Cyngerdd Clo’r Tymor
Nos Iau 1/6/23, 7.30pm
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd
Nos Wener 2/6/23, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Grace Williams
Concert Overture 7’
Wolfgang Amadeus Mozart
Symffoni Rhif 39 29’
EGWYL: 20 munud
Richard Strauss
Don Quixote 38’
Ryan Bancroftarweinydd
Alice Nearysoddgrwth
Rebecca Jonesfiola

Bydd y cyngerdd yng Nghaerdydd yn cael ei ddarlledu’n fyw gan Radio 3 in Concert; bydd y cyngerdd yn Abertawe yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar BBC Radio 3 ar raglen Afternoon Concert yn y dyfodol. Byddant ar gael am 30 diwrnod ar ôl eu darlledu ar BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnig podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth i chi. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.

Cyllid gan raglen Sirens Ymddiriedolaeth ABO, sef menter ddeng mlynedd i gefnogi’r gwaith o berfformio a hyrwyddo cerddoriaeth gan gyfansoddwragedd hanesyddol, sydd wedi’i gwneud yn bosibl i berfformio Concert Overture Grace Williams.
Croeso

Ar gyfer diweddglo’r tymor heno, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, yn ôl ar gyfer rhaglen addas o ddathlu.
Rydyn ni’n dechrau yn ein mamwlad, gyda’r Concert Overture gan Grace Williams, ei darn cerddorfaol cynharaf sydd wedi goroesi, ac un lle mae ei doniau amrywiol eisoes yn amlwg iawn.
Symffoni Rhif 39 Mozart yw’r cyntaf o’i driptych olaf ac yn y darn hwn gwelwn ei feistrolaeth lwyr ar waith, o naws rodresgar y cyflwyniad, mor nodweddiadol ag unrhyw agorawd opera, i egni dawnsio tanbaid y symudiad olaf.
Mae’r cyngerdd yn darfod mewn hwyliau anorchfygol o dda hefyd, gyda Don Quixote, gan Richard Strauss. Mae’n seiliedig ar nofel Miguel de Cervantes, sy’n adrodd anturiaethau gwyllt ei arwr camddychmygol, rôl a chwaraeir gan y soddgrwth, a gwas dioddefgar Don Quixote, sef Sancho Panza, sy’n cael ei chwarae gan y fiola. Heno mae’r rhain yn cael eu chwarae gan Brif Offerynwyr Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Alice Neary a Rebecca Jones.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Grace Williams (1906–77)
Concert Overture (1932)

Ac eithrio’r agorawd Hen Walia (1930) a’r gyfres pedwar symudiad ar gyfer Cerddorfa (1932), Concert Overture Williams yw’r cyntaf o’i gweithiau cerddorfaol i oroesi. Fe’i hysgrifennwyd ar gyfer cystadleuaeth gan The Daily Telegraph yn 1932–3 lle gafodd ‘ganmoliaeth uchel’, dilynodd ei ddau ragflaenwr wrth gael ei berfformio am y tro cyntaf (yn 1935) yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan Gerddorfa Symffoni Llundain. Does dim cofnodion o berfformiadau pellach yn bodoli – efallai oherwydd ei bod yn ymddangos bod y cyfansoddwr ei hun wedi dinistrio unrhyw rannau cerddorfaol gwreiddiol yn ddiweddarach. (Gellir gweld tystiolaeth o’r digwyddiad hwn ar sgôr y llawysgrif ei hun, a ddiystyrir fel ‘ddim yn werth ei berfformio’, ac yn nyddiadur Williams, sy’n cofnodi 10 Mai 1951 – pan ddinistriodd nifer o’i sgorau llawysgrif – fel ‘DIWRNOD DINISTRIO’.)
Yn wahanol i Hen Walia, nid yw Concert Overture yn defnyddio alawon traddodiadol ac nid oes ganddo raglen amlwg. Mae’n feistrolgar o’r dechrau ac nid yw’n gwyro’n aml o’r tempo Allegro con brio agoriadol neu’r Agitato di molto (‘Yn gynhyrfus iawn’) ac yn yr un modd, mae’n rhannu agweddau ar ei iaith gerddorol â gweithiau eraill Grace Williams yn y 1930au a’r 1940au – lle mae biograffydd y cyfansoddwr, Malcolm Boyd, wedi sylwi bod ‘y donyddiaeth yn aml yn eithriadol o anniffiniadwy’. Er hynny, saernïwyd y gwaith yn eithriadol o dda, ac mae’r un mor gynrychioladol o arddull gynnar Williams â’i gweithiau mwy adnabyddus fel Penillion a’r Concerto i’r Trwmped mewn sgorau diweddarach.
Nodyn y rhaglen © Graeme Cotterill
Darllen Pellach: Grace Williams (Cyfansoddwyr Cymru) Malcolm Boyd (Gwasg Prifysgol Cymru)
Wolfgang Amadeus Mozart (1756–91)
Symffoni Rhif 39 yn E feddalnod fwyaf, K543 (1788)

1 Adagio – Allegro
2 Andante con moto
3 Menuetto a Trio
4 Allegro
Y cyntaf o dair symffoni olaf Mozart yw’r un lleiaf cyfarwydd, er mai dyma’r un y cawn yr awgrym cyntaf o adroddiad ar berfformiad – rhoddwyd ‘symffoni fawr yn E feddalnod fwyaf mewn cyngerdd coffa i Mozart yn Hamburg ym mis Chwefror 1792. (Ar y pryd, nid oedd ‘ symffoni fawr’ yn arwydd o hyd, ond yn hytrach bod y trwmpedi a’r drymiau wedi cael eu hychwanegu at y gerddorfa Glasurol safonol.) Ym 1806, cyhoeddodd beirniad ei fod ‘yn ddigon adnabyddus i ganiatáu’r rhagdybiaeth bod y darllenydd wedi’i ddysgu ar ei gof’, ond mae ei enwogrwydd wedi’i edwino ers tro byd gan y diddordeb a ddangoswyd yn ddiweddarach ar gyfer naws ‘Ramantus’ Rhif 40 a’r llysenw bachog (‘Jupiter’) a rhagoriaeth drawiadol Rhif 41. Ac eto, nid yw’r un yma’n llai cynrychioliadol o athrylith Mozart, ac mae’n fwy telynegol yn gyffredinol na’r ddau arall, gyda’i alaw’n cyfuno â chadernid a chryfder daearol, yn ogystal â chyffyrddiad o deimladau pruddglwyfus hydrefol.
Mae’r symudiad cyntaf yn agor gyda chyflwyniad mawreddog, lle mae’r drymiau bygythiol, graddfeydd disgynnol y ffidil a’r anghyseinedd enbyd yn rhoi ysgytwad cryf o ofn. Mae’r naws tywyll yn cael ei chwalu yma cyn bo hir, fodd bynnag, wrth i brif gorff y symudiad gyrraedd, Allegro sy’n cyfosod darnau egnïol a byrlymus yn feistrolgar ar gyfer cerddorfa lawn gydag alawon araf ac ysgafn i’r ffidil.
Mae’r Andante con moto yn dechrau gyda’r llinynnau ar eu pen eu hunain mewn thema heddychlon, y tarfir arnynt ddwywaith gan hyrddiau emosiynol yn y cywair lleiaf, ac mae’r ail yn fwy gofidus na’r cyntaf. Fodd bynnag, mae awyrgylch fugeiliol yr agoriad yn cael ei sefydlu unwaith eto.
Mae’r Menuetto yn datblygu naws rodresgar aristocrataidd wrth i’r utgorn a’r drymiau ddychwelyd, ac mae’n cynnwys Triawd gwerinol y mae eu halaw, a gyflwynir gan bâr o glarinetau, yn seiliedig ar alaw Ländler draddodiadol, yn ôl pob tebyg.
Daw’r symffoni i ben gyda diweddglo sydd wedi cael ei gymharu’n briodol â Haydn, am ei brif thema sionc ac anorchfygol, ac am y ffraethineb a’r naws chwareus y mae Mozart yn ei gyflwyno ar sawl ffurf ac agwedd.
Nodyn y rhaglen © Lindsay Kemp
Gwrando Pellach: Cerddorfa Siambr yr Alban/Charles Mackerras (Linn CKD308)
Darllen Pellach: Mozart: The Reign of Love Jan Swafford (Faber)
EGWYL: 20 munud
Richard Strauss (1864–1949)
Don Quixote, ‘Amrywiadau rhyfeddol ar thema cymeriad y marchog’, Op. 35 (1896–7)

1 Rhagarweiniad: Wrth ddarllen straeon am farchogion, aeth Don Quixote o’i gof a phenderfynodd fod yn farchog
2 Thema: Don Quixote, y Marchog a’i Wedd Druenus
3 (Thema) Sancho Panza
4 Amrywiad 1: Yr antur gyda’r melinau gwynt
5 Amrywiad 2: Y frwydr fuddugoliaethus gyda byddin yr Ymerawdwr Alifanfaron [y frwydr gyda’r ddafad]
6 Amrywiad 3: Sgwrs rhwng y marchog a’i sgweier
7 Amrywiad 4: Antur gyda’r pererinion
8 Amrywiad 5: Gwylnos y marchog
9 Amrywiad 6: Cyfarfod Dulcinea
10 Amrywiad 7: Y daith drwy’r awyr
11 Amrywiad 8: Y fordaith ar y cwch cyfareddol
12 Amrywiad 9: Y gystadleuaeth gyda’r ddau ddewin
13 Amrywiad 10: Gornest gyda Marchog y Lleuad Llachar
14 Diweddglo
Alice Neary soddgrwth
Rebecca Jones fiola
Dechreuodd Richard Strauss ar ei gathl symffonig, Don Quixote ym 1896, ar ôl iddo orffen ei ddarn epig, sef Also sprach Zarathustra, a oedd yn ymateb cerddorol i’r cysyniad o’r arwr ysbrydol a ddatblygwyd gan yr athronydd Friedrich Nietzsche. Ond mae Zarathustra Strauss yn dod i ben gydag amwysedd tywyll – yn union fel yr oedd gyrfa ysgrifennu manig Nietzsche wedi dod i ben mewn gwallgofrwydd. Yn arwyddocaol, mae Don Quixote yn seiliedig ar anturiaethau darpar arwr camddychmygol, a bortreadir gan yr awdur o Sbaen, sef Miguel de Cervantes. Ac er nad darn o waith doniol yw Zarathustra gan Strauss, mae Don Quixote yn llawn hiwmor sy’n tynnu’r gwynt o unrhyw fawreddogrwydd. Mae rhai gwrandawyr yn ei weld yn rhy hurt – yn enwedig yr enwog Amrywiad 2, lle mae’r adran bres yn dynwared defaid yn brefu.
Serch hynny, nid dim ond llond sach o effeithiau rhyfeddol yw Don Quixote. Mae’r cynllun thema ac amrywiadau clasurol yn cyfuno â stori Don Quixote a’i anturiaethau, ac mae’n cael ei wneud yn fedrus iawn – gallech ei alw’n ‘Amrywiadau sy’n adrodd hanes Obsesiwn’. Ar yr un pryd, mae Strauss yn defnyddio elfennau o’r concerto Rhamantaidd, gan roi rôl amlwg i unawd soddgrwth, sy’n cynrychioli’r gŵr urddasol ond gwallgof Don Quixote, gydag unawd fiola yn ei gysgodi (a’r charinét bas a’r tiwba tenor yn ychwanegu ato), sy’n cynrychioli ei was cwbl gall, sef Sancho Panza.
Cyn i ni glywed thema cymeriad y marchog, sy’n cynrychioli Don Quixote ei hun, mae yna Gyflwyniad sylweddol, sy’n cyflwyno nifer o themâu pwysig. Yma, rydyn ni’n gweld Don Quixote yn colli ei afael yn raddol ar realiti wrth iddo ddarllen am yr holl weithredoedd bonheddig. Nesaf, daw’r unawd soddgrwth gyda thema arw sy’n cynrychioli Don Quixote, ‘y Marchog a’i Wedd Druenus’, wedi’i ddilyn gan yr hunan arall digrif, Sancho Panza (ar y tiwba tenor, y clarinet bas a’r fiola sydd ychydig yn gwynfanllyd).
Mae’r ddau’n mynd yn eu blaenau, yn dod ar draws melinau gwynt (y ffliwtiau â’u nodau llawn cyffro, a chrychnodau’r ffidil), sy’n gewri yn nhyb Quixote, ac mae’n ceisio brwydro yn eu herbyn, yn drychinebus. Yna, maen nhw’n dod ar draws defaid (offerynnau pres cryg a thawel, fel tafodau’n crynu), ac eto yma mae Don yn ymosod arnynt, ac yna gwelir pererinion crefyddol yn llafarganu. Mae dawns fach ryfedd (y chwythbrennau a’r tambwrîn) yn cyflwyno’r ferch fras o’r wlad, Dulcinea, y mae Quixote yn credu sy’n gariad delfrydol iddo. Mae Amrywiad 7 yn dod â’r uchafbwynt trawiadol: wrth eistedd ar gefn ceffyl pren, mae Quixote yn credu ei fod yn hedfan drwy’r awyr. (Y chwythbrennau’n chwyrlïo, y delyn a’r llinynnau uchel, yn ogystal â’r peiriant chwyth.) Yn y diwedd, mae ‘Marchog y Lleuad Llachar’ (un o ffrindiau’r Don sydd mewn cuddwisg) yn ei drechu’n hawdd, ac mae’r diweddglo chwerwfelys yn darlunio dadrithiad a marwolaeth boenus Quixote. Ond mae tipyn o hiwmor ysmala ar y diwedd – barn derfynol Sancho Panza?
Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson
Gwrando Pellach: Tabea Zimmermann; Jean-Guihen Queyras; Gürzenich-Orchester Köln/François-Xavier Roth (Harmonia Mundi HMM902370)
Darllen Pellach: Richard Strauss: Man, Musician, Enigma Michael Kennedy (CUP)
Bywgraffiadau
Ryan Bancroft arweinydd

Lun: Benjamin Ealovega
Lun: Benjamin Ealovega
Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018, pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, bu’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf i weithio gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yn Artist Cyswllt o dymor 2021–22 ymlaen. Y llynedd, cyhoeddwyd ei fod yn Brif Arweinydd Dynodedig Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm a bydd yn dechrau yn y swydd fis Medi nesaf.
Mae wedi perfformio am y tro cyntaf gyda nifer o gerddorfeydd blaenllaw yn Ewrop, gan gynnwys y Philharmonia, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain a Rotterdam, Cerddorfa Symffoni’r BBC, Cerddorfa Symffoni Cenedlaethol Denmarc a Cherddorfa Symffoni Radio Sweden, Cerddorfa Capitole Toulouse, RAI Turin ac Ensemble Intercontemporain. Yng Ngogledd America, mae wedi gweithio gyda cherddorfeydd Symffoni Baltimore, Houston a Toronto a bydd y tymor hwn yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Dallas a Cherddorfa Minnesota. Mae hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Suntory Hall gyda New Japan Philharmonic a Midori, yn y Royal Festival Hall gyda’r Philharmonia a Syr Stephen Hough ac yn y Royal Concertgebouw gyda Cherddorfa Ffilharmonig yr Iseldiroedd. Mae hefyd yn dychwelyd at gerddorfeydd Symffoni Dinas Birmingham, Gothenburg a Malmö.
Mae’n frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble, Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, Cage, Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio’n agos gyda threfnwyr byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden. Dychwelodd i weithio gydag Ensemble Intercontemporain ym mis Mis Ebrill.
Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd.
Alice Neary soddgrwth

Mae gan Alice Neary yrfa berfformio llawn amrywiaeth fel cerddor siambr, unawdydd a Phrif Chwaraewr soddgrwth Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae ei pherfformiadau mewn gwyliau yn cynnwys cyfres siambr Proms y BBC, Marlboro, Caerfaddon, Santa Fe (UDA) a Lofoten. Mae ei pherfformiadau diweddar yn cynnwys concerti gan Honegger a Cheryl Frances-Hoad gyda BBC NOW a chyngerdd hanner canmlwyddiant IMS Prussia Cove yn Neuadd Wigmore.
Roedd hi’n aelod o’r Gould Piano Trio rhwng 2001 a 2018, gan recordio dros 25 CD gyda nhw, yn ogystal â pherfformio’r première o waith newydd gan Syr James MacMillan a Mark Simpson.
Mae wedi ymddangos fel offerynnwr gwadd ar y soddgrwth gyda nifer o grwpiau, gan gynnwys y Nash Ensemble, Ensemble 360 a’r pedwarawdau Endellion, Elias, Callino a Heath. Mae’n cydweithio â’r pianyddion Benjamin Frith, Viv McLean, Robin Green a Daniel Tong.
Mae’r cynlluniau ar gyfer y tymor nesaf yn cynnwys cylch sonata Beethoven gyda Viv McLean ac ymddangosiadau yng ngwyliau Marlboro ac At the World’s Edge , Seland Newydd.
Astudiodd gyda Ralph Kirshbaum yn yr RNCM ac fel ysgolhaig Fulbright gyda Timothy Eddy Brook yn Stony Brook, Unol Daleithiau America. Enillodd Wobr Pierre Fournier yn 1998, gan ymddangos am y tro cyntaf yn Neuadd Wigmore y flwyddyn ganlynol.
Yn y gorffennol, mae wedi addysgu soddgrwth yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr a’r Coleg Cerdd Brenhinol ac mae bellach yn ei thref enedigol, Caerdydd, lle mae’n gymrawd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fe wnaeth hi a’i gŵr David Adams sefydlu Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Penarth yn 2014.
Mae Alice Neary’n chwarae soddgrwth gan Alessandro Gagliano o 1710.
Rebecca Jones fiola

Lun: James Fear
Lun: James Fear
Symudodd Rebecca Jones i Gaerdydd ar ôl cael ei phenodi’n Brif Chwaraewr Fiola Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ar ôl gweithio’n llawrydd yn Llundain am nifer o flynyddoedd. Hi oedd Prif Chwaraewr Fiola Cynorthwyol Sinfonia Dinas Llundain ac mae’n parhau i fod yn brif chwaraewr gwadd gyda nifer o gerddorfeydd y DU, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni Llundain, Cerddorfa Siambr yr Alban a’r grŵp offerynnau cyfnod Arcangelo, yn perfformio Chweched Concerto Brandenburg Bach gyda’r olaf o’r rhain yn Neuadd Wigmore.
Mae’n gerddor sesiwn prysur ac wedi teithio gydag Adele, Bjørk a’r Stereophonics. Mae hefyd yn aelod hir-sefydledig o Bedwarawd Callino, sydd wedi chwarae yn Neuadd Wigmore; mae wedi cael cyfnod preswyl ddwywaith yng Nghanolfan Banff yng Nghanada, lle bu’r grŵp hefyd yn cwrdd ac yn cydweithio ag Arcade Fire; ac wedi treulio wythnos yn Efrog Newydd gyda’r arbenigwyr cyfoes, Pedwarawd Kronos, gan ddod i ben gyda chyngerdd yn Neuadd Carnegie.
Astudiodd ym Manceinion, yn gyntaf yn Ysgol Gerdd Chetham ac wedyn yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr, gan ddilyn gyda gwaith ôl-radd gyda Thomas Riebl yn Universität Mozarteum Salzburg.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes.
Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.
Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jones is-arweinydd
Cecily Ward
Terry Porteus
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Anna Cleworth
Juan Gonzales
Ruth Heney
Daniel Joseph
Yuriko Matsuda
Rebecca Totterdell
Zanete Uskane
Anya Birchall
Tamaki Mott
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Emre Egin
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Beverley Wescott
Sellena Leony
Lydia Caines
Ilze Abola
Jane Sinclair
Anna Fletcher
Anna Szabo
Laura Riley
Georgina Leo
Fiolâu
Rebecca Jones
Alex Thorndike
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Ania Leadbeater
Laura Sinnerton
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Lydia Abell
Amir Liberson
Carl Hill
Lucy Theo
Soddgrythau
Reinoud Ford ‡
Raphael Lang
Keith Hewitt #
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Kathryn Graham
Jacky Phillips
Thomas Rann
Basau Dwbl
David Stark
Alexander Jones
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Emma Prince
Thea Sayers
Ben Havinden-Williams
Mike Chaffin
Ffliwtiau
Thomas Hancox ‡
John Hall †
Lindsey Ellis
Piccolo
Lindsey Ellis †
Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Cor Anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †
Clarinetau
Peter Sparks ‡
Jillian Allan
Clarinét E Feddalnod
Jillian Allan
Clarinét Bas
Lenny Sayers †
Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Lois Au
Laura Vincent
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
John Davy
Neil Mitchell
Max Garrard
Hugh Seenan
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Dean Wright
Trombonau
Donal Bannister*
Fernando Martin
Jake Durham
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-Rediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorth-Wyydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata a Chynulleid-Faoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruch-Wylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
Prentisiaid BBC Cymru Josh Gill, Analese Thomas-Strachan, Jordan Woodley
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

