Symphonic Dances
Nos Iau 11/5/23, 7.30pm
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd
Nos Wener 12/5/23, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Anna Clyne
Masquerade 5’
Pyotr Ilyich Tchaikovsky
Concerto i’r Piano Rhif 1 32’
EGWYL: 20 munud
Sergey Rachmaninov
Symphonic Dances 35’
Daniel Ciobanu piano
James Feddeckarweinydd

Bydd y cyngerdd yng Nghaerdydd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu ar Radio 3 in Concert yn 17 May. Byddant ar gael am 30 diwrnod ar ôl eu darlledu ar BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnig podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth i chi. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.
Teyrnged i Nicola
Mae’r cyngerdd heno yn deyrnged i ddathlu bywyd a gyrfa ein ffrind a’n cydweithiwr annwyl, Nicola Heywood Thomas (Mai 1955–Ebrill 2023).
Bu Nicola yn cyflwyno ar ran Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ers 1994, ac roedd ei llais nodedig a’i hwyneb cyfarwydd wedi croesawu miliynau o bobl i’n cyngherddau a’n darllediadau dros y blynyddoedd.
Roedd ei gwybodaeth a’i harddull unigryw yn rhoi gwefr, yn addysgu, ac yn diddanu cynulleidfaoedd a gwrandawyr ledled y byd ar BBC Radio 3, Radio Wales a BBC Sounds.
Roedd hi’n berson cyfeillgar, creadigol ac angerddol, a bydd colled fawr ar ei hôl.

Croeso

Ar gyfer y cyngerdd heno, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r arweinydd James Feddeck, sy’n ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW.
Cawn ddechrau bywiog i’r noson gyda Masquerade gan Anna Clyne, darn a ysgrifennwyd yn wreiddiol ar gyfer Noson Olaf y Proms; efallai ei fod yn defnyddio ysbrydoliaeth o’r gorffennol ond mae ei sain yn gwbl gyfoes.
Gwaith cyflawn olaf Rachmaninov, Symphonic Dances, fydd yn cloi’r noson. Mae’n llawn lliwiau offerynnol pryfoclyd sy’n nodweddiadol o waith y cyfansoddwr, wedi’u hategu gan asbri rhythmig anorchfygol; nid yw’n syndod bod cynlluniau wedi bod ar droed i greu bale ohono.
Rhwng y ddau o’r rhain, cawn glywed Concerto Cyntaf Tchaikovsky i’r Piano, gwaith sy’n cyfuno meistrolaeth offerynnol a llond gwlad o berseinedd. Yr unawdydd heno yw’r pianydd dawnus o Rwmania, Daniel Ciobanu.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Anna Clyne (ganed 1980)
Masquerade (2013)

Cyfansoddwyd Masquerade ar gyfer Noson Olaf y Proms ac mae wedi’i gyflwyno ‘i’r Promwyr’ gan Anna. Mae hi’n ysgrifennu:
‘Mae Masquerade wedi’i ysbrydoli gan y cyngherddau promenâd gwreiddiol a gynhelid yng ngerddi pleser Llundain yng nghanol y 18fed ganrif. Yn yr un modd â Proms y BBC heddiw, roedd y cyngherddau hyn yn lle i bobl o bob cefndir fwynhau amrywiaeth eang o gerddoriaeth. Roedd mathau eraill o adloniant yn amrywio o’r gweddus i’r anweddus, gydag acrobatiaid, diddanwyr stryd egsotig, dawnswyr, tân gwyllt a dawnsiau masgiau (masquerade). Rwy’n ymddiddori yn y garwriaeth hanesyddol a chymdeithasegol rhwng cerddoriaeth a dawns. Ynghyd â gwisgoedd mygydog a lleoliadau crand, roedd dawnsiau masgiau yn creu ymdeimlad o achlysur a dathliad a oedd yn gyffrous, ond eto dan reolaeth. Dyma rwy’n gobeithio ei gyfleu yn Masquerade.'
‘Mae deunydd y gwaith yn deillio o ddwy alaw. Ar gyfer y brif thema, roeddwn i’n dychmygu corws yn croesawu’r gynulleidfa ac yn eu gwahodd i’w byd dychmygol. Alaw hen ddawns wledig a chân yfed Saesneg, “Juice of Barley”, yw’r ail thema – a ymddangosodd yn fersiwn John Playford o The English Dancing Master yn 1695.’
Nodyn y rhaglen © Anna Clyne
Gwrando Pellach: Cerddorfa Symffoni’r BBC/Marin Alsop (Avie AV2434)
Gwefan: https://www.annaclyne.com
Pyotr Ilyich Tchaikovsky (1840–93)
Concerto Rhif 1 i’r Piano yn B feddalnod leiaf, Op. 23 (1874–5, div. 1879)

1 Allegro non troppo e molto maestoso – Allegro con spirito
2 Andantino semplice – Prestissimo – Tempo I
3 Allegro con fuoco
Daniel Ciobanu piano
Dechreuodd Tchaikovsky weithio ar yr hyn a fyddai’n ffurfio ei Goncerto Cyntaf i’r Piano yn ystod hydref 1874. Fel oedd yn nodweddiadol o’i broses gyfansoddi, roedd yn drafftio’r gwaith mewn hyrddiau, gan gwyno mewn sawl llythyr i’w frawd, Modest, bod y gwaith yn ‘mynd rhagddo gyda chryn drafferth ac yn eithaf gwael … Mae’n dod yn ei flaen – ond ddim yn dda o gwbl.’ Serch hynny, erbyn dechrau’r flwyddyn newydd, roedd Tchaikovsky wedi gorffen fersiwn bras, a chwaraeodd i Nikolay Rubinstein – sef y pianydd-gyfansoddwr meistrolgar yr oedd yn gobeithio cyflwyno’r darn iddo. Roedd Rubinstein yn feirniadol iawn, a gwrthododd y cyfansoddwr clwyfedig newid yr un nodyn. Yn hytrach, anfonodd Tchaikovsky y darn at y pianydd ac arweinydd enwog, Hans von Bülow. Ymatebodd ef gyda llawer mwy o frwdfrydedd ac roedd yn hapus i’r darn gael ei gyflwyno iddo. Ym mis Hydref 1875, perfformiodd Bülow y concerto am y tro cyntaf erioed yn Boston, lle cafodd dderbyniad gorfoleddus. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, newidiodd Rubinstein ei feddwl am y darn a’i ychwanegu at ei repertoire perfformio. Ac yntau wedi cael ei gyfiawnhau, cyfaddefodd y cyfansoddwr ei fod yn ‘fodlon iawn, iawn’ â phenderfyniad Rubinstein.
Addasodd Tchaikovsky nifer o ganeuon a oedd yn bodoli’n barod yn y gerddoriaeth ar gyfer y concerto. Daw’r brif thema felodaidd yn y symudiad cyntaf o gân werin o Wcráin yr oedd Tchaikovsky yn honni iddo ei chlywed yn cael ei pherfformio gan ganwr stryd dall yn Kyiv.
Yn yr ail symudiad, defnyddiodd Tchaikovsky gytgan o vaudeville Ffrengig yr oedd ef a’i frawd wrth eu bodd yn ei ganu gyda’i gilydd ddechrau’r 1870au. Yn y diweddglo, defnyddiodd gân werin boblogaidd arall o Wcráin, yn ogystal â chân werin o Rwsia yr oedd wedi’i threfnu yn ei gasgliad o Hanner Cant o Ganeuon Gwerin Rwsiaidd yn 1869.
Mae’r alawon hyn i gyd yn gysylltiedig er gwaethaf eu gwreiddiau gwahanol, ac maent yn helpu i ddal y concerto at ei gilydd fel cyfanwaith. Ond mae Tchaikovsky yn cuddio’r cysylltiad hwn y tu ôl i ddull digymell a thelynegol, gan wneud i’r gwaith swnio fel pe bai wedi cael ei fyrfyfyrio yn hytrach na’i gynllunio’n ofalus a thrwyadl. Efallai mai’r natur rapsodïaidd hon nad oedd Rubinstein yn hoff ohoni – roedd darn a oedd yn swnio mor rhydd yn anarferol ar gyfer concerto yn y cyfnod hwn. Ac eto, mae alawon esgynnol Tchaikovsky a’i ddull sy’n debyg i ffantasia yn gwneud y darn hwn yn un o’r concerti i’r piano mwyaf poblogaidd erioed, ac yn un o ffefrynnau’r cyfansoddwr o blith ei weithiau ar gyfer yr offeryn.
Nodyn y rhaglen © Margaret Frainier
Gwrando Pellach: Martha Argerich; Berliner Philharmoniker/Claudio Abbado (DG E4498162)
Darllen Pellach: Tchaikovsky: The Man and His Music David Brown (Faber)
EGWYL: 20 munud
Sergey Rachmaninov (1873–1943)
Symphonic Dances, Op. 45 (1940)

1 Non allegro
2 Andante con moto
3 Lento assai
Symphonic Dances oedd y gwaith olaf a gwblhawyd gan Rachmaninov. Roedd wedi ffoi o Rwsia yn dilyn Chwyldro 1917, gan fyw’n ansicr rhwng y Swistir a’r Unol Daleithiau i ddechrau, cyn ymgartrefu’n barhaol yn America yn 1936, lle bu’n rhaid iddo ddibynnu ar deithiau perfformio blinderus i gefnogi ei deulu yn y lle cyntaf. Cyfaddefodd: ‘Pan adawais i Rwsia, fe adawais yr awydd i gyfansoddi ar ôl: drwy golli fy ngwlad, fe gollais i fy hun hefyd.’ Ond wnaeth hynny ddim para’n hir. A hithau’n tynnu at derfyn 1940, synnodd ei ffrind, yr arweinydd Eugene Ormandy, gyda llythyr: ‘Yr wythnos diwethaf, fe wnes i orffen darn symffonig newydd ac, yn naturiol, rydw i eisiau ei roi i chi a’ch cerddorfa yn gyntaf. Teitl y darn yw Fantastic Dances. Rwy’n dechrau ar yr offeryniaeth.’
Ailenwyd y Fantastic Dances hynny yn fuan wedyn, ac fe gafodd Rachmaninov wared ar deitlau ei symudiadau gwreiddiol hefyd – ‘Hanner Dydd’, ‘Gwyll’ a ‘Hanner Nos’ – cyn i’r Symphonic Dances gael eu perfformio am y tro cyntaf erioed gan Ormandy a Cherddorfa Philadelphia ar 3 Ionawr 1941. Yn anarferol i Rachmaninov, cerddoriaeth ddawns a geir yn y darn hwn drwyddo draw; mae ei ffocws ffyrnig ar rythm yn gwneud hynny’n glir iawn. Hwyrach fod y cyfansoddwr wedi cael ei ysbrydoli ar ôl i’r coreograffydd Michel Fokine ailddychmygu ei ddarn, Rhapsody on a Theme of Paganini, fel bale yn 1939. Trafododd y ddau ohonynt droi’r Symphonic Dances yn waith dawns: roedd Fokine yn awyddus, ond bu farw’n sydyn ym 1942 cyn y gallai’r prosiect fynd rhagddo.
Fodd bynnag, gyda’i dri symudiad sylweddol, mae’r darn hefyd yn symffoni ym mhob ystyr oni bai am ei enw – neu efallai, drwy arddangos lliwiau offerynnol unigol (o sacsoffon yn suo i seiloffon yn clinddarach), ei fod yn fwy o goncerto i gerddorfa.
Ar ben hynny, defnyddiodd Rachmaninov y Symphonic Dances i grynhoi ei lwyddiannau ei hun fel cyfansoddwr, gan ddyfynnu sawl un o’i ddarnau yn y gwaith – efallai i ffarwelio â chyfansoddi am ei fod yn tybio mai hwn fyddai ei gyfansoddiad olaf. Yn agos at ddiwedd y symudiad cyntaf dramatig, er enghraifft, mae’r llinynnau’n canu alaw debyg i lafargan Rwsiaidd dros gyfeiliant disglair ar y piano, y delyn a’r glockenspiel. Thema o Symffoni Gyntaf Rachmaninov yw hon; cyfeiriad y bwriedid iddo aros yn gyfrinach – roedd y cyfansoddwr yn credu bod sgôr y Symffoni wedi cael ei dinistrio yn dilyn y première trychinebus yn 1897.
Walts hudolus yw’r ail symudiad, sy’n cyfleu awyrgylch anesmwyth gyda’i harmonïau rhyfedd, breuddwydiol.
Mae’n ymddangos nad yw’r trydydd symudiad dramatig yn disgrifio dim llai na brwydr dynoliaeth i fyw, mewn ymladdfa rhwng plaengan Dies irae o’r Offeren Requiem Ladin, sy’n cynrychioli marwolaeth, ac alaw Rwsiaidd uniongred o Vespers gan Rachmaninov ei hun, a allai gynrychioli atgyfodiad. Mae ei rythmau anorchfygol yn cynyddu’n ddiwrthdro tuag at uchafbwynt buddugoliaethus.
Nodyn y rhaglen © David Kettle
Gwrando Pellach: Cerddorfa Symffoni Radio Bafaria/Mariss Jansons (BR Klassik 900154)
Darllen Pellach: Rachmaninoff and His World gol. Philip Ross Bullock (Univ. of Chicago Press)
Bywgraffiadau
James Feddeck arweinydd

Lun: Benjamin Ealovega
Lun: Benjamin Ealovega
James Feddeck yw Prif Arweinydd Orchestra i Pomeriggi Musicali di Milano. Ochr yn ochr â’i ymrwymiadau cerddorfaol ac operatig ym Milan y tymor hwn, mae’n dychwelyd at Orchestre National de Belgeux, Orchestre National de Lille, a’r Residentie Orkest, yn ogystal â pherfformio am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Cafodd ei eni yn Efrog Newydd ac mae wedi ymddangos yn helaeth yng Ngogledd America, gan gynnwys gyda Cherddorfa Cleveland a cherddorfeydd Symffoni Chicago, Dallas, Detroit, Montreal, Oregon, San Francisco, Seattle a Toronto. Mae hefyd wedi arwain sawl un o brif gerddorfeydd Ewrop, fel Orchestre national de France, Deutsches Symphonie-Orchester Berlin, Cerddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban, Cerddorfeydd Symffoni Barcelona, y BBC, BBC yr Alban, Dinas Birmingham a Radio Fienna, Cerddorfeydd Ffilharmonig y BBC, Helsinki, Stockholm, Warsaw a Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, yn ogystal â cherddorfeydd Staatskapelle Weimar a’r Hallé. Mae hefyd wedi cael ymweliadau llwyddiannus ag Awstralasia gyda Cherddorfa Symffoni Seland Newydd a’r Auckland Philharmonia.
Mae wedi perfformio gyda llawer o unawdwyr mwyaf blaenllaw’r byd, gan gynnwys Pierre-Laurent Aimard, Rudolf Buchbinder, Gautier Capuçon, Ellinor D’Melon, James Ehnes, Martin Fröst, Marc-André Hamelin, Gary Hoffman, Steven Isserlis, Vadym Kholodenko, Yo-Yo Ma, Truls Mørk, Midori, Daniel Müller-Schott, Javier Perianes, Fazıl Say ac Arabella Steinbacher.
Mae ei recordiadau’n cynnwys cerddoriaeth gan Georg Schumann gyda Deutsches Symphonie-Orchester Berlin a Terry Riley a Dane Rudhyar gyda Cherddorfa Cleveland a Phedwarawd Calder.
Astudiodd James Feddeck yn y Conservatoire Cerddoriaeth yn Oberlin a bu’n Arweinydd Cynorthwyol Cerddorfa Cleveland. Mae wedi ennill Gwobr Arwain Solti a Gwobr Arwain Aspen.
Daniel Ciobanu piano

Lun: Alex Coman
Lun: Alex Coman
Daeth Daniel Ciobanu, y pianydd o Rwmania, i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf yng Nghystadleuaeth Arthur Rubinstein yn Tel Aviv yn 2017, lle enillodd y Fedal Arian a Gwobr y Gynulleidfa.
Ers hynny, mae wedi ymddangos yn Carnegie Hall, Elbphilharmonie Hamburg, Gewandhaus Leipzig, Konzerthaus Berlin, St John’s yn Smith Square ac yng Ngŵyl Enescu yn Bucharest, yn ogystal â mynd ar deithiau i Japan, China, Taiwan, De Affrica a Brasil.
Mae wedi ymddangos gyda cherddorfeydd blaenllaw ym mhob cwr o’r byd, gan gynnwys Cerddorfa Zurich Tonhalle, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol a Cherddorfeydd Ffilharmonig y BBC ac Israel, Konzerthausorchester Berlin, Deutsche Kammerphilharmonie Bremen a Cherddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban. Mae hefyd wedi perfformio yng ngwyliau Schleswig-Holstein a Lucerne.
Mae wedi perfformio datganiadau mewn lleoliadau fel y Royal Festival Hall yng Nghanolfan Southbank, Konzerthaus Fienna (gyda Julian Rachlin), Gasteig Munich, Mozarteum Salzburg, Auditorium de Radio France, Salle Cortot, Teatro Massimo Palermo, Athenaeum Bucharest, Neuadd Ffilharmonig Warsaw, y Teatro Municipal yn Rio de Janeiro, Awditoriwm Bronfman yn Tel Aviv a Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Taipei.
Yn ystod tymor 2020–21, ef oedd yr Artist Preswyl cyntaf erioed gyda Cherddorfa Ffilharmonig George Enescu yn Bucharest.
Yn 2020, rhyddhaodd ei CD cyntaf, a oedd yn cynnwys gweithiau gan Prokofiev, Debussy, Liszt ac Enescu, ac fe gafodd glod mawr.
Yn 2017, sefydlodd Ŵyl Gerddoriaeth Neamt yn ei dref enedigol, Piatra Neamt yn Rwmania, digwyddiad sy’n dod â cherddoriaeth glasurol a chelfyddydau eraill at ei gilydd.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes.
Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.
Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jones is-arweinydd
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Juan Gonzalez
Ruth Heney
Gary George-Veale
Patrycja Mynarska
Jane Sinclair
Barbara Zdziarska
Amy Fletcher
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ros Butler
Sheila Smith
Katherine Miller
Beverley Wescott
Joseph Williams
Sellena Leony
Michael Topping
Lydia Caines
Vickie Ringguth
Ilze Abola
Laurence Kempton
Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Robert Gibbons
Ania Leadbeater
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Sarah Greene
Anna Growns
Soddgrythau
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Raphael Lang
Kathryn Graham
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Sarah Berger
Basau Dwbl
David Stark *
Daniel Vassallo
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Elen Roberts
Antonia Bakewell
Ffliwtiau/Piccolos
Fiona Kelly ‡
Elizabeth May
Lindsey Ellis
Oboau
Steve Hudson *
Amy Mckean †
Sarah-Jayne Porsmoguer
Cor Anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †
Clarinetau
Nick Carpenter ‡
Emily Wilson
Jennie Joy Porton
Lenny Sayers
Clarinét Bas
Lenny Sayers †
Sacsoffon
Jennie Joy Porton
Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Alex Davidson
David Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
William Haskins
Dave Ransom
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Ben Jarvis
Trombonau
Donal Bannister*
Simon Baker
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Mike Levis ‡
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Andrea Porter
Phil Hughes
Rhydian Griffiths
Y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †
Piano/Selesta
Catherine Roe Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-Rediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorth-Wyydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata a Chynulleid-Faoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruch-Wylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
Prentisiaid BBC Cymru Josh Gill, Analese Thomas-Strachan, Jordan Woodley
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

