Tadaaki Otaka yn arwain Britten ac Elgar
Nos Wener 24/3/2023, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Nos Sadwrn 25/3/2023, 7.30pm
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Elizabeth Maconchy
Nocturne for Orchestra 7’
Benjamin Britten
Concerto i’r Ffidil 31’
EGWYL: 20 munud
Edward Elgar
Symffoni Rhif 2 53’
Simone Lamsmaffidil
Tadaaki Otakaarweinydd

Bydd y cyngerdd yng Nghaerdydd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu ar raglen Radio 3 in Concert yn y dyfodol. Bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu ar BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnig podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth i chi. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.
Croeso

Rydyn ni’n falch iawn o groesawu ein Harweinydd Llawryfog poblogaidd Tadaaki Otaka yn ôl i’r cyngerdd heno ar gyfer rhaglen amrywiol o gerddoriaeth o Brydain.
Mae’r hanner cyntaf yn cynnwys gweithiau gan ddau gyfansoddwr a aned chwe blynedd yn unig ar wahân. Mae Elizabeth Maconchy yn cael ei chofio’n bennaf heddiw am ei phedwarawdau llinynnol. Ysgrifennodd ar gyfer y gerddorfa’n llawer llai aml, felly mae ei Nocturne yn arbennig o werthfawr am y rheswm hwnnw, ac mae’n dangos cyfuniad nodweddiadol Maconchy o agosatrwydd ac anesmwythyd. Y Concerto i’r Ffidil gan Britten oedd un o’r darnau cyntaf i sefydlu ei enw da rhyngwladol, ac ynddo mae’r cyfansoddwr yn gafael mewn ffurf sefydledig ac yn rhoi ei stamp ei hun arno, gan ofyn llawer gan yr unawdydd ac osgoi, i raddau helaeth, unrhyw gampwriaeth ormodol. Y feiolinydd ifanc o’r Iseldiroedd, Simone Lamsma, sy’n ymgymryd â’r her heno.
Byddwn ni’n gorffen gydag Ail Symffoni cyfansoddwr sy’n agos iawn at galon Tadaaki Otaka, sef Elgar. Mae’n waith yr oedd ei amwysedd emosiynol wedi drysu rhai cynulleidfaoedd cynnar, ond ers hynny mae wedi cael ei gydnabod yn gampwaith.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Elizabeth Maconchy (1907–94)
Nocturne for Orchestra (1950)

Yn ganolog i gynnyrch Elizabeth Maconchy mae cadwyn wych o 13 o bedwarawdau llinynnol. Mae gweithiau mwy o faint, gan gynnwys dwy symffoni (dwy a dynnodd yn ôl yn ddiweddarach), ond hyd yn oed pan ysgrifennodd ar gyfer cerddorfa symffoni lawn, fel yn y Nocturne for Orchestra, mae rhywfaint o’r agosatrwydd, y cynildeb a’r ymdeimlad â deialog fewnol sy’n disgleirio yn ei cherddoriaeth siambr yn dal yn hanfodol yn y fan yma hefyd. Aeth Maconchy ati i ysgrifennu’r Nocturne yn 1950, ar adeg pan oedd llawer yn ymdrechu i roi erchyllterau’r Ail Ryfel Byd, nad oedd ond newydd orffen, y tu ôl iddynt. Ond fel sosialydd gweithredol, roedd Maconchy yn ymwybodol iawn nad yw anghyfiawnder a dioddefaint dynol yn diflannu ar ôl ‘buddugoliaethau’ honedig. A hithau wedi astudio ym Mhrâg yn yr 1930au, roedd hi’n fwy sensitif na llawer ar yr ynys hon i’r digwyddiadau erchyll yn Nwyrain Ewrop a’u canlyniadau gwleidyddol gofidus. Roedd y modd yr oedd Maconchy wedi ymgolli yng ngherddoriaeth y modernydd Hwngaraidd Béla Bartók hefyd wedi miniogi a thywyllu ei phwerau mynegiannol ei hun, gan roi iddynt herfeiddwch a oedd yn nodweddiadol o ganol yr 20fed ganrif iddynt.
Fel yr Nocturne gerddorfaol ddiweddar gan y cyfansoddwr o Wlad Pwyl, Andrzej Panufnik (un arall a oedd yn edmygu Bartók), mae Nocturne Maconchy ar gyfer y Gerddorfa yn llawn hud a lledrith annaearol a nwydus y nos, sy’n cael ei ddwysáu yma gan y defnydd cywrain o’r delyn a’r selesta. Ond, hefyd fel y Panufnik, mae’n cael ei boeni gan rywbeth mwy cythryblus, wedi’i gofnodi gan ddrymiau bas taranllyd pell a ffigurau pres bygythiol. Mae harddwch aruchel yn cyd-fyw ag ymdeimlad o wyliadwrusrwydd anesmwyth. Mae’r bygythiad yn dal i fod yn bosibl, byth yn gwbl ganolog, ond mae’r diweddglo heb ei ddatrys yn rhyfedd iawn – mae’r potensial yn eithaf gwir.
Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson
Gwefan: https://britishmusiccollection.org.uk/composer/elizabeth-maconchy
Benjamin Britten (1913–76)
Concerto i’r Ffidil, Op. 15 (1938–9, diw. 1965)

1 Moderato con moto –
2 Vivace – Cadenza –
3 Passacaglia: Andante lento
Simone Lamsma ffidil
Dim ond 25 oed oedd Benjamin Britten pan gwblhaodd ei Goncerto i’r Ffidil yn 1939, yn fuan ar ôl symud i’r UDA. Ond roedd eisoes yn gyfansoddwr profiadol gydag enw da cynyddol yn rhyngwladol. Hyd yn hyn, nid oedd fawr o arwydd mai ym myd yr opera y byddai’n gwneud ei enw mewn gwirionedd; yn hytrach, mae’n rhaid ei bod yn ymddangos i lawer mai cerddoriaeth gyngerdd gerddorfaol oedd y ffordd ymlaen i’r cyfansoddwr ifanc hynod ddawnus hwn. Mae’r Concerto i’r Ffidil yn dangos cymaint yr oedd Britten wedi’i amsugno o weithiau cerddorfaol Mahler a Prokofiev. Mae hefyd yn dangos ei fod yn meddwl yn fwy uchelgeisiol nag o’r blaen o ran ffurf a mynegiant, ac yn enwedig yn niweddglo pwerus ac eang y Passacaglia.
Roedd gan Britten deimladau cymysg am Beethoven, ac mae ei Goncerto i’r Ffidil yn dechrau gyda theyrnged lled-eironig o bosibl i’r meistr Almaenig. Fel y Concerto i’r Ffidil gan Beethoven, mae Concerto Britten yn agor gyda ffigur ar gyfer unawd tympanau, sydd wedi’i ateb nid gan thema pedwar sgwâr ymdeithgan ond gan ochenaid leddf gan y llinynnau. Mae pennod ddawns fwy gwyllt a sinistr yn dilyn, ond yn y pen draw mae’r agoriad yn dychwelyd, gyda motiff gwreiddiol y tympanau bellach yn cael ei drawsnewid gyda steil feistrolgar gan y ffidil.
Mae scherzo gwyllt yn dilyn, yn rhyfeddol o wych i ddechrau, ond gyda thema ffidil sy’n llawer mwy gwerinol ei naws yn ganolog iddi. Yna, daw cyffyrddiad o athrylith grotésg: mae cymalau cynyddol y ffidil yn troi’n ffigurau sy’n sgrialu’n gyflym ar gyfer dau piccolo, ac o’r dyfnderoedd mae thema araf yn codi’n fygythiol ar y tiwba, gan ragfynegi thema’r diweddglo. Mae cadenza unawdol y ffidil – sy’n lliwgar i ddechrau, ond gyda nodyn cynyddol o ofid – yn codi’n uchel iawn yn y pen draw wrth i’r trombonau meddal lafarganu’r thema Passacaglia ei hun, sy’n drwm gyda thristwch ac ofn. Fel yn passacaglie gogoneddus J.S. Bach, mae amrywiadau’n cael eu cynyddu uwchben ailadroddiadau o thema yn y bas, yn debyg i’r bas 12 bar mewn jazz. Mae amrywiadau Britten yn croesi amrywiaeth eang o hwyliau a chymeriadau, ond ar ôl uchafbwynt cerddorfaol urddasol, mae’r coda araf yn amlwg yn debyg i alargan, gyda chrychnodau olaf y ffidil yn hofran yn ingol rhwng y cywair mwyaf a’r cywair lleiaf.
Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson
Gwrando Pellach: Vilde Frang; Cerddorfa Symffoni Radio Frankfurt/James Gaffigan (Warner Classics 2564600921)
Darllen Pellach: Benjamin Britten: A Biography Humphrey Carpenter (Faber)
EGWYL: 20 munud
Edward Elgar (1857–1934)
Symffoni Rhif 2 yn E feddalnod fwyaf, Op. 63 (1910–11)

1 Allegro vivace e nobilmente
2 Larghetto
3 Rondo: Presto
4 Moderato e maestoso
Dyn cymhleth oedd Edward Elgar, ac nid oes yr un gwaith yn datgelu mwy o’i bersonoliaeth enigmatig, amlochrog na’i Ail Symffoni. Mae llythyrau a sylwadau at ffrindiau yn dangos ei fod yn ymwybodol mai gweithred o hunan-ddatgelu oedd ei chyfansoddi, felly siom greulon oedd methiant y perfformiad cyntaf ohoni yn 1911. Llugoer, ar y cyfan, oedd ymateb y gynulleidfa a’r adolygiadau – er i un beirniad dienw gyhuddo’r Ail Symffoni o ‘besimistiaeth a gwrthryfel’. Efallai mai’r broblem yn rhannol oedd bod y symffoni newydd yn mynd yn groes i ddisgwyliadau Edwardaidd Lloegr o’i gyfansoddwr llawryfog answyddogol. Yn wahanol i’r Symffoni Gyntaf hynod lwyddiannus (1907–8) a’r Concerto i’r Ffidil (1910), nid yw’n arwain at gadarnhad clir, ac mae’r pedwar symudiad yn llawn newidiadau annisgwyl, neu gythryblus hyd yn oed, mewn hwyliau a chymeriad. Mae mwy nag un ffordd o ddehongli’r geiriau gan Shelley a ddewisodd Elgar fel pennawd i’r sgôr – ‘Rarely, rarely comest thou, Spirit of Delight!’ – sef a yw’r symffoni’n cyfleu’r hyn sy’n ‘swyno’, ynteu ai mynegi edifeirwch y mae, mai yn ‘anaml’ y daw gwir lawenydd?
I ddechrau, mae’r atebion yn ymddangos yn ddigon clir: mae nodau sy’n cael eu hailadrodd ar y llinynnau yn symud i fyny at thema sy’n brasgamu’n hyderus. Mae hyn yn adeiladu at ddau uchafbwynt eithriadol o hwyliog, ond wedyn mae rhywbeth rhyfedd yn dod i’r amlwg: mae synau tawel gan y delyn yn cyflwyno adran ganol ryfedd o nwydus, sy’n dawel gan mwyaf. ‘Rydw i wedi ysgrifennu’r darn mwyaf anhygoel’, ysgrifennodd Elgar, ‘math o ddylanwad milain yn crwydro ar noson o haf yn yr ardd.’ Mae bywyd egnïol yn adfer ei le unwaith eto wrth i’r prif syniadau ddychwelyd, gan arwain at ddiweddglo disglair; ond nid dyna ddiwedd y ‘dylanwad milain’ hwnnw.
Gan fod y symffoni wedi’i chyflwyno ‘Er cof am Ei ddiweddar Fawrhydi y Brenin Edward VII’, credid yn gyffredinol fod yr ail symudiad angladdol urddasol tebyg i ymdeithgan yn fynegiant o alarnad am y diweddar Frenin, ond mae hefyd yn bosibl ei glywed fel marwnad am yr oes Edwardaidd a’r gobaith yr oedd cynifer (gan gynnwys Elgar) wedi buddsoddi ynddi. Pan fydd thema’r orymdaith yn dychwelyd ar ôl uchafbwynt mawreddog, angerddol, mae Elgar yn gwneud rhywbeth trawiadol o wreiddiol: mae obo’n chwarae gwrthbwynt fel pe bai’n dilyn curiad gwahanol, mwy rhydd – dychmygwch gamera newyddion yn canolbwyntio ar un wyneb galarus yng nghanol torfeydd enfawr o alarwyr.
Ar ôl hyn, mae’r Rondo egnïol, pefriol yn addo gwrthgyferbyniad braf, ond mae grymoedd cythreulig ar waith yma. Yn y pen draw, mae drymiau curiadol, taranllyd sy’n adeiladu’n raddol yn cyhoeddi dychwelyd thema’r ‘dylanwad milain’ o’r symudiad cyntaf: yn gyntaf ar y llinynnau, ac yna’n cael ei chrochlefain gan yr offerynnau pres. Roedd Elgar yn cymharu hyn â rhai llinellau dychrynllyd yng ngherdd Tennyson Maud, sef cri dyn marw wedi’i daflu i fedd bas o dan ffordd:
And the hoofs of the horses beat, beat,
The hoofs of the horses beat,
Beat into my scalp and brain.
I ddechrau, mae thema gyntaf hamddenol â rhythmau ailadroddus y diweddglo’n ymddangos yn rhyfedd o isel, nes bydd ail syniad urddasol yn cyrraedd, gan ymddangos fel pe bai ‘gobaith enfawr’ y Symffoni Gyntaf yn dychwelyd. Ond nid oes perorasiwn terfynol buddugoliaethus. Ymhen hir a hwyr, mae tawelwch yn disgyn, ac mae thema agoriadol y symffoni’n llithro’n osgeiddig drwy weadau cerddorfaol godidog. Ac eto, mae rhywbeth ingol am y ffordd y mae’r disgleirdeb yn pylu – yng ngeiriau Shelley, ‘Rarely, rarely comest thou …’
Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson
Gwrando Pellach: Cerddorfa Symffoni’r BBC/Edward Gardner (Chandos CHSA5197)
Darllen Pellach: Elgar the Music Maker Diana McVeagh (Boydell)
Bywgraffiadau
Tadaaki Otaka arweinydd

Lun: Martin Richardson
Lun: Martin Richardson
Mae Tadaaki Otaka, a aned yn Japan, yn Gyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Ffilharmonig Osaka ers 2018, ac ar ôl cyfnod yn Brif Arweinydd y gerddorfa y mae’n ei harwain heno, daeth yn Arweinydd Llawryfog. Mae hefyd yn dal teitlau Arweinydd Parhaol Symffoni NHK, Arweinydd Llawryfog Cerddorfa Ffilharmonig Tokyo, Arweinydd Gwadd Anrhydeddus Cerddorfa Symffoni Yomiuri Nippon ac Arweinydd Llawryfog Anrhydeddus Cerddorfa Siambr Neuadd Kioi yn Tokyo. Mae’n mwynhau cysylltiad agos â Cherddorfa Symffoni Sapporo ers pedwar degawd.
Yn ogystal ag arwain yn helaeth yn Japan, mae hefyd yn uchel ei barch fel athro i arweinwyr ifanc. Mae’n cyfuno’r gweithgareddau hyn ag ymweliadau Ewropeaidd rheolaidd ac mae uchafbwyntiau diweddar BBC NOW yn cynnwys ymddangosiadau ym Mhroms y BBC.
O ran opera, yn ogystal â’i waith gyda Theatr Genedlaethol Newydd Tokyo, mae wedi arwain Peter Grimes, Fidelio, Die Fledermaus, Tosca, Tannhäuser, Carmen, Der Freischütz a Salome.
Mae wedi arwain sawl premiere, gan gynnwys gweithiau gan gyfansoddwyr o Japan fel Matsumura, Takemitsu a Miyoshi, ac mae ei ddisgograffi’n cynnwys llawer o recordiadau enwog gyda BBC NOW a Camerata Tokyo.
Mae ei wobrau’n cynnwys Gwobr Cerddoriaeth Suntory, CBE a’r Fedal Elgar gan Gymdeithas Elgar, i nodi hanes cryf o arwain gweithiau’r cyfansoddwr dramor. Roedd ei enw da fel dehonglydd amrywiaeth eang o repertoire, gan gynnwys Mahler, Bruckner, Shostakovich, Richard Strauss, Walton ac Elgar, wedi arwain at Gymrodoriaeth Er Anrhydedd gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 1993; mae hefyd yn meddu ar Ddoethuriaeth Er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Yn 2021, derbyniodd Urdd y Codiad Haul, Pelydrau Aur gyda Rhosglwm gan lywodraeth Japan.
Simone Lamsma Ffidil

Lun: Otto van den Toorn
Lun: Otto van den Toorn
Mae’r feiolinydd o’r Iseldiroedd, Simone Lamsma, yn ennill clod gan ei chyd-gerddorion, cynulleidfaoedd a beirniaid.
Mae ganddi repertoire o 60 a mwy o goncertos i’r ffidil ac mae wedi perfformio gyda llawer o brif gerddorfeydd y byd.
Mae ei huchafbwyntiau y tymor hwn yn cynnwys ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Ffilharmonig Los Angeles, Cerddorfa Beethoven-Orchester Bonn a Gulbenkian; ei chyfnod preswyl parhaus gyda Cherddorfa Symffoni Oregon; a dychwelyd i Gerddorfa Symffoni Cincinnati, Frankfurt Radio a MDR, Orchestre National d’Île de France, Orchestre Philharmonique du Luxembourg a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC; a thaith gyda Cherddorfa Ffilharmonig Gogledd Orllewin yr Almaen dan arweiniad Jonathon Heyward. Bydd hi hefyd yn perfformio darn gan Mathilde Wantenaar am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Ffilharmonig Radio’r Iseldiroedd yn y Concertgebouw yn Amsterdam.
Mae ei disgograffi’n cynnwys disg nodedig o Goncerto Cyntaf Shostakovich i’r Ffidil ac In tempus praesens gan Sofia Gubaidulina gyda Cherddorfa Ffilharmonig Radio’r Iseldiroedd dan arweiniad James Gaffigan a Reinbert de Leeuw, yn ogystal â repertoire sy’n amrywio o Mendelssohn i Janáček.
Dechreuodd astudio’r ffidil yn 5 oed a symudodd i’r DU yn 11 oed i astudio yn Ysgol Yehudi Menuhin. Ymddangosodd am y tro cyntaf fel unawdydd gyda Cherddorfa Gogledd yr Iseldiroedd yn 14 oed, gan barhau â’i hastudiaethau yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Yn 2019, cafodd ei gwneud yn Gymrawd yr Academi Gerdd Frenhinol.
Mae hi’n chwarae ffidil ‘Mlynarski’ Stradivarius (1718), sydd wedi’i rhoi iddi ar fenthyg yn hael gan gymwynaswr dienw.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes.
Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.
Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Martin Gwilym-Jones is-arweinydd
Cecily Ward
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Anna Cleworth
Juan Gonzalez
Ruth Heney
Ilze Abola
Tamaki Mott
Claudia Fuller
Emma Menzies
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Sellena Leony
Patrycia Mynarska
Jane Sinclair
Gary George-Veale
Fiolâu
Garfield Jackson ‡
Alex Thorndike
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Ania Leadbeater
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Anna Growns
Charley Lake
Soddgrythau
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Jessica Feaver
Nina Kiva
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Laura Macdonald
Basau Dwbl
David Stark *
Daniel Vassallo
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Antonia Bakewell
Emma Prince
Ffliwtiau
Fiona Kelly ‡
John Hall
Elizabeth May
Piccolos
Elizabeth May ‡
John Hall
Oboau
Steve Hudson *
Amy Mckean †
Sarah-Jayne Porsmoguer
Cor Anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †
Clarinetau
Nick Carpenter ‡
Hannah Morgan
Natalie Harris
Lenny Sayers
Clarinét Bas
Lenny Sayers †
Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Rosemary Cow ‡
Laura Vincent
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
William Haskins
John Davy
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Ryan Linham
Trombonau
Donal Bannister*
Simon Wills
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Phil Girling
Andrea Porter
Telynau
Valerie Aldrich-Smith †
Jane Lister
Selesta
Catherine Roe Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-Rediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorth-Wyydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata a Chynulleid-Faoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruch-Wylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
Prentisiaid BBC Cymru Josh Gill, Analese Thomas-Strachan, Jordan Woodley
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

