

Cyngerdd y Cewri
Dydd Sadwrn 17/1/26, 3.00pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Johannes Brahms
Concerto i’r Ffidil yn D fwyaf 38’
EGWYL: 20 munud
Gustav Mahler
Symffoni Rhif 1 yn D fwyaf 53’
Ryan Bancroft arweinydd
Johan Dalene ffidil
Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol ar In Concert; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Croeso cynnes i’r cyngerdd heno, lle bydd ein Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn cyflwyno dau gampwaith mawr o’r 19eg ganrif.
Dechreuwn gyda Choncerto Brahms i’r Ffidil, gwaith a ysbrydolwyd gan ddoniau ei ffrind ar y ffidil – y virtuoso o fri o Hwngari, Joseph Joachim. Bu Brahms yn ymgynghori’n agos ag ef wrth ysgrifennu’r darn ac mae hynny wedi esgor ar gampwaith sy’n taro cydbwysedd perffaith rhwng bwriad difrifol, harddwch telynegol a meistrolaeth dawel. Mae’r rhain yn nodweddion sy’n amlwg iawn yn chwarae’r feiolinydd Johan Dalene, sydd eisoes yn torri tir newydd ar lwyfan y byd ac yntau ond yn 25 oed.
Symffoni Gyntaf Mahler fydd yn cloi’r rhaglen. Dyma waith y bu’r cyfansoddwr yn llafurio’n ddiwyd drosto, ac yntau’n teimlo dan gysgod y cewri symffonig a’i rhagflaenodd – Beethoven a Brahms. Does dim amheuaeth ei fod wedi llwyddo i greu rhywbeth gwreiddiol, ac er efallai fod y gwaith wedi drysu beirniaid cyfoes, mae wedi bod yn ffefryn yn y neuadd gyngerdd ers tro byd.
Mwynhewch!
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Johannes Brahms (1833–97)
Concerto i’r Ffidil yn D fwyaf, Op. 77 (1878)

1 Allegro non troppo
2 Adagio
3 Allegro giocoso, ma non troppo vivace
Johan Daleneffidil
Yn 19 oed, nid oedd Johannes Brahms yn adnabyddus. Dyna pryd y cyfarfu â Joseph Joachim, cyfansoddwr a meistr ar y ffidil o Hwngari a oedd yntau ddim ond yn 21 oed, ond a oedd eisoes yn creu argraff ar hyd a lled Ewrop. Er bod gwahaniaeth mawr rhwng lefel enwogrwydd y ddau, roeddent yn edmygu ei gilydd a daethant yn gydweithwyr ffyddlon ac yn ffrindiau ymhen dim o dro. Joachim wnaeth gyflwyno Brahms i Robert a Clara Schumann – roedd hwn yn gyfarfyddiad o bwys (ac nid dim ond oherwydd y byddai Brahms yn syrthio mewn cariad â Clara yn ddiweddarach). At Joachim y byddai Brahms yn troi am gyngor ar gyfansoddi. Ac i Joachim yr ysgrifennodd Brahms ei unig Goncerto i’r Ffidil yn y pen draw, gydag arweiniad technegol gan ei ffrind.
Mae’r unawdydd a’r gerddorfa’n cael eu trin fwy neu lai’n hafal gan Brahms, gan wfftio’r disgwyliadau nad yw’r gerddorfa ond yno i ategu rhannau meistrolgar yr unawdydd. Ar ôl première y gwaith, dan arweiniad Brahms ei hun yn Leipzig ar Ddydd Calan 1879, mae’n debyg bod yr arweinydd-bianydd Hans von Bülow wedi dweud mai ‘concerto yn erbyn y ffidil yn hytrach nag i’r ffidil’ yw hwn (mae’r sylw hwn hefyd wedi’i briodoli i Joseph Hellmesberger, arweinydd première y gwaith yn Fienna) – ond mae pobl wedi cynhesu at y darn dros amser, ac mae bellach wedi ennill ei le yn y repertoire Rhamantaidd i’r ffidil.
Mae’r symudiad cyntaf enfawr yn bygwth llethu popeth a ddaw i’w ganlyn, yn enwedig pan gaiff ei berfformio gyda’r cadenza dychrynllyd a ysgrifennodd Joachim ar ei gyfer (a glywir heddiw); ond mae Brahms yn gofalu ein bod yn glanio’n braf yn Adagio’r ail symudiad, sy’n dechrau’n ddiymhongar (gyda’i thema’n cael ei datgan yn annisgwyl gan yr obo) ac yn tyfu’n flanced fawr o gynhesrwydd sy’n lapio amdanom. Yna, i gloi, cawn yr Allegro yn arddull y Sipsiwn sy’n llawn gwasgiadau dwbl grymus – dyma mor agos ag y mae Brahms yn dod i ymollwng ac ymlacio.
Nodyn y rhaglen © Will Fulford-Jones
EGWYL: 20 munud
Gustav Mahler (1860–1911)
Symffoni Rhif 1 yn D fwyaf (1884–8, adol. 1893–8)

1 Langsam. Schleppend [Araf. Yn llusgo] –
Immer sehr gemächlich [Yn hamddenol iawn bob amser]
2 Kräftig bewegt, doch nicht zu schnell [Yn symud yn gadarn, ond ddim yn rhy gyflym] – Trio:
Recht gemächlich [Yn eithaf hamddenol] – Tempo
primo
3 Feierlich und gemessen, ohne zu schleppen
[Yn ddifrifol a phwyllog, heb lusgo] –
Sehr einfach und schlicht wie eine Volksweise
[Yn syml iawn, fel alaw werin]
4 Stürmisch bewegt [Yn stormus] – Sehr gesangvoll
[Yn felodaidd iawn]
Nid oes gan yr un o’r gweithiau eraill yng nghatalog Mahler hanes mor gymhleth â’i Symffoni Gyntaf. Mae o leiaf bedair fersiwn wahanol ohoni, ac fe’i cyflwynwyd yn wreiddiol fel cathl symffonig mewn dwy ran, a oedd yn cynnwys pum symudiad yn hytrach na phedwar. Nid oedd teitl i’r symffoni yn wreiddiol, ond galwodd Mahler hi’n ‘Titan’ yn ddiweddarach a chreu rhaglen ddisgrifiadol i gyd-fynd â’r gwaith. Yn ddiweddarach, newidiodd ei feddwl eto a thynnodd y teitl a’r rhaglen yn ôl, gan eu galw’n ‘wrth-artistig’ a ‘gwrth-gerddorol’. Roedd y lôn a arweiniodd at y symffoni fel yr ydym yn ei hadnabod heddiw yn hir a throellog, ac mae’r gwaith wedi cael ei siâr o adolygiadau negyddol ar hyd y ffordd. ‘Dydy’r math o gerddoriaeth a geir yn y symffoni newydd ddim yn gerddoriaeth yn fy marn i,’ ysgrifennodd y beirniad blaenllaw, Eduard Hanslick. Galwodd beirniad arall hi yn ‘barodi o symffoni’. Roedd Mahler yn gegrwth. ‘Dyma’r mwyaf digymell a mentrus o’m holl weithiau,’ ysgrifennodd. ‘Yn naïf, roeddwn i wedi dychmygu y byddai wedi bod yn llwyddiant ar unwaith ... Felly mawr oedd fy syndod a’m siom pan aeth pethau’n eithaf gwahanol.’
Ymddengys fod llawer o syndod y cyhoedd – a’r cyhuddiadau beirniadol mai parodi oedd y symffoni – yn deillio o’r ffaith bod Mahler wedi dyfynnu deunydd a oedd eisoes yn bodoli (rhai o’i weithiau ei hun, rhai o weithiau cyfansoddwyr eraill). Mae’r symffoni wedi cael ei ffurfio o gwmpas tomen o ddyfyniadau a chyfeiriadau cerddorol – un o’r amlycaf o’r rhain oedd cyfeiriadau at ei gylch o ganeuon Lieder eines fahrenden Gesellen (‘Caneuon Tramwywr’), a gwblhaodd ddim ond ychydig flynyddoedd ynghynt. Yn wir, mae prif thema’r symudiad cyntaf wedi’i benthyg o ail gân y cylch, ‘Ging heut’ Morgen über’s Feld’ (Fore heddiw cerddais ar draws y ddôl), lle mynegir y teimlad o lawenydd a phleser pur a geir yng nghanol rhyfeddodau natur. Yn nes ymlaen, yn nhrydydd symudiad araf y symffoni, mae Mahler yn cyfeirio at gân olaf y cylch, ‘Die zwei blauen Augen’ (dau lygad glas fy nghariad), lle mae’n ymddangos bod pryderon y Tramwywr yn diflannu yn llonyddwch byd natur. Hwn oedd y tro cyntaf i Mahler fynd ati i ymgorffori’r llais yn y symffoni – dyma drosiad a fyddai, fel ei obsesiwn â byd natur a’n lle ni ynddo, yn dominyddu ei symffonïau eraill yn y blynyddoedd i ddod.
Ond mae’r dyfyniadau hunan-gyfeiriadol hyn yn brwydro â phytiau o Parsifal gan Wagner, Symffoni ‘Dante’ gan Liszt, a hyd yn oed y gân werin draddodiadol ‘Bruder Jakob’ (sydd efallai’n fwy adnabyddus fel ‘Frère Jacques’), sy’n ymddangos yn y symudiad araf wedi’i drawsfudo (fymryn yn anesmwyth) i gywair lleddf angladdol. Mewn sawl ffordd, mae’n gyfuniad dryslyd o themâu a syniadau sydd yr un mor ‘ddigymell a beiddgar’ ag y gwyddai Mahler ei hun iddo fod. Ond yn y rhaglen amlinellol a ddiystyrwyd gan Mahler, mae hefyd yn rhoi awgrym i ni o’r hyn yr oedd yn ceisio ei gyfleu, sef dim llai na bywyd ei hun: ‘Mae’r arwr yn wynebu brwydrau dychrynllyd a holl ofidiau’r byd ... Dim ond pan fo wedi trechu marwolaeth, a phan fo holl atgofion gogoneddus ieuenctid wedi dychwelyd gyda themâu o’r symudiad cyntaf, y mae’n cael y llaw uchaf.’
Nodyn y rhaglen © Jo Kirkbride
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:
Os ydych chi wedi mwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’r cyngerdd hwn sydd ar y gweill. Fel aelod cyfredol o’r gynulleidfa, cewch brynu tocynnau ar ei gyfer am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.
BBC NOW – NAWR!
Nos Iau 19/2/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Isabella Gellis Valedictions première y DU
Deborah Pritchard ‘Light Circle’ – Concerto i’r Trombôn première y DU
Juste Janulyte Confluere i gerddorfa siambr première y DU
Hannah Eisendle Azinheira première y DU
Katherine Balch musica pyralispremière y DU
Jack Sheen arweinydd
Peter Moore trombôn
CYFOES | DADLENNOL | UNIGRYW
Dewch i deimlo’r wefr o ddarganfod cerddoriaeth newydd wrth i BBC NOW – NAWR! ddychwelyd yn y gwanwyn gyda phum première penigamp mewn un noson fythgofiadwy. Ymgollwch yn Valedictions cyfareddol Isabella Gellis, yng nghoncerto disglair Deborah Pritchard i'r trombôn – ‘Light Circle’ – gyda’r unawdydd o fri Peter Moore, ac yn Confluere gwych Juste Janulyte. Dewch i deimlo egni trawiadol Azinheira gan Hannah Eisendle a byd nosol hudolus musica pyralis gan Katherine Balch. Dan faton yr arweinydd addawol Jack Sheen, yn ei ymddangosiad cyntaf gyda BBC NOW, dyma’ch cyfle chi i weld dyfodol cerddoriaeth – byw, beiddgar a gwefreiddiol. Peidiwch â cholli’r cyfle!
Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw
Bywgraffiadau
Ryan Bancroft arweinydd
Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf yn 2018 pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, bu’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae hefyd yn Artist Cyswllt gyda’r Tapiola Sinfonietta ac, ers mis Medi 2023, mae wedi bod yn Brif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm.
Ar ôl dechrau ar ei gyfnod fel Prif Arweinydd yn Stockholm gyda pherfformiad cyntaf y gerddorfa o The High Mass gan Sven-David Sandström, roedd ei ail dymor wedi cynnwys perfformiadau o symffonïau gan Mahler a Bruckner, ochr yn ochr â’r perfformiadau cyntaf erioed o weithiau gan Chrichan Larson a Zacharias Wolfe, a chydweithrediadau gydag unawdwyr enwog gan gynnwys Leif Ove Andsnes, Maxim Vengerov a Víkingur Ólafsson.
Y tymor hwn, mae wedi ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Radio Boston a’r Ffindir, Deutsches Symphonie-Orchester Berlin yn y Berlin Philharmonie, a’r WDR Symphonieorchester yn Cologne.
Mae Ryan Bancroft yn frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble yn Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, John Cage, James Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio gyda cherddorion byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden. Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban, ac yn yr Iseldiroedd.
Johan Daleneffidil
Mats Bäcker
Mats Bäcker
Feiolinydd Swedaidd-Norwyaidd yw Johan Dalene, ac ef oedd enillydd Cystadleuaeth Carl Nielsen yn 2019. Ac yntau bellach yn 25 oed, mae wedi perfformio gyda cherddorfeydd blaenllaw ac mewn neuaddau datganiadau enwog gartref ac ar draws y byd. Mae ei fynegiant cerddorol hynod onest wedi’i gyfuno â’i gysylltiad arbennig â cherddorion a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, wedi denu llawer iawn o edmygwyr. Yn 2022, cafodd ei enwi’n Artist Ifanc y Flwyddyn Gramophone.
Mae’n eiriolwr brwd dros gerddoriaeth newydd, a’r tymor hwn bydd yn perfformio Concentric Paths, Concerto Thomas Adès, gyda Cherddorfa NDR Elbphilharmonie a Jukka-Pekka Saraste, a gyda Cherddorfa Ffilharmonig Radio’r Iseldiroedd ac Andrew Manze. Bydd hefyd yn chwarae Serenades Rautavaara, yn nodedig gyda Cherddorfa Symffoni Llundain a Thomas Adès, yn ogystal â Choncerto Niels Viggo Bentzon i’r Ffidil gyda Cherddorfa Ffilharmonig Copenhagen a Thomas Dausgaard.
Ar ôl treulio cyfnodau preswyl gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a Cherddorfa Symffoni Gävle, bydd yn gweithio gydag amrywiol gerddorfeydd drwy gydol y tymor hwn. Mae’r rhain yn cynnwys ymddangos am y tro cyntaf gyda’r Gerddorfa Symffoni Genedlaethol yng Nghanolfan Kennedy, Washington DC, a gyda Cherddorfa Symffoni Detroit a Cherddorfa Ffilharmonig Tampere, a bydd hefyd yn dychwelyd at gerddorfeydd Ffilharmonig Brenhinol Lerpwl a Stockholm. Mae ei uchafbwyntiau diweddar eraill yn cynnwys ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Minnesota a Thomas Sondergård, gyda Cherddorfa Leipzig Gewandhaus a Sakari Oramo, a chyda Symffoni San Francisco ac Esa-Pekka Salonen.
Mae’r un mor frwd dros gerddoriaeth siambr, ac mae’n perfformio cyfres o ddatganiadau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig gyda Jeneba Kanneh-Mason. Mae wedi chwarae mewn gwyliau enwog fel Verbier a Rosendal ac mewn neuaddau fel Neuadd Carnegie.
Mae’n recordio’n ecsgliwsif gyda label BIS, a rhyddhaodd ei albwm diweddaraf – o goncerti gan Mendelssohn a Bruch – yn ystod yr hydref. Dyma ychwanegiad arall at ei ddisgograffi arobryn, sydd hefyd yn cynnwys yr albymau o ddatganiadau, Souvenirs a Nordic Rhapsody, yn ogystal â choncerti gan Nielsen, Sibelius, Mozart, Barber a Tchaikovsky.
Dechreuodd chwarae’r ffidil pan oedd yn bedair oed a pherfformiodd goncerto am y tro cyntaf yn broffesiynol dair blynedd yn ddiweddarach. Yn 2016, roedd yn fyfyriwr preswyl yng Ngŵyl Verbier ac yn 2018 cafodd ei dderbyn ar raglen Crescendo yn Norwy, lle bu’n gweithio’n agos gyda’r mentoriaid Janine Jansen, Leif Ove Andsnes a Gidon Kremer.
Mae Johan Dalene wedi ennill nifer o ysgoloriaethau a gwobrau. Mae’n chwarae’r Stradivarius ‘Duke of Cambridge’ o 1725, sydd ar fenthyg yn hael gan Sefydliad Elusennol Anders Sveaas.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.
Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf Lesley Hatfield blaenwr
Mira Marton
Jens Lynen
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel BarberRuth Heney **Anna CleworthKerry Gordon-SmithŽanete UškāneJuan GonzalezEmilie Godden
Alejandro Trigo
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Ros Butler
Sheila Smith
Lydia Caines **
Vickie Ringguth
Roussanka Karatchivieva
Joseph Williams
Beverley Wescott
Michael ToppingKatherine Miller
Laurence Kempton
Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Lydia Abell
Catherine Palmer
Lowri Taffinder
Anna GrownsRobert GibbonsLaura Sinnerton
Soddgrythau
Leo Popplewell
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Alistair Howes
Rachel FordCarolyn HewittKathryn Graham
Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Richard Lewis
Emma PrinceChristopher WescottAntonia Bakewell
Thea Sayer
Phoebe Clarke
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †Lindsey Ellis
Charlotte Thomas
PiccoliJohn Hall †
Lindsey Ellis †
Charlotte Thomas
Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †Charis Yan Yin Lai
Catriona Lockhart
Cor anglaisCharis Yan Yin Lai
Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Isaac Prince
Lenny Sayers
William White
Clarinét E feddalnod
William White
Clarinét Bas
Lenny Sayers †**+
Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Patrick Bolton
David Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Alex Willett
Flora Bain
Tom Taffinder
Dave Ransom
James Mildred
John Davy
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †
Carys Wood
Ryan Linham
Trombonau
Donal Bannister*
Dafydd Thomas †
Jake Durham
Trombôn Bas
Darren Smith †
TiwbaRichard Evans
TimpaniSteve Barnard *
Chris Thomas
Offrynnau TaroElliot Gaston-Ross
Phil GirlingAndrea Porter
Y Delyn
Sally Pryce
* Prif Offerynnwr yr Adran† Prif Offerynnwr‡ Prif Offerynnwr Gwadd# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyolRoedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale Rheolwr y Gerddorfa Liz WilliamsRheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **Rheolwr Staff y GerddorfaKevin MyersCydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor HallCydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George LeeRheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **Cynhyrchydd Mike SimsCynorthwyydd DarlleduEmily PrestonPennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)Cynhyrchydd Digidol Angus RaceCydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet BaughPrentis Marchnata Mya ClaydenCynhyrchydd AddysgBeatrice CareyCynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa BlofeldRheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead + Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications



