Ysbrydoliaethau Llenyddol
Nos Wener 9/12/22, 7.30pm

Ludwig Van Beethoven
Agorawd ‘Coriolan’ (8’)
György Ligeti
Concerto i’r Ffidil (28’)
EGWYL (20’)
Robert Schumann
Symffoni Rhif 4 (29’)
Ryan Bancroftarweinydd
Anthony MarwoodFfidil

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu ar raglen Radio 3 in Concert yn y dyfodol. Bydd ar gael drwy BBC Sounds am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu. Mae BBC Sounds hefyd yn cynnwys podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.
Cyflwyniad

Croeso i’r cyngerdd heno, lle bydd ein Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn ymuno â BBC NOW.
Bydd y noson yn dechrau mewn ffordd ddramatig iawn gydag agorawd Coriolan gan Beethoven, gwaith llawn egni ac oriogrwydd ingol sy’n crisialu drama gyfan mewn dim ond wyth munud.
Doedd Ligeti ddim yn credu mewn gwneud bywyd yn hawdd i’w berfformwyr, ond hyd yn oed yn y gerddoriaeth fwyaf cymhleth, nid oedd ei synnwyr digrifwch anarchaidd byth yn bell o dan yr wyneb. Mae’r Concerto i’r Ffidil yn mynnu lefel aruthrol o feistrolaeth a stamina gan yr unawdydd, a heno rydyn ni’n falch iawn o groesawu un o eiriolwyr mawr y gwaith – Anthony Marwood.
I gloi, byddwn yn clywed Pedwaredd Symffoni gythryblus Schumann – darn sy’n herio’r farn a gafodd yr un mor sicr ag y gwna concerto Ligeti. Cyfansoddodd Schumann y darn yn 1841 yn wreiddiol, gan ei ddiwygio’n sylweddol ddegawd yn ddiweddarach. Heno, byddwn yn clywed y fersiwn gwreiddiol sy’n cael ei ffafrio gan Johannes Brahms – a helpodd i’r darn gael ei gyhoeddi yn 1891 – yn ogystal â’n harweinydd ni heno.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Ludwig Van Beethoven (1770–1827)
Agorawd ‘Coriolan’, Op. 62 (1807)

Mae’n debyg mai ar gyfer adfywiad yn 1807 o ddrama Coriolan gan Heinrich von Collin o 1802 y cyfansoddodd Beethoven ei agorawd Coriolan. Mae’r ddrama’n seiliedig ar yr un pwnc â Coriolanus gan Shakespeare, ond mae’r pwnc yn cael ei drin yn dra gwahanol. Mae’n ymwneud ag arwr Rhufeinig sydd, o gael ei alltudio, yn ymuno â’r gelyn ac yn bygwth Rhufain. Mae ei fam a’i wraig yn ymbil arno i beidio; mae ei ysbryd yn cael ei dorri ac mae’n lladd ei hun.
Mae Beethoven yn ymgorffori emosiynau cryf y ddrama – sy’n cynnwys elfennau pwysig o arwriaeth, ymbil benywaidd a thynged drasig – ac mae’n eu defnyddio’n fywiog mewn agorawd angerddol a chyffrous. Gall y math hwn o ddull fod yn broblem gydag agorawd opera: weithiau mae’r agorawd fel petai’n dweud popeth; ond gyda drama lafar fel Coriolan, mae’r holl ddrama’n gallu cael ei chrisialu mewn cerddoriaeth heb y risg hon.
Mae dechrau’r agorawd yn dwyllodrus, oherwydd mae’n swnio fel cyflwyniad araf ond yn fuan gwelir mai cyfres o gordiau a seibiau hir o fewn tempo sylfaenol cyflym ydyw. Mae’r brif thema’n gwrthgyferbynnu â’r cordiau pwerus, garw hyn gyda ffigurau cwafer nerfus ond mae’r ail thema’n wrthgyferbyniad llwyr – llinell dyner, delynegol sy’n cael ei hailadrodd mewn cyfres esgynnol ac sydd, mae’n debyg, yn portreadu ymbil cynyddol daer gwraig a mam Coriolanus. Mae adran ddatblygu fer sy’n defnyddio rhythmau curiad calon un o’r ffigurau cynharach yn arwain at y rhan agoriadol gyfan yn dychwelyd. Mae’r coda’n dod â’r ail thema ‘fenywaidd’ yn ôl cyn i’r thema agoriadol arw ailymddangos, gan ymddatod yn y diwedd a diflannu’n ddim wrth i’r arwr farw. Yr agorawd yn ei chyfanrwydd yw un o ddarnau dwysaf Beethoven sy’n mynegi emosiwn cignoeth.
Nodyn y rhaglen © Barry Cooper
Gwrando Pellach: The Orchestra of the 18th Century/Frans Brüggen (Philips 4340872)
Darllen Pellach: Beethoven (Master Musicians) Barry Cooper (OUP)
György Ligeti (1923–2006)
Concerto i’r Ffidil (1990–92)

1 Praeludium: Vivacissimo luminoso –
2 Aria, Hoquetus, Choral: Andante con moto –
3 Intermezzo: Presto fluido
4 Passacaglia: Lento intenso
5 Appassionato: Agitato molto
Anthony Marwoodffidil
Gallech ddadlau’n gryf fod y cyfansoddwr Hwngaraidd/Awstriaidd György Ligeti yn gymaint o dynnwr coes cerddorol ag yr oedd yn aelod cwbl ymroddedig a radical o fudiad avant-garde yr ugeinfed ganrif. Meddyliwch am y cyrn ceir sy’n canu preliwd i’w unig opera, Le Grand Macabre, neu’r 100 o fetronomau sy’n clicio’n aflafar yn ei Poème symphonique – wedi’u gosod yn erbyn arloesiadau modernaidd fel y cymylau o ficrobolyffoni cyforiog mae’n eu creu mewn gweithiau arallfydol fel Atmosphères.
Erbyn iddo ddechrau ar ei Goncerto i’r Ffidil, fodd bynnag, roedd Ligeti wedi aeddfedu, ac roedd hyd yn oed wedi dechrau edrych yn ôl ar syniadau cerddorol mwy traddodiadol fel alawon a harmoni cyseiniol a allai fod wedi synnu’r Ligeti iau. ‘Roeddwn i eisiau ysgrifennu gwaith firtwosig iawn yn nhraddodiad y concerti enwog i’r ffidil,’ dywedodd y cyfansoddwr mewn cyfweliad yn 1995, ddwy flynedd ar ôl première y fersiwn pum symudiad terfynol o’r concerto. Mae digonedd am y darn sy’n dwyn atgof o gampweithiau cynharach i’r ffidil: rhannau virtuoso afieithus a chythreulig o anodd; alaw â naws werinol sy’n rhedeg drwy’r ail symudiad (alaw gan Ligeti ei hun, wedi’i chodi o’i Bagatelles ar gyfer y chwythbrennau yn 1953); a hyd yn oed cadenza unawdol gorliwgar yn ei safle traddodiadol cyn i’r concerto ddod i ben.
Ond mae hefyd yn waith lle mae’n ymddangos fel pe bai Ligeti’r tynnwr coes a Ligeti’r radical yn dod at ei gilydd, yn fwyaf amlwg yn ymwneud â thiwnio. Roedd y cyfansoddwr wedi herio goruchafiaeth tiwnio cyfartal ers tro byd, sef y tiwnio yr ydym i gyd wedi arfer ag ef ar fysellau’r piano. Er enghraifft, mae ei Driawd i’r Cyrn o 1982 yn defnyddio dim llai na thair system diwnio ar wahân ar yr un pryd. Yn ei Goncerto i’r Ffidil, aeth Ligeti â phethau ymhellach fyth, gan arwain at ganlyniadau sy’n dawel arloesol, yn hynod anghonfensiynol ac yn aml yn ddigri hefyd. Ar ddechrau ei symudiad agoriadol, mae’n datgelu llu o doppelgängers wedi’u dad-diwnio ar gyfer ei unawdydd ffidil ymysg yr offerynwyr eraill yn ei adran linynnol, gan greu gwead rhyfeddol o gyfoethog o linellau sy’n symud yn gyflym. Mae alaw ‘werin’ ei ail symudiad – a gyflwynir gan yr unawdydd ar y ffidil – yn dychwelyd yn ddiweddarach mewn harmoni rhyfedd a main gan bedwarawd o ocarinas. (‘Roeddwn i’n chwilio am donyddiaeth amhenodol a sŵn budr,’ cyfaddefodd Ligeti am yr adran hon yn yr un cyfweliad.) Yn ei drydydd symudiad ecsotig sydd wedi’i sgorio’n gyfoethog – sef diweddglo gwreiddiol y Concerto – mae Ligeti yn tanlinellu llinell alawol hir yr unawdydd gyda graddfeydd brysiog gan y gerddorfa sy’n mynd yn fwyfwy bygythiol. Mae’r ocarinas yn dychwelyd i darfu ar y cydbwysedd harmonig eto yn y pedwerydd symudiad araf, ac mae’r pumed yn cynnig arolwg byr o gerddoriaeth gynharach y Concerto, cyn i’r unawdydd ffarwelio’n flodeuog a chloi’n fyrfyfyr.
Mae digon i’n diddanu yn y Concerto, ond mae’n ddarn, serch hynny, sydd â bwriad difrifol iawn – gyda’i wrthdrawiadau dryslyd o arddulliau, hwyliau a chipolygon ar y gorffennol, wedi’u dal at ei gilydd yn gadarn gan ddychymyg sonig hynod Ligeti.
Nodyn y rhaglen © David Kettle
Gwrando Pellach: Patricia Kopatchinskaja; Ensemble Modern/Peter Eötvös (Naïve V5285)
Darllen Pellach: György Ligeti: Music of the Imagination Richard Steinitz (Faber)
EGWYL: 20 munud
Robert Schumann (1810–56)
Symffoni Rhif 4 yn D leiaf (1841)

1 Andante con moto – Allegro di molto –
2 Romanza: Andante –
3 Scherzo: Presto –
4 Largo – Allegro vivace
Mae’n debyg y dylai’r hyn rydyn ni’n ei adnabod fel Pedwaredd Symffoni Robert Schumann gael ei galw’n Ail Symffoni mewn gwirionedd. Fe’i cyfansoddodd – neu o leiaf y fersiwn cyntaf ohoni – rhwng mis Mehefin a mis Hydref 1841, ac yntau’n llawn gwefr yn dilyn llwyddiant ysgubol ei Symffoni Gyntaf, a berfformiwyd am y tro cyntaf erioed gan Gerddorfa Leipzig Gewandhaus dan arweiniad Felix Mendelssohn ym mis Ionawr y flwyddyn honno. Rheswm arall am ei wefr oedd ei briodas hirddisgwyliedig â’i annwyl Clara Wieck ym mis Medi 1840 – yn dilyn pum mlynedd o ganlyn, ac yna brwydr gyfreithiol hirfaith pan benderfynodd ei thad wahardd eu perthynas (brwydr a enillodd Robert a Clara yn y diwedd). Yn wreiddiol, galwodd Schumann y gwaith yn ‘Symffoni Clara’, er na chadwyd yr enw hwnnw – efallai ei fod yn teimlo fel epithet amhriodol ar gyfer yr hyn oedd gan y cyfansoddwr mewn golwg.
Yn dilyn ei Symffoni Gyntaf, ‘Gwanwyn’, a oedd yn ddisglair, bywiog a bythol optimistaidd, ac er gwaethaf ei hwyliau da, rhoddodd Schumann ei fryd ar gerddoriaeth a oedd yn llawer mwy tywyll a chythryblus yn ei waith newydd; lle roedd hefyd yn herio confensiynau symffonig. Yn hytrach na gweithio gyda’r pedwar symudiad traddodiadol ar wahân, aeth ati i greu symffoni arloesol a oedd nid yn unig yn rhedeg y symudiadau hynny gyda’i gilydd mewn un rhychwant, ond hefyd yn rhannu themâu a syniadau rhyngddynt, gan ddod ag undod arloesol i’w greadigaeth.
Cafodd y gwaith radical newydd ei berfformio am y tro cyntaf ar 6 Rhagfyr 1841, unwaith eto gan Gerddorfa Leipzig Gewandhaus. Cafodd ymateb da, ond ni chafodd y llwyddiant ysgubol yr oedd Schumann yn gobeithio amdano. Yn hytrach na digalonni, fe’i rhoddodd o’r neilltu.
Aeth degawd heibio cyn i’r cyfansoddwr ailgydio yn y symffoni, ac yntau wedi’i ysbrydoli gan ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Cerdd ar gyfer dinas Düsseldorf. Aeth ati i ehangu’r offeryniaeth wreiddiol, a oedd yn ysgafn a sionc, yn ogystal ag amlygu’r rhaniadau rhwng symudiadau’r darn. Cafodd yr ailwampiad hwn (sy’n fwy confensiynol, mae’n rhaid dweud) ei berfformio am y tro cyntaf yn 1852, a hwn yw’r fersiwn sy’n cael ei glywed yn fwy cyffredin heddiw.
Ond y fersiwn gwreiddiol arloesol – a luniwyd fel un darn o gerddoriaeth, ac sy’n gyforiog o groesgyfeiriadau cymhleth – a glywn yn y cyngerdd heno. Mae ei symudiad cyntaf yn fwy o ffantasia sy’n llifo’n rhydd na dechrau confensiynol i symffoni, gyda’r thema’n deillio o’i agoriad araf a rhyfeddol sy’n cael ei ddatblygu ymhellach yn ei brif adran gyflymach, lle mae alawon newydd yn codi hefyd. Mae’r ail symudiad arafach, sydd â’r teitl ‘Romanze’, yn dilyn yn ddi-dor, gan ddechrau gydag alaw brudd sy’n debyg i gân ar gyfer yr obo a’r soddgrwth unawdol. Mae cerddoriaeth agoriad cythryblus y symudiad cyntaf yn dychwelyd i daflu cysgod tywyll dros ei adran ganolog, cyn cael ei chwalu gan thema felodaidd ar gyfer ffidil unawdol. Mae’r thema felodaidd honno’n dychwelyd yn adran ganol trydydd symudiad Schumann, sef scherzo chwareus ond eithaf cythryblus hefyd, ac mae’n ailymddangos eto i arwain y gwaith tuag at ei ddiweddglo. Yno, mae’r cyfansoddwr yn dychwelyd at thema filwraidd sy’n brasgamu a glywyd am y tro cyntaf yn y symudiad agoriadol, er ei bod yn alaw delynegol a gyflwynir o’r newydd sy’n pendilio rhwng y llinynnau a’r chwythbrennau. Yn y pen draw, mae hon yn gwthio’r symffoni tuag at ei diweddglo llawen ond sy’n mynd yn fwy ac yn fwy gorffwyll.
Nodyn y rhaglen © David Kettle
Gwrando Pellach: Gürzenich-Orchester Köln/François-Xavier Roth (Myrios MYR028)
Darllen Pellach: Schumann (Master Musicians) Eric Frederick Jensen (OUP)
Bywgraffiadau
Ryan Bancroft arweinydd

Lun: Benjamin Ealovega
Lun: Benjamin Ealovega
Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018, pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, bu’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf i weithio gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yr Artist Cyswllt o dymor 2021–22 ymlaen. Y llynedd, cyhoeddwyd ei fod yn Brif Arweinydd Dynodedig Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm a bydd yn dechrau yn y swydd fis Medi nesaf.
Mae wedi perfformio am y tro cyntaf gyda nifer o gerddorfeydd blaenllaw yn Ewrop, gan gynnwys y Philharmonia, Cerddorfeydd Ffilharmonig Llundain a Rotterdam, cerddorfeydd Symffoni’r BBC, Symffoni Cenedlaethol Denmarc a Symfffoni Radio Sweden, Cerddorfa Capitole Toulouse, RAI Turin ac Ensemble Intercontemporain. Yng Ngogledd America, mae wedi gweithio gyda cherddorfeydd Symffoni Baltimore, Houston a Toronto a bydd y tymor hwn yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Dallas a Cherddorfa Minnesota. Mae hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Suntory Hall gyda New Japan Philharmonic a Midori, yn y Royal Festival Hall gyda’r Philharmonia a Syr Stephen Hough ac yn y Royal Concertgebouw gyda Cherddorfa Ffilharmonig yr Iseldiroedd. Mae hefyd yn dychwelyd at gerddorfeydd Symffoni Dinas Birmingham, Gothenburg a Malmö.
Mae’n frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble, Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, Cage, Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio’n agos gyda threfnwyr byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden. Mae’n dychwelyd i weithio gydag Ensemble Intercontemporain ym mis Mawrth.
Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd.
Anthony Marwood ffidil

Lun: Felix Van Dijk
Lun: Felix Van Dijk
Mae Anthony Marwood yn mwynhau gyrfa ryngwladol eang fel unawdydd, cyfarwyddwr a cherddor siambr. Mae ei waith diweddar fel unawdydd yn cynnwys perfformiadau gyda cherddorfeydd Symffoni Adelaide, Boston, New World, St Louis a Sydney, Cerddorfa Leipzig Gewandhaus, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain a Cherddorfa Genedlaethol Sbaen.
Yn ystod haf 2021, cafodd glod am ei berfformiad o Goncerto Ligeti i’r Ffidil gyda Thomas Adès a Cherddorfa Canolfan Gerdd Tanglewood.
Fel cyfarwyddwr ac unawdydd, mae wedi ymddangos gyda llawer o’r cerddorfeydd siambr mwyaf blaenllaw, gan gynnwys Academi St Martin in the Fields, Amsterdam a’r Tapiola Sinfonietta, cerddorfeydd Siambr Awstralia, Iwerddon, Norwy a Paris a Les Violons du Roy.
Fel cerddor siambr, mae’n cydweithio’n rheolaidd â Steven Isserlis, Aleksandar Madžar, Inon Barnatan, Alexander Melnikov, Dénes Várjon a James Crabb, ymysg eraill. Am 16 mlynedd, ef oedd fiolinydd y Florenstan Trio.
Mae’r cyfansoddwyr blaenllaw sydd wedi ysgrifennu concerti iddo’n cynnwys Thomas Adès, Steven Mackey, Sally Beamish a Samuel Carl Adams. Mae hefyd yn artist recordio toreithiog, ac mae ei albwm diweddaraf – Beautiful Passing, sy’n cynnwys gweithiau ar gyfer y ffidil a’r gerddorfa gan Steven Mackey – yn cael ei ryddhau fis yma.
Mae’n gyd-gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Peasmarsh yn Nwyrain Sussex, a fu’n dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed yn 2018. Mae hefyd yn perfformio’n flynyddol yng Ngŵyl Yellow Barn yn Vermont ac mae ganddo gysylltiad agos ag Academi Gerdd Genedlaethol Awstralia ym Melbourne.
Astudiodd gydag Emanuel Hurwitz a David Takeno yn Llundain. Cafodd ei benodi’n MBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines yn 2018 a chafodd ei wneud yn Gymrawd Ysgol Gerdd y Guildhall yn 2013.
Mae’n defnyddio bwa gan Joseph René LaFleur ac mae’n chwarae ffidil Carlo Bergonzi o 1736, a brynwyd yn garedig gan syndicet o brynwyr, a ffidil o 2018 wedi’i gwneud gan Christian Bayon.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes.
Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.
Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Nick Whiting Blaenwr
Martin Gwilym- Jones Is-Arweinydd
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Anna Cleworth
Kerry Gordon-Smith
Juan Gonzales
Jane Sinclair
Amy Birse
Paul Mann
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ruth Heney
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Sellena Leony
Ilza Abola
Fiolâu
Rebecca Jones *
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Robert Gibbons
Ania Leadbeater
Laura Sinnerton
Cameron Campbell
Soddgrythau
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Basau Dwbl
David Stark *
Fabian Galeana
Christopher Wescott
Elen Roberts
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall
Ffliwt Alto
John Hall †
Piccolo
Lindsey Ellis †
Oboau
Richard Simpson ‡
Amy McKean †
Clarinetau
Tim Lines ‡
Lenny Sayers
Will White
Clarinét E Feddalnod
Tim Lines
Clarinét Bas
Lenny Sayers
Baswnau
Paul Boyes ‡
David Buckland
Recorder Trebl
John Hall
Recorder Desgant
Lindsey Ellis
Ocarina Sopranino Yn F
Tim Lines
Ocarina Sopranino Yn C
Steve Hudson
Paul Boyes
Ocarina Alto Yn G
Lenny Sayers
Cyrn
Tim Thorpe *
James Mildred
Neil Shewan †
William Haskins
John Davy
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Trombonau
Donal Bannister *
Sakari Makimattila
Trombôn Bas
Darren Smith †
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Phil Girling
Andrea Porter
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Gweinyddwr y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

