Mannau Clywed

Nos Wener 17/2/23, 7.30pm

Maurice Ravel, trefn. Percy Grainger
Miroirs – ‘La vallée des cloches’ 6’

Steve Reich
City Life 24’

EGWYL: 20 munud

George Gershwin
Second Rhapsody 15’

Colin Riley
Hearing Places première bydc30’

Freddy Kempf piano
Matthew Cooreyarweinydd

Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol yn Afternoon Concert a’r New Music Show. Bydd ar gael i’w ffrydio neu ei lawrlwytho am 30 diwrnod trwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chymysgeddau cerddoriaeth. Ewch i bbc.co.uk/now am ragor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.

Croeso

Matthew Wood

Croeso i’r cyngerdd heno, lle bydd yr arweinydd o Awstralia, Matthew Coorey, yn ymuno â BBC NOW. 

Mae ein rhaglen yn archwiliad diddorol o gerddoriaeth sy’n cael ei hysbrydoli gan y byd o’n cwmpas. Yn achos City Life gan Steve Reich a’r Second Rhapsody gan Gershwin, dwndwr Efrog Newydd sy’n darparu’r man cychwyn ar gyfer cerddoriaeth sydd, yn ei thro, yn llawn egni ac yn afieithus o groch.

I Ravel, sain clychau a ysbrydolodd y darn olaf yn ei gyfres i’r piano o’r enw Miroirs. Ac er bod y gwreiddiol yn atgofus iawn, gellir dadlau bod y fersiwn a glywir heno, wedi ei threfnu gan Percy Grainger, hyd yn oed yn fwy bywiog.

Mae ail ran y rhaglen yn cynnwys y perfformiad cyntaf erioed o Hearing Places gan Colin Riley, lle mae’r cyfansoddwr yn defnyddio recordiadau maes o leoliadau sy’n amrywio o weithiau dur i nentydd, ac sy’n ’ceisio cyfleu natur fregus a grym enfawr ein byd’.

Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Maurice Ravel (1875–1937) trefn. Percy Grainger (1882–1961)

Miroirs (1904–5) ‘La vallée des cloches (trefn. 1944)

Nid ydym yn gwybod yn sicr a gafodd ‘La vallée des cloches’ (symudiad olaf y gyfres unawd ar y piano Miroirs) ei ysbrydoli’n uniongyrchol gan gerddoriaeth gamelan Java a glywodd Ravel yn yr Universal Exposition ym Mharis yn 1889, ond mae’r darn yn sicr yn rhoi lle arbennig i synau clychau. Maent yn cael eu clywed mewn gwahanol liwiau, gyda’u hunaniaethau rhythmig neu alawol unigol yn canu ar yr un pryd mewn ensemble sy’n ymddangos fel pe bai’n digwydd ar hap.

Yn achos Percy Grainger, sy’n frwd dros y gamelan a’r hyn a alwodd yn ‘sain offerynnau taro persain [h.y. wedi tiwnio]’, roedd yn gyfle rhy dda i’w wrthod. Roedd eisoes wedi cymryd darn piano Debussy ‘Pagodes’ (o Estampes) a’i adfer i’w wreiddiau gyda’r gamelan mewn trefniant ar gyfer offerynnau taro yn 1928 ac erbyn 1944, aeth ati i berfformio llawer o’r un gwasanaeth ar gyfer ‘La vallée des cloches’. 

Mae Grainger yn dechrau drwy ddyrannu offeryn cloch neu debyg i gloch (fel celesta, marimba, fibraffon, cloch diwbaidd) i bob un o’r pum haen o wead Ravel. Beth bynnag yw gwerth ychwanegol lliwiau seiniau ac atseiniau Grainger yma, maent yn mynd y tu hwnt i’r rhain yn yr adran ganol, lle mae’r ffidlau a’r fiolas – ar gefndir o synau clychau parhaus – yn codi ac yn cynnal, mewn modd na all piano ei wneud, un o alawon mwyaf tanbaid a mwyaf estynedig Ravel. 

Nodyn y rhaglen © Gerald Larner
Gwrando Pellach: Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham/Syr Simon Rattle (Warner Classics 9029517356)
Darllen Pellach: Ravel Roger Nichols (Yale UP)

Steve Reich (ganed 1936)

City Life (1995)

1  Check it out
2  Pile driver/alarms
3  It’s been a honeymoon – Can’t take no mo’
4 Heartbeats/boats and buoys
5 Heavy smoke

Mae cerddoriaeth Reich yn anwahanadwy o ddinas ei eni a lle bu’n byw am y rhan fwyaf o’i fywyd – o dempo cyflym cerbydau a cherddwyr i’w chymysgedd o draddodiadau a’i grid o flociau. City Life, a gwblhawyd ganddo yn 1995, yw ei bortread annwyl a difyr o Efrog Newydd, ond sydd hefyd yn dywyll ar brydiau.

Mae’r gwaith yn dod â seiniau’r ddinas i mewn i’r neuadd gyngerdd drwy gyfrwng recordiadau i’w chwarae gan ddau berfformiwr drwy samplwyr allweddellau. Drwy hynny, gellir cyflwyno darnau o iaith, synau traffig, clychau tanlwybr, curiadau’r galon a seirenau i wead y gerddorfa ochr yn ochr â ffigurau ar y piano, llinynnau neu chwythbrennau, a gall y ddau fath o sain – wedi ei recordio a sain offerynnol – fwynhau’r un math o hyblygrwydd rhythmig.

O’r pum symudiad, mae’r ail a’r pedwerydd yn araf, nid ydynt yn cynnwys unrhyw siarad ac maent yn cynnwys cefndir rhythmig rheolaidd, sy’n awgrymu curiad calon yn yr ail symudiad ac yna’n ffurfio hynny yn y pedwerydd symudiad. I’r gwrthwyneb, mae’r symudiad canol yn dechrau fel deuawd ar lafar ac mae sŵn siarad drwy’r cyfan, wedi ei ddynwared a’i ddatblygu gan yr offerynnau. Yn yr un modd ag It’s Gonna Rain, ei gyfansoddiad cynharaf a grëwyd 30 mlynedd yn gynharach, daeth Reich o hyd i’w ddeunydd mewn cynulliad awyr agored o Americanwyr du – y tro hwn, rali wleidyddol ger Neuadd y Ddinas (nid nepell o’i fflat).

Mae’r symudiad cyntaf – o fewn llinyn emynaidd a allai fod yn deyrnged i weledigaeth flaenorol y gŵr o Efrog Newydd o gartref, sef Quiet City gan Copland – yn cael ei arwain gan werthwr ar y stryd yn galw: ‘Check it out!’ Mae technoleg yn caniatáu i alaw lafar y dyn newid ei chywair. Mae’r diweddglo eto’n cynnwys geiriau ysbeidiol, ond mae’r awyrgylch yn wahanol iawn. Yma, manteisiodd Reich ar gyfathrebu maes yr Adran Dân ar adeg yr ymgyrch fomio aneffeithiol yng Nghanolfan Fasnach y Byd yn 1993, ac mae’n rhaid clustfeinio i glywed y lleisiau drwy amrywiaeth o synau a recordiwyd gan offerynwyr.

Mae’n ymddangos bod cyfuniad mor bersonol o ddarnau o siarad gyda llinellau offerynnol yn ateb ysgogiad mynegiannol i ddelio ar unwaith â gwiredd y ddinas a’i chwedl. Mae City Life, a gomisiynwyd gan gonsortiwm o ensembles Ewropeaidd, gan gynnwys Sinfonietta Llundain, wedi ei anelu at gynulleidfa sy’n gyfarwydd ag Efrog Newydd o bell – pellter drwy gyfrwng ffilmiau, nofelau, barddoniaeth a cherddoriaeth arall. Ar yr un pryd, mae’n cynnwys ymylon lletchwith y real, y mae rhai ohonynt bellach yn ymddangos mewn goleuni gwahanol i’r hyn a wnaethant yn 1995.

Nodyn y rhaglen © Paul Griffiths
Gwrando Pellach: The Steve Reich Ensemble/Steve Reich (Nonesuch 0349709176)
Darllen Pellach: Writings on Music, 1965–2000 Steve Reich (OUP)
Gwefan: https://stevereich.com

INTERVAL: 20 minutes

George Gershwin (1898–1937)

Second Rhapsody (1931)

Freddy Kempf piano

Os nad oeddech chi’n gwybod bod George Gershwin wedi dilyn ei Rhapsody in Blue enwog gyda’i Second Rhapsody – wel, rydych chi ymhell o fod ar eich pen eich hun. O’i gymharu â’i ragflaenydd ffraeth, llawn jazz a hynod boblogaidd, yn anaml iawn mae Second Rhapsody Gershwin yn cael ei berfformio – ac mae’n bosibl bod cymariaethau â’r darn cynharach hwnnw ar fai i raddau helaeth. Mae’n waith tra gwahanol, yn dywyllach ac yn llawn dwysedd mynegiannol mwy beiddgar, tra’i fod yn parhau â’r cyfuniadau hyfryd sydd yn Rhapsody in Blue o gyffyrddiadau jazz a ffurfiau clasurol. Yn wir, fe wnaeth Gershwin fabwysiadu’r teitl Second Rhapsody fel dewis arall mwy addas, efallai, na’r enw gwreiddiol ar gyfer y darn, sef yr enw annhebygol Rhapsody in Rivets.

Mae’r rhybedau dan sylw yn cael eu gyrru i drawstiau metel wrth adeiladu tyrrau uchel Efrog Newydd, mewn dilyniant estynedig tebyg i freuddwydion yn y ffilm Delicious a ryddhawyd yn 1931. Roedd George a’i frawd, Ira Gershwin, wedi cael eu gwysio i Hollywood y flwyddyn flaenorol i ysgrifennu caneuon ar gyfer y ffilm gomedi ramantaidd, ac roedd gan y cyfarwyddwr David Butler gais ychwanegol: darn offerynnol hirach a fyddai’n gyfeiliant i arwres y ffilm, a chwaraewyd gan Janet Gaynor, wrth iddi grwydro o gwmpas adeiladwaith uchel Manhattan. 

Roedd Gershwin wrth ei fodd gyda’r cyfle i ddangos ei ddawn gerddorol mewn gwaith ar raddfa fwy, er mai dim ond chwe munud o’i ddarn a ymddangosodd yn fersiwn derfynol y ffilm. Roedd wastad wedi bwriadu iddo gael bywyd ychwanegol mewn cyngherddau, fodd bynnag, a chafodd ei berfformio am y tro cyntaf yn fyw ym mis Ionawr 1932 gan Gerddorfa Symffoni Boston o dan Serge Koussevitzy, gyda Gershwin ei hun wrth y piano – ac ar gyfer yr achlysur hwn yr ailenwodd y darn, ar ôl ystyried sawl dewis, i fod yn Second Rhapsody, a oedd o bosibl yn enw mwy addas ar gyfer cyngherddau.

Fodd bynnag, mae rhybedau enw gwreiddiol y Rhapsody yn amlwg i’w clywed yn y thema barhaol, ailadroddus y mae’r unawd ar y piano yn ei chyflwyno ar y dechrau, ac sy’n mynd ymlaen i dra-arglwyddiaethu ar adran agoriadol a chyflym y darn, ynghyd ag alaw Ladinaidd, sionc ar y trwmped. Ar ôl interliwd arafach yn y canol sy’n seiliedig ar alaw blues sy’n cael ei chlywed am y tro cyntaf yn y ffidlau, mae Gershwin yn cyfuno ei themâu yn ei adran olaf gryfhaol – gan godi ei het i ragflaenydd enwog y Second Rhapsody yn ei eiliadau olaf.

Nodyn y rhaglen © David Kettle
Gwrando Pellach: Freddy Kempf; Cerddorfa Ffilharmonig Bergen/Andrew Litton (BIS BISSACD1940)
Darllen Pellach: George Gershwin Rodney Greenberg (Phaidon)

Colin Riley (ganed 1963)

Hearing Places (2022–3)

première byd

1  Steel and Steam
2 Wind Rattle
3 Pale Rain with Birds
4 Out of the Machinery
5 Water Songs
6 Hive
7 Winter Sunrise

Yn fy nghyfres saith symudiad, Hearing Places, rydw i’n anelu at fath newydd o brofiad symffonig, un sy’n cynnwys gwrando drwy drochi, a ffordd o rannu drwy sylwi ar synau sy’n aml yn y cefndir, ond sy’n hynod o hyfryd. Nod y gerddoriaeth yw cyfleu pa mor fregus ac enfawr yw ein byd, a dangos yn syml beth rydyn ni’n mynd i’w golli yn yr argyfwng amgylcheddol rydyn ni’n ei wynebu ar hyn o bryd. Rwy’n gobeithio, drwy sylwi ar ein hamgylchedd, y gallwn ni ddechrau gwerthfawrogi ein byd yn well. Cyfeirir at elfennau naturiol yn aml yn y gerddoriaeth (tywydd, amseroedd o’r dydd, ffenomena naturiol a’r tymhorau sy’n newid), yn ogystal ag ôl y ddynolryw ar ein byd (peiriannau, cerbydau, creu patrymau, sgyrsiau). 

Mae Hearing Places yn dathlu’r patrymau sain a gweledol cyfoethog sydd o’n cwmpas; rwyf wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn teithio i bob cwr o Gymru yn casglu recordiadau maes a chlipiau fideo o lefydd diddorol sydd wedi tanio fy nychymyg. Y blociau adeiladu bach hyn o ran traw, rhythm a phatrwm oedd y deunyddiau ar gyfer creu’r gerddoriaeth ei hun. Weithiau cymerais ymateb emosiynol naturiol o ran hwyliau a theimlad, tra bod fy null yn fwy fforensig ar adegau eraill. Mae’r sain yn rhan o wead y gerddorfa, wedi ei wau’n wahanol ym mhob symudiad, ac mae’n cael ei ‘chwarae’ o’r gerddorfa gan y chwaraewr allweddellau. Yn yr un modd, mae’r clipiau fideo yn haen testunol ychwanegol ar gyfer y gynulleidfa, ac yn debyg iawn cânt eu sbarduno gan yr allweddell mewn ffyrdd gwahanol. Weithiau mae modd gwybod lle sydd dan sylw, ond yn aml iawn mae’n dal i fod yn haniaethol ac yn ddirgel. 

1 Steel and Steam
Mae mawredd y strwythur diwydiannol enfawr hwn gyda’r awyr yn y cefndir yn un elfen o’r gerddoriaeth. Mae cymylau stêm cyfnewidiol sy’n cael eu rhyddhau o’r simneiau yn ffurfio’r llall. Mae’r darn hwn yn gyfuniad o’r ddwy elfen hyn: mae popeth yn tyfu’n rhyfeddol o ddwndwr isel y ffatri, wedi ei ddal yng ngolau’r nos sy’n pylu. Cafodd y recordio yn y maes a’r fideo eu gwneud yng ngwaith dur Port Talbot, Gorllewin Morgannwg (Awst 2022).

2 Wind Rattle
Mae atsain a chlecian y cychod sydd wedi eu hangori mewn harbwr yn sain sydd wedi fy nghyfareddu ers cryn amser. Mae’r rhythmau’n rhai meddwol ac eto’n digwydd ar hap. Bydd y seiniau hyn wedi cael eu clywed dros y canrifoedd ac maent yn cynrychioli ymyriad barddol gan bobl yn y dirwedd – y tywydd a thechnoleg mewn math o briodas gerddorol, os mynnwch chi. Gwnaed y recordiad maes a’r fideo yn Harbwr Porthmadog, Gwynedd (Tachwedd 2022).

3 Pale Rain with Birds
Ar brynhawn gwlyb, ymwelais â chwt ysgrifennu Dylan Thomas yn Nhalacharn, sy’n edrych i lawr ar banorama newidiol aber afon Taf. Mae aber yn bwynt o fynd a dod cyson – llanw, cynulliadau o adar a thywydd. Yn ‘Poem in October’, mae Thomas yn disgrifio synau pruddglwyfus yr harbwr a’r coed cyfagos; synau gwylanod, ydfrain, adar du ac ehedyddion. ‘Pale rain over the dwindling harbour and over the sea wet church’. Cymerais fy nheitl o linell o’r gerdd hon gan ei bod yn ymddangos fel rhyw fath o deitl ar gyfer llun: mae’r symudiad hwn fel llun sy’n symud yn araf. Cafodd y recordiad maes a’r fideo eu gwneud yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin (Awst 2022).

4 Out of the Machinery
Yma, mae’r gerddorfa gyfan yn dod yn adran rhythm enfawr, a thrwy bedair adran o rigolau wedi eu plethu, mae’r gerddoriaeth yn datblygu, gan ffurfio gweadau wedi eu gwau’n fwyfwy tynn a’u bywiogi. Roedd hi’n bwysig fy mod i’n tynnu peirianwaith cymhleth y felin wlân yn ddarnau, gyda’i wenoliaid, ei gogau a’i olwynion, yn flociau unigol bach o Lego sain. O’r fan hon, gallwn wedyn ailadeiladu’r peiriant yn fersiwn wedi ei ailddychmygu ohono’i hun. Yn yr un modd, mae delweddau fideo bach o’r mecanweithiau wedi eu plethu’n chwareus i ffurfio cydran weledol ffynci. Cafodd y recordiad maes a’r fideo eu gwneud yn y Felin Wlân yn Solfach, Sir Benfro (Awst 2022).

5 Water Songs
Os ydych chi’n eistedd yn dawel o fewn natur, yn raddol mae’n dod atoch chi. Mae’r manylion yn mynd yn fwy acíwt ac mae’n ymddangos eich bod chi’n amsugno pob math o olygfeydd, synau, arogleuon a theimladau. Mae sŵn ffrwd wedi bod yn ysbrydoliaeth i lawer o gyfansoddwyr dros ganrifoedd. Mae’r myfyrdod cerddorol hwn yn tynnu sylw at yr alawon bach cudd sy’n ailadrodd y gallwch eu clywed yn aml y tu mewn i sŵn y diferu a’r chwyrlïo os ydych chi’n rhoi’r amser i wrando. Gwnaed y recordiad maes a’r fideo ym Mannau Brycheiniog, Powys (Awst 2022). 

6 Hive
Ar ôl ychydig funudau’n sefyll mewn man prysur lle mae’r cyfan o’ch cwmpas yn symud ac yn brysur, rydych chi rywsut yn ymgolli yn y lle. Mae eich llonyddwch eich hun yn cael ei bwysleisio gan yr ‘ymdeimlad o brysurdeb’ o’ch cwmpas. Roeddwn yn ffodus o gael y cyfle i edrych i lawr ar y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd o le uchel. Datgelodd hyn i mi system grid y sgwâr, gan gynyddu’r synnwyr bod y rhai sy’n cerdded ar ei draws mewn rhyw fath o gêm o lwybrau, olion a gwrthdrawiadau. Mae’n hap-ddigwyddiad hyfryd, ac mae’r cysylltiad rhyngom ni i gyd yno bob dydd o’r wythnos os ydyn ni’n dymuno sylwi arno. Mae recordiadau o sgyrsiau bob dydd yn cyd-fynd â synau beiciau, sglefrfyrddau, dril safle adeiladu a chyrn ceir yn creu llun sain o ganol Caerdydd. Cafodd y recordiad maes a’r fideo eu gwneud yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd (Hydref 2022).

7 Winter Sunrise
Mae rhywbeth am sŵn adar a chlychau sydd â chyseinedd emosiynol dwfn i ni. Yn eu ffyrdd gwahanol iawn, maent yn cydio mewn prudd-der dwfn, ond maent hefyd yn llawn ymdeimlad o obaith. Mae’r symudiad olaf hwn yn dod â’r ddwy elfen hyn at ei gilydd mewn taith o lonyddwch tywyll i dywalltiad nerthol o oleuni a llawenydd. Yn yr un modd â llawer o’r darnau sy’n ffurfio’r gyfres hon, mae’r gerddoriaeth yn cael ei thrawsffurfio o’r bach i’r mawr, gan adlewyrchu rhywfaint o’n llonyddwch hyfryd mewn amser a gofod. Gwnaethpwyd y recordiad maes a’r fideo yn Eglwys Sant Mwrog, Llanfwrog ac Eglwys San Pedr, Rhuthun, Sir Ddinbych (Rhagfyr 2022).

Diolch i:

Jeevan Rai am ddylunio/rhaglennu’r clytwaith allweddellau ac am ei waith prosesu a thrin sonig ychwanegol.

Anna Grime am ganiatáu recordio a ffilmio yn Melin Wlân Solfach.

Peter Furniss am fy arwain i fyny tyrrau clychau Rhuthun.

Cymdeithas Clochyddion Eglwysig Gogledd Cymru am eu cefnogaeth a’u gwybodaeth.

Yusef Bastawy o BBC NOW am ffilmio gyda mi yn Sgwâr Canolog Caerdydd. 

Nodyn y rhaglen © Colin Riley
Gwefan: www.colinriley.co.uk

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?

Bywgraffiadau

Matthew Coorey arweinydd

Matthew Coorey

Lun: Benjamin Ealovega

Lun: Benjamin Ealovega

Dechreuodd Matthew Coorey ar ei yrfa fel arweinydd yn 2003 pan gafodd ei benodi’n Arweinydd Cynorthwyol Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, ac yna daeth yn Arweinydd Preswyl cyntaf RLPO.

Yn fuan wedyn, daeth ymddangosiadau gyda Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, Cerddorfa Symffoni Sydney, Philharmonia, yr Hallé, Ensemble 10:10 a London Mozart Players.

Mae ei uchafbwyntiau diweddaraf yn cynnwys ymddangosiadau am y tro cyntaf gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Radio Genedlaethol Gwlad Pwyl, cerddorfeydd Symffoni Adelaide, Antalya, Darwin a Radio Slofenia a Philharmonia Auckland ac ymddangosiad yng Ngŵyl Gerddoriaeth Gyfoes Llundain. 

Mae ei ddiddordebau artistig eang wedi arwain at gydweithio â Rosas Dance Company ac Ensemble Ictus; bandiau roc, gan gynnwys The New Puritans ac Efterklang; a Wynton Marsalis a Cherddorfa Jazz Canolfan Lincoln.

Mae wedi cydweithio ag artistiaid fel Sarah Chang, Freddy Kempf, Steven Osborne, Yevgeny Sudbin, y brodyr Jussen, Roderick Williams, Emma Matthews, Olena Tokar a Pieter Wispelwey.

Mae ganddo ymrwymiad cryf i feithrin cerddorion iau ac mae’n gweithio’n rheolaidd yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr. Mae hefyd wedi arwain cerddorfeydd y Coleg Cerdd Brenhinol a’r Trinity-Laban yn Llundain a’r Felix Mendelssohn Hochschule yn Leipzig. 

Dechreuodd ei yrfa fel chwaraewr corn ac, ar ôl astudio yn Ysgol Gerdd Sydney, perfformiodd yn rheolaidd gyda Cherddorfa Siambr Awstralia, Cerddorfa Brandenburg a cherddorfeydd Symffoni Sydney a Tasmania.

I ddechrau, dysgodd ei hunan i fod yn arweinydd, yna cafodd glyweliad gan Seiji Ozawa a chafodd ei wahodd i Ŵyl Gerddoriaeth Tanglewood, lle bu’n gweithio gyda Jorma Panula, a ddaeth yn brif athro arwain arno. Astudiodd hefyd gyda David Zinman.


Freddy Kempf piano

Freddy Kempf

Mae Freddy Kempf yn un o bianyddion mwyaf poblogaidd heddiw, gyda repertoire anarferol o eang.

Mae wedi cydweithio ag arweinwyr blaenllaw, gan gynnwys Alain Altinoglu, Vladimir Ashkenazy, Riccardo Chailly, Thomas Dausgaard, Charles Dutoit, Sakari Oramo, Vasily Petrenko, Kurt Sanderling, Wolfgang Sawallisch a Yuri Temirkanov; mae wedi gweithio gyda rhai o ensembles mwyaf enwog y byd, gan gynnwys cerddorfeydd Ffilharmonig Bergen, Buenos Aires, Dresden, La Scala, y Royal a Ffilharmonig St Petersburg, cerddorfeydd Symffoni Dinas Birmingham, Gothenburg, Gwladwriaethol Moscow, NHK a San Fransisco, Cerddorfa Philadelphia a Cherddorfa Zurich Tonhalle.

Mae ei uchafbwyntiau diweddar a chyfredol yn cynnwys ei ymddangosiad cyntaf yn Proms y BBC; teithiau i Dde Korea, Singapore a Japan; ymddangosiadau yng ngwyliau Malta, Siambr Pharos, Buxton a King’s Lynn a chyngherddau gyda cherddorfeydd Ffilharmonig Armenia a Regentburg a Cherddorfa Jazz Genedlaethol yr Alban, a dychwelyd at Gerddorfa Ffilharmonig Armenia. 

Fel datgeiniad, mae wedi ymddangos mewn nifer o brif neuaddau cyngerdd y byd, gan gynnwys Neuadd Fawr y Conservatoire ym Moscow, Konzerthaus Berlin, Sala Verdi yn Milan, Concertgebouw Amsterdam, Neuadd Cadogan a Neuadd Barbican yn Llundain, Neuadd Bridgewater ym Manceinion, Tŷ Opera Sydney a Neuadd Suntory yn Tokyo. 

Mae’n artist recordio toreithiog ac ymhlith y gweithiau a ryddhawyd yn ddiweddar mae sonatas Prokofiev i’r piano.

Cafodd ei eni yn Llundain a pherfformiodd goncerto am y tro cyntaf gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol yn 8 oed; daeth i amlygrwydd cenedlaethol yn 1992 pan enillodd gystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, pan oedd yn 14 oed.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes. 

Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu. 

Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.

Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Shana Douglas
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Anna Cleworth
Juan Gonzales
Anthony Wing Poon
Aliayta Foon-Dancoes
Paul Mann
Gary George-Veale
 
Ail Ffidlau 
Anna Smith *
Ruth Heney
Ros Butler
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Beverley Wescott
Sellena Leony
Lydia Caines
Elizabeth Whittam

Fiolâu
Rebecca Jones *
Peter Taylor
Tom Congdon
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Robert Gibbons
Natalia Solis Paredes
Amir Liberson

Soddgrythau 
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Jessica Feaver
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Sarah Berger

Basau Dwbl
David Stark *
Christopher Wescott
Nathan Night

Ffliwtiau
John Hall
Charlotte Thomas
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean
Sarah-Jayne Porsmoguer

Cor Anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †

Clarinetau 
Nick Carpenter
Will White
Lenny Sayers

Clarinét Bas 
Lenny Sayers †

Baswnau 
Guylaine Eckersley
Jo Shewan
David Buckland

Isfasŵn 
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Dave Ransom
John Davy

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Holly Clark

Trombonau
Donal Bannister *
Karapet Harutyunyan

Trombôn Bas 
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden †

Timpani
Rhys Matthews

Offerynnau Taro 
Chris Stock *
Phil Girling
Phil Hughes
Andrea Porter
Christina Slominska

Y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †

Bysellfwrdd
Clive Williamson
Catherine Roe Williams
Chris Williams
Dawn Hardwick

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James **
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-rediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlledu Jacob Perkins 
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks +
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
Prentisiaid Bbc Cymru Josh Gill, Analese Thomas-Strachan, Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications