Requiem Fauré gyda Ludovic Morlot
Nos Sadwrn 11/2/2023, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Dydd Sul 12/2/2023, 3.00pm
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Johannes Brahms
Concerto i’r Ffidil 38’
EGWYL: 20 munud
Oliver Messiaen
O sacrum convivium 4’
Gabriel Fauré
Requiem 36’
James Ehnes ffidil
Rhian Lois soprano
Neal Davies bariton-bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Ludovic Morlotarweinydd

Bydd y cyngerdd yn Abertawe’n cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Radio Cymru; bydd y cyngerdd yn Nghaerdydd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 er mwyn ei ddarlledu ar raglen Radio 3 in Concert. Bydd ar gael i’w ffrydio neu ei lwytho i lawr am 30 diwrnod drwy BBC Sounds. Mae BBC Sounds hefyd yn cynnwys podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.
Croeso

Ar gyfer cyngerdd heddiw, rydym ni’n croesawu ein corws gwych yn ôl i berfformio ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, o dan arweiniad Ludovic Morlot.
Bydd hanner cyntaf y rhaglen yn cynnwys un o’r concertos gorau i’r ffidil – a hynny gan Brahms – sy’n dilyn traddodiad Beethoven o fod yn hynod symffonig o ran tôn, gyda’r unawdydd wedi’i integreiddio’n llwyr yn y ddadl gerddorol. Bydd yr unawd yn cael ei chwarae gan y feiolinydd clodfawr o Ganada, James Ehnes.
Ar gyfer yr ail hanner corawl, byddwn ni’n troi at Ffrainc, gan ddechrau gydag O sacrum convivium, unig fotét Messiaen, sy’n llawn soniarusrwydd sy’n disgleirio ac sydd mor nodweddiadol o’i arddull. Mae Requiem ysgafn Fauré yn llawn soniarusrwydd sy’n disgleirio hefyd, ac mae’n bleser gennym groesawu’r unawdwyr Rhian Lois a Neal Davies i’w chanu.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Johannes Brahms (1833–97)
Concerto i’r Ffidil yn D fwyaf, Op. 77 (1878)

1 Allegro non troppo (cadenza: Joachim)
2 Adagio
3 Allegro giocoso, ma non troppo vivace
James Ehnes ffidil
Roedd Johannes Brahms yn ddyn ifanc 19 oed anhysbys pan gyfarfu â’r feiolinydd a’r cyfansoddwr meistrolgar o Hwngari, Joseph Joachim, a oedd eisoes yn gwneud enw da i’w hun ar draws Ewrop, er mai dim ond 21 oed oedd e. Er gwaethaf y diffyg cyfatebiaeth yn eu henwau da, daeth y ddau i edmygu ei gilydd yn fawr, yn gydweithredwyr dibynadwy ac yn ffrindiau agos. Joachim gyflwynodd Brahms i Robert a Clara Schumann mewn cyfarfod pwysig (ac nid dim ond oherwydd y byddai Brahms yn cwympo mewn cariad â Clara yn ddiweddarach). Trodd Brahms at Joachim am gyngor ar gyfansoddi. Ac, yn y pen draw, cyfansoddodd Brahms ei unig Goncerto i’r Ffidil, a hynny ar gyfer Joachim, gyda’r darn yn cael ei lywio gan arweiniad technegol ei ffrind.
Mae Brahms yn ystyried bod yr unawdydd a’r gerddorfa bron yn gyfartal, gan danseilio’r disgwyliadau bod y gerddorfa yno i ddarparu balast ar gyfer hediadau meistrolgar yr unawdydd. Ar ôl cael ei berfformio am y tro cyntaf erioed, o dan arweiniad Brahms ei hun yn Leipzig ar Ddydd Calan 1879, dywedodd y pianydd arweinydd Hans von Blow mai concerto “nid er mwyn, ond yn erbyn y ffidil” yw hwn (mae’r sylw hefyd yn cael ei briodoli i Joseph Hellmesberger, arweinydd perfformiad cyntaf y gwaith yn Fienna) – ond mae treigl amser wedi bod yn garedig i’r darn, ac mae’r concerto bellach yn rhan annatod o repertoire Rhamantaidd y feiolín.
Mae’r symudiad cyntaf enfawr yn bygwth gorlethu popeth sy’n dilyn, yn anad dim pan gaiff ei berfformio gyda’r cadenza brawychus yr ysgrifennodd Joachim ar ei gyfer (fel y clywn heddiw); ond mae Brahms yn sicrhau diweddglo meddal gydag Adagio ail symudiad sy’n tyfu o ddechrau tawel (gyda’r thema yn cael ei phwysleisio’n annisgwyl gan yr obo) i gynhesrwydd eang a hudolus. Yn llawn nodiadau dwbl a fflachiadau Sipsïaidd, mae’r Allegro sy’n dod â’r concerto i ben yn gweld Brahms yn dod mor agos ag y daeth erioed at adael fynd.
Nodyn y rhaglen © Will Fulford-Jones
Gwrando Pellach: Janine Jansen; Orchestra dell’Accademia Nazionale di Santa Cecilia/Syr Antonio Pappano (Decca 4788412)
Darllen Pellach: Brahms Malcolm MacDonald (OUP)
EGWYL: 20 munud
Olivier Messiaen (1908–92)
O sacrum convivium (1937)

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Er gwaethaf ei Gatholigiaeth ddidwyll, roedd Olivier Messiaen yn teimlo bod ei gerddoriaeth yn rhy gymhleth i’w pherfformio mewn cyd-destun litwrgaidd. Dim ond un motét y cyfansoddodd i’w ganu yn ystod yr Offeren Gatholig. Cyfansoddwyd O sacrum convivium ym 1937, a gafodd ei berfformio am y tro cyntaf ar 17 Chwefror 1938 yn Eglwys Sainte-Trinité lle’r oedd y cyfansoddwr yn organydd. Mae’r testun Lladin, o bosib gan St Thomas Aquinas, oedd yn ysbrydoliaeth i lawer o gyfansoddwyr y Dadeni, yn disgrifio llawenydd y Cymundeb Sanctaidd.
Mae’r motét byr hwn yn un o hoff gyweiriau Messsiaen – F llonnod mwyaf, a oedd yn cael ei gysylltu â ‘chariad goruwchddynol’. Cafodd ei sgorio ar gyfer côr pedwar rhan digyfeiliant, ac mae’n llawn harmonïau cromatig cyfoethog. Er bod adegau o ddwysedd angerddol, mae’r gerddoriaeth yn fyfyriol yn bennaf.
Gwrando Pellach: Côr Coleg St John, Caergrawnt/Andrew Nethsingha (Chandos CHAN10842)
Darllen Pellach: A Messiaen Companion Peter Hill (Faber)
Gabriel Fauré (1845–1924)
Requiem, Op. 48 (1887–93, trefn. 1900)

1 Introitus a Kyrie
2 Offertoire
3 Sanctus
4 Pie Jesu
5 Agnus Dei
6 Libera me
7 In Paradisum
Rhian Lois soprano
Neal Daviesbariton-bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Mae Requiem Gabriel Fauré yn un o sawl trefniant nodedig o’r 19eg ganrif yn yr Offeren Requiem. Dechreuodd y cyfansoddwr ei ysgrifennu ym 1887, o bosibl mewn ymateb i farwolaeth ei dad. Cafodd y fersiwn pum symudiad gwreiddiol ei sgorio ar gyfer côr, unawdydd soprano / trebl, organ a cherddorfa maint siambr heb offerynnau pres, chwythbrennau na ffidlau (ar wahân i un unawdydd yn y ‘Sanctus’). Cafodd y perfformiad cyntaf ei gynnal ar 16 Ionawr 1888 yn eglwys La Madeleine ym Mharis, lle roedd Fauré yn organydd. Gan nad oedd y lleoliad yn caniatáu i gantorion benywaidd berfformio yno, cafodd y sopranos eu disodli gan fechgyn yn canu trebl.
Cafodd ail fersiwn, gyda’r gerddorfa wedi’i hehangu i gynnwys offerynnau pres, ei pherfformio yn y Madeleine ar 21 Ionawr 1893. Roedd yr ail fersiwn yn cynnwys dau symudiad newydd, gydag unawdau bariton: yr ‘Offertoire’ a ‘Libera me’. Paratowyd y fersiwn cerddorfaol llawn olaf yn ystod 1899 ac 1900 ar awgrym cyhoeddwr y cyfansoddwr, Julien Hamelle, ac fe’i bwriadwyd ar gyfer cyngherddau, yn hytrach na defnydd litwrgaidd. Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf yn Lille ar 6 Mai 1900, ac yna perfformiad ym Mharis yn y Trocadéro ar 12 Gorffennaf fel rhan o’r Exposition Universelle. Roedd y ddau berfformiad yn cynnwys côr llais cymysg ac unawdydd soprano, yn unol â’r hyn a ffafriwyd gan Fauré mewn cyd-destun cyngerdd.
O ran awyrgylch, mae’r darn yn wahanol iawn i drefniannau dramatig ac angerddol trefniannau Requiem gan, er enghraifft, Hector Berlioz (1837), Giuseppe Verdi (1874) neu Antonín Dvořák (1891). Yn wahanol i’r cyfansoddwyr hyn, mae Fauré yn hepgor y ‘Dies irae’, ‘Tuba mirum’ a ‘Lacrimosa’ gyda’u gweledigaethau llwm o’r Farn Olaf, ac yn gorffen gyda’r ‘In Paradisum’ gobeithiol o Urdd y Claddu. Roedd Fauré yn agnostig, er na gollodd ei barch at grefydd erioed: credai fod y gwaith yn mynegi ei ganfyddiad o farwolaeth fel ‘gwaredigaeth hapus, dyhead at hapusrwydd uwch ben, yn hytrach nag fel profiad poenus’.
Harddwch melodig ac ataliaeth emosiynol yw prif nodweddion y Requiem. Mae nodweddion trawiadol y tri symudiad cyntaf yn cynnwys y cyd-ganu mawreddog sy’n agor yr ‘Introitus’ defodol, yr unawd bariton sy’n debyg i lafar-gân yn adran ‘Hostias’ gorfoleddus yr ‘Offertoire’, a’r ddeialog rhwng y lleisiau a’r ffidlau yn y ‘Sanctus’ breuddwydiol, gyda ffanffer gwrthgyferbyniol yr ‘Hosanna’. Mae’r ‘Pie Jesu’ yn unawd soprano hynod syml; mae’r ‘Agnus Dei’ ehangol yn cynnwys atsain byr o gychwyn y gwaith. Mae’r symudiad olaf ond un, ‘Libera me’, yn taro nodyn prin o aflonyddwch drwy ei unawd bariton trist a’i ffrwydradau corawl dramatig. Ond mae llonyddwch yn cael ei adfer yn fuan yn ‘In Paradisum’, lle mae lleisiau uchel gorfoleddus, organ, telyn a llinynnau yn creu gweledigaeth dangnefeddus o’r nefoedd.
Nodyn y rhaglen © Kate Hopkins
Gwrando Pellach: Grace Davidson; William Gaunt; Ensemble Siambr Cerddorfa Symffoni Llundain; Tenebrae/Nigel Short (LSO Live LSO0728)
Darllen Pellach: Gabriel Fauré: A Musical Life Jean-Michel Nectoux (CUP)
Bywgraffiadau
Ludovic Morlot arweinydd

Lun: Lisa-Marie Mazzucco
Lun: Lisa-Marie Mazzucco
Daeth Ludovic Morlot yn Gyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Symffoni Barcelona ym mis Medi y llynedd, a bydd yn arwain y gerddorfa am o leiaf 11 wythnos bob tymor.
Mae ei egni, rhadlonrwydd ac angerdd ar y llwyfan wedi’i wneud yn ffefryn ymhlith cynulleidfaoedd a cherddorfeydd ar hyd a lled y byd. Yn ystod ei wyth mlynedd fel Cyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Symffoni Seattle, gwthiodd ffiniau rhaglenni cyngerdd traddodiadol, gan ennill sawl Grammy.
Mae bellach yn Arweinydd Emeritws yn Seattle, ac yn 2019 fe’i penodwyd yn Artist Cyswllt Cerddorfa Ffilharmonig y BBC, gan feithrin perthynas agos â hi dros nifer o flynyddoedd. Ef oedd Cyfarwyddwr Artistig Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Tsieina (2017–21) a Phrif Arweinydd La Monnaie (2012–14).
Mae wedi arwain Cerddorfa Frenhinol Concertgebouw, a Cherddorfeydd Ffilharmonig Berlin, Tsiec, Llundain, Los Angeles ac Efrog Newydd, Cerddorfeydd Symffoni Boston a Chicago, Cerddorfa Staatskapelle Dresden a Cherddorfa Gŵyl Budapest, ymysg llawer o rai eraill. Mae hefyd wedi gwneud ymddangosiadau helaeth yn Asia ac Awstralasia, yn nodedig gyda Cherddorfa Ffilharmonig Seoul a cherddorfeydd Symffoni Melbourne ac Yuromi Nippon. Mae wedi ymddangos mewn nifer o wyliau, gan gynnwys Proms y BBC, Wien Modern, Caeredin ac Aspen.
Mae ganddo ymrwymiad cryf i gefnogi talent newydd ac mae’n arwain myfyrwyr yn rheolaidd yn Ysgol Gerddoriaeth Colburn. Yn 2021, bu’n aelod o reithgor Cystadleuaeth Piano Ryngwladol Leeds a bu’n arwain myfyrwyr yn yr Academi Frenhinol yn Llundain, Ysgol Gerddoriaeth New England yn Boston a gwnaeth ei ymweliad blynyddol â Gŵyl Aspen.
Hyfforddodd yn wreiddiol fel feiolinydd, cyn astudio arwain yn Ysgol Pierre Monteux yn yr Unol Daleithiau, yna yn Llundain yn yr Academi Frenhinol ac yna yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Mae’n Athro Cyswllt yn Ysgol Gerdd Prifysgol Washington yn Seattle ac yn Artist Gwadd yn Ysgol Gerddoriaeth Colburn yn Los Angeles.
James Ehnes ffidil

Lun: Benjamin Ealovega
Lun: Benjamin Ealovega
Mae James Ehnes wedi ennill ei le fel un o’r cerddorion mwyaf poblogaidd ar y llwyfan rhyngwladol. Mae ei gyfuniad o feistrolaeth, telynegiaeth a cherddgarwch pendant wedi arwain at ymddangosiadau rheolaidd yn neuaddau cyngerdd enwocaf y byd.
Mae uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys cyngherddau gyda Cherddorfa’r MET yn Neuadd Carnegie, Leipzig Gewandhaussorchester, Llundain, Cerddorfeydd Symffoni NHK a San Francisco a Cherddorfa Ffilharmonig Munich. Y tymor hwn, mae’n parhau fel Artist Preswyl gyda Chanolfan Gelfyddydau Genedlaethol Canada.
Ochr yn ochr â’i waith concerto, mae’n cynnal amserlen brysur o berfformio, gan ymddangos yn rheolaidd yn Neuadd Wigmore, Neuadd Carnegie, Canolfan Symffoni Chicago, Amsterdam Concertgebouw, yn ogystal ag yng ngwyliau Ravinia, Montreux, Verbier Dresden ac Aix-en-Provence. Mae’n gerddor siambr ymroddedig, ac ef yw arweinydd Pedwarawd Ehnes a Chyfarwyddwr Artistig Cymdeithas Cerddoriaeth Siambr Seattle.
Mae ganddo ddisgyddiaeth helaeth ac mae wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys dwy wobr Grammy, tair Gwobr Gramophone ac 11 Gwobr Juno. Yn 2021, cyhoeddwyd mae ef oedd derbynnydd Gwobr Artist y Flwyddyn yng Ngwobrau Gramophone, a ddathlodd ei gyfraniadau diweddaraf i’r diwydiant recordio, gan gynnwys prosiect cyfnod clo o’r enw ‘Recitals from Home’.
Dechreuodd James Ehnes astudio’r ffidil pan oedd yn bump oed, daeth o dan adain y feiolinydd nodedig o Ganada, Francis Chaplin, yn naw oed, a pherfformiodd am y tro cyntaf yn y gerddorfa yn 13 oed. Parhaodd â’i astudiaethau gyda Sally Thomas yn Ysgol Gerdd Meadowmount ac Ysgol Juilliard, gan ennill Gwobr Peter Mennin am Lwyddiant ac Arweinyddiaeth Eithriadol mewn Cerddoriaeth ar ôl iddo raddio ym 1997. Mae’n Aelod o Urdd Canada ac Urdd Manitoba, yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Canada, ac yn gymrawd anrhydeddus o’r Academi Gerdd Frenhinol, lle mae’n athro gwadd.
Mae’n chwarae Stradivarius ‘Marsick’ o 1715.
Rhian Lois soprano

Lun: Alecsandra Raluca Dragoi
Lun: Alecsandra Raluca Dragoi
Mae’r soprano o Gymru, Rhian Lois, wedi dod yn adnabyddus am ei hyblygrwydd ar draws ystod o repertoire. Y tymor hwn, bydd hi’n perfformio am y tro cyntaf fel Gretel (Hansel a Gretel) gydag Chwmni Opera Hamburg a Pamina (Die Zauberflöte) gyda Chwmni Opera Montpellier, yn ogystal â pherfformio am y tro cyntaf fel Juliette (Die tote Stadt) gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Lloegr. Mae ei huchafbwyntiau ar y llwyfan cyngerdd yn cynnwys perfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng nghyngerdd heddiw ac, ym mis Mai, yn Te Deum ac Ellegiac Ode gan Stanford.
Mae uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys Janine/Ofwarren (The Handmaid’s Tale gan Poul Ruders) i Gwmni Opera Cenedlaethol Lloegr; Angelica (Figaro Gets a Divorce gan Elena Langer) yn Theatr Magdeburg; cymeriad y Governess (The Turn of the Screw) a ffilmiwyd gan OperaGlass Works; Gretel a Musetta (La bohème) i Gwmni Opera Cenedlaethol yr Alban; Oriana (Amadigi) gyda Chwmni Opera Garsington; Jerusha (The Intelligence Park gan Gerald Barry) yn Theatr Linbury y Tŷ Opera Brenhinol; Max (Where the Wild Things Are) i Gwmni Opera Shadwell ac ym mherfformiad cyntaf y gwaith yn Rwsia, yn Theatr Mariinsky; a Nannetta (Falstaff) yng Ngŵyl y Grange, ymysg eraill.
Ar y llwyfan, mae wedi perfformio yng Ngwobrau’r Sefydliad Opera Rhyngwladol a Gŵyl Enescu.
Mae ei repertoire mewn cyngherddau yn amrywio o Handel a Mozart, drwy Mendelssohn a Brahms i Stravinsky.
Mae hi wedi graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y Coleg Cerdd Brenhinol a’r Stiwdio Opera Genedlaethol.
Neal Davies bariton-bas

Astudiodd Neal Davies yng Ngholeg y Brenin, Llundain, yr Academi Gerdd Frenhinol ac enillodd y Wobr Lieder yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 1991.
Yn y tŷ opera y tymor hwn, bydd yn chwarae rhan Zebul (Jephtha) gyda Music of the Baroque o dan y Fonesig Jane Glover; cymeriad Sergeant (The Yeomen of the Guard) gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Lloegr; a Papageno (Die Zauberflöte) gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Ar y llwyfan cyngerdd, bydd yn canu’r Meseia gyda Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Washington DC o dan Fabio Biondi; Dona nobis pacem gan Vaughan Williams i Gerddorfa Radio MDR o dan Howard Arman; Christ on the Mount of Olives gan Beethoven gyda Cherddorfa Ffilharmonig Bergen o dan arweiniad Syr Mark Elder; Ode for the Birthday of Queen Anne gan Handel gyda Bernard Labadie a Les Violons du Roy; a thaith o amgylch yr Alban yn perfformio Ddioddefaint Sant Mathew gan Bach gyda Chonsort Dunedin.
Y tymor diwethaf, dychwelodd i Opera Cenedlaethol Lloegr a recordiodd gydag Opera’r Alban. Ar y llwyfan cyngerdd, cafodd gyfle i ganu Ariodate (Serse) ar daith gyda The English Concert; The Creation gyda Cherddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban; Requiem Mozart yn Tokyo; Meseia gyda Les Violons du Roy; a thaith gyngerdd Ewropeaidd o Israel in Egypt gyda’r Freiburger Barockorchester.
Mae ei ymddangosiadau diweddar wedi cynnwys Peter Grimes gyda Cherddorfa Ffilharmonig Bergen, Theodora gydag Arcangelo yn y Konzerthaus yn Fienna, taith o Nawfed Symffoni Beethoven gyda’r Hallé, a Gŵyl Caeredin a Proms y BBC.
Mae ei ddisgyddiaeth eang wedi ennill gwobrau, gan gynnwys gwobr Gramophone, BBC Music Magazine a Grammy.
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yw un o brif gorau cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig.
Wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae’r corws, a ffurfiwyd yn 1983, yn gweithio’n rheolaidd ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â pherfformio cyngherddau ar ei ben ei hun. Mae’n cynnwys dros 150 o gantorion: cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys taith chwe-diwrnod i Rennes ar gyfer pedwar perfformiad o Requiem Mozart gyda’r Orchestre Symphonie de Bretagne, perfformiad o Ddioddefaint Sant Mathew gan Bach gyda Harry Bicket a pherfformiadau blynyddol ym Mhroms y BBC; gydag ymddangosiadau diweddar yn cynnwys A Sea Symphony gan Vaughan Williams gydag Andrew Manze, Requiem Mozart o’r cof gyda Nathalie Stutzmann ac Wythfed Symffoni Mahler dan y cyn Brif Arweinydd Thomas Søndergård.
Yn ystod y tymor hwn, bydd y corws yn perfformio Requiem Fauré a’r O sacrum convivium gan Messiaen o dan Ludovic Morlot, Offeren ‘Nelson’ Haydn o dan arweiniad Christian Curnyn ac Elegiac Ode a Te Deum gan Standord gydag Adrian Partington wrth y llyw.
Mae’r corws wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg a cherddoriaeth gyfoes ac yn 2016 rhoddodd yr ail berfformiad i’w gynnal erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl y première. Mae wedi perfformio gweithiau am y tro cyntaf erioed gan amrywiaeth eang o gyfansoddwyr, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, yn seiliedig ar eiriau Araith Malala Yousafza i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.
Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac yn ddiweddar ymddangosodd ar drac sain Paul Mealor ar gyfer Wonders of the Celtic Deep BBC Cymru.
Soprano 1
Elizabeth Aitken
Jess Baber
Eve Bennett
Anwen Boyce
Bethan M. Evans
Sally Glanfield
Claire Hardy
Vanessa John-Hall
Rebecca Jolliffe
Lucie Jones
Katherine Meredith
Rosie Moore
Maisie O’Shea
Joanna Osborn
Angharad Phillips
Elizabeth Phillips
Rhiannon Pooley
Ellen Steward
Morgan Summers
Helen Thomas
Hannah Willman
Soprano 2
Kate Bidwell
Angela Contestabile
Dee Cooke
Emily Hopkins
Rhiannon Humphreys
Victoria Illsley
Pippa Johnson
Julie Jones
Margaret Lake
Rosanna Lowe
Devon Macadam-Sutton
Lucy Paterson
Marie Quemerais
Melanie Taylor
Niamh Pragnell Toal
Katherine Woolley
Alto 1
Ceri-Ann Absalom
Nicole Dickie
Catherine Duffy
Rachel Farebrother
Kathrin Hammer
Naomi Hitchings
Emilia Hubbard
Rhian-Carys Jones
Shanta Miller
Sara Peacock
Rhian Pullen
Kate Reynolds
Amy Roberts
Elizabeth Rowland
Zozi Sookanadenchetty
Vicki Westwell
Alto 2
Alex Butler
Heledd Evans
Annette Hecht
Yvonne Higginbottom
Mattina Keith
Sian Schutz
Julie Wilcox
Sarah Willmott
Tenor 1
William Collins
Philip Holtam
Huw Llywelyn
Orlando Vas
Nicholas Willmott
Tenor 2
Mike Ennis
Roland George
Sam Proll
Richard Shearman
Richard Wilcox
Michael Willmott
Bas 1
Peter Cooke
John Davies
Billy Donaghy
James Garland
Rafael Grigoletto
David Hopkins
Emyr Wynne Jones
Geraint Jones
Lucas Maunder
Owen McCarthy
Jez Piper
Joseph Pitkethly
Miles Smith
David Stephens
Allan Waters
Daniel Williams
Bas 2
Jeffrey Davies
Stephen Hamnett
Stuart Hogg
Joseff Morris
Gareth Nixon
Mike Osborn
Nick Perfect
Roedd y rhestr o gantorion yn gywir wrth fynd i’r wasg.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes.
Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.
Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jones is-arweinydd
Cecily Ward
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Burgess
Anna Cleworth
Juan Gonzalez
Zhivko Georgiev
Zanete Uskane
Haim Choi
Gary George-Veale
Paul Mann
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ruth Heney
Ros Butler
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Sellena Leony
Lydia Caines
Claudia Fuller
Veronica Marziano
Fiolâu
Garfield Jackson ‡
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Ania Leadbeater
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Natalia Solis Paredes
Amir Liberson
Soddgrythau
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Katy Cox
Basau Dwbl
David Stark *
Danny Vassallo
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Emma Prince
Evangeline Tang
Ffliwtiau
Harry Winstanley ‡
John Hall
Oboau
Steve Hudson *
Alec Harmon
Clarinetau
Han Kim *
Lenny Sayers
Baswnau
Paul Boyes ‡
Louise Watson
Cyrn
Tim Thorpe *
Tom Taffinder
Neil Shewan †
Lucy Smith
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Trombonau
Donal Bannister *
Karapet Harutyunyan
Trombôn Bas
Darren Smith †
Timpani
Phil Hughes
Y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †
Organ
Gregory Drott
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James **
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Gweinyddwr y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-rediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks +
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
Prentisiaid Bbc Cymru Josh Gill, Analese Thomas-Strachan, Jordan Woodley
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

