

Ychydig o Ganu Nosweithiol
Nos Iau 16/5/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Stephen McNeff
The Celestial Stranger cyd-gomisiwn gan y BBC: première byd c20’
Gabriel Fauré
Pelléas et Mélisande – cyfres18’
EGWYL: 20 munud
Arnold Schoenberg
Verklärte Nacht (fersiwn1943)30’
Yn anffodus, mae’r arweinydd a hysbysebwyd, sef Joana Carneiro, wedi gorfod tynnu’n ôl o’r cyngerdd hwn. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Jac van Steen am gamu i’r adwy ar fyr rybudd.
Joana Carneiroarweinydd
Gavan Ring tenor

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol ar y rhaglen Classical Live ac yn cael ei ffilmio i’w ryddhau yn y dyfodol yng Nghyfres Cyngherddau Digidol Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad

Llun: Kirsten McTernan
Llun: Kirsten McTernan
Croeso i’r cyngerdd heno, ac mae’n bleser gennym groesawu cyn Brif Arweinydd Gwadd BBC NOW, Jac van Steen, yn ôl.
Mae’r rhaglen yn dechrau gyda’r perfformiad cyntaf erioed o The Celestial Stranger gan Stephen McNeff, cylch o ganeuon sy’n cyfuno testunau gan Dylan Thomas, Walt Whitman a Thomas Traherne, y cyfrinydd o’r 17eg ganrif.Rydyn ni'n falch iawn o gael croesawu’r tenor Gavan Ring atom i'w berfformio.
Mae elfen lenyddol hefyd yn sail i’r darnau sy’n weddill heno. Fe wnaeth y ddrama Pelléas et Mélisande gan yr awdur Symbolaidd Maurice Maeterlinck ennyn edmygedd cyfansoddwyr mor amrywiol â Debussy a Sibelius; roedd Fauré yn edmygwr hefyd, ac ysgrifennodd y gerddoriaeth achlysurol ar gyfer perfformiad cyntaf y ddrama yn Llundain. O hyn, lluniodd gyfres sy’n canolbwyntio ar yr arwres drasig Mélisande, gyda cherddoriaeth sydd, yn ei thro, yn hyfryd o ddisglair ac yn wylofus dawel.
Yn 1899, flwyddyn yn unig ar ôl cyfres Fauré, cyfansoddodd y Schoenberg ifanc Verklärte Nacht, chwechawd llinynnol hyfryd a ysbrydolwyd gan gerdd yr un mor angerddol gan Richard Dehmel. Mae’r fersiwn llinynnol a glywn heno’n cynyddu’r emosiwn ymhellach fyth, i greu effaith hynod o synhwyrus.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Stephen McNeff (ganed 1951)
The Celestial Stranger(2023)
Cyd-gomisiwn gan y BBC: première byd

1 The Celestial Stranger
2 On Leaping Over the Moon
3 As the Time Draws Nigh
4 The Hand that Signed the Paper
5 Farewell to Thee
Gavan Ring tenor
Yr hyn a ysbrydolodd The Celestial Stranger oedd ailddarganfod testunau yn 1997 o waith y clerigwr a’r cyfrinydd o’r 17eg ganrif Thomas Traherne yn llyfrgell Palas Lambeth yn Llundain. Yn y rhain, mae Traherne yn dychmygu unigolyn o blaned arall yn darganfod y ddaear ac yn cael ei swyno gan ei harddwch: ‘Y seren fach hon sydd mor eang ac mor llawn dirgelwch!’. Yn y cylch hwn o ganeuon, mae ein Dieithryn yn mynd ymlaen i ryfeddu at ryfeddodau naturiol ac yn adrodd sut mae ei frawd (neu ei brawd) yn dychmygu, wrth neidio dros nant yng ngolau’r lleuad, ei fod yn syrthio i fyd arall ac yn ‘llamu dros y lleuad’. Gan ddefnyddio beirdd eraill fel Walt Whitman a Dylan Thomas, mae’r cylch yn creu arc naratif eang. Yn ‘As the Time Draws Nigh’ gan Whitman, tynnir sylw’r Dieithryn at beryglon diwydiannu rhyfelgar cymdeithas, ac mae ofn proffwydol am drefn dotalitaraidd yn cael ei fynegi yn ‘The Hand that Signed the Paper’ gan Thomas. Gan ddeall amherffeithrwydd y byd, mae ein teithiwr yn ymadael yn anfoddog yn y bumed gân – i ddod yn ôl rhyw ddydd efallai.
Nodyn y rhaglen © Stephen McNeff
Testun
1 The Celestial Stranger
Had a man been always in one of the stars,
Or confined to the body of the flaming sun,
Or surrounded with nothing but pure ether,
At vast and prodigious distances from the Earth,
Acquainted with nothing but the azure sky and the face of heaven,
Little could he dream of any treasures hidden in that azure veil afar off.
Should he let down on a sudden and see the sea,
And the effects of those influences he never dreamed of … Such strange kind of creatures,
Such mysteries and varieties,
Such never heard-of colours,
Such a new and lively green in the meadows,
Such odoriferous and fragrant flowers,
Such reviving and refreshing winds …
It would make him cry out:
This little star so wide and so full of mysteries!
So capacious and full of delight when we draw near!
All its treasures laugh and sing!
Who would have hoped for,
Who would have expected such enjoyments?
Verily, this star is a nest of angels!
Thomas Traherne (1636/7–74), addaswyd o Lawysgrif Lambeth
2 On Leaping Over the Moon
I saw new Worlds beneath the Water lie,
New People; yea, another Sky
And sun, which seen by Day
Might things more clear display.
Just such another
Of late my Brother
Did in his Travel see, and saw by Night,
A much more strange and wondrous Sight:
As he went tripping o’er the King’s high-way,
A little pearly river lay
O’er which, without a wing
Or Oar, he dar’d to swim,
Swim through the air
On body fair;
He would not trust Icarian wings
Lest they should prove deceitful things;
For had he fall’n, it had been wondrous high,
Not from, but from above, the sky:
He might have dropt through that thin element
Into a fathomless descent;
Unto the nether sky
That did beneath him lie,
And there might tell
What wonders dwell
On earth above.
Yet doth he briskly run,
And bold the danger overcome;
Who, as he leapt, with joy related soon
How happy he o’er-leapt the Moon.
Thomas Traherne, addaswyd o Lawysgrif Burney
3 As the Time Draws Nigh
I see men marching and countermarching by swift millions;
I see the frontiers and boundaries of the old aristocracies broken;
I see the landmarks of European kings removed;
I see this day the People beginning their landmarks; I see all others give way.
Never were such sharp questions ask’d as this day;
Never was average man, his soul, more energetic, more like a God;
Lo! how he urges and urges, leaving the masses no rest;
His daring foot is on land and sea everywhere – he colonises the Pacific, the archipelagoes;
With the steam-ship, the electric telegraph, the newspaper, I see, he interlinks all geography;
With these, the wholesale engines of war,
What whispers are these, O lands, running ahead of you, passing under the seas?
Are all nations communing? is there going to be but one heart to the globe?
The earth, restive, confronts a new era, perhaps a general divine war!
No-one knows what will happen next – such portents fill the days and nights;
Years prophetical! the space ahead as I walk, is full of phantoms.
Walt Whitman (1819–92), addaswyd o ‘Years of the Modern’
4 The Hand that Signed the Paper
The hand that signed the paper felled a city;
Five sovereign fingers taxed the breath,
Doubled the globe of dead and halved a country;
These five kings did a king to death.
The mighty hand leads to a sloping shoulder,
The fingers’ joints are cramped with chalk;
A goose’s quill has put an end to murder
That put an end to talk.
The hand that signed the treaty bred a fever,
And famine grew, and locusts came;
Great is the hand that holds dominion over
Man by a scribbled name.
The five kings count the dead but do not soften
The crusted wound nor stroke the brow;
A hand rules pity as a hand rules heaven;
Hands have no tears to flow.
Dylan Thomas (1914–53); o ‘The Poems of Dylan Thomas’ (© 1939) gan New Directions Publishing Corp. Ailargraffwyd drwy ganiatâd New Directions Publishing Corp.
5 Farewell to Thee
Farewell to thee, farewell to thee
Thou charming one who dwells in shaded bowers.
One fond embrace ere I depart
Until we meet again.
Proudly swept the rain by the cliffs
As on it glided through the trees
Still following ever the blossom,
The flowers of the vale.
Sweet memories come back to me,
Sweet memories of the past
Dearest one, thou art mine own
From thee, true love shall ne’er depart
Farewell to thee, farewell to thee
Thou charming one who dwells in shaded bowers.
One fond embrace ere I depart
Until we meet again.
Proudly swept the rain by the cliffs
As on it glided through the trees;
And there the birds of love to dwell
And sip the honey from your lips.
Farewell to thee, farewell to thee
Thou charming one who dwells in shaded bowers.
One fond embrace ere I depart
Until we meet again.
Addaswyd o Lili’uokalani (1838–1917)
EGWYL: 20 munud
Gabriel Fauré(1845–1924)
Pelléas et Mélisande – cyfres(1898, adf. 1901)

1 Prélude (Quasi adagio)
2 La Fileuse (Andantino quasi allegretto)
3 Sicilienne (Allegro molto moderato)
4 La mort de Mélisande (Molto adagio)
Pan berfformiwyd drama Maurice Maeterlinck, Pelléas et Mélisande, am y tro cyntaf erioed yn y Bouffes-Parisiens ar 17 Mai 1893, cafodd ei chanmol yn gampwaith gan y Symbolyddion llenyddol elitaidd. Cafodd y ddrama ei darllen yn eang – nid yn unig yn Ffrainc – gan yr avant-garde ifanc, ac yn fuan iawn denodd sylw cyfansoddwyr a ysbrydolwyd gan ei stori dywyll am gariad trychinebus a theimlad o ddirgelwch tebyg i freuddwyd wedi’i lapio mewn byd arallfydol diamser. Er bod Debussy wedi sicrhau’r hawliau cerddorol ar gyfer ei opera o’r un teitl, ysgrifennodd Schoenberg, Sibelius, Mel Bonis a’r cyfansoddwr o’r Alban, William Wallace, i gyd weithiau yn seiliedig ar Pelléas et Mélisande. Roedd cyfraniad Fauré o ganlyniad i wahoddiad gan Maeterlinck i ysgrifennu cerddoriaeth achlysurol ar gyfer perfformiad cyntaf y ddrama yn Llundain. Gan gyfansoddi’r gwaith yn gyflym mewn ychydig dros fis o amser, aeth ati i ailgylchu dau o’i weithiau cynharach (darnau ar gyfer y soddgrwth a’r ffliwt), a chafodd gymorth ei ffrind Charles Koechlin ar gyfer y trefniant cerddorfaol. Fauré oedd yn arwain y perfformiad cyntaf yn Llundain yn y Prince of Wales Theatre ar 21 Mehefin 1898, a fynychwyd hefyd gan Winnaretta Singer, y Dywysoges de Polignac, yr oedd y gwaith wedi’i gyflwyno iddi.
Dair blynedd yn ddiweddarach, penderfynodd Fauré lunio cyfres gyngerdd a dewisodd bedwar symudiad a oedd yn canolbwyntio ar y Mélisande ddiniwed ond trasig,y tro hwn yn cwblhau’r trefniant cerddorfaol ei hun. Camille Chevillard oedd yn arwain y perfformiad cyntaf yn y Concerts Lamoureux ym Mharis ar 2 Chwefror 1901. Mae’r ‘Preliwd’ dyner a llawn mynegiant, yn darlunio’r Mélisande dlos fel y gwelwyd hi gyntaf gan Golaud, llinynnau angerddol yn awgrymu ei ddyhead a’i awydd, utgyrn yn seinio yn creu argraff o’r goedwig, y ffliwt a’r chwythbrennau yn awgrymu Mélisande ei hun. Yr ail symudiad yw cân nyddu Mélisande: gydag alaw ysgafn ar yr obo yn cael ei hategu gan dripledi hanner cwafer cyflym ar y llinynnau sy’n cynrychioli olwyn y droell yn troi. Mae’r ‘Sicilienne’ felodaidd (a ychwanegwyd at y gyfres ychydig flynyddoedd ar ôl premiere 1901) yn enghraifft berffaith o gyfansoddiadau Fauré.Ymhell iawn o natur dynghedus drama Maeterlinck, mae’r alaw syml ond hudolus yn un o’r unawdau ffliwt mwyaf adnabyddus yn y repertoire, ac mae’r rhannau arpeggio ar y delyn yn darparu cyfeiliant telynegol. Mae’r ffliwt hefyd yn ymddangos yn y symudiad olaf, galarnad ar farwolaeth Mélisande; yr unig adran yn y cywair lleddf, mae ei naws yn amlwg yn drasig ond hefyd yn dyner a galarnadol. Cafodd y symudiad olaf hwn ei berfformio yn ystod gwasanaeth angladdol Fauré ei hun yn yr Église de la Madeleine.
Nodyn y rhaglen © Caroline Rae
Arnold Schoenberg (1874–1951)
Verklärte Nacht (1899, trefn. 1917, adf. 1943)

Efallai fod Arnold Schoenberg yn enwog fel chwyldroadwr cerddorol, yn cael ei ddyrchafu neu ei ddifrïo bob yn ail am ei gerddoriaeth anghyseiniol arloesol a gyfansoddodd yn ystod ei aeddfedrwydd. Fodd bynnag, daw VerklärteNacht o ddechrau ei yrfa, ac mae ei hiaith gerddorol yn agosach o lawer at arddull Wagner a Mahler nag arddull ddiweddarach a mwy heriol Schoenberg.
Cyfansoddodd VerklärteNacht mewn dim ond tair wythnos ym mis Medi 1899, mewn ffrwydrad o ysbrydoliaeth. Cafodd ei sgorio’n wreiddiol ar gyfer chwechawd llinynnol – ac, mewn gwirionedd, mae’n cynrychioli’r darn cyntaf o gerddoriaeth siambr a luniwyd yn benodol fel ‘cerdd symffonig’, er bod Schoenberg ei hun wedi trawsnewid y darn yn fersiwn ar gyfer cerddorfa linynnol yn 1917, sef yr un a glywir heno, gan ei ddiwygio ymhellach yn 1943. Daeth ei ysbrydoliaeth o gerdd gyfriniol (a rhannol hunangofiannol) gan yr awdur o’r Almaen, Richard Dehmel – a hefyd o angerdd cynyddol Schoenberg ei hun am Mathilde von Zemlinsky (chwaer i’w athro, Alexander von Zemlinsky), y byddai’n mynd ymlaen i’w phriodi.
Yn wir, mae angerdd rhyfeddol yn llifo drwy stori’r gerdd a’r gerddoriaeth hynod ramantus a synhwyrus y mae Schoenberg wedi’i chreu i gyfleu hynny. Mae dyn a menyw yn cerdded drwy goedwig ar noson olau leuad. Mae hi’n datgelu ei bod hi’n feichiog gyda phlentyn dyn arall. Mae’n mynd yn gythryblus, ond yn y pen draw mae’n derbyn y plentyn ac yn maddau i’r fenyw, ac felly’n gweddnewid y noson a’u perthynas o dristwch ac anobaith i obaith a llawenydd.
Yn unol â hynny, mae cerddoriaeth Schoenberg yn ymchwyddo o dywyllwch trist i olau disglair, ac mae ei dapestri cywrain o alawon yn trawsnewid ac yn uno mewn cyfuniadau newydd sy’n adlewyrchu’r emosiynau sy’n newid rhwng y cwpl. Mae’r cyfansoddwr yn cadw’n agos at stori cerdd Dehmel, er – fel y mae’n cyfaddef yn ei ddisgrifiad ei hun o’r darn yn 1950 – mae’r gwaith wedi’i greu mewn termau cerddorol yn unig, sy’n caniatáu i’r gwrandäwr anghofio am ei ysbrydoliaeth farddonol yn llwyr.
Mae thema agoriadol ddwys ddisgynedig yn disgrifio camau trwm y cwpl ar eu taith gerdded gyda’r nos, yn ogystal â theimlad o bryder am y newyddion a fydd yn cael ei ddatgan cyn bo hir. Mae’r fenyw yn cyfaddef i gerddoriaeth gyflymach o anesmwythyd ac anghyseinedd cynyddol, ond mae’r dyn yn cynnig sicrwydd mewn alaw araf, debyg i emyn ar y soddgrythau, ac mae deuawd ddiweddarach ar gyfer unawd ffidil a soddgrwth yn cyfleu cariad newydd y cwpl yn erbyn golau’r lleuad sy’n fflachio. Ar ôl mynegiant angerddol o gariad a dealltwriaeth, mae’r darn yn gorffen yn bwyllog ac yn dawel dan awyr serog ddisglair.
Nodyn y rhaglen © David Kettle
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant …
Cyngerdd Cloi’r Tymor
Nos Iau 6/6/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Nos Wener 7/6/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Dvořák Concerto i’r Soddgrwth
Jennifer Higdon Blue Cathedral
Dawson Negro Folk Symphony
Ryan Bancroft arweinydd
Alisa Weilerstein soddgrwth
YSBRYDOLEDIG | EICONIG | AMRYWIOL
Mae Alisa Weilerstein, y chwaraewr soddgrwth byd-enwog, yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng nghyngerdd olaf y tymor ar gyfer un o'r concerti i'r soddgrwth mwyaf poblogaidd. Wrth i Dvořák edrych yn ôl ar ei fywyd llawn mwynhad ond hefyd yn llawn colled, disgleiria ei arbenigedd alawol, ei egni bywiog a’i gariad at gerddoriaeth gwerin ei famwlad. Yn yr un modd, mae dyfeisiadau cerddorol greddfol, offeryniaeth gyfoethog, ac archwiliad o’r gadeirlan ‘fel drws symbolaidd i mewn ac allan o’r byd hwn’ yn llwyfan ar gyfer awyrgylch breuddwydiol, synfyfyriol, arallfydol yn Blue Cathedral gan Jennifer Higdon.
Dychmygwch hyn: mis Tachwedd 1934, yn Neuadd Carnegie a symffoni newydd sbon yn cael ei chyflwyno, gan dderbyn cymeradwyaeth frwd gan y gynulleidfa a’r cyfansoddwr diymhongar yn ymgrymu. William Dawson oedd y cyfansoddwr hwnnw, dyn Americanaidd-Affricanaidd 35 oed, a oedd wedi ffoi o’i gartref yn 13 oed er mwyn gwireddu ei freuddwyd o astudio cerddoriaeth; a’r darn oedd y Negro Folk Symphony. Aeth Dawson ati i gyfansoddi cerddoriaeth synhwyrus a gonest a oedd ‘yn amlwg ddim yn waith gan ddyn gwyn’ a chafodd ei ysbrydoli gan gerddoriaeth werin negroaidd yr oedd wedi’i dysgu pan oedd yn blentyn bach. Pwy well i arwain y symffoni hon, sydd wedi’i chreu’n fedrus ac sy’n llawn emosiwn, na’n Prif Arweinydd Ryan Bancroft?
Gergely Madaras yn arwain …
Nos Wener 21/06/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Debussy Prélude à l’après-midi d’un faune
Debussy Nocturnes
Christian Mason Thaleia première y DU
Franck Psyché – ‘Les jardins d’Éros’
Gergely Madaras arweinydd
Noémi Győri ffliwt
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
HUDOLUS | DARLUNIADOL | LLESMEIRIOL
Yn Prélude à l’après-midi d’un faune gan Debussy – darn arloesol sy’n portreadu breuddwydion a chyfarfyddiadau ffawn mytholegol – mae amwysedd byrlymus a harmonïau tryloyw yn disgleirio yn y darn, gyda’i alawon sy’n dwyn ysbrydoliaeth gan y Dwyrain, ei naws gynnil a’i brydferthwch pur. Yna, byddwn yn archwilio golau a chysgod yn Nocturnes Debussy, sydd wedi’u hysbrydoli gan gyfres o baentiadau Whistler o’r un enw. Ceir alaw befriog ysgafn yn ‘Nuages’, y cyntaf o'r Nocturnes, ac yna egni rhythmig sy’n dyrnu mynd yn ‘Fêtes’, tra mae’r defnydd o leisiau menywod yn ‘Sirènes’ yn dod ag ansawdd iasol i’r gwead.
Mae Thaleia, concerto Louis Mason i’r ffliwt, yn defnyddio’r offeryn unawdol mewn arddull persain rhydd, sy’n adleisio L’après-midi gan Debussy. Fe’i hysgrifennwyd ar gyfer Noémi Győri fel rhan o’i phrosiect ‘Contemplation of the Nymph’, lle mae nodweddion Thaleia, afondduwies Etna, yn ganolog. Rydyn ni’n falch iawn bod Noémi yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r arweinydd Gergely Madaras ar gyfer y perfformiad cyntaf erioed o’r gwaith hwn yn y DU. Byddwn ni’n gorffen y cyngerdd hudolus hwn gyda ‘Les jardins d’Eros’ o Psyché, cathl symffonig Franck, sy’n gosod geiriau gan Sicard a Louis de Fourcaud ac sydd wedi’u hysbrydoli gan Metamorphoses gan Apuleius.
Bywgraffiadau
Jac van Steenarweinydd

Llun: Simon van Boxtel
Llun: Simon van Boxtel
Ganed Jac van Steen yn yr Iseldiroedd ac astudiodd y grefft o arwain cerddorfeydd a chorau yn Ysgol Gerddoriaeth Brabants.
Ers iddo gymryd rhan yn Seminar Arweinyddion y BBC yn 1985, mae wedi cael gyrfa brysur iawn. Mae wedi gweithio â cherddorfeydd blaenllaw yn Ewrop, gan ddal swyddi fel Cyfarwyddwr Cerdd a Phrif Arweinydd Ballet Cenedlaethol yr Iseldiroedd, cerddorfeydd Bochum a Nuremberg, Weimar Staatskapelle, Cerddorfa Ffilharmonig ac Opera Dortmund a Musikkollegium Winterthur, yn ogystal â bod yn Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Ar hyn o bryd mae’n Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Ulster a Cherddorfa Symffoni Prag.
Mae galw mawr amdano hefyd yn y tŷ opera, gan ymddangos am y tro cyntaf gyda Vienna Volksoper ac Opera North yn 2013 ac Opera Garsington yn 2015, a meithrin perthynas agos â’r tri. Yn ystod tymor 2018-19, ymddangosodd am y tro cyntaf gydag Opera Oslo.
Mae’n ymweld â’r DU yn rheolaidd, gan arwain y Philharmonia, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol. Ymysg ei uchafbwyntiau eraill mae ymddangos am y tro cyntaf yn Tokyo gyda Cherddorfa New Japan Philharmonic a Cherddorfa Ffilharmonig Malaysia.
Mae ei gatalog recordiadau sylweddol yn cynnwys amrywiaeth eang o wahanol fathau o repertoire gyda gwahanol gerddorfeydd.
Yn ogystal â’i weithgareddau fel arweinydd, mae hefyd yn ymroddedig i addysgu, ac ef yw’r Athro Arwain yn y Conservatoire Brenhinol yn yr Hague. Mae hefyd yn gweithio’n rheolaidd â Choleg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr, yr Academi Frenhinol a’r Coleg Cerdd Brenhinol. Yn 2018, arweiniodd arddangosfa rhaglen Artistiaid Ifanc Jette Parker yr Opera Brenhinol.
Gavan Ring tenor

Llun: Frances Marshall
Llun: Frances Marshall
Astudiodd Gavan Ring Addysg a Cherddoriaeth yng Ngholeg St Patrick, Dulyn, ac yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig yn Academi Gerdd Frenhinol Iwerddon, fe’i hyfforddwyd yn y Stiwdio Opera Genedlaethol yn Llundain fel bariton. Roedd yn Artist Ifanc Jerwood yng Ngŵyl Opera Glyndebourne yn 2012, yn enillydd yr Ail Wobr yng Nghystadleuaeth Ryngwladol y Gân Sefydliad Neuadd Wigmore/Kohn yn 2013, ac enillodd Wobr Cân Gerddorfaol Peter Hulsen y Southbank Sinfonia cyn iddo newid i fod yn denor yn ystod tymor 2019/20.
Yn y tymor canlynol, ymddangosodd am y tro cyntaf yn La Monnaie, Brwsel, fel Don Gaspar mewn perfformiad cyngerdd o La favorite gan Donizetti. Yn ystod tymor 2021/22, bu’n canu Jaquino (Fidelio) ar gyfer Taith Glyndebourne; TheLighthouse Peter Maxwell Davies ar gyfer Opera Cenedlaethol Iwerddon; a Ferrando (Cosi fan tutte) ar gyfer Opera Garsington. Mae uchafbwyntiau’r tymor diwethaf yn cynnwys Gastone (La traviata) ar gyfer Opera North; Messiah ym Monte Carlo; cyngerdd Dydd Calan gyda Cherddorfa Symffoni Genedlaethol RTÉ; ac mae’n dychwelyd i La Monnaie a Gŵyl Glyndebourne (lle’r ymddangosodd am y tro cyntaf fel tenor). Mae ei gynlluniau presennol ac yn y dyfodol yn cynnwys ei ymddangosiad cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Lloegr, rôl yr Efengylydd yn y St Matthew Passion gan Bach gyda Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Iwerddon; a dychwelyd i La Monnaie ar gyfer Fanny and Alexander gan Mikael Karlsson.
Mae uchafbwyntiau diweddar eraill yn ei wlad enedigol, Iwerddon, wedi cynnwys White King (Alice’s Adventures Under Ground gan Gerald Barry) ar gyfer Opera Cenedlaethol Iwerddon; Frederic (The Pirates of Penzance) yn Nhŷ Opera Cork; a Juan (Don Quichotte gan Massenet) ac Azim (The Veiled Prophet gan Stanford) ar gyfer Wexford Festival Opera.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn cael cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.
Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.
Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.
Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau ac yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.
I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Nick Whiting blaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Judith Templeman
Terry Porteus
Suzanne Casey
Žanete Uškāne
Ruth Heney
Carmel Barber
Anna Cleworth
Emilie Godden
Kerry Gordon-Smith
Gary George-Veale
Jane Sinclair
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Laura Embrey
Ros Butler
Sheila Smith
Roussanka Karatchivieva
Joseph Williams
Vickie Ringguth
Michael Topping
Ilze Abola
Katherine Miller
Lydia Caines
Beverley Wescott
Fiolâu
Matt Maguire ‡
Alex Thorndike #
Peter Taylor
Anna Growns
Robert Gibbons
Lowri Taffinder
Natalia Solis Paredes
Charlotte Limbe
Mabon Rhyd
Sharada Mack
Soddgrythau
Alice Neary *
Raphael Lang
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Keith Hewitt
Alistair Howes
Basau Dwbl
Margarida Castro ‡
Daniel Vassallo
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Antonia Bakewell
Telmo Martins
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis
Piccolo
Lindsey Ellis †
Oboau
Alison Teale ‡
Sam Baxter
Amy McKean †
Cor anglais
Amy McKean †
Clarinetau
Nick Carpenter *
Will White
Lenny Sayers
Clarinét Bas
Lenny Sayers †
Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Jo Shewan
David Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
John Davy
Meilyr Hughes
Ed Griffiths
Tom Taffinder
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †
Trombonau
Donal Bannister*
Jake Durham
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Christina Slominska
Offerynnau Taro
Phil Hughes
Harry Lovell-Jones
Y Delyn
Sally Pryce
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa penodiad ar waith
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentis BBC Cymru Jordan Woodley
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications
