‘Grace’
Nos Iau2/11/23, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Sarah Lianne Lewis
The sky didn’t fall * première byd c8’
Kaija Saariaho
Émilie Suite première DU25’
EGWYL: 20 munud
Grace Williams
Symffoni Rhif 2 40’
Martyn Brabbinsarweinydd
*Emilie Godden arweinydd
Emma Tring soprano

Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei ddarlledu’n fyw gan BBC Radio 3 ar y rhaglen Radio 3 in Concert ac yn cael ei ffrydio'n fyw ar wefan BBC NOW.
Cyflwyniad
Croeso cynnes i’r cyngerdd heno, lle bydd nid un ond dau arweinydd yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Bydd Emilie Godden yn dechrau’r noson gyda'r perfformiad cyntaf erioed o’r darn â'r teitl ingol The sky didn’t fall gan Sarah Lianne Lewis. Daw’r teitl o gerdd gan Kerry Hardie sy’n archwilio natur galar.
Bydd Martyn Brabbins yna’n cymryd yr awenau, yn gyntaf ar gyfer y perfformiad cyntaf yn y DU o’r Émilie Suite gan Kaija Saariaho, cyfansoddwraig y mae chwith mawr ar ei hôl. Crynhoad o ddarn ar gyfer soprano a cherddorfa yw hwn, o’i hopera a ysbrydolwyd gan fywyd y foneddiges o’r 18fed ganrif, Émilie Le Tonnelier de Breteuil, a ddaeth yn un o wyddonwyr mwyaf blaenllaw ei hoes.
I orffen, cawn glywed Ail Symffoni wych Grace Williams, gwaith a berfformiwyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Cerdd a Chelfyddydau Abertawe yn 1957. Mae’n llawn elfennau sy’n nodweddiadol o waith y gyfansoddwraig, fel ei naratif cryf a’i lliwio medrus.
Mwynhewch!
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Sarah Lianne Lewis (ganed 1988)
The sky didn’t fall(2019–23)
première byd

Mae’r darn wedi cael ei ysbrydoli gan linellau agoriadol cerdd Kerry Hardie‘‘After My Father Died’: ‘The sky didn’t fall. It stayed up there, luminous, tattered with crows …’ (Kerry Hardie, The Sky Didn’t Fall, The Gallery Press, 2003). Mae’n edrych ar natur orthrymol a llethol galar ochr yn ochr â normalrwydd bob dydd, wrth i bawb o’ch cwmpas fwrw ymlaen â phatrwm eu bywydau. Pelydrau miniog yr haul pob bore, yn nodi diwrnod arall na ellir ei rannu. Lliwiau’r tymhorau’n ymddangos yn llawer mwy disglair hyd yn oed yng nghysgod parhaus colled.
Mae’r gwaith yn dechrau drwy archwilio deunydd di-draw (neu bron yn ddi-draw), sy’n symud drwy’r gerddorfa, cymylau ysgafn yn symud, gwasgaru a chyfuno. Wrth i ddeunydd traw ddod yn amlycach, mae’r naws yn troi’n drymach a mwy gormesol. Cyflwynir ostinato dan arweiniad y delyn – gydag offerynnau eraill yn ymuno wrth i’r darn fynd rhagddo – sy’n ailymddangos dro ar ôl tro, gan greu cyfnodau o eglurder a disgleirdeb yn erbyn cefnlen gynyddol ddwys.
Ysgrifennwyd The sky didn’t fall yn wreiddiol ar gyfer Hwb Cyfansoddwyr Cerddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban yn 2019, a’i ddiwygio wedyn ar gyfer première heno.
Nodyn y rhaglen © Sarah Lianne Lewis
Kaija Saariaho (1952–2023)
Émilie Suite(2008, trefn. 2011)
première DU

1 Pressentiments
2 Interlude I
3 Principia
4 Interlude II
5 Contre l’oubli
Emma Tringsoprano
Pan fu farw Kaija Saariaho yn 70 oed yn gynharach eleni, roedd wedi gwneud cyfraniad mawr i’r repertoire opera a theatr gerdd, gan ddod i benllanw yn ei hopera ysgubol olaf, Innocence, gyda’i gast mawr, amlieithog o gantorion, actorion a chorws, yn ogystal â cherddorfa symffoni lawn.
Mae Émilie, opera Saariaho o 2008, yn fwy cryno, wedi'i sgorio ar gyfer cerddorfa siambr, electroneg ac un perfformiwr – soprano – yn chwarae'r brif ran.
Yn 2011, fe wnaeth Saariaho grynhoi Émilie yn fwy fyth, gan droi’r opera 80 munud yn gyfres 25 munud ar gyfer y neuadd gyngerdd. Mae’n cynnwys pum symudiad: tair cân a dau interliwd cerddorfaol.
Defnyddiodd Émilie Le Tonnelier de Breteuil, Marquise du Châtelet-Lomont (1706–49), ryddid ei statws aristocrataidd i fyw bywyd rhywiol dilyffethair, a hefyd i ddod yn un o fathemategwyr a ffisegwyr mwyaf blaenllaw ei hoes. Hi oedd cariad a chydymaith deallusol Voltaire. Ysgrifennodd waith mawr o’r enw The Foundations of Physics ac, yn fuan cyn ei marwolaeth ar ôl rhoi genedigaeth i blentyn gan gariad arall, Marquis Jean François de Saint-Lambert, cyfieithodd Principia gan Newton i’r Ffrangeg.
Mae pethau’n dechrau gydag Émilie feichiog yn ysgrifennu llythyr at Saint-Lambert, sydd wedi troi ei gefn arni. Mae’r harpsicord yn y gerddorfa yn gosod cyfnod y ddrama. Mae’r awyrgylch yn ddirdynnol ac yn argoelus wrth i Émilie ragfynegi ei marwolaeth ei hun.
Er bod Saariaho wedi dileu electroneg o’r gyfres, mae’r Interliwd Cyntaf yn ei dangos yn defnyddio sbectrwm sain llawn y gerddorfa i greu ymdeimlad o’r di-ben-draw.
Yn ail gân Émilie, ‘Principia’, mae’r awyrgylch yn ddiamynedd wrth iddi ysgrifennu mai ei hofn mwyaf yw marw cyn iddi allu gorffen ei chyfieithiad o waith Newton. Mae’n ysgrifennu am ei threfn waith ac yn dyfynnu cyfreithiau gwyddonol Newton.
Yn yr Ail Interliwd, mae’r llinynnau a’r di-ben-draw yn dod at ei gilydd, gyda rhythmau mecanyddol yn tician dan arweiniad yr harpsicord a llinellau hir yn y chwythbrennau a llinynnau yn awgrymu’r nefoedd.
Yn ei chân olaf, mae Émilie yn wynebu marwolaeth yn fwy uniongyrchol, gan gymryd cysur yn y ffaith mai ei llyfr fydd ei gwaddol. Mae’r gerddoriaeth yn mynegi ei rhyfeddod wrth iddi feddwl am ei henaid yn y sêr, ond hefyd ei hofn a’i hanobaith o adael y byd ar ôl a suddo i ebargofiant.
Nodyn y rhaglen © Gillian Moore
1 Pressentiments
A Monsieur de Saint-Lambert,
Ce lundi soir, premier de septembre,
Mil sept cent quarante-neuf.
Je ne sais, mon ami, si je vous écrirai encore,
J’ai des pressentiments …
J’ai des pressentiments, mais ils peuvent mentir.
J’ai encore le coeur à vivre,
J’ai encore le goût d’écrire,
Et j’ai même le goût d’aimer,
De vous aimer avec fureur;
Je n’ai jamais appris à aimer autrement.
Et vous, mon ami?
Je vous écris de longues pages,
Vous répondez en quatre lignes.
Pourtant vous jurez que vous m’aimez encore,
Et je veux bien vous croire.
Que serait la réalité du monde
Sans la parure de l’illusion?
Moi je garde jalousement mes illusions;
Si l’on m’enchante, je me laisse enchanter.
Un jour, je ne l’ignore point, nos amours finissent,
Mais nous serions cruels envers nous-mêmes
Si nous passions nos nuits d’amour
A guetter la fin de l’amour,
Ou notre propre fin.
Ce détestable pressentiment!
Je le chasse de mes pensées,
Il y revient, comme une mouche.
3 Principia
Ce n’est pas tant la mort que je redoute,
Ce qui m’angoisse, ce n’est pas non plus votre … tiédeur,
Saint-Lambert, mon ami, mon amant,
Bien que j’en souffre.
Mon angoisse, ma frayeur,
Et j’en rirais presque,
C’est de mourir sans achever
Ma traduction de Newton.
Philosophiae Naturalis Principia Mathematica
Je ne songe plus à rien d’autre!
Je me lève à neuf heures, quelquefois à huit,
A trois heures, je m’interromps pour un café;
Je reprends le travail à quatre heures.
La Lune gravite vers la Terre, et par la
force de la gravité elle est continuellement
retirée du mouvement rectiligne et retenue
dans son orbite.
Je m’arrête à dix heures, je dîne,
Voltaire assiste à mon souper,
Nous causons jusqu’à minuit.
Ensuite je me remets à l’ouvrage
Jusqu’à cinq heures du matin.
La force qui retient la Lune dans son
orbite est en raison réciproque du carré
de la distance des lieux de la Lune au
centre de la Terre.
C’est à cela que je m’acharne,
Et que j’épuise mes dernières forces.
Fluxum et refluxum Maris ab actionibus
Solis ac Lunae oriri debere.
Il y a deux espèces de marées, solaires
et lunaires, qui peuvent se former indépendamment …
J’ai quasiment fini.
Je dois encore revoir mes épreuves,
Ajouter quelques commentaires,
Mais l’essentiel est fait;
Si mes funestes pressentiments
S’avèrent mensongers,
Bientôt je porterai mon livre dans mes bras.
Principes Mathématiques de la
Philosophie naturelle
5 Contre l’oubli
Et si je ne me relevais pas,
Le livre paraîtra quand même
Principes Mathématiques …
Par feue la Marquise du Châtelet
Ouvrage posthume
Toujours la mort triomphe au dernier acte,
Mais qu’elle me laisse terminer mon livre,
Pour qu’on se souvienne de moi.
Jusqu’au dernier moment j’aurai une plume à
la main,
La tête haute,
Le coeur amoureux,
L’esprit dans les étoiles.
Monsieur Newton explique que le Soleil
est jaune parce que sa lumière abonde
en rayons de cette couleur. Il est possible
que dans d’autres systèmes il y ait des
soleils verts, ou bleus, ou violets, ou
rouges-sang; et qu’il y ait même aux
confins de la Nature d’autres couleurs
que celles que nous connaissons dans
notre monde-ci.
Les couleurs me manquent déjà,
Les rêves me manquent,
La vie me manque,
Et je redoute de sombrer
Avec livre et enfant
Dans le vertige de l’inconscience,
Dans le puits de l’oubli.
Testun © Amin Maalouf
1 Argoelion
I Monsieur de Saint-Lambert,
nos Lun, y cyntaf o Fedi 1749.
Ni wn, fy ffrind, a fyddaf yn ysgrifennu atoch eto,
mae gen i argoelion …
mae gen i’r argoelion hyn, ond gallant fod yn anghywir
mae gen i’r galon i fyw o hyd,
mae gen i’r ewyllys i fyw o hyd,
mae gen i’r ewyllys i ysgrifennu o hyd,
hyd yn oed yr ewyllys i garu,
i’ch caru’n angerddol
ni ddysgais erioed i garu fel arall.
A chithau, fy ffrind?
Ysgrifennaf dudalennau meithion atoch.
Atebwch chi â phedair llinell.
Serch hynny, rydych yn tyngu eich bod yn dal i fy ngharu,
ac rwyf yn awyddus i’ch credu.
Beth fyddai realiti’r byd
heb rithiau i’w addurno?
Amddiffynnaf fy rhithiau’n eiddigeddus:
os bydd rhywun yn fy swyno, gadawaf i’m hun gael fy swyno.
Un diwrnod, ni anwybyddaf hyn, daw ein cariad i ben,
ond byddem yn greulon â’n hunain
pe treuliem ein nosweithiau o gariad
yn aros i
gariad ddod i ben,
neu i ninnau ddod i ben.
Yr argoel ddychrynllyd hon!
Rwyf yn ei hel ymaith o’m meddyliau,
mae’n dychwelyd, fel pryfyn.
3 Principia
Nid marwolaeth sy’n fy nychryn
sy’n peri gofid i mi,
nac ychwaith eich difaterwch,
Saint-Lambert, fy ffrind, fy nghariad,
er fy mod yn dioddef o’u herwydd.
Fy mhryder, fy ofn,
– sydd bron yn chwerthinllyd i mi –
yw marw heb fod wedi gorffen
fy nghyfieithiad o waith Newton.
Philosophiae Naturalis Principia Mathematica
Nid wyf yn breuddwydio am unrhyw beth arall!
Codaf am naw, weithiau am wyth
am dri, caf egwyl i gael coffi;
dechreuaf weithio eto am bedwar.
Mae’r lleuad yn cylchdroi o gwmpas y Ddaear,
a chyda grym disgyrchiant caiff
ei thynnu’n barhaus rhag symud yn unionlin
ac yn hytrach, caiff ei chadw yn ei rhod.
Rhoddaf y gorau iddi am ddeg, caf fwyd,
bydd Voltaire yn ymuno â mi am swper,
sgwrsiwn tan hanner nos.
Yna, dychwelaf at fy ngwaith
tan bump y bore.
Rhesymir bod y grym sy’n cadw’r lleuad yn ei
rhod yn sgwâr gwrthdro i'r
pellter o’r lleuad i
ganol y Ddaear.
Dyna sy’n fy ngyrru’n ddi-ildio
ac er mwyn hynny y rhoddaf fy egni olaf.
Fluxum et refluxum Maris ab actionibus
Solis ac Lunae oriri debere.
Mae dau fath o lanw, heulol a
lleuadol, sy’n gallu ffurfio’n annibynnol …
Rwyf bron â gorffen.
Mae’n rhaid i mi adolygu fy nrafftiau o hyd,
ac ychwanegu rhywfaint o sylwebaeth,
ond, yn y bôn, mae’r gwaith wedi’i orffen;
os yw fy argoelion enbyd
yn anghywir,
byddaf yn dal fy llyfr yn fy mreichiau cyn hir.
Egwyddorion Mathemategol Athroniaeth Naturiol
5 Yn Erbyn Ebargofiant
Ac os na fyddaf yn goroesi,
ymddengys beth bynnag
Egwyddorion Mathemategol …
Gan y ddiweddar Marquise du Châtelet
Gwaith ar ôl marwolaeth.
Mae marwolaeth bob amser yn drech yn yr act olaf,
ond boed i farwolaeth adael i mi orffen fy llyfr,
er mwyn i mi gael fy nghofio.
Tan yr eiliad olaf, bydd ysgrifbin yn fy llaw,
bydd fy mhen yn uchel,
bydd fy nghalon yn fflam,
bydd fy enaid yn y sêr.
Eglura Mr Newton fod yr Haul yn
felyn oherwydd bod ei olau’n llawn
pelydrau’r lliw hwnnw. Mae’n bosibl, mewn cysodau eraill,
bod yr haul yn wyrdd, neu’n las,
neu’n fioled, neu’n goch fel gwaed; a hyd yn oed
o fewn cyfyngiadau Natur, mae lliwiau
eraill ar wahân i'r rheini rydym yn eu
hadnabod yn ein byd ni yma.
Rwyf eisoes yn colli’r lliwiau,
yn colli’r breuddwydion,
yn colli bywyd,
ac mae arnaf ofn suddo
gyda’m llyfr a’m plentyn
i benysgafnder anymwybod,
i bydew ebargofiant.
Cyfieithiad gan Cymen
EGWYL: 20 munud
Grace Williams (1906–77)
Symffoni Rhif 2 (1956, diw. 1975)

1 Allegro marciale
2 Andante sostenuto
3 Allegro scherzando – Andante cantabile – Allegro scherzando
4 Largo – Andante con moto – Allegro marciale
Cyfansoddodd Grace Williams Symffoni Rhif 2 yn 1956 mewn ymateb i gomisiwn gan Bwyllgor Cymreig Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr; cafodd ei pherfformio am y tro cyntaf erioed gan Gerddorfa Hallé yng Ngŵyl Cerdd a Chelfyddydau Abertawe ar 8 Hydref 1957. Does dim dwywaith bod y symffoni bwerus a thywyll hon yn un o brif lwyddiannau Williams, ac eto roedd amgylchiadau’r perfformiad cyntaf yn drawmatig iddi. Yn ystod yr ymarferion, mynnodd George Weldon, bwli o arweinydd yr Hallé, ei bod yn gwneud toriadau i’r symudiad araf, a chafodd y symffoni ei pherfformio am y tro cyntaf ar y ffurf fyrrach hon. Gwnaeth Williams yn siŵr bod y gerddoriaeth a dynnwyd allan yn cael ei hadfer mewn perfformiadau dilynol, ac fe wnaeth sawl diwygiad newydd i’r darn ddwy flynedd cyn ei marwolaeth. Ei fersiwn olaf o'r sgôr yw’r un sy’n cael ei berfformio heno.
I’r gwrthwyneb i'r Symffoni Gyntaf (Symphonic Impressions, 1943), a ysbrydolwyd yn uniongyrchol gan bortread Shakespeare o’r arwr Cymreig, Owain Glyndŵr, yn Henry IV, Part 1, ni roddodd Williams raglen naratif i’w Hail Symffoni.
Mae’n agor yn ddramatig gyda galwad i’r frwydr – thema marciale ar yr utgorn, sy’n cael ei hategu gan y chwythbrennau a llinynnau pizzicato cyn cael ei harchwilio’n helaeth gan y gerddorfa. Mae rhan misterioso fer yn cyflwyno ail destun yr Allegro, thema dawelach ond sy’n dal yn aflonydd mewn 6/8, a chwaraeir gan y chwythbrennau. Caiff y ddwy thema eu harchwilio a’u hymestyn yn adran y datblygiad. Mae thema’r marciale yn dychwelyd ar ddechrau’r ailddangosiad – yn cael ei chwarae gan yr obo a’r basŵn y tro hwn – ac mae’r symudiad yn cloi gyda datganiad amrywiol a grymus o’r thema ar y llinynnau a’r offerynnau pres.
Disgrifiodd Williams nodweddion rhythmig alaw’r obo sy’n agor yr Andante sostenuto fel rhai ‘digamsyniol Gymreig’ ac, wrth i’r symudiad hyfryd hwn ddatblygu, datgenir y thema fugeiliol hon gan utgorn â mudydd, gyda’r obo’n chwarae alaw debyg i benillion uwch ei phen. Mae naws dangnefeddus yr Andante yn cael ei chwalu’n fuan gan yr Allegro scherzando egnïol – symudiad y cyfeirir ato’n annwyl gan Williams fel ‘ychydig o hwyaden hyll’. Mae newidiadau deinamig cyflym, élan rhythmig a gyriant aflonydd y scherzo yn cael eu lleddfu ychydig gan yr adran triawd arafach, ond mae’r scherzo aflonydd yn dychwelyd ac yn rhuthro tuag at ddiweddglo chwim a thanbaid.
I’r gwrthwyneb, mae’r fugato araf a dwys sy’n agor y diweddglo yn alarnadol ac yn heddychlon ei natur. Ar ôl i’r gerddorfa archwilio alaw’r fugato, cyflwynir ail thema sy’n cynnwys tri motiff byrhoedlog (a chwaraeir, yn eu tro, gan yr obo, y corn â mudydd a’r ffliwt). Mae’r gerddorfa’n myfyrio ar y themâu hyn yn yr adran Andanteddilynol, ond mae dychweliad annisgwyl thema’r marciale o’r symudiad cyntaf yn tarfu ar y drafodaeth – gan gael ei datgan i ddechrau gan utgorn â mudydd, fel pe bai’n dod o bell. Wrth i’r tempo gyflymu, mae datganiadau amrywiol a mwyfwy pendant o thema’r marciale yn cael eu cyfuno â rhannau rhapsodig sy’n seiliedig ar alaw'r fugato a themâu eraill. Mae’r tensiwn cerddorol yn tawelu ac yn ail-greu naws heddychlon rhan agoriadol y diweddglo am ennyd fer, ond mae’r symffoni’n gorffen yn ffyrnig gyda crescendo sydyn a chordiau fortissimo yn dyrnu ac yn cael eu chwarae con forza gan y gerddorfa.
Nodyn y rhaglen © Rhiannon Mathias
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant ...
Perfformio Picasso
Nos Wener 8/12/23, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Stravinsky Pulcinella
Satie Parade
Stravinsky Ragtime
Falla El Sombrero de Tres Picos – Cyfres Rhif 2
Ryan Bancroftarweinydd
Katharine Dain soprano
Jorge Navarro Colorado tenor
Michel de Souzabariton
LLIWGAR | ANGERDDOL | GOLEUEDIG
Ac yntau’n adnabyddus fel un o artistiaid mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif ac am gyd-sefydlu’r mudiad Ciwbaidd, mae’n syndod cyn lleied o bobl sy’n gwybod bod yr artist Pablo Picasso wedi ymwneud llawer â dylunio’r gwisgoedd ar gyfer sawl bale arloesol. Roedd ei gyswllt creadigol â’r impresario bale, Serge Diaghilev, yn un o gydweithrediadau mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif, a newidiodd natur bale, ac a agorodd y drws i fyd newydd o archwilio artistig i Picasso.
50 mlynedd ar ôl ei farwolaeth, byddwn yn dathlu ei waith mewn cyngerdd sy’n cynnwys dim ond y gerddoriaeth o’r gweithiau bale yr oedd ef wedi dylunio ar eu cyfer – o Pulcinella Stravinsky lle cafodd straeon traddodiadol eu ‘trawsnewid yn llwyr yn gampweithiau modernaidd trawiadol, gan ail-ddychmygu’r bale fel lleoliad ar gyfer arddulliau, siapiau a ffurfiau avant-garde oedd yn gwrthdaro â’i gilydd’ drwy ei wisgoedd a’i ddyluniadau ar gyfer setiau, i waith onglog, cyfwynebol ac avant-garde Satie, Parade, a chyfres Het Tri Chornel Falla sy’n adrodd stori garu o Sbaen, wedi’i lleoli ym mynyddoedd Andalwsia.
Jurassic Park mewn Cyngerdd
Nos Fercher 13/12/23, 7.30pm
Lleoliad i’w gadarnhau
Nos Iau 14/12/23, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Benjamin Popearweinydd
TEULUOL | ATGOFUS | GWEFREIDDIOL
Pwy sy’n gallu anghofio cerddediad dirgrynol a byddarol y T rex neu synau arswydus y velociraptor? Ymunwch â BBC NOW y mis Rhagfyr hwn ar gyfer Jurassic Park, yn fyw mewn cyngerdd.
Dewch gyda ni i Isla Nublar i ddilyn stori Dr Alan Grant ac Ellie Sattler wrth iddynt frwydro i oroesi yn erbyn deinosoriaid y parc thema pan maent yn adfywio ac yn dianc o’u llociau i geisio rheoli’r ddaear unwaith eto. Gyda delweddau gweledol trawiadol ac effeithiau arbennig arloesol, efallai nad yw’r antur llawn cyffro hon yn nodweddiadol o gyngerdd Nadolig, ond gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio sgôr epig John William yn fyw i’r ffilm, mae’n ffordd briodol iawn o ddathlu pen-blwydd y ffilm eiconig hon yn 30 oed!
Cyfuniadau Gwerinol – Japan a Dwyrain Ewrop
Nos Sadwrn 24/2/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC
Takemitsu Three Film Scores
Kikuko Kanai Okinawa Fantasy Suite première DU
Liszt Concerto i’r Piano Rhif 2
Dvořák The Wood Dove
Nodoka Okisawa arweinydd
Iyad Sughayer piano
TRAWIADOL | CLODFORUS | YSBRYDOLEDIG
Mewn rhaglen sydd wedi ei hysbrydoli gan gerddoriaeth werin, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r arweinydd o Japan, Nodoka Okisawa, i’r podiwm. Daw arddulliau jazz a blues wyneb yn wyneb â cherddoriaeth angladdol a waltz anarferol o bruddglwyfus ond siriol yng ngwaith cerddor arall o Japan, 3 Film Scores gan Tōru Takemitsu. Gan ddatblygu ei llais cyfansoddi unigryw ei hun, Kikuko Kanai oedd un o’r merched cyntaf yn Japan i gyfansoddi cerddoriaeth glasurol Orllewinol, gan gadw ei threftadaeth gerddorol o Okinawa. A hithau’n ymroddedig i drawsgrifio caneuon gwerin, defnyddiodd y rhain fel sail ar gyfer ei gweithiau ei hun, gan gynnwys ei Chyfres Ffantasi Okinawa.
Yn enwog yn yr un modd am ddefnyddio cerddoriaeth werin frodorol yn ei weithiau, roedd Franz Liszt nid yn unig yn gyfansoddwr dylanwadol, ond hefyd yn bianydd cyngerdd penigamp, felly does dim rhyfedd bod ei goncertos i’r piano ymysg ei ddarnau a berfformir amlaf heddiw. Gyda rhamantiaeth hynod, alawon trawsnewidiol a cadenzas tanllyd, daw ei ail goncerto yn fyw dan ofal y pianydd Jordanaidd-Palestinaidd sydd wedi ennill sawl gwobr, Iyad Sughayer. Mae plwc cynhenid Tsiecaidd, teitlau rhaglennol ffansi a’i gariad at faledau gwerin Karel Erben yn disgleirio yn The Wood Dove Dvořák, gyda’i offeryniaeth ddramatig ac atgofus yn troi’n alawon trawsnewidiol. Daw’r goleuni i gwrdd â’r cysgodion, galar i gwrdd â chariad, a darnau corawl i gwrdd â dawnsfeydd – yn syml iawn, adrodd straeon symffonig ar ei orau.
Bywgraffiadau
Martyn Brabbinsarweinydd

Benjamin Ealovega
Benjamin Ealovega
Mae Martyn Brabbins yn Gyn-Gyfarwyddwr Cerdd Opera Cenedlaethol Lloegr. Ac yntau’n ffigwr o bwys ac yn ysbrydoliaeth ym myd cerddoriaeth Brydeinig, mae wedi cael gyrfa brysur ym myd yr opera, ers ei ddyddiau cynnar yn y Kirov ac yn fwy diweddar yn La Scala a’r Bayerische Staatsoper, yn ogystal ag ymddangosiadau rheolaidd yn Lyon, Amsterdam, Frankfurt ac Antwerp.
Mae’n ymddangos fel arweinydd gwadd gyda cherddorfeydd rhyngwladol blaenllaw, gan gynnwys y Royal Concertgebouw, Cerddorfeydd Symffoni Metropolitan Tokyo a San Francisco a Deutsches Symphonie-Orchester Berlin, yn ogystal â’r Philharmonia, Cerddorfa Symffoni’r BBC a’r rhan fwyaf o brif gerddorfeydd eraill y DU. Mae’n ffigwr poblogaidd ym Mhroms y BBC, a gomisiynodd 14 o gyfansoddwyr byw i ysgrifennu teyrnged pen-blwydd iddo yn 2019. Mae’n adnabyddus am ei gefnogaeth i gyfansoddwyr Prydeinig ac mae wedi arwain cannoedd o premières ledled y byd. Mae wedi recordio bron i 150 o gryno-ddisgiau hyd yma, gan gynnwys operâu llwyddiannus gan Korngold, Birtwistle a Harvey. Yn gynharach eleni, enillodd Wobr Arweinydd RPS am ei gyfraniad ‘aruthrol’ at fywyd cerddorol y DU.
Bu’n Brif Arweinydd Cyswllt Cerddorfa Symffoni BBC yr Alban (1994–2005), Prif Arweinydd Gwadd y Gerddorfa Ffilharmonig Ffleminaidd Frenhinol (2009–15), Prif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Nagoya (2012-16), a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Cheltenham (2005–7). Mae’n Athro Arwain y Tywysog Cydweddog yn y Coleg Cerdd Brenhinol, yn Athro Gwadd yng Nghonservatoire Brenhinol yr Alban, ac yn Gynghorydd Artistig i Gymdeithas Gorawl Huddersfield; ers blynyddoedd lawer mae wedi cefnogi’r gwaith o greu cerddoriaeth broffesiynol, amatur a cherddoriaeth gan fyfyrwyr ar y lefel uchaf yn y DU.
Emilie Goddenarweinydd

Mae Emilie newydd gwblhau Cymrodoriaeth Arwain Leverhulme ddwy flynedd drwy Conservatoire Brenhinol yr Alban, ar y cyd â Cherddorfa Symffoni’r Alban y BBC. Martyn Brabbins yw ei mentor. Caiff ei chynorthwyo’n rheolaidd hefyd gan Brif Arweinydd y gerddorfa, Ryan Wigglesworth.
Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys cyngherddau ysgolion gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, perfformiad o Goncerto Glière i’r Corn gyda Richard Watkins a Cherddorfa Symffoni’r Alban y BBC a recordiadau stiwdio i Radio 3. Roedd yn ail arweinydd i’r perfformiadau o Tableau Rhif 6 o Francois d’Assise gan Messiaen gyda Ryan Wigglesworth a BBC SSO. Bu hefyd yn cynorthwyo Ryan Wigglesworth gyda BBC SSO yn y Proms eleni, ac yn cynorthwyo Martyn Brabbins gyda Cherddorfa Ieuenctid Genedlaethol yr Alban yr haf diwethaf.
Fel rhan o Gymrodoriaeth Leverhulme bu’n arwain chwaraewyr chwythbrennau o Gerddorfa Siambr yr Alban ynghyd â myfyrwyr conservatoire mewn perfformiad ochr-yn-ochr o Nightscape Eleanor Alberga. Mae wedi gweithio fel arweinydd cynorthwyol yn Opera Grange Park, ar The Excursions of Mr Brouček to the Moon and the 15th century gan Janáček. Bu hefyd yn arwain cyngerdd agoriadol Gŵyl Haf St Endellion 2022 yng Nghernyw.
Cyn bo hir bydd ganddi gyngherddau gyda Sinfonia St Woolos yng Nghadeirlan Casnewydd a Cherddorfa Symffoni Caerfaddon.
Emma Tringsoprano

Mae Emma Tring yn soprano sydd wedi’i hyfforddi’n glasurol o dde Llundain. Astudiodd yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall ac mae ganddi gariad arbennig at ganu repertoire newydd; mae wedi perfformio darnau am y tro cyntaf erioed gan Nicholas Korth, John Pickard, Gabriel Jackson, David Goode a Michael Finnissy.
Mae hi wedi bod yn soprano gyda Chantorion y BBC am dros ddegawd, gan ddatblygu ei hyblygrwydd mewn amrywiaeth eang o repertoire. Mae hi hefyd yn aelod o Exaudi, grŵp sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth gyfoes.
Mae hi wedi ymddangos fel unawdydd cyngerdd gyda’r English Sinfonia, y New London Sinfonia, Cerddorfa Symffoni’r BBC, Cerddorfa Gyngerdd y BBC, Ensemble Intercontemporain, Cerddorfa Siambr Mahler, Cerddorfa Opera North, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Orchestra of the Age of Enlightenment, Britten Sinfonia, St James Baroque, The Hanover Band ac Ensemble Bryste.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.
Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.
Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.
Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau yn ogystal ag yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.
I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Lowri Porter
Terry Porteus
Ruth Heney
Rebecca Totterdell
Carmel Barber
Zanete Uskane
Anna Cleworth
Alejandro Trigo
Amy Fletcher
Anya Birchall
Peter Povey
Catherine Fox
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ros Butler
Sheila Smith
Michael Topping
Lydia Caines
Ilze Abola
Roussanka Karatchivieva
Vickie Ringguth
Beverley Wescott
Joseph Williams
Katherine Miller
Sebastian Canellis
Fiolâu
Catherine Marwood ‡
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Catherine Palmer
Robert Gibbons
Liam Brolly
James Drummond
Daire Roberts
Carl Hill
Soddgrythau
Alice Neary *
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Keith Hewitt
Katy Cox
Tabitha Selley
Basau Dwbl
David Stark *
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Antonia Bakewell
Alex Verster
Fabian Galeana
Ffliwtiau
Fiona Fulton ‡
John Hall †
Charlotte Thomas
Piccolos
Fiona Fulton
Charlotte Thomas
Ffliwt Alto
Fiona Fulton
Oboau
Steve Hudson *
Sarah-Jayne Porsmoguer
Clarinetau
William Knight ‡
William White
Lenny Sayers
Clarinét Bas
Lenny Sayers †
Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Alexandra Davidson
David Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Tim Thorpe *
John Davy
Neil Shewan †
Jack Sewter
Lynn Henderson
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Lewis West
Trombonau
Donal Bannister*
Robb Tooley
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Christina Slominska
Offerynnau Taro
Phil Hughes *
Harry Lovell-Jones
Y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †
Harpsicord
Satoko Doi-Luck
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentisiaid BBC Cymru Analese Thomas-Strachan, Jordan Woodley
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

