Grime, Gordon a Goehr gyda Catherine Larsen-Maguire
Dydd Gwener 29 Hydref 2021, 2.00pm

Helen Grime
Limina 12’
Michael Zev Gordon
Concerto i’r ffidil 24'
EGWYL: 20 minutes
Alexander Goehr
The Master Said, Op. 99 première byd30’
Carolin Widmann ffidil
Mark Lewis Jones llefarydd
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Catherine Larsen-Maguire arweinydd

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio i’w darlledu yn y dyfodol ar raglen New Music BBC Radio 3. Ar ôl hynny bydd, ar gael i’w ffrydio neu i’w llwytho i lawr am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sy’n cynnwys podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth hefyd. Ewch i bbc.co.uk/now i gael mwy o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.
Cyflwyniad
Croeso cynnes i Neuadd Hoddinott y BBC ar gyfer cyngerdd heddiw, lle bydd yr arweinydd Catherine Larsen-Maguire yn cyflwyno cerddoriaeth gan dri chyfansoddwr o Brydain sy’n cynrychioli gwahanol genedlaethau.
Yr hybarch Alexander Goehr, y mae ei waith diweddar The Master Said (ei berfformiad cyntaf heddiw) yn amrywio’n helaeth o ran ei ysbrydoliaeth, ac yn defnyddio gweithiau Confucius a Seven Last Words myfyriol Haydn.
Fel Goehr, mae Michael Zev Gordon yn archwilio’r tensiwn rhwng yr hen a’r newydd, ac yn cymryd ffurf draddodiadol concerto i’r ffidil ac yn ei lenwi â cherddoriaeth sy’n arloesol a ffres. Ysgrifennodd y darn ar gyfer Carolin Widmann ar ôl cael ei ysbrydoli’n uniongyrchol gan berseinedd ei pherfformiadau.
Mae Helen Grime, y ffigur ieuengaf yma, yn defnyddio nofel o Norwy ar gyfer ei gwaith cerddorfaol 2019 – Limina, sy’n cydbwyso ymdeimlad di-feth o naratif gydag amrywiaeth disglair o soniareddau cerddorfaol.
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Helen Grime(ganed 1981)
Limina (2019)

Ysbrydolwyd Limina gan olygfa o nofel The Ice Palace yn 1963 gan yr awdur o Norwy, Tarjei Vesaas, lle mae merch ifanc yn archwilio dyfnder rhaeadr sydd wedi rhewi, gan symud rhwng ei siambrau i chwilio am ei ffrind coll. Daw’r teitl o’r Lladin am ‘trothwyon’ ac, wrth iddi archwilio dyfnderoedd cudd y rhaeadr, rydyn ni’n symud gyda hi ar draws ffiniau ac o un ogof i’r llall. Ond yn y dirwedd rewllyd hon, mae’r arwynebau gwydrog yn adlewyrchu ac yn ystumio’r golygfannau, fel nad ydym ni fyth yn gwybod yn iawn ble’r ydym. Mae’r trothwyon yn colli eu heglurder, dydy’r ffordd ymlaen byth yn glir: rydyn ni’n clywed dryswch y ferch wrth iddi symud yn ôl ac ymlaen rhwng teimladau o ryfeddod ac anobaith.
Mae sgôr Helen Grime yn adeiladu ar gyfres o ddarnau a soniaredd mewn haenau sy’n dal y golau ac yn sboncio oddi ar ei gilydd, ac weithiau’n cyfuno mewn siafftau enfawr o olau sy’n goleuo’r ogof. Yn yr agoriad ‘disglair, rhewllyd’, y chwythbrennau a’r offerynnau pres sydd amlycaf, ac mae eu motiffau treiddgar yn gorgyffwrdd i greu gofod acwstig enfawr uwch ton o linynnau osgiliadol, gyda’r offerynnau taro a’r delyn yn dod o hyd i ymylon sy’n disgleirio ac yn goleuo. Wrth i’r daith ddod yn fwy brys, fodd bynnag, mae’r darnau’n dechrau uno, mae’r rhythmau’n dod yn fwy rheolaidd a thaer, ac mae’r gwaith yn adeiladu tuag at foment o gatharsis dwfn. Ai llawenydd ydy hyn neu ddim ond derbyn y sefyllfa? Mae coda hynod fregus, gydag unawdau ffidil ffiligri, yn ein harwain at ofod mwy ystyriol, ac eto mae cnul bygythiol y tiwbglychau a’r drwm bas yn rhoi ymdeimlad dwfn o anesmwythder sydd byth yn diflannu’n llwyr.
Nodyn y rhaglen © Jo Kirkbride
Michael Zev Gordon(ganed 1963)
Concerto I’r Ffidil (2016–17)

1 Llonydd Iawn, Dwys – Moderato
2 Eang, Llonydd – Dawnsio’n Ysgafn –
3 Eang – Llifo’n Ysgafn – Bob Amser yn Syml
Carolin Widmann ffidil
Mae fy nghoncerto ar ffurf tri symudiad confensiynol. Fodd bynnag, mae’r patrwm ffurfiol safonol o gyflym–araf–cyflym yn cael ei ddisodli gan cymedrol–cyflym–araf; mae’r ddau symudiad cyntaf yn agor gyda deunydd tebyg, a fydd yn ymddangos eto yn yr un olaf.
Mae ail-lunio confensiwn fel hyn yn deillio o awydd i ysgrifennu cerddoriaeth sy’n gysylltiedig â’r cyfarwydd a thraddodiadol gan groesawu pethau newydd a llai cyfarwydd ar yr un pryd. Drwy wneud hyn, rwy’n gobeithio ehangu fy ffordd o fynegi fy hun yn ogystal â chreu cysylltiadau ffres rhwng harmoni a rhythm. Yn y concerto hwn, mae’r cymysgeddau hyn yn llunio taith hir a mynegiannol – gan symud rhwng y frwydr a’r rhyddhad, naratif sy’n ymddangos dro ar ôl tro yn fy ngherddoriaeth.
Mae’r darn yn dechrau gyda phatrwm osgiliadol dau nodyn syml ar yr unawd ffidil. Mae’r gerddoriaeth hon yn sefydlog ac yn hyfryd, ond mae hefyd yn swnio’n llawn straen am fod yr unawdydd yn chwarae’n uchel i fyny ar linyn isaf y ffidil. Dydy’r sefydlogrwydd ddim yn para, ac mae prif gorff y symudiad yn llawn syniadau – dan arweiniad yr unawdydd, sy’n cael ei adleisio a’i ehangu yn fwy ac yn fwy yn y gerddorfa – sy’n methu setlo.
Mae’r ail symudiad yn dychwelyd am ennyd at sefydlogrwydd tawel agoriad y gwaith, ond mae’n ildio’n gyflym i gerddoriaeth sy’n chwilio o’r newydd. Ar y dechrau, mae hwn yn llawn patrymau sy’n siglo, yn ailadrodd a hyd yn oed yn blentynnaidd, sy’n cael ei bwysleisio gan soniaredd offerynnol disglair. Ond mae’r synau hyn yn dwysáu ac yn tywyllu: yr adnabyddus yn arwain at y
llai adnabyddus.
Ar ddiwedd yr ail symudiad, mae’r ddawns ddaearol sydd wedi datblygu yn troi’n rhywbeth mwy etheraidd. Fodd bynnag, cyn y gall deimlo fel saib go iawn, mae’r symudiad olaf yn dechrau. Ddwywaith eto, mae’r triadau’n torri ar draws. Ond y trydydd tro, mae amrywiadau ar y motiff osgiliadol o’r symudiad cyntaf – yn gyntaf ar y cyrn, ac yna yn y darn unawd – yn ymuno hefyd, ac yn arwain at uchafbwynt emosiynol a chadenza mewnblyg ar yr unawd ffidil.
Yn ei dro, mae’n ailafael yn y ffigur dau nodyn ar y traw gwreiddiol, sy’n cael ei ateb gan ddarnau o linellau cerddorfaol sy’n cydblethu’n ysgafn. Yn y cyfnod olaf hir mae’r unawdydd yn codi drwy’r gwead i gyrraedd y motiff eto, sy’n gostwng i lawr i A uchel sengl ailadroddus taer. Ar y diwedd, mae harmoni agoriadol y gwaith yn ailymddangos. I mi, mae’n rhywbeth sy’n cael ei ailddarganfod a’i glywed o’r newydd. Ond mae’n diflannu bron cyn i ni gael amser i sylwi’n llawn arno.
Pan weithiais gyntaf gyda Carolin Widmann – yr unawdydd heno, a gyflwynodd y concerto am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC yn 2017 – soniodd wrtha i am ei hawydd i wneud i’r ffidil ganu. Cefais fy ysbrydoli wrth glywed sawl naws canu y gallai ei chreu ar yr offeryn, yn ddwys ac yn agored, yn llawn straen ac yn fregus, yn frwdfrydig ac yn llawn vibrato, yn dyner ac yn swnio bron yn ddiniwed. Rwyf innau wedi ceisio manteisio i’r eithaf ar y lleisiau gwahanol hyn – i symud o’r arferol i’r llwybrau dieithr ac, wrth i’r concerto ddod i ben, o’r frwydr i awyrgylch myfyriol.
Nodyn y rhaglen © Michael Zev Gordon
EGWYL: 20 minutes
Alexander Goehr (ganed 1932)
The Master Said, Op. 99 (2016)
première byd

Mark Lewis Jones llefarydd
Mae datganiad trawiadol Alexander Goehr fod ‘pob celfyddyd yn newydd a phob celfyddyd yn geidwadol’ yn grynodeb bachog o’i arddull gerddorol. I Goehr, dydy ein perthynas â’r gorffennol ddim yn agored i drafodaeth – mae pob un ohonom yn rhan o draddodiad, ni waeth pa mor chwyrn rydyn ni’n ceisio’i wrthod. Mae cerddoriaeth Goehr ei hun yn ymwneud â’r gorffennol mewn ffordd fwy cyfannol nag unrhyw gyfansoddwr arall o’i genhedlaeth. Mae ei ddiddordeb brwd mewn hanes cerddoriaeth a mathau eraill o gelf yn rhyfeddol, ac yn datgelu meddylfryd hynod chwilfrydig. Mae ei weithiau’n defnyddio amrywiaeth enfawr o ffynonellau sy’n ymestyn o theatr noh Japaneaidd i lenyddiaeth Shakespeare a phaentiadau Goya a da Vinci.
Mae The Master Said (première byd heddiw) yn enghraifft o hyn, ac yn dod â dwy ffynhonnell hanesyddol at ei gilydd sy’n wahanol i bob golwg: gweithiau moesol yr athronydd Tsieineaidd Confucius – y ‘Master’ yn nheitl y gwaith – a gwaith corawl arloesol Haydn, The Seven Last Words of Our Saviour on the Cross. Mae Goehr yn canfod tir cyffredin yn y ddau sy’n cyd-fynd â’i berthynas ei hun â’r gorffennol hefyd: ‘Nid yw’r Meistr (Confucius) yn “gwybod”, ond mae’n ceisio dysgu o’r hen fyd’, mae’n egluro. ‘Nid yw’n dysgu nifer fawr o wahanol bethau ar gof, ond mae’n chwilio am yr hyn sy’n eu huno yn sylfaenol. Mae hyn oll yn golygu ei fod, yn ei dyb ef, yn addas i addysgu pobl eraill.’
Mae Goehr yn mabwysiadu ffurf gwaith Haydn – saith adagio ar gyfer cerddorfa siambr, a ddilynir gan allegro byr – a’i gyfres o gyhoeddiadau, ond yn lle geiriau olaf Iesu, rhy Goehr ddysgeidiaeth Confucius i ni, a gyflwynir gan y llefarwr. Yn gysyniadol, mae’r gwaith yn mynd rhagddo bron fel cyfres o amrywiadau, gyda thestunau Confucius yn thema. Yn gerddorol hefyd, rydyn ni’n clywed darnau sy’n ailadrodd ac yn datblygu, fel petaent yn deillio o un llinyn thematig. Mae motiff cromatig disgynnol wedi’i glipio yn y symudiad agoriadol sydd heb gynnwys llawer o’r gerddorfa yn datblygu’n gadwyn gromatig ddisgynnol yn yr ail, sydd wedyn yn cael ei wrthdroi a’i ymestyn cyn dychwelyd i ble y daeth yn y symudiad olaf. Yr argraff yw cyfres o holltau cerddorol, pob un â chysylltiad byrhoedlog â’r llall, byth yn union yr un fath, byth yn gwbl annhebyg – ac yn adleisio’r ‘undod sylfaenol’ yn nysgeidiaeth Confucius. Wrth i’r gwaith fynd rhagddo, mae’r syniadau hyn yn cronni fel atgofion niwlog, sydd bron yn angof, a dim ond yn gysain yn y barrau clo.
Nodyn y rhaglen © Jo Kirkbride
Darllen Pellach: Finding the Key: Selected Writings of Alexander Goehr Alexander Goehr (Faber)
Bywgraffiadau
Catherine Larsen-Maguire arweinydd

Lun: David Beecroft
Lun: David Beecroft
Penderfynodd Catherine Larsen-Maguire ganolbwyntio’n llwyr ar arwain yn 2012 ar ôl treulio 10 mlynedd fel unawdydd basŵn yn Komische Oper Berlin. Ers hynny, mae galw mawr amdani fel arweinydd mewn cerddorfeydd yn Ewrop a De America.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys perfformio am y tro cyntaf gyda’r gerddorfa heno, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, y Royal Northern Sinfonia a cherddorfeydd Siambr Genefa a Fribourg, yn ogystal â dychwelyd at gerddorfeydd Symffoni Tenerife a Radio Slofenia.
Ochr yn ochr â repertoire safonol mae ganddi ddiddordeb arbennig hefyd mewn cerddoriaeth gyfoes ac mae wedi arwain nifer o berfformiadau cyntaf, gan gynnwys Gefährliche Operette Gordon Kampe ar gyfer y Ruhrtriennale a’r perfformiad cyntaf yng Ngogledd America o Goncerto i’r Obo Syr James MacMillan gyda Nigel Shore. Mae ei gweithiau diweddar yn cynnwys perfformiadau ar y cyd â Klangforum Wien, Ensemble Musikfabrik, Ensemble Resonanz, Ensemble Ascolta ac ensemble unitedberlin, a’r tymor hwn bydd yn perfformio am y tro cyntaf gydag Ensemble Modern yng Ngŵyl Gerddoriaeth Berlin.
Mae hi hefyd yn mwynhau gweithio gydag ensembles ieuenctid ledled y byd a’u hyfforddi; bu’n aelod o banel Cystadleuaeth Besançon yn 2017 a 2019 ac am bum mlynedd bu’n athro gwadd ym maes arwain ym Mhrifysgol y Celfyddydau, Berlin.
Carolin Widmann ffidil

Lun: Lennard Rühle
Lun: Lennard Rühle
Mae gweithgareddau Carolin Widmann yn cynnwys y prif goncertos clasurol, comisiynau newydd, datganiadau fel unawdydd, amrywiaeth eang o gerddoriaeth siambr a pherfformiadau offerynnau cyfnod.
Mae ei gwobrau niferus yn cynnwys Gwobr Talaith Bafaria am gerddoriaeth yn 2017.
Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformio am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Ffilharmonig Los Angeles o dan Esa-Pekka Salonen a Cherddorfa Siambr yr Alban o dan Maxim Emelyanychev, yn ogystal â pherfformio’i drama am y tro cyntaf yn Efrog Newydd/cyfarwyddo Cerddorfa Siambr Orpheus. Dychwelodd hefyd at Gerddorfa Symffoni Radio Fienna a Cherddorfa Symffoni WDR Cologne.
Y tymor hwn mae hi’n ymddangos gyda cherddorfeydd Ffilharmonig Dresden a Munich, Deutsches Symphonie-Orchester Berlin, Orchestre Philharmonique de Radio France, Cerddorfa Insula, Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Rwsia ac yn mynd ar daith o amgylch yr Eidal gyda’r pianydd Dénes Várjon. Y mis diwethaf perfformiodd goncerto newydd Georg Friedrich Haas am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Siambr Basle.
Mae hi wedi gweithio gyda rhestr nodedig o arweinwyr, gan gynnwys Riccardo Chailly, Pablo Heras-Casado, Marek Janowski, Vladimir Jurowski, Syr Roger Norrington a Syr Simon Rattle.
Ers 2006, mae wedi bod yn gweithio fel athro ffidil ym Mhrifysgol Cerddoriaeth a Theatr Leipzi
Mark Lewis Jones llefarydd

Mae’r actor adnabyddus, Mark Lewis Jones, yn enwog am ei rolau teledu yn Stella, National Treasure a Keeping Faith, yn ogystal ag ymddangosiadau yn ffilmiau Hollywood gan gynnwys Star Wars: The Last Jedi, Queen of the Desert a Gwen dan gyfarwyddyd William McGregor.
Yn 2016 enillodd Wobr BAFTA Cymru am yr Actor Gorau am ei waith yn y ffilm The Passing/Yr Ymadawiad cyn cael ei enwebu yn yr un categori’r flwyddyn ganlynol am ei rôl yn The Lighthouse, dan gyfarwyddyd Chris Crow.
Yn 2019 ymddangosodd yn Carnival Row a The Crown (Netflix), Chernobyl (HBO) a The Device (ITV), yn ogystal ag yn y ffilmiau Apostle a The Good Liar.
Yn fwyaf diweddar, mae wedi ymddangos yn Gangs of London a Third Day (Sky) a The Pact (BBC).
Bydd hefyd yn ymddangos yn Munich: The Edge of War, dan gyfarwyddyd Christian Schwohow, a Phantom of the Open, dan gyfarwyddyd Craig Roberts a gaiff eu rhyddhau’n fuan. Bydd hefyd yn serennu yn y gyfres newydd o Outlander, gan chwarae’r cymeriad, Tom Christie.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae’r gerddorfa yn llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes.
Mae’r gerddorfa’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales.
Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.
Yn ystod y cyfyngiadau symud diweddar, mae BBC NOW wedi parhau i recordio a ffilmio y tu ôl i ddrysau caeedig yn Neuadd Hoddinott y BBC ac mae wedi cynhyrchu fideos, traciau sain a chyngherddau digidol wythnosol sydd wedi cael eu gweld gan 14 miliwn o bobl ar draws y byd, gan gynnwys fideo hynod boblogaidd o drac sain Doctor Who. Mae’r cynlluniau ar gyfer y gerddorfa’n cynnwys cyngherddau a digwyddiadau sy’n cael eu ffrydio’n fyw, teithiau i wahanol gymunedau ledled Cymru a chynlluniau addysg a datblygu cymunedol i gynnwys pawb yn y gwaith o greu cerddoriaeth. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield Blaenwr
Nick Whiting + ** Blaenwr Cyswllt
Martin Gwilym-Jones †
Terry Porteus
Anna Cleworth
Carmel Barber
Gary George-Veale
Zanete Uskane
Judith Choi Castro
Georgina Leo
Anna Szabo
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Jane Sinclair #
Beverley Wescott **
Joseph Williams
Michael Topping
Sellena Leony
Vickie Ringguth
Elizabeth Whittam
Fiolâu
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Ania Leadbeater
Laura Sinnerton
Robert Gibbons
Daire Roberts
Sharada Mack
Soddgrythau
Robert Max ‡
Jessica Feaver **
Sandy Bartai
Alistair Howes
Kathryn Graham
Nick Gethin
Basau Dwbl
Colin Paris ‡
Ben Du Toit
Richard Gibbons
David F. C. Johnson
Ffliwt
Matthew Featherstone *
Ffliwt/Ffliwt Alto
John Hall
Ffliwt/Piccolo
Lindsey Ellis †
Oboau
Amy Roberts ‡
Eric Wolfe-Gordon
Obo/Cor Anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †
Clarinét
Matthew Glendenning ‡
Clarinét/Clarinét E meddalnod
Will Knight
Clarinét/Clarinét bas
Alison Lambert
Baswnau
Gareth Humphreys ‡
Joanna Shewan
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Neil Shewan †
Meilyr Hughes
John Davy
William Haskins
Utgyrn
Andy Everton
Rob Johnston
Sian Davis
Trombonau
Donal Bannister*
Ruth Molins
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden † **
Timpani
Rhys Matthews
Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Christina Slominska
Y Delyn
Valerie Aldrich- Smith †
Piano/Celesta
Catherine Roe Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-rediadau Kevin Myers
Gweinyddwr y Gerddorfa Rhonwen Jones **
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorth-wyydd Darlledu Emily Preston **
Pennaeth Marchnata a Chynulleid-faoedd Sassy Hicks
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +, Caroline Richards **
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey
Rheolwr y Corws a Chydlynydd Allgymorth Osian Rowlands **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

