Dathlu’r Nadolig
Nos Fercher 15 Rhagfyr 2021, 7.30pm
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd
Nos Iau 16 Rhagfyr 2021, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Nigel Hess A Christmas Overture
Prokofiev Lieutenant Kijé Suite: Troika
Shane, Trefn. Dunk Do You Hear What I Hear?
Caroline Sheen
Loesser, Trefn. Dunk What are you doing New Year’s Eve?
Caroline Sheen
Tchaikovsky The Nutcracker Suite: Dance of the Sugar-Plum Fairy; Dance of the Mirlitons; Trepak
Schubert, Trefn. P. Hope Ave Maria
Trystan Llŷr Griffiths
Adam, Trefn. P. Hope O Holy Night
Trystan Llŷr Griffiths
Adam Saunders Fairytale Sleighride
EGWYL: 20 munud
Coleridge-Taylor Christmas Overture
Rimsky-Korsakov The Snow Maiden: Dance Of The Tumblers
Ryan Davies, Trefn. Howard Nadolig? Pwy a ŵyr!
Trystan Llŷr Griffiths
Kent, Trefn. Howard I’ll Be Home for Christmas
Trystan Llŷr Griffiths
Alan Silvestri, Trefn. Brubaker The Polar Express: Concert Suite
Tormé, Trefn. Dunk The Christmas Song
Caroline Sheen
Stanley/Taylor/Brooks, Trefn. Dunk The Man with the Bag
Caroline Sheen
Leroy Anderson Sleigh Ride
Trefn. Gareth Glyn Cyd-ganu Caneuon Nadolig
Elin Llwyd Cyflwynydd
Caroline Sheen Canwr
Trystan Llŷr Griffiths Tenor
Grant Llewellyn Arweinydd

Croeso
Croeso i gyngerdd Dathlu’r Nadolig gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Rydyn ni’n falch o fod yn ôl eto eleni gyda detholiad o ddanteithion cerddorol yr ŵyl i chi, sydd bellach wedi ennill ei blwyf yn ein calendr Nadolig. Yn ymuno â ni mae’r actores enwog a’r gantores Caroline Sheen a’r tenor anrhydeddus Trystan Llŷr Griffiths ochr yn ochr â’r cyflwynydd Elin Llwyd a ffefryn BBC NOW, Grant Llewellyn.
Dymunwn Nadolig llawen a heddychlon iawn i chi, ac edrychwn ymlaen at eich gweld unwaith eto yn ein cyngherddau yng Nghaerdydd ac Abertawe yn 2022.
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Nodiadau Rhaglen

A Christmas Overture Nigel Hess
Mae A Christmas Overture yn ein hatgoffa ni beth yw ystyr y Nadolig.
Mae cyfres o garolau traddodiadol yn plethu eu ffordd drwy’r gerddorfa
– faint allwch chi eu hadnabod?
Lieutenant Kijé Suite: Troika Prokofiev
Ym 1934 cyfansoddodd Prokofiev gerddoriaeth i gyd-fynd â ffilm am filwr dychmygol, yr Is-gapten Kijé, a ddyfeisiwyd gan ei gyd-swyddogion fel bwch dihangol. Mae’r Troika yn gyfeiliant i daith dros gefn gwlad rhewllyd Rwsia mewn sled tri cheffyl, gyda’r clychau ar eu harneisiau yn tincial yn llawen.
Do You Hear What I Hear? Shane, arr. Dunk
Caroline Sheen
Er nad yw’n crybwyll ei enw, mae’r gân Do you hear what I hear?, a gyfansoddwyd gan Gloria Shayne, gyda geiriau gan Noël Regney, yn adrodd fersiwn ychydig yn wahanol o stori geni Iesu Grist. Mae’n dechrau’n ysgafn – ond wrth i’r gân fynd yn ei blaen, mae’r drwm yn dod yn fwy amlwg, ac mae’r teimlad o orymdaith yn gryfach. Efallai fod hynny am iddi gael ei chreu ym mis Hydref 1962 yn erbyn cefndir Argyfwng Taflegrau Ciwba, pan ddaeth y byd yn agos iawn at drothwy rhyfel niwclear. Gwerthodd y recordiad cyntaf, gan The Harry Simeone Corale, chwarter miliwn o gopïau y Nadolig hwnnw, a’r flwyddyn ganlynol, rhoddodd Bing Crosby ei dro ei hun ar y gân, yn ôl pob tebyg.
What are you doing New Year’s Eve? Loesser, arr. Dunk
Caroline Sheen
Mae Frank Loesser yn cael ei adnabod orau fel cyfansoddwr sioeau fel Guys and Dolls ond yn 1947 cyfansoddodd What are you doing New Year’s Eve? fel cân unigol. Wrth gwrs, mae fel arfer yn cael ei pherfformio adeg y Nadolig, ond roedd merch Loesser yn ei gofio’n mynd yn flin bob amser wrth glywed y gân yn cael ei chanu dros yr ŵyl. Fe esboniodd ‘Mae’r canwr, sydd wirioneddol mewn cariad, yn gwneud ymrwymiad (byrbwyll o bosib) ymhell i’r dyfodol,’. Er hynny, roedd yn llwyddiant dros y Nadolig i The Orioles yn 1949, ac ers hynny mae ei hoptimistiaeth ysgafn wedi apelio’n fawr i gantorion fel Ella Fitzgerald, Donny Osmond, Rod Stewart ac Azealia Banks.
The Nutcracker Suite: Dance of the Sugar-plum Fairy; Dance of the Mirlitons; Trepak Tchaikovsky
Mae bale Tchaikovsky, sef The Nutcracker, yn stori hudol am Noswyl Nadolig lle caiff anrhegion eu dosbarthu mewn parti mawreddog. Mae merch ifanc, Clara, yn cael dol nutcracker bren gan ei hewythr dirgel. Y noson honno mae’r nutcracker yn dod yn fyw, yn trawsnewid ei hun yn dywysog, ac yn mynd â Clara ar daith freuddwydiol drwy wlad ryfeddol aeafol i Deyrnas y Melysion, lle mae cyfres o ddawnsfeydd lliwgar yn ei difyrru. Mae The Dance of the Sugar-Plum Fairy yn cael ei thynerwch tinciog gan y selesta; mae Dance of the Mirlitons yn hyfryd, gyda dwy ffliwt; ac yn olaf, mae’r Trepak yn Ddawns Gocsacaidd fywiog o Rwsia.
Ave Maria Schubert, arr. P. Hope
Trystan Llŷr Griffiths
Yn wreiddiol, roedd cân Schubert, sef Ave Maria, yn osodiad o eiriau o gerdd epig Walter Scott, sef The Lady of the Lake. Mae ei halaw hiraethus a harmonïau’r cyfeiliant piano sy’n debyg i delyn ac sy’n symud yn gyson wedi sicrhau ei safle fel un o’i ganeuon mwyaf poblogaidd – hyd yn oed os yw’n cael ei chanu’n aml fel ‘emyn’ gyda geiriau Lladin yn hytrach na fel cân seciwlar yn ôl y bwriad.
O Holy Night Adam, arr. P. Hope
Trystan Llŷr Griffiths
Mae Adolphe Adam yn fwyaf adnabyddus am ei fale Giselle ac am O Holy Night, sef emyn Nadolig i eiriau gan fasnachwr gwin a bardd amatur, Placide Cappeau. Gyda’i ddarn piano byrlymus a’i alaw sy’n datblygu’n ddiymdrech, mae’n hawdd deall pam ei fod wedi dod mor boblogaidd. Hwn hefyd oedd y carol cyntaf i gael ei glywed ar y radio – pan gafodd ei ddarlledu ar Noswyl Nadolig 1906 o Massachusetts i longau ar y môr gan ddyfeisiwr o Ganada o’r enw Reginald Fessende.
Fairytale Sleighride Adam Saunders
Yn Fairytale Sleighride, gan y cyfansoddwr cyfoes Adam Saunders, mae’n hawdd dychmygu’r ceffylau’n trotian a chlychau’r car llusg yn canu. Mae hi bron yn swnio fel trac sain i ffilm Disney – gallwch chi ei dychmygu ar gyfer yr olygfa yn Beauty and the Beast lle mae’r ddau gymeriad yn chwarae yn yr eira – a dyw hynny ddim yn syndod oherwydd mae Adam yn ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer llawer o ffilmiau a rhaglenni teledu. Ac o ran gwneud iddi swnio fel chwedl hud a lledrith, mae hynny’n rhannol oherwydd ei fod yn aml yn cadw’r offerynnau i chwarae’n uchel; gwrandewch ar y chwythbrennau bywiog a’r llinynnau uchel sionc. Yna, allwch chi glywed yr offeryn sy’n clychseinio? Dyna’r offeryn ar y llwyfan sy’n edrych fel piano ond selesta yw hwn mewn gwirionedd, sef yr offeryn rydyn ni newydd ei glywed yn y darn The Dance of the Sugar-Plum Fairy.
EGWYL: 20 munud
Christmas Overture Coleridge-Taylor
Er iddo gael ei fagu mewn tlodi, llwyddodd Samuel Coleridge-Taylor – yn fab i Ŵr o Orllewin Affrica a menyw o Loegr – i sicrhau llwyddiant cerddorol nodedig. Pan oedd yn dal i fod yn fyfyriwr, cafodd ei ddisgrifio gan y ffigur Edward Elgar fel ‘y cymrawd mwyaf clyfar ymysg y dynion iau’. Un o’i ddarnau enwocaf yw The Song of Hiawatha, ond ysgrifennodd gerddoriaeth hefyd ar gyfer sawl drama, gan gynnwys The Forest of Wild Thyme, ‘A Tale for Children under Ninety’ yn y pennill gan Alfred Noyes. Ymysg y gerddoriaeth mae’r gân syfrdanol Christmas Overture, wedi’i threfnu gan yr arweinydd band a’r cyfansoddwr cerddoriaeth ysgafn Sydney Baynes. Mae pedair cloch Nadoligaidd yn cyhoeddi’r orymdaith o alawon ac nid oes angen cyflwyno’r caneuon dan sylw.
The Snow Maiden: Dance of the Tumblers Rimsky-Korsakov
Mae’r gaeaf wedi rhoi sylw hir i gyfansoddwyr o Rwsia – nid oes syndod gan fod cymaint o’r wlad mor oer! Mae chwedloniaeth liwgar Rwsia hefyd wedi rhoi digon o ysbrydoliaeth, mewn gwaith fel opera Rimsky-Korsakov, The Snow Maiden. Y forwyn sydd dan sylw yn y teitl yw plentyn natur, merch y Gwanwyn a’r Barrug. Yn y darn Dance of the Tumblers, mae’r Tsar yn cael ei ddifyrru wrth iddo oruchwylio cystadleuaeth lle mae dynion yn cystadlu i fod yn ŵr i’r Forwyn Eira.
Nadolig? Pwy a ŵyr? Ryan Davies, arr. Howard
Trystan Llŷr Griffiths
Nadolig? Pwy a ŵyr? Daeth Ryan Davies yn un o ddigrifwyr mwyaf poblogaidd Cymru fel un hanner Ryan a Ronnie, sef act gyda Ronnie Williams a ddaeth yn enwog iawn yn y wlad. Yn ystod gyrfa fer – bu farw ym 1977, yn ddim ond 40 oed – roedd hefyd yn weithgar fel canwr, cyfansoddwr caneuon a phianydd, ac ymhlith ei ganeuon mwyaf poblogaidd mae’r gân deimladwy Nadolig? Pwy a ŵyr!, a ddaeth yn rhan amhrisiadwy o Nadolig Cymru yn fuan iawn.
I’ll be home for Christmas Kent, arr. Howard
Trystan Llŷr Griffiths
Mae I’ll be Home for Christmas, gyda geiriau gan Kim Gannon, yn cael ei chanu o safbwynt milwr sydd wedi’i leoli oddi cartref yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dyma gân arall a gafodd ei gwneud yn enwog gan Bing Crosby. Aeth ati i’w recordio yn 1943 ac yn fuan wedyn daeth mor boblogaidd, dywedwyd bod Crosby wedi gwneud mwy i forâl milwrol nag unrhyw un arall yn America yn ystod y cyfnod hwnnw. Cafodd y gân ei gwahardd rhag cael ei darlledu yn y DU gan y BBC, a oedd â safbwynt croes – sy’n anodd ei chanmol yn awr efallai – y gallai fod yn niweidiol i forâl milwyr Prydain!
The Polar Express: Concert suite Alan Silvestri,arr. Brubaker
Mae ffilm Robert Zemeckis, sef The Polar Express, yn animeiddiad cyfrifiadurol a grëwyd yn 2004. Mae wedi’i gosod ar drên yn llawn o blant sy’n teithio i Begwn y Gogledd i ymweld â Sion Corn wrth iddo baratoi ar gyfer y Nadolig. Mae’n dipyn o glasur erbyn hyn ond cafwyd adolygiadau cymysg ar y dechrau, er i’r brif gân Believe, sy’n cael ei chanu gan Josh Groban, gael ei nomineiddio am Oscar y flwyddyn ganlynol. Mae rhan gerddorfaol y trac sain, gan Alan Silvestri, yn cysylltu’r gyfres o ganeuon clasurol sy’n darparu llawer o awyrgylch y ffilm ac mae wedi dod yn boblogaidd y tu hwnt i’w chyd-destun seliwloid a gasglwyd at ei gilydd yn y gyfres foethus hon.
The Christmas song Tormé, arr. Dunk
Caroline Sheen
Cafodd The Christmas Song gan Mel Tormá ei dyfeisio gan yr awdur geiriau Robert Wells fel ffordd o oeri yn ystod haf chwilboeth. Roedd Wells wedi ysgrifennu ‘Chestnuts roasting … Jack Frost nipping … Yuletide carols … Folks dressed up like Eskimos’ – i geisio curo’r tywydd poeth! Dywedodd Tormé ‘Roedd yn meddwl petai’n gallu trochi ei hun yn y gaeaf, y byddai’n oeri’. ‘Deugain munud yn ddiweddarach, cafodd y gân ei hysgrifennu.’ Daeth yn llwyddiant i Nat King Cole yn 1946, a hynny ychydig cyn i Bing Crosby, yn anochelm yn anochel, gael gafael y gân a rhoi ei stamp.
The Man With the Bag Stanley/Taylor/Brooks, arr. Dunk
Caroline Sheen
Mae’r pâr o ganeuon yn gorffen yn fywiog, gyda chân boblogaidd Kay Starr o 1950 (Everybody’s Waitin’ for) The Man with the Bag – a gyfansoddwyd gan ei gŵr Hal Stanley gyda’r pianydd jazz Dudley Brooks a’r cyfansoddwr a’r sgriptiwr Irving Taylor. Fe gafodd y gân The Man with the Bag ail fywyd hanner canrif yn ddiweddarach, pan ymddangosodd yn y gyfres gomedi gyfreithiol o America, sef Ally McBeal – ac eto’n fwy diweddar pan gafodd ei chanu gan Jessie J ar gyfer hysbyseb Nadolig.
Sleigh Ride Leroy Anderson
Wnewch chi ddim credu hyn ond cafodd y cyfansoddwr Americanaidd, Leroy Anderson, y syniad am ei gân, Sleigh Ride, o 1946 yn ystod … haf chwilboeth yn America! Er na wnaeth orffen ei hysgrifennu tan Chwefror 1948. Byddwch chi’n adnabod bas araf a churiad siglo nodweddiadol Oes y Swing yn yr 1940au, a’r ffaith eich bod chi eisiau dawnsio. Yn wir, petaech chi ar lawr dawnsio gyda band dawns yr 1940au o America, mae’n siŵr y byddech chi’n dawnsio’r Foxtrot.
Christmas Sing-a-long arr. Gareth Glyn
*Cliciwch yma am i lawrlwytho'r testun
Rydyn ni’n cloi’r cyngerdd heno gyda chyfle arall i chi ganu. Y tro hwn mewn medli cyfan o alawon Nadolig enwog iawn wedi’u trefnu gan y cyfansoddwr a aned ym Machynlleth, Gareth Glyn. Mae’n dechrau gyda Jingle Bells, a ysgrifennwyd yn 1850 gan James Lord Pierpont, ac a ysbrydolwyd gan y rasys ceir llusg poblogaidd yn Medford, Massachusetts. Yna, daw Rudolph the Red-Nosed Reindeer, sy’n seiliedig ar stori o 1939 gan Robert L. May, a’r gerddoriaeth wedi’i chyfansoddi gan ei frawd yng nghyfraith Johnny Marks. Yna – ydych chi’n barod? – cafodd White Christmas ei chreu gan y canwr a’r cyfansoddwr Americanaidd Irving Berlin tra oedd … yn ymlacio yn y gwres wrth bwll nofio! Yna, daw Santa Claus Is Coming to Town. Cân gan John Frederick Coots a Haven Gillespie a ddaeth yn llwyddiannus yn syth ar ôl iddi gael ei rhyddhau yn 1934. Ac yna, ar ôl yr holl alawon Americanaidd gwych, rydyn ni’n cloi gyda charol o Brydain o’r 16fed ganrif, sef We Wish You a Merry Christmas.
Nodiadau gan David Threasher a Charlotte Gardner
Bywgraffiadau
Grant Llewellyn Arweinydd

Lun: Nicholas Joubard
Lun: Nicholas Joubard
Grant Llewellyn yw Cyfarwyddwr Cerdd Orchestre National de Bretagne a Chyfarwyddwr Cerdd Llawryfog Cerddorfa Symffoni North Carolina. Cafodd ei eni yn Nimbych-y-pysgod, De Cymru, ac enillodd Gymrodoriaeth Arwain i Ganolfan Gerdd Tanglewood ym Massachusetts lle bu’n gweithio gyda Leonard Bernstein, Seiji Ozawa, Kurt Masur ac André Previn.
Mae wedi arwain nifer o gerddorfeydd blaenllaw ac mae ganddo berthynas agos â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y mae wed’i harwain ar daith i Dde America, gan gynnwys Patagonia.
Mae hefyd yn arweinydd opera dawnus, gyda repertoire yn amrywio o Handel i gerddoriaeth gyfoes.
Mae’n arwain prosiectau addysg ac allgymorth. Yn 2017, fe arweiniodd Brom ‘Hamddenol’ cyntaf erioed y BBC gyda BBC NOW, sef cyngerdd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer pobl ag awtistiaeth, nam ar y synhwyrau ac anawsterau cyfathrebu, ac anableddau dysgu.
Elin Llwyd Cyflwynydd

Lun: Nathaniel Rosa
Lun: Nathaniel Rosa
Am 17 mlynedd mae Elin wedi gweithio fel actores, cantores, artist trosleisio a chyflwynwraig broffesiynol ar y llwyfan a’r sgrin. Yn fwyaf adnabyddus am ei rôl yn Pobol y Cwm ac, yn fwy diweddar efallai, am ei gwaith ar gyfresi drama Gwaith Cartref a 35 Awr ar S4C, Elin hefyd oedd llais Dashy yn yr addasiad Cymraeg o’r cartŵn Octonots.
Ymhlith ei hymddangosiadau ar lwyfan mae Tiger Bay, the Musical gan Cape Town Opera, ac mae ei pherfformiadau cerddorol a lleisiol yn cynnwys Tosca gyda Syr Bryn Terfel yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a Gŵyl Abu Dhabi. Dechreuodd gyrfa gyflwyno Elin ar Tag; rhaglen gylchgrawn fyw wythnosol i bobl ifanc, ac ers hynny mae hi wedi cyflwyno rhaglenni amrywiol ar gyfer S4C gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd, yr Ŵyl Cerdd Dant, Band Cymru ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Mae Elin hefyd yn gyd-sylfaenydd ABC – Academi Berfformio Caerdydd, ac ABC y Fro, academi celfyddydau perfformio ar gyfer plant a phobl ifanc Caerdydd a Bro Morgannwg.
Caroline Sheen Canwr

Cafodd Caroline Sheen ei geni a’i magu yn Ne Cymru a graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf o Ysgol Actio Guildford.
Mae ei rolau yn y West End yn cynnwys Violet yn 9 to 5 yn Theatr Savoy, Sandy yn Grease, Truly Scrumptious yn Chitty Chitty Bang Bang, Eponine a Fantine yn Les Misérables, Jennifer Gabriel yng nghast gwreiddiol The Witches of Eastwick, Sophie yn Mamma Mia!, Florinda yn Into the Woods, Philia yn A Funny Thing Happened on the Way to the Forum a Susan yn Once in a Lifetime. Yn 2010, gofynnwyd iddi fynd o amgylch America yn chwarae Mary Poppins, rôl a chwaraeodd am y tro cyntaf ar daith yn y DU.
Mae ei llwyddiannau ar y teledu yn cynnwys Torchwood, Hotel Babylon, Doctors, Henry VIII, Press, The Rook a Pitching In. Mae ei gwaith ffilm yn cynnwys Nativity Rocks, Four Kids and It a Les Misérables. Mae hi hefyd wedi rhyddhau sawl albwm.
Ers y pandemig, mae hi wedi perfformio rôl Guinevere yn Camelot yn Theatr Watermill.
Trystan Llŷr Griffiths tenor

Mae’r tenor o Gymru, Trystan Llŷr Griffiths, wedi gweithio gydag Opéra National de Lorraine, Opera Zurich, Opera’r Alban, Opera North ac Opera Cenedlaethol Cymru. I ddechrau, fe astudiodd radd mewn Theatr, Cerddoriaeth a’r Cyfryngau yng Ngholeg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin, gan gwblhau ei hyfforddiant yn 2015 yn Stiwdio Opera Genedlaethol Llundain.
Mae wedi canu rhannau yn Fidelio, Don Giovanni, Katya Kabanova, Alcina, Pagliacci, Così fan tutte a Die Zauberflöte.
Mae ei uchafbwyntiau mewn cyngherddau’n cynnwys Requiem Mozart yng Ngŵyl Lacoste, Serenade to Music gan Vaughan Williams yng nghyfres Proms y BBC, cyngerdd gyda Syr Bryn Terfel a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol yn Royal Festival Hall yn Llundain a Meseia gyda Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Rhyddhaodd ei albwm cyntaf yn 2015.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae’r gerddorfa’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales. Mae’n gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddorol ledled Cymru i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr celfyddydol.Yn ystod y cyfyngiadau symud diweddar, mae BBC NOW wedi parhau i recordio a ffilmio y tu ôl i ddrysau caeedig yn Neuadd Hoddinott y BBC ac mae wedi cynhyrchu fideos, traciau sain a chyngherddau digidol wythnosol sydd wedi cael eu gweld gan 14 miliwn o bobl ar draws y byd.
Noddwr
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Fiolin Cyntaf
Lesley Hatfield Blaenwr
Nick Whiting ** + Blaenwr Cyswllt
Gwenllian Haf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Robert Bird
Kerry Gordon-Smith
Emilie Godden
Anna Cleworth
Carmel Barber
Anna Szabo
Richard Newington
Ail Fiolin
Jane Sinclair #
Ros Butler
Joseph Williams
Katherine Miller
Sellena Leony
Vickie Ringguth
Beverley Wescott **
Michael Topping
Gary George-Veale
Elizabeth Whittam
Fiola
Rebecca Jones *
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
James Drummond
Laura Sinnerton
Robert Gibbons
Ania Leadbeater
Catherine Palmer
Soddgrwth
Keith Hewitt #
Jessica Feaver **
Sandy Bartai
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Alistair Howes
Bas Dwbl
David Stark *
Ben Daniel-Greep
Christopher Wescott
Claire Whitson
Ffliwtiau
Natalie Sims
Obo
Steve Hudson *
Cor anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †
Clarinét
Lenny Sayers † ** +
Clarinét/Sacsoffon Tenor
David Miller
Clarinét/Clarinét Bas
Hannah Morgan
Basŵn
Jarosław Augustyniak *
David Buckland
Cyrn
Neil Shewan †
Meilyr Hughes
John Davy
William Haskins
Utgyrn
Andy Everton †
Robert Samuel
Emily Ashby
Trombonau
Donal Bannister *
Simon Wills
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Matthew Thistlewood
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Andrea Porter
Phil Hughes
y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †
Piano/Celesta
Catherine Roe Williams ‡
Gitâr Fas
Claire Whitson
Organ
Andrew Wilson-Dixon
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-rediadau Kevin Myers
Gweinyddwr y Gerddorfa Rhonwen Jones **
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorth-wyydd Darlledu Emily Preston **
Pennaeth Marchnata a Chynulleid-faoedd Sassy Hicks +
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +, Caroline Richards **
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey
Rheolwr y Corws a Chydlynydd Allgymorth Osian Rowlands **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

