

Argraffiadau a Myfyrdodau
Nos Iau 5/12/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Gabriella Smith
Tumblebird Contrails12’
Simon Wills
Nora Barnacle Assumes Command – bale concertante i'r gerddorfa a thrombôn unawdol première byd c35’
EGWYL: 20 munud
Charles Ives
Symffoni Rhif 1 32’
Geoffrey Patersonarweinydd (Smith ac Ives)
Simon Willsarweinydd (Wills)
Donal Bannister trombôn
Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei ddarlledu’n fyw gan BBC Radio 3 ar Radio 3 in Concert’; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Llun: Kirsten McTernan
Llun: Kirsten McTernan
Croeso i’r cyngerdd heno, lle rydyn ni’n croesawu dau arweinydd i’r podiwm: Geoffrey Patterson ar gyfer darnau gan Gabriella Smith a Charles Ives, a Simon Wills, sy’n arwain y perfformiad cyntaf erioed o’i ddarn ei hun, Nora Barnacle Assumes Command.
Yn ei darn â’r teitl diddorol, Tumblebird Contrails, mae Gabriella Smith yn cyfleu ei hymateb syfrdanol i’w thaith i leoliad dramatig Point Reyes ar arfordir California, lle cafodd ei llethu gan y synau a’r golygfeydd.
Mae prif drombonydd BBC NOW ei hun yn camu i safle’r unawdydd yn Nora Barnacle Assumes Command.Er bod cysylltiadau’r darn â James Joyce yn glir (Nora Barnacle oedd enw ei wraig), mae’r cyfansoddwr yn disgrifio’r darn yn llai tebyg i goncerto ac yn debycach i ‘fale haniaethol mewn 11 golygfa heb doriad’.
Byddwn yn cloi gyda Symffoni Gyntaf Ives; fe’i cyfansoddwyd tra oedd yn fyfyriwr yn Yale, lle cafodd wersi gyda’r ffigur dylanwadol, onid yn geidwadol, Horatio Parker. Ac eto, er ei bod yn ymddangos ei fod yn cydymffurfio, ceir cipolwg ar yr Ives aeddfed yn y darn – yn enwedig ei ffordd idiosyncratig o ymdrin â themâu traddodiadol, a’i hoffter o bentyrru un alaw ar ben y llall i gael effaith gwbl adfywiol.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Gabriella Smith(ganed 1991)
Tumblebird Contrails (2014)

Geoffrey Patersonarweinydd
Mae Tumblebird Contrails wedi ei ysbrydoli gan foment a gefais tra oeddwn yn ymweld â Point Reyes. Yno, yn eistedd ar y tywod ar lan y môr, cefais fy hudo gan synau swynol y Môr Tawel (y gwylanod yn galarnadu, y tonnau’n taro’r traeth, y dŵr yn dynesu yn un ffrwd, yr ewyn ar y tywod yn sïo wrth i’r môr fynd ar drai) – llanw a thrai cyson o synau sy’n amrywio o rai â thraw i rai di-draw, o alawon i weadau, o rai rhythmig i rai rhydd. Bûm yn gwylio pâr o gigfrain yn chwarae yn y gwynt, yn troelli, yn hedfan, yn plymio ac yn esgyn – yn dychmygu’r wefr o deimlo’r gwynt yn eu hadenydd – a’r awyrennau’n peintio llinellau diddiwedd ar draws yr awyr. Ymadrodd disynnwyr a ysbrydolwyd gan Kerouac yw teitl y darn, Tumblebird Contrails, a ddyfeisiwyd gennyf i gyfleu sain a theimlad y darn.
Nodyn y rhaglen © Gabriella Smith
Simon Wills(ganed 1957)
Nora Barnacle Assumes Command – bale concertante i’r gerddorfa a thrombôn unawdol (2022)
première byd

Donal Bannistertrombôn
Simon Willsarweinydd
Un anwadal a oedd yn gwneud fel y mynnai oedd James Joyce. Roedd ei wraig Nora Barnacle yn gymeriad tawelach, er bod ffotograffau ohoni’n awgrymu y gallai fod yn fflyrtlyd hefyd. Cwynai Nora fod ei gŵr yn gwastraffu arian ac yn yfed gormod; er ei bod yn falch ohono, roedd yn meddwl bod ei ysgrifen yn aneglur ac yn ddisynnwyr. Mae teitl y darn hwn yn disgrifio sut mae’r cymeriadau gwrthgyferbyniol hyn i’w clywed yn y gerddoriaeth; nid yw’n annhebyg i ffurfiau mwy cyfarwydd fel y preliwd a’r ffiwg. Ceir llawer o newid mewn hwyliau yn y darn: mae’n bruddglwyfus, yn rhithweledigaethol ac weithiau’n hollol hurt. Rhyngddynt, neu’n eu gorchuddio fel blanced, ceir rhywbeth tawelach – cymeriad urddasol Nora. Mae hi’n cymryd yr awenau yn y pen draw, oherwydd mae tawelwch yn gryfach na sŵn fel arfer.
Cyfansoddi dawnsiau sy’n mynd â’m bryd ac fe wnes i ddychmygu’r gwaith fel bale haniaethol mewn 11 golygfa heb doriad. Nid yw’n cynnwys cyfeiriadau at ddigwyddiadau ym mywydau Jim a Nora nac at weithiau’r awdur – ar wahân i’r alaw Wyddelig, Oft in Stilly Night. Mewn golygfa dorcalonnus yn A Portrait of the Artist as a Young Man, mae teulu tlawd yr arwr yn ei chanu wrth iddi nosi, a dyma’r alaw agoriadol yn Nora Barnacle. Ar ôl hynny fe’i defnyddiais fel rhyw fath o bentwr o bren cerddorol y gallwn dynnu coedyn neu frigyn ohono wrth i mi weithio. O bryd i’w gilydd, roedd un ohonynt yn cael ei droi’n rhywbeth adnabyddus, ond mae’r alaw yn gudd ar y cyfan, fel DNA yn clymu pethau ynghyd. Mae gan yr unawdydd ormod o dawnodau i hwn gael ei ystyried yn goncerto yn yr ystyr arferol, ac mae ei berthynas â’r gerddorfa yn newid yn gyson. Ar adegau, mae’n unawd confensiynol gyda chyfeiliant, ond ar adegau mae’r trombôn yn ymddwyn fel hen ddyn piwis sy’n tarfu ar bethau o’r cyrion – neu’n pwdu ac yn gwneud dim byd o gwbl.
Cyfansoddais y darn ym Mharis yn ystod mis Gorffennaf a dechrau mis Awst 2022. Yn ôl yr arfer, roeddwn i’n gweithio gydag ysgrifbin hen ffasiwn, gan symud ymlaen o dudalen o luniadau i ddarnau o gerddoriaeth, ac yn olaf i sgôr. Roedd y brasluniau inc yn fwy pengaled nag arfer ac yn gwrthod cael eu mireinio; roedd yn ymddangos eu bod yn gwybod yn union sut yr oeddent am i’r darn gorffenedig fod. Pan fo gwaith yn benderfynol felly, mae cyfansoddwr doeth yn gadael iddo ennill, ni waeth pa mor rhyfedd y gallai’r canlyniad fod – ac felly dyna a wnes i.
Nodyn y rhaglen © Simon Wills
EGWYL: 20 munud
Charles Ives(1874–1954)
Symffoni Rhif 1(1898–1902)

1 Allegro
2 Adagio molto (sostenuto)
3 Scherzo: Vivace
4 Allegro molto
Geoffrey Patersonarweinydd
I ’r rhai sy’n fwy cyfarwydd ag arbrofoliaeth radical a rhydd Charles Ives yn ei gerddoriaeth ddiweddarach – er enghraifft, Three Places in New England, neu’r darn enigmatig The Unanswered Question – gallai Symffoni Gyntaf Ives, a gwblhawyd ganddo pan oedd yn iau yn 1902 ac nad yw’n cael ei pherfformio’n aml, beri dipyn o syndod. Mae’n waith sydd wedi’i wreiddio mewn arddulliau a modelau Ewropeaidd traddodiadol, i’r fath raddau fel ei fod bron yn dyfynnu gweithiau nifer o gyfansoddwyr cynharach yn blwmp ac yn blaen.
Nid yw hynny’n golygu mai dim ond yn nes ymlaen yn ei fywyd y datblygodd Ives ei syniadau cerddorol radical. Hyd yn oed fel bachgen ifanc, câi Charles ei ysbrydoli gan ei dad George Ives, a oedd yn chwarae sawl offeryn, yn athro cerdd ac yn arweinydd band, ac a oedd yntau’n hoff iawn o arbrofi’n gerddorol. Roedd George yn rhyfeddu at y cacoffoni cymhleth a geid pan fyddai sawl band gorymdeithio yn chwarae ar yr un pryd, neu at y gwrthdaro pan glywid cyweiriau croes ar yr un pryd, neu hyd yn oed at y nodau y tybir eu bod ‘allan o diwn’ yn y craciau ar allweddell y piano – mae’r rhain i gyd yn syniadau y byddai Charles yn mynd ati i’w harchwilio.
Ychydig wythnosau ar ôl i Charles fynd i Brifysgol Yale ym 1894, bu farw ei dad. Roedd yn ergyd drom i’r dyn ifanc, ond daeth o hyd i ffigur tadol arall o bosib – sef yr addysgwr a’r cyfansoddwr enwog, Horatio Parker. Roedd wedi astudio gyda Josef Rheinberger ym Munich, ac roedd yn gysetlyd, yn fanwl ac yn gul yn yr hyn roedd yn gofyn amdano gan ei fyfyrwyr – cerddoriaeth yn arddull y cyfnod Rhamantaidd hwyr, a oedd yn sicr yn Almaenaidd.
Bu Ives yn ymgynghori’n agos â Parker wrth gyfansoddi ei Symffoni Gyntaf, gan gyflwyno ei ail a’i bedwerydd symudiad fel ei draethawd ymchwil yn ei flwyddyn olaf ym 1898, a chwblhau’r gwaith gyda’r trydydd symudiad yn 1902. Yn nes ymlaen yn ei oes, roedd weithiau’n diystyru’r darn fel aseiniad gwaith cartref, ond byddai Ives yn cyfaddef yn ddistaw bach ei fod yn eithaf hoff o’r darn. Yn sicr, does dim gwadu personoliaeth bwerus y darn, na ffordd idiosyncratig ac unigryw yr Ives ifanc o ddelio â’i ddeunydd, fel pe bai’r rhyddid radical yr oedd wedi’i ddysgu gan ei dad yn dal i fyrlymu o dan wyneb rheolau llym Parker.
Mae’r symudiad agoriadol sylweddol yn dechrau gydag alaw hiraethus, tebyg i waith Schubert, ar gyfer y clarinét (a frasluniwyd yn syth ar ôl marwolaeth ei dad), ond mae ochr-gamau harmonig anarferol y thema yn bradychu syniadau mwy blaengar Ives. Yn nes ymlaen yn y darn, mae alaw fywiog, awyr agored yn cymryd drosodd yn y llinynnau, ac mae Ives yn dechrau ar ei ddatblygiadau o’r ddau syniad gyda darn rhyfeddol, argraffiadol o harmonïau sy’n codi’n barhaus, cyn i’r themâu agoriadol ddychwelyd i arwain y symudiad at ei ddiweddglo llawen.
Er efallai fod yr alaw debyg i emyn sy’n dechrau’r ail symudiad ar y cor anglais yn swnio’n beryglus o debyg i’r symudiad araf yn y Symffoni ‘Byd Newydd’ gan Dvořák, mae’r gerddoriaeth hefyd yn rhagarwydd o deimladrwydd ingol llawer o’r gerddoriaeth arafach y byddai Ives yn ei chreu’n ddiweddarach. Mae ei drydydd symudiad, y Scherzo, yn adeiladu canon drwy osod thema chwim a dieflig yn haenau ar ben fersiynau ohoni ei hun, ac yn y pen draw mae ei ddiweddglo gwefreiddiol, tebyg i ymdeithgan, yn croesawu themâu o bob rhan o’r Symffoni yn ôl mewn pentwr godidog o alawon.
Nodyn y rhaglen © David Kettle
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant …
La voix humaine
Nos Iau 30/01/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Ravel Ma mère l’Oye
Poulenc La voix humaine
Jaime Martín arweinydd
Danielle de Niese soprano
THEATRIG | BYWIOG | SYFRDANOL
Mae’r Prif Arweinydd Gwadd, Jaime Martín, yn ein harwain mewn rhaglen o berlau Ffrengig, gan ddechrau gyda dathliad o 150 mlynedd ers geni Ravel. Mae ei sgôr hudolus, synhwyrus, cyfareddol a chwareus i’r bale Ma mère l’Oye yn seiliedig ar straeon tylwyth teg clasurol, o’r Dywysoges Hir ei Chwsg a Hyll Bach i Twm Bawd a Belle a’r Bwystfil.
Ar ôl yr egwyl, bydd y seren opera, Danielle de Niese, yn perfformio am y tro cyntaf gyda BBC NOW mewn perfformiad wedi’i lwyfannu’n rhannol fel Elle yn opera un-act bwerus Poulenc, La voix humaine. Yn ystod galwad ffôn gan ei chariad, mae galar a gwadu yn arwain at ddicter ac anobaith wrth iddo ddwyn eu perthynas i ben – thema dragwyddol o gariad unochrog yn dod yn fyw o flaen ein llygaid.
Shostakovich 6 gyda Ryan Bancroft
Nos Wener 14/2/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Nos Sadwrn 15/2/25, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Gavin Higgins A Monstrous Little Suite première byd
Weinberg Concerto i’r Utgorn
Shostakovich Symffoni Rhif 6
Ryan Bancroft arweinydd
Håkan Hardenberger utgorn
BYRLYMUS | AMRYWIOL | BYWIOG
Bydd y Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, yn camu i’r podiwm i arwain y perfformiad cyntaf erioed o waith y Cyfansoddwr Cysylltiedig Gavin Higgins, sef A Monstrous Little Suite o’i opera The Monstrous Child, cyn i Håken Hardenberger ddychwelyd i BBC NOW ar gyfer un o’r concerti gorau o’i fath, sef Concerto i’r Utgorn chwareus, gafaelgar a ffraeth Weinberg. Mae’n amrywio o gysgodion tywyllwch i waltz herciog, gan ddyfynnu’n ddyfeisgar o rai o’r gweithiau cerddoriaeth mwyaf poblogaidd sy’n bod, o Carmen gan Bizet i Petrushka gan Stravinsky, ac o Ymdeithgan Priodas eiconig Mendelssohn i bumed symffoni Mahler.
Mae drama ddwysfyfyriol yn cyferbynnu â phenysgafndod llwyr yn Chweched Symffoni Shostakovich, gan ddangos amrywiad caleidosgopig ar ei fwyaf trawiadol. Ceir symudiad agoriadol hir, hiraethus, araf a hyfryd hwn sy’n ildio i ddau scherzo syfrdanol sy’n carlamu drwy’r gerddorfa yn y syrcas gerddorol fywiog a chroch hon.
Bywgraffiadau
Geoffrey Paterson arweinydd
Benjamin Ealovega
Benjamin Ealovega
Mae’r arweinydd o Brydain, Geoffrey Paterson, yn cael ei edmygu am ei ddealltwriaeth drawiadol o fanylion, ei ymatebolrwydd i gerddorion, a’i allu i siapio a chreu cerddoriaeth o’r sgorau mwyaf cymhleth gydag awdurdod naturiol.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae wedi arwain Cerddorfa Genedlaethol Denmarc, Symffoni Hamburg a Symffoni Aarhus – sydd i gyd wedi ei wahodd yn ôl ar gyfer y tymor hwn – a Cherddorfa Ffilharmonig Nagoya (sydd wedi ei wahodd yn ôl ar gyfer 2025). Yn ystod y tymor diwethaf yma yn y DU, ymddangosodd gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a’r London Mozart Players, ac fe berfformiodd gylch Y Fodrwy gan Wagner (trefniant De Vlieger i’r gerddorfa) gyda’r Brighton Philharmonic – eto, cafodd ei wahodd yn ôl gan bob un o’r cerddorfeydd hyn – ac mae hefyd yn dychwelyd at Gerddorfa Symffoni BBC yr Alban ar gyfer sesiynau stiwdio wedi’u ffilmio.
Yn ystod tymor 24/25 bydd yn arwain Cerddorfa Ffilharmonig Warsaw yng Ngŵyl Gerddoriaeth Gyfoes Warsaw, yn dychwelyd at ei gydweithredwyr rheolaidd Sinfonietta Llundain (première o waith gan Hannah Kendall), at y Nash Ensemble (Strauss a Wagner) ac at Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes Birmingham (Birtwistle, Anderson). Mae’n parhau i gydweithio’n agos â Marius Nese, y sacsoffonydd jazz o Norwy y mae wedi perfformio gydag ef sawl gwaith, gan gynnwys yng Ngŵyl Bergen a Proms y BBC ac ar gyfer Musikkollegium Winterthur; ac maen nhw’n dod at ei gilydd unwaith eto ar gyfer Gŵyl Northern Lights 2025 gyda Cherddorfa Ffilharmonig yr Arctig.
Mae opera bob amser wedi bod yn rhan fawr o weithgarwch Paterson; mae ei gynyrchiadau diweddar wedi cynnwys Midsummer Night’s Dream gan Britten yn Frankfurt, Orphée gan Philip Glass yn Opera Cenedlaethol Lloegr, Ritratto gan Willem Jeth yn Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd, a gwaith gan Albert Herring yn yr Academi Gerdd Frenhinol y tymor diwethaf. Yn ogystal â hyn, mae wedi arwain yn y Bayerische Staatsoper (The Consul gan Menotti, a gweithiau bale gan Saariaho a Max Richter), Opera Brenhinol Denmarc (Die Fledermaus, Porgy and Bess, a Cinderella gan Prokofiev), Opera North (La bohème), Glyndebourne ar Daith (Die Entführung aus dem Serail) a Theatr Gerdd Cymru (Passion at the Southbank Centre gan Dusapin, Y Ddraig Aur gan Eötvös ar daith). Yn ystod tymor yr hydref 2024, bydd yn arwain dau fale cyfoes yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden.
Astudiodd Paterson ym Mhrifysgol Caergrawnt lle cafodd hefyd wersi cyfansoddi gydag Alexander Goehr, cyn mynd ymlaen i astudio Academi Cerdd a Drama Frenhinol yr Alban. Ar ôl ennill y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth Arweinwyr Leeds yn 2009, aeth ymlaen i gymryd rhan yn y dosbarthiadau meistr ar arwain gyda Pierre Boulez yng Ngŵyl Luzern. Yn ystod ei gyfnod ar Raglen Artistiaid Ifanc y Tŷ Opera Brenhinol, bu’n helpu arweinwyr – gan gynnwys Antonio Pappano, Mark Elder, Andris Nelsons a Daniele Gatti – ar repertoire helaeth. Am ddau dymor, bu’n gweithio yn Bayreuth fel cynorthwyydd cerddorol i Kirill Petrenko ar gyfer Der Ring des Nibelungen.
Simon Willsarweinydd
Chris Stock
Chris Stock
Dechreuodd Simon Wills ei yrfa yng ngherddorfa’r Teatro Massimo yn Palermo. Ar ôl rhai blynyddoedd yn chwarae gydag Opera Cenedlaethol Cymru, ymunodd â Cherddorfa Symffoni Llundain ac ar yr un pryd, roedd yn brif drombonydd Cerddorfa Siambr Ewrop, a bu yn y swydd honno am 14 mlynedd.
Mae’n gyfansoddwr sy’n cael ei berfformio’n eang, y tu allan i’r DU yn bennaf. Mae ei waith ar y llwyfan yn cynnwys A Day Close to Summer, a gafodd ei ysgrifennu ar gyfer y Baden Baden Festspielhaus, The Secret Agent, opera a gafodd ei chyfansoddi ar gyfer Gŵyl Feldkirch yn Awstria, a The Stolen Smells, opera buffa yr oedd wedi’i harwain yn Lucerne yn 2012. Cafodd ei chynhyrchu wedyn gan Norddeutsche Rundfunk yn y Kampnagel yn Hamburg dan arweiniad Thomas Hengelbrock. Enillodd Du Bist Da, Du Bist Fort, a gafodd ei gynhyrchu gan y Düsseldorfer Schauspielhaus, wobr Junge Ohren ar gyfer theatr gerdd yn 2013 ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno, agorodd yr NDR Elbphilharmonie Orchester ei thymor gydag Empress of Blandings, ei agorawd gerddorfaol wedi’i hysbrydoli gan Wodehouse; recordiodd Cerddorfa Symffoni’r BBC y gwaith ar gyfer Radio 3 yn ddiweddarach. Yn 2014, ef oedd y cyfansoddwr cyntaf o Brydain ers 1959 i gael première yn Ciwba, lle arweiniodd ei gathl symffonig Bolondrón yn Havana gyda’r Orquestra del Liceu ac yn 2015, fe wnaeth Cerddorfa Ffilharmonig Munich deithio a darlledu ei symffoni Dante, Malebolge.Cafodd The Island, ei gathl symffonig sydd wedi’i ysbrydoli gan y Caribî, ac a gafodd ei gomisiynu a’i berfformio am y tro cyntaf gan Gerddorfa Tonhalle yn Zurich, ei berfformiad cyntaf yn y DU yn ddiweddar, gan Gerddorfa Ulster; cafodd ei ddarlledu’n ddiweddarach ar Radio 3 gan Gerddorfa Symffoni BBC yr Alban. Fe wnaeth 1816, Das Jahre öhne Sommeran, comisiwn theatr arbrofol gan y Schumannfest yn Düsseldorf, agor ym mis Mai 2016 a mis yn ddiweddarach cafodd Anita Berber, Göttinder Nacht, bale naratif Simon ar gyfer cerddorfa fawr, ei chynhyrchu gan fale Thüringer Staats gyda choreograffi gan Jiri ac Otto Bubenicek. Nora Barnacle Assumes Command yw ei ail bremière eleni: ym mis Mai fe arweiniodd ei toccata ar gyfer ensemble mawr, One is Down, yn Fort Worth, Texas. Mae’r gwaith sydd ganddo ar y gweill yn cynnwys cyfres o drefniannau Rilke ar gyfer côr dwbl, Requiem seciwlar a’i Bedwaredd Symffoni.
Mae’n aml yn cyfarwyddo ei waith ei hun ac mae wedi ymddangos fel arweinydd gwadd gyda Cherddorfa Symffoni Lucerne, Cerddorfa Talaith Cyprus, Cerddorfa Symffoni Turan Alem yn Kazakhstan, cerddorfa Liceu yn Havana, a Cherddorfa Chwythbrennau Stockholm. Fel rhan o’r dathliadau ar gyfer Cyfarfod Penaethiaid Llywodraethau’r Gymanwlad yn Kampala yn 2007, fe arweiniodd Requiem Mozart yng Nghadeirlan Namirembe – y perfformiad cyntaf erioed yn Uganda, yn ôl pob tebyg. Dyma’r tro cyntaf iddo arwain gyda BBC NOW.
Donal Bannistertrombôn
James Fear
James Fear
Donal Bannister yw Prif Drombonydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, swydd y mae wedi’i dal ers 2007. Cyn hynny, roedd yn aelod o Gerddorfa Symffoni Bournemouth.
Cafodd ei eni yn Nulyn i deulu cerddorol, ac astudiodd yng Ngholeg y Drindod Dulyn, lle’r oedd yn ysgolor, ac yn Ysgol Gerdd Eastman yn Efrog Newydd, lle’r oedd yn ysgolor Fulbright. Tra oedd yn Efrog Newydd, datblygodd ddiddordeb arbennig yng ngherddoriaeth Haydn, gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth diwedd y 1760au a dechrau’r 1770au – cyfnod o arbrofi beiddgar yng ngyrfa’r cyfansoddwr.
Mae ei weithgareddau cerddorol yn eang: mae’n westai rheolaidd gyda llawer o gerddorfeydd eraill ym Mhrydain, yn addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn gyfansoddwr cyhoeddedig, ac yn trefnu cerddoriaeth ar gyfer offerynnau pres. Mae hefyd wedi cyflwyno nifer o sgyrsiau a darlithoedd cyn cyngherddau ac wedi arwain cerddorfeydd cymunedol. Yn ei waith gyda BBC NOW mae’n awyddus i bontio rhwng y byd cerddorfaol modern ac offerynnau cyfnod drwy ddefnyddio ystod eang o drombonau sy’n briodol i repertoire amrywiol y gerddorfa.
Yn ystod y cyfnodau clo adeg Covid, datblygodd bartneriaeth newydd a hynod lwyddiannus gyda Molly, y ci Saluki sy’n canu, gan ddod yn seren ar-lein yn syth bin. Yn anffodus, mae Molly yn rhy swil i ymuno â ni heno, er ei bod wedi cyfrannu at sawl sesiwn ymarfer ar gyfer Nora Barnacle Assumes Command ac wedi cynnig cyngor amhrisiadwy. Yn dilyn trafodaethau dwys, penderfynodd y cyfansoddwr Simon Wills beidio â bwrw ymlaen ag unrhyw un o’r gwelliannau a awgrymwyd gan Molly.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei brosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Children in Need.
Yn eu cartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gilyn-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Anna Cleworth
Žanete Uškāne
Ruth Heney
Carmel Barber
Emilie Godden
Alejandro Trigo
Kerry Gordon-Smith
Amy Fletcher
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Will Hillman
Sheila Smith
Joseph Williams
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines
Beverley Wescott
Ilze Abola
Katherine Miller
Vickie Ringguth
Michael Topping
Gary George-Veale
Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Lowri Taffinder
Robert Gibbons
Lydia Abell
Anna Growns
Laura Sinnerton
Daire Roberts
Soddgrythau
Alice Neary *
Heeyeon Cho
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Alistair Howes
Carolyn Hewitt
Keith Hewitt
Rachel Ford
Basau Dwbl
David Stark *
Alex Jones #
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Ketan Curtis
Ruohua Li
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis
Piccolo
Lindsey Ellis †
Oboau
Steve Hudson *
Catriona Lockhart
Max Spiers
Cor anglais
Max Spiers
Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Bethany Crouch
Lenny Sayers
Clarinét Bas
Lenny Sayers †
Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Thaïs Bordes
David Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
John Davy
Tom Taffinder
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †
Trombonau
Dafydd Thomas †
Tom Scalfe
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Phil Hughes
Phil Girling
Andrea Porter
Y Delyn
Bethan Semmens
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlleduswydd wag
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy **
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications




