90th-Birthday Celebration for
John Williams
Nos Fercher 4 Mai a Nos Iau 5 Mai 2022, 7.30pm

John Williams
Star Wars – Prif Deitl 6’
Lost in Space – Thema 3’
Jaws – The Shark Theme 3’
Jurassic Park – Thema 6’
Lincoln – The People’s House 5’
Marwnad i Soddgrwth a Cherddorfa 7’
The Cowboys – Agorawd 10’
EGWYL: 20 munud
Harry Potter and the Sorcerer’s Stone – Hedwig’s Theme 5’
The BFG – A Child’s Tale (Cyfres) 8’
Memoirs of a Geisha – Sayuri’s Theme 4’
Schindler’s List – Thema 4’
Raiders of the Lost Ark – Raiders March 5’
Close Encounters of the Third Kind – Detholiadau 7’
E.T.: The Extra-Terrestrial – Adventures on Earth 10’
Pete Harrisonarweinydd
Lesley Hatfield ffidil
Alice Neary soddgrwth
Philippe Schartz utgorn
John Williams (ganed 1932)
Bywyd Mewn Ffilm

Mae pinacl cynnyrch cerddorol Beethoven yn bedwar nodyn o hyd: dah-dah-dah daaaaaah yw cymal agoriadol awdurdodol enwog ei Bumed Symffoni. Rhagorodd John Williams ar hynny. Daeth yn enwog ar gefn dim ond dau nodyn, y motiff daaaaaah-dah isel o E i F ar y tiwba sy’n ffurfio ei thema fygythiol, cyffrous o fileinig i Jaws.
Roedd ffilm Steven Spielberg yn 1975 yn fwy na dim ond blocbyster. Hi a sefydlodd y syniad o flocbyster haf – ffilmiau llawn antur a chyffro i apelio at gynulleidfaoedd eang sy’n agor fel arfer ym misoedd yr haf gyda chostau hysbysebu/hyrwyddo sy’n fwy na’r gyllideb cynhyrchu. Ac roedd sgôr adnabyddus Williams yn rhan enfawr o lwyddiant byd-eang Jaws. Torrodd y record am werthu tocynnau, a chadwodd y goron honno am ddwy flynedd nes iddi gael ei dwyn gan Star Wars, gyda sgôr eto gan John Williams.
Enillodd Jaws Wobr Academi haeddiannol iddo, ond nid dyna’r tro cyntaf iddo ennill. Roedd hynny wedi digwydd ddwy flynedd yn gynharach. Ar ôl gweithio fel pianydd yn Hollywood (mae’n ymddangos wrth y piano yn ffilm gomedi-gyffro Cary Grant/Audrey Hepburn, Charade), dechreuodd gyfansoddi’n bennaf ar gyfer rhaglenni drama ac adloniant ar y teledu yn amrywio o’r gyfres ffuglen wyddonol Lost in Space yn y 1960au i’r enwog Bob Hope. Ei ffilm gyntaf oedd Daddy-O yn 1958, ‘comedi’ nad yw, yn haeddiannol, yn cael fawr o sylw bellach ar wahân i’w fewnbwn ef a’r ffaith ei fod yn cael ei gydnabod fel Johnny Williams, enw sy’n gysylltiedig â theitlau fel How to Steal a Million, comedi drosedd wedi’i lleoli ym Mharis, gydag Audrey Hepburn a Peter O’Toole yn serennu, lle creodd Williams sain a oedd yn gyfuniad o Hollywood a Poulenc.
Ond erbyn 1971, pan enillodd y cyntaf o’i bump Oscar am ei addasiad sgrin fawr o sioe gerdd Broadway Fiddler on the Roof, roedd yn arddel yr enw John, a dyna’r enw y byddai’n ei ddefnyddio ar gyfer dros 100 o ffilmiau. Mae wedi cyfansoddi cerddoriaeth gyfoethog a’i threfnu’n drylwyr ar gyfer cerddorfa ym mhob genre, o ffilmiau trychineb chwedlonol fel The Poseiden Adventure (1973), Earthquake (1974) a The Towering Inferno (1974) hyd at ffilm olaf Hitchcock Family Plot (1976), y ffilm gyfnod epig Memories of a Geisha (2005) a chlasuron plant yn cynnwys The BFG (2016) ac, wrth gwrs, ffilmiau Harry Potter.
Yn wahanol i lawer o gyfansoddwyr ffilm, mae ei waith wedi ennyn clod ac edmygedd teilwng. Mae wedi cael 72 enwebiad Grammy (wedi ennill 25), 25 enwebiad Golden Globe (ennill pedwar) ac mae wedi cael mwy o enwebiadau am Oscar – 52 credwch neu beidio – nag unrhyw un arall heblaw Walt Disney. Yn wir, mae ei hirhoedledd ar frig y diwydiant yn amlwg o ystyried mai ef yw’r unig berson yn hanes Gwobrau’r Academi sydd wedi cael enwebiadau mewn saith degawd yn olynol.
Mae dwy bartneriaeth wedi bod yn ganolog i’w fywyd gwaith. Wrth fwrw iddi a mentro gwneud cyfres antur yn y gofod, cyflogodd y cynhyrchydd/cyfarwyddwr George Lucas ef oherwydd ei fod am gael cyfansoddwr a allai adleisio mawredd Korngold, y cyfansoddwr Iddewig a anwyd yn Awstria a ddyfeisiodd sain ôl-Ramantaidd Hollywood. Gan weithio gyda thrac o sgôr ysblennydd Korngold ar gyfer King’s Row fel arweiniad, dyfeisiodd Williams sgôr a oedd, mewn difrif, yn eiconig: y sgôr fuddugoliaethus, llawn angerdd ac offerynnau pres ar gyfer Star Wars. Mae’r gweddill yn hanes.
Mae ei bartneriaeth arall, wrth gwrs, gyda Spielberg. Gan ddechrau gyda The Sugarland Express, ail ffilm nodwedd y cyfarwyddwr, mae’r ddau wedi cydweithio ers degawdau ar deitlau fel E.T., Schindler’s List, Catch Me If You Can (un o’i sgorau gorau), teitlau Jurassic Park, ac anturiaethau’r pum ffilm Raiders of the Lost Ark.
Mae’r pumed, sydd i fod i gael ei rhyddhau yn 2023, yn nodi ymddeoliad Williams. Mae bellach yn 90 oed ac mae ffilm, meddai wrth y New York Times ym mis Chwefror, yn cymryd hyd at chwe mis o’i fywyd ac mae arno eisiau cael mwy o amser i wneud pethau eraill. Ar ôl treulio’r cyfnod clo ar amserlen brysur o foreau wedi’u rhannu rhwng wylio ffilm a chyfansoddi ar y pryd ar ei biano (piano cyngerdd Steinway); brechdan twrci a Perrier i ginio; a phrynhawniau wedi’u neilltuo ar gyfer diwygio cyfansoddiadau, mae’n awyddus i ysgrifennu mwy iddo’i hun a cherddorion eraill, gan gynnwys Yo-Yo Ma. Efallai nad ar y sgrin y byddwn yn clywed ei waith mwyach, ond yn hytrach mewn neuaddau cyngerdd ac o bosib ar brosiectau concerto newydd, ymysg pethau eraill.
Yn ôl yn 2016, cyflwynwyd Gwobr Cyflawniad Oes Sefydliad Ffilm America i Williams. Wrth dalu teyrnged iddo, nododd Spielberg eu bod, ar y pryd, wedi gwneud 27 ffilm gyda’i gilydd dros 43 blynedd. ‘Heb John Williams,’ meddai, ‘nid yw beiciau’n hedfan go iawn, nac ychwaith yr ysgubau mewn gemau Quidditch, na dynion mewn clogynnau coch. Nid yw’r Force yn bodoli yn Star Wars, nid yw deinosoriaid yn cerdded y ddaear, nid ydym yn rhyfeddu, nid ydym yn wylo, nid ydym yn credu. John, rwyt ti’n anadlu bywyd i bob ffilm rydyn ni wedi’i gwneud.’
Nodyn y rhaglen © David Benedict
Gwrando Pellach: Cyngerdd Berlin Cerddorfa Ffilharmonig Berlin/John Williams (DG 62938623)
Darllen Pellach: The Film Music of John Williams: Reviving Hollywood’s Classical Style Emilio Audissino (University of Wisconsin Press)
Bywgraffiadau
Pete Harrison arweinydd

Astudiodd Pete Harrison yn y Coleg Cerdd Brenhinol cyn dechrau ei yrfa arwain yn y West End yn Llundain gyda Crazy For You (Theatr Prince Edward), Beauty and the Beast gan Disney (Dominion Theatre) a Lautrec (Theatre Royal, Plymouth a Theatr Shaftesbury).
Mae’n gyflwynydd ac yn arweinydd gwadd rheolaidd gyda llawer o gerddorfeydd, gan gynnwys y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Philharmonia, Cerddorfa Bournemouth, Cerddorfa’r New Russian State Symphony, Cerddorfa Ulster, a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae hefyd yn cyflwyno cyngherddau Raymond Gubbay yn rheolaidd.
Mae ei waith gyda’r BSO yn cynnwys ei gyngherddau Noson Olaf Proms y Nadolig, cyfres reolaidd o gyngherddau cerddoriaeth mewn ffilmiau, a digwyddiadau fel Symphonic Queen, Chilled Out Classics, Abba Spectacular, Disco Symphonic Spectacular, Symphonic 80s a Symphonic Pink Floyd.
Yn ddiweddar, cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Cerdd y Brent Youth Concert Pops Orchestra, mewn partneriaeth â’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol.
Mae hefyd wedi gweithio gyda Cherddorfa Chwyth Ieuenctid Prydain Fawr, Cerddorfa Chwyth Ieuenctid Genedlaethol Cymru, Cerddorfa Ieuenctid Swydd Caint, Cerddorfa Symffoni Ieuenctid Berkshire a cherddorfeydd Ysgol Wells Cathedral.
Lesley Hatfield ffidil

Lun: James Fear
Lun: James Fear
Mae Lesley Hatfield yn byw bywyd cerddorol amrywiol, gan gyfuno ei rôl fel Arweinydd BBC NOW â cherddoriaeth siambr, chwarae ar ei phen ei hun a dysgu. Mae’n perfformio cerddoriaeth o bob cyfnod ac mae wedi gweithio’n agos gyda llawer o gyfansoddwyr cyfoes.
Ar ôl graddio o Goleg Clare, Caergrawnt, bu’n astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Yn ystod ei gyrfa gynnar, fel cerddor siambr ac fel aelod o Gerddorfa Siambr Ewrop, bu’n gweithio gyda Sándor Végh a Nikolaus Harnoncourt, a chafodd y ddau ddylanwad parhaol ar ei dull cerddorol. Roedd yn gyd-Arweinydd y Northern Sinfonia ac yn Arweinydd Cerddorfa Ulster cyn ymgymryd â’i swydd bresennol.
Mae’n aelod o Ensemble Gaudier ac fe’i gwahoddir yn rheolaidd i gymryd rhan fel gwestai mewn amrywiaeth eang o ensembles a gwyliau cerddoriaeth siambr. Mae hi wedi perfformio’n rheolaidd yn y Seminar Cerddoriaeth Siambr Agored i Gerddorion Rhyngwladol yn Prussia Cove ers 1986.
Mae galw mawr amdani fel athro ac mae’n cyfrannu’n frwd fel noddwr i ‘Making Music, Changing Lives’, elusen yng Nghaerdydd sy’n ceisio trawsnewid bywydau plant drwy gerddoriaeth a’r cyfle i ddysgu offerynnau.
Mae’n Gymrawd gyda’r Academi Gerdd Frenhinol a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Alice Neary soddgrwth

Lun: James Fear
Lun: James Fear
Mae gan Alice Neary yrfa berfformio llawn amrywiaeth fel cerddor siambr, unawdydd a phrif chwaraewr soddgrwth BBC NOW. Mae ei pherfformiadau concerto diweddar yn cynnwys gweithiau gan Honegger a Cheryl Frances-Hoade gyda BBC NOW.
Roedd hi’n aelod o’r Gould Piano Trio rhwng 2001 a 2018; gydag uchafbwyntiau’n cynnwys trios piano Beethoven, Schubert a Dvořák yn eu cyfanrwydd yn Neuadd Wigmore, comisiynu gweithiau newydd gan Syr James MacMillan a Mark Simpson, teithiau rheolaidd yn yr Unol Daleithiau a rhyddhau dros 25 o CDs.
Mae wedi ymddangos fel offerynnwr gwadd ar y soddgrwth gyda nifer o grwpiau, gan gynnwys y Nash Ensemble, Ensemble 360 a’r pedwarawdau Endellion, Elias, Bingham a Heath. Mae’n cydweithio â’r pianyddion Viv McLean, Benjamin Frith, Robin Green a Daniel Tong. Mae hefyd yn ymwelydd rheolaidd â’r Seminar Cerddorion Rhyngwladol yn Prussia Cove. Ym mis Ionawr, cymerodd ran mewn taith o’r UDA gyda cherddorion Gŵyl Gerddoriaeth Marlbo. O ran y cynlluniau sydd ganddi ar y gweill mae ymddangosiadau yng ngwyliau Marlboro, North Norfolk, North York Moors and Hellens yn ogystal â chyngerdd hanner canmlwyddiant IMS yn Neuadd Wigmore.
Astudiodd gyda Ralph Kirshbaum yn yr RNCM ac fel ysgolhaig Fulbright gyda Timothy Eddy yn Stonybrook, Unol Daleithiau America. Mae’n diwtor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle dyfarnwyd Cymrodoriaeth iddi yn 2015. Mae’n chwarae soddgrwth gan Alessandro Gagliano o 1710.
Philippe Schartz utgorn

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae’r gerddorfa yn llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes.
Mae’r gerddorfa’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales.
Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.
Yn ystod y cyfyngiadau symud diweddar, mae BBC NOW wedi parhau i recordio a ffilmio y tu ôl i ddrysau caeedig yn Neuadd Hoddinott y BBC ac mae wedi cynhyrchu fideos, traciau sain a chyngherddau digidol wythnosol sydd wedi cael eu gweld gan 14 miliwn o bobl ar draws y byd, gan gynnwys fideo hynod boblogaidd o drac sain Doctor Who. Mae’r cynlluniau ar gyfer y gerddorfa’n cynnwys cyngherddau a digwyddiadau sy’n cael eu ffrydio’n fyw, teithiau i wahanol gymunedau ledled Cymru a chynlluniau addysg a datblygu cymunedol i gynnwys pawb yn y gwaith o greu cerddoriaeth. I gael gwybod mwy, ewch
i bbc.co.uk/bbcnow.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae’r gerddorfa yn llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes.
Mae’r gerddorfa’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales.
Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.
Yn ystod y cyfyngiadau symud diweddar, mae BBC NOW wedi parhau i recordio a ffilmio y tu ôl i ddrysau caeedig yn Neuadd Hoddinott y BBC ac mae wedi cynhyrchu fideos, traciau sain a chyngherddau digidol wythnosol sydd wedi cael eu gweld gan 14 miliwn o bobl ar draws y byd, gan gynnwys fideo hynod boblogaidd o drac sain Doctor Who. Mae’r cynlluniau ar gyfer y gerddorfa’n cynnwys cyngherddau a digwyddiadau sy’n cael eu ffrydio’n fyw, teithiau i wahanol gymunedau ledled Cymru a chynlluniau addysg a datblygu cymunedol i gynnwys pawb yn y gwaith o greu cerddoriaeth. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield Blaenwr
Nick Whiting Blaenwr Cyswllt
Martin Gwilym-Jones †
Gwenllian Hâf MacDonald
Suzanne Casey
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Chu-yu Joe Yang
Anna Cleworth
Robert Bird
Richard Newington
Gary George-Veale
Zhivko Georgiev
Cathy Fox
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ilhem Ben Khalfa
Sheila Smith
Katherine Miller
Robyn Bell
Beverley Wescott **
Michael Topping
Sellena Leony
Jane Sinclair
Joseph Williams
Fiolâu
Alex Thorndike
Peter Taylor
James Drummond
Ania Leadbeater
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Dáire Roberts
Sharada Mack
Soddgrythau
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Raphael Lang
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Alistair Howes
Kathryn Graham
Sarah Berger
Basau Dwbl
Christopher Wescott
Richard Gibbons
David Daly
Julian Walters
Elen Roberts
Ayse Osman
Ffliwt
Matthew Featherstone *
John Hall
Fiona Slominska
Piccolos
Matthew Featherstone
John Hall
Fiona Slominska
Ffliwt Alto
Matthew Featherstone
Fiona Slominska
Oboau
Steve Hudson *
Anna Seaton
Sarah-Jayne Porsmoguer
Cor anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †
Clarinétau
Fraser Langton ‡
Will White
Lenny Sayers
Clarinét E meddalnod
Will White
Clarinét Bas
Lenny Sayers †
Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Patrick Bolton
David Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
William Haskins
Craig Macdonald
Tom Taffinder
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Chris Evans
Corey Morris
Angela Whelan
Trombonau
Donal Bannister *
Simon Baker
Ruth Mullins
Dafydd Thomas
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Phil Girling
Phil Hughes
Andrea Porter
Y delyn
Valerie Aldrich-Smith †
Synthesizers
Catherine Roe Williams
Chris Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Gweinyddwr y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-rediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorth-wyydd Darlledu Emily Preston **
Pennaeth Marchnata a Chynulleid-faoedd Sassy Hicks +
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Uwch Oruchwyliwr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

