Mahler 9 gyda Markus Stenz
Nos Iau 17/11/22, 7.30pm

Gustav Mahler
Symffoni Rhif 9 (81’)
Ni fydd egwyl
Markus Stenzarweinydd

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu ar raglen 'Radio 3 in Concert' yn y dyfodol. Bydd ar gael drwy BBC Sounds am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu. Mae BBC Sounds hefyd yn cynnwys podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.
Cyflwyniad

Croeso i’r cyngerdd heno. Pleser o’r mwyaf i ni yw gallu croesawu Markus Stenz yn ôl i arwain ein cerddorfa wych, sef Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Dim ond un darn o waith sydd yn y rhaglen heno, ond mae’n sefyll ar ei ben ei hun fel un o gampweithiau’r canon cerddorfaol: Nawfed Symffoni Mahler. Hon oedd symffoni olaf y cyfansoddwr (ni orffennodd ei 10fed), a’r trueni yw na chafodd ei pherfformio erioed yn ystod ei oes. Efallai bod hyn yn adlewyrchiad iasol o natur ofergoelus Mahler ei hun, a oedd yn argyhoeddedig o felltith y nawfed, ac wrth gwrs eu nawfed symffoni oedd symffoni olaf Beethoven, Schubert a Bruckner!
Mae’n raddol lithro i fod ac yn datblygu’n araf bach yn ystod y noson – adlewyrchiad o fywyd sy’n cwmpasu popeth – o harddwch a llawenydd braf bodoli hyd y bar olaf un, gyda’r cyfarwyddyd ‘yn dyner’ ac ‘ersterbend’ (graddol ddarfod). Darlun cerddorol syfrdanol o fywyd ei hun.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Gustav Mahler (1860–1911)
Symffoni Rhif 9 yn D fwyaf (1908–9)

1 Andante comodo – Allegro
2 Im Tempo eines gemächlichen Ländlers. Etwas täppisch und sehr derb
3 Rondo-Burleske. Allegro assai. Sehr trotzig
4 Adagio. Sehr langsam und noch zurückhaltend
Mae gweithiau hwyr yn tueddu i ennill statws mytholegol bron – cipolwg hudolus ar feddwl y cyfansoddwr yn ei ddyddiau olaf wrth iddo fynegi ei greadigrwydd am y tro olaf. Ac mae’n wir, pan gyfansoddodd Mahler ei Nawfed Symffoni, roedd marwolaeth yn taflu ei gysgod drosto. Yn 1907, roedd wedi colli ei ferch bedair oed i’r dwymyn goch, ac o fewn ychydig fisoedd wedyn, canfu ei feddyg fod ganddo gyflwr ar y galon nad oedd modd ei wella. Ar ben hyn, roedd yr ofergoel ynghylch cyfansoddi Nawfed symffoni, fel yr eglurodd ei wraig Alma yn ei llythyrau: ‘Yn ei ofn a’i ddychryn, roedd am osgoi Nawfed Symffoni, oherwydd nid oedd Beethoven na Bruckner wedi llwyddo i gyfansoddi Degfed Symffoni.’ Fel y digwyddodd hi, fe fyddai hanes, yn wir, yn ailadrodd ei hun. Ei Nawfed symffoni fyddai ei symffoni orffenedig olaf. Bu farw yn 1911, flwyddyn cyn iddi gael ei pherfformio am y tro cyntaf.
Does dim rhyfedd felly bod y gwaith hwn wedi ennill yr un statws ‘gwely angau’ eiconig – mae nodau olaf y diweddglo hyd yn oed wedi’u marcio fel ersterbend (‘graddol ddarfod’). Gallai manylyn o’r fath ymddangos yn ddibwys pe na bai’r symffoni gyfan yn frith o gyfeiriadau at angau a therfynu, o thema agoriadol y symudiad cyntaf hyd nodau clo yr olaf. Yn yr un modd ag y mae’r symffoni fel pe bai’n pylu i ddim byd, felly hefyd mae’n dod i fod yn ddiarwybod inni bron, gyda’r delyn ac yna’r offerynnau llinynnol yn amlinellu’r motiff ‘Leb’ whol (ffarwel) sydd fel ochenaid – geiriau y mae Mahler ei hun yn eu hysgrifennu i mewn i’r sgôr. Ond o’r egin syniad bach cynnil hwn, mae’n creu symudiad enfawr o ehangder anhygoel, heb ddim yn tarfu ar naws y darn ond ymyrraeth sydyn yr offerynnau pres a’r offerynnau taro, sy’n cael eu chwarae yn ôl cyfarwyddyd Mahler, ‘gyda’r ffyrnigrwydd mwyaf’.
Ym marn y cyfansoddwr Alban Berg, dyma’r symudiad sy’n datgelu gwir fwriadau Mahler wrth gyfansoddi ei Nawfed symffoni. Dyma lle mae’n dangos, er mai symffoni am angau ydyw, mae hefyd yn ymwneud cymaint â’r hyfrydwch a’r boddhad o fyw. ‘Y symudiad cyntaf yw’r symudiad gorau a gyfansoddodd Mahler erioed’, ysgrifennodd Berg. ‘Mae’n mynegi cariad aruthrol tuag at y ddaear hon, y dyhead i fyw arni mewn heddwch a mwynhau natur i’r eithaf – cyn i angau ein cipio. Oherwydd mae marw yn anochel.’
Mae llythyrau Mahler yn adrodd stori debyg. Yn ystod haf 1909, fel hyn yr ysgrifennodd at yr arweinydd Bruno Walter: ‘Mae gennyf fwy o awch am fywyd nag erioed, ac mae “arferion byw” yn felysach nag erioed.’ Mae Mahler yn arllwys yr awch hwn am fywyd i mewn i ddau symudiad canolog y Nawfed: yn y cyntaf ar ffurf dawns werin fywiog sy’n bygwth troi’n walts bensyfrdanol a’r ail yn Rondo-Burleske tanbaid sy’n rhoi lle blaenllaw i’w greadigrwydd gwrthbwyntiol. Pan ddaw’r diweddglo, felly, mae’n tarddu – nid o gysgodion angau – ond o egni ac asbri bywyd. Ac, wrth i’r bywyd hwnnw araf ddiferu ymaith, yn anfoddog, yn ystod y symudiad olaf epig hwn, daw’n amlwg nad yw Mahler yn nodi ei ymadawiad dwys o’r byd hwn ond, yn hytrach, yn dal gafael â’i holl einioes ym munudau olaf ei fywyd.
Nodyn y rhaglen ©`Jo Kirkbride
Gwrando Pellach: Cerddorfa Gurzenich/Markus Stenz (Oehms OC654)
Darllen Pellach: Gustav Mahler: An Introduction to His Music Deryck Cooke (Faber)
Bywgraffiadau
Markus Stenz arweinydd

Lun: Kaupo Kikkas
Lun: Kaupo Kikkas
Astudiodd Markus Stenz yn yr Hochschule für Musik yn Cologne dan Volker Wangenheim ac yn Tanglewood gyda Leonard Bernstein a Seiji Ozawa.
Ymddangosodd am y tro cyntaf mewn opera yn 1988 yn La Fenice yn Fenis. Dychwelodd yno’r tymor diwethaf ar gyfer gweithiau gan Mozart, Schumann a Wagner a’r tymor hwn a thu hwnt mae’n arwain Der fliegende Holländer gan Wagner a Wozzeck gan Berg.
Mae ei uchafbwyntiau operatig eraill yn cynnwys Die Gezeichneten gan Schreker yn Opera Talaith Bafaria, Munich; première byd Fin de partie gan György Kurtág yn La Scala, Milan, gyda pherfformiadau dilynol yn Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd ac Opéra National de Paris ac A Midsummer NIght’s Dream gan Britten ynghyd â Les contes d’Hoffmann gan Offenbach yn y Deutsche Oper Berlin.
Y tymor hwn bydd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda’r Orchestra dell’Accademia Nazionale di Santa Cecilia yn Rhufain a Cherddorfa Symffoni Detroit ac yn dychwelyd i gerddorfeydd Ffilharmonig Japan, Radio’r Iseldiroedd a Seoul, Cerddorfeydd Symffoni Oregon ac Indianapolis a Cherddorfa Gürzenich yn Cologne.
Ymhellach ymlaen, bydd yn gweithio gydag Orchestre National de Lyon, Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd a Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham.
Yr ychwanegiad diweddaraf i’w gatalog recordiau (sydd wedi ennill sawl gwobr) yw Symffoni Rhif 7 Bruckner gyda Cherddorfa Symffoni Stavanger. Ymysg ei uchafbwyntiau eraill mae cylch o symffonïau Mahler, Don Quixote a Till Eulenspiegel gan Richard Strauss a Gurrelieder gan Schoenberg, bob un gyda Cherddorfa Gürzenich.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes.
Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.
Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym- Jones is-arweinydd
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Kerry Gordon-Smith
Ilze Abola
Juan Gonzalez
Ruth Heney
Robert Bird
Carmel Barber
Anna Cleworth
Paul Mann
Richard Newington
Zhivko Georgiev
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Patrycja Mynarska
Michael Topping
Katherine Miller
Joseph Williams
Sellena Leony
Beverley Wescott
Emma Purslow
Laurence Kempton
Jane Sinclair
Gary George-Veale
Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Tom Congdon
Ania Leadbeater
Robert Gibbons
Sara Sheppard
Carys Barnes
Dáire Roberts
Sharada Mack
Carl Hill
Lucy Theo
Soddgrythau
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Raphael Lang
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Alistair Howes
Rachel Ford
Katy Cox
Kathryn Graham
Sarah Berger
Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Claire Whitson
Ryan Smith
Imogen Fernando
Andy Vickers
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall
Liz May
Katherine Bicknell
Piccolo
Lindsey Ellis †
Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean
Alec Harmon
Sarah-Jayne Porsmoguer
Cor Anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †
Clarinetau
Nick Carpenter ‡
Mark Simons
Alison Lambert
Lenny Sayers
Clarinét E Feddalnod
Mandy Burvill
Clarinét Bas
Lenny Sayers †
Baswnau
Vahan Khourdoian ‡
Rosemary Cow
Alexandra Davidson
David Buckland
Isfaswnau
David Buckland †
Cyrn
Tim Thorpe *
Dave Ransom
Neil Shewan †
William Haskins
John Davy
Utgyrn
Jon Holland ‡
Robert Samuel
Gwyn Owen
Tim Hawes
Trombonau
Donal Bannister *
Fernando Martin
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Steve Barnard *
Phil Hughes
Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Rhydian Griffiths
Phil Hughes
Telynau
Valerie Aldrich-Smith †
Ceri Wynne Jones
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Gweinyddwr y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
Prentisiaid BBC Wales
Josh Gill
Analese Thomas- Strachan
Jordan Woodley
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

