Perfformio Picasso

Nos Wener 8/12/23, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC

Igor Stravinsky
Pulcinella 48’

EGWYL: 20 munud

Erik Satie
Parade 17’

Igor Stravinsky
Ragtime 4’

Manuel de Falla
El Sombrero de Tres Picos – Cyfres Rhif 2 12’

Ryan Bancroft arweinydd
Katharine Dain soprano
Jorge Navarro Colorado tenor
Michel de Souzabariton

Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol yn Radio 3 in Concert, yn cael ei ffrydio’n fyw drwy wefan BBC NOW ac mae gweithiau Satie a Falla yn cael eu ffilmio i'w rhyddhau yn y dyfodol yng Nghyfres Cyngherddau Digidol BBC NOW.

Cyflwyniad

Croeso i’r cyngerdd heno, lle bydd Prif Arweinydd BBC NOW Ryan Bancroft yn cyflwyno rhaglen i ddathlu athrylith Picasso 50 mlynedd ar ôl ei farw.

Diolch i’r impresario mawr Serge Diaghilev, a wnaeth argraff fawr ym Mharis gyda’i Ballets Russes, y cymerodd Picasso ran gyda rhestr a oedd eisoes yn drawiadol o artistiaid gweledol, cyfansoddwyr a choreograffwyr.

Creodd Picasso ddyluniadau ar gyfer gweithiau mor wahanol â Pulcinella, Parade a El Sombrero de Tres Picos. Ar gyfer y cyntaf o’r rhain ysgrifennodd Stravinsky y gerddoriaeth, er ei fod yn wahanol iawn o ran arddull i’w gydweithrediadau Ballets Russes blaenorol (yn fwyaf enwog The Rite of Spring). Yn hytrach, ar gyfer Pulcinella, daeth yr ysbrydoliaeth o’r Eidal yn y 18fed ganrif. Roedd Stravinsky yn bioden gerddorol go iawn ac roedd ei Ragtime hollol wahanol, yn adlewyrchu’r chwiw ddiweddaraf a oedd yn ysgubo drwy neuaddau dawns y cyfnod, ond gan ei gwneud yn eiddo diamau iddo’i hun yn y broses.

Camodd Erik Satie a Jean Cocteau i’r maes gyda Parade, gan greu rhywbeth cwbl anarchaidd, ar y cyd â Picasso.

I ddiweddu, yr Ail Suite o waith Manuel de Falla El Sombrero de Tres Picos, lle y mae rhialtwch a thriongl cariad yn cael eu cynnal gan sgorio atgofus y Sbaenwr.

Mwynhewch!

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Igor Stravinsky (1882–1971)

Pulcinella(1919–20, diw. 1965)

1 Agorawd: Allegro moderato
2 Serenata: Larghetto: ‘Mentre l’erbetta’ –
3 Scherzino: Allegro –
4 Allegro –
5 Andantino –
6 Allegro –
7 Ancora poco meno: ‘Contento forse vivere’ –
8 Allegro assai –
9 Allegro (alla breve) ‘Con queste paroline’ –
10 Andante: ‘Sento dire no’ncè pace’ – Allegro: ‘Ncè sta quaccuna po’ – Presto: ‘Una te fallan zemprecce’ – Larghetto – 
11 Allegro – Alla breve – 
12 Tarantella – 
13 Andantino: ‘Se tu m’ami’ – 
14 Allegro –
15 Allegro –
16 Gavotta con due variazioni: Allegro moderato – Allegretto – Allegro più tosto moderato – Vivo –
17 Tempo di minuetto: ‘Pupillette, fiammette d’amore’ –
18 Finale: Allegro assai

Katharine Dain soprano
Jorge Navarro Colorado tenor
Michel de Souzabariton

Roedd Serge Diaghilev yn arbenigwr celf cyn iddo ddod yn sylfaenydd-reolwr y Ballets Russes. Yn y rôl honno roedd yn ymwneud â setiau a gwisgoedd yn ogystal â cherddoriaeth a choreograffi. Am gyfnod, galwodd ar wasanaeth yr artistiaid Rwsiaidd yr oedd wedi eu dwyn gydag ef o orllewin Ewrop, ond wedyn, hoeliodd y sîn gelf ym Mharis ei sylw, a  Picasso oedd un o'r artistiaid cyntaf o'r tu allan i Rwsia a gomisiynwyd ganddo, yn gyntaf ar gyfer Parade yn 1916–17, ac yna ar gyfer El Sombrero de Tres Picos yn 1919 a Pulcinella yn 1919–20.

Syniad Diaghilev yn llwyr oedd y bale olaf hwn. Roedd ei sgôr yn cynnwys symudiadau sonata ac unawdau gan y cyfansoddwr o Napoli, Giovanni Battista Pergolesi (1710–36) wedi’u trefnu gan ei hoff gyfansoddwr, Stravinsky. Yn alltud o Rwsia oherwydd Chwyldro Hydref 1917, roedd Stravinsky yn ansicr sut i symud ymlaen, ac roedd hwn yn ymddangos yn gystal cynnig ag unrhyw un.

Parhaodd cerddoriaeth Pergolesi yn hynod boblogaidd am ddegawdau ar ôl ei farwolaeth gynnar, a darganfuwyd yn ddiweddarach yn yr 20fed ganrif nad oedd llawer a gyhoeddwyd dan ei enw yn eiddo iddo ef o gwbl – gan gynnwys y rhan fwyaf o’r darnau a ddefnyddiodd Stravinsky. Ond mewn ffordd, mae hyn yn teimlo’n iawn: Mae sgôr Stravinsky yn gellwair blodeuog: Cerddoriaeth o’r 18fed ganrif wedi’i droi’n gwbl gyfoes. Yn y pen draw, mae’n ffugiad sy’n seiliedig ar ffugion.

Gwyddai Stravinsky ei fod yn chwarae gêm: yn newid lleoliad cordiau, yn asio darnau at ei gilydd (Ciwbiaeth ymhen amser), gan roi lliwiau offerynnol newydd eofn a rhannau unawdol trawiadol i’r gerddoriaeth. Roedd yn gwneud popeth ei hun, gan daflu ei oleuni llachar ei hun drwy dudalennau’r 18fed ganrif. Ac o’r hyn a allai fod wedi ymddangos ar y pryd fel eilbeth, sef trefnu cerddoriaeth cyfansoddwr arall, dysgodd rywbeth; darganfu’r pleser o weithio gyda system gerddorol o’r gorffennol. Daeth Pulcinella meddai, yn ‘basport’ iddo at ddyfodol Neoglasurol a fyddai’n cynnwys llawer o weithiau dros y 30 mlynedd nesaf.

Dechreuodd y sgôr ym mis Medi 1919 a’i orffen yr Ebrill canlynol, gan gynhyrchu dilyniant o symudiadau byr sy’n dangos amrywiaeth o ran sgorio a chysondeb tonyddiaeth. Mae tri chantor – tenor, soprano a bariton – yn aros o’r darnau lleisiol gwreiddiol, fel pe baent ar goll o’r fframwaith a oedd yn gyfarwydd iddynt. Weithiau, fel pan mae’r tenor yn cynnig serenâd yn gynnar, mae’r hyn maen nhw’n ei ganu yn ymwneud â symudiadau’r bale, a oedd yn seiliedig ar theatr stryd Eidalaidd y cyfnod. (Mae Pulcinella yn gymeriad sydd bob amser yn llwyddo i ddod allan ohoni ar y brig.) Ond nid yw’r cantorion yn cynrychioli cymeriadau fel y cyfryw, ac roedd Stravinsky yn bwriadu eu gosod yn ardal y gerddorfa, ynghyd â gweddill ei symudiadau cerddorol afieithus.

Nodyn y rhaglen © Paul Griffiths

Geiriau yn Eidaleg

Tenor
Mentre l’erbetta
pasce l’agnella, 
sola, soletta
la pastorella
tra fresche frasche
per la foresta 
cantando va.

Soprano
Contento forse vivere
nel mio martir potrei,
se mai potessi credere
che, ancor lontan, tu sei
fedele all’amor mio,
fedele a questo cor. 

Bariton
Con queste paroline
così saporitine
il cor voi mi scippate
dalla profondità.
Bella, restate quà, 
che se più dite appresso
io cesso morirò.
Cosi saporitine
con queste paroline
il cor voi mi scippate,
morirò, morirò.

Soprano, Tenor, Bariton
Sento dire no’ncè pace. 
Sento dire no’ncè cor,
ma chiù pette, no, no,
no’ncè pace chiù pe’tte.

Tenor
Chi disse cà la femmena 
sacchiù de farfariello
disse la verità, disse la verità.

Soprano, Tenor
Ncè sta quaccuna pò
che a nullo vuole bene
è à ciento frisco tene
schitto pe scorco glià,
é à tant’antre malizie
chi mai le pò conta.

Tenor
Una te fallan zemprecce
ed è maleziosa,
n’antra fa la schefosa
e bò lo maritiello, 
ncè stà quaccuno pò
che a nullo  ude tene
chia chillo tene’ncore,
è à chisto fegne amore
è cienton frisco tene
schitto pe scorco glià
è tane antre malizie
chi mai le pò contà.

Soprano
Se tu m’ami, se tu sospiri
sol per me, gentil pastor,
ho dolor de’ tuoi martiri,
ho diletto del tuo amor,
ma se pensi che soletto
io ti debba riamar,
pastorello, sei soggetto
facilmente a t’ingannar.
Bella rosa porporina
oggi Silvia sceglierà,
con la scusa della spina
doman poi la sprezzerà.
Ma degli uomini il consiglio
io per me non seguirò.
Non perchè mi piace il giglio
gli altri fiori sprezzerò.

Soprano, Tenor, Bariton
Pupillette, fiammette d’amore,
per voi il core struggendo si va.

Testun Anhysbys

Cyfieithiad i’r Gymraeg

Tra bo’r oen yn pori
ar y borfa werdd,
mae’r fugeiles,
sydd ar ben ei hun
ymysg y llwyni deiliog,
yn mynd dan ganu
drwy’r coed.

Soprano
Efallai y gallwn i fyw
yn fodlon yn fy ngwewyr
pe na allwn i ond credu
dy fod, er yn bell i ffwrdd,
yn ffyddlon i’m cariad,
yn ffyddlon i'r galon hon.

Bariton
Gyda’r fath eiriau
swynol â’r rhain,
rwyt ti’n rhwygo fy nghalon
o’i gwreiddiau.
Brydferth un, aros yma,
canys os byddi’n parhau i siarad
byddaf yn sicr yn marw.
Gyda’r fath eiriau
swynol â’r rhain
rwyt ti’n rhwygo fy nghalon;
byddaf farw, byddaf farw.

Soprano, Tenor, Bariton
Clywaf ddywedyd nad oes heddwch,
Clywaf ddywedyd nad oes calon;
i ti, ysywaeth, nac oes, byth,
does dim mwy o heddwch.

Tenor
Mae’r sawl sy’n dweud bod menyw
yn fwy cyfrwys na’r diafol
yn dweud y gwir, dweud calon y gwir.

Soprano, Tenor
Mae rhai menywod
sy’n caru neb
a chadw cant ar linyn,
yn eu twyllo’n agored i gyd,
a chanddynt gynifer o driciau,
llawer, llawer iawn o driciau,
na allai neb eu cyfrif.

Tenor
Un yn ffugio diniweidrwydd
ond eto’n gyfrwys,
mae un arall yn gweithio'n galed i blesio
ac un arall yn dyheu am ŵr.
Mae rhai, hefyd,
sy’n caru neb – gwrandewch arna i –
sy’n dal un dyn yn dynn
a gwneud llygaid ar un arall,
a chadw cant ar linyn,
yn eu  twyllo’n agored i gyd,
a chanddynt gynifer o driciau,
llawer, llawer iawn o driciau,
na allai neb eu cyfrif.

Soprano
Os wyt ti’n fy ngharu, os mai drosof i yn unig
yr wyt yn ochneidio, fugail annwyl,
rwy’n galaru am dy dioddefaint,
rwy’n ymhyfrydu yn dy gariad.
Ond os wyt ti’n credu y dylwn i
dy garu di yn unig,
fugail annwyl, mae’n debygol iawn
y profir di’n hawdd yn anghywir.
Heddiw, efallai y bydd Sylvia’n dewis
rhosyn rhuddgoch hardd,
ond bydd yfory’n troi oddi wrtho
gan nodi draenen yn esgus.
Ond, o fy rhan i,
Wnaf i ddim dilyn cyngor dynion:
dim ond am fy mod i’n hoffi’r lili
wna i ddim wfftio blodau eraill.

Soprano, Tenor, Bariton
Llygaid tlws, yn pefrio gan gariad,
amdanat ti mae ‘nghalon yn hiraethu.

Cymen translation credit here

EGWYL: 20 munud

Erik Satie (1866–1925)

Parade (1916–17)

1 Choral [Corâl]
2 Prélude du rideau rouge [Preliwd y Cyrten Coch]
3 Prestidigitateur chinois [Consuriwr Tsieineaidd]
4 Petite fille américaine [Americanes Ifanc] – Rag-time du paquebot [Ragtime Agerlong]
5 Acrobates [Acrobatiaid]
6 Final [Diweddglo]
7 Suite au Prélude du rideau rouge [Mwy o Breliwd y Cyrten Coch]

Daeth pob cynhyrchiad Ballets Russes â doniau arbennig – rhyfygus, hyd yn oed – at ei gilydd, ond yr un ohonynt yn fwy na Parade. Yn gyntaf, roedd y bardd a’r cacwn meirch ifanc Jean Cocteau, a oedd wedi bod yn awyddus ers blynyddoedd i wneud gwaith i’r cwmni. Ac yntau’n hoff iawn o theatr boblogaidd, roedd ganddo’r syniad o greu sioe allan o gyhoeddusrwydd ar gyfer sioe. Mae perfformwyr neuadd gerdd allan ar y stryd yn ceisio denu cynulleidfa ar gyfer adloniant y noson. Maen nhw’n dangos eu triciau, ac mae’r dorf yn tybio mai dyma’r sioe ei hun ac yn symud ymlaen. Felly, mae’r cyfan yn dod i ben cyn y gallai ddechrau mewn gwirionedd. Byddai’r gerddoriaeth gan Satie, y dyluniadau gan Picasso, y ddau ohonynt wedi’u cyflwyno i Diaghilev gan Cocteau. Byddai’n rhaid i’r coreograffi fod gan Léonide Massine, sef prif goreograffydd Diaghilev, ac a gyflawnodd yr un swyddogaeth ar Pulcinella a El Sombrero de Tres Picos.

Roedd set Picasso a sgôr Satie yn cyfateb yn berffaith. Fel cynfas Giwbyddol, mae’r gerddoriaeth yn cael gwared ar y persbectif traddodiadol. Yn hytrach na symud ymlaen yn barhaus gan greu dyfnder, mae’n cyflwyno arwyneb gwastad o ailadrodd a thoriadau naid. Ac fel y collages y byddai Picasso yn pastio darnau o bapur wal neu hen bapur newydd iddynt, mae’n cynnwys elfennau o fywyd go iawn, gyda’r gerddorfa yn cynnwys teipiadur llaw, gwn a chorn niwl.

Mae cerddoriaeth Parade hefyd yn rhagddarlunio’r Neoglasuriaeth yr oedd Picasso a Stravinsky i’w mabwysiadu cyn bo hir, gyda’r ‘Corâl’ cychwynnol yn cael ei ddilyn gan gyffyrddiad o ffiwg pan fydd y ‘Preliwd y Cyrten Coch’ yn dechrau. Mae alaw sy’n cylchdroi, ar y clarinetau am y tro cyntaf, yn agor yr olygfa ‘Consuriwr Tsieineaidd’ ac mae’n parhau am gyfnod, ac yn cael ei dilyn gan gyfres o elfennau eraill sy’n aros am gyfnod byr cyn symud ymlaen. Mae datchwyddiant sy’n gorffen yn ragtime yn cyflwyno’r ‘Americanes Ifanc’, ac yn yr adran hon rydyn ni’n clywed y teipiadur a’r gwn, fel petai’r rhain yn effeithiau sain ar gyfer ffilm fud. Nesaf, daw ragtime mwy estynedig, yn disgrifio agerlong ac yn dod â’r corn niwl i mewn. Mae’r darn o ddatchwyddiant yn mynd â ni eto at ‘Acrobatiaid’, y gallem, efallai, eu dychmygu’n neidio ac yn sboncio yng ngwisgoedd undarn gwyn a glas Picasso. Mae cerddoriaeth o’r dechrau yn tonni’n ôl i’r adrannau olaf.

Nodyn y rhaglen © Paul Griffiths

Igor Stravinsky

Ragtime (1917–18)

Ddiwedd 1915, soniodd Stravinsky’n frwdfrydig wrth gyfwelydd am y ‘gelf ddilys’ a oedd yn mynd i siopau recordiau a neuaddau dawns yn Ewrop o’r Unol Daleithiau. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd yn gweithio ar Ragtime, ei deyrnged afieithus a hyfryd ei hun, a ysgrifennodd i ddechrau fel darn i'r piano, gan ei gwblhau ym Mawrth 1918. Yna sgoriodd ef fel concerto pedwar munud a hanner ar gyfer cimbalom (blwch o linynnau tynn sy’n cael eu taro â morthwylion) ac ensemble cymysg. I mewn i’r gymysgedd gydag ystrydebau ragtime, felly, yr aeth offeryn o ganolbarth Ewrop ac atgofion o gerddoriaeth werin Rwsia nad oedd byth yn bell o feddwl Stravinsky ar y pryd hwn. Mae’r holl beth yn mynd yn ei flaen mewn amser 4/4, ychydig fel gêm bêl pin gerddorol, gan neidio i ffwrdd i gyfeiriadau anarferol o un ddiweddeb rwystredig i un arall.

Nodyn y rhaglen © Paul Griffiths

Manuel de Falla (1876–1946)

El Sombrero de Tres Picos – Cyfres Rhif 2 (1919)

1  The Neighbours’ Dance (Seguidillas)
2  The Miller’s Dance (Farruca)
3  Final Dance (Jota)

Roedd artistiaid o bob cwr o Ewrop yn cael eu denu i Baris ar ddechrau’r 20fed ganrif, dinas a oedd yn berwi ar y pryd gyda syniadau a chyfleoedd. Aeth Picasso yno yn 1900 a setlo’n barhaol bedair blynedd yn ddiweddarach. Dilynwyd ef gan Sbaenwyr eraill, gan gynnwys ym 1907 Manuel de Falla, a ddaeth, ar wahân i gyfarfod â Debussy, Dukas a Ravel, i adnabod Picasso a Stravinsky. Pan ddechreuodd y rhyfel, yn 1914, aeth yn ôl i Sbaen, dim ond i ganfod pobl y Ballets Russes yn teithio i’r un cyfeiriad ddwy flynedd yn ddiweddarach. Erbyn hynny, roedd yn gweithio ar gerddoriaeth ar gyfer drama, Yr Ynad a Gwraig y Melinydd, ac ymaflodd Diaghilev yn y sgôr hon fel deunydd ar gyfer bale. Yn ystod haf 1917 aeth Diaghilev ar daith o amgylch Sbaen i fynd i berfformiadau dawns gyda’i goreograffydd Massine a’i gyfansoddwr newydd Falla, a fu wedyn yn gweithio ar ddatblygu Yr Ynad a Gwraig y Melinydd i fod yn El Sombrero de Tres Picos. Defnyddiwyd Picasso ar gyfer y dyluniadau, a chafodd y bale ei lwyfannu gyntaf yn Llundain yn 1919.

Mae’r stori yr un fath â stori’r ddrama wreiddiol, yn cynnwys ynad y mae ei fwriadau am wraig melinydd yn cael eu difetha, yn rhannol diolch i’r hyn sy’n digwydd pan fydd y ddau ddyn yn cyfnewid dillad. Mae'r ail ‘suite’ hon yn dod â thair dawns ynghyd o ran olaf y bale, pob un ohonynt yn fathau traddodiadol o Sbaen. Yn gyntaf, daw’r seguidilla, mewn amser triphlyg heb ei brysio. Mae cymdogion yn cyrraedd tŷ’r melinydd am barti gyda’r nos; mae Falla, ochr yn ochr, yn dal i ddod â’i brif thema i mewn, yn aml ar ffurf unawd ar offeryn chwyth sy’n sefyll allan yn yr offeryniaeth soniarus. Mae’r ail ddawns, gyda chyflwyniad o’i blaen, yn farruca, sy’n ddawns flamenco unigol ar gyfer dyn yn draddodiadol. Yma’r dawnsiwr yw’r melinydd. Mae’r trydydd – jota mewn amser triphlyg cyflym – yn para cyhyd â’r ddwy ddawns gyntaf gyda’i gilydd, ac mae’n lliwgar iawn wrth iddi symud drwy gadwyn o alawon yn ôl i’w dechreuad tanbaid. Mae gan bawb sy’n bresennol flanced i daflu’r ynad ffôl iddi.

Nodyn y rhaglen © Paul Griffiths

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant ... 

Jurassic Park mewn Cyngerdd

Nos Fercher 13/12/23, 7.30pm
Arena Utilita Caerdydd

Nos Iau 14/12/23, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Benjamin Popearweinydd

TEULUOL | ATGOFUS | GWEFREIDDIOL

Pwy sy’n gallu anghofio cerddediad dirgrynol a byddarol y T rex neu synau arswydus y felisoraptor? Ymunwch â BBC NOW y mis Rhagfyr hwn ar gyfer Jurassic Park, yn fyw mewn cyngerdd.

Dewch gyda ni i Isla Nublar i ddilyn stori Dr Alan Grant ac Ellie Sattler wrth iddynt frwydro i oroesi yn erbyn deinosoriaid y parc thema pan maent yn adfywio ac yn dianc o’u llociau i geisio rheoli’r ddaear unwaith eto. Gyda delweddau gweledol trawiadol ac effeithiau arbennig arloesol, efallai nad yw’r antur llawn cyffro hon yn nodweddiadol o gyngerdd Nadolig, ond gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio sgôr epig John Williams yn fyw i’r ffilm, mae’n ffordd briodol iawn o ddathlu pen-blwydd y ffilm eiconig hon yn 30 oed!

Shostakovich 13 gyda Ryan Bancroft

Nos Sadwrn 10/2/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Dydd Sul 11/2/24, 3pm
Neuadd Hoddinott y BBC

Beethoven Concerto i’r Piano Rhif 1
Shostakovich Symffoni Rhif 13, ‘Babi Yar’ 

Ryan Bancroft arweinydd
Jonathan Bisspiano
James Platt bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

RADICAL | DRAMATIG | BYWIOG

O’i gymal agoriadol beiddgar i’w ddiweddglo hynod a chwareus, mae Concerto Rhif 1 Beethoven i’r Piano yn un o weithiau mwyaf mawreddog a herfeiddiol ei genhedlaeth. Cafodd ei berfformio gyntaf yn 1798 gan Beethoven ei hun. Ni wyddwn lawer am ei wreiddiau hyd heddiw, ond rydyn ni yn gwybod mai ei ail goncerto oedd hwn mewn gwirionedd, ond ei fod wedi’i gyhoeddi gyntaf, ac felly cafodd ei alw’n Goncerto Rhif 1.

Er bod Shostakovich yn aml yn pechu’r Sofietiaid ac yn cael ei ddiarddel am ei arddangosiadau amlwg o hunanfynegiant ac am ei ddewis o ysbrydoliaeth lenyddol, llwyddodd i dawelu’r dyfroedd gyda Symffonïau dieiriau 11 a 12; ond trodd y drol unwaith eto gyda’r ysbrydoliaeth a sbardunodd naratif ei 13eg Symffoni.

Mae trydedd symffoni ar ddeg Shostakovich, y cyfeirir ati’n aml yn ôl ei llysenw, ‘Babi Yar’, yn ddarn theatrig a throsgynnol, sy’n llawn hiwmor chwerw ac sy’n cynnwys gosodiadau i eiriau o waith Yevgeny Yevtushenko. Gwrthwynebodd Khrushchev, bu bron iddo ganslo’r perfformiad cyntaf, a rhoddodd waharddiad ar unrhyw sylw yn y wasg. Ni chafodd ei chlywed am dros 20 mlynedd ond tua diwedd yr 20fed ganrif daeth yn fwy poblogaidd eto. Nid yw hyn yn syndod o gofio dyfeisgarwch a chywreinrwydd cerddoriaeth Shostakovich, gyda’i chyferbyniadau llym, ei ffraethineb craff a’i chanolbwynt cyweiraidd amwys, wedi’i chyfuno â naws glasurol gynnil a hiraeth rhamantus.

Llwch Sêr ac Eneidiau

LIVESTREAM

Nos Iau 18/4/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC

Alexander Campkin Sounds of Stardust première byd
Dani Howard Gwaith Newydd: Concerto i Offerynnau Taro première byd
Poulenc Stabat mater

Sofi Jeannin arweinydd
y Fonesig Evelyn Glennie offerynnau taro
Julieth Lozano soprano
BBC National Chorus of Wales

ARALLFYDOL | ATMOSFFERIG | DIRGEL

Gyda dau berfformiad cyntaf y byd ac un o berlau’r repertoire corawl, mae’n bleser gennym groesawu’r arweinydd dihafal Sofi Jeannin yn ôl ochr yn ochr â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, y Fonesig Evelyn Glennie ac enillydd Gwobr Cynulleidfa Canwr y Byd Caerdydd, Julieth Lozano Rolong, am noson o archwilio a darganfod cerddorol.

Ond yn gyntaf, premiere byd gan Alexander Campkin a’i Sounds of Stardust. Bydd y Fonesig Evelyn Glennie, yr offerynnwr taro o fri, yn camu i’r llwyfan i berfformio concerto newydd Dani Howard i offerynnau taro am y tro cyntaf, cyn i ni ddathlu campwaith lleisiol Poulenc 60 mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Wedi’i ysgrifennu mewn ymateb i farwolaeth ei gyfaill agos, yr artist Christian Bérard, mae Stabat mater yn cwmpasu’r tywyll a’r golau – cynrychiolaeth wirioneddol o’i Gatholigiaeth ddidwyll, ond hefyd ei ffraethineb a’i gymeriad bywiog.

Bywgraffiadau

Ryan Bancroftarweinydd

Benjamin Ealovega

Benjamin Ealovega

Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018, pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, mae’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf i weithio gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yn Artist Cyswllt yno o dymor 2021/22 ymlaen. Ym mis Medi, daeth yn Brif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm.

Yn ei rôl newydd fel Prif Arweinydd yn Stockholm, bu’n agor y tymor gyda pherfformiad cyntaf y gerddorfa o The High Mass gan Sven-David Sandström ac mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys perfformiadau cyntaf o ddarnau gan Daniel Börtz ac Anders Hillborg, a chyngherddau gydag Emanuel Ax a Seong-Jin Cho.

Yr haf eleni, ymddangosodd am y tro cyntaf yn yr Hollywood Bowl gyda Ffilharmonig Los Angeles; y tymor hwn, bydd hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Cleveland, Cerddorfeydd Symffoni San Francisco a Cincinnati, NDR Elbphilharmonie Orchestra, Orquesta Sinfónica Castilla y León a Cherddorfa Ffilharmonig Radio’r Iseldiroedd, yn ogystal â dychwelyd i Gerddorfa Symffoni a Cherddorfa Ffilharmonig Toronto.

Mae’n frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble, Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, John Cage, James Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio’n agos gyda cherddorion byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden.

Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd. 


Katharine Dainsoprano

Mae’r soprano Katharine Dain yn perfformio opera, cerddoriaeth siambr a repertoire cerddorfaol ar lwyfannau rhyngwladol, yn ogystal â chydweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau creadigol.

Mae uchafbwyntiau tymhorau diweddar yn cynnwys bod yn artist preswyl gyda’r Tapiola Sinfonietta; cydweithrediadau parhaus gyda Cherddorfa’r Ddeunawfed Ganrif a Cherddorfa Siambr yr Iseldiroedd; perfformiadau o weithiau Mozart Don Giovanni, Die Entführung aus dem Serail a Così fan tutte yn yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Ffrainc, Hwngari ac Ecuador; a phrosiectau gyda Cherddorfa Frenhinol Concertgebouw, Cerddorfa Ffilharmonig Rotterdam a Cherddorfa Symffoni’r Alban y BBC. Enillodd ei halbwm Regards sur l’Infini gyda’r pianydd Sam Armstrong Wobr Edison am yr Albwm Cyntaf Gorau yn 2021.

Mae ganddi gysylltiad  arbennig â cherddoriaeth yr 20fed a’r 21ain ganrif: ymddangosodd am y tro cyntaf gydag Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd yng ngwaith Claude Vivier Kopernikus ac yn ddiweddar bu’n ganwr a chyd-greawdwr I have missed you forever ar gyfer yr un cwmni ac yng Ngŵyl Opera Forward Amsterdam. Mae ei diddordebau repertoire mewn caneuon yn amrywio o’r cyfnod Baroc i’r presennol (gan gynnwys llawer o ddarnau a gomisiynwyd ar ei chyfer), ac mae’n aml yn westai mewn gwyliau blaenllaw, gan gynnwys Aldeburgh, Gŵyl Holland, Gorllewin Cork, Gŵyl Lied Ryngwladol Zeist a Wonderfeel.

Mae hi’r un mor gartrefol mewn oratorio, gyda’r uchafbwyntiau’n cynnwys Bach St Matthew Passion gyda’r Academi Cerddoriaeth Hynafol a Chôr Coleg y Brenin, Caergrawnt, Messiah yn Neuadd Carnegie, Stravinsky Les noces gyda’r New York City Ballet a’r Requiem gan Mozart, a Nawfed Symffoni Beethoven gyda Cherddorfa’r Ddeunawfed Ganrif a Cappella Amsterdam.

Mae gan Katharine Dain raddau o Brifysgol Harvard, Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall, a Choleg Cerdd Mannes. Mae hi’n ddinesydd deuol yn yr Iseldiroedd a’r Unol Daleithiau, ac ar hyn o bryd yn byw yn Rotterdam.

Jorge Navarro Coloradotenor

Jamie Capewell

Jamie Capewell

Astudiodd Jorge Navarro Colorado ganu ac opera yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall yn Llundain, a chwblhaodd ei hyfforddiant yn rhaglenni Britten-Pears a Samling.

Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn a thymhorau diweddar yn cynnwys ei ymddangosiad cyntaf yn y Grand Théâtre de Genève fel Telemaco (yn ngwaith Monteverdi Il ritorno d’Ulisse in patria) dan gyfarwyddiaeth Fabio Biondi, gyda pherfformiadau pellach ym Madrid a Barcelona; y Requiem gan Mozart gyda Cherddorfa Symffoni Barcelona dan Trevor Pinnock; ei ymddangosiad cyntaf yn La Fenice as Gualtiero, Fenis (yng ngwaith Vivaldi Griselda) dan Diego Fasolis; a datganiad o ariâu Baroc fel rhan o Ŵyl Handel Llundain; rolau’r tenor yn Lotario, Rodrigo ac Ariodante yng Ngŵyl Handel Göttingen, dan arweiniad Laurence Cummings; gwaith Haydn Die Schöpfung gyda Cherddorfa Symffoni Barcelona a Cherddorfa Genedlaethol Catalonia yn Barcelona; Rinaldo gyda Capella Cracoviensis yng Ngŵyl Handel Halle and Scipione gyda’r Early Opera Company yng Ngŵyl Handel Llundain.

Mae ei recordiadau’n cynnwys gwaith Handel Lotario, Rodrigo a Poro, re dell’Indie, cantodau Almaenig ar gyfer llais a ffidil gydag Ensemble Diderot a Johannes Pramsohler ac Infinite Refrain: Music of Love’s Refuge, albwm datganiadau o ariâu a deuawdau gyda Randall Scotting a’r Academi Gerdd Hynafol dan arweiniad Laurence Cummings.

Michel de Souzabariton

Ganed Michel de Souza ym Mrasil ac enillodd Gystadleuaeth Leisiol Maria Callas yn São Paulo, cyn ymuno â Rhaglen Artistiaid Ifanc Jette Parker yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden.

Roedd yn Artist Newydd gydag Opera’r Alban, yn canu rhannau gan gynnwys Escamillo (Carmen), Forester (The Cunning Little Vixen) a Marullo (Rigoletto). Yn Covent Garden mae ei rolau wedi cynnwys Schaunard (La bohème), Moralès (Carmen), Angelotti (Tosca) Mandarin a Ping (Turandot), Captain (Eugene Onegin) a Flemish Deputy (Don Carlo). Yn y Grand Théâtre de Genève ymddangosodd fel Schaunard, Baron Grog (La Grande Duchesse de Gerolstein), Leuthold (William Tell) a Starveling (A Midsummer Night’s Dream). Yn Grange Park Opera mae wedi canu Sonora (La Fanciulla del West) a High Priest (Samson et Dalila). Ar gyfer Chelsea Opera ymddangosodd fel Athanaël (Thaïs) ac roedd yn portreadu Paradies (The Intelligence Park) ar gyfer Music Theatre Wales.

Yn Ne America, mae wedi canu Guglielmo (Così fan tutte) yn y Teatro Argentino de la Plata a Belcore (L’elisir d’amore) a Count Robinson (Il matrimonio segreto) yn Theatro São Pedro, yn ogystal â Crown (Porgy and Bess) yn y Grande Teatro Belo Horizonte. Yn y Teatro Municipal de São Paulo mae wedi ymddangos fel Papageno (The Magic Flute), Figaro (The Barber of Seville), Prus (The Makropulos Affair) a Nick Shadow (The Rake’s Progress) ac, yn fwyaf diweddar, Guglielmo.

Ar gyfer ei ymddangosiad cyntaf yn y Grand Théâtre de Luxembourg, canodd Michel de Souza Emperor Overall (Der Kaiser Von Atlantis) a’r Gwleidydd (En vertu de). Canodd Marcello am y tro cyntaf (La bohème) ar gyfer Opera Teithiol Lloegr, ymddangosodd fel Figaro (The Barber of Seville) ar gyfer Nevill Holt Opera ac fel Viko yn The Gods of the Game – opera bêl-droed ar gyfer Grange Park Opera, a ffilmiwyd hefyd ar gyfer Sky Arts.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn cael cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.

Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau ac yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.

I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now 

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Shana Douglas
Terry Porteus
Anna Cleworth
Ruth Heney
Alejandro Trigo
Emilie Godden
Carmel Barber
Rebecca Totterdell
Paul Mann
Amy Fletcher
Emma Menzies

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Sheila Smith
Lydia Caines
Ilze Abola
Michael Topping
Katherine Miller
Joseph Williams
Beverley Wescott
Vickie Ringguth
Roussanka Karatchivieva
Jane Sinclair
Gary George-Veale

Fiolâu
Joel Hunter ‡
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Catherine Palmer
Lowri Thomas
Robert Gibbons
Laura Sinnerton
Ania Leadbeater
Anna Growns

Soddgrythau
Alice Neary *
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Rachel Ford
Alistair Howes
Carolyn Hewitt
Keith Hewitt
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Fabian Galeana
Christopher Wescott
David F. C. Johnson
Richard Gibbons
Mike Chaffin

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Sarah-Jayne Porsmoguer

Cor anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †

Clarinetau
Nick Carpenter *
Bethany Crouch
Lenny Sayers

Clarinet E leiaf
Bethany Crouch

Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Jo Shewan

Cyrn
Richard Bayliss ‡
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Jenny Cox
Dave Ransom

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Tim Barber

Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden †

Timpani
Matt Hardy

Offerynnau Taro 
Phil Hughes *
Andrea Porter
Max Ireland
Harry Lovell-Jones
Sarah Mason

Y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †

Piano/Selesta
Catherine Roe Williams

Organ
William Haskins

Simbalom
Edward Cervenka

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi
Llyfrgellydd y Gerddorfa Katie Axelsen(yn llenwi dros gyfnod tadolaeth)
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentis BBC Cymru Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications