd wrth geisio deall a yw’r drasiedi sy’n datblygu yn y gerddoriaeth yn bersonol neu’n hanesyddol. Fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf ar ben-blwydd y cyfansoddwr yn 60 oed (25 Medi 1966), gyda Mstislav Rostropovich yn unawdydd. Roedd salwch eisoes wedi gafael yn Shostakovich a’i adael yn fregus iawn ac mae delweddau o farwolaeth yn aflonyddu ar bob cornel o’r gwaith hwn. 

Mae’r concerto yn dechrau gyda monolog soddgrwth sy’n cynyddu’n raddol mewn dwyster emosiynol. Yn hytrach nag ymuno’n ddramatig, mae’r gerddorfa’n dechrau braslunio ei llinellau ei hun o amgylch yr unawdydd. Ar ôl llif hir o emosiwn, mae perorasiwn y soddgrwth yn dod i ben ar nodyn hir wrth i’r gerddorfa gychwyn ar gwrs newydd. Mae’r gerddoriaeth newydd yn gwawdio’n ysgafn i ddechrau, ond fel sy’n digwydd mor aml yng ngherddoriaeth Shostakovich, mae’r wên yn troi’n ddagrau, wrth i’r gerddoriaeth fynd yn fwy afreolus a chreulon, gan arwain at uchafbwynt gwych lle mae sgrechiadau anobeithiol y soddgrwth i’w clywed bob yn ail â thrawiadau’r timpani.

Hyd yn oed wrth ystyried coegni nodweddiadol Shostakovich, mae’r ail symudiad yn sefyll ar ei ben ei hun am ei allu i greu rhywbeth mor arswydus o grotesg o ddechreuad digon cyffredin. Mae’r cyfansoddwr yn defnyddio alaw syml o’r 1920au sydd â’i gwreiddiau yn Odessa, porthladd a thref wyliau ar y Môr Du. Mae tair sill teitl y gân, ‘Bublichki’, yn cyfeirio at fyrbryd sy’n debyg i fynsen bagel; mae’r motiff tri nodyn yn dynwared cri’r gwerthwyr ar y stryd. Gwyddom fod gan Shostakovich yr alaw hon mewn golwg ar y pryd diolch i hanesyn amdano’n chwarae gêm a dewis ‘Bublichki’ yn gellweirus fel ei hoff alaw erioed. 

Mae dechrau’r diweddglo yn ein codi o’r hunllef gyda galwad i weithredu, ar ffurf ffanffer frys sy’n ennyn ymateb ar unwaith gan y soddgrwth. Ond buan iawn y mae’r hyder yn chwalu, ac mae gweddill yr Allegretto yn gwegian o ran hwyliau ac arddull. Yn y pen draw, mae’r creulondeb a glywyd yn y symudiadau blaenorol yn dychwelyd i heintio’r diweddglo. Yn yr uchafbwynt, clywn adlais dychrynllyd o’r alaw ‘Bublichki’. Heb os nac oni bai, dyma un o’r achlysuron mwyaf pwerus a thorcalonnus yn holl gerddoriaeth Shostakovich. Mae’r awyrgylch prudd yn dychwelyd ac mae’r offerynnau taro’n swnio fel tegan clocwaith. Dyma dechneg a atgyfodwyd gan Shostakovich ar ddiwedd ei symffoni olaf, y 15fed, i gynrychioli treigl anoddefgar amser.

Nodyn y rhaglen © Marina Frolova-Walker

EGWYL: 20 munud

Jean Sibelius (1865–1957)

Cyfres Lemminkäinen, Op. 22 (1895–6, diw. 1897 a 1939)

1 Lemminkäinen a Morwynion yr Ynys
2 Alarch Tuonela
3 Lemminkäinen yn Tuonela
4 Dychweliad Lemminkäinen

Mae Cyfres Lemminkäinen yn set o gerddi symffonig: pedwar darn symffonig wedi’u hysbrydoli gan anturiaethau mytholegol yr is-dduw Lemminkäinen o’r Ffindir. Cyflwynodd Sibelius ei naratif cyfansawdd ei hun o’r chwedl epig o’r Ffindir, y Kalevala. Mae’r chwedl hon wedi’i gweu ynghyd o’r llu o amrywiadau o ganeuon, chwedlau a straeon gwerin a gasglwyd yn Nwyrain y Ffindir. Yn y première ar 13 Ebrill 1896, dosbarthwyd rhaglenni papur gyda dyfyniadau Sibelius o farddoniaeth Kalevala.

Mae ‘Lemminkäinen a Morwynion yr Ynys’ yn dechrau gyda sain sy’n gyfarwydd i ni erbyn heddiw: sef y cordiau anghytseiniol yn agoriad Pumed Symffoni Sibelius, a gyfansoddwyd ddegawdau’n ddiweddarach. Mae’r cordiau hyn yn rhagolwg o’r hyn sydd o’n blaen mewn mwy nag un ffordd. Dyma’r atalnodau yn y cyflwyniad i’r symudiad – adran o weadau llinynnol araf a sŵn natur y chwythbrennau – sy’n atseinio ar adegau o bwysigrwydd strwythurol. Yn y symudiad hwn, mae Lemminkäinen yn hwylio i ynys lle mae’n hudo merched ifanc mewn dawns werin chwyrlïol a drôn llinynnol isel gwledig. Ar ôl plesio’i chwantau, ac yn sŵn wylo’r merched, mae’n troi ei gefn ac yn parhau ar ei daith. Mae’r cordiau agoriadol yn cael eu hateb yn gadarn ar ddiwedd y symudiad.

Mae Lemminkäinen yn cael ei herio i fynd ar berwyl tair tasg amhosib i ennill calon ‘Morwyn y Gogledd’. Mae ei dasg olaf yn gofyn iddo deithio i ynys ddiffaith Tuonela – sef ynys y bywyd tragwyddol ym mytholeg y Ffindir – i saethu’r alarch goruwchnaturiol sy’n arnofio ar yr afon ddu wyllt sy’n amgylchynu’r ynys. Mae ‘Alarch Tuonela’ yn dechrau gyda chord sy’n atseinio ar draws cyfanswm o 17 o rannau llinynnol mud gwahanol mewn crescendo enfawr sy’n cwmpasu pedwar wythfed. Mae alaw’r unawd côr anglais yn trawsnewid yn gynnil drwy gydol y darn yn sain y gweadau llinynnol newidiol: y cordiau crog, y tremolos disglair, y pizzicatos a’r harmonigau nefolaidd tua’r diwedd a’r col legno (lle mae’r llinynnau’n cael eu taro gan bren y bwa). Ar ôl i’r cyrn ganu’n orfoleddus, mae’r llinynnau’n arwain ymdeithgan angladdol yn yr adran olaf. Daw’r cor anglais i mewn am yr orymdaith olaf wrth i Lemminkäinen gael ei drywanu’n fil o ddarnau gan fugail gwartheg dialgar a’i wasgaru i’r afon.

Yn y trydydd symudiad, mae mam Lemminkäinen yn synhwyro bod ei mab wedi’i ladd ac mae’n rhuthro at lannau dyfroedd duon Tuonela. Mae tonnau prudd y llinynnau tremolo yn cyfuno’n raddol fel cefndir i ddarnau o alawon y symudiad blaenorol a’r cordiau pres grymus a threisgar. Wrth galon y gwaith ceir hwiangerdd ysgafn ar gyfer yr unawd soddgrwth. Yn ôl Sibelius, ‘mae cân y crud ... yn gariad mamol’: Mae mam Lemminkäinen yn cribinio darnau o’i mab o afon yr isfyd ac yn ei ddychwelyd o farw’n fyw drwy swyngyfaredd hudolus.

Yn dilyn atgyfodiad Lemminkäinen, mae’n ffurfio ceffylau hudol o’i dristwch ac yn marchogaeth i’r de i lannau, ynysoedd ac angorfeydd ei gartref. Daw’r symudiad byrraf hwn â’r gyfres i ben mewn ffrwydrad buddugoliaethus, gan drawsnewid darnau thematig y cywair lleddf yn ffanfferau allweddol y cywair mwyaf.

Nodyn y rhaglen © Sarah Moynihan

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Os ydych chi wedi mwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’r cyngerdd hwn sydd ar y gweill. Fel aelod cyfredol o’r gynulleidfa, cewch brynu tocynnau ar ei gyfer am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.

BBC NOW – NAWR!

Nos Iau 19/2/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Isabella Gellis Valedictions première y DU
Deborah Pritchard Trombone Concerto ‘Light Circle’ première y DU
Juste Janulyte Confluere i gerddorfa siambr  première y DU
Hannah Eisendle Azinheira première y DU
Katherine Balch musica pyralispremière y DU

Jack Sheen arweinydd
Peter Moore trombôn

CYFOES | DADLENNOL | UNIGRYW

Dewch i deimlo’r wefr o ddarganfod cerddoriaeth newydd wrth i BBC NOW – NAWR! ddychwelyd yn y gwanwyn gyda phum première penigamp mewn un noson fythgofiadwy. Ymgollwch yn Valedictions cyfareddol Isabella Gellis, yng nghoncerto disglair Deborah Pritchard i'r trombôn – ‘Light Circle’ – gyda’r unawdydd o fri Peter Moore, ac yn Confluere gwych Juste Janulyte. Dewch i deimlo egni trawiadol Azinheira gan Hannah Eisendle a byd nosol hudolus musica pyralis gan Katherine Balch. Dan faton yr arweinydd addawol Jack Sheen, yn ei ymddangosiad cyntaf gyda BBC NOW, dyma’ch cyfle chi i weld dyfodol cerddoriaeth – byw, beiddgar a gwefreiddiol. Peidiwch â cholli’r cyfle!

Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw

Bywgraffiadau

Ryan Bancroft arweinydd

Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf yn 2018 pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, bu’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae hefyd yn Artist Cyswllt gyda’r Tapiola Sinfonietta ac, ers mis Medi 2023, mae wedi bod yn Brif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm.

Ar ôl dechrau ar ei gyfnod fel Prif Arweinydd yn Stockholm gyda pherfformiad cyntaf y gerddorfa o The High Mass gan Sven-David Sandström, roedd ei ail dymor wedi cynnwys perfformiadau o symffonïau gan Mahler a Bruckner, ochr yn ochr â’r perfformiadau cyntaf erioed o weithiau gan Chrichan Larson a Zacharias Wolfe, a chydweithrediadau gydag unawdwyr enwog gan gynnwys Leif Ove Andsnes, Maxim Vengerov a Víkingur Ólafsson.

Y tymor hwn, mae wedi ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Radio Boston a’r Ffindir, Deutsches Symphonie-Orchester Berlin yn y Berlin Philharmonie, a’r WDR Symphonieorchester yn Cologne.

Mae Ryan Bancroft yn frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble yn Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, John Cage, James Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio gyda cherddorion byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden. Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban, ac yn yr Iseldiroedd.

Alban Gerhardtsoddgrwth

Benjamin Ealovega

Benjamin Ealovega

Mae Alban Gerhardt wedi ennill cydnabyddiaeth fel un o chwaraewyr soddgrwth mwyaf amryddawn y byd. Mae’n uchel iawn ei barch am ei feistrolaeth dechnegol, ei ddawn gerddorol ddwys, a’i chwilfrydedd artistig. 

Mae wedi cydweithio â Cherddorfa’r Royal Concertgebouw, yr holl gerddorfeydd radio ym Mhrydain a’r Almaen, Berliner Philharmoniker, Cerddorfa Turich Tonhalle, Orchestre National de France, Orquesta Nacional de España, Cerddorfa Cleveland, Cerddorfa Philadelphia, Cerddorfa Symffoni Chicago a Cherddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd. Mae wedi gweithio gydag arweinwyr blaenllaw fel Christoph von Dohnányi, Kurt Masur, Klaus Mäkelä, Christian Thielemann, Simone Young, Susanna Mälkki, Vladimir Jurowski ac Andris Nelsons.

Y tymor hwn, mae’n cydweithio â Cherddorfa Symffoni Boston, y Gerddorfa Symffoni Genedlaethol, cerddorfeydd Ffilharmonig Washington, Munich a Warsaw, Cerddorfa Siambr Hallé a Paris.

Mae’n gerddor siambr brwd ac mae’n perfformio’n rheolaidd gyda’r pianyddion Steven Osborne ac Alexei Volodin, y Pumawd Alliage, Sacsoffon a’i bartner cydweithio newydd Ksenija Sidorova ar yr acordion. Y tymor hwn, mae’n ymddangos yng Ngŵyl Santa Catalina, mae’n mynd ar daith o amgylch y DU gyda Steven Osborne, yn Seoul a Shanghai, ac yn 92NY Efrog Newydd ar gyfer holl Gyfres Bach i’r Soddgrwth; roedd hefyd yn Guradur Artistig Gŵyl Schumann 2025 yn Düsseldorf. 

Mae ei recordiadau helaeth ac arobryn yn cynnwys cerddoriaeth Bach, concerti Shostakovich a Choncerto Unsuk Chin i’r Soddgrwth, a ysgrifennwyd yn arbennig ar ei gyfer ef.

Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys ymddangos fel Artist Ffocws yng Ngŵyl Aldeburgh 2024 ac fel Artist Preswyl Cerddorfa Ffilharmonig Duisburg. 

Mae’n gredwr cryf mewn mynd â cherddoriaeth allan i’r gymuned, gan berfformio mewn ysgolion, ysbytai a sefydliadau troseddwyr ifanc.

Mae Alban Gerhardt yn canu soddgrwth gan Matteo Gofriller sy’n dyddio o 1710.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Tom Aldren
Gwenllian Hâf MacDonald
Cecily Ward
Terry Porteus
Suzanne Casey
Juan Gonzalez
Emilie Godden
Alejandro Trigo
Carmel Barber
Ruth Heney **
Anna Cleworth
Kerry Gordon-Smith
Žanete Uškāne

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Sheila Smith
Joseph Williams
Beverley Wescott
Roussanka Karatchivieva
Katherine Miller
Lydia Caines **
Michael Topping
Vickie Ringguth
Laurence Kempton
Elizabeth Whittam

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Catherine Palmer
Anna Growns
Lydia Abell
Laura Sinnerton
Lowri Taffinder
Robert Gibbons

Soddgrythau
Miwa Rosso
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Alistair Howes
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Owen Nicolaou
Christopher Wescott
Emma Prince
Phoebe Clarke

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Sam Baxter
Amy McKean

Cor anglais
Amy McKean

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
William White
Lenny Sayers **+

Clarinét Bas
Lenny Sayers †**+

Contrabass Clarinet
Steve Morris

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Jo Shewan
David Buckland

Contrabassoon
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Mark Alder Bennett
Flora Bain
John Davy

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †

Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba/Cimbasso
Richard Evans

Timpani
Steve Barnard *

Offrynnau Taro
Rebecca Celebuski
Andrea Porter
Rhydian Griffiths
Sarah Mason

Y Delyn
Elen Hydref

Piano
Catherine Roe Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Prentis Marchnata Mya Clayden
Cynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications