Jamie Phillips sy'n arwain BBC NOW

Nos Sadwrn 6 Tachwedd 2021, 7.45pm

Grace Williams 
Penillion (17’) 

Ralph Vaughan Williams 
The Lark Ascending (13’) 

EGWYL: 20 munud

Béla Bartók 
Romanian Folk Dances (13’) 

Carl Nielsen 
Symffoni Rhif 6, ‘Sinfonia Semplice’ (31’) 


Madeleine Mitchell ffidil

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Jamie Phillips arweinydd

Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Radio Cymru a’i recordio i’w ddarlledu yn y dyfodol ar raglen Afternoon Concert BBC Radio 3. Wedi hynny bydd ar gael i’w ffrydio neu ei lwytho i lawr am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, lle ceir podlediadau ac cherddoriaeth amrywiol. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau i ddod.

Mae ail ran y cyngerdd hefyd yn cael ei ffilmio i’w ryddhau yn y dyfodol yng nghyfres gyngherddau digidol BBC NOW.

Cyflwyniad

Croeso i’r cyngerdd heno yn Neuadd Hoddinott y BBC, yr ail o ddau pan yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC y mae’r arweinydd Jamie Phillips a’r feiolinydd Madeleine Mitchell sydd heno yn perfformio’r darn hudolus gan Vaughan Williams The Lark Ascending

Mae caneuon gwerin yn rhoi ysbrydoliaeth amrywiol i ddau o’r darnau ar y rhaglen – Penillion Grace Williams, sy’n cymryd genre cân fyrfyfyr Gymreig draddodiadol ac yn ei ail-greu ar gyfer cerddorfa, ac mae Romanian Dances Bartók yn tynnu ar gerddoriaeth werin Dwyrain Ewrop i greu cerddoriaeth fywiog.

I ddiweddu, symffoni olaf Carl Nielsen nad yw ei theitl Sinfonia semplice (Symffoni Syml) – yn rhoi dim arwydd inni o’r cyfoeth dyfeisiadau a geir ynddi.

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Grace Williams (1906–77)

Penillion (1955) 

1 Moderato cantando
2 Allegro con fuoco 
3 Andante con tristeza
4 Allegro agitato

Mae penillion traddodiadol yn cynnwys penillion byrfyfyr Cymraeg, a genir fel arfer i gyfeiliant y delyn. Mae Grace Williams yn archwilio ysbryd y genre yn ei darn cerddorfaol, a ysgrifennwyd ar gyfer Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru, yn hytrach na dim ond yn defnyddio alawon Cymreig traddodiadol i greu ‘lliw lleol’ swynol. Yn wir, nid oes yr un o’r melodïau yn y gwaith pedwar symudiad hynod hwn yn ganeuon gwerin – fe wnaeth Williams eu cyfansoddi nhw i gyd ei hun. Roedd dylanwad ei hathro Ralph Vaughan Williams yn bwysig yma. Roedd ef yn gasglwr caneuon gwerin arloesol ac mae ei waith cynharach yn aml yn cynnwys themâu sydd naill ai’n draddodiadol neu sy’n swnio fel y gallent fod felly. Ond gyda threigl amser, dyfnhaodd ei ddealltwriaeth, fel nad cymaint yr alawon eu hunain ond y ffordd roeddent wedi tyfu a datblygu – yr ‘amrywiadau’ a ddeilliodd ohonynt – a adawodd eu hôl yn nyfnderoedd ei gerddoriaeth. 

Mae arddull gwreiddiol tebyg i’w gael ym Mhenillion Grace Williams: yn y symudiad cyntaf a’r trydydd yn benodol, mae’n gwau melodïau lled-fyrfyfyr o amgylch cyfeiliant syml ei rhythm, sy’n aml wedi’i liwio gan y delyn. Yn ddyfeisgar, mae’n creu’r effaith bod y llinellau melodig hyn yn llifo’n rhydd, neu o leiaf yn lled-ddi-gyswllt oddi wrth y cyfeiliant – sy’n effaith dra wahanol i’r hyn y byddech fel arfer yn ei disgwyl yng ngherddoriaeth glasurol y gorllewin. Mae’r ddau symudiad telynegol myfyriol hyn yn cyferbynnu â’r ail symudiad ‘rhyfelgar’ (ystyr con fuoco yw ‘â thân’) a cherddoriaeth ddawns hoenus y finale agitato (‘cythryblys’) – er bod hon hyd yn oed yn marw allan at y diwedd. Ceir elfen o brudd-der dwfn, cyfoethog yn y Penillion, gan ddwyn i gof nid yn unig rai o ganeuon gwerin mwyaf ingol y wlad, ond hefyd yr emyn-donau lleddf-gywair Cymreig, megis ‘Iesu! Cyfaill f’enaid cu’. Os mai dyma yw’r hyn a alwai Vaughan Williams yn ‘gerddoriaeth genedlaethol’, mae’n hynny mewn ffyrdd dwfn ac amlweddog – mewn ffyrdd sy’n gallu siarad y tu hwnt i ffiniau cenedlaethol.

Gwrando Pellach: Y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol/Charles Groves (Lyrita SRCD323)

Darllen Pellach: Lutyens, Maconchy, Williams and Twentieth-Century British Music: A Blest Trio of Sirens Rhiannon Mathias (Routledge)

Ralph Vaughan Williams (1872–1958)

The Lark Ascending (1914, Diw. 1920) 

Madeleine Mitchell ffidil

Atgof godidog, tyner ei naws o gân yr ehedydd, ac o’r wlad y mae’n codi fry uwch ei phen, a’r caneuon gwerin a’r cymunedau gwerinol a oedd unwaith wrth wraidd diwylliant gwledydd Ynysoedd Prydain – hiraeth bugeiliol pur bid siŵr, atgof arlliwiedig o baradwys gwledig diniwed na fu erioed mewn gwirionedd? Ond fel casglwr caneuon gwerin sy’n gogwyddo i’r chwith, roedd gan Vaughan Williams brofiad personol o’r bywyd gwledig ac fe wyddai am ei elfennau tywyllach. Yn nes at y pwynt, pan ysgrifennodd The Lark Ascending yn 1914, roedd ei wlad ar drothwy rhyfel trychinebus, rhyfel yr oedd ei gyfaill agos Gustav Holst eisoes yn ei ragweld yn ei symudiad dychrynllyd ‘Mars’, yn The Planets. Erbyn perfformiad cyntaf The Lark, yn gyntaf mewn fersiwn ar gyfer y piano yn 1920, ac yna gyda cherddorfa lawn yn 1921, roedd Vaughan Williams wedi profi erchylltra’r rhyfel hwnnw’n llawn fel swyddog meddygol yn y ffosydd.

Pa mor berthnasol yw hyn i’r gerddoriaeth? I rai, mae The Lark Ascending yn llawenydd ehedog pur; ond i eraill mae rhywbeth poenus o ingol amdani hefyd – fel petai’r cyfansoddwr yn boenus o ymwybodol o ba mor aruthrol o fregus yw popeth y mae’n ei ddarlunio: y bywyd gwledig a fyddai’n fuan yn ddim ond yn atgof, byddai ei ddynion ifanc yn gelain cyn bo hir, a’r aderyn ei hun – yn rhydd, yn ecstatig, ond yn diflannu am byth yn y diwedd. Ai dathliad, ynteu marwnad yw hon?

Gwrando Pellach: James Ehnes; Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl/Andrew Manze (Onyx ONYX4212)

Darllen Pellach: Vaughan Williams: Composer, Radical, Patriot: a Biography Keith Alldritt (Robert Hale)

Gwefan:
https://rvwsociety.com


EGWYL: 20 munud

Béla Bartók (1881–1945)

Romanian Folk Dances (1915, Trefn. 1917) 

1 Joc cu bâtă [Stick Dance]
2 Brâul
3 Pe loc [In One Spot]
4 Buciumeana [Dance of Buchum]
5 Poargă românească [Romanian Polka]
6 Mărunţel [Fast Dance]

Mewn cerddoriaeth, mae moderniaeth yr 20fed ganrif wedi tueddu i gael ei phortreadu fel ffenomen drefol, sy’n gynnyrch dinasoedd mawr, swnllyd, ysgubol ond cyffrous yn hytrach na chefn gwlad tawel, traddodiadol ei ffordd. Ond fe wnaeth un o arloeswyr cerddorol eithriadol y ganrif, Béla Bartók, ganfod yr ysbrydoliaeth i’w gamau beiddgar ymlaen yng ngherddoriaeth werin nwyfus, gwefreiddiol o ‘naturiol’ ei famwlad, Hwngari, a gwledydd y Balcanau i’r de. 

Gall rhai o’r darnau cerddoriaeth a greodd o’r ffynonellau cyffrous hyn ddal fod yn heriol i wrandawyr hyd yn oed heddiw, ond mae gweithiau fel ei Romanian Folks Dances (1915) wedi dod yn ffefrynnau pendant. Er bod yr alawon yn yr achos hwn i gyd yn draddodiadol, mae gosodiadau Bartók yn esgor ar rywfaint o naws cryf y gwreiddiol mewn ffyrdd na allai trawsgrifiadau ‘unionsyth’ byth wneud. Cyfansoddodd Bartók y dawnsiau hyn fel unawdau piano mewn dull digon syml i chwaraewyr ifanc cymwys allu eu chwarae, ond nid dyma ddiwedd y stori: fe wnaeth ei feiolinydd-gyfaill Zoltán Székely ei drefniant ei hun ar gyfer y ffidil a’r piano a, ddwy flynedd ar ôl eu cwblhau, fe wnaeth Bartók ei hun ailwampio’r Dances ar gyfer cerddorfa fechan – y fersiwn a glywn ni heno. 

Gwrando Pellach: Cerddorfa Gŵyl Budapest/Iván Fischer (Philips 4761799)

Darllen Pellach:Béla Bartók David Cooper (Yale UP)

Carl Nielsen (1865–1931)

Symffoni Rhif 6, ‘Sinfonia Semplice’ (1924–6)

1 Tempo giusto
2 Humoreske: Allegretto 
3 Proposta seria: Adagio
4 Tema con variazioni: Allegro – Allegretto un poco

Dechreuodd Carl Nielsen weithio ar ei symffoni olaf yn ystod haf 1924, mewn tref lan y môr o’r enw Skagen yng ngogledd Denmarc. Cyhoeddodd y byddai’n ‘wahanol ei naws i’m gwaith arall: yn fwy cyfareddol, llyfn’. Ceir ynddi flas ar gymeriad sgyrsiol braf y Pumawd Chwyth: ‘Rwy’n meddwl drwy’r offerynnau – fel petawn wedi ymlithro i mewn iddynt’. Teitl y symffoni fyddai, Sinfonia semplice (‘Symffoni Syml’), sy’n adlewyrchu ei ‘chymeriad cwbl eidylig’. 

Ond gwahanol iawn oedd hi yn y pendraw. Ai twyllo ei hun oedd Nielsen? Bu llawer o boen yn ei fywyd yn y gorffennol agos: yn gorfforol mewn cyfres o drawiadau ar y galon a oedd wedi dwyn ei gryfder oddi arno’n raddol; yn feddyliol yn dilyn chwalfa ei briodas a’i gredoau fel cenedlaetholwr-dyneiddiwr yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n ymddangos bod agoriad y symffoni, gyda chlychau llon y glockenspiel a’r brif thema werinol sionc, yn glynu wrth gynllun cychwynnol Nielsen; ond buan iawn y daw’r nodau o ofid i’r clyw: prociadau bychain ar yr offerynnau chwyth a llinynnol a llinellau ffidil disgynnol galarus wrth i’r glockenspiel geisio ailgychwyn y thema sionc. Mae’r pryder yn cynyddu drwy’r symudiad cyntaf, nes i drympedi, trombonau a’r tiwba bentyrru mewn drwy ffigurau llinynnol gwyllt, gan gyrraedd uchafbwynt croch ffyrnig. Ymhen amser daw’r symudiad i ben mewn ymostyngiad trist – neu benbleth o bosibl?

Mae’r ‘Humoreske’ sy’n dilyn yn wrthgyferbyniad rhyfedd: dawnsiau pyped herciog ar yn ail â phyliau gwatwarus ar drombôn unigol. Yna daw’r ‘Proposta seria’ (‘Datganiad difrifol’). Mae’n ‘ddifrifol’ yn bendant, ond mae’n enigmataidd hefyd: mae ffigurau llinynnol trasig aruchel yn cyferbynnu ag ymdroelli diobaith ar ffidlau mud ac wedyn yr offerynnau chwyth. Cawn dawelwch o fath; cyn i rialtwch gwyllt y finale ddechrau: caiff thema baswnau hanner gwerinol, hanner coeglyd ei thrin i galeidosgop o amrywiadau gwallgof, sy’n fanig un funud, yn gwbl ddigalon y funud nesaf. Mae’r amrywiad tua’r diwedd i’r tiwba, y drwm bas a’r seiloffon yn teimlo fel gweledigaeth o’r hyn y gwnaeth Nielsen ei hun ei alw yn ‘farwolaeth esgyrnaidd’. ‘Ond rwyf eisiau herio marwolaeth’, meddai Nielsen wrth ei ffrind. Nid symffoni syml mohoni’n siŵr, ond rhywsut mae naws hiwmor yn goroesi – drwodd hyd at nodyn olaf un y symffoni.

Nodiadau’r rhaglen © Stephen Johnson

Gwrando Pellach: Cerddorfa Symffoni Radio Denmarc/Herbert Blomstedt (Warner Classics 5008292)

Darllen Pellach:Carl Nielsen: Symphonist Robert Simpson (Kahn & Averill)

Gwefan:
http://www.carlnielsen.dk/gb/

Bywgraffiadau

Jamie Phillips arweinydd

Lun: Sim Canetty-Clarke

Lun: Sim Canetty-Clarke

Mae galw mawr am Jamie Phillips fel arweinydd gwadd, ac yn ddiweddar bu’n arwain cerddorfeydd Ffilharmonig Philharmonia, Arnhem, Llundain, Oslo, y Royal a De’r Iseldiroedd, Cerddorfeydd Symffoni Antwerp, Odense a Radio Cenedlaethol Gwlad Pwyl, Cerddorfa Tonkünstler Fienna, Cerddorfeydd Siambr Lausanne a Munich, Camerata Salzburg a’r Orchestre National d’Île-de-France.

Mae ganddo gysylltiad agos â’r Hallé: yn dilyn ei benodiad fel Arweinydd Cynorthwyol (20 oed), creodd y gerddorfa y teitl Arweinydd Cyswllt ar ei gyfer, ac mae’n dychwelyd i arwain cyngherddau tanysgrifio ym mis Mai. Mae uchafbwyntiau eraill y tymor hwn yn cynnwys ymgysylltu â Cherddorfa Symffoni Bournemouth, cerddorfeydd Ffilharmonig Radio’r Almaen, Gogledd Orllewin yr Almaen, y Royal a Württemberg a cherddorfa Opera Glyndebourne.

Mae ei repertoire yn amrywio o’r cyfnod Baróc i’r presennol, ac mae ei recordiadau’n cynnwys gweithiau gan Tarik O’Regan a Helen Grime; y llynedd rhyddhaodd ddisg o 11 o weithiau newydd wedi eu hysbrydoli gan Amrywiadau Goldberg y cyfansoddwr Bach.

Pan oedd yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr, cyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Cystadleuaeth Besançon 2011, a daeth yn ail yng Ngwobrau Arweinyddion Ifanc Gŵyl Nestlé Salzburg 2012. Yn 2016, cafodd Gymrodoriaeth Dudamel gan Gerddorfa Ffilharmonig Los Angeles.


Madeleine Mitchell ffidil

Mae Madeleine Mitchell wedi ymddangos fel unawdydd a cherddor siambr mewn tua 50 o wledydd mewn amrywiaeth eang o repertoire. 

Mae’r prif leoliadau y mae wedi perfformio ynddynt yn cynnwys Canolfan Lincoln yn Efrog Newydd, Neuadd Wigmore a Chanolfan y South Bank yn Llundain, Canolfan Seoul ar gyfer y Celfyddydau a Thŷ Opera Sydney. Mae hi wedi ymddangos gyda cherddorfeydd blaenllaw, gan gynnwys y gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol a cherddorfa Ffilharmonig St Petersburg, Cerddorfa Symffoni Radio y Weriniaeth Tsiec ac ensembles y BBC. Mae ei huchafbwyntiau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn cynnwys taith i Japan a dychwelyd i Unol Daleithiau America. 

Mae ei disgograffi enwog yn cynnwys gweithiau a ysgrifennwyd ar ei chyfer gan gyfansoddwyr fel Guto Puw, Syr James MacMillan a Howard Blake. Yn ddiweddar, cyhoeddodd ddisg o gerddoriaeth siambr Grace WiIliams, sydd wedi cael derbyniad gwresog. 

Yn 1997 creodd ŵyl y Ffidil Goch dan nawdd Yehudi Menuhin, y dathliad rhyngwladol cyntaf i archwilio’r ffidl ar draws y celfyddydau, ac a gynhaliwyd ledled Caerdydd. 

Eleni derbyniodd wobr gan Gronfa Fenter y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol.  

BBC National Orchestra of Wales

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae’r gerddorfa yn llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes.

Mae’r gerddorfa’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales.

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Yn ystod y cyfyngiadau symud diweddar, mae BBC NOW wedi parhau i recordio a ffilmio y tu ôl i ddrysau caeedig yn Neuadd Hoddinott y BBC ac mae wedi cynhyrchu fideos, traciau sain a chyngherddau digidol wythnosol sydd wedi cael eu gweld gan 14 miliwn o bobl ar draws y byd, gan gynnwys fideo hynod boblogaidd o drac sain Doctor Who. Mae’r cynlluniau ar gyfer y gerddorfa’n cynnwys cyngherddau a digwyddiadau sy’n cael eu ffrydio’n fyw, teithiau i wahanol gymunedau ledled Cymru a chynlluniau addysg a datblygu cymunedol i gynnwys pawb yn y gwaith o greu cerddoriaeth. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield Leader Blaenwr
Martin Gwilym-Jones †
Gwenllian Haf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Anna Cleworth
Carmel Barber
Robert Bird
Juan Gonzalez
Anna Szabo
Richard Newington
Gary George-Veale

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Jane Sinclair #
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott **
Sellena Leony
Elizabeth Whittam

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Ania Leadbeater
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Nancy Johnson

Soddgrythau
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Jessica Feaver **
Alistair Howes
Rachel Ford
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Ben Burnley
Christopher Wescott
Richard Gibbons

Ffliwt
Matthew Featherstone *

Ffliwt/Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean

Obo/cor anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †

Clarinetau
Maura Marinucci ‡
Lenny Sayers + **

Baswnau
David Buckland
Joanna Shewan

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
William Haskins
Tom Taffinder

Utgyrn
Andy Everton †
Emily Ashby

Trombonau
Donal Bannister*
Jake Durham

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden † **

Timpani
Christina Slominska ‡

Offerynnau Taro
Mark Walker †
Phil Huhes
Rhydian Griffiths
Graham Bradley

Y Delyn
Valerie Aldrich- Smith † 


* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr
Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-rediadau Kevin Myers
Gweinyddwr y Gerddorfa Rhonwen Jones **
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorth-wyydd Darlledu Emily Preston **
Pennaeth Marchnata a Chynulleid-faoedd Sassy Hicks
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +, Caroline Richards **
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey
Rheolwr y Corws a Chydlynydd Allgymorth Osian Rowlands **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications